: Amaethyddiaeth, Crefftau a Thrafnidiaeth

Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52

Elen Phillips, 2 Mawrth 2020

Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52

Casgliadau Arlein: Gorchudd gwely clytwaith

Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i dros 200 o gwiltiau a chlytwaith. Mae’r casgliad amrywiol a phwysig hwn yn cynnwys trawstoriad o gynlluniau a thechnegau, ac yn cynrychioli bron i 300 mlynedd o’r grefft yng Nghymru.

Un o uchafbwyntiau’r casgliad yw Cwilt y Teiliwr – gorchudd gwely clytwaith a wnaed gan James Williams, prif deiliwr milwrol o Wrecsam. Mae cynllun y cwilt yn brawf o ddawn greadigol y teiliwr, yn ogystal â’i werthfawrogiad o orchestion peirianegol ei ddydd. Yn y gornel uchaf ar y chwith, mae Pont Menai a gwblhawyd gan Thomas Telford ym 1826. Mae traphont Cefn ger Wrecsam yng nghanol y darn, a phagoda Tsieineaidd yn y gornel uchaf. Mae'r golygfeydd eraill y cynnwys themâu Beiblaidd – arch Noa, Jona a’r morfil, Cain yn lladd Abel, a'r ddelwedd ganolog o Adda yn enwi'r anifeiliaid.

Gwneir cwiltiau clytwaith yn aml drwy wnïo defnydd sydd dros ben, er enghraifft hen grysau neu siwtiau. Gwnaeth James Williams ei gwilt drwy ailgylchu sborion gwlân – defnydd lifrau milwrol mae’n debyg. Yn syfrdanol, mae'r cwilt cyfan yn cynnwys 4,525 o ddarnau mân, oll wedi'u gwnïo at ei gilydd o’r cefn gyda thrawsbwythau. Gelwir y math hwn o waith yn glytwaith mewnosod. Mae’n dechneg sy’n gofyn am fedr arbennig â’r nodwydd a brethyn sy’n ddigon trwchus i ddygymod â’r trawsbwythau. O ganlyniad, mae’r engreifftiau sydd i’w canfod mewn casgliadau amgueddfeydd yn dueddol o fod yn gysylltiedig â theilwriaid proffesiynol.

Yn ôl hanes teuluol, bu James Williams wrthi am ddegawd, rhwng 1842 a 1852, yn pwytho’r cwilt yn ystod ei oriau hamdden. Ymhen dim, daeth galw i’w arddangos yn gyhoeddus. Ym 1876 dangoswyd y cwilt mewn arddangosfa fawr o ‘drysorau celfyddyd’ (Art Treasures Exhibition) a gynhaliwyd yn Wrecsam i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach, ym 1925 bu’r cwilt ar arddangos yn Wembley, ac yn Wrecsam unwaith eto pan ddaeth yr Eisteddfod yn ôl i’r dref ym 1933.

Mae tystiolaeth o gyfrifiadau ardal Wrecsam yn dangos mai brodor o’r dref oedd James Williams. Fe’i ganed ym 1818 ac erbyn y 1850au roedd ganddo weithdy teilwra yn ei gartref yn College Street, ger Eglwys y Plwyf. Bu farw ym 1895 ac fe etifeddwyd y busnes gan ei fab. Ym 1935, daeth y cwilt i feddiant yr Amgueddfa drwy ei ŵyr, Richard Williams, a oedd hefyd yn deiliwr fel ei dad a’i daid. Meddai ar y pryd: “it has always been my wish that the quilt should be sent to [the] National Museum of Wales so as my fellow countrymen should have the opportunity to admire a work of art that today could not be done if you were to pay the most skilful craftsman £1 a minute to do”.

Y Gilbern – rhy dda i beidio gwneud mwy

Ian Smith, 30 Gorffennaf 2019

Mae'r enw Gilbern yn gwneud i chi feddwl yn syth am geir Cymreig. Rhwng 1959 a 1974, cafodd dros 1,000 o gerbydau eu cynhyrchu yn y ffatri yn Llanilltud Faerdref yng Nghwm Rhondda.

