Ail-greu bywyd y Gymru gynnar

2 Awst 2007

Isod mae detholiad o luniau artistiaid o olygfeydd o fywyd bob dydd yng Nghymru. Mae'r delweddau'n amrywio o'r cyfnod Paleolithig, pan ddaeth pobl i Gymru am y tro cyntaf, hyd at y Goncwest Rhufeinig. Cliciwch ar y delweddau isod i'w gweld yn fwy manwl.

Ambell air yn y Gymraeg

30 Gorffennaf 2007

Clywed ambell i air yn y Gymraeg fel Bore Da a Diolch

Siawns i ddysgu ambell i air yn y Gymraeg fel Bore Da a Diolch, i'w defnyddio yn eich bywyd pob dydd.

Fideo o'r pecyn i ddysgwyr Cymraeg

Geiriau Glo .

Fideo o'r pecyn i ddysgwyr Cymraeg

Gwau Geiriau .

Mae pecynnau i ddysgwyr Cymraeg ar gael yma:

  • /llwybraullafar/
  • /camaucymraeg/
  • /geiriauglo/
  • /gwaugeiriau/
  • Ieithoedd Cymraeg ac Indo-Ewopeaidd

    30 Gorffennaf 2007

    Beth yw'r cysylltiad rhwng rhai o brif ieithoedd hanesyddol y byd a sut mae'r Gymraeg a Bengali yn perthyn i'w gilydd? Mae'r athro David Crystal yn egluro...

    Mae Bengaleg a’r Gymraeg yn aelodau o’r un teulu o ieithoedd – y teulu Indo-Ewropeaidd. Mae hwn yn deulu anferth, o orrllewin Ewrio gyda ieithoedd fel Sbaeneg a Phortiwgaleg, ar draws Asia I gyd gyda Rwseg, ac I lawr I isgyfandir India gyda ieithoedd fel Bengaleg.

    A sut ydym ni’n gwybod bod perthynas rhyngddyn nhw? Am fod ieithegwyr wedi olrhain yr holl beth. Rhywun sy’n astudio hanes iaith yw ieithegydd.Yn yr 18fed ganrif, un o’r ieithegwyr enwocaf a chyntaf oll oedd mab I Gymro, William Jones. Daeth yn farwr yn Bengal, a sefydlu cymdeithas yno. Roedd e’n ieithydd anhygoel. Roedd e’n siarad dros 40 o ieithoedd.

    Fe geisiodd e weld beth oedd y berthynas rhwng ieithoedd mawr hanes, fel Sansgrit, a Lladin a Groeg. Credai pawb mai Sansgrit oedd yr iaith hynaf, a bod y lleill yn dod o Sansgrit. Ond fe welodd e mai nid fel hynny oedd hi. Dangosodd fod Sansgrit a Lladin a Groeg yn chwiorydd I’w gilydd, a’u bod wedi tarddu o ryw iaith gynharach sydd falle ddim yn bodoli heddiw. Ac enw’r iaith honno yw Indo-Ewropeg.

    Etifeddiaeth ddiwydiannol David Davies

    29 Gorffennaf 2007

    David Davies (1818-1890)  Mae'r llun yn ei ddangos yn gorffwys am ennyd prin. Casgliad preifat (Lord Davies)

    David Davies (1818-1890)
    Mae'r llun yn ei ddangos yn gorffwys am ennyd prin. Casgliad preifat (Lord Davies)

    Hafn Talerddig, y dyfnaf yn y byd ar y pryd.

    Hafn Talerddig, y dyfnaf yn y byd ar y pryd.

    Doc Rhif 1 ym 1913, pan oedd dociau'r Barri'n allforio 11 miliwn tunnell o lo. Mae'r ardal ym mlaen y llun ar y dde'n edrych fel arwynebedd solet a gwastad, ond dŵr y doc yw hwn mewn gwirionedd, wedi'i orchuddio â throchion a llwch glo.

    Doc Rhif 1 ym 1913, pan oedd dociau'r Barri'n allforio 11 miliwn tunnell o lo. Mae'r ardal ym mlaen y llun ar y dde'n edrych fel arwynebedd solet a gwastad, ond dŵr y doc yw hwn mewn gwirionedd, wedi'i orchuddio â throchion a llwch glo.

