Diwrnod Plannu 2020

Penny Dacey, 19 Hydref 2020

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Bydd ysgolion o ardraws y DU yn plannu eu bylbiau mor agos at 20 Hydref ag posib. Mae hyn yn golygu y bydd y mwyafrif o ysgolion yn plannu eu bylbiau yfory!

Cliciwch yma am adnoddau i'ch paratoi ar gyfer diwrnod plannu ac am wybodaeth ar sut i ofalu amdan eich bylbiau dros y misoedd nesaf!

Bydd yr adnoddau hyn yn help ar gyfer diwrnod plannu:

• Mabwysiadu eich Bwlb (trosolwg o’r gofal fydd angen ar eich bylbiau)

• Plannu eich bylbiau (canllawiau ar gyfer sicrhau arbrawf teg)

A dyma weithgareddau hwyl i gwblhau:

• Tystysgrif Mabwysiadu Bylbiau

• Creu Labelai Bylbiau

Plîs darllenwch y rhain oherwydd maent yn cynnwys gwybodaeth bwysig! Er enghraifft, ydych chi'n gwybod i labelu eich potiau fel mae’n glir lle mae'r cennin Pedr a chrocws wedi eu plannu?

Cofiwch dynnu lluniau o'ch diwrnod plannu a rhannu'r rhain i gystadlu yn y Gystadleuaeth Diwrnod Plannu!

Cadwch lygad ar dudalen Twitter Athro'r Ardd i weld digwyddiadau diwrnod plannu yn ysgolion eraill.

Pob lwc! Gadewch i ni wybod sut mae'n mynd!

Athro'r Ardd a Bwlb Bychan

Dathliadau Pen-blwydd: 15 mlynedd gyntaf Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Stephanos Mastoris, 14 Hydref 2020

I ni’r staff yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mae'n anodd credu bod 15 mlynedd wedi mynd heibio ers i ni groesawu ein hymwelwyr cyntaf ar 17 Hydref 2005. Er bod pobl ar eu ffordd i fod yn oedolion yn 15 mlwydd oed, rydym ni i gyd yn yr Amgueddfa yn teimlo'n ifanc, yn ffres a mentrus.

Rwy'n credu fod yna sawl rheswm dros hyn.

Yn gyntaf oll, mae gennym ni ymwelwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd, ac mae eu cymhelliant dros ymweld yn amrywiol iawn. O'r 250,000 o ymweliadau i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mae cyfran dda o bobl yn dod o’r tu hwnt i dde-orllewin Cymru, ac yn ymweld â ni am y tro cyntaf. Maent wedi'u denu gan yr arddangosfeydd arloesol sy'n adrodd hanes dynol diwydiannu Cymru dros y dair ganrif ddiwethaf, gyda gwrthrychau allweddol o gasgliadau Amgueddfa Cymru a Dinas Abertawe wedi'u hesbonio drwy ddadansoddiad rhyngweithiol. Ac er ein bod yn rhan o deulu o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn amgueddfa leol iawn hefyd, gyda mwyafrif ein hymwelwyr yn dychwelyd yn rheolaidd i weld yr arddangosfeydd dros dro niferus y byddwn yn eu creu a’u cynnal bob blwyddyn, neu i fynychu'r 300 o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim sy'n rhan mor bwysig o'n rhaglen flynyddol.

Yn ail, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn warws enfawr o ddeunyddiau a chyfleoedd i ddysgu ac ysbrydoli. Fel ag y mae delweddau'n adrodd straeon, mae arteffactau hanesyddol yn bwyntiau ar hyd eich taith, yn hytrach na chyrchfannau sefydlog ar gyfer dealltwriaeth, teimladau a chreadigrwydd. Mae rhaglenni addysg yr Amgueddfa i bobl o bob oedran bob amser ag elfen amlddisgyblaethol gyda llawer o straeon dynol a hwyl. Rydym bob tro’n barod i roi cynnig ar unrhyw beth unwaith, cyn belled ei fod yn gyfreithiol ac yn ddiogel!

