Y Galdrist Rithiol – un o blanhigion prinnaf Prydain 3 Gorffennaf 2013 Galdrist Rithiol Swydd Henffordd, 2009. Map yn dangos dosbarthiad y Galdrist Rithiol ym Mhrydain (pob cofnod: data trwy garedigrwydd Cymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain 2013). Eleanor Vachell, tua 1930 Y Galdrist Rithiol a gasglwyd gan Rex Graham, 1953 Y Galdrist Rithiol o Swydd Henffordd 1982, wedi’i chadw mewn fformalin. Mae gan y Llysieufa Genedlaethol yn Amgueddfa Cymru gasgliad bychan – ond hynod werthfawr – o’r Galdrist Rithiol (Epipogium aphyllum Sw.) neu Degeirian y Cysgod. A ddylem fod yn falch o hynny, neu a ddylent fod wedi’u gadael yn y gwyllt? Mae’r ateb yng nghasgliad yr Amgueddfa, a gan wlithod... Mae’r Galdrist Rithiol ymhlith planhigion prinnaf gwledydd Prydain. Fe’u canfuwyd mewn tua 11 safle yn ardaloedd y Chilterns a gorllewin canolbarth Lloegr, ond gan eu bod mor brin a’u lleoliad mor gyfrinachol, mae’n anodd gwybod sawl safle sydd yna’n union. Planhigyn diflanedig Cafodd y Galdrist Rithiol ei darganfod ym Mhrydain am y tro cyntaf ym 1854, ond dim ond un ar ddeg o weithiau y’i gwelwyd cyn y 1950au. Fe’i gwelwyd yn rheolaidd yma a thraw yn y Chilterns rhwng 1953 ac 1987, ond yna diflannodd, ac fe’i hystyriwyd yn ddiflanedig nes i un planhigyn gael ei ddarganfod yn 2009. Dim ond unwaith y’i gwelwyd yn y mwyafrif o safleoedd, ac yn anaml iawn am fwy na deng mlynedd. Y Galdrist Rithiol – golygfa brin dan gysgod tywyll y goedwig. Mae’r planhigyn lliw gwyn hufen i frown pincaidd hwn yn tyfu mewn coedwigoedd tywyll a chysgodol a dyna sy’n egluro’i enw. Diffyg cloroffyl sy’n gyfrifol am ei liw gan ei fod yn barasit ffyngau sy’n gysylltiedig â gwreiddiau coed, ac nid oes angen iddo gael ei fwyd ei hun trwy ffotosynthesis. Mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i oes fel rhisom (cyffion tanddaearol) ym mhridd neu ddeiliach coetiroedd, a dim ond ambell dro y gwelir blagur blodau uwchlaw’r ddaear. Hyd yn oed wedyn, mae ei maint bychan (llai na 15cm fel arfer, a phrin yn cyrraedd 23cm) a’u hymddangosiad anwadal rhwng mis Mehefin a mis Hydref yn golygu mai anaml iawn y gwelir y Galdrist Rithiol. Tan yn ddiweddar, darn o risom a gasglwyd ar gyfer Eleanor Vachell ym 1926 oedd yr unig sbesimen Prydeinig yn nwylo Amgueddfa Cymru. Ei llysieufa hi yw un o’r rhai mwyaf cynhwysfawr gan fotanegydd o Brydain, a chyflwynodd ei chasgliad i’r Amgueddfa pan fu farw ym 1949. Mae ei dyddiadur botanegol yn adrodd hanes darganfod y Galdrist Rithiol: "28 May 1926. The telephone bell summoned Mr [Francis] Druce to receive a message from Mr Wilmott of the British Museum. Epipogium aphyllum had been found in Oxfordshire by a young girl and had been shown to Dr [George Claridge] Druce and Mrs Wedgwood. Now Mr Wilmott had found out the name of the wood and was ready to give all information!!! Excitement knew no bounds. Mr Druce rang up Elsie Knowling inviting her to join the search and a taxi was hurriedly summoned to take E.V. [=Eleanor Vachell] and Mr Druce to the British Museum to collect the particulars from Mr Wilmott. The little party walked to the wood where the single