Y Chwiorydd Davies a’r Rhyfel Mawr 29 Gorffennaf 2007 Ymwelodd Gwendoline â dinas Verdun yn Ffrainc, a oedd wedi'i difrodi a bron yn wag, ar 9 a 10 Mawrth 1917, ac fe gafodd y cerdyn post hwn i gofio ei hymweliad. Casgliad preifat (Yr Arglwydd Davies) Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith fawr ar fywydau Gwendoline a Margaret Davies. Y ddwy chwaer o'r canolbarth a drawsnewidiodd amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru gyda'u rhoddion a'u cymynroddion.Lladdwyd rhai o'u perthnasau agos a bu'r ddwy'n gweithio gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, gan weld dinistr trychinebus yno gyda'u llygaid eu hunain. Roeddynt yn ymwybodol iawn o ddioddefaint milwyr Prydain a Ffrainc, a chawsant eu synnu gan ddioddefaint y ffoaduriaid sifil.Ymroddodd eu brawd David yn llwyr i ymgyrchu dros heddwch rhyngwladol, ond gobaith y chwiorydd oedd gwella bywydau'r cyn-filwyr oedd yn dioddef trawma yn sgil y rhyfel, drwy eu haddysgu yn y crefftau a thrwy gerddoriaeth. Allan o hyn datblygodd y syniad o sefydlu Gregynog fel canolfan ar gyfer y celfyddydau, ac i drafod problemau cymdeithasol.Rhoi Lloches i Artistiaid yng NghymruAr 4 Awst 1914, ymosododd yr Almaen ar wlad Belg, gan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu'n rhaid i dros filiwn o drigolion gwlad Belg ffoi o'u cartrefi.Penderfynodd y teulu Davies y dylid dod ag artistiaid o wlad Belg i Gymru, lle gallent weithio'n ddiogel, ac ysbrydoli myfyrwyr celf y wlad. Teithiodd yr Uwchgapten Burdon-Evans, eu hasiant, a'u cyfaill Thomas Jones i wlad Belg lle sefydlwyd grŵp o nawdeg un o ffoaduriaid, oedd yn cynnwys y cerflunydd George Minne, yr arlunwyr Valerius de Saedeleer a Gustave van de Woestyne a'u teuluoedd.Treuliodd y tri artist weddill y rhyfel fel ffoaduriaid, gan ddibynnu'n helaeth ar gymorth y teulu Davies. Er mai effaith gyfyngedig gawsant ar y celfyddydau yng Nghymru, effeithiodd eu halltudiaeth yng Nghymru ar waith y tri.Y Chwiorydd yn Ffrainc, 1916–18Ar y cychwyn, bu'r chwiorydd yn gwneud gwaith elusennol oedd yn gysylltiedig â'r rhyfel gartref. Roeddent yn awyddus i wneud 'mwy i helpu', ond ni lwyddodd llawer o fenywod fynd i Ffrainc. Un ffordd o wneud hyn oedd gwirfoddoli trwy Bwyllgor y Groes Goch Ffrengig yn Llundain.Ychydig iawn o ddarpariaeth oedd yn y fyddin Ffrengig ar gyfer lles y milwr cyffredin, ac anfonodd y Pwyllgor fenywod i weithredu cabanau bwyd, ysbytai a gwersylloedd tramwy.Ym mis Gorffennaf 1916 anfonwyd Gwendoline i wersyll tramwy ger Troyes. Ymunodd Margaret â'r caban bwyd yno ym Mehefin 1917, ac mae eu dyddiaduron yn rhoi cofnod o'r cyfnod hwn yn eu bywydau.Cafodd stoiciaeth y milwyr Ffrengig cyffredin, a dioddefaint y ffoaduriaid lluddedig, sâl a llwglyd effaith ddofn ar y chwiorydd.Casglu yn ystod y RhyfelLlwyddodd y chwiorydd i ychwanegu at eu casgliad celf yn achlysurol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Er bod teithio yn Ffrainc adeg y rhyfel yn anodd, cafodd Gwendoline gyfleoedd i ymweld ag oriel Bernheim-Jeune yn sgil teithiau i Baris ar ran y Groes Goch.Prynodd luniau o waith Daumier a Carrière yno yn Ebrill 1917, a pheintiadau gan Renoir, Manet a Monet yn Rhagfyr. Yn Chwefror 1918 prynodd y tirluniau enwog gan