'Straeon o grombil y ddaear' - atgofion Ray Isted, glowr Bois Bevin 4 Ionawr 2008 Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943-9 Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943 - 1949 Ges i ngeni yn Herstmonceux, Dwyrain Sussex. Gadawes i'r ysgol yn 14 oed i fynd i weithio mewn ffatri oedd yn gwneud rhannau i geir. Pan ddes i'n 18 oed, ges i alwad i fynd i Brighton i gael prawf meddygol. Roeddwn i eisiau ymuno â'r fyddin, ond a dweud y gwir bydden i wedi bod yn ddigon bodlon aros gartre! "Daeth fy rhif i lan yn y balot i fynd i'r pyllau glo ac fe anfonon nhw fi i Ganolfan Hyfforddi Oakdale. Fues i'n lletya gyda Mrs Jones yn Rhisga, fi a Wyndham Jones, cocni oedd â pherthnasau yn Abertyleri. Cawson ni chwech wythnos o hyffordiat yn Oakdale (roedd Wyndham 'fel menyw' ar y rhaw) a'n hala wedyn i Lofa Roseheyworth. Roedd rhaid inni wisgo'n dillad ein hunain yn y gwaith. Fy rhieni roddodd fy nillad i fi ac roeddwn i'n arfer eu hala nhw adre i Sussex bob wythnos i mam gael eu golchi nhw. Roedd hi'n arfer dweud 'Byddai'n well gen i weld Raymond yn mynd i'r fyddin na lawr y pwll' — roedd hi'n meddwl bod y cyfan yn ofnadwy, a bod y Cymry'n byw mewn ogofâu. "Ar ôl sbel es i weithio gyda Sid Fox ar hedin lle bydden ni'n llanw 13 neu 14 dram bob shifft — byddai Sid yn rhoi rhyw £3 o 'arian cnoco' i fi. Pan fyddai Sid yn sâl, fydden i'n gweithio ar yr hewl gyda Gerald Williams. "Gerald gyflwynodd fi i Phyllis ar ryw noson mâs - roeddwn i'n swil ac yn ffaelu dawnsio a dyna'r unig ffordd i'w gwneud hi yn y dyddiau hynny. Ond yn y diwedd, dyna'r unig ferch i fi fynd mâs gyda hi erioed ac r'yn ni'n briod ers 58 o flynyddoedd mis Awst yma (2005). Priodas dawel geson ni, roedd fy rhieni i'n sâl ac yn ffaelu dod lawr a doedd neb arall yna ar fy ochr i o'r teulu. I Weston Super Mare aethon ni ar ein mis mêl. Doedd y wraig newydd ddim am setlo yn Eastbourne, felly aros yng Nghymru wnaethon ni. Roedd hi wastad yn 'Helo Ray' bob deg munud yng Nghymru - yn Eastbourne gallech chi gerdded o gwmpas am chwe mis a fyddai torri gair â chi! "Bues i'n gweithio yn y pyllau am chwe mlynedd. Rwy'n cofio goruchwyliwr yn pwyntio ata i a dweud wrth rywun 'Chi'n gweld y bachan 'na? Bachgen Bevin sy'n dal i weithio yma — ni'n ffaelu cael gwared arno fe!' Fe godes i'r acen hyd yn oed i ryw raddau, ond i atal pobl rhag gwneud hwyl ar ben fy acen Sussex i y gwnes i hynny. Erbyn hyn rwy'n teimlo'n fwy o Gymro na'r wraig!" Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o'r cylchgrawn 'Glo' a gynhyrchwyd gan gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r cylchgrawn i gyd yma:
'Straeon o grombil y ddaear' - atgofion glowr Bois Bevin 4 Ionawr 2008 Bod yn Bachgen Bevin yn Glofa Cwm 1944-1947, gan Mel Harris. Mel Harris, Bachgen Bevin, Glofa Cwm 1944-1947 Fe wnes i sawl swydd ar ôl i Ernest Bevin fy anfon i'r pwll glo yn lle'r RAF. Bues i'n gweithio gyda chywirwr a haliwr, gyda thaniwr, ac fel y cyd-deithiwr ar y dramiau — wastad yn wrthryfelwr, yn anfodlon, a heb unrhyw ddiddordeb o gwbl yn y gwaith. "Erbyn hyn, o'n i ar y ffas lo gyda hen löwr oedd