specimen had been found and searched diligently that part of the wood marked in the map lent by Mr Wilmott but without success, though they spread out widely in both directions... Completely baffled, the trio, at E.V.'s suggestion, returned to the town to search for the finder. After many enquiries had been made they were directed to a nice house, the home of Mrs I. ?, who was fortunately in when they called. E.V. acted spokesman. Mrs I. was most kind and after giving them a small sketch of the flower told them the name of the street where the girl who had found it lived. Off they started once more. The girl too was at home and there in a vase was another flower of Epipogium! In vain did Mr Druce plead with her to part with it but she was adamant! Before long however she had promised to show the place to which she had lead Dr Druce and Mrs Wedgwood and from which the two specimens had been gathered. Off again. This time straight to the right place, but there was nothing to be seen of Epipogium! 2 June 1926. A day to spare! Why not have one more hunt for Epipogium? Arriving at the wood, E.V. crept stealthily to the exact spot from which the specimen had been taken and kneeling down carefully, with their fingers they removed a little soil, exposing the stem of the orchid, to which were attached tiny tuberous rootlets! Undoubtedly the stem of Dr Druce's specimen! Making careful measurements for Mr Druce, they replaced the earth, covered the tiny hole with twigs and leaf-mould and fled home triumphant, possessed of a secret that they were forbidden to share with anyone except Mr Druce and Mr Wilmott. A few days later E.V. received from Mr Druce an excited letter of thanks and a box of earth containing a tiny rootlet that he had found in the exact spot they had indicated." [Ffynhonnell: Forty, M. & Rich, T. C. G., eds. (2006). The botanist. The botanical diary of Eleanor Vachell (1879-1948). Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd] Rhannodd Eleanor ei gwreiddiosyn â’i chyfaill mynwesol Elsie Knowling, a oedd hefyd yn cadw llysieufa. Trwy gyd-ddigwyddiad lwcus, mae’r ddau ddarn bellach gyda’i gilydd yn yr Amgueddfa ar ôl bod ar wahân am 84 o flynyddoedd. Ym 1953, daeth Rex Graham, mab Elsie, ar draws 22 Galdrist Rithiol mewn coedwig yn Swydd Buckingham, sef y gytref fwyaf erioed yng ngwledydd Prydain (Graham 1953). Dyma’r tro cyntaf i’r Galdrist Rithiol gael ei gweld ers ugain mlynedd, a hawliodd sylw’r wasg Brydeinig. Dim ond tri sbesimen gasglodd Rex ar y pryd, ond aeth ati i gasglu rhagor dros y blynyddoedd dilynol pan welodd fod gwlithod yn eu bwyta. Ymhen hir a hwyr, roedd gan Rex bedwar sbesimen ar gyfer ei lysieufa ei hun, i’w hychwanegu at y darn yn llysieufa ei fam. Roedd y Galdrist Rithiol ymhlith trysorau llysieufa Graham & Harley, a roddwyd i Amgueddfa Cymru yn 2010. Y trydydd casgliad yw’r unig sbesimen yn yr Amgueddfa sy’n cael ei gadw mewn gwirod (yn hytrach na’i wasgu a’i sychu) er mwyn dangos strwythur tri dimensiwn y blodyn. Darganfuwyd gan y Dr Valerie Richards (Coombs gynt) ym 1982, a’i roi trwy garedigrwydd i’r Amgueddfa yn 2013. I waith caled a