Pysgota traddodiadol ar yr Afon Hafren 25 Medi 2007 Y rhwyd lâf. Pysgotwyr Rhwydi Lâf Y Garrreg Ddu, gerllaw'r ail bont ar draws afon Hafren. O'r chwith i'r dde: Bob Leonard, Richard Morgan a Martin Morgan. Mae'r dull hynafol hwn o bysgota yn parhau ar hyd glannau afon Hafren. Mae dyfroedd Môr Hafren gyda'r peryclaf yng Nghymru ond nid yw hyn wedi rhwystro cenedlaethau o bysgotwyr rhag pysgota am eogiaid yn ei dyfroedd cyforiog o bysgod. Mae'r dulliau Cymreig traddodiadol o ddal y pysgod yn dal i fod yn fyw iawn yn yr ardal. O fewn cof, defnyddid amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys rhesi o drapiau ar ffurf cewyll (putchers), cychod aros, putts, rhwydi drifft a rhwydi lâf. Gwaetha'r modd, dim ond y dull olaf sydd wedi goroesi hyd yr unfed ganrif ar hugain. Mae nifer y pysgotwyr lâf wedi lleihau dros y blynyddoedd ac erbyn hyn dim ond yng nghyffiniau'r ail bont dros afon Hafren, heb fod yn bell o bentrefi Sudbrook a Phorth Sgiwed (Sir Fynwy), y mae modd dod ar eu traws. Mae'r dynion hyn, aelodau o Gymdeithas Pysgotwyr Rhwydi Lâf y Garreg Ddu, yn cadw'n fyw draddodiad ac iddo arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol unigryw. Mae cadeirydd y Gymdeithas, Bob Leonard, wedi bod yn rhwydwr lâf ers 57 mlynedd ac mae'n egluro ei bod hi'n holl-bwysig eich bod yn pysgota dyfroedd y foryd "yng nghwmni dyn sy'n gyfarwydd â'r afon neu fel arall byddwch mewn sefyllfa beryglus iawn". Caiff y pysgod eu dal yn ystod llanw isel, gan ddefnyddio rhwyd a ddelir yn y llaw. Ar un adeg, caniateid pysgotwyr i bysgota o Chwefror i Awst ond ers hynny mae'r tymor wedi'i gyfyngu i'r cyfnod o Fehefin i Awst. Ar y mwyaf, gallant bysgota am awr a hanner ar y tro, yn dibynnu ar y tywydd. Mae'r pysgota'n dechrau, yn ôl yr arfer, wedi i'r pysgotwyr ymlwybro tua'r lan ger y Garreg Ddu. Yn aml, saif y pysgotwyr yn y mannau hynny lle yr arferai eu tadau a'u teidiau sefyll. Mae techneg sylfaenol pysgota â rhwyd lâf yn syml: mae'r pysgotwr yn dal coes y rhwyd ag un llaw a phen yr astell â'r llaw arall, tra bod y bysedd sy'n cydio'n sownd yng ngwaelod y rhwyd yn teimlo am y pysgod. Caiff y rhwyd ei gosod o flaen y pysgotwr, i wynebu llif y dŵr. Rhaid ystyried cyfeiriad y gwynt ac uchder y llanw, ac mae'r amodau ar eu gorau pan fo'r môr fel llyn llefrith. Nid yw glaw o anghenraid yn eu poeni. Fel yr eglura Bob Leonard, unwaith y maent yn eu lle, maent "yn craffu ar y dŵr am arwyddion diamau o bysgod". Maent yn synhwyro cryfder llif y dŵr a chaiff eu gobeithion eu codi gan symudiad sydyn yn y rhwyd. Pan synhwyrir symudiad pysgodyn mae'r pysgotwr yn camu'n ôl ac yn codi coes y rhwyd allan o'r dŵr. Unwaith y mae'r pysgodyn wedi'i ddal, caiff ei ladd â phastwn (neu'r priest yn Saesneg, gan mai offeiriad sy'n gyfrifol am yr eneiniad olaf!) a chaiff ei osod yn y cwch. Eir â'r eog tua'r lan ac yno caiff ei rannu'n gyfartal rhwng y rhwydwyr p'un ai a fuont yn pysgota neu beidio. Ar un adeg, nid oedd angen rhannu'r ddalfa oherwydd fod digon o eogiaid i bawb. Ond