Gemau a Chrisialau o Gymru 23 Gorffennaf 2009 Mae mwynau wedi chwarae rhan bwysig iawn yn natblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru ers yr Oes Efydd . Byth oddi ar y cyfnod hynafol hwnnw, mae brigiadau mwynol a mwyngloddiau wedi cael eu gweithio ledled Cymru, gan y Rhufeiniaid, mynachod Sistersaidd, cymeriadau enwog byd mwyngloddio'r ail ganrif ar bymtheg megis Thomas Bushell, ac yna ymlaen hyd oes aur y diwydiant mwyngloddio metelau yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan aed ati i agor siafftiau neu fwyngloddiau ar frigiad bron pob gwythïen a ffawt y wlad. Ar hyn o bryd mae oddeutu 4,900 o wahanol fathau o fwynau yn cael eu cydnabod yn fyd-eang, ac mae presenoldeb 430 ohonynt wedi'i gadarnhau yng Nghymru. Yma, cyflwynir detholiad o ddelweddau o fwynau a gedwir yn storfeydd Amgueddfa Cymru, gan ganolbwyntio ar rai o'r enghreifftiau mwyaf lliwgar yn y casgliadau. Gemau a Chrisialau Crisial o fflworsbar (17 mm x 12 mm) ac ynddo gylchfâu o liw, o Ferthyr Tudful. Fflworsbar yw un o'r mwynau cyntaf i'w gyfnodi yng Nghymru. Llun: M.P. Cooper. Crisial byrddol, glas o anatas o Danygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Llun: D.I. Green. Clwstwr o grisialau prismatig linarit (1.5 mm yw hyd y mwyaf). Mwynglawdd Dolwen, ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper. Clwstwr o grisialau asurfaen, o Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green. Crisialau asurfaen ar eu traed eu hunain ar galsit tyllog. Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green. Calcanthit o lefel 16 gwrhyd, Gwythïen Carreg-y-doll, Mynydd Parys. Mae crisialau naturiol yn brin iawn, er bod modd cynhyrchu rhai artiffisial yn ddidrafferth. Llun: D.I. Green. Crisialau llafnog o wroewolffeit, hyd at 1 mm o hyd, o Fwynglawdd Eaglebrook. Crisialau langit (hyd at 1 mm o hyd) o lefel-brawf gopr Lodge Park, ger Tre'r-ddôl, ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper. Clystyrau rheiddiol o'r mwyn tyrolit, ynghyd ag asurfaen, mewn calchfaen. Chwarel Dôl-hir. Llun: D.I. Green. Casgliadau sfferaidd mân iawn o schmiederit o Fwynglawdd Llechweddhelyg, Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Maes gwelediad 3 mm o led. Llun: D.I. Green. Rhosglymau o serpierit (hyd at 5 mm o hyd) o Fwynglawdd Ystrad Einion ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper. Crisialau hirfain, tebyg i nodwyddau bach, o awricalsit o Chwarel Machen. Crisialau byrddol o'r mwyn botallakit o Gwm Nedd, de Cymru. Llun: T.F. Cotterell. Clwstwr o grisialau defilin (hyd at 0.75 mm ar draws) o gyffiniau'r Bont-ddu, Gwynedd. Llun: M.P. Cooper. Microgrisialau llafnog, gwyrddloyw golau o lawtenthalit, o Fwynglawdd Eaglebrook. © D.I. Green. Clwstwr cywrain o grisialau redgilit o Fwynglawdd Eaglebrook. Llun: D.I. Green. Crisialau brochantit ar ffurf dici-bô, o Fwynglawdd Eaglebrook. Llun: D.I. Green. Crisialau ramsbeckit (1.5 mm) o Fwynglawdd Pen-rhiw. Llun: D.I. Green. Clystyrau o redgilit ynghyd â brochantit, o Fwynglawdd Eaglebrook. Llun: D.I. Green. Crisialau llafnog o'r mwyn brochantit (hyd at 0.5 mm ar draws) o lefel-brawf gopr Lodge Park ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper. Haen werdd o ddeunydd anhysbys ar nodwyddau o'r mwyn milerit, o Fwynglawdd Wyndham Deep. Arferid credu mai morenosit ydoedd ond mae dadansoddiad