yn gadeirydd ar gyfrinfa'r glowyr — arweinydd y glowyr yn y pwll... Wrth i'r dyddiau fynd heibio, bydden i'n edrych arno fe'n gweithio, a gweld mor daclus a gofalus oedd e wrth weithio. Os nad ydych chi'n gyfarwydd â gwaith y glöwr, mae'n edrych yn ddigon didoreth ond mae'n waith crefftus iawn, bron yn esthetig weithiau. O'n nhw mor ofalus wrth drimio llawr, wyneb a thop y stent, cadw'r pyst a'r trawstiau'n syth ac o'n nhw mor browd o adael y stent yn daclus i gyd ar ddiwedd y shifft. "Er fy mod i'n gweithio'n galed gyda Mr David — ac alwes i ddim byd arall arno byth — wnaeth fy nheimladau i am fyd y lofa ddim newid. O'dd fy ffrindiau i gyd yn lifrai'r lluoedd ac yn gwasanaethu dros y môr, a minnau mewn dillad bob dydd heb yr un iwnifform ond y sgidie mawr a'r helmed. Digon tlawd oedd y bwyd hefyd, roedd y gyflog yn bitw ac roedd pobl yn y'ch galw chi'n llwfrgi. Er i mi wneud sawl ymgais i symud i swyddi milwrol, ges i f'atal bob tro ac roedd y rhagolygon at y dyfodol yn ofnadw o ddu. "Yn yr anobaith 'ma, o'n i'n dal i weithio gyda Mr David ac yn araf bach fe ddaeth e â heddwch i fi a helpu fy agwedd i hefyd. Dechreues i ei weld e fel patrwm i'w ddilyn i edrych ar fywyd mewn ffordd fwy cytbwys ac optimistig. Doedd dim llawer o addysg ganddo, ond roedd e'n ddyn deallus iawn a barn glir iawn ganddo am hawliau a chyfrifoldebau. Fe ofynnes iddo unwaith sut roedd e, fel cadeirydd y gyfrinfa, yn trin a thrafod y cytundebau tâl gyda'r rheolwr. Dyma beth ddwedodd e 'Fe wna i'n siŵr ei fod e'n cadw ei ochr e o'r fargen - ac os bydd unrhyw un o'r dynion yn ei thorri hi, fyddan nhw'n ateb i fi.' "Roedd yn gas gen i fod yn Bachgen Bevin o hyd, ond fe helpodd e fi i edrych arno fel profiad a fyddai o les i fi yn nes ymlaen yn fy mywyd." Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o cyhoeddiad Glo gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r cyhoeddiad yma: Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943-9 Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943 - 1949 Ges i ngeni yn Herstmonceux, Dwyrain Sussex. Gadawes i'r ysgol yn 14 oed i fynd i weithio mewn ffatri oedd yn gwneud rhannau i geir. Pan ddes i'n 18 oed, ges i alwad i fynd i Brighton i gael prawf meddygol. Roeddwn i eisiau ymuno â'r fyddin, ond a dweud y gwir bydden i wedi bod yn ddigon bodlon aros gartre! "Daeth fy rhif i lan yn y balot i fynd i'r pyllau glo ac fe anfonon nhw fi i Ganolfan Hyfforddi Oakdale. Fues i'n lletya gyda Mrs Jones yn Rhisga, fi a Wyndham Jones, cocni oedd â pherthnasau yn Abertyleri. Cawson ni chwech wythnos o hyffordiat yn Oakdale (roedd Wyndham 'fel menyw' ar y rhaw) a'n hala wedyn i Lofa Roseheyworth. Roedd rhaid inni wisgo'n dillad ein hunain yn y gwaith. Fy rhieni roddodd fy nillad i fi ac roeddwn i'n arfer eu hala nhw adre i Sussex bob wythnos i mam gael eu golchi nhw. Roedd hi'n arfer dweud 'Byddai'n well gen i weld Raymond yn mynd i'r fyddin na lawr y pwll' — roedd hi'n meddwl bod y cyfan yn ofnadwy, a bod y Cymry'n byw mewn ogofâu. "Ar ôl sbel es i weithio gyda Sid Fox ar hedin lle bydden ni'n llanw 13 neu 14 dram bob