Creigiau hynaf Cymru 26 Gorffennaf 2007 Yr eitemau hynaf yng nghasgliadau'r Amgueddfa yw awyrfeini 4,500 miliwn mlynedd oed o'r gofod. Fodd bynnag, yr eitemau hynaf o Gymru yw sbesimenau o greigiau o ardal Pencraig, Powys, a ffurfiwyd tua 700 miliwn o flynyddoedd yn ôl, cyn i Gymru gymryd y ffurf yr ydym ni'n ei hadnabod heddiw. Creigiau tawdd o Afalonia Y creigiau hyn sy'n ffurfio y tri bryn bychain conaidd Hanter, Stanner a Worsel Wood, ac fe'u gwnaed o gabro, dolerit ac ithfaen — creigiau igneaidd a fu unwaith yn greigiau tawdd. Pan ffurfiwyd y rhain 700 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru ymhell yn hemisffer y de. Roedd Cymru, Lloegr a rhannau o Newfoundland, New Brunswick a New England yn rhan o ficrogyfandir Afalonia a oedd ar gyrion cyfandir enfawr Gondwana. Bryd hynny, roedd yr Alban yn agos at y cyhydedd, yn sownd wrth gyfandir Laurentia yng Ngogledd America. Ni ddaeth yn rhydd ac uno â de Prydain am gannoedd o filiynau o flynyddoedd wedyn. Ceir creigiau hen iawn ar Ynys Môn ac ym Mhen Llŷn hefyd, a chredir bod creigiau tebyg yn ddwfn yn y ddaear ledled Cymru. Fel rheol, dim ond mewn mannau lle cawsant eu codi i'r wyneb ar hyd y prif ffawtiau y gwelwn y creigiau hynafol hyn. Sut y gwyddom mai'r rhain yw creigiau hynaf Cymru? Nid oes ffosilau yn y creigiau hyn. Felly, sut y gwyddom mai'r creigiau o ardal Pencraig yw'r hynaf a pha mor hen ydynt? Cawn yr ateb wrth edrych ar y mwynau sydd yn y creigiau a'r elfennau cemegol sydd yn y mwynau hynny. Dadfeiliad ymbelydrol Mae creigiau'n cynnwys gwahanol fwynau a'r mwynau yn eu tro yn cynnwys elfennau cemegol. Mae llawer o elfennau i'w cael mewn gwahanol ffurfiau, neu isotopau, ac mae rhai o'r rhain yn naturiol ansefydlog ac yn newid ohonynt eu hunain i fod yn elfen arall trwy broses dadfeiliad ymbelydrol. Trwy'r broses hon, cawn gloc naturiol sy'n mesur faint o amser a fu ers i'r mwynau gael eu ffurfio. Mae'r cloc yn dechrau cerdded cyn gynted ag y bydd y mwyn yn crisialu. Trwy ddefnyddio offer manwl iawn — spectromedr màs — gellir mesur cyfran cynhyrchion y dadfeiliad ymbelydrol. Gan fod y rhain yn crynhoi ar raddfa sy'n gyson, gellir cyfrif faint o amser a gymerodd iddynt ffurfio — fel rheol mae'n cymryd miliynau lawer o flynyddoedd. Mesurwyd oed creigiau Stanner-Hanter gan gyfrif yr amser a gymerodd isotop ansefydlog o rwbidiwm i ddadfeilio'n strontiwm. Defnyddiwyd elfennau gwahanol, er enghraifft wraniwm a phlwm, i ddyddio hen greigiau eraill. Er bod creigiau hynaf Cymru yn 700 miliwn o flynyddoedd oed, maent gryn dipyn yn iau na creigiau hynaf Ynysoedd Prydain ac Ewrop. Creigiau metamorffig o Ynysoedd Lewis, yr Alban, yw'r rhain a chredir eu bod yn 3,300 miliwn o flynyddoedd oed. Creigiau hynaf y byd Mae'r creigiau hynaf y gwyddom amdanynt yn y byd yn 3,962 miliwn o flynyddoedd oed ac yn dod o Acasta, gogledd orllewin Canada. Cawsant eu creu o greigiau sy'n hŷn na hynny hyd yn oed, ond na chawsant eu dyddio hyd yma. Mae samplau o greigiau hynaf Cymru, Ynysoedd Prydain a'r byd i'w gweld yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Bri rhyngwladol i 'Ffosil Cenedlaethol Cymru' 26 Gorffennaf 2007 Sbesimen o Paradoxides davidis o Borth-y-rhaw, x 0.75. Casgliad Amgueddfa Cymru Chyfnod un yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Chyfnod dau yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Chyfnod tri yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Ym 1862, canfuwyd un o'r trilobitau mwyaf erioed mewn craig yn Sir Benfro. Daeth yn un o ffosilau enwocaf Prydain ac mae'n ein helpu i ddeall sut yr oedd Cymru'n arfer bod yn sownd wrth Ogledd America, cyn ffurfio Eryri na Chefnfor Iwerydd. Casglu ffosilau yn ardal Penrhyn Tyddewi, Sir Benfro Ym 1862, roedd y paleontolegwr adnabyddus, J.W. Salter yn casglu ffosilau yn ne-orllewin Cymru fel rhan o'i waith gydag Arolwg Daearegol Prydain (BGS). Wrth archwilio clogwyni ardal greigiog Penrhyn Tyddewi un diwrnod, glaniodd Salter ym mhorth bychan Porth-y-rhaw, gan gredu ei fod yn Harbwr Solfach, sydd ychydig i'r dwyrain. Fel y digwyddodd, roedd hwn yn gamgymeriad ffodus oherwydd, yng nghreigiau Porth-y-rhaw, daeth ar draws olion un o'r trilobitau mwyaf a ganfuwyd erioed (dros 50cm o hyd) ac, o ganlyniad i'r darganfyddiad hwn, daeth yr ardal yn lle adnabyddus i hela ffosilau. Bywyd yn y môr gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl Cafodd y cerrig llaid tywyll sydd yn y golwg yno eu dyddodi mewn môr rhyw 510,000,000 o flynyddoedd yn ôl mewn cyfnod a elwir erbyn hyn yn Gyfnod Cambriaidd. Rhoddwyd yr enw hwn i'r cyfnod gan mai yng Nghymru y cafodd creigiau o'r cyfnod eu hadnabod a'u henwi gyntaf gan ddaearegwyr o'r 19eg ganrif. Mae Porth-y-rhaw ymhlith nifer fach o safleoedd yng Nghymru lle mae ffosilau o'r Cyfnod Cambriaidd wedi'u cadw'n eithaf da ac yn gymharol hawdd eu canfod. Yn ogystal â thrilobit enfawr Salter, ceir yno ffosilau llawer o fathau eraill o arthropodau morol sydd wedi hen ddarfod amdanynt. Fel rheol, mae'r rhain yn faint mwy cyffredin, sef rhyw 2-3cm o hyd. Ffosil cenedlaethol Cymru Yr enw gwyddonol ffurfiol a roddodd Salter ar y trilobit enfawr yw Paradoxides davidis, ar ôl ei ffrind David Homfray, casglwr ffosilau amatur o Borthmadog. Erbyn hyn, mae'r trilobit hwn ymhlith y rhai mwyaf adnabyddus a gasglwyd ym Mhrydain a gwelir ei lun mewn llawer o gyhoeddiadau; mae llawer o'n prif amgueddfeydd, yn cynnwys Amgueddfa Cymru, yn ymfalchïo os oes ganddynt sbesimenau da ohonynt. Yn wir, pe bai gan Gymru 'ffosil cenedlaethol', byddai Paradoxides davidis yn gystadleuydd brwd am y teitl. Byd-enwog Ceir llawer o sbesimenau o Paradoxides davidis ar Benrhyn Afalon yn ne-ddwyrain Newfoundland, mewn creigiau sy'n union yr un oed â'r rhai sydd yn y golwg ym Mhorth-y-rhaw. Yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig deall bod dosbarthiad y cyfandiroedd a'r moroedd yn wahanol iawn yn y Cyfnod Cambriaidd i'r hyn ydyw heddiw. Bryd hynny, roedd Cymru, Lloegr a de-ddwyrain Newfoundland ar ochr ddeheuol hen fôr, o'r enw Iapetws, wedi'u gwahanu oddi wrth yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland, fel y dangosir ar y map. Ceir yr un math o drilobitau yng Nghymru a de-ddwyrain Newfoundland a rhai hollol wahanol yn yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland ac mae hyn yn dangos eu bod yn arfer bod ar wahanol gyfandiroedd. Geni Eryri Tua 480,000,000 o flynyddoedd yn ôl, achosodd symudiadau y tu mewn i'r Ddaear i hen Fôr Iapetws gulhau'n raddol a diflannu wrth i'r ddau gyfandir daro yn erbyn ei gilydd. Arweiniodd hyn at ffurfio cadwyn o fynyddoedd uchel sydd heddiw i'w gweld yng Nghymru, yr Alban, Sgandinafia ac ym mynyddoedd yr Appalachiaid. Cefnfor newydd Iwerydd Yn nes ymlaen o lawer yn hanes y Ddaear, rhwng 200,000,000 a 65,000,000 o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd y ddau gyfandir wahanu eto gan ffurfio cefnfor newydd a ddaeth, maes o law, yn Gefnfor Iwerydd fel y mae heddiw. Fodd bynnag, nid oedd y rhwyg ar hyd yr un llinell yn union a'r llinell lle caewyd môr Iapetws, a gadawyd de-ddwyrain Newfoundland a'i drilobitau 'Cymreig' yn sownd wrth weddill Newfoundland a Gogledd America, a'r Alban a'i drilobitau o 'Ogledd America' yn sownd wrth weddill Ynysoedd Prydain. Mae'r ffaith bod yr un trilobitau'n cael eu darganfod mewn ardaloedd sy'n bell wrth ei gilydd yn pwysleisio bod angen i ddaearegwyr astudio ffosilau a ddaw o ardaloedd pell wrth ei gilydd er mwyn cynnig dehongliad llawn o hen hanes eu darn nhw eu hunain o gramen y Ddaear.
Awyrfeini Cymru 26 Gorffennaf 2007 Yn yr Adran Ddaeareg y mae'r eitemau hynaf yn Amgueddfa Cymru. Y ffosilau yw'r eitemau mwyaf cyffredin yno, yn amrywio o ryw 550,000,000 o flynyddoedd oed i ychydig dros 10,000 oed. Awyrfaen Beddgelert, wedi'i dorri i ddangos y tu mewn. Mae'n mesur tua 9cm x 7cm Fodd bynnag, mae un grŵp o eitemau gryn dipyn yn hŷn na'r ffosilau hynaf ac, yn wahanol i'r ffosilau, nid o'r Ddaear y maent yn dod, ond o'r gofod.Syrthiodd llawer o'r eitemau hyn o'r gofod a glanio mewn gwledydd pell o Gymru ond fe welwyd un, sydd o ddiddordeb arbennig i ni, yn syrthio i'r ddaear yn y gogledd.Goleuadau llachar a llechi'n chwaluYn oriau mân y bore ar 21 Medi 1949, gwelodd llawer o bobl yng ngogledd Cymru a Swydd Gaer olau llachar yn symud yn gyflym yn yr awyr. Am 1.45am clywodd rhywun oedd yn aros yng Ngwesty'r Prince Llewelyn, Beddgelert gyfres o gleciadau marwaidd. Yna, bu tawelwch am dair neu bedair munud ac yna sŵn sïo fel awyren fechan a aeth yn gryfach ac yn gryfach hyd nes iddo glywed sŵn llechi to yn chwalu.Deffrwyd rheolwr y gwesty gan gyfarth ei gi a chlywodd sŵn bangio afreolaidd ond aeth yn ôl i gysgu. Fore trannoeth, daeth ei wraig o hyd i dwll garw yn nenfwd lolfa i fyny'r grisiau, a phlastr a charreg dywyll tua maint pêl griced ar y llawr. Ni wyddai'r rheolwr na'i wraig beth oedd hyn nac a oedd cysylltiad rhyngddo a'r synau a glywodd ef yn y nos. Yn y bar y noson honno, dywedodd hen fwynwr a oedd wedi gweld awyrfeini mewn amgueddfa mai dyna oedd y garreg hon. Yn ddiweddarach, gwelwyd bod twll crwn, taclus yn llechi