greddf Mark Jannink, yn ogystal â gwlithen lwglyd arall, y mae’r diolch am y pedwerydd casgliad a’r olaf. Dechreuodd Mark ystyried a oedd y Galdrist Rithiol yn blodeuo’n amlach ar ôl gaeafau oer. Ymchwiliodd i’r holl ddarganfyddiadau blaenorol o’r Galdrist Rithiol – ei hoff gynefin, tymor blodeuo a phatrymau’r tywydd – yna dechrau gwylio deg safle posib yng ngorllewin canolbarth Lloegr, ac ymweld â nhw bob pythefnos gydol haf 2009, ar ôl un o’r gaeafau oeraf ers blynyddoedd lawer. O’r diwedd, ym mis Medi, daeth ar draws un sbesimen bach. Roedd yn destun cryn gyffro i fotanegwyr, gan fod y Galdrist Rithiol wedi’i dynodi’n ddiflanedig yn swyddogol yn 2005. Dychwelodd Mark yno sawl tro yn ystod y dyddiau nesaf, wrth i’r planhigyn bylu a ‘brownio’ yn araf, hyd nes bod y gwlithod wedi cnoi drwy’r coesyn. Cafodd y gweddillion eu casglu a’u gwasgu, a’u cyfrannu i’n llysieufa ni yn fuan wedyn. Felly, cafodd pump o’r saith Galdrist Rithiol o Brydain sydd yn Amgueddfa Cymru, eu casglu yn sgil gwlithod, sy’n fwy o fygythiad na botanegwyr. Mae’r Galdrist Rithiol wedi’i diogelu’n llawn gan y gyfraith, dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ond dyw’r gwlithod ddim callach! Mae gennym wyth sbesimen o Ewrop hefyd, lle mae’r Galdrist Rithiol yn fwy cyffredin, ond eto’n brin. Cafodd un o’n sbesimenau gorau ei gasglu gan W. A. Sledge yn y Swistir. Mae croeso i chi ddod draw i weld y Galdrist Rithiol yn Llysieufa Genedlaethol Cymru, ond peidiwch â disgwyl i ni ddatgelu o ble y daethant! A da chi, gadewch eich gwlithod gartref. Darn o wreiddiosyn y Galdrist Rithiol yn llysieufa Eleanor Vachell. Mae hefyd yn cynnwys cyfeiriad y Dr George Claridge Druce (1924) ato yn Gardeners Chronicle cyfres 3 cyfrol 76, tudalen 114 a dau fraslun bach gan Miss Baumgartner. Galdrist Rithiol o’r Swistir a gasglwyd gan W. A. Sledge ym 1955. Galdrist Rithiol Swydd Henffordd, 2009 Cyfeiriadau Graham, R. A. (1953). Epipogium aphyllum Sw. in Buckinghamshire. Watsonia 3: 33 a’r tab. (http://archive.bsbi.org.uk/Wats3p33.pdf ). Harley, R. M. (1962). Obituary: Rex Alan Henry Graham. Proceedings of the Botanical Society of the British Isles 4: 505-507. Rhagor o wybodaeth am y Galdrist Rithiol: Farrell, L. (1999) Epipogium aphyllum Sw. tudalen 136 yn Wigginton, M. J. (1999) British Red Data Books 1. Vascular plants. 3ydd argraffiad. JNCC, Peterborough. Foley, M. J. Y. a Clark, S. (2005) Orchids of the British Isles. The Griffin Press, Maidenhead. Jannink, M. a Rich, T. C. G. (2010). Ghost orchid rediscovered in Britain after 23 years. Journal of the Hardy Orchid Society 7: 14-15. Taylor, L. a Roberts, D. L. (2011). Biological Flora of the British Isles: Epipogium aphyllum Sw. Journal of Ecology 99: 878–890. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/j.1365-2745.2011.01839.x/abstract:
