SBRAGIO - galwad am weithwyr creadigol llawrydd!
31 Gorffennaf 2026
Ydych chi’n gerddor, artist, peiriannydd sain neu’n gweithio mewn maes creadigol?
Rydym yn chwilio am weithwyr llawrydd i arwain ar broject cerddorol cyffrous fydd yn rhan o ailddatblygiad Amgueddfa Lechi Cymru.
Bydd ailddatblygiad yr amgueddfa yn gwarchod, gwella a dehongli safle arbennig yr Amgueddfa Lechi, ac yn creu canolfan Treftadaeth y Byd UNESCO gan gefnogi sgiliau traddodiadol, dysgu a lles a rydym wedi ymrwymo i greu gofodau newydd a gwahanol ble mae pobl yn gweld eu hunain yn profi ymdeimlad o berthyn.
Meddai Chloe Ward - Rheolwr Ymgysylltu y Project:
"Bydd Project SBRAGIO yn gweithio gyda chymunedau a lleisiau lleol i greu gofodau a phrofiadau ysbrydoledig sy’n cynnig persbectif unigryw ar hanes y cymunedau chwarela a luniodd yr ardal hon o Gymru. Bydd yn dod â phobl ynghyd i weithio gyda sŵn a cherddoriaeth mewn ffordd sy’n adlewyrchu hanes, tirwedd a straeon byw’r gymuned leol.
Bydd cyfle i gydweithio, arbrofi a chreu gwaith newydd fydd yn helpu ailddweud stori yr Amgueddfa Lechi drwy weithio gyda grwpiau targed o’r ardaloedd llechi ac ardaloedd lleol yr amgueddfa, gyda ffocws ar gymunedau lleol, pobl o ardaloedd economaidd-gymdeithasol isel, cymunedau mwyafrif byd-eang, pobl hŷn gan gynnwys pobl yr effeithir arnynt gan ddementia, pobl ifanc."
Bydd arweinyddion SBRAGIO yn gyfrifol am recriwtio a gweithio gyda’r cymunedau, datblygu syniadau creadigol sy’n ymateb i’r Amgueddfa a’i hanes ac arwain ar broses gydweithredol, gynhwysol a chyffrous a chreu allbwn o ddarnau cerddorol newydd ar y cyd gyda chymunedau targed lleol, fydd yn cael ei ddefnyddio i gyfoethogi dehongli newydd Amgueddfa Lechi Cymru. Bydd yr arweinyddion yn helpu cydlynu a chyfrannu at ddigwyddiad arbennig i ddathlu’r gwaith ar ddiwedd y project, er enghraifft cyngerdd neu ŵyl.
Amserlen
- Bydd y project yn cychwyn mor fuan â phosib. Rydym yn gobeithio bydd y project creadigol hwn yn dod i ben tua diwedd 2026.
- Mi fydd hi’n bosib cyflwyno elfennau terfynol yn gynnar yn 2027, ond dim hwyrach na diwedd Mawrth 2027.
Cyllideb
- Mae cyfanswm o 3 gronfa o £3,000 ar gael, ar gyfer 3 elfen wahanol.
- Dylai’r cyfanswm o £3,000 gynnwys holl ffioedd, teithio, chynhaliaeth ac unrhyw ddeunyddiau.
- Mae cyllideb ar wahân i dalu costau darpariaeth cyfieithu neu unrhyw gostau sy’n ymwneud â hygyrchedd.
- Mae Amgueddfa Cymru yn ad-dalu costau teithio ar gyfer gweithwyr llawrydd ar gyfradd o 25c y milltir.
Iaith
- Mae'n hollbwysig i ni fod pobl yn gallu cymryd rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac felly’n bwysig bod unrhyw hwyluswyr neu waith cymunedol yn cael ei gynnal yn ddwyieithog. Byddwn yn ffafrio datganiadau o ddiddordeb gan unigolion sy'n siarad Cymraeg neu'r rhai sy'n dangos dealltwriaeth o hyn. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn gallu cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg Amgueddfa Cymru sydd i'w gweld yma.
Hawlfraint
- Amgueddfa Cymru fydd yn berchen ar hawlfraint yr holl gynnyrch o'r project hwn.
Mynegi diddordeb a cheisio
- Rydym yn croesawu cynigion ysgrifenedig dim mwy na 2 dudalen A4, neu fideo byr/recordiad llais sydd o dan 5 munud.
- Rydym yn hapus i drafod ffyrdd eraill o wneud cais am y cyfle hwn.
Bydd angen cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Profiad perthnasol o sut rydych chi wedi ymgysylltu'n greadigol â chymunedau.
- Gwybodaeth am eich maes ymarfer creadigol a'ch syniadau ar gyfer y prosiect - be fyddech chi'n bwriadu ei gyflawni ac efo pwy fyddech chi'n bwriadu gweithio.
- Amlinelliad o’ch costau chi, gan gynnwys eich ffi dyddiol.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y ddogfen yma
Os oes gennych ddiddordeb neu eisiau gwneud cais danfonwch eich mynegiant o ddiddordeb drwy e-bost at chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk - erbyn 11/09/2026.
Byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus ac yn cysylltu â phob ymgeisydd ddim hwyrach na wythnos ar ôl y dyddiad cau.
Galwad am ddiddordeb Cronfa Gerddorol (PDF)