Beddau cyntedd Oes y Cerrig yng Nghymru 14 Mai 2007 Oes y Cerrig O ran ei gyflwr, Bryn Celli Ddu (Ynys Môn) yw un o'r beddau cyntedd gorau yng Nghymru. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). 5,500 o flynyddoedd yn ôl lledaenodd diwylliant cyffredin ar hyd a lled arfordir gorllewin Ewrop gan gydgysylltu Llydaw, Cernyw, Cymru, de'r Alban ac Iwerddon. Heddiw, mae'r dystiolaeth am y diwylliant hwn wedi goroesi ar ffurf beddau cyntedd - tomenni claddu crwn ac ynddynt dramwyfeydd wedi'u leinio â cherrig sy'n arwain i siambrau canolog. Adeiladwyd y beddau hyn gan gymunedau amaethyddol cynnar i gadw gweddillion amlosgedig y meirw, ac fe'u defnyddid am genedlaethau. Mae'n rhaid eu bod yn dirnodau pwysig a gysylltai'r byw â'u cyndadau. Yng Nghymru, Ynys Môn yw'r lle gorau i weld beddau cyntedd ac mae Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu, dwy enghraifft bwysig, mewn cyflwr mor dda fel bod modd caniatáu mynediad i'r cyhoedd. Barclodiad y Gawres Cynllun Bryn Celli Ddu yn dangos y dramwyfa sy'n arwain i ganol y twmpath crwn. Pan adeiladwyd Barclodiad y Gawres crëwyd un brif siambr ac, o boptu iddi, dair siambr ystlys y câi'r meirw eu gosod ynddynt. Yng nghanol y brif siambr roedd aelwyd a byddai'r tân a gyneuid yma yn goleuo'r bedd yn ystod defodau. Er mawr syndod i'r archaeolegwyr a fu'n cloddio'r bedd, cafwyd hyd i 'gymysgedd anghynnes' o esgyrn ymlusgiaid, pysgod ac amffibiaid ar safle'r aelwyd hon. Er na chawn ni fyth wybod y rheswm am y fath gymysgedd, ceir cipolwg pwysig ar un agwedd ar ddiwylliant adeiladwyr Barclodiad y Gawres drwy astudio'r celfwaith anghyffredin sydd wedi'i naddu ar y meini sy'n leinio'r dramwyfa a'r siambr. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys troellau a phatrymau igam-ogam dolennog anghyffredin. O ystyried y safle hwn yn unig, gellid diystyru'r patrymau a'u priodoli i ffansi'r adeladwyr, ond ceir cerfiadau o'r math yma mewn beddau cyntedd mor bell i ffwrdd ag Iwerddon a Llydaw. Mae rhai wedi awgrymu bod y cerfiadau, o bosibl, yn cynrychioli'r patrymau chwyrlïol a gysylltir â pherlewygon. Bryn Celli Ddu Maen cerfiedig y tu mewn i siambr Barclodiad y Gawres (Ynys Môn). Mae'r dull o gerfio a welir yn y bedd cyntedd hwn i'w ganfod mewn nifer o feddau yn Iwerddon. Cafwyd hyd i faen patrymog tebyg ym Mryn Celli Ddu (Ynys Môn). Fodd bynnag, yn yr achos hwn cafwyd hyd i'r maen yn gorwedd ar ei wyneb mewn twll o dan siambr y bedd, lle mae'n rhaid y cafodd ei gladdu cyn y dechreuwyd codi'r bedd. A gafodd ei gladdu er mwyn sancteiddio'r safle, neu a gladdwyd y maen er mwyn ei guddio? - dyma ddirgelwch arall sydd heb ei ddatrys. Nid beddau cyntedd Môn yw'r unig rai yng Nghymru. Ceir enghreifftiau eraill yng Ngwynedd a Sir Benfro, er nad yw'r rhain mewn cyflwr mor dda. Am y beddau cyntedd mwyaf a mwyaf cymhleth, y mae'n rhaid teithio i Iwerddon. Yma, dengys safleoedd megis Newgrange a Knowth pa mor uchelgeisiol y gallai cynlluniau adeiladwyr y beddau fod. Iwerddon Maen addurnedig y cafwyd hyd iddo o dan Fryn Celli Ddu (Ynys Môn). 