Cézanne, Argae François Zola a Thirwedd ym Mhrofens, sydd ymysg y pwysicaf a'r mwyaf ysbrydoledig o'i phryniadau.Yn Chwefror 1916 gwariodd Gwendoline Davies £2,350 ar ddeg peintiad olew a darlun gan Augustus John. Aeth Margaret a hithau ati i gasglu mwy, ac ni chasglwyd gwaith unrhyw artist arall ar yr un raddfa ganddynt.Roedd hi'n benderfynol y dylid arddangos ei waith yn yr Amgueddfa Genedlaethol, ac yn ddiweddarach rhoddodd nifer o'i weithiau ar fenthyg i'r Amgueddfa.Nodiadau ar y Lluniau Paul Cézanne (1839–1906), Tirlun ym Mhrofens, olew ar gynfas, tua 1887–8 Prynodd Gwendoline y llun yma'r un pryd â Argae François Zola o waith yr artist ym 1918, ond am hanner pris y gwaith arall, £1,250. Fe'i peintiwyd yn fwy na thebyg o gartref y teulu ger Aix-en-Provence. Mae'n tywynnu â lliwiau De Ffrainc lle'r oedd y chwiorydd wedi treulio'u gwyliau ym 1913-14. Roedd hi'n fyd hollol wahanol i amodau gaeafol Paris dan lach y rhyfel.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2438. Paul Cézanne (1839–1906), Argae François Zola, olew ar gynfas, tua 1879 Dyma un o'r lluniau pwysicaf a brynodd Gwendoline. Fe'i prynodd ym Mharis yn Chwefror 1918 am £2,500. Roedd caban bwyd Troyes ar gau ar y pryd yn ystod gwaith trwsio. Treuliodd y cyfnod yn y ddinas, wedyn ar fusnes y Groes Goch yn sgil bomio ysbeidiol yr Almaenwyr. Mae'n bosibl iddi weld y gwaith ar ymweliad cynharach am fod Margaret wedi cyfieithu stori'r masnachwr Ambroise Vollard am hanes bywyd Cézanne o'r Ffrangeg ym mis Ionawr y flwyddyn honno. Ynghyd â Thirlun ym Mhrofens a brynodd yr un pryd, dyma un o'r lluniau cyntaf o waith Cézanne i ddod i gasgliad ym Mhrydain.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2439. Camille Pissarro (1831–1903), Porthladd Rouen, olew ar gynfas, 1898 Prynodd Margaret sawl darn o waith Pissarro yn Orielau Leicester, Llundain, ym Mehefin 1920. Hwn oedd y drutaf a thalodd £550 amdano. Y flwyddyn flaenorol roedd hi wedi gweithio yn un o gabanau bwyd Pwyllgor Cabanau Eglwysi'r Alban yn Rouen.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Margaret Davies, 1963) NMW A 2492.
Gregynog: Celf a Cherddoriaeth i Gymru 29 Gorffennaf 2007 Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Gwendoline a Margaret Davies yn benderfynol o helpu pobl oedd wedi dioddef oherwydd y Rhyfel, ac i wneud beth bynnag oedd yn bosibl i wella eu hamodau byw.Ym 1920 prynodd y ddwy Neuadd Gregynog a ddaeth yn gartref iddynt ym 1924. Roedd Gregynog yn encilfa dawel lle gellid croesawu ymwelwyr, ond eu gobaith oedd ei ddatblygu'n le prysur a phrydferth i'w rannu er budd eraill.Cefnogodd y chwiorydd nifer o gynlluniau cymdeithasol, economaidd, addysgol a diwylliannol yng Nghymru yn ystod y 1920au a'r 1930au. Eu gobaith oedd y byddai'r cynadleddau a gynhaliwyd yng Ngregynog yn helpu i adeiladu Cymru newydd ar ôl y Rhyfel Mawr.Ymwelwyr Gregynog George Bernard Shaw a Thomas Jones yng Ngregynog. Casgliad preifat (yr Arglwydd Davies) Roedd Gregynog yn fan cyfarfod i amrywiaeth eang o sefydliadau. Daeth addysgwyr, gwleidyddion, ac ymgyrchwyr heddwch a chyfiawnder cymdeithasol, oedd yn enwog yn genedlaethol a'n rhyngwladol i'r cynadleddau hyn.Bu casgliad helaeth a thrawiadol y chwiorydd o weithiau celf