Rhannu Hanes Lleol ar Facebook Bella Dicks, 29 Tachwedd 2018 Rydym wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i gynnwys atgofion a ffotograffau a rennir drwy grwpiau Facebook lleol mewn arddangosfeydd bach o amgylch Cymru, prosiect hynod ddiddorol i fod yn rhan ohono.Yn y dehongliad ffres hwn, rydym nid yn unig yn cyflwyno golygfeydd a digwyddiadau gafaelgar o'r ardal leol, ond hefyd yn gofyn i'n hymwelwyr rannu eu straeon eu hunain.Byddwn yn annog ymwelwyr i ddod i Lyfrgell Wrecsam o ddydd Sadwrn (1 Rhagfyr) ac i weld golygfeydd dwys a diddorol diweddar o’r cyffiniau.Bydd yr arddangosfa wedyn yn cael ei symud i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar 8 Rhagfyr 2018.Yn y ddau leoliad, byddwn yn annog ymwelwyr i rannu eu straeon ac atgofion o'r ardal gyda ni.Ffordd arall o wneud hyn yw drwy Gasgliad y Werin Cymru.Gobeithio clywed eich stori chi cyn bo hir!
Gystadleuaeth Ffotograffiaeth 2018 Penny Dacey, 26 Tachwedd 2018 Helo Cyfeillion y Gwanwyn,Diolch am yr holl waith yr ydych wedi gwneud ac am rannu eich lluniau! Roedd o'n hynod o galed i ddewis dim ond pum enillydd. Mae'r lluniau a ddewiswyd yn dod o ysgolion yng Nghymru sef ddim yn cymryd rhan yn y prosiect estyniad Edina.Dyma'r enillwyr:Llanyrafon Primary SchoolPeterston Super Ely CiW Primary SchoolSt Philip Evans Catholic PrimaryYsgol Gymraeg AberystwythYsgol LlandwrogDiolch yn fawr i bob ysgol a rannodd eu lluniau. Oedd o’n wych i weld y holl waith rydych wedi gwneud a'r hwyl gawsoch!Cadwch lan gyda'r gwaith caled Cyfeillion y Gwanwyn,Athro'r Ardd
#DiolchynFawr Chris Kelly, Swyddog Codi Arian a Datblygu, 26 Tachwedd 2018 Mae mis Rhagfyr yn gyfle gwych i ni fel sefydliad ddweud diolch wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eich cyfraniadau hael, sy'n ein helpu'n fawr gyda'n gwaith bob dydd.Bydd yr 20 chwaraewr Loteri Genedlaethol cyntaf i ymweld ag un o'n hamgueddfeydd cenedlaethol rhwng 3 a 9 Rhagfyr 2018 yn cael anrheg am ddim!Bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre; ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis i gyd yn cymryd rhan.Cyflwynwch eich tocyn yn siop yr Amgueddfa os gwelwch yn dda.Cyn gynted ag y bydd yr 20 anrheg wedi mynd ym mhob lleoliad, byddwn yn gwneud cyhoeddiad drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol.Mae Sain Ffagan wedi elwa'n ddiweddar o gyllid y Loteri Genedlaethol. Dyfarnwyd £11.5m i ni yn 2012 i ddechrau ailddatblygu'r Amgueddfa, y grant mwyaf erioed i gael ei ddyfarnu yng Nghymru gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Diolch i gyfraniadau hael chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, cyfrannodd dros 3,000 o wirfoddolwyr a 120 o fudiadau cymunedol, elusennau stryd a grwpiau lleol o bob rhan o Gymru at y gwaith ailddatblygu gwerth £30m.Mae cymryd rhan yn y fenter #DiolchynFawr yn un ffordd y gallwn ni ddweud diolch wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a'r Loteri Genedlaethol.Telerau ac amodau:● Cyflwynwch un tocyn Loteri Genedlaethol i hawlio eich anrheg am ddim yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre; neu Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis● Mae pob un o gemau'r Loteri Genedlaethol yn gymwys am yr anrheg am ddim. Gallwch chi brofi eich bod yn chwarae’r Loteri drwy docyn copi caled neu docyn digidol.● Mae'r cynnig yn ddilys rhwng 3 a 9 Rhagfyr 2018 hyd nes y bydd yr 20 rhodd am ddim ym mhob amgueddfa wedi cael eu rhoi allan.● Os bydd ymholiadau ar y diwrnod, bydd penderfyniad y rheolwr yn derfynol.