shifft — byddai Sid yn rhoi rhyw £3 o 'arian cnoco' i fi. Pan fyddai Sid yn sâl, fydden i'n gweithio ar yr hewl gyda Gerald Williams. "Gerald gyflwynodd fi i Phyllis ar ryw noson mâs - roeddwn i'n swil ac yn ffaelu dawnsio a dyna'r unig ffordd i'w gwneud hi yn y dyddiau hynny. Ond yn y diwedd, dyna'r unig ferch i fi fynd mâs gyda hi erioed ac r'yn ni'n briod ers 58 o flynyddoedd mis Awst yma (2005). Priodas dawel geson ni, roedd fy rhieni i'n sâl ac yn ffaelu dod lawr a doedd neb arall yna ar fy ochr i o'r teulu. I Weston Super Mare aethon ni ar ein mis mêl. Doedd y wraig newydd ddim am setlo yn Eastbourne, felly aros yng Nghymru wnaethon ni. Roedd hi wastad yn 'Helo Ray' bob deg munud yng Nghymru - yn Eastbourne gallech chi gerdded o gwmpas am chwe mis a fyddai torri gair â chi! "Bues i'n gweithio yn y pyllau am chwe mlynedd. Rwy'n cofio goruchwyliwr yn pwyntio ata i a dweud wrth rywun 'Chi'n gweld y bachan 'na? Bachgen Bevin sy'n dal i weithio yma — ni'n ffaelu cael gwared arno fe!' Fe godes i'r acen hyd yn oed i ryw raddau, ond i atal pobl rhag gwneud hwyl ar ben fy acen Sussex i y gwnes i hynny. Erbyn hyn rwy'n teimlo'n fwy o Gymro na'r wraig!" Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o'r cylchgrawn 'Glo' a gynhyrchwyd gan gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r cylchgrawn i gyd yma
Canu Cloch i'r Flwyddyn Newydd Sara Huws, 3 Ionawr 2008 Er gwaetha'r tywydd rhynllyd, mae cornel o iard Eglwys Teilo Sant dal yn gynnes iawn. Gefail dros-dro sydd yno, ble mae dau arbenigwr-ac-artist yn gweithio ar ail-greu cloch Ganol Oesol gynnar. Roedd gan llawer o'r seintiau Cymreig yn y 6ed ganrif rai o'r rhain. Gellir darllen ychydig amdanynt (yn saesneg) ar y ddalen hon, sydd wedi'i ysgrifennu gan arbenigwr Canol Oesol Amgueddfa Cymru, Mark Redknap.'The Christian Celts: Treasures of Late Celtic Wales' Mae Andrew Murphy a Tim Young - y naill yw'r Gof yma yn Sain Ffagan, mae'r llall yn arbenigwr mewn metelau ac archaeoleg ymarferol - yn defnyddio megin enfawr i geisio ail-greu cloch Sant Ceneu. Mae'r gloch wreiddiol yn rhan o'r casgliad cenedlaethol. Mae Andrew a Tim yn defnyddio technegau tebyg i'r rhai a ddefnyddiwyd i wneud y gloch wreiddiol yn y 6ed ganrif i'w ail-greu. Maent yn gwneud hyn i geisio dysgu mwy am waith metel y cyfnod mewn ffordd ymarferol - rydym ni wastad yn arbrofi yn Sain Ffagan, felly mae'n braf gweld llwyddiant y gwaith ar ddyddiadur gwe Tim Young. Cewch luniau, sylwadau a disgrifiadau yma ar wefan Geoarch. Bydd mwy o wybodaeth am y prosiect yn cael ei gyhoeddi ar ein chwaer-safle, Rhagor: darganfod byd o gasgliadau, ar derfyn y gwaith. Mwynhewch ddyddiadur Tim yn y cyfamser! I gadw'r thema: cloch lawer yn iau na chloch Ceneu yw'r gloch yn nhwr yr eglwys ei hun. Mae wedi'i seilio ar gynllun o'r 15eg ganrif o Lanilltyd Fawr. Fe'i castiwyd yn arbennig i ni yn ffowndri Taylors, Loughborough - man geni 'Great Paul', sy'n hongian hyd heddiw yng Nghadeirlan Sant Paul yn Llundain. Mae'n un ni ddipyn yn llai, ond yn ddigon swnllyd ta beth! Clychau Taylor, Eayre and Smith Hwyl am y tro a blwyddyn newydd dda!