to'r gwesty.AwyrfeiniPeth naturiol sy'n syrthio i'r Ddaear o'r gofod yw awyrfaen. Wrth deithio trwy'r atmosffer, mae'r haenau allanol yn cael eu poethi gan ffrithiant ac felly mae'n disgleirio ac yn edrych yn debyg i seren wib. Gall awyrfeini syrthio yn unrhyw le, unrhyw bryd, ond mae'n annhebygol iawn, iawn y cewch eich taro gan un (diolch byth!).Dim ond un awyrfaen arall y gwyddom iddo syrthio yng Nghymru — ym Mhontllyfni, ger Caernarfon ym 1931. Credir bod y rhan fwyaf o awyrfeini'n dod o gwmwl o bethau creigiog bychan a elwir yn Wregys Asteroidau, sydd rhwng cylchdroeon planedau Mawrth ac Iau yng nghyfundrefn yr haul. Weithiau, mae rhai'n taro'i gilydd neu'n cael eu tynnu gan rymoedd disgyrchiant ac mae eu cylchdro'n newid gan olygu eu bod yn taro'r Ddaear.Mae bron pob awyrfaen y daw pobl o hyd iddynt yn cael eu rhoi i wyddonwyr i'w harchwilio a'u dadansoddi, ond mae'n debyg bod awyrfaen Pontllyfni wedi cael ei gadw o dan wely rhywun am dros ddeugain mlynedd cyn cyrraedd yr Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain!Cafodd awyrfeini Beddgelert a Phontllyfni eu harchwilio trwy gael eu torri'n ofalus a rhannu'r darnau rhwng gwahanol amgueddfeydd, prifysgolion a sefydliadau ymchwil. Felly, mae Amgueddfa Cymru'n ffodus bod gennym ddarn bychan o awyrfaen Beddgelert a syrthiodd i'r Ddaear ym mis Medi 1949. Fe'i gwelir yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.Creigiau o'r gofod yn hŷn na'r DdaearTrwy ddyddio isotopau ymbelydrol o elfennau cemegol yn yr awyrfeini, penderfynwyd bod y rhan fwyaf ohonynt, yn cynnwys rhai Beddgelert a Phontllyfni, tua 4,560,000,000 o flynyddoedd oed. Mae hyn yn debyg i oed tebygol y Ddaear a gweddill cyfundrefn yr h. Mewn cymhariaeth, credir bod y creigiau hynaf y gwyddom eu bod wedi'u ffurfio ar y Ddaear ei hunan tua 3,800,000,000 oed (yng Nghymru, tua 700,000,000 oed yw'r creigiau hynaf).Am y rheswm hwn, mae awyrfeini o ddiddordeb ac o bwysigrwydd mawr wrth astudio hanes cynharaf y Ddaear a chyfundrefn yr haul. Maent yn rhoi cliwiau i ni am eu cyflwr cyntefig a sut y cawsant eu ffurfio.Mae un dosbarth neilltuol o awyrfeini y ceir enghraifft ohonynt yng nghasgliadau'r Amgueddfa (ond nid un Beddgelert), yn cynnwys cemegau a gynhyrchwyd wrth i sêr enfawr ffrwydro; mae'r rhain yn cynnwys samplau o rai o'r elfennau cemegol sy'n ffurfio 'blociau adeiladu' bywyd ac y datblygodd pob math o fywyd — yn cynnwys ni ein hunain — ohonynt yn y pen draw. Ydych chi wedi gweld pelen dân / wedi darganfod rhywbeth allai fod yn feteoryn? Ydych chi gweld wedi pelen dân?https://www.ukfall.org.uk/ Wedi darganfod rhywbeth allai fod yn feteoryn?Cysylltwch â Ni gydag Ymholiadau Cyffredinol | Museum Wales (amgueddfa.cymru)