1.5m (4.9 troedfedd) o uchder. Mae'r patrymau chwyrlïol ar y garreg hon yn nodweddiadol o gelfwaith beddau cyntedd. Yn Knowth, gerllaw'r bedd canolog, ceir mynwent ac ynddi o leiaf 18 o enghreifftiau llai, ac yn Newgrange aliniwyd y dramwyfa yn union ar linell codiad yr haul ganol gaeaf (Alban Arthur) gan y peirianwyr medrus a'i cododd. Yn y mannau hynny lle ceir beddau cyntedd, maent i gyd ychydig yn wahanol o ran eu cynllun. Eto i gyd, maent i gyd yn ddigon tebyg i'w gilydd i ddangos bod Môr Iwerddon yn dramwyfa brysur ar ddiwedd Oes y Cerrig, gyda chymunedau o Lydaw hyd yr Alban yn rhannu syniadau a dulliau o barchu'r meirw. Darllen Cefndir Newgrange, Co. Meath (Iwerddon), a chylch pydew yn y blaendir. Mae bedd cyntedd adluniedig Newgrange yn un o blith nifer o feddau enfawr yn Nyffryn Boyne.[Llun © Steve Burrow]. The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006. Barclodiad y Gawres: the excavation of a megalithic chamber tomb in Anglesey, 1952-1953 gan T. G. E. Powell a G. E. Daniel. Gwasg Prifysgol Lerpwl (1956). Irish Passage Graves: Neolithic tomb builders in Ireland and Britain 2500 BC gan M. Herity. Gwasg Prifysgol Dulyn (1974). 'The chambered cairn of Bryn Celli Ddu' gan W. J. Hemp. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 86, tt216-58 (1931).
Beddrodau megalithig Oes y Cerrig yng Nghymru 14 Mai 2007 Beddrodau megalithig Pentre Ifan (Sir Benfro), un o'r beddrodau megalithig mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn wreiddiol, roedd ynghladd dan dwmpath o dywyrch a cherrig. Yng Nghymru ceir un o'r casgliadau gorau o feddrodau megalithig yn y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â bod yn weledol ddramatig, mae'r henebion hyn yn ffynonellau pwysig o wybodaeth am fywyd a marwolaeth 5,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae tirwedd Cymru yn gyforiog o henebion. Fil o flynyddoedd yn ôl, cestyll oedd y nodweddion mwyaf trawiadol; fil o flynyddoedd cyn hynny caerau Rhufeinig oedd amlycaf, a chyn hynny, bryngaerau'r Oes Haearn. Ond yr henebion cynharaf i oroesi hyd heddiw yw beddrodau megalithig - siambrau claddu cerrig sy'n dal i greu ymdeimlad o'r gorffennol pell. Cafodd beddrodau megalithig eu hadeiladu bron 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ar adeg pan oedd trigolion Cymru yn byw mewn cymunedau bach, yn defnyddio offer cerrig ac yn rhoi prawf ar ddulliau hollol newydd o ffermio'r tir a chadw da byw. Heddiw, mae'r fath fywyd yn swnio'n syml ac yn ansoffistigedig o'i gymharu â'n ffordd ni o fyw. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth y beddrodau megalithig nad oedd bywyd pawb yn syml yn ystod y cyfnod hwn. At ei gilydd, mae beddrodau megalithig Cymru ar ffurf siambrau cerrig sy'n cynnwys maen capan mawr yn gorwedd ar ben nifer o feini unionsyth. Yn wreiddiol, byddai'r rhain wedi'u gorchuddio dan dwmpath o dywyrch a cherrig. Yn fynych, roedd i bob siambr flaengwrt lle arferid cynnal seremonïau. Maint y megalithau yw eu nodwedd amlycaf. I greu siambr Maen Ceti ym Mro Gŵyr bu'n rhaid codi un maen dros 4m (14tr) o hyd a 2m (7ft) o drwch. Mae maen capan enfawr Tinkinswood (Bro Morgannwg) yn pwyso 36 tunnell fetrig. Gartref i gyndadau'r gymuned Adluniad o fywyd bob dydd yng Nghymru 6,000 o flynyddoedd yn ôl, yn seiliedig ar gloddiadau ar safle Clegyr Boia (Sir Benfro). Canolbwyntiai arferion dyddiol y rhan fwyaf o'r bobl ar dyfu cnydau, hel planhigion gwyllt a bugeilio defaid a gwartheg. Mae'r ffaith yr aeth pobl Oes y Cerrig i'r fath drafferth i adeiladu eu beddrodau yn arwydd o'u pwysigrwydd i gymunedau'r cyfnod hwn. Yn orffenedig, gweithredai'r beddrod fel crypt yr oes hon a châi'r siambr ei lenwi'n raddol â chyrff y meirw gyda threiglad y blynyddoedd. Mewn gwirionedd, roedd y siambr yn gartref i gyndadau'r gymuned. Ambell un heb ei