Y Môr-grwban mwyaf yn y byd 15 Awst 2007 Cafodd y môr-grwban lledraidd sydd i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ei olchi i'r lan ar draeth Harlech, Gwynedd, ym mis Medi 1988. Gwaetha'r modd, roedd wedi boddi ar ôl cael ei ddal gan leiniau pysgota. Cafodd y môr-grwban sylw ym mhedwar ban byd gan mai hwn oedd y môr-grwban mwyaf a thrymaf a gofnodwyd erioed. Roedd bron yn 3m (9tr) o hyd ac yn pwyso 914 kilo (2016 pwys).Pan olchwyd y môr-grwban i'r lan, roedd prysurdeb mawr ymhlith staff yr Amgueddfa gan eu bod yn awyddus i lunio set arddangos o'i gwmpas. Fodd bynnag, nid gwaith syml oedd paratoi sbesimen fel hyn i'w arddangos. Bu angen troi'r môr-grwban wyneb i waered i drwsio'r craciau ar ei fol. Arddangos y môr-grwban mwyaf yn y bydAr ôl cael awtopsi er mwyn cael gwybodaeth wyddonol, tynnwyd y croen a'i drin a gwnaed mowld o siâp y corff. Yna, cafodd y croen ei dynnu dros y mowld i wneud i'r anifail edrych yn naturiol.Tynnwyd y sgerbwd hefyd a'i baratoi i'w arddangos ochr yn ochr â'r corff. Yna, rhoddwyd y mownt tacsidermi a'r sgerbwd i'w harddangos yn eu horiel fach eu hunain gydag arddangosiadau cysylltiedig am hanes y môr-grwban lledraidd, y bygythiadau y mae'n eu hwynebu, y cefndir ecolegol a'r gwaith cadwraeth. Glanhau a thrwsio'r môr-grwban. 16 o flynyddoedd yn ddiweddarachAr ôl cael ei arddangos am 16 o flynyddoedd, roedd craciau eithaf mawr wedi dechrau ymddangos ar y sbesimen. Roedd wedi dechrau cracio ers peth amser a chafodd ei drwsio yma a thraw dros y blynyddoedd. Sychder yr awyr oedd yn gyfrifol am y craciau ac felly doedd dim dewis ond cau'r rhan hon o'r oriel a mynd ati o ddifrif i wneud gwaith cadwraeth ar y môr-grwban poblogaidd.Y cam cyntaf oedd glanhau haen o lwch a baw seimllyd oddi ar y môr-grwban. Defnyddiwyd stwff glanhau an-ïonig i dynnu'r rhan fwyaf o'r baw.Pan oedd yn eithaf glân, y cam nesaf oedd cael y rhannau o'r sbesimen oedd wedi eu hystumio nôl i'r siâp cywir. I wneud hyn, gwylchwyd y rhan allanol â chymysgedd o ddŵr wedi'i ddad-ïoneiddio, halen a glanedydd fel y gellid ei symud yn ôl i'w siâp.Tynnu'r hen waith trwsioAr ôl i'r sbesimen sychu, tynnwyd yr hen waith trwsio. Roedd hon yn broses hir ac araf ac roedd angen bod yn ofalus i beidio â gwneud rhagor o niwed i groen y môr-grwban. Roedd llawer o'r croen wedi'i baentio'n ddu rai blynyddoedd cynt ac felly roedd angen tynnu'r paent hefyd. Gwnaed hyn trwy ddefnyddio aseton a system symudol i gael gwared â'r tarth.Ar ôl tynnu'r gwaith trwsio cynt a'r paent, roedd patrymau a gwead croen gwreiddiol y môr-grwban i'w gweld unwaith eto. Cafodd bylchau a holltau yn y sbesimen eu llenwi a phaentiwyd drostynt mewn ffordd oedd yn cyd-fynd â lliw ac ansawdd croen gwreiddiol y môr-grwban. Y môr-grwban ar ôl y gwaith cadwraeth. Arddangosfa newydd y môr-grwban lledrgefn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. AilarddangosCafodd y sgerbwd ei lanhau'n ofalus hefyd cyn ailosod y môr-grwban gorffenedig fel yr oedd o'r blaen. Ar ôl 4 mis o waith, roedd modd ailagor oriel y môr-grwban i'r cyhoedd unwaith eto.Taith arall i'r môr-grwbanRoedd sychder yr aer yn oriel y môr-grwban yn dal i achosi problemau o ran cadwraeth. Felly, yn 2006, symudwyd y môr-grwban i le newydd yn yr oriel 'Dyn a'r Amgylchedd' gerllaw, ger y morfil cefngrwm. Mae cyflwr yr aer yn well yn y fan honno ac felly llwyddwyd i gadw'r môr-grwban mewn arddangosfa agored. Yn ogystal, cafodd y panelau arddangos eu hadnewyddu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r môr-grwban, felly, yn ychwanegiad gwerthfawr i'r oriel hon.