Yn drydydd, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn chwarae rôl bwysig ym mywyd diwylliannol ac economaidd ehangach Abertawe a'r cylch. Mae nifer o sefydliadau a chymunedau yn defnyddio'r Amgueddfa ar gyfer cyfarfodydd, fel lle i rannu eu gwaith â'r cyhoedd, neu fel lle i ddathlu. Gallwch hefyd logi'r Amgueddfa ar gyfer priodasau, cyfarfodydd preifat a chorfforaethol, ac adloniant. Mae’r lleoliad canolog, y bensaernïaeth brydferth ac arddangosfeydd difyr yn helpu i wneud y digwyddiadau hyn yn arbennig iawn.

Yn bedwerydd, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi ymrwymo erioed i gynyddu pwrpas cymdeithasol ein treftadaeth. Rydym wedi gweithio'n gyson i ddefnyddio ein casgliadau a'n cyfleusterau i gryfhau hunaniaeth cymunedau, croesawu pobl newydd i Abertawe, a helpu pobl sydd dan anfantais i ddeall eu potensial drwy gaffael sgiliau a meithrin uchelgais a hunan-barch.

Ac yn olaf, mae gan yr Amgueddfa dîm anhygoel o staff. Ein bwriad yw penodi 'pobl pobl’, sy'n mwynhau croesawu ein hymwelwyr, sy'n barod eu cymwynas ac yn wybodus, ac yn gallu gweithio'n arbennig o dda fel tîm deinamig. Yn ogystal â bod yn wych wrth eu gwaith 'swyddogol', mae gan lawer ohonynt sgiliau eraill hefyd, ac rydym wedi manteisio ar y sgiliau hyn yn ein digwyddiadau a'n rhaglenni addysg.

Felly, beth sydd i ddod yn y dyfodol? Er gwaethaf yr anawsterau cyfredol yn ystod pandemig COVID-19, rydym yn siŵr y bydd y 15 mlynedd nesaf mor gyffrous a gwerthfawr â'r 15 mlynedd diwethaf. Bydd ail-ddatblygu canol y ddinas ac yn arbennig yr arena newydd gerllaw yn cynnig cyfleoedd gwych i ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd. Bydd y byd digidol ar-lein ymestynnol yn cynnig llawer o ffyrdd newydd i ddathlu diwydiant ac arloesi Cymru heddiw ac yfory i gynulleidfa byd-eang. Mae'n debyg y bydd profiadau'r 8 mis diwethaf yn gwneud i ni werthfawrogi'r profiad o bethau 'go iawn' mewn llefydd megis Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy'n lleoliad perffaith i bobl gyfarfod, ymgysylltu â'i gilydd, dysgu a mwynhau.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe wedi ei enwi fel un o fannau gwyrdd gorau’r wlad

Angharad Wynne, 14 Hydref 2020

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd. 

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi cael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd i gydnabod cyfranogiad ymroddedig gan ei wirfoddolwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i gyflawni man gwyrdd o ansawdd gwych.

Gwirfoddolwyr GRAFT yn cymryd hoe o gynaeafu yng ngerddi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Wrth siarad ar ran tîm GRAFT Amgueddfa’r Glannau, dywedodd yr Uwch Swyddog Dysgu, Cyfranogi a Dehongli, Zoe Gealy: “Mae tîm GRAFT Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn falch iawn o fod wedi derbyn y Faner Werdd hon, mae wir yn tynnu sylw at y gwaith gwych sydd wedi ei wneud gan ein gwirfoddolwyr anhygoel ers i ni ddechrau yn 2018, ac mae'n glod mor wych yn ystod y flwyddyn heriol hyn i ni i gyd. Rydym yn edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o dyfu a datblygu ein man gwyrdd, a byddwn yn parhau i greu cyfleoedd dysgu a gwirfoddoli yn ogystal â rhoi cynnyrch i'r elusennau gwych ledled y ddinas sy'n darparu gwasanaethau i'r rhai mewn angen”.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn un o deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasglu dan faner yr Amgueddfa Genedlaethol, sydd yn cynnig mynediad am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd, mae’n nhw’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, a fydd yn parhau i ddatblygu fel y gallant gael eu defnyddio a’u mwynhau gan genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae 127 o fannau gwyrdd a reolir yn gymunedol ar draws y wlad wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i gael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.  Mae hyn yn golygu bod Cymru’n dal i feddu ar draean o safleoedd Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn y DU.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus: "Mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau. I lawer ohonom, maent wedi bod yn hafan ar stepen y drws ac o fudd i'n iechyd a'n lles. Mae llwyddiant Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn dystiolaeth o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol o dan amgylchiadau heriol iawn.  Hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt i gyd am eu hymrwymiad eithriadol.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru

 

Amgueddfa Wlân Cymru wedi ei henwi fel un o fannau gwyrdd gorau’r wlad

Angharad Wynne, 14 Hydref 2020

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd. 

Mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi cael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd i gydnabod cyfranogiad ymroddedig gan ei wirfoddolwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i gyflawni man gwyrdd o ansawdd gwych.

Mae’r amgueddfa yn adrodd hanes un o ddiwydiannau mwyaf cyffredin a phwysicaf Cymru, gwlân. Ar un adeg roedd Drefach Felindre yn nyffryn hyfryd y Teifi yn ganolfan lewyrchus i’r diwydiant gwlân a oedd yn cyflenwi ffabrigau i'r byd. Tra’n rhannu hanes hynod ddiddorol y diwydiant hwn, mae'r amgueddfa hefyd yn chwarae rhan bwysig yng nghynal sgiliau traddodiadol y dywydiant, yn ogystal â hyrwyddo gwlân fel deunydd cynaliadwy ar gyfer ein dyfodol: fel ffabrig ffasiwn a nwyddau cartref a ffibr adeiladu ac inswleiddio.

Gwirfoddolwyr yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol Pixie Harcourt a Maureen Bibby.

Wrth siarad am y wobr, dywedodd Ann Whitall, Rheolwr yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol: “Rydyn ni wrth ein bodd i dderbyn y gydnabyddiaeth hon o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i gefnogi bioamrywiaeth leol ac arferion cynaliadwy. Mae gennym hanes hir o weithio'n agos gyda'n cymuned leol i sicrhau bod ein gweithgareddau'n cyfrannu'n gadarnhaol at yr economi wledig leol. Mae hynny'n cynnwys ein rôl fel atyniad twristiaeth a chanolfan addysgiadol, ond yn gynyddol mae hefyd yn golygu ein bod yn datblygu rôl i ddadeni gwlân fel ffibr y dyfodol, ac ysgogi adfywiad yn ei ddefnydd a'i werth. "

Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn un o’r teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasglu dan faner yr Amgueddfa Genedlaethol, sydd yn cynnig mynediad am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd, mae’n nhw’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, a fydd yn parhau i ddatblygu fel y gallant gael eu defnyddio a’u mwynhau gan genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae 127 o fannau gwyrdd a reolir yn gymunedol ar draws y wlad wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i gael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.  Mae hyn yn golygu bod Cymru’n dal i feddu ar draean o safleoedd Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn y DU.

Cyflwynir rhaglen Gwobr yFaner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus: "Mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau. I lawer ohonom, maent wedi bod yn hafan ar stepen y drws ac o fudd i'n iechyd a'n lles. Mae llwyddiant Amgueddfa Wlân Cymru yn cael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn dystiolaeth o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol o dan amgylchiadau heriol iawn.  Hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt i gyd am eu hymrwymiad eithriadol.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru

Rhoddwyd y wobr yma i Ardd Liwrau'r Amgueddfa. Gwirfoddolwyr Garddio Amgueddfa Wlân Cymru sy’n gyfrifol amdano. Mae'n ardd gynaliadwy fendigedig wedi'i llenwi ag amrywiaeth o blanhigion a ddefnyddiwyd yn draddodiadol ar gyfer eu lliwiau naturiol. Mae blodau, dail a gwreiddiau'n cael eu cynaeafu wrth i'r tymor fynd yn ei flaen a'u sychu neu eu rhewi'n barod i'w defnyddio fel llifyn naturiol, er enghraifft i liwio cnu, edafedd neu ffabrig sydd fel arfer yn digwydd yng ngweithdai diwedd tymor yr Hydref. Mae'r Gwirfoddolwyr Garddio yn chwarae rhan weithredol yn y gymuned, er enghraifft, maen nhw'n gweithio gyda'r eco-grŵp ysgolion cynradd lleol sy'n cynnig gwahanol weithgareddau gan gynnwys llifynnau a gweithdai garddio cynaliadwy. Gwirfoddolwyr gardd yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yw:

Jilly Doe, Jo Taylor, Steve Rees, Verrinia Rees, Pixie Harcourt, Maureen Bibby, Susan Martin, Helen Fogden.

Her Cacen Pen-blwydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau!

Angharad Wynne, 12 Hydref 2020

Ar ddydd Sadwrn 17eg Hydref, mae ein hamgueddfa yn dathlu 15 mlynedd ers agor. Gen ein bod ni gyd dan glo o gwmpas ein hardal, roeddem yn meddwl am ffyrdd i chi rannu yn ein dathliadau a chodi tipyn o hwyl. Mae angen cacen ar ben-blwydd, felly rydyn ni'n eich gwahodd chi  bobyddion ac addurnwyr cacennau o bob oed, i fod yn greadigol a gweld beth o'n hamgueddfa fydd yn ysbrydoli cacen pen-blwydd blasus! Mae gennym daleb o £50 i'w gwario yn un o siopau’r  Amgueddfeydd Cenedlaethol ar gyfer y pobydd buddugol! 

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn 15 oed ar 17 Hydref 2020

Gallai gael ei ysbrydoli gan ein hadeilad, un o'n harddangosion neu ddigwyddiad rydych chi'n ei gofio'n dda. Gadewch i'ch creadigrwydd redeg yn wyllt, yna gwisgwch eich ffedogau ac ewch ati! Cymysgwch, pobwch ac addurnwch gacen pen-blwydd 15 oed ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yna danfon lun ohonno atom trwy Twitter neu Facebook erbyn 3pm ddydd Sadwrn 17 Hydref. Gweler y manylion isod. 

Bydd capten ein hamgueddfa ers 15 mlynedd, Steph Mastoris yn beirniadu'r ceisiadau a byddwn yn cyhoeddi'r enillydd ddydd Mawrth 20 Hydref. Bydd pobydd y gacen pen-blwydd orau yn ennill taleb i wario yn siopau'r Amgueddfa Genedlaethol gwerth £50. 

Gallwch bostio lluniau o'ch cacen ar Twitter, gan sicrhau cynnwys @The_Waterfront yn eich trydar, neu i'n tudalen ‘Cystadleuaeth Cacen Pen-blwydd’ arbennig ar Facebook: https://www.facebook.com/events/352694139397072

POB LWC! Gwisgwch eich ffedog ac ewch amdani!

 