    David Davies, Llandinam

    Trawsnewidiodd rhoddion a chymynroddion Gwendoline a Margaret Davies amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru'n llwyr. Y chwiorydd Davies oedd cyfranwyr mwyaf yr Amgueddfa yn ystod ei chanrif gyntaf.

    Roedd Gwendoline a Margaret Davies yn wyresau i David Davies, Llandinam, un o entrepreneuriaid mwyaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

    Dechreuodd David Davies ei oes fel ffermwr tenant a llifiwr. Gwnaeth ei ffortiwn trwy adeiladu rhan helaeth o system reilffyrdd y canolbarth wrth i Gymru Oes Victoria ddiwydiannu, bu'n arloeswr y diwydiant glo yng nghwm Rhondda, ac ef oedd y grym y tu ôl i'r gwaith o adeiladu dociau'r Barri.

    Rheilffyrdd

    Dechreuodd ei yrfa ym myd y rheilffyrdd wrth iddo adeiladu Rheilffordd y Drenewydd a Llanidloes ym 1859, a bu'n allweddol wrth adeiladu nifer o reilffyrdd y canolbarth, Dyffryn Clwyd a Sir Benfro. 

    Ei gamp fwyaf fel peiriannydd y rheilffyrdd oedd hafn fawr Talerddig ar Reilffordd y Drenewydd a Machynlleth - hon oedd hafn ddyfnaf y byd pan gwblhaodd y gwaith ym 1862.

    Ond ni lwyddodd pob un o fentrau Davies — ni chyrhaeddodd y rheilffordd â'r enw crand Rheilffordd Manceinion a Milffwrdd fyth y naill le na'r llall!

    Glo — 'Davies yr Ocean'

    Bu 1864 yn drobwynt yng ngyrfa David Davies pan gymerodd les fwynau arloesol yng nghymoedd y de. Fe gymerodd ddwy flynedd i'r pyllau cyntaf ddechrau cynhyrchu ar raddfa fawr ac roedd wedi agor pum glofa ychwanegol erbyn 1886.

    Y flwyddyn ganlynol daeth y pyllau dan enw cwmni cyfyngedig cyhoeddus newydd, yr Ocean Coal Co. Ltd.

    Pan fu farw Davies ym 1890, hwn oedd cwmni glo mwyaf a mwyaf proffidiol y de.

    O'r pwll i'r porthladd

    Penllanw gyrfa David Davies oedd adeiladu'r doc yn y Barri.

    Cyfunodd Davies a nifer o berchnogion glofeydd eraill cwm Rhondda eu hymdrechion i ddatrys problem prysurdeb Rheilffordd Cwm Taf a dociau Bute yng Nghaerdydd. Aethant ati i adeiladu rheilffordd o'r maes glo i'r dociau newydd yn y Barri, oedd yn bentrefan bach bryd hynny. Er gwaetha'r gwrthwynebiad ffyrnig o garfan Bute, agorodd y doc ym 1889.

    Cyfoeth ar waith

    Roedd David Davies yn Fethodist Calfinaidd selog. Ffydd anghydffurfiol lem oedd hon, oedd yn unigryw yng Nghymru ac yn wahanol i Fethodistiaeth Wesleaidd.

    Fel holl aelodau teulu Gwendoline a Margaret, bu'n Sabathydd ac yn llwyrymwrthodwr gydol ei oes. Fe wnaeth hyn feithrin ynddo ymdeimlad dwfn o ddyngarwch a gwasanaeth cyhoeddus. Roedd yn gyfrannwr hael iawn at achosion crefyddol ac addysgol.

    Gan iddo dderbyn addysg elfennol iawn ei hun, roedd darparu addysg prifysgol yng Nghymru yn agos at galon David Davies. Roedd yn gefnogwr brwd o'r coleg cyntaf a agorwyd yn Aberystwyth ym 1872.

    Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Fwrdeistrefi Ceredigion rhwng 1874-86, a chafodd ei ethol i Gyngor cyntaf Sir Drefaldwyn adeg ei sefydlu ym 1889.