Adar tir fferm Prydain mewn perygl 23 Gorffennaf 2007 Cornicyll (Vanellus vanellus) Cornicyll Gwelwyd gostyngiad o 40% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Maen nhw'n bridio'n bennaf ar lifddolydd a thir pori garw. Yn y gaeaf maent i'w gweld mewn heidiau mawr ar gaeau âr a morfeydd heli. Traenio llifddolydd a newid i hau cnydau yn yr hydref sydd wedi cael yr effaith fwyaf arnynt. Mae yna lai o gaeau âr iddynt fwydo arnynt yn y gaeaf, ac mae cnydau'r gwanwyn yn rhy dal iddyn nhw nythu ynddynt. Mae rheoli ffermydd tir isel er mwyn creu'r cynefinoedd da yn gweithio. Mae ail-greu llifddolydd yn arwain at gynnydd yn nifer yr adar sy'n bridio. Y Petrisen (Perdix perdix) Petrisen Gwelwyd gostyngiad o 86% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Maen nhw'n bridio ar ymylon caeau garw lle mae gwrychoedd gerllaw. Nid ydyn nhw'n symud yn bell yn y gaeaf ac maent i'w gweld yn yr un lleoedd mwy neu lai. Mae colli gwrychoedd, chwistrellu ymylon caeau â chwynladdwyr a'r newid i hau cnydau yn yr hydref wedi cael effaith ddifrifol arnynt. Mae hyn wedi cael gwared ar eu safleoedd nythu a'u mannau bwydo dros y gaeaf. Y newyddion da yw eu bod nhw'n ymateb yn gyflym iawn i welliannau i'w cynefinoedd. Gellir dyblu nifer yr adar sy'n bridio mewn dwy flynedd drwy ddarparu'r cynefinoedd cywir ar yr adeg cywir o'r flwyddyn. Y Turtur (Streptopelia turtur) Turtur Gwelwyd gostyngiad o 71% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Maen nhw'n bridio lle bynnag y mae digon o orchudd gan lwyni, coed a pherthi. Maen nhw'n treulio'r gaeaf ar dir amaeth yn Affrica, i'r de o anialwch y Sahara. Maen nhw wedi dioddef o golli ymylon caeau yn yr un ffordd â'r Petrisen. Mae llai o hadau gwyllt iddyn nhw fwydo arnynt erbyn heddiw. Maen nhw'n wynebu rhwystr arall hefyd. Maen nhw'n cael eu hela wrth hedfan ar draws Ewrop. Mae niferoedd mawr yn cael eu saethu yn y gwanwyn wrth hedfan yn ôl i Brydain. Mae rheoliadau Ewropeaidd wedi lleihau nifer yr helwyr, ond mae'r arfer yn parhau gan leihau'r boblogaeth eto fyth. Yr Ehedydd (Alauda arvensis) Ehedydd Gwelwyd gostyngiad o 52% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Mae'r Ehedydd yn bwydo ar dir fferm tir isel a dolydd tir uchel ond mae angen gwair byr a garw arnynt. Yn y gaeaf maen nhw'n heidio gyda'i gilydd ar gaeau âr a sofl. Ar dir fferm tir isel mae ffermio dwys wedi gadael llai o dir glas garw i'r ehedydd nythu arno ac mae'r newid i hau cnydau yn yr hydref wedi golygu bod eu hoff fannau gaeafu wedi diflannu. Yn ffodus, maen nhw'n ymateb yn gyflym iawn os yw'r tir yn cael ei reoli ar eu cyfer. Mae nifer yr ehedyddion ar un o ffermydd yr RSPB wedi mwy na dyblu mewn cwta dau dymor. Y Fronfraith (Turdus philomelos) Bronfraith Gwelwyd gostyngiad o 56% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Mae'r Fronfraith yn bridio mewn perthlysoedd a gwrychoedd. Yn y gaeaf mae rhai o'n hadar ni'n hedfan tua'r de-orllewin i Iwerddon a Ffrainc a daw nifer fawr o adar atom ni o Sgandinafia. Mae ffermio dwys wedi cael