Telerau ac Amodau
· Yr Hyrwyddwr yw: Amgueddfa Genedlaethol Cymru / the National Museum of Wales (Rhif Elusen: 525774) sydd â’i swyddfeydd cofrestredig ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP.
· Ni chaiff gweithwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru na aelodau'r teulu, neu unrhyw un arall sydd ynghlwm â'r gystadleuaeth mewn unrhyw fodd, gystadlu.
· Nid oes tâl mynediad i'r gystadleuaeth ac nid oes yn rhaid gwneud unrhyw bryniad i gystadlu.
· Ni fydd unrhyw ymgais sy’n rhoi ymgeisydd, staff neu unrhyw berson arall mewn perygl yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth.
· Nid yw’r Hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw anaf neu niwed corfforol i ymgeiswyr neu unrhyw berson arall wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
· Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau eu bod yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau eu diogelwch eu hunain, ac unrhyw berson arall presennol, tra’u bod yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
· Dyddiad cau’r gystadleuaeth fydd 17 Hydref 2020 am 15.00. Wedi’r dyddiad hwn ni chaiff ceisiadau pellach eu derbyn.
· Ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw geisiadau nas derbynnir, am unrhyw reswm. Nid yw prawf anfon yn brawf fod y cais wedi'i dderbyn.
· Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl i ddileu neu newid y gystadleuaeth a’r telerau a’r amodau hyn heb rybudd yn achos unrhyw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth yr Hyrwyddwr. Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu’r ymgeiswyr cyn gynted â phosibl o unrhyw newid i’r gystadleuaeth.
· Nid yw’r Hyrwyddwr yn gyfrifol am fanylion anghywir am wobrau a ddarperir i ymgeisydd gan unrhyw drydydd parti sydd ynghlwm â’r gystadleuaeth.
· Ni chaiff gwobrau ariannol eu cynnig yn lle’r gwobrau a nodir. Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau. Cynigir y gwobrau yn unol â’u hargaeledd a cheidw’r Hyrwyddwr yr hawl i gyfnewid unrhyw wobr am wobr gyfwerth heb rybudd.
· Caiff yr enillwyr eu dewis gan gynrychiolydd yr Hyrwyddwr.
· Caiff yr enillwyr eu hysbysu drwy Facebook neu Twitter erbyn 21 Hydref. Os na ellir cysylltu â’r enillwyr, neu os na fyddant yn hawlio eu gwobr o fewn 72 awr o gael eu hysbysu, cedwir yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl a’i dyfarnu i enillydd arall.
· Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu’r enillydd pryd a ble y gellir casglu’r wobr – neu lle i’w bostio
· Bydd penderfyniadau’r Hyrwyddwr, ym mhob achos yn ymwneud â’r gystadleuaeth, yn derfynol ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.
· Caiff y gystadleuaeth a’r telerau ac amodau hyn eu rheoli dan gyfraith y DU a bydd unrhyw anghydfod yn atebol i awdurdod llysoedd y DU yn unig.
· Wrth ymgeisio, mae pob ymgeisydd yn rhyddhau Facebook a Twitter o unrhyw a phob atebolrwydd sy'n ymwneud â'r gystadleuaeth hon.
· Bydd pob ymgeisydd yn cytuno y gall Amgueddfa Genedlaethol Cymru arddangos a rhannu’r cais a gyflwynwyd, ar eu gwefan a’u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gydnabod eu henw os yw’r wybodaeth ar gael. Erys hawlfraint ddeallusol y gweithiau ym meddiant yr ymgeisydd
· Mae’r enillwyr yn cytuno i yrru neges o gydnabyddiaeth ar Facebook neu Twitter, gan enwi @amgueddfacymru yn eu neges.
· Mae’r enillydd yn cytuno y gellir defnyddio ei enw, llun, a’r gwaith a gyflwynwyd mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd.
· Caiff unrhyw ddata personol yn ymwneud â’r enillydd neu unrhyw ymgeiswyr eraill ei ddefnyddio’n unol â chyfraith ddiogelu data gyfredol y DU yn unig ac ni chaiff ei ddatgelu i drydydd parti heb ganiatâd ymlaen llaw gan yr ymgeisydd.
· Bydd ymgeisio yn y gystadleuaeth yn gyfystyr â derbyn y telerau ac amodau hyn.
· Nid yw’r gystadleuaeth hon wedi ei noddi, ei chymeradwyo na’i gweinyddu, nac ychwaith yn gysylltiedig â Facebook neu unrhyw Rwydwaith Gymdeithasol arall. Rydych yn darparu eich gwybodaeth bersonol i Amgueddfa Cymru yn hytrach nag unrhyw barti arall. Caiff y wybodaeth a ddarperir ei defnyddio yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.