    Ar ôl David Davies

    Bu farw David Davies ym 1890 ac fe'i olynwyd gan ei fab Edward. Bu straen rhedeg y busnes yn ormod iddo, a bu farw gwta wyth mlynedd ar ôl ei dad.

    Olynwyd yntau yn ei dro gan David, brawd Gwendoline a Margaret, yn ddiweddarach Arglwydd Davies y Cyntaf. Ef fu'n gorfod dygymod â dirwasgiad hir y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel.

    Yn dilyn y rhyfel gwladolwyd y diwydiant glo, y dociau, a'r rheilffyrdd, ac fe gollodd y teulu eu gafael ar eu busnesau helaeth.

    Heddiw mae holl lofeydd Ocean a'r rhan fwyaf o'r system rheilffordd a greodd David Davies wedi cau, ac mae dociau'r Barri'n gymharol segur.

    Gwasg Gregynog

    29 Gorffennaf 2007

    Chwiorydd Davies Gregynog

    'The stealing of the mare' gan Robert Maynard

    Wynebddalen The stealing of the mare (1930), gan Robert Maynard.

    Un o agweddau pwysicaf cysylltiad y chwiorydd Davies â'r celfyddydau oedd sefydlu Gwasg Gregynog. Y Wasg oedd yr unig elfen o'r cynllun celf a chrefft a gynlluniwyd ar gyfer Gregynog i gael ei weithredu, gan ddechrau cynhyrchu tua diwedd 1922. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf, Poems by George Herbert, flwyddyn yn ddiweddarach, a'r llyfr olaf ym 1940.

    Roedd Gwasg Gregynog, fel gweisg preifat eraill y cyfnod, yn cynhyrchu llyfrau o safon uchel mewn niferoedd cyfyngedig. Argraffwyd llyfrau o'r fath ar bapur wedi'u wneud â llaw fel arfer, gan ddefnyddio gweisg llaw neu beiriannau llythrenwasg bach. Comisiynwyd nifer o brif ysgythrwyr pren yr ugeinfed ganrif i gynhyrchu darluniau ar gyfer y llyfrau.

    Roedd gan y chwiorydd eisoes lyfrau o rai o weisg preifat gorau diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, fel y rhai o weisg Kelmscott ac Ashendene.

    Staff

    Un o'r copïau o'r rhwymiad arbenig o'r Anerchiad a gyflwynwyd i'r Brenin Siôr V

    Un o'r copïau o'r rhwymiad arbenig o'r Anerchiad a gyflwynwyd i'r Brenin Siôr V ar achlysur agoriad ffurfiol Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar 21 Ebrill 1927.

    Pan oedd y Wasg yn ei anterth, cyflogwyd dau ar bymtheg aelod o staff. Roedd y rhan helaeth o'r gweithlu cyffredinol yn yr ystafelloedd cysodi a rhwymo yn Gymry lleol. Daeth y staff artistig o Loegr a'r Alban yn bennaf.

    Ceisiodd Bwrdd Gwasg Gregynog gyflawni tri nod wrth gyhoeddi llyfrau cain, sef: argraffu llyfrau yn Gymraeg; cyhoeddi rhai o'r enghreifftiau gorau o lenyddiaeth Eingl-Gymreig; a chyhoeddi cyfieithiadau o weithiau Cymreig.

    O'r 1930au ymlaen, roedd y testunau'n fwy amrywiol. O'r pedwar deg dau llyfr, roedd wyth ohonynt yn Gymraeg, ac roedd gan unarddeg arall gysylltiadau Cymreig. Yr ystyriaeth hon o ddeunydd Cymreig oedd un o nodweddion arbennig y Wasg.

    Argraffiad o Anerchiad y Brenin

    Fables of Esope
    The fables of Esope

    (1932). Daeth ysgythriadau pren Agnes Miller Parker ar gyfer y llyfr hwn, a XXI Welsh gypsy folk-tales (1933), â hi i sylw'r cyhoedd fel un o ysgythrwyr pren gorau'r ugeinfed ganrif.