effaith ddifrifol ar y Fronfraith. Mae colli gwrychoedd wedi difa eu safleoedd bridio ac mae plaladdwyr wedi lladd yr anifeiliaid y maent yn bwydo arnynt. Gallai defnyddio llai o beli lladd malwod helpu'r Fronfraith hyd yn oed mewn ardaloedd lle nad yw eu dirywiad mor ddifrifol. Mae angen i ffermydd symud o gyfeiriad ffermio dwys, gan ailblannu gwrychoedd neu droi caeau diffaith yn ôl yn berthlys. Y Llinos (Carduelis cannabina) Golfan y Coed Gwelwyd gostyngiad o 52% yn y boblogaeth ym Mhrydfain rhwng 1970 a 1999. Mae Llinosod yn hoffi bridio mewn gwrychoedd a phrysg. Yn y gaeaf maen nhw'n heidio gyda'i gilydd ac yn bwydo ar gaeau llawn chwyn. Cael gwared ar brysgwydd a cholli ardaoedd prysg wrth i faint caeau gynyddu sydd wedi cael yr effaith fwyaf un ar y Llinos. Mae'r defnydd cynyddol ar wrychladdwyr a llai o ddefnydd ar chwynladdwyr ar ymylon caeau wedi gweld niferoedd y Llinosod yn cynyddu mewn rhai mannau. Golfan y Coed (Passer montanus) Llinos Gwelwyd gostyngiad o 95% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Dyma'r gostyngiad mwyaf o blith holl rywogaethau Prydain. Mae Golfan y Coed yn nythu mewn tyllau mewn coed ac adeiladau, ac maen nhw'n hoffi byw ar dir fferm agored gyda choed a gwrychau gwasgaredig. Colli bwyd yw un o achosion tebygol y dirywiad mawr hwn. Mae cnydau grawn yn cael eu tynnu yn syth o'r caeau heddiw ac mae llai o gaeau sofl yn y gaeaf. Mae yn hyn yn golygu bod llai o rawn a hadau ar gael i'r adar fwydo arnynt. Gellir helpu Gofan y Coed drwy ddefnyddio llai o chwynladdwyr a phlaladdwyr ar ymylon caeau a gwella amrywiaeth y planhigion i ddarparu bwyd ar eu cyfer. Bras y Gors (Emberiza schoeniclus) Bras y Gors Gwelwyd gostyngiad o 53% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Mae'n nythu mewn llystyfiant trwchus o gwmpas llynnoedd a gwlyptiroedd. Yn y gaeaf maen nhw'n gallu heidio gyda llinosiaid a breision eraill i fwydo mewn caeau llawn chwyn. Colli caeau addas i fwydo yn y gaeaf sydd wedi cael yr effaith waethaf ar Freision y Gors. Nid yw traenio gwlyptiroedd a thacluso dyfrffyrdd yn gyffredinol wedi helpu chwaith. Gellir eu helpu yn yr un ffordd â llawer o adar eraill sy'n bwyta hadau. Mae lleihau defnydd ar chwynladdwyr a gwrychladdwyr yn galluogi amrywiaeth o blanhigion i dyfu ar ymylon caeau, gan gynyddu'r cyflenwadau bwyd. Bydd cynnal llystyfiant o gwmpas llynnoedd a ffosydd yn darparu lleoedd nythu. Melin yr Eithin (Emberiza citrinella) Melyn yr Eithin Gwelwyd gostyngiad o 53% yn y boblogaeth ym Mhrydain rhwng 1970 a 1999. Mae'n nythu ar dir fferm agored gyda gwrychoedd a pherthi; fe'i ceir hefyd ar rhostiroedd a thir comin. Yn y gaeaf maen nhw'n heidio gyda'i gilydd gydag adar eraill sy'n bwyta hadau fel Breision y Gors a Llinosod. Mae adar fel Melin yr Eithin, sy'n bwyta hadau, yn bwydo eu cywion ar bryfed ac infertebratau eraill. Yn yr un modd â llawer o'r rhywogaethau eraill sydd yma, mae defnydd ar bladdwyr yn cael effaith ddifrifol arnynt yn y gwanwyn a'r haf cynnar.