yn hongian ar y waliau er mwyn i'r ymwelwyr niferus eu gweld a'u mwynhau. Wrth ysgrifennu llythyr adref ym 1938, dywedodd Mary Hackett, oedd yn ymweld o Awstralia 'A ddwedais i fod yr Ystafell Gerdd yn llawn lluniau amhrisiadwy, gweithiau Turner, Monet, Manet a sawl un arall.'Yr ymwelydd mwyaf cyson oedd Thomas Jones. Fel Dirprwy Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn adnabod nifer o gymeriadau blaenllaw o fyd gwleidyddiaeth a'r celfyddydau. Roedd y dramodydd George Bernard Shaw a'r Prif Weinidog Stanley Baldwin ymysg y bobl a gafodd wahoddiad i Gregynog ganddo.Y chwiorydd Davies a cherddoriaethRoedd cerddoriaeth yn rhan annatod o fywydau'r chwiorydd. Roedd y ddwy wedi cael addysg dda mewn cerddoriaeth ac roedd Gwendoline yn feiolinydd dawnus.Roedd darpariaeth gerddorol yn fratiog yng Nghymru, a'r capel oedd unig gysylltiad y mwyafrif o bobl â cherddoriaeth. Er bod adrannau cerddoriaeth mewn tair o'r prifysgolion, roedd yna dueddiad i fod yn ynysig ac roedd safonau cyfansoddi offerynnol yn isel.Roedd y chwiorydd yn perthyn i grŵp oedd â dymuniad i newid agweddau a mynediad at gerddoriaeth yng Nghymru. Roeddent yn gweithio o fewn grwpiau gweithgar a blaengar, fel Cymdeithas Canu Gwerin Cymru a Chlwb Cerddoriaeth y Brifysgol yn Aberystwyth.Gŵyl Gregynog Ystafell Gerdd Gregynog.Casgliad preifat (yr Arglwydd Davies) Daeth oes aur gweithgarwch cerddorol Gregynog yn y 1930au, sef cyfnod Gŵyl Gerdd a Barddoniaeth Gregynog. Cynhaliwyd yr Ŵyl bob blwyddyn o 1933 hyd at 1938. Byddai'n para tri neu bedwar diwrnod, gyda chyngherddau yn yr Ystafell Gerdd 200 sedd. Cynhaliwyd casgliadau ar gyfer achosion lleol. Ystyriwyd bod yr elfen farddonol yr un mor bwysig â'r gerddoriaeth.Yn ystod y 1930au, byddai'r gwyliau'n denu nifer o bwysigion y cyfnod, yn cynnwys y cyfansoddwyr Ralph Vaughan Williams, Edward Elgar a Gustav Holst, yr arweinydd Adrian Boult, y bardd Lascelles Abercrombie, a'r perfformwyr Jelly d'Arányi a'r Rothschild Quartet.Diwedd cyfnodDaeth oes aur gweithgarwch cerddorol Gregynog yn y 1930au. Daeth y gwyliau i ben ym 1939 pan drodd y chwiorydd eu sylw at ymdrech y rhyfel. Cafodd marwolaeth Walford Davies ym 1941, a Gwendoline ddeng mlynedd yn ddiweddarach ym 1951, effaith ddofn ar fywyd cerddorol Gregynog. Er y soniwyd am gynlluniau i droi'r Neuadd yn ganolfan gerddoriaeth i Gymru, ni welwyd y cynlluniau hynny'n dwyn ffrwyth.Pan benodwyd Ian Parrott yn Athro Cerdd Gregynog ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1954, atgyfododd ysbryd cerddorol y Neuadd trwy adfywio'r Ŵyl ym 1955. Cynhaliwyd gŵyl bob blwyddyn tan 1961 gan gadw'n weddol dynn at naws rhaglenni'r 1930au. Ym 1988, adfywiwyd yr Ŵyl unwaith eto, y tro hwn gan y tenor Anthony Rolfe Johnson. Mae'n parhau heddiw o dan gyfarwyddiaeth Dr Rhian Davies. Dyma dystiolaeth bendant o etifeddiaeth gerddorol y chwiorydd i Gymru.Nodiadau ar y lluniau Pierre-Auguste Renoir (1841–1919), La Parisienne, olew ar gynfas, 1874 Yn ôl Eirene White, roedd La Parisienne o waith Renoir yn 'hongian yn y cyntedd, gyferbyn â drws yr Ystafell Gerdd'. Mae'r Arglwydd Davies cyfredol yn cofio ymweld tua 1960 a gweld Moret o waith Sisley (yr oedd Margaret wedi ei brynu'r flwyddyn honno) ac Yn Bougival o waith Berthe Morisot yn yr ystafell groeso, gyda Madame Zborowska o waith Derain uwchben y lle tân. Édouard Manet (1832–1883), Y Gwningen, olew ar gynfas, 1881 Y bwriad gwreiddiol oedd cynnwys hwn fel rhan o gylch addurnol i'w weld o bell. Ar ôl marwolaeth Manet fe'i gwerthwyd i'r masnachwr Durand-Ruel. Prynodd Gwendoline y llun o'r Bernheim-Jeune am £1,000 ym 1917. Fe'i rhoddodd i hongian yn Ystafell Gerdd Gregynog wrth ymyl Effaith Eira yn Petit-Montrouge.