: Addysg
Taith Natur ar gyfer Enillwyr Prosiect Bylbiau Gwanwyn 2015
, 6 Gorffennaf 2015
Yn wobr am gymryd rhan ym mhroject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2014-15 enillodd Ysgol Gynradd Santes Ffraid yn Sir Ddinbych daith i Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Gweithiodd dosbarth blwyddyn 6 yn galed iawn ar y project eleni gan gymryd mesuriadau dyddiol a’u cofnodi ar wefan Amgueddfa Cymru yn wythnosol. Gofalodd pob disgybl am ei blanhigion a chofnodi eu dyddiau blodeuo a’u taldra ar y wefan.
Gwaith anodd oedd dewis enillwyr eleni oherwydd bod sawl ysgol wedi darparu cofnodion tywydd oedd bron yn gyflawn. Er mwyn dewis yn deg, rhoddwyd enwau’r ysgolion gorau i gyd mewn het cyn tynnu enillydd ar hap ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban. Derbyniodd yr ysgolion oedd yn dal yn yr het docynnau gwerth £40 i wario ar offer garddio ar gyfer yr ysgol. Dyma’r ysgolion gyda ‘chlod uchel’ yn derbyn pecynnau Adnodd Addysg y Ddôl Drefol a hadau ar gyfer y ddôl. Er mwyn cydnabod eu gwaith gwych yn helpu Amgueddfa Cymru gyda’r ymchwiliad, derbyniodd bob ysgol a gyflwynodd eu data dystysgrifau Gwyddonwyr Gwych a phensiliau.
Ymwelodd disgyblion Santes Ffraid â Llanberis ar 22 Mai, a chael eu croesawu gan Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa, a fi, Cydlynydd Project Bylbiau’r Gwanwyn. Dyma ni’n trafod canlyniadau project 2014-15 ac yn eu cymharu â blynyddoedd blaenorol. Gallwch chi astudio adroddiad 2005-2015 yma.
Yna dyma ni’n cael ein harwain at Dai Chwarelwyr Fron Haul a mwynhau gwrando ar Wyn Lloyd-Hughes yn esbonio sut y byddai bywyd y trigolion wedi newid dros 100 mlynedd. Roedd e’n wych yn dod â hanesion trigolion bro’r chwareli yn fyw i ni a dyma’r plant yn mwynhau chwilio drwy’r tai a thrafod y newid yn y dodrefn rhwng 1861, 1901 a 1969.
Wedi gadael Fron Haul, dyma ni’n rhuthro draw i’r iard i wylio ffilm fer am hanes diwydiant llechi gogledd Cymru – ‘Dwyn y Mynydd’. Wrth wylio’r ffilm llawn naws yn y tywyllwch aeth y dosbarth i gyd yn dawel, ond dyma nhw’n neidio yn ystod y digwyddiadau dramatig (swnllyd). Wedi hyn dyma’r grŵp yn gwylio Carwyn Price, yn hollti a naddu llechi i siâp calon. Dyma fe’n dangos esiamplau o gelf wedi’i greu yn yr un dull, fel gwyntyll a llwyau caru. Roedd Carwyn yn barod i roi cyfle i rywun roi cynnig ar hollti llechi a dyma’r plant yn enwebu eu hathro, Mr Madog! Roedd e’n dda iawn a’r plant yn gweiddi eu cefnogaeth!
Yna, dyma Peredur Hughes yn mynd â ni i weld olwyn ddŵr yr Amgueddfa gan esbonio sut mae hi’n troi a sut y byddai’r pŵer yn cael ei ddefnyddio i droi peiriannau yng ngweithdai Gilfach Ddu. Gyda diamedr o 15.4 metr, dyma’r olwyn ddŵr fwyaf ar dir mawr Prydain, ac roedd mewn defnydd rhwng 1870 a 1925 pan ddaeth olwyn Pelton i gymryd ei lle. Mae sefyll dan yr olwyn wrth iddi droi, gyda’r dŵr yn tasgu a’r metel yn gwegian, yn brofiad a hanner ac mae’n gwneud i chi werthfawrogi sgiliau dylunio ac adeiladu’r peirianwyr. Fel rhan o broject Bylbiau’r Gwanwyn mae’r ysgolion yn derbyn adnoddau i sbarduno trafodaeth am newid hinsawdd a ffynonellau ynni – roedd gweld olwyn ddŵr anferth wrth ei gwaith yn helpu’r plant i ddeall y gwaith hwnnw’n well.
