Unwaith eto...

Gareth Bonello, 21 Awst 2007

Erbyn hyn, rwy wedi cychwyn ar ychydig o waith maes. Fe gychwynais drwy recordio Sirajul Islam, sy'n wreiddiol o Bangladesh, ond sydd erbyn hyn yn astudio am radd yn y Gymraeg. Mae ganddo hanes diddorol a fydd yn ein harchif ar gyfer ei astudio gan genedlaethau'r dyfodol.

Prosiect arall yw cryfhau'r gornel Ieuenctid yn Oriel 1. Bydd y sgrin sy'n dangos lluniau llonydd o Maes Bs y gorffennol cyn bo hir yn dangos fideo bywiog o ddigwyddiadau 2007. Bydd arwydd cliriach a mwy o wrthrychau e.e. records yng nghesyn gitar Meic Stevens hefyd.

Gyda'r Rhith Amgueddfa'n lansio diwedd mis Awst, mae prosictau ar y gweill ar gyfer hwnnw, sef cofnodi cynnwys y Ddresel Gymunedol bresennol, a chynnwys cyfweliadau gyda pobl ifanc o Faes B wythnos yr Eisteddfod.

Rwy hefyd yn gysylltiedig â phrosiect cyffrous sydd am ail-adeiladu un o dai'r Pentref Celtaidd gyda waliau pridd, cynllun chwyldroadol all droi theoriau archaeolegol wyneb i waered!

Heblaw am hyn i gyd, byddaf yn ymweld ag Amgueddfa Casnewydd dydd Iau i drafod eu harddangosfa bop hwy, ac rwy wedi bod ar deledu a radio Cymraeg i hyrwyddo'r Oriel newydd a fy swydd newydd. Mae pethau'n dechrau poethi!

Lluniau natur: Darluniau botanegol

20 Awst 2007

Hen llysieulyfrau

Yn yr Oesoedd Tywyll roedd clefydau ac aflendid yn rhemp ac fe ddibynnai'r bobl ar feddygon llysiau a'u meddyginiaethau. I wella byddardod: cymerwch wrin maharen, olew llysywennod, cenhinen, sudd barf yr hen ŵr ac ŵy wedi'i ferwi...

Magnolia

Anfonwyd casglwyr proffesiynol i rannau pellennig o'r byd. Roedd darganfod planhigion newydd yn golygu archwilio gwledydd newydd - yn aml heb fapiau cywir, drwy diroedd heb heolydd, a chydag ychydig o aneddiadau.

Tiwlip

Tua 17eg ganrif, daeth llawer o blanhigion newydd egsotig i Ewrop wrth i bobl ddechrau teithio a masnachu. Cychwynnodd `Tiwlipomania' gan fod y cyfoethogion bron â thorn eu bol eisiau bod yn berchen ar y planhigion prinnaf. Yn yr Iseldiroedd, prynwyd un býlb tiwlip am 4,600 fflorin, coetsh a phâr o geffylau brithias.

Papaya

Ym 1737, bu'n rhaid i Elizabeth Blackwell ddechrau cynnal ei theulu pan daflwyd ei gŵr i garchar dyledwyr. Tynnodd luniau ar gyfer llysieulyfr y 'Chelsea Physic Garden' a bu el gŵr yn edrych dros y testun yn y carchar.

Swynwyd dyn erioed gan flodau, gan eu harddwch, a'r posibiliadau ar gyfer iachâd a gwybodaeth. Mae Amgueddfa Cymru yn dal casgliad unigryw o dros 9,000 darlun botanegol, yn pontio pum canrif.

Yn dilyn arddangosfa fechan yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym 1942, cafodd y darluniau eu storio. 50 mlynedd yn ddiweddarach ail ddarganfuwyd ystod ac arwyddocâd y casgliad, a gwerthfawrogwyd eu lluniadaeth goeth yn llawn.

Mae'r casgliad yn cynnwys gwaith yn amrywio o ysgythriadau proffesiynol i ddyfrlliwiau amatur, ac yn cynnwys nifer o eitemau gan feistri cydnabyddedig megis Georg Dionysius Ehret a Pierre Joseph Redouté.