daeth tro ar fyd ac nid yw pysgota masnachol â'r rhwydi lâf wedi bod yn bosibl ers cyn yr Ail Ryfel Byd. Cyn 1939 cai'r pysgod eu hanfon i farchnad Billingsgate yn Llundain. Mae'r rhwydwyr lâf yr un mor fedrus â'u cyndeidiau ond o ganlyniad i'r lleihad yn nifer y pysgod maent yn fwy na hapus os llwyddant i ddal mwy na deg yn ystod y tymor. Maent yn pysgota er mwyn cadw eu crefft hynafol yn fyw, fel yr esbonia Martin Morgan, Ysgrifennydd y Gymdeithas, "Mae pysgota â rhwydi lâf yn draddodiad y gellir ei olrhain yn ôl dros fil o flynyddoedd yng Nghymru. Roedd fy hen dad-cu yn bysgotwr a throsglwyddodd ei sgiliau i'w ddisgynyddion". Darllen Cefndir Severn Tide gan Brian Waters. Cyhoeddwyd gan J.M. a'i Feibion Cyf. (1947). Nets and Coracles gan J. Geraint Jenkins. Cyhoeddwyd gan David and Charles (1974).
Dodrefn Bryn-mawr, 1929-40 23 Ebrill 2007 Arbrawf Bryn-mawr Cwpwrdd-cist Tal-y-bont a chadair freichiau Ynys-ddu a wnaed gan Gwmni Dodrefn Bryn-mawr. Pan ddaeth y Crynwyr i dref ddiwydiannol Bryn-mawr ddiwedd y 1920au, ychydig o bobl fyddai wedi credu y byddai'r ymweliad yn agor pennod newydd yn hanes cymdeithasol a chelfyddydol Cymru. Ymgais ar ran Cymdeithas y Cyfeillion i leddfu'r diweithdra oedd yn rhemp yn y dref yn y cyfnod oedd "Arbrawf Bryn-mawr". Y nod oedd sefydlu cwmni cydweithredol a fyddai'n cynnal projectau cymunedol a mentrau oedd yn cynnwys gwneud esgidiau a hosanau, cynhyrchu brethyn, a llunio dodrefn. Nid oedd traddodiad o wneud celfi ym Mryn-mawr cyn sefydlu'r fenter ac felly nid oedd unrhyw un o'r gweithwyr yn hyddysg yn y grefft. Dechreuodd gwaith y fenter ym 1929 wrth gyflogi deuddeg o ddynion lleol heb eu hyfforddi. Yn ddiweddarach, cafodd llanciau ifanc eu cyflogi a'u hyfforddi yn syth o'r ysgol. Yn ystod y blynyddoedd cynnar cefnogwyd y fenter yn bennaf gan gwmnïau llwyddiannus eraill oedd yn eiddo i Grynwyr - yr archeb gyntaf oedd am 400 o gadeiriau ar gyfer ysgol Grynwrol yng Nghaerefrog. Roedd pob cadair yn costio £1 (sef £41 neu $74 yn arian heddiw) ac aeth yr elw i brynu offer a pheiriannau newydd i'r cwmni. Paul Matt Poster hysbysebu Cwmni Dodrefn Bryn-mawr. Priodolwyd llwyddiant dodrefn Bryn-mawr yn bennaf i'w cynllunydd, Paul Matt. Bwrodd ei brentisiaeth dan ofal ei dad, saer dodrefn medrus, ond enillodd brofiad hefyd drwy weithio fel cynllunydd yn Llundain. Mae arddull syml dodrefn Bryn-mawr yn dangos yn gwbl glir y cafodd Matt ei ddylanwadu gan gelfi celfyddyd a chrefftau, a chynllunwyr fel Ambrose Heal a'r brodyr Russell. Bu Paul Matt hefyd yn gyfrifol am gynllunio dodrefn oedd yn gymharol syml eu gwneuthuriad; gwaith a roddai ystyriaeth i'r ffaith fod y rhan fwyaf o'r gweithwyr yn ddi-grefft yn y blynyddoedd cynnar. Gwnaed hyn drwy fabwysiadu dull o osod paneli laminedig o bren haenog mewn fframwaith solet o bren. Roedd yn defnyddio pren derw wedi'i fewnforio'n bennaf ac yn ei gaboli â haen o gwyr clir gan roi pryd a gwedd ddirodres a diaddurn i'r celfi, nodweddion oedd yn gydnaws ag athroniaeth y Crynwyr. Sgwâr