Hynt a helynt arddangosfa Archwilio Gwely'r Môr! Lara Murphy, 3 Ionawr 2008 Ionawr 2008 - Hynt a helynt arddangosfa Archwilio Gwely'r Môr!Symudodd yr arddangosfa i Amgueddfa Stêm Kew Bridge yn Brentford, Middlesex ar 7 Ionawr er gwaetha'r gwyntoedd cryf yn chwythu'r fan dros bob man! Bydd yr arddangosfa yno rhwng 9 Ionawr a 2 Mawrth 2008.
Cofio'r Bois Bevin yn yr Ail Rhyfel y Byd 3 Ionawr 2008 Baner goffa'r Bechgyn Bevin. Bois Bevin o de Cymru Bathodyn poced Cymdeithas y Bechgyn Bevin. Ceffyl pwll wedi ymddeol gyda dau Fachgen Bevin yn yr aduniad blynyddol yng ngerddi Trentham, Stoke-on-Trent. Bechgyn Bevin yn yr Orymdaith Goffa yn Llundain ar 14 Tachwedd 2004. Y ffrynt danddaear Dydy stori'r Bois Bevin ddim yn un cyfarwydd. Ni chafodd y dynion di-ri hynny a dreuliodd y rhyfel ar y 'ffrynt danddaear' eu cydnabod am bron i hanner canrif. Pan gyhoeddwyd y rhyfel ym 1939, ymunodd miloedd o lowyr profiadol â'r lluoedd arfog, neu drosglwyddo i'r 'diwydiannau rhyfel' oedd yn talu'n well. Erbyn canol 1943 roedd mwy na 36,000 o ddynion wedi gadael y diwydiant glo. Penderfynodd llywodraeth Prydain fod angen tua 40,000 o ddynion i gymryd eu lle. Ernest Bevin Ym mis Rhagfyr 1943, creodd Ernest Bevin, y Gweinidog dros Lafur a Gwasanaeth Gwladol, gynllun oedd yn cynnwys cynnal balot i anfon cyfran o'r dynion oedd yn cael eu galw i wasanaethu i'r pyllau glo yn lle'r lluoedd arfog. Byddai deg rhif yn mynd i'r het bob mis a dau'n cael eu tynnu. Os oedd rhif cofrestru Gwasanaeth Gwladol dyn yn gorffen gyda'r ddau rif yna, fe fyddai'n mynd i weithio yn y diwydiant glo. Dechreuodd y dynion hyn gael eu galw'n 'Bois Bevin' Yn ogystal â'r rhai a gafodd eu dewis yn y balot, roedd yna wirfoddolwyr hefyd. Roedd y dynion yma wedi gwirfoddoli i wasanaethu yn y pyllau glo yn hytrach na'r lluoedd arfog. Rhwng 1943 a 1948, cafodd 48,000 o ddynion ifanc eu galw i'r Gwasanaeth Gwladol mewn swyddi ym mhyllau glo Prydain. Yn groes i'r gred gyffredin ar y pryd, dim ond 41 ohonyn nhw oedd yn wrthwynebwyr cydwybodol. Roedd Bois Bevin yn dod o bob dosbarth cymdeithasol a phob rhan o Brydain - nid dim ond yr ardaloedd glofaol. Rhyw wybodaeth ddigon niwlog oedd gan lawer ohonyn nhw am y diwydiant glo cyn cael eu drafftio. Roedd y rhan fwyaf wedi gosod eu bryd ar yrfa yn y lluoedd arfog ac roedd yn gas ganddyn nhw gael eu hanfon i'r glofeydd. Ciab a rhaw Yn wahanol i'r glowyr cyffredin, oedd yn gwisgo'u dillad eu hunain, roedd Bois Bevin yn cael oferôl, helmed ddiogelwch ac esgidiau gwaith. Ond roedden nhw'n gorfod talu am eu hoffer eu hunain ac ambell un yn cwyno nad oedd y milwyr yn gorfod prynu eu drylliau eu hunain, felly pam ddylen nhw orfod talu am gaib a rhaw! Dim ond cyfran fach o Fois Bevin gafodd eu cyflogi