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMWA 2466 Claude Monet (1840–1926), Lilïau Dŵr, olew ar gynfas, 1905 Cyflogodd Monet ddyn i ofalu am y llynnoedd yn Giverny lle'r oedd lilïau dŵr yn tyfu. Byddai'n gweithio bob dydd yn clirio'r llyn fel y gallai Monet beintio'r lilïau'n adlewyrchu yn y dŵr. Prynodd Gwendoline y gwaith hwn yng Ngorffennaf 1913. Roedd y ddwy chwaer yn hoffi garddio, a chrwyd llyn lilïau yng ngerddi Gregynog lle byddai Margaret yn mwynhau mynd i beintio.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2484 Vincent van Gogh (1853–1890), Glaw – Auvers, olew ar gynfas, tua 1890 Ysgrifennodd van Gogh at ei frawd am 'y brain yn cylchu uwchben y caeau' oedd yn peri iddo deimlo'n drist ac yn unig. Printiau Japaneaidd ysbrydolodd y llinellau graffig trwm sy'n darlunio'r glaw. Peintiodd van Gogh y darn yma pan oedd yn aros yn Auvers ac yn cael triniaeth am iselder. Fe'i prynwyd gan Gwendoline ym 1920 am £2,020.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A2463
Un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru 26 Gorffennaf 2007 Canwyllbren gan of arian Protestannaidd o Ffrainc, Lewis Pantin yn yr arddull rococo ffasiwn newydd. 1734. Syr Watkin Williams Wynn (1693-1749) - 1740, olew ar ganfas. 76.2 x 63.2 cm Williams-Wynn o Wynnstay Daeth teulu Williams-Wynn, Wynnstay, Sir Ddinbych yn un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru tua dechrau'r 18fed ganrif a pharhau felly am dros ddwy ganrif. Roedd gan sawl aelod o'r teulu ddiddordeb yn y celfyddydau a daeth Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789), 4ydd barwnig, yn un o noddwyr mwyaf y celfyddydau gweledol a cherddoriaeth yng Nghymru. Erbyn hyn, mae rhan fawr o'i gasgliad yn Amgueddfa Cymru. 'Cyfoeth Syr Watkin' Syr Watkin Williams-Wynn (1693-1749), 3ydd barwnig, oedd tirfeddiannwr mwyaf Cymru yn ystod y 1730au a'r 1740au, ac roedd yn un o arweinwyr cenedlaethol y blaid Dorïaidd yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd yn ŵyr i'r gwleidydd Syr William Williams (1633/4-1700) a ddaeth yn berchen ar stadau yn Sir Ddinbych a Swydd Amwythig. Fodd bynnag, nid gan ei dad yr etifeddodd y rhan fwyaf o'i gyfoeth mawr ond gan nifer o berthnasau benywaidd. Ym 1719, etifeddodd stad Wynnstay yn Sir Ddinbych a thiroedd eraill yng Nghaernarfon a Meirionnydd gan gefnder ei fam, Syr John Wynn. Ym 1715, priodwyd Wynn â merch ieuaf Edward Vaughan, Llwydiarth ac, erbyn 1725, roedd rhieni ei wraig a'i chwaer hŷn wedi marw ac felly etifeddodd ragor o stadau ym Maldwyn, Sir Ddinbych a Meirionnydd. Erbyn hyn, roedd yn berchen ar dros 100,000 o erwau, gwerth rhwng £15,000 ac £20,000 y flwyddyn, a rhoddodd hyn ddylanwad mawr iddo mewn etholiadau seneddol. Ar ôl marw ei wraig Ann Vaughan ym mis Mai 