Cavendish, Llundain Siop adrannol David Morgan a agorodd yng Nghaerdydd ym 1879. Bu'r siop yn gefn mawr i Gwmni Dodrefn Bryn-mawr rhwng 1932 a 1940. Ar ôl masnachu am gyfnod o 125 o flynyddoedd, gwerthwyd David Morgan Cyf. yn 2004. Yn ogystal â chynhyrchu dodrefn o'r ansawdd gorau, roedd y cwmni hefyd yn llwyddiannus wrth farchnata'r cynnyrch. Drwy ddefnyddio taflenni hysbysebu a chatalogau sgleiniog, pwysleisiwyd delfrydau dyngarol y cwmni, sef cynhyrchu celfi o'r ansawdd gorau o ran eu gwneuthuriad a'u cynllun, a darparu swyddi parhaol er budd y gymuned leol. Apeliodd y delfrydau hyn at ddosbarthiadau canol a phroffesiynol y 1930au megis athrawon felly aeth y cwmni ati i anelu ei gynnyrch at y garfan hon drwy geisio cadw pris y dodrefn o fewn eu cyrraedd. Gellid gweld dodrefn Bryn-mawr hefyd mewn arddangosfeydd a gynhaliwyd mewn siopau adrannol megis Browns yng Nghaer a siopau Lewis's yn Birmingham a Manceinion. Ym 1938 cafodd y cwmni gafael ar leoliad arddangos barhaol yn ardal ffasiynol Sgwâr Cavendish, Llundain. Agorwyd yr arddangosfa gan Mrs Neville Chamberlain a oedd hefyd yn un o noddwyr dodrefn Bryn-mawr. Er i'r cwmni brofi cryn lwyddiant yn Lloegr, roedd hefyd yn awyddus i hyrwyddo dodrefn Bryn-mawr yng Nghymru. Bu David Morgan Cyf., siop adrannol adnabyddus yng Nghaerdydd, yn gefn i'r cwmni o'r dyddiau cynnar, gan roi lle iddo arddangos y cynnyrch yn rhad ac am ddim rhwng 1932 a 1940. Bu'r cwmni hefyd yn cynnal arddangosfeydd blynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cyhoeddi deunydd hysbysebu yn y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, câi'r celfi eu marchnata fel rhai Cymreig a cawsant eu henwi ar ôl enwau lleoedd yng Nghymru, megis cist Cwmbrân, bord Llanelli, seld Talgarth a chadair Cwm-du. Sicrhaodd hyn gefnogaeth ffyddlon ymhlith cylchoedd proffesiynol ac academaidd Cymru drwy gydol y 1930au. Rhyfel Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938 o Ffatri Bryn-mawr. Ym 1936 ymadawodd Paul Matt â'r cwmni er mwyn trefnu gwaith arall ar gyfer y di-waith yn ne Cymru. Ei olynydd oedd ei gynorthwywr, Arthur Reynolds, a fu'n gyfrifol am rai newidiadau bach i'r cynlluniau ac am gynnwys mwy o gelfi pren cyll Ffrengig yn y casgliadau. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd ffatri hen waith Gwalia ei llosgi'n ulw a chodwyd adeilad newydd sbon gerllaw'r hen safle ym 1937. Er na chafodd hyn fawr o effaith ar y gwaith cynhyrchu, dirywiodd y gwerthiant yn araf ddiwedd y 1930au wrth i'r rhyfel agosáu. Wedi i'r rhyfel gychwyn roedd hi hefyd yn anodd mewnforio deunyddiau a gwaetha'r modd, yr unig ddewis oedd i gau ffatri Dodrefn Bryn-mawr ym 1940. Darllen Cefndir "Crafts and the Quakers" gan Gwen Lloyd Davies. Yn Planet, cyf. 51, tt.108-111 (Gorffennaf 1985). "Utopian designer: Paul Matt and the Brynmawr Experiment", gan Roger Smith. Yn Furniture History, cyf. 23, tt.88-94 (1987). "Philanthropic Furniture: Gregynog Hall, Powys" gan Lindsay Shen. Yn Furniture History, cyf. 31, tt.217-235 (1995).