Gwaith Giles Smith a Bernard Friese oedd y c eir, a chyfuniad o'u henwau cyntaf yw Gilbern. Peiriannwr oedd Bernard a chigydd oedd Giles. Roedd Giles eisiau adeiladu ei gar ei hun, ac roedd gan Bernard brofiad o weithio gyda gwydr ffeibr felly gyda'i gilydd, crëwyd y Gilbern GT. Adeiladwyd y car cyntaf ym 1959 mewn sied tu ôl i siop y cigydd ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd.

Gwahoddwyd y gyrrwr rasio Peter Cotterell i weld y car, ac roedd yn dwlu arno'n syth. Penderfynwyd bod y car yn rhy dda i beidio gwneud mwy ac y dylid ffurfio cwmni i greu rhagor ohonynt. Daeth Cotterell yn berchennog ar sawl Gilbern GT, ac fe addasodd y ceir er mwyn eu rasio.

Daeth y darnau mecanyddol gwreiddiol o geir Austin ac Austin Healey, er i Cotterell osod sawl injan wahanol yn ei geir rasio, gan gynnwys MGA 1600 a MGB 1800. Roedd gan un car, a wnaed ar gyfer y rasiwr ken Wilson, injan Chevrolet 4.5 litr ac echel ôl annibynnol Jaguar!

Gilbern Invaders mewn rali perchnogion yn 2009

Gilbern Invaders mewn rali perchnogion yn 2009

Ym 1961, prynodd y ddau safle yn Llanilltud Faerdref a dechrau cynhyrchu ceir o ddifri. Dechreuwyd gydag un car y mis, ond erbyn 1965 roedden nhw'n cynhyrchu pedwar car y mis.

Ym 1966, cynhyrchwyd car newydd, y Gilbern Genie. Roedd y car yma'n fwy na'r GT bach chwim, ac yn addas i deulu. Roedd ganddo injan Ford V6 a digon o bŵer. Am gyfnod byr, cynhyrchwyd y GT 1800 a'r Genie ar yr un pryd ond ym 1967, rhoddwyd y gorau i hynny'n raddol fach.

Ni wnaeth y cwmni symiau mawr o arian erioed ond bu Giles a Bernard wrthi'n cadw pethau i fynd tan fis Ebrill 1968 pan werthwyd y cwmni i ACE Group, oedd â safle'n agos at ffatri Gilbern.

Gilbern GTs mewn rali perchnogion yn 2009

Gilbern GTs mewn rali perchnogion yn 2009

Y bwriad oedd bod Giles a Bernard yn aros fel cyfarwyddwyr, ond gadawodd Giles yn fuan wedi'r gwerthiant. Arhosodd Bernard gyda’r cwmni am tua blwyddyn.

Yn lle'r Genie, daeth Gilbern Invader Mark I a II ac erbyn 1972, daeth y Mark III, ac adeiladwyd yr Invader Estate hefyd ym 1971.

Cynhyrchwyd prototeip o gar chwim dwy sedd cyffrous, y T11. Dim ond un ohonynt gafodd ei adeiladu ond ni chafodd ei gynhyrchu fyth. Ond mae'r T11 yn dal o gwmpas. Mae wedi cael ei adfer yn llwyr ac yn edrych yn wych!

Aeth y Gilbern T11 ddim pellach na'r cam prototeip

Aeth y Gilbern T11 ddim pellach na'r cam prototeip

Rhwng 1972 ac 1974, roedd y cwmni'n ei chael yn anodd gwneud elw a hyd yn oed wedi cyfres o fuddsoddwyr, daeth i ben ym 1974.

Mae gennym dri Gilbern yn ein casgliad. Mae'r Gilbern GT Mark I yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae'r ddau arall fel arfer yn y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw ac yn cael eu harddangos o bryd i'w gilydd mewn arddangosfeydd arbennig. Gilbern Invader yw'r ddau, Mark II gwyrdd a Mark III awtomatig porffor. Y Mark III oedd y model olaf i gael ei a gynhyrchu gan y cwmni, er iddyn nhw greu dau brototeip arall.

Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein

26 Mawrth 2018

Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd.

Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol.

Y Mwyaf

Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale.

Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Ffotograff o 1908 yn dangos Horace Watkins mewn awyren gynnar, fregus yr olwg

Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908

Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol.
 

Yr Hynaf


ffotograff o ddau ddant bachgen Neanderthalaidd 8 mlwydd oedd

Rhain yw olion dynol hynaf Cymru

Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru.

Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws.

Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018.
 

Y Mwya Sgleiniog

Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon.


ffotograff o ddisg aur gyda chynllun addurniadol

'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir

Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion.

Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan.
 

Mwyaf Dadleuol

Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn.


Ffotograff yn dangos cwpan a soser â'r geiriau 'Capel Celyn' a chynllun rhuban arnynt

Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965

Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau.

Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif.
 

Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta

Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren.


ffotograff o awyren fechan o'r ugeinfed ganrif, ag iddi adennydd coch

Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren.
 

Ffotograff o 1908 yn dangos Horace Watkins mewn awyren gynnar, fregus yr olwg

Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908

Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau.

Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio

Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf.

“Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang.

Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We
 

Chwilio Casgliadau Arlein

I’r dyfodol...

Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen.

Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol.

Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri.

 

Cyfrannu Heddiw

 

Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
 

Popeth ond y sgrech

30 Awst 2012

Mae modd defnyddio pob pisyn o'r mochyn ond am ei sgrech

Ar un adeg roedd moch yn rhan bwysig o fywyd pob dydd yn y dref yn ogystal â'r wlad. Dyma i chi'r peiriant ailgylchu perffaith, a oedd yn troi gwastraff yn gynnyrch defnyddiol. Byddent yn bwrw troglwyth fawr o foch bach a gan eu bod yn fodlon bwyta pob dim, yn laswellt neu'n sbarion bwyd, roeddent yn pesgi'n gyflym. Roedd lladd y mochyn yn ddigwyddiad cymdeithasol o bwys a byddai cymdogion a chyfeillion yn aml yn cymryd eu tro i ladd eu moch a rhannu'r cig.

Hebrwng asgwrn

Cig moch yn hongian o'r llofft

Cig moch yn hongian o'r llofft. Dangosir y modd y gwahenir dau ddarn o gig rhag iddynt gyffwrdd.

Byddai'r lladd yn digwydd rhwng dechrau Hydref a diwedd Mawrth, ac felly'n sicrhau cyflenwad cyson o gig ffres i deuluoedd trwy dymor y gaeaf. Y 'stecen felys' neu ddarnau o gig o'r asennau ac asgwrn y cefn fyddai'n cael eu rhannu fel arfer. Byddai ffagots a brôn hefyd yn cael eu paratoi a'u cynnig i deulu a chymdogion. Parhaodd yr arfer hwn tan hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Y plant fyddai'n cael y pleser o fynd â'r rhoddion, a chaent rywfain o arian am eu trafferth. Mewn rhai ardaloedd, yr enw ar yr arfer hwn oedd hebrwng asgwrn. Byddai gweddill y mochyn yn cael ei halltu, a dyna oedd y prif ffynhonnell o gig ar gyfer y teulu am y flwyddyn.

Dim byd yn ofer

Pledren mochyn i chwarae pêl

Cyn yr oed o mas-gynhyrchu peliau troed, byddai plant yn aml yn defnyddio pledren mochyn i chwarae pêl, a ddengys yma gyda phlufyn a fewnosodwyd ar gyfer ei chwyddo.

Fyddai'r un dim yn mynd yn ofer. Byddai'r pen yn cael ei ferwi i wneud cosyn pen (brôn). Roedd modd defnyddio blew'r mochyn i wneud brwshys, gwneud lledr o'r croen, gwneud pwdin gwaed o'r gwaed, a chwarae pêl-droed gyda'r bledren. Doedd dim rhyfedd felly fod cymaint yn cadw moch. Yn ôl rhai, daw'r enw Saesneg ar gadw-mi-gei o'r ffaith bod pobl yn bwydo eu harian mân i mewn i'r piggy bank. Wedi iddo dyfu'n ddigon tew byddai modd ei falu a chael at y cynilion y tu mewn.