Parhad a diwedd "Rhyfeddodau ein harchif sain" Pascal Lafargue, 20 Tachwedd 2018 YR IAITH GYFRINDoeddwn i erioed wedi clywed am rywbeth fel hyn, ond rwy’n deall nawr bod y ffenomenon yn bodoli yn Lloegr a gweledydd Ewropeaidd eraill fel Denmarc, yr Iseldiroedd a Ffrainc. Mae Gwenllian M. Awbery, Is geidwad yng ngofal yr archif sain ac astudiaethau tafodieithol yn Sain Ffagan yn y 70au a’r 80au, wedi recordio 9 person arall yng Ngogledd Cymru yn trafod yr iaith gyfrin. Gallwch chi ddarllen ei gwaith diddorol ar http://www.draenog.co.uk/VLibrary.htm
Rhyfeddodau ein harchif sain Pascal Lafargue, 20 Tachwedd 2018 Dechreuodd staff Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru recordio hanesion pobl ym 1958, gan deithio Cymru gyda Land Rover a charafán. Ers hynny, mae haneswyr, cerddorion, ieithyddion ac ymchwilwyr wedi bod yn darganfod trysorau ymhlith y 13,000 o recordiadau sain sydd yn y casgliadau heddiw. Yma clywir lleisiau o bob math; o ffermwyr, glowyr a chwarelwyr i botswyr, meddygon esgyrn, carcharorion rhyfel o’r Eidal ac Iddewon Cymreig, mae rhywbeth yma i ddiddori pawb. Wrth darllen manylion y siaradwyr cyntaf yng nghronfa ddata’r casgliad sain, sylweddolais bod nifer wedi eu geni yn y 19eg ganrif, ac un ddynes oedd wedi’i geni ym 1865! Oherwydd hyn, gallwn ni ddarganfod byd gwahanol yn y recordiau, lle oedd bywyd yn anodd iawn ond hefyd yn llawn brawdoliaeth. Byd llawn ofergoelion, ysbrydion a chreaduriaid o bob math...Felly pan ddechreuais i ddigideiddio ein casgliad, roeddwn i’n gwrando gyda chyfaredd ar yr hyn oedd y tapiau yn eu dadorchuddio, roedd yn fêl i’r glust. Roedd y tapiau cyntaf yn hynod ddiddorol gan fod nifer yn fy atgoffa i o acen ein ffermwyr ni yn Llydaw – roedd hynna’n deimlad rhyfedd a rhyfeddol.Ond rhaid cyfaddef, ar ôl digideiddio miloedd ar filoedd o recordiadau stopiodd fy meddwl dalu sylw bob yn dipyn. Fel rhyw mantra cyfrin Cymreig, roedd y lleisiau yn mynd i mewn drwy un glust ac allan drwy’r llall, a’r sain analog yn troi’n ddigidau a rhifau ym mhob ystyr y gair! Ond weithiau, fodd bynnag, roedd pytiau o sain fel larwm yn tynnu fy sylw. Perlau soniarus ar goll yn y mor o sŵn yn codi i’r wyneb...Dyma isod tri enghraifft ohonynt fy mod yn cynnig i chi wrando ar: YR HWYLFy nheimlad cyntaf wrth glywed y recordiad hwn oedd bod gan y dyn yma broblem go iawn. Roeddwn ni hefyd yn dechrau amau bod fy hen nain yn iawn pan fyddai hi’n dweud bod y Protestaniaid wedi damnio! Mae rhywbeth bygythiol a dychrynllyd yn y ffordd mae’n cyfathrebu, fel petai’r llais yn dod o fyd gwahanol. Y GWAEDDWRDw i’n hoffi y ffordd y mae’r gwerthwr yma yn hanner canu, hanner gweiddi. O’i gymharu â’r enghraifft gyntaf, mae’n fodd tangnefeddus a difyr o gyfathrebu. (I'w barhau yn y blog nesaf).