1748, priodwyd Wynn â'i ferch fedydd, Frances Shakerley (1717-1803). Ganed eu mab, yntau hefyd yn Syr Watkin Williams-Wynn, y 4ydd barwnig, ym mis Ebrill 1749. Lladdwyd Syr Watkin, a alwyd weithiau'n 'Dywysog Cymru', mewn damwain wrth hela ym mis Medi 1749. Ceir dau bortread ohono yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Gwaith Thomas Hudson, portreadwr ffasiynol o Lundain a dynnai luniau ffurfiol caboledig, oedd un o'r rhain. Llun pastel gan William Hoare o Gaerfaddon yw'r llall. Mae'n un o grŵp o luniau a gomisiynwyd gan gydymaith Wynn, yr Arglwydd Lichfield. Soffistigeiddrwydd diwylliannol a gyfoeth Mae dau ddarn o waith arian yn arwydd o gyfoeth a soffistigeiddrwydd diwylliannol Wynnstay, sef pâr o ganwyllbrennau mawr a stand teircoes enfawr ar gyfer tegell. Gwnaed y canwyllbrennau yn Llundain ym 1734 gan of arian Protestannaidd o Ffrainc, Lewis Pantin, ac maent wedi'u boglynnu a'u castio â blodau, cregyn a sgroliau — yn yr arddull rococo ffasiwn newydd. Roeddent yn rhan o set o bedwar a chawsant eu cynnwys mewn rhestr o waith arian Syr Watkin a luniwyd ar ôl iddo farw. Mae ychydig o waith arian a brynwyd gan y teulu ym 1720 wedi goroesi. Mae hyn yn beth eithriadol o brin oherwydd dim ond llond llaw o'r darnau hyn na chafodd eu toddi i'w hailddefnyddio.
Arswyd y Moroedd Silwraidd 26 Gorffennaf 2007 Yr ewrypterid o Fforest Clud (x1.5) y sbesimen mewn perthynas â'r anifail cyfan yn yr ailgread Mae'r sbesimen bach o ardal Woolhope (x3.5). Sylwch fod tarian y pen wedi'i symud i'r chwith. Mae pobl yn dod â nifer fawr o sbesimenau i'r Adran Ddaeareg bob blwyddyn gan obeithio y gallwn ddweud beth ydynt. Gan amlaf, ffosilau neu fwynau cyffredin yw'r rhain ond, o bryd i'w gilydd, mae rhywun yn dod â rhywbeth anghyffredin. Dyna a ddigwyddodd ym mis Rhagfyr 1989 pan ddaeth Mr Stephen Jenkins o Aberhonddu â ffosil rhyfedd ei olwg y daeth o hyd iddo ar ochr lôn trwy Fforest Clud. Anifail mawr tebyg i sgorpion I ddechrau roedd yn edrych fel gên pysgodyn a nifer o ddannedd main o wahanol faint ond, ar ôl ei archwilio'n ofalus, gwelwyd nad dyna ydoedd. Yn y diwedd, llwyddwyd i ganfod beth oedd y ffosil mewn gwirionedd — hanner pinsiwrn anifail y dŵr, tebyg i sgorpion, oedd wedi darfod â bod, o'r enw ewrypterid. Un peth trawiadol am y sbesimen hwn yw ei faint - 64mm (2.5 modfedd) o hyd, sy'n dangos bod yr anifail cyfan tua 70cm (27 modfedd) o hyd. Mae'r creigiau lle canfuwyd y ffosil ym Maesyfed yn perthyn i Gyfres Llwydlo yn y System Silwraidd — tua 420 miliwn oed. Er bod ewrypteridau yn edrych yn debyg i sgorpionau, nid ydynt yn perthyn yn agos iddynt, er eu bod yn perthyn i'r un grŵp cyffredinol o arthropodau — anifeiliaid di-asgwrn-cefn â choesau cymalog, sy'n cynnwys corynnod, crancod, cimychiaid a phryfetach. Roedd yr ewrypteridau'n ffynnu o tua 480 miliwn o flynyddoedd yn ôl tan iddynt ddarfod â bod 250,000,000 o flynyddoedd yn ôl. Gwelir y rhan fwyaf o'u ffosilau mewn creigiau a ddyddodwyd mewn dŵr croyw neu ddŵr lled hallt; dim ond ychydig, yn cynnwys sbesimen Fforest Clud, sy'n dod o greigiau morol. Mae'n bosib bod y sbesimen wedi'i olchi allan i'r môr o ddyfroedd basach a oedd i'r dwyrain o Fforest Clud. Cewri cigysol y môr Mae'r pinsiwrn yn perthyn i math