Bu perthnasau i'r deinosoriaid yn nofio yn ne Cymru 26 Gorffennaf 2007 Mae gan Amgueddfa Cymru sbesimenau da o anifeiliaid y môr o'r cyfnod cynhanesyddol. Roedd y rhain yn perthyn i'r deinosoriaid a buont yn nofio oddi ar arfordir de Cymru. Mae sbesimenau o Dorset yn dangos sut y bu môr rhwng y ddwy ardal slawer dydd. Ailgread o bysgfadfall yn hela'i brae, tebyg i fôr-lawes Cymru Drofannol Tua 210,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd y rhan fechan o gramen y ddaear lle mae Cymru erbyn hyn ymhell i'r de o'i safle presennol. Credir ei bod tua gogledd y trofannau lle roedd y tir yn rhan o archgyfandir mawr o'r enw Pangaea. Roedd ein hinsawdd yn boeth ac yn llaith, ac roedd rhan helaeth o Gymru'n dir uchel llwm wed'i amgylchynu â fflatiau llaid anial. Roedd cyfres o lynnoedd mawr i'r de yn ymestyn ymhell i mewn i Ewrop. Cymru'n boddi Wrth i'r cyfandiroedd symud tua'r gogledd, roedd cramen y ddaear yn ymrannu ac, ar sawl achlysur, cododd lefel y môr a boddi'r tir. Wrth i'r moroedd ymledu, daeth y creaduriaid morol sydd erbyn hyn yn ffosilau yn y creigiau. Ymhlith y creaduriaid harddaf a mwyaf trawiadol roedd ymlusgiaid morol a elwid yn ichthyosoriaid, neu bysgfadfallod, sef cefndryd pell y deinosoriaid oedd yn byw ar y tir. Erbyn 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl, tua dechrau'r Cyfnod Jurasig mewn amser daearegol, roedd y môr yn gorchuddio de Cymru, gan ollwng blanced o laid a thywod calch mân. Ymhen amser, cafodd y rhain eu cywasgu'n haenau llorweddol o garreg laid a charreg galch sydd, erbyn hyn, yn ffurfio clogwyni ardal Larnog gan ymestyn tua'r gorllewin o'r Barri i Southerndown. Ffosilau toreithiog Nid yw olion ichthyosoriaid yn anghyffredin yn y creigiau hyn, er mai dannedd ac esgyrn yma a thraw a welir gan amlaf. Ar ôl i'r anifeiliaid farw, malwyd y sgerbydau gan y cerhyntau a'r tonnau. Ychydig iawn o sbesimenau mwy cyflawn y daethpwyd o hyd iddynt yn ne Cymru. Ar y llaw arall, mae creigiau o'r un oed yng Ngwlad yr Haf a Dorset wedi bod yn ffynhonnell gyfoethog o sgerbydau ichthyosoriaid cyflawn neu bron yn gyflawn ers amser maith. Roedd môr y cyfnod Jurasig cynnar yn ymestyn o arfordir de Cymru, ar draws de-orllewin Lloegr a thu hwnt i ganol Ewrop. Yn y dyfroedd dyfnach, ymhellach o'r tir i'r de, roedd nerth y tonnau a'r cerhyntau arfordirol yn wannach. Felly, roedd y sgerbydau'n fwy tebygol o suddo i waelod y môr ac aros yno fwy neu lai'n gyfan. Serch hynny, peth cymharol brin yw dod o hyd i sgerbydau heddiw. Mae Amgueddfa Cymru'n lwcus iawn o gael nifer o sgerbydau ichthyosoriaid sydd bron yn gyflawn. Daethant o Lyme Regis yn Dorset, ac mae rhai o'r goreuon i'w gweld yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gan fod môr di-dor rhwng de Cymru a Dorset 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gallwn ddefnyddio'r ffosilau hardd hyn i gyflwyno rhan o hannes ein hardal. Mae ffosilau Dorset yn perthyn i'r un rywogaeth a'r rhai a ganfuwyd yng nghlogwyni Morgannwg, a byddai'r anifeiliaid hyn yn gallu nofio'n rhydd rhwng y ddwy ardal. Mae'r sbesimenau yn yr arddangosfa yn dangos ffurf lefn, hardd yr ichthyosoriaid. Roedd y siâp yn arbennig o addas ar gyfer nofio'n gyflym. Defnyddient gynffon fawr, fertigol i'w gyrru a phedair padl, fel esgyll, i'w llywio. Credir mai pysgod a môr-lewys oedd eu bwyd.