Coedwigoedd glaw trofannol Cymru 12 Mehefin 2007 Model cŵyr o côn o gnwpfwsoglau enfawr y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar. Model cŵyr o darn o foncyff o gnwpfwsoglau enfawr y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar. Golygfa dros fforestydd glo'r Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar, yn dangos cnwpfwsoglau enfawr y corstir, a'r rhedyn bychain yn tyfu ger y dŵr Ffosil Lepidodentron aculaetum Heddiw, mae coedwigoedd glaw yn gorchuddio rhan helaeth o'r trofannau a cheir capanau rhew mawr yn y pegynau. Dyma fel y bu, fwy neu lai, ers 3-4 miliwm o flynyddoedd ond ymhell, bell yn ôl, roedd pethau'n wahanol iawn. Efallai bod 3-4 miliwn o flynyddoedd yn ymddangos yn amser hir i ni ond, o gofio bod hanes y Ddaear yn mynd yn ôl 4,700 miliwn o flynyddoedd, cyfnod cymharol fyr ydyw. Os awn yn ôl i gyfnodau daearegol pellach, er enghraifft pan oedd deinosoriaid yn crwydro'r Ddaear, roedd y sefyllfa'n wahanol iawn i'r hyn a welwn heddiw. Dim ond mewn un cyfnod arall yn ein gorffennol daearegol y bu'r sefyllfa'n debyg i'r hyn a gawn heddiw, gyda rhew dros ardaloedd eang yn y pegynau a fforestydd glaw yn y trofannau — yn y cyfnod y mae daearegwyr yn ei alw'n Gyfnod Carbonifferaidd Diweddar, 300,000,000 o flynyddoedd yn ôl. Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn y trofannau bellach gan ein bod wedi symud tua'r gogledd i ran fwy tymherus o'r byd. Ond 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru ar y cyhydedd ac roedd gwern-goedwigoedd trofannol iseldirol yn gorchuddio rhan fawr o'r tir. Prif blanhigion y corstiroedd hynafol hyn oedd cnwpfwsoglau enfawr. Ceir cnwpfwsoglau heddiw ond rhai bychan iawn ydynt (a dyna pam y ceir 'mwsogl' yn eu henw), ond roedd y mathau hynafol hyn yn mesur hyd at 40 metr o daldra. Er eu bod mor fawr, nid coed oeddent, oherwydd roedd eu bôn wedi'i wneud o stwff meddal, tebyg i gorc, nid pren. Roedd hyn yn golygu bod y planhigion yn gallu tyfu'n eithriadol o gyflym, gan gyrraedd eu llawn maint mewn cyn lleied â deng mlynedd. Nid oedd y cnwpfwsoglau'n byw yn hir: byddent yn cyrraedd eu llawn maint, yn atgynhyrchu (â sborau, nid â hadau fel y rhan fwyaf o goed heddiw) ac yna'n marw. Gan fod cymaint o olion planhigion marw ar y llawr, roedd y llaid a'r silt yr oeddent yn tyfu ynddo yn mynd yn asidig iawn gan olygu nad oedd y planhigion marw'n pydru mor gyflym. Felly, roedd haenen drwchus o fawn yn ffurfio a honno'n troi mewn amser yn lo — a hwnnw fu'n cael ei gloddio ym meysydd glo de a gogledd Cymru. Y coedwigoedd trofannol Carbonifferaidd oedd un o'r 'sbyngau' cryfaf yn hanes y Ddaear o ran tynnu carbon o'r atmosffer a'i gladdu o dan y ddaear. Trwy edrych ar y newid a fu ym maint y fforestydd hyn (ac felly faint o garbon yr oeddent yn ei dynnu o'r atmosffer) a'i gymharu â newidiadau ym maint y capanau rhew yn y pegynau, cawn syniad gwell o lawer o'r cysylltiad rhwng faint o garbon sydd yn yr atmosffer a thymheredd y byd. Gwyddom am un cyfnod yn benodol pan welwyd y fforestydd a'r capan iâ yn crebachu tua'r un pryd. Er mwyn deall y newidiadau hyn i'r byd yn iawn, mae'n bwysig ein bod yn deall pam a phryd y cafwyd newidiadau yn y fforestydd. I wneud hyn, mae angen edrych yn ofalus ar y newidiadau yn y llystyfiant fel y'i gwelir yn y cofnod ffosilau a'r newidiadau ym maint y fforestydd. Y daearegwr arloesol o'r 19eg ganrif, Charles Lyell, a fathodd yr ymadrodd, 'y presennol yw'r allwedd i'r gorffennol'. Fodd bynnag, y neges a gawn o gofnod daearegol y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar yw mai'r gorffennol, o bosib, yw'r allwedd i ddeall y presennol.