pelydr-X diweddarach, a wnaed gan Amgueddfa Cymru, wedi methu cadarnhau hynny. Mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu mai nicelhecsahydrit yw'r haen werdd. Llun: M.P. Cooper. Crisialau prismatig, gloyw o epidot o Fae Marloes, Sir Benfro. Llun: D.I. Green. Blociau o grisialau enargit ar fflworsbar, o Fynydd Helygain, Sir y Fflint. Llun: T.F. Cotterell. Barytocalsit o Fwynglawdd Mwyndy, Llantrisant. Llun: M.P. Cooper. Crisial melynllwyd, chweochrog, 2.5 mm o hyd o ewaldit o Chwarel Dôl-hir. Mae ewaldit yn fwyn prin iawn. © D.I. Green. Pyrit — crisial ciwbig rhychedig, clasurol (10 mm x 12 mm) mewn llechfaen Cambriaidd o Chwarel y Penrhyn, Bethesda, Gwynedd. Crisialau maen tân (marcasit) ar ffurf olwynion cocos hyd at 10 mm ar draws, o Fwynglawdd Gwynfynydd ym Maes Aur Dolgellau. Crisial melyn o risial trwm (barytes), Mwynglawdd Mwyndy, Llantrisant. Llun: M.P. Cooper. Nodwyddau o goethit, hyd at 4 mm o hyd, o Faes Aur Dolgellau. Llun: M.P. Cooper. Goethit rheiddiol o Fwynglawdd Mwyndy, Llantrisant, Morgannwg Ganol. Llun: M.P. Cooper. Crisial oren (1 mm) o'r mwyn monasit yn gysylltiedig â chwarts, o Fronoleu, ger Pren-teg, Gwynedd. Llun: M.P. Cooper. Crisialau melyn, prismatig o risial trwm (barytes) (hyd at 7 mm o hyd) o Dŷ Peiriant Llwyn-saer, Mwynglawdd Mwyndy. Llun: M.P. Cooper. Crisialau plwm melyn (wlffenit) (hyd at 1 mm o hyd) o Fwynglawdd Elgar. Llun: D.I. Green. Plwm melyn (wlffenit) byrddol ar hemimorffit, o Fwynglawdd Bwlchrhennaid. Llun: M.P. Cooper. Crisial byrddol mawr o blwm melyn (wlffenit) (5 mm yw hyd yr ymyl) o Fwynglawdd Llechweddhelyg, Ceredigion. Cnepyn dŵr-dreuliedig o aur yn pwyso 6.5 g ac yn 20 mm o hyd. Fe'i darganfuwyd yng ngwely afon Eden yn 2001 yn dilyn fflachlifau enbyd. Mae cnepynnau o'r maint hwn yn hynod brin yng Nghymru. © J.S. Mason. Rhosglwm o syncysit (2 mm ar draws), wedi'i trawsnewid yn rhannol, o Chwarel Gloddfa Ganol, Gwynedd. Llun: T.F. Cotterell. Wafelit prismatig, gwydrog ynghyd â chacocsenit sfferaidd, o draeth Pwll-du, Bro Gŵyr. Llun: D.I. Green. Crisialau gefeilliog anarferol o siderit yn gysylltiedig â sffalerit (brown; canol dde) a milerit (nodwyddau pŵl), o Bwll Glo Wyndham. Calcopyrit tetrahedrol (crisialau hyd at 0.5 mm ar draws), Pwll Glo Caerau, Maesteg. Calcopyrit yw prif fwyn copr. Llun: M.P. Cooper. Crisial byrddol o'r mwyn brwcit, o Fronoleu, Pren-teg. Mae'r crisial yn 20 mm o hyd. Llun: M.P. Cooper. Crisialau di-liw, prismatig a lluniaidd o hemimorffit mewn ceudod mewn gwythïen o risial trwm (barytes). Chwarel Machen. Crisialau deubyramidaidd, brown cochlyd o anatas (hyd at 1.5 mm o ran maint) o Chwarel Hendre, Glyn Ceiriog. © M.P. Cooper. Brwcit byrddol (2.5 mm ar draws) ac anatas, o Chwarel Hendre. © M.P. Cooper. Crisialau ciwbig o'r mwyn cwprit (hyd at 0.2 mm sgwâr), o lefel-brawf gopr Lodge Park, ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper. Santhoconit o Chwarel Dôl-hir. Llun: D.I. Green, © D.I. Green. Crisial gemog coch o'r mwyn proustit (1 mm o hyd) o Chwarel Dôl-hir, Pencraig, Maesyfed. Mae proustit yn un o fwynau prinnaf Cymru ac mae galw mawr amdano ymhlith casglwyr. © D.I. Green. Cramen o erythrit ar gwarts o Faes Aur Dolgellau. Llun: D.I. Green. Crisialau wythochrog o'r mwyn cwprit (hyd at 0.09 mm ar draws), o Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green. Microgrisialau