o ewrypterid o'r enw Pterygotus, a oedd yn gallu nofio'n dda. Wyddon ni ddim yn iawn beth yr oedd yn ei fwyta, ond mae'n debyg bod ei ddeiet yn cynnwys pysgod cyntefig. Mae'r sbesimenau mwyaf y gwyddom amdanynt o rannau eraill o'r byd yn mesur bron 3m (10 troedfedd) o hyd, a'r rhain yw'r arthropodau mwyaf y gwyddom amdanynt. Nid yw'r sbesimen yn Amgueddfa Cymru cweit mor fawr â hynny! Nid oedd y rhan fwyaf o ewrypteridau'n tyfu mor fawr. Trwy gyd-ddigwyddiad, ychydig ar ôl i'r pinsiwrn ddod i'r Amgueddfa, cawsom ewrypterid arall — y 'corff' y tro hwn. Daeth hwn o greigiau Silwraidd ychydig yn iau (400 miliwn oed) a oedd yn y golwg ger Woolhope (Swydd Henffordd). Fe'i casglwyd gan Dr Paul Selden, o Brifysgol Manceinion gynt, ac roedd yn mesur dim ond 0.9cm (0.3 modfedd) o hyd. Credir mai ffosil creadur ifanc ydyw ac y gallai'r anifail yn ei lawn dwf fod tua 10cm (4 modfedd) o hyd. Erbyn hyn, mae'r ddau sbesimen yng nghasgliadau'r Amgueddfa, diolch i haelioni'r casglwyr. Dros y blynyddoedd, mae'r cyhoedd a chydweithwyr academaidd wedi cyfoethogi ein casgliadau yn gyson ac mae rhoddion fel hyn yn ffynhonnell bwysig o ddefnyddiau i ni. Wyddoch chi byth beth fydd yn cyrraedd yfory...
Deinosor hwyadbig o'r enw Ruth 26 Gorffennaf 2007 Ychydig o ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac, yn wir, ychydig o aelodau'r staff y tu allan i'r Adran Ddaeareg sy'n gwybod mai 'Ruth' yw enw ei ffrindiau ar y deinosor hwyadbig enfawr Edmontosaurus. Mae'r enw'n awgrymu ein bod yn gwybod mai benyw yw'r sbesimen 8 metr o hyd ond mewn gwirionedd does dim tystiolaeth i ddweud ai benyw ynteu gwryw ydyw. Felly pam 'Ruth'? Mae'r ateb yn syml, heb unrhyw fath o ddirgelwch gwyddonol - mewn chwarel yn y Black Hills, South Dakota, UDA, a oedd yn eiddo i Mrs Ruth Mason, y daethpwyd o hyd i'r deinosor. Logo'r Black Hills Institute of Geological Research yn dangos Ruth y deinosor hwyadbig o Amgueddfa Cymru. Defnyddiwyd yr enw 'Ruth' i ddechrau gan staff y Black Hills Institute of Geological Research pan oeddent yn codi'r deinosor ym 1986-7, i gydnabod caredigrwydd Mrs Mason tuag atynt. Ar ïl i ni brynu'r sbesimen, daeth criw bach o'r cwmni draw i ail-osod y sgerbwd i ni. Gan eu bod nhw'n ei alw'n 'Ruth', fe ddechreuon ninnau wneud hynny hefyd wrth sïn yn anffurfiol am y sbesimen. Mae'r Black Hills Institute, yn Hill City, South Dakota yn un o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y byd sy'n ymwneud â chasglu, paratoi a chyflenwi sbesimenau o fwynau a ffosilau o safon uchel i'w harddangos mewn amgueddfeydd. Mae'r Edmontosaurus sydd i'w weld yng Nghaerdydd yn un o'r enghreifftiau gorau o ddeinosor 'hwyadbig' a godwyd erioed. Gosododd y Black Hills Institute ef mewn ystum realistig iawn wedi'i seilio ar ein gofynion dylunio ni. Mae'r sbesimen mor hardd ac yn edrych mor fyw fel bod y Black Hills Institute wedi cynnwys llun o'r sgerbwd yn ei logo: mae'n llun trawiadol ac yn arwydd da o fedr y gweithwyr. O'i dechreuadau di-nod dros 65 miliwn o flynyddoedd yn ïl, mae Ruth erbyn hyn yn cael ei chydnabod yn fyd-eang wrth iddi hysbysebu sbesimenau daearegol i'w harddangos. Mae hefyd yn cynnig profiad unigryw i bawb sy'n dod i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.