500 mlynedd o ddarluniau botanegol

Mae'r casgliad yn dilyn datblygiad darluniau botanegol a'r berthynas rhwng celf a gwyddoniaeth o lysieulyfrau canol oesol yr Oesoedd Tywyll, pan oedd dyn yn ofni Natur, drwy'r Oleuedigaeth a'r teithiau darganfod, hyd at ddarluniau cyfoes yr 21ain Ganrif.

Blodeulyfrau

Erbyn 1600, ar ôl y llysieulyfrau blociau pren cynnar, arweiniodd y broses o ysgythru ar fetel at ddarluniad manach o bob manylyn bach, gan chwyldroi darluniau botanegol. Flora Londinensis (1777-87) gan William Curtis yw un o'r blodeulyfrau Prydeinig enwocaf, yn rhestru'r holl blanhigion o fewn deng milltir i Lundain. Blodeulyfr Ewropeaidd pwysig o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Flora Danica (1763-1885) a gymrodd bron i gan mlynedd i'w chwblhau.

Yn yr 17eg Ganrif, tyfwyd planhigion am eu harddwch yn ogystal â'u defnydd ymarferol a gwyddonol. Cynhyrchodd y cyfoethog flodeugerddi yn darlunio'r planhigion prin a hardd ar eu hystadau, tra bod canllawiau gwyddonol yn llawn darluniau manwl o ystod eang o blanhigion.

Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o brintiadau gwreiddiol o'r 17eg Ganrif, gan gynnwys gwaith gan Redouté, Sowerby, Fitch, a Sydenham Edwards, a anwyd yng Nghymru.

Cyflwyno tacsonomeg

Ym 1753 datblygodd y naturiaethwr o Sweden, Carl Linnaeus system newydd o enwi a dosbarthu pob peth byw. Cafodd popeth ddau enw yn Lladin: enw genws ac enw rhywogaeth. Cafodd hyn effaith sylweddol ar steil y darluniau botanegol. Roedd y pwyslais bellach ar organau rhywiol y planhigyn, er mawr ddychryn i'r gymdeithas foneddigaidd.

Derbyniwyd y system Linnaeaidd newydd yn rhannol drwy safon uchel y darluniau a gynhyrchwyd gan G. D. Ehret ar y pryd. Mae gan yr Amgueddfa ddarluniau gan Ehret o Plantae Selectae (1750-73) a hefyd gasgliad gan J. S. Miller o Botanical Tables (1785) Bute, a gomisiynwyd gan John Stuart, 3ydd Iarll Bute.

Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys gwaith gan Redouté, Kirchner ac Elizabeth Blackwell. Darluniodd Backwell lysieulyfr o'r enw A Curious Herbal i ryddhau ei gwr o'i garchariad mewn carchar i ddyledwyr.

Teithiau darganfod

Botanegwyr ar y teithiau epig o ddarganfod yn y 18fed a'r 19eg ganrif oedd y cyntaf i gofnodi a chasglu'r planhigion egsotig a welwyd yn y tiroedd pellennig, heb eu mapio. Am y tro cyntaf, gwelodd Ewropeaid luniau o ffrwythau egsotig megis afalau pîn, paw-paws a phomgranadau.

Mae esiamplau yn y casgliadau yn cynnwys Banks' Florilegium a gweithiau o Curtis's Botanical Magazine.

Brwdfrydedd Fictoraidd

Daeth brwdfrydedd aruthrol am wyddoniaeth yn y cyfnod Fictoraidd. Daeth ysgythriadau o blanhigion newydd yn gyffredin drwy newyddiaduron a chylchgronau poblogaidd, megis Carter's Floral Illustrations a Paxton's Floral Garden.

Arweiniodd darganfyddiad Victoria regia, y lili'r dŵr enfawr o'r Amazon, at elyniaeth rhwng garddwyr tai mawr Lloegr, yn cystadlu am y cyntaf i lwyddo i'w gael i flodeuo ym Mhrydain. Joseph Paxton, garddwr Chatsworth, enillodd y ras. Dywedir mai strwythur y ddeilen enfawr ysbrydolodd ei gynllun ar gyfer Crystal Palace.

Y Môr-grwban mwyaf yn y byd

15 Awst 2007

Cafodd y môr-grwban lledraidd sydd i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ei olchi i'r lan ar draeth Harlech, Gwynedd, ym mis Medi 1988. Gwaetha'r modd, roedd wedi boddi ar ôl cael ei ddal gan leiniau pysgota. Cafodd y môr-grwban sylw ym mhedwar ban byd gan mai hwn oedd y môr-grwban mwyaf a thrymaf a gofnodwyd erioed. Roedd bron yn 3m (9tr) o hyd ac yn pwyso 914 kilo (2016 pwys).