ddarganfod? Darlun o Ddyffryn Ardudwy (Gwynedd), gan David Gunning. Adeiladwyd y cofadail hwn fesul cam; y rhan gyntaf a godwyd oedd y siambr ar y chwith. Ceir beddrodau tebyg i'r rhain mewn sawl rhan o Gymru. Yn ne-ddwyrain y wlad mae grŵp pwysig ohonynt i'w gael yng nghyffiniau'r Mynyddoedd Duon yn ogystal ag enghreifftiau eraill ym Mro Morgannwg. Yn ne-orllewin Cymru ceir clystyrau ohonynt yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Ond ceir y beddrodau mwyaf trawiadol ym Môn, ardal sy'n nodedig am eu niferoedd a'u hamrywiaeth. Y beddrodau hyn yw'r ychydig sydd wedi goroesi'r gwaith o glirio'r tir i ateb gofynion byd amaeth, a'r ysbeilio a fu er sicrhau cyflenwadau o gerrig adeiladu - yn ddiau, roedd mwy o lawer yng Nghymru ar un adeg ac mae'n bosibl fod ambell un heb ei ddarganfod. Darllen Cefndir Maen Ceti, ar Benrhyn Gŵyr. Roedd gosod maen capan enfawr y siambr hon ar ben nifer o feini unionsyth llai yn un o gampau peirianyddol mawr Oes y Cerrig. The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006. Megalithic tombs and long barrows in Britain gan F. Lynch. Shire Publications (1997).
Soliciting User Comments Chris Owen, 14 Mai 2007 It's been a while since I posted to the New Media blog, but plenty of work has been going into the blog system itself to fix bugs and add features. Building a blog server is less work than you may think if you have enough control over your CMS. For instance, pinging a blog site with your new content is easy using a XML-RPC call - PHP even has a helpful xmlrpc_encode_request function - and a site like Pingomatic will pass the message on to everyone for youThe remaining big feature for us is user comments - I'm not sure we're even a real blog till we enable this. Although the museums I've spoken to haven't experienced problems with comments, most still retain safe-guards. This might be through a registration/email verification system or pre-approving comments to appear on the site. One method favours the regular contributor, the other casual commenters. I haven't seen a system that lets the user decide which they group they belong to, but this might be a good way forward.Of course, this work could be avoided by installing a blog server like WordPress but by integrating with our in-house content management system (the snappily named Amgueddfa CMS) this work will eventually find its way throughout our site. One of the projects we're working on will introduce lots of interesting articles and other content about our collections. We'd like people to discuss those themes too.
Pen brysgyll Maesmor - un o gampweithiau Oes y Cerrig 14 Mai 2007 Pen brysgyll Maesmor. Wedi'i ddarganfod yn 1840, arferid credu bod y gwrthrych hwn naill ai'n forthwyl aberthol Archdderwydd, neu'n frysgyll rhyfel a oedd yn eiddo i bennaeth Celtaidd. Manylyn o'r cerfwaith ar ben brysgyll Maesmor, sy'n dangos nam anghyffredin yn y cynllun, sef dau gwplws wedi'u torri (gweler canol y llun). Pennau brysgyll o Gwm Ogwr (Bro Morgannwg), Y Fron (Sir y Fflint), a Thŷ'r Sger (Pen-y-bont ar Ogwr). Mae'r rhan fwyaf o'r pennau brysgyll a luniwyd tua 2500CC yn gymharol syml a diaddurn. Cafwyd hyd i enghreifftiau tebyg i hwn ledled Cymru. Mae'n hawdd meddwl am Oes y Cerrig fel cyfnod pan oedd bywyd yn fyr, yn greulon ac yn fwystfilaidd. Mae pen brysgyll Maesmor yn brawf nad felly yr oedd hi drwy'r amser.Arferid gweithio pennau brysgyll fel hwn tua 2500CC, cyn bod sôn am