Pen mochyn yn cael ei ferwi i wneud cosyn pen (brôn).

Rhan o ffilm sy'n cofnodi'r holl waith a ddeuai yn sgîl lladd mochyn. Byddai trefn y gwaith yn dilyn yr un patrwm drwy Gymru gyfan, ac eithrio gwneud ffagots. Ni fyddai hynny'n digwydd yn gyffredin yng Ngwynedd. Ffrio'r iau gyda nionod a'i fwyta fel prif bryd oedd y drefn yno.

Tystiolaeth lafar

Yn ôl tystiolaeth o Rostryfan, yr oedd hwn yn bryd blasus iawn ar gyfer 'swper chwarel', sef y pryd min nos wedi i'r chwarelwyr ddychwelyd o'r chwarel.

Mrs Edith May Hughes, Llannerch-y-medd, Môn yn disgrifio sut y byddai ei mam yn paratoi iau a nionod. Ganed Mrs Hughes yn 1904.

"Wedyn mi fydda yr iau. Padall huarn fawr fydda gin Mam, ar ben y pentan, 'te. A mi fydda wedi gneud yr iau yn ara' deg. Fydda gynni hi flawd wrth law bob amsar. Wedyn, - a board 'te — wedyn, pen fydda hi'n mynd i dorri'r iau, fydda blawd ar y board, a 'dda'r iau yn cal 'i roid yn fanno. A'i sglisho wedyn, a'i dipio fo'n y blawd, cyn 'i ffrio fo, 'te. Wedi 'ny, mi fydda nionod yn cal 'u ffrio, hefo yr iau 'ma, yn ara' deg. Wedyn mi fydda 'na lond y badall, ar ôl i'r iau neud. Fydda'n codi'r iau, a wedyn mi fydda 'na lond y badall o refi da wedi neud efo'r nionod 'ma i gyd, 'te. Wedyn 'dda'r iau yn cal 'i roid i fiewn yno fo. Wedyn odd o'n cadw yn dendar neis, ag yn boeth. Erbyn dôn ni o'r ysgol gyda'r nos ylwch. "
>Mrs Edith May Hughes, Llannerch-y-medd, Ynys Môn. Ganed 1904

Rysáit: Cig Moch, Iau a Nionod

  • hanner pwys o gig moch
  • pwys o iau
  • nionod
  • halen a phupur
  • ychydig o flawd gwyn
  1. Torri'r iau'n dafelli, eu golchi, a'u gorchuddio ag ychydig o flawd gwyn, pupur a halen.
  2. Ffrio'r cig moch yn ysgafn a'i godi i ddysgl boeth.
  3. Rhoi'r iau a'r nionod (wedi'u torri'n fân) yn saim y cig moch, eu ffrio gyda'i gilydd a'u codi i'r un ddysgl.
  4. Cymysgu llond llwy fwrdd o flawd gwyn i mewn i'r saim yn y badell ffrio, tywallt ychydig o ddŵr berwedig arnynt, eu cymysgu'n dda a'u berwi am ychydig funudau i wneud grefi.
  5. Berwi tatws mewn sosban ar wahân.

Bwyd o lannau Cymru

23 Gorffennaf 2012

Cyflwyniad

Hel cocos ar draeth Llan-saint

Hel cocos ar draeth Llan–saint.

Offer hel cocos

Y rhidyll, y gocses a'r rhaca — offer hel cocos.