    Cynhyrchwyd un o'r cyhoeddiadau prydferthaf ar gyfer Amgueddfa Cymru, a hynny ar fyr rybudd. Argraffiad o Anerchiad y Brenin oedd hwn, a ddarllenwyd pan agorodd y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary yr Amgueddfa yn swyddogol ar 21 Ebrill 1927. Rhwymwyd nifer o gopïau mewn 'levant Moroco glas', ag ymylon aur.

    Argraffu

    Psalmau Dafydd

    Tudalen lliw Salm XC o Psalmau Dafydd (1929)

    Argraffwyd y llyfr 'gwasg' cyntaf, Poems by George Herbert, gyda gwasg llaw Albion. Yn fuan wedi hynny gosodwyd gwasg blaten Victoria a bwerwyd gan ei wneud yn llai llafurus. Y Victoria oedd prif wasg Gregynog, er mai defnyddio'r Albion wnaeth William McCance, ail oruchwyliwr y Wasg, pan argraffodd ei lyfr cyntaf, sef Comus John Milton ym 1931.

    Cyfyngwyd y pedwar llyfr cyntaf i un ffurfdeip (Kennerley), ond yn fuan iawn daeth yn bosibl defnyddio amrywiaeth o deipiau. Cynhyrchodd Gregynog ei theip eu hun hefyd, a ddefnyddiwyd ar gyfer un llyfr yn unig (Eros and Psyche, 1935).

    Roedd Gwasg Gregynog yn defnyddio papur wedi'i wneud â llaw. O 1927 ymlaen defnyddiwyd papur llaith i hwyluso'r broses argraffu — techneg a fu'n gyffredin am flynyddoedd cyn sefydlu'r Wasg.

    Herbert Hodgson, yr argraffydd o 1927 tan 1936, oedd yn bennaf gyfrifol am safon ragorol argraffiadau cynnar y llythrenwasg a'r ysgythriadau pren.

    Ysgythriadau Pren

    The story of the red-deer

    Un o dudalennau The story of the red-deer (1935/6), llyfr i blant, yr unig lyfr a gynhyrchwyd yng Ngregynog â'r darluniau wedi'u hargraffu mewn lliw.

    Argraffwyd rhai o lyfrau ceinaf Prydain ag ysgythriadau pren addurnol rhwng y ddau ryfel byd. Chwaraeodd y Wasg ran fawr yn y cyfnod hwn. Y 1930au oedd un o gyfnodau hynotaf Gwasg Gregynog yng nghyd-destun darlunio llyfrau ym Mhrydain, gydag ysgythriadau synhwyrus Blair Hughes-Stanton a rhai cymhleth Agnes Miller Parker.

    Comisiynwyd nifer o artistiaid allanol i baratoi ysgythriadau, ac un o'r mwyaf adnabyddus o'r rhain oedd David Jones; argraffwyd ei ddau ysgythriad yn Llyfr y Pregeth-wr.

    Rhwymiadau

    The stealing of the mare (1930)

    Llun o The stealing of the mare (1930)

    Roedd Gwasg Gregynog yn unigryw ymysg gweisg preifat, gan ei bod yn ystyried bod rhwymiad llyfr yr un mor bwysig â'i argraffiad. Hyd at 1935 rhwymwyd pob llyfr mewn defnydd bwcram neu bapur brith, ac un ohonynt mewn felwm, ond rhwymwyd nifer bach o argraffiadau arbennig mewn lledr, o liwiau a chynlluniau gwahanol.

    Fisher fu'n gyfrifol am rwymo bron pob un o'r llyfrau arbennig, ac ystyrir ei fod ymhlith rhwymwyr llyfrau gorau'r ugeinfed ganrif. Yr enghreifftiau gorau o'i ddawn oedd ei waith wrth gyflawni cynlluniau McCance a Hughes-Stanton, yn arbennig The Fables of Esope, The Revelation of Saint John the Divine a The Lamentations of Jeremiah. Cynlluniodd y staff artistig yn cynnwys Maynard a Hughes-Stanton gyfrolau arbennig eraill.

    Lluniau: Gwasg Gregynog/Gregynog Press