Ar ôl cinio cyflym dyma fynd i’r chwarel ar gyfer y gweithgareddau natur. Dyma ddechrau drwy drafod beth oedd i’w weld a’i glywed, ei gyffwrdd a’i arogli yn y coetir. Yna dyma ni’n mynd i chwilio am fwystfilod bach a thrafod sut i ddosbarthu gwahanol rywogaethau a hoff gynefinoedd y bwystfilod. Ar ôl creu ‘persawr y goedwig’ a dysgu sawl coes sydd gan wrachen ludw a’u bod nhw’n codi cyfog ar fechgyn a merched dyma symud at y dasg nesaf – creu nyth! Gweithiodd y plant yn galed iawn, fel y galwch chi weld o faint y brigau/coed yr oedden nhw’n symud gyda’u pigau (dwi’n siŵr bod rhywun wedi bod yn twyllo!). Roedd e’n llawer o hwyl ac yn gyfle gwych i dynnu lluniau.
Daeth Peredur i gyfarfod â ni wrth Chwarel Vivian ac esbonio ychydig o’i hanes i ni, gan ddangos y clogwyni llechi ac esbonio arwyneb y graig a sut fyddai’r chwarelwyr yn gweithio. Dyma fe’n esbonio’r geiriau y byddai’r chwarelwr yn ei ddefnyddio i ddisgrifio gwahanol fathau o lechi, a’r prosesau daeareg a ffurfiodd y graig. Dysgodd y plant sut i adnabod ‘trwyn’ a ‘chefn crwn’ a sut oedd hyn yn helpu’r chwarelwr i ddehongli’r graig, a’i drin i gael y canlyniadau gorau, a lleihau risg drwy ragweld sut byddai’r graig yn chwalu. Roedd hi’n sgwrs ddiddorol mewn lleoliad prydferth, ac yn ddiwedd hyfryd i’r diwrnod.
Dyma fi’n mwynhau cwrdd â disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Santes Ffraid a diolch yn bersonol iddyn nhw am eu cyfraniad i broject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion. Roedd yn ddiwrnod gwych a hoffwn i ddiolch i staff Amgueddfa Lechi Cymru am eu croeso, eu hamser, a’u hymdrech.
Mae amser o hyd i ysgolion yng Nghymru wneud cais i gymryd rhan ym mhroject Bylbiau’r Gwanwyn 2015-16. Bydd cyfle i’r enillwyr fwynhau taith wych yn llawn gweithgareddau byd natur yn un o leoliadau agosaf Amgueddfa Cymru.
Er mwyn ymgeisio, ewch i: http://www.amgueddfacymru.ac.uk/bylbiau-gwanwyn/
Mae ceisiadau ar gyfer ysgolion yn Lloegr a’r Alban bellach wedi cau, ond gall ysgolion sydd â diddordeb ganfod gwybodaeth am broject 2016-17 ar wefan Ymddiriedolaeth Edina.
Ceisiadau ar Agor i Ysgolion yng Nghymru
, 29 Mehefin 2015
Astudiaeth newid hinsawdd ar dir eich ysgol!
Daearyddiaeth & Gwyddoniaeth (CA2)
Defnyddiwch eich dosbarth awyr agored! Ymunwch â'r 175 o ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf arbennig hwn!
Mae Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn rhoi cyfle i ddisgyblion cynradd fabwysiadu, astudio a chofnodi datblygiad bylbiau'r gwanwyn fel rhan o rwydwaith gwylio'r gwanwyn. Caiff pob disgybl fwlb Cennin Pedr Dinbych, Crocws ac photyn gardd er mwyn cofnodi'r tyfiant a'r amserau blodeuo.
Trwy gasglu a chymharu data mae disgyblion yn darganfod sut mae'r newid yn ein hinsawdd yn effeithio ar ein tymhorau, a beth mae hyn yn ei olygu i ni ac i'r natur o'n cwmpas. Mae disgyblion yn cymryd rhan yn Her Athro'r Ardd i gael tystysgrif gwyddonydd gwych.
Gall ysgolion ledled Cymru gymryd rhan gan bod y canlyniadau yn cael eu casglu drwy'r we (neu'r post os oes rhaid). Mae'r prosiect yn un parhaus a gall ysgolion gymryd rhan yn flynyddol.
Er mwyn gwneud cais i gymryd rhan yn Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2015-2016 llenwch y ffurflen gais ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.