Byddai cymunedau oedd yn byw ger y glannau hefyd yn manteisio ar y bwydydd oedd ar gael iddynt ar y traeth neu'r creigiau glan-môr. Mae yna dystiolaeth helaeth o safleoedd cynhanesyddol a Rhufeinig sy'n dangos bod pysgod cregyn yn cael eu cynaeafu yng Nghymru trwy'r canrifoedd. Roedd y pysgod cregyn hyn yn rhad ac am ddim o'u casglu, ac roedd toreth ohonynt i'w cael ar hyd y glannau. Cocos a chregyn gleision oedd y mathau a gasglwyd ac a werthwyd amlaf gan y bobl gyffredin

Casglu cocos

Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, byddai merched casglu cocos yn aml yn cadw stondinau ym marchnadoedd trefi de Cymru. Byddai eraill yn gwerthu eu cynhaeaf o ddrws i ddrws yn y pentrefi diwydiannol ac arfordirol yn y gogledd a'r de. Fel arfer byddai'r cocos oedd wedi'u berwi a'u tynnu o'u cregyn (cocs rhython) yn cael eu cludo mewn bwced bren ar ben y werthwraig. Câi'r cocos oedd heb eu trin (cocs cregyn) eu cludo mewn basged fawr ar ei braich. .

Soniai un wraig wyth deg oed o Lan-saint, pentref glan-môr yn Sir Gaerfyrddin, iddi fod yn casglu cocos ar y traeth am chwe deg o flynyddoedd. Cyfeiriai at y patrwm arferol lle'r oedd merched yn olynu eu mamau yn y gwaith hwn. Roeddent yn ddibynnol ar eu henillion o'r cocos; cofiai ei bod yn eu gwerthu am ddimai'r peint, ond ei bod tua diwedd ei gyrfa yn gwerthu'r un faint o gocos am chwe cheiniog. Roedd hwn yn dâl sâl iawn am yr holl waith llafurus. Casglu, golchi a chludo'r cocos adref o'r traeth oedd y cam cyntaf. Wedi cyrraedd byddai'n rhaid dechrau ar yr ail gam, sef golchi'r cocos eto a'u berwi cyn eu cludo am yr eilwaith, i'r farchnad y tro hwn.

Gwnâi cocos bryd ysgafn o'u bwyta gyda bara menyn neu fara ceirch, ac roeddent yn elfen mewn gwahanol seigiau oedd yn cynnwys wyau neu laeth a sifys. Byddai merched ym mhentref Penrhyndeudraeth, Sir Feirionnydd, yn canu'r pennill hwn wrth werthu'r pysgod cregyn o ddrws i ddrws:

Cocos a wya Bara ceirch tena Merched y Penrhyn Yn ysgwyd 'u tina

Cafiâr Cymru?

Siediau casglwyr bara lawr

Siediau casglwyr bara lawr (1936)

Un o'r bwydydd môr pwysig eraill oedd math o wymon bwytadwy o'r enw bara lawr. Yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai merched o lannau Sir Fôn, Sir Forgannwg a Sir Benfro yn casglu hwn yn frwd. Roedd angen trochi'r bara lawr a gasglwyd o'r creigiau a'r cerrig ar lan y môr mewn saith golchad o ddŵr glân er mwyn cael gwared ar yr holl raean a thywod oedd ynddo. Wedyn byddai'r gwragedd yn gwasgu'r dŵr o'r gwymon, a berwi'r bara lawr glân yn araf yn ei wlybaniaeth ei hun am ryw saith awr. Y peth olaf i'w wneud oedd ei ddraenio a'i falu'n hynod o fân nes ei fod yn fwydion lliw gwyrdd-ddu.

Byddai'n cael ei ysgeintio wedyn â blawd ceirch a'i ffrio mewn saim cig moch, ac yn cael ei weini gyda bacwn fel arfer. Enwau eraill arno oedd llafan neu fenyn y môr, a byddai bara lawr yn cael ei baratoi fel cynnyrch masnachol gan deuluoedd yn Sir Forgannwg, a'i werthu gyda'r cocos ar y stondinau marchnad. Ar un adeg dim ond teuluoedd ar incwm isel fyddai'n paratoi ac yn gwerthu'r ddau fwyd hwn. Yn y pen draw datblygodd y ffordd hon o farchnata yn fentrau masnachol o bwys. Heddiw mae bara lawr, a elwir weithiau yn gafiâr Cymreig, i'w weld ar gownteri siopau bwyd arbenigol ac yn cael ei gynnig fel hors-d'œuvre mewn bwytai o'r radd flaenaf.