Museum Advent Katie Mortimer-Jones, 19 Tachwedd 2018 We are busy preparing our Natural History #MuseumAdvent calendar and we couldn't resist sharing with you a sneak preview! This year the backdrop for the calendar is a snowy National Museum Cardiff. Each of our 24 natural science curators and scientists have selected one of their favourite objects from the collections to showcase each day. The advent calendar will feature on the @CardiffCurator Twitter account, so why not tune in each day and see what natural science specimen or object is behind each door. The calendar will feature plants, insects, sea worms, shells, fossils, minerals, seaweed and diatoms to name but a few. Once we have opened all of the doors, we will reveal the curators behind the favourite objects.
Cofiwch gymryd cofnodion tywydd Penny Dacey, 7 Tachwedd 2018 Helo Cyfeillion y Gwanwyn,Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu gwyliau hanner tymor!Rwyf isio ddweud diolch mawr i bawb am eich gwaith caled ar y diwrnod plannu. Cafodd dros 17,000 o fylbiau ei blannu ar draws y wlad! Welais o’r llunia bod pawb wedi cael llawer o hwyl yn helpu!Wnaeth Cofnodion Tywydd cychwyn ar 5 Tachwedd. Mae 'na adnoddau dysgu ar y wefan i helpu paratoi am gymryd cofnodion tywydd. Rwyf wedi atodi hyn rhag ofn bod rhai heb ei gweld eto. Mae’r adnodd hyn yn helpu ymateb cwestiynau pwysig fel ‘pam mae mesur tywydd yn bwysig i’n harbrawf o’r effaith mae’r hinsawdd yn cael ar ddyddiad blodeuo bylbiau gwanwyn’!Defnyddiwch eich siart tywydd i gofnodi'r glaw a’r tymheredd pob ddiwrnod ysgol. Ar ddiwedd yr wythnos, cofnodwch mewn i’r wefan i rannu eich canfyddiadau. Fedrwch hefyd gadael sylwadau a chwestiynau i fi ymateb yn fy blog nesaf!Plîs gadewch i mi wybod sut ydych yn wneud, a rhannwch luniau trwy Twitter ac e-bost.Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn,Athro’r Ardd
Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru Jennifer Evans, 6 Tachwedd 2018 Mae archif y Llyfrgell yn cynnwys deunyddiau sy’n taflu goleuni ar hanes cynnar yr Amgueddfa a bywyd Caerdydd ar ddechrau’r 20fed ganrif. Wrth i ni nesáu at ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, dyma fwrw golwg ar yr ymdrechion i greu Cofeb Ryfel Genedlaethol i Gymru. Sbardunwyd yr ymgyrch i sefydlu cofeb genedlaethol yng Nghaerdydd gan y Western Mail ym mis Hydref 1919. Sefydlwyd pwyllgor i oruchwylio’r project dan arweiniad yr Arglwydd Faer ar y pryd, G. F. Forsdike. Caeodd y gronfa ym 1921 wedi codi £27,500 a chynigiwyd comisiwn i Syr Thomas Brock ddylunio’r gofeb – ef oedd wedi dylunio cofeb Fictoria tu allan i Balas Buckingham. Fodd bynnag, er bod y dyluniad yn “brydferth ac urddasol” [1], roedd yn rhy ddrud a bu farw Brock cyn iddo allu cyflwyno cynnig arall. Felly, ym 1924 gwahoddwyd grŵp dethol o benseiri i gyflwyno dyluniadau. Yr enillydd oedd Ninian J. Comper, gaiff ei ystyried heddiw yn un o benseiri mawr olaf yr Adfywiad Gothig [2]. Roedd y pwyllgor eisiau gosod y gofeb ar ddarn crwn o dir o flaen Neuadd y Ddinas. Mae gan y Llyfrgell ddarluniau gwreiddiol yn dangos y safle hwn. Maent wedi’u llofnodi gan A. Dunbar Smith, a ddyluniodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda’i bartner Cecil Brewer. Bu rhywun wrthi’n ddyfal yn cynhyrchu collage sy’n dangos i ni sut y byddai’r gofeb wedi edrych yn y lleoliad hwn. Mae gennym nifer o ffotograffau maint A3 o’r olygfa o flaen Neuadd y Ddinas, gyda llun model o’r gofeb wedi’i dorri allan a’i osod ar y llun mwy. Wyddom ni ddim pwy wnaeth hyn, ond mae’n amlwg bod y lluniau wedi apelio, gan mai’r cam nesaf oedd creu ffrâm maint-llawn o’r gofeb yn ei lle. Mae gennym ffotograffau yn dangos y ffrâm yn ei lle gyda chynfas drosti. Fodd bynnag, gwrthwynebwyd y cynllun gan yr Amgueddfa a Neuadd y Ddinas [3]. Hawdd yw deall pam, o weld pa mor agos fyddai’r gofeb fawr wedi bod i’r ddau adeilad. Felly roedd rhaid mynd ati i greu collage arall yn dangos y gofeb mewn lleoliad gwahanol. Yn y ffotograff hwn, sydd wedi’i dynnu ar Heol y Frenhines yn edrych tuag at Barc Cathays, mae’r model wedi’i osod yng Ngerddi’r Brodordy. Yn anffodus, gwrthodwyd y lleoliad hwn gan Ardalydd Bute, gan ei fod wedi nodi wrth drosglwyddo Parc Cathays i ofal y ddinas na ddylid codi adeiladau ar y safle hwnnw [4]. Yn ffodus, erbyn Awst 1925 roedd safle wedi’i ddewis ar gyfer y gofeb, sef Gerddi Alexandra, a chafodd Comper fwrw ymlaen â’r gwaith o’r diwedd. Bu wrthi o fis Mawrth 1926 tan ddechrau 1928, gyda’r gwaith adeiladu dan ofal E. Turner a’i Feibion. Yn ôl papurau newydd o’r cyfnod, daeth Tywysog Cymru i ddadorchuddio a chysegru’r gofeb o flaen bron i 50,000 o bobl, ar 12 Mehefin 1928. Yn ôl un adroddiad, cafodd y Tywysog wers Gymraeg gan David Lloyd George ar y trên o Lundain, er mwyn iddo draddodi rhan o’i araith yn Gymraeg [5]. Llun: Trwy garedigrwydd gan y Western Mail Mae mwy o eitemau diddorol ynglŷn â’r gofeb a’r Rhyfel Byd Cyntaf i’w gweld yma. Cyfeiriadau Welsh National War Memorial Official order of service at the ceremony of unveiling and dedication by H.R.H. The Prince of Wales on June 12th 1928. Caerdydd: Western Mail, t.8. Symondson, A. & Bucknall, S. 2006. Sir Ninian Comper: an introduction to his life and work with complete gazetteer. Reading: Spire Books, t.198. Welsh National War Memorial Official order of service at the ceremony of unveiling and dedication by H.R.H. The Prince of Wales on June 12th 1928. Caerdydd: Western Mail, t.10. Gaffney, A. 1998. Aftermath: Remembering the Great War in Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.45. Ffeil toriadau Llyfrgell Amgueddfa Cymru [Daily Chronicle 15/06/28].