Ceisiadau nawr ar agor ond mae niferoedd yn gyfyngedig felly wnewch gais yn fuan i sicrhau eich lle ar y prosiect! Ceisiadau ar agor i ysgolion yng Nghymru yn unig. Mae’r dyddiad cau wedi pasio ar gyfer ysgolion o’r Alban a Lloegr ond mae croeso i chi gysylltu ag Ymddiriedolaeth Edina am wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn y project yn 2016-2017.
Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion - Ceisiadau a Gwybodaeth
, 15 Mehefin 2015
Astudiaeth newid hinsawdd ar dir eich ysgol!
Daearyddiaeth & Gwyddoniaeth (CA2)
Defnyddiwch eich dosbarth awyr agored! Ymunwch â'r 175 o ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf arbennig hwn!
Mae Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn rhoi cyfle i ddisgyblion cynradd fabwysiadu, astudio a chofnodi datblygiad bylbiau'r gwanwyn fel rhan o rwydwaith gwylio'r gwanwyn. Caiff pob disgybl fwlb Cennin Pedr Dinbych, Crocws ac photyn gardd er mwyn cofnodi'r tyfiant a'r amserau blodeuo.
Trwy gasglu a chymharu data mae disgyblion yn darganfod sut mae'r newid yn ein hinsawdd yn effeithio ar ein tymhorau, a beth mae hyn yn ei olygu i ni ac i'r natur o'n cwmpas. Mae disgyblion yn cymryd rhan yn Her Athro'r Ardd i gael tystysgrif gwyddonydd gwych.
Gall ysgolion ledled Cymru gymryd rhan gan bod y canlyniadau yn cael eu casglu drwy'r we (neu'r post os oes rhaid). Mae'r prosiect yn un parhaus a gall ysgolion gymryd rhan yn flynyddol.
Er mwyn gwneud cais i gymryd rhan yn Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2015-2016 llenwch y ffurflen gais ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.
Ceisiadau nawr ar agor ond mae niferoedd yn gyfyngedig felly wnewch gais yn fuan i sicrhau eich lle ar y prosiect! Ceisiadau ar agor i ysgolion yng Nghymru yn unig. Mae’r dyddiad cau wedi pasio ar gyfer ysgolion o’r Alban a Lloegr ond mae croeso i chi gysylltu ag Ymddiriedolaeth Edina am wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn y project yn 2016-2017.
Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen Gais.
E-bost SCAN
Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: Canlyniadau 2005-2015
, 1 Mehefin 2015
Mae project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn gyfle i filoedd o wyddonwyr ysgol weithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio newid yn yr hinsawdd a'i ddeall. Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol wedi bod yn cadw cofnod o'r tywydd a phryd mae eu blodau'n agor fel rhan o astudiaeth hirdymor o effeithiau'r tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.
Mae tystysgrifau wedi cael eu hanfon at yr holl ddisgyblion yn 4,596 a gwblhaodd y prosiect eleni. Mae rhagor o fanylion yn adroddiadau Athro'r Ardd: Adroddiad Athro'r Ardd i weld y canlyniadau hyd yn hyn.
- Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau.
- A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer?.
- Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd?.
- Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru..
Hoffwn ddiolch i bob un o'r Gwyddonwyr Gwych a chymrodd ran eleni! Mae ar gyfer prosiect Bylbiau'r Gwanwyn 2015-16.
Ceisiadau yn agored ar gyfer prosiect Bylbiau'r Gwanwyn 2015-16.
Professor Plant www.amgueddfacymru.ac.uk/bylbiau-gwanwyn/
cofnodion diweddar
Goleuo’r Ffordd – Pennod Nesaf Neuadd Weston
Gweithdai Rhithwir Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Cynhesrwydd y Gaeaf yn Amgueddfa Wlân Cymru: Lapiwch Eich Hun yn Hud y Gwlân
Blwyddyn eithriadol! Blwyddyn ers cau drysau'r Amgueddfa Lechi dros-dro ar gyfer ailddatblygu!
categorïau
- Pob cofnod
- Addysg
- Ailddatblygu Llechi
- Amgueddfeydd, Arddangosfeydd a Digwyddiadau
- Blog y Siop
- Casgliadau ac Ymchwil
- Casglu Covid
- Crefftwyr Amgueddfa Wlân Cymru
- Cyffredinol
- Holiaduron y gorffennol a’r presennol
- Iechyd, Lles ag Amgueddfa Cymru
- Lleisiau’r Amgueddfa
- Rhyfel Byd Cyntaf
- Streic! 84-85 Strike!
- Ymgysylltu â'r Gymuned