disglair, pinc o erythrit o Fwynglawdd Clogau. Mae erythrit, a gâi ei alw'n 'fflŵr cobalt' gan fwynwyr, yn fwyn amlwg iawn, oherwydd ei liw pinc llachar. Llun: M.P. Cooper. Crisial di-liw o gwarts, Penmaendewi. Llun: D.I. Green. Crisial ciwbo-wythochrog o siegenit (1.5 mm ar draws) ar siderit. Pwll Glo'r Gelli, Morgannwg Ganol. Llun: M.P. Cooper. Crisial prismatig o syncysit, ynghyd ag anatas a rhyw fymryn o senotim. Chwarel Cwmorthin, Gwynedd. Llun: D.I. Green. Crisialau gemog, di-liw o'r mwyn ceriwsit (1—2 mm ar draws), o Fwynglawdd Rhyd Fach, ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper. Crisial byrddol o risial trwm (barytes), maes glo de Cymru. Llun: M.P. Cooper. Clwstwr o'r mwyn milerit (25 mm o hyd) ar siderit o faes glo de Cymru. Mae milerit yn haeddu cael ei gydnabod yn un o fwynau enwocaf Cymru, dyfarniad y mae'n ei rannu ag aur, brwcit ac anglesit. Llun: M.P. Cooper. Senotim prismatig, lliw hufen, yn gysylltiedig ag anatas deubyramidaidd, o Flaenau Ffestiniog. Llun: D.I. Green. Electronmicrograff sganio o glystyrau dici-bô o agardit-(Y). Hyd y gwyddom, mae agardit-(Y) i'w cael ar dri safle yn unig yn y Deyrnas Unedig — un yng Nghymru, sef Mwynglawdd Gwaith-yr-afon yn y canolbarth, a dau yng Nghernyw. Delwedd electronmicrograff sganio, modd ôl-wasgaru, o grisial cymhleth o albit, ynghyd ag anatas (llwyd golau; chwith, pen uchaf), Chwarel Gloddfa Ganol, Blaenau Ffestiniog. Electronmicrograff sganio o grisial deubyradmidaidd o anatas (0.5 mm), Chwarel Cwmorthin, Blaenau Ffestiniog. Electronmicrograff sganio o ddarn bach o grisialau blociog arsentsumebit o Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green. Electronmicrograff sganio o grisial unigol o'r mwyn beudantit o Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green. Electronmicrograff sganio o grisial o ewaldit, yn dangos patrymau tyfu grisiog, o Chwarel Dôl-hir. Mae ewaldit yn fwyn hynod brin sydd, hyd yma, ond wedi'i gofnodi ar dri safle arall yn y byd. Electronmicrograff sganio o glwstwr o grisialau harmotom, o Chwarel Dôl-hir. Electronmicrograff sganio o grisialau hynod brin mattheddleit. Dim ond mewn ambell fan yng Nghymru y ceir crisialau o fattheddleit, a'r rheiny ar ffurf microsgopig. Electronmicrograff sganio o grisial lluniaidd o realgar, o Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green. Electronmicrograff sganio o grisialau haenaidd o syncysit-(Ce), o Chwarel Dôl-hir, ger Pencraig, Maesyfed. Delwedd: T.F. Cotterell. Electronmicrograff sganio o grisialau perffaith o senotim-(Y), llai na milimetr o ran eu maint ac ar lun Colofn Cleopatra, o Chwarel Cwmorthin ger Blaenau Ffestiniog, Gwynedd. Mae abhurit i'w gael dim ond ar ingotau tun mewn llongddrylliadau. Fe'i crëir gan adwaith cemegol rhwng tun a'r ïonau clorid sydd i'w cael mewn dŵr môr. Dengys yr electronmicrograff sganio yma y crisialau haenaidd o abhurit y cafwyd hyd iddynt ar ingotau tun a achubwyd o'r llong hwyliau Liverpool, a ddrylliwyd oddi ar arfordir Môn. Electronmicrograff sganio o grisial o byrit. Mae pyrit i'w gael mewn amryw o wahanol amgylchiadau daearegol, gan gynnwys creigiau gwaddod, igneaidd a metamorffig o bob oes. Electronmicrograff sganio o grisial pyramidaidd alstonit (y crisial mwyaf) ynghyd â chrisialau pennau dwbl, llai o'r mwyn paralstonit, o Chwarel Dôl-hir.