i dorri glo ar y ffas, er bod rhai'n helpu'r glowyr i lenwi dramiau. Roedd y rhan fwyaf yn gwneud gwaith cynnal-a-chadw ar yr hewlydd tanddaear, yn clymu ac yn datod dramiau neu'n rheoli symudiadau'r cludiant tanddaear. Byddai nifer fach oedd wedi cael profiad o waith trydan neu waith peiriannu'n gwneud gwaith tebyg yn y glofeydd. Ym 1943, roedd un o bob pedwar glöwr yn cael ei ladd neu ei anafu, ac roedd cael eich cyflogi i gludo glo neu offer bron mor beryglus â chynhyrchu glo ar y ffas. Roedd trin a thrafod dramiau'n dal i achosi llawer o anafiadau i'r bysedd a'r dwylo ac, yn fwy difrifol, fe allai arwain at farwolaeth pe bai rhywun yn cael ei wasgu o dan y cerbydau cyflym. Glowyr anfodlon oedd y rhan fwyaf o Fois Bevin. Doedd ganddyn nhw fawr o ddiddordeb yn y gwaith, ac roedd gweddill y gweithwyr yn tueddu i gredu eu bod yn ddiwerth. Roedden nhw'n amhoblogaidd ymhlith teuluoedd glofaol lleol, oedd wedi gweld eu plant eu hunain yn cael eu drafftio i'r lluoedd arfog a gweld pobl o'r tu allan yn cymryd eu lle. At hynny, os nad oedd dynion ifanc mewn lifrai, fe allen nhw gael eu poeni gan y cyhoedd, a gallai'r heddlu amau eu bod nhw wedi dianc o'r fyddin neu eu bod nhw'n sbïo ar ran y gelyn. Does dim syndod bod llawer ohonyn nhw'n mynd yn absennol heb ganiatâd. Nifer fach iawn arhosodd yn y diwydiant glo ar ôl y rhyfel: roedd y rhan fwyaf ar dân eisiau rhoi'r gorau iddi. "Demob" Daeth y balot i ben ym mis Mai 1945 a chafodd y canolfannau hyfforddi eu cau'r mis wedyn. Ers mis Ionawr 1944 roedd Oakdale wedi hyfforddi 5,615 o ddynion, ac roedd 5,400 ohonyn nhw'n dal i weithio. O'r rhain, roedd 1,465 yn wirfoddolwyr. Cafodd yr olaf o Fois Bevin eu rhyddhau ym 1948 ond, yn wahanol i'r dynion eraill oedd wedi cael eu gorfodi i wasanaethu, doedd dim hawl ganddyn nhw i fynd nôl i'w hen swyddi. Chawson nhw ddim medal am wasanaethu, dim siwt o ddillad "demob" na hyd yn oed llythyr o ddiolch. Cafodd y cofnodion swyddogol eu dinistrio yn y 1950au, ac felly dyw Bois Bevin ddim hyd yn oed yn gallu profi eu bod wedi gwasanaethau os nad ydyn nhw wedi cadw eu dogfennau eu hunain. Cafodd aduniad swyddogol cyntaf Bois Bevin ei gynnal yn Amgueddfa Fwyngloddio Chatterley Whitfield ym 1989 ac mae mwy wedi bod yma ac acw ers hynny. Serch hynny, dim ond ym 1995, 50 mlynedd ar ôl Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, y rhoddodd llywodraeth Prydain gydnabyddiaeth i'w gwasanaeth yn y rhyfel a chaniat´u i Fois Bevin gymryd rhan swyddogol yn y gwasanaeth ar Sul y Cofio yn Whitehall. Am fwy o wybodaeth am y Bois Bevin, Cysylltwch â: Warwick H Taylor, Vice President, Bevin Boys Association, 1 Rundlestone Court, Dorchester Dorset, DT1 3TN Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.