Wedi rhewi mewn amser: y Casgliad Cenedlaethol o Adar yn Amgueddfa Cymru 12 Mehefin 2007 Glas y Dorlan: un o'r sbesimenau newydd o adar wedi'u rhew-sychu Fireo llygatgoch: aderyn mudol prin o Ogledd America a laddwyd wrth daro goleudy Ynys Enlli Hutan: aderyn mudol sy'n brin yng Nghymru; lladdwyd wrth daro Goleudy Enlli Tylluan Glustiog: aderyn magu prin ac ymwelydd gaeaf â Chymru, a laddwyd gan gar Un o gasgliadau cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru nôl ym 1915 oedd casgliad Amgueddfa Caerdydd o adar. Roeddent yn cael eu dangos mewn casys, gyda'u nythod a'u hwyau mewn dioramâu bychain o'u cynefinoedd. Bu'r casgliad hwn yn rhan bwysig o orielau'r Amgueddfa hyd at 1992. Dros y blynyddoedd, bu'r Amgueddfa'n ganolfan ar gyfer astudio llawer o adar, fel y Barcud - mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar (RSPB) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC). Rhew-sychu Erbyn heddiw, mae gan Amgueddfa Cymru gyfleusterau healeth i rew-sychu eitemau er mwyn eu cadw. Caiff sbesimenau eu rhewi mewn siambr wactod ar dymheredd o tua -20°C. O dan yr amodau hyn, mae'r dŵr sydd wedi rhewi yn y sbesimen yn cael ei wthio allan fel anwedd yn hytrach na fel hylif. Mae hyn yn gadael y sbesimen yn hollol sych ac, yn bwysig, mae ei siâp a'i faint fwy neu lai'n union yr un peth ag oeddent pan oedd yn fyw. Mae rhew-sychu yn ddull symlach o lawer na blingo - sef y dull traddodiadol o gadw'r rhan fwyaf o sbesimenau ar gyfer amgueddfeydd. Gosodir yr adar mewn ffordd sy'n golygu y gellir archwilio manylion plu'r adenydd a'r gynffon. Mae hyn yn dangos oed a rhyw'r sbesimenau. Mae'r casgliad yn cael ei anelu at adarwyr y maes ac artistiaid fel ei gilydd ac mae'n ychwanegu at gasgliad presennol yr Amgueddfa o grwyn. Ynys Enlli Ynys Enlli, oddi ar Ben Llŷn, yn y gogledd yw prif ffynhonnell y sbesimenau ar gyfer y casgliad hwn. Mae angen awyr glir ar adar sy'n mudo yn y nos er mwyn canfod eu ffordd. Os bydd yn gymylog neu'n niwlog gallant ddrysu a chânt eu denu at olau goleudy'r ynys. Maent yn hedfan o gwmpas y golau neu i lawr pelydrau'r golau a chânt eu lladd wrth daro'r tŵr. Mae warden yr ynys yn chwilio o gwmpas gwaelod y tŵr bob bore ac mae'n casglu unrhyw adar marw ac yn eu rhewi cyn eu hanfon i'r Amgueddfa yng Nghaerdydd. Rydym yn canolbwyntio ar adar o Brydain ond ceir hefyd rai rhywogaethau prin o rannau eraill o'r byd. Mae'r adar hyn a sbesimenau eraill a gawn gan y cyhoedd yn cael eu harddangos neu eu defnyddio at ddibenion addysgol gan ennyn diddordeb pobl mewn adar a gwneud iddynt edrych yn fwy gofalus ar eu hamgylchoedd. Defnyddir y casgliad i dynnu sylw at fioamrywiaeth a materion amgylcheddol, yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd a cholli cynefin ar adar sy'n mudo rhwng Prydain ac Affrica.