Un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru 26 Gorffennaf 2007 Williams-Wynn o Wynnstay Syr Watkin Williams Wynn (1693-1749) - 1740, olew ar ganfas. 76.2 x 63.2 cm Daeth teulu Williams-Wynn, Wynnstay, Sir Ddinbych yn un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru tua dechrau'r 18fed ganrif a pharhau felly am dros ddwy ganrif. Roedd gan sawl aelod o'r teulu ddiddordeb yn y celfyddydau a daeth Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789), 4ydd barwnig, yn un o noddwyr mwyaf y celfyddydau gweledol a cherddoriaeth yng Nghymru. Erbyn hyn, mae rhan fawr o'i gasgliad yn Amgueddfa Cymru. 'Cyfoeth Syr Watkin' Syr Watkin Williams-Wynn (1693-1749), 3ydd barwnig, oedd tirfeddiannwr mwyaf Cymru yn ystod y 1730au a'r 1740au, ac roedd yn un o arweinwyr cenedlaethol y blaid Dorïaidd yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd yn ŵyr i'r gwleidydd Syr William Williams (1633/4-1700) a ddaeth yn berchen ar stadau yn Sir Ddinbych a Swydd Amwythig. Fodd bynnag, nid gan ei dad yr etifeddodd y rhan fwyaf o'i gyfoeth mawr ond gan nifer o berthnasau benywaidd. Ym 1719, etifeddodd stad Wynnstay yn Sir Ddinbych a thiroedd eraill yng Nghaernarfon a Meirionnydd gan gefnder ei fam, Syr John Wynn. Ym 1715, priodwyd Wynn â merch ieuaf Edward Vaughan, Llwydiarth ac, erbyn 1725, roedd rhieni ei wraig a'i chwaer hŷn wedi marw ac felly etifeddodd ragor o stadau ym Maldwyn, Sir Ddinbych a Meirionnydd. Erbyn hyn, roedd yn berchen ar dros 100,000 o erwau, gwerth rhwng £15,000 ac £20,000 y flwyddyn, a rhoddodd hyn ddylanwad mawr iddo mewn etholiadau seneddol. Ar ôl marw ei wraig Ann Vaughan ym mis Mai 1748, priodwyd Wynn â'i ferch fedydd, Frances Shakerley (1717-1803). Ganed eu mab, yntau hefyd yn Syr Watkin Williams-Wynn, y 4ydd barwnig, ym mis Ebrill 1749. Lladdwyd Syr Watkin, a alwyd weithiau'n 'Dywysog Cymru', mewn damwain wrth hela ym mis Medi 1749. Ceir dau bortread ohono yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Gwaith Thomas Hudson, portreadwr ffasiynol o Lundain a dynnai luniau ffurfiol caboledig, oedd un o'r rhain. Llun pastel gan William Hoare o Gaerfaddon yw'r llall. Mae'n un o grŵp o luniau a gomisiynwyd gan gydymaith Wynn, yr Arglwydd Lichfield. Soffistigeiddrwydd diwylliannol a gyfoeth Canwyllbren gan of arian Protestannaidd o Ffrainc, Lewis Pantin yn yr arddull rococo ffasiwn newydd. 1734. Mae dau ddarn o waith arian yn arwydd o gyfoeth a soffistigeiddrwydd diwylliannol Wynnstay, sef pâr o ganwyllbrennau mawr a stand teircoes enfawr ar gyfer tegell. Gwnaed y canwyllbrennau yn Llundain ym 1734 gan of arian Protestannaidd o Ffrainc, Lewis Pantin, ac maent wedi'u boglynnu a'u castio â blodau, cregyn a sgroliau — yn yr arddull rococo ffasiwn newydd. Roeddent yn rhan o set o bedwar a chawsant eu cynnwys mewn rhestr o waith arian Syr Watkin a luniwyd ar ôl iddo farw. Mae ychydig o waith arian a brynwyd gan y teulu ym 1720 wedi goroesi. Mae hyn yn beth eithriadol o brin oherwydd dim ond llond llaw o'r darnau hyn na chafodd eu toddi i'w hailddefnyddio.