Pan olchwyd y môr-grwban i'r lan, roedd prysurdeb mawr ymhlith staff yr Amgueddfa gan eu bod yn awyddus i lunio set arddangos o'i gwmpas. Fodd bynnag, nid gwaith syml oedd paratoi sbesimen fel hyn i'w arddangos.

môr-grwban lledrgefn

Bu angen troi'r môr-grwban wyneb i waered i drwsio'r craciau ar ei fol.

Arddangos y môr-grwban mwyaf yn y byd

Ar ôl cael awtopsi er mwyn cael gwybodaeth wyddonol, tynnwyd y croen a'i drin a gwnaed mowld o siâp y corff. Yna, cafodd y croen ei dynnu dros y mowld i wneud i'r anifail edrych yn naturiol.

Tynnwyd y sgerbwd hefyd a'i baratoi i'w arddangos ochr yn ochr â'r corff. Yna, rhoddwyd y mownt tacsidermi a'r sgerbwd i'w harddangos yn eu horiel fach eu hunain gydag arddangosiadau cysylltiedig am hanes y môr-grwban lledraidd, y bygythiadau y mae'n eu hwynebu, y cefndir ecolegol a'r gwaith cadwraeth.

môr-grwban lledrgefn

Glanhau a thrwsio'r môr-grwban.

16 o flynyddoedd yn ddiweddarach

Ar ôl cael ei arddangos am 16 o flynyddoedd, roedd craciau eithaf mawr wedi dechrau ymddangos ar y sbesimen. Roedd wedi dechrau cracio ers peth amser a chafodd ei drwsio yma a thraw dros y blynyddoedd. Sychder yr awyr oedd yn gyfrifol am y craciau ac felly doedd dim dewis ond cau'r rhan hon o'r oriel a mynd ati o ddifrif i wneud gwaith cadwraeth ar y môr-grwban poblogaidd.

Y cam cyntaf oedd glanhau haen o lwch a baw seimllyd oddi ar y môr-grwban. Defnyddiwyd stwff glanhau an-ïonig i dynnu'r rhan fwyaf o'r baw.

Pan oedd yn eithaf glân, y cam nesaf oedd cael y rhannau o'r sbesimen oedd wedi eu hystumio nôl i'r siâp cywir. I wneud hyn, gwylchwyd y rhan allanol â chymysgedd o ddŵr wedi'i ddad-ïoneiddio, halen a glanedydd fel y gellid ei symud yn ôl i'w siâp.

Tynnu'r hen waith trwsio

Ar ôl i'r sbesimen sychu, tynnwyd yr hen waith trwsio. Roedd hon yn broses hir ac araf ac roedd angen bod yn ofalus i beidio â gwneud rhagor o niwed i groen y môr-grwban. Roedd llawer o'r croen wedi'i baentio'n ddu rai blynyddoedd cynt ac felly roedd angen tynnu'r paent hefyd. Gwnaed hyn trwy ddefnyddio aseton a system symudol i gael gwared â'r tarth.

Ar ôl tynnu'r gwaith trwsio cynt a'r paent, roedd patrymau a gwead croen gwreiddiol y môr-grwban i'w gweld unwaith eto. Cafodd bylchau a holltau yn y sbesimen eu llenwi a phaentiwyd drostynt mewn ffordd oedd yn cyd-fynd â lliw ac ansawdd croen gwreiddiol y môr-grwban.

Môr-grwban lledrgefn

Y môr-grwban ar ôl y gwaith cadwraeth.

Môr-grwban lledrgefn

Arddangosfa newydd y môr-grwban lledrgefn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Ailarddangos

Cafodd y sgerbwd ei lanhau'n ofalus hefyd cyn ailosod y môr-grwban gorffenedig fel yr oedd o'r blaen. Ar ôl 4 mis o waith, roedd modd ailagor oriel y môr-grwban i'r cyhoedd unwaith eto.