Lava medallions - Souvenirs from a volcano Andrew Haycock, 22 Hydref 2018 Lava medallions and coins in lava from Mount Vesuvius, ItalyThe National Museum Wales Petrology (Rock) collection comprises 35,000 specimens, with many interesting rock samples from across Wales and the wider World. In the drawers of the Italian collection, alongside the pumice, volcanic ash and obsidian are these curious rocks. What are lava medallions?They are called lava medallions, medals or tablets, and along with coins embedded in lava they were probably first produced in the mid-18th Century when the ‘Grand Tour’ become fasionable among the wealthy elite of Europe. Taking in European cities like Paris, Rome, Venice, Florence and Naples, the ‘students’ would travel with a tutor on a Grand Tour to learn about languages, geography, culture, art and architecture. When passing through Naples, the volcano of Mount Vesuvius (Vesuvio) became a must see stop on the tour. Forget postcards, fridge magnets and selfies, the take home souvenir of the day was the lava medallion! People have long been fascinated by destructive power of Mount Vesuvius, the volcano had lain dormant for centuries before the famous eruption in 79 A.D. when the Roman cities of Pompeii and Herculaneum were destroyed. Over the last two thousand years, the volcano has erupted many times. Between eruptions, Vesuvius can lie almost dormant for long periods of time before erupting violently once again. Volcanoes the world over that erupt in this explosive style after long periods of dormancy are known as Vesuvian eruption volcanoes. How were lava medallions made?To make a lava medallion, molten lava would have been retrieved (by some very brave individual with a long stick!) from a recent lava flow or lava close enough to the surface that was accessible and still hot enough to be malleable. It was then moulded, pressed with a stamp, or embedded with a coin, cooled in a bucket of water and sold to a passing grand tourist.The French Revolution in 1789 marked then end of Grand Tours as they were known, but with the advent of the railways in the early 19th Century and the beginnings of mass tourism, these distinct souvenirs once again became popular take-home keepsakes, and they were produced in their thousands.Over the years many of these medallions and lava coins have found their way into museum collections across the world. They often depict kings, Roman Emperors, famous scientists or events. All of the medallions and coins in the AC NMW collection date from the 19th Century, and originate from Mount Vesuvius, but examples in other collections have originated from Mount Etna, Sicily. If you would like to know more about lava medallions, please contact Andrew Haycock via:https://museum.wales/staff/665/Andrew-Haycock/
Diwrnod plannu Penny Dacey, 19 Hydref 2018 Helo Cyfeillion y Gwanwyn, Mae'n bron diwrnod plannu ar gyfer ysgolion yn Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon! Bydd ysgolion yn Yr Alban yn plannu wythnos nesa.Cliciwch yma ar gyfer adnoddau i'ch paratoi ar gyfer heddiw ac am ofalu amdan eich bylbiau dros y misoedd nesaf! Dylech ddarllen y dogfennau hyn:• Mabwysiadu eich Bwlb (trosolwg o’r gofal fydd angen ar eich Bylbiau)• Plannu eich bylbiau (canllawiau ar gyfer sicrhau arbrawf teg)A chwblhewch y gweithgareddau hyn:• Tystysgrif Mabwysiadu Bylbiau• Creu Labelai BylbiauMae'n bwysig eich bod yn darllen y rhain oherwydd maent yn cynnwys gwybodaeth bwysig! Er enghraifft, ydych chi'n gwybod i labelu eich potiau fel mae’n glir lle mae'r Cennin Pedr a Chrocws wedi eu plannu? Cofiwch dynnu lluniau o'ch diwrnod plannu i gystadlu yn y Gystadleuaeth Ffotograffydd Diwrnod Plannu! Cadwch lygad ar dudalen Twitter Athro'r Ardd i weld lluniau o ysgolion eraill. Pob lwc! Gadewch i ni wybod sut mae'n mynd!Athro'r Ardd a Bwlb Bychan