Pottery sorting workshops Steve Burrow, 23 Gorffennaf 2009 Festival of British Archaeology 2009Sian, who ran yesterday's pottery sorting workshop at National Museum Cardiff, sent me a photograph of some of the joining sherds they found among the mass of material from the Llandaff Cathedral School excavations (see earlier post for background).They may not look like much, but by reconstructing these broken pots it's possible to work out what type of vessel they were once part of, what that vessel might have been used for, and sometimes when the pot was made. So, important stuff.And how did we find these joining pieces from among the many hundred sherd jigsaw puzzle that came from the excavation? We enlisted the help of dozens of sharp-eyed museum visitors who were willing to spend some time, sorting, grouping, and fitting pieces together.For visitors it was an interesting way to pass some time, for us it was an opportunity to make sense of the finds from an important site.
Andrew continues the bell making experiments Steve Burrow, 23 Gorffennaf 2009 Festival of British Archaeology 2009On Tuesday, Andrew Murphy, blacksmith at St Fagans continued the challenge to make a replica of an early medieval bell, begun by Tim Young earlier in the week. While Tim, had worked on brazing the body of the bell, Andrew worked on the handle. This is a loop which passes into the bell so it can be held from the top, while the bell’s clapper hangs from a hook inside.Andrew had several attempts at replicating the shape of the original bell’s handle over the course of the day, with each attempt getting closer to the form we were after, and the event was enjoyed by the public throughout the day.
Gwylio ffilm animeiddio mewn t? crwn Ian Daniel, 21 Gorffennaf 2009 Heidiodd ymwelwyr i’r Pentref Celtaidd dros y diwrnodau diwethaf i ymuno â ni wrth ddathlu G?yl Archeoleg Prydain. Yr uchafbwynt i mi heb os oedd dangos yr animeiddiad, Dadeni, gan Sean Harris, ar lawr y t? crwn. Am awyrgylch iasoer wrth i bawb rythu trwy’r tywyllwch at y delweddau symudol ar lawr. Gweld y pair, y twrch trwyth a’r milwyr yn dawnsio o gwmpas y llawr pridd. Roedd yr awyrgylch yn hudol ac yn gwneud i mi feddwl am ein hen gyndeidiau yn ymgasglu gyda’i gilydd o gwmpas y tân i hel straeon. Trwy gydol y diwrnodau diwethaf bu Tim Young a’i griw yma hefyd yn ceisio ail-greu’r grefft goll o wneud clychau llaw y Cristnogion cynnar. Arbrawf difyr a’r tan naill ai’n rhy gynnes neu ddim yn ddigon cynnes. Mae tipyn gennym i’w ddysgu o hyd am grefft y gorffennol. Mae’r gweithgareddau’n parhau tan yr 2ail o Awst. Dewch draw y penwythnos hwn, y 25ain a 26ain o Orffennaf, i weld y gleiniau gwydr hardd neu i ymuno yn fy ngweithdai peintio. Dewch a bach o liw i’r Oes Haearn!
Piecing together the past Chris Owen, 21 Gorffennaf 2009 Festival of British Archaeology 2009Today’s events at National Museum Cardiff were Shadow Puppetry and Pottery Sorting.I won’t write too much about the Shadow Puppet workshops because I covered these in a previous post – suffice it to say that they continued to be hugely popular with children, a fact demonstrated by the quantity of cut up paper and bits and bobs left behind when the crowds finally cleared.The Pottery Sorting was a new thing though. Here, visitors were helping museum staff with the real business of archaeology. Back in 2002, an excavation was carried out at Llandaff Cathedral School in Cardiff and a very large quantity of 13th and 14th-century pottery was found. This was all brought back to the museum and staff have slowly been sorting it out. But there are only so many hours in a day and this is an awful lot of pottery so, as part of last year’s National Archaeology Week, we asked the public to help us make sense of it all. The event was so popular – and we still had so much pottery left over – that we ran it again this year.So, with the help of about a hundred children and adults, Sian and Louise from the museum’s archaeology department spent today sorting the broken pottery into different types: glazed and unglazed, rims, bases and decorated pieces.It proved to be a surprisingly addictive activity, with one girl staying to help out for over an hour, and a visiting Californian potter finding herself drawn into the challenge of grouping the sherds, and trying to track down elusive joins between pieces. Sadly, no joining pieces were found but, as Sian said: “there’s always tomorrow”.And tomorrow the team will be joined by Mark Redknap, the museum’s medievalist who will be helping to make sense of it all.