Taith arall i'r môr-grwban

Roedd sychder yr aer yn oriel y môr-grwban yn dal i achosi problemau o ran cadwraeth. Felly, yn 2006, symudwyd y môr-grwban i le newydd yn yr oriel 'Dyn a'r Amgylchedd' gerllaw, ger y morfil cefngrwm. Mae cyflwr yr aer yn well yn y fan honno ac felly llwyddwyd i gadw'r môr-grwban mewn arddangosfa agored. Yn ogystal, cafodd y panelau arddangos eu hadnewyddu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r môr-grwban, felly, yn ychwanegiad gwerthfawr i'r oriel hon.

Agos at Natur

3 Awst 2007

Edrychwch yn agos ar strwythurau a phatrymau rhyfedd natur. Mae’r delweddau rhyfeddol hyn i gyd wedi’u creu gan wyddonwyr Amgueddfa Cymru gan ddefnyddio ffotograffiaeth wedi’i chwyddo’n fawr. Datgelir anifeiliaid a phlancton bychan iawn mewn goleuni newydd yn y lluniau syfrdanol hyn, sydd i’w hedmygu am eu harddwch trawiadol yn ogystal â’u gwerth gwyddonol.

Ar y lefel hon o’u chwyddo, mae’r gwirionedd yn syfrdanol, cliciwch ar y delweddau isod i ddarganfod mwy...

Oriel 1

Anna Gruffudd, 2 Awst 2007

Iawn te! Bywyd yn Oriel 1!

Dyma fi yn fy swydd newydd fel dehonglydd Oriel 1, oriel newydd Sain Ffagan yn sgwennu blog am y tro cynta! Fe fydd, fel yr Oriel yn un arbrofol felly! (Ac fel Owain...nes i sgwennu hwn unwaith a cholli'r cwbl...ti'n meddwl sa'n well i ni gael gwersi?!!) Yn anffodus, ar hyn o bryd rwy'n eistedd wrth ddesg yn syllu ar olygfa ddigon llwyd drwy'r ffenest.

Mae ambell sied wedi eu ffensio ag arwydd 'keep out' a 'Site Canteen' i'w gweld ac adeilad mawr siedaidd yn gefndir. O wel, er mwyn cyfleu ychydig o naws y lle bydd rhaid i fi ddychmygu felly fy mod i'n eistedd yng nghanol yr Oriel. O fy mlaen i, mae superted a'i gefn tuag ata i a'i ben e'n pwyso ar hen arwydd y pentref a fu unwaith, 'CAPEL CELYN'.

Uwch ei ben, mae Sgrabble yn Gymraeg a rhes o oleuade bach gwyn yn goleuo'r casyn gwydr y mae'n eistedd ynddo.

Yn nes ata i mae dros gant o recordie saith modfedd o'r 60au a'r 70au yn garped lliwgar lliwgar ar y wal, ac yn treiddio drwy'r awyr mae cerddoriaeth hudolus hamddenol.

Ar y wal y tu ol i mi mae lluniau gan blant yn dawnsio ar y wal ar ffilm. O gyfeiriad arall mae swn gwahanol, clychau a baban yn crio, ac yn y pellder swn torf yn dathlu ym mharc yr arfau. Wrth droi o gwmpas rwy'n gweld drychau mawr ar y wal ac yn hongian o'u hamgylch mae dillad sy'n eich gwahodd i'w teimlo a'u gwisgo.

Ddoe, roedd criw o blant yn dawnsio o amgylch y 'juke box' ac ymwelwyr yn rhyfeddu ar wydr lliw a wnaed gan SMYLe, grwp o fwslemiaid ifanc o Abertawe. Roedd plant bach yn gwneud llwyau caru papur gydag un o'r artisiaid fydd yn gweithio yn yr Oriel bob dydd ym mis Awst gyda'r Cert Celf. Roedd merched yn eu harddegau yn gigls i gyd yn cael tro'n cario'r ddol mewn siol yn y dull Cymreig a thatcu yn rhyfeddu ar ei wyrion bach yn gwrando'n astud ar glustffonau arbennig ar straeon ac atgofion o gasgliadau'r archif. Mae cymaint wedi digwydd yn yr Oriel, dawnsio o dros y byd, artistiaid yn perfformio a darlithiau a sgyrsiau o bob math.

Ond well i fi fynd nawr i wneud ychydig o waith paratoi ar gyfer y gweithdau a'r gweithgareddau fydd yn yr Oriel. Mwy o hanesion am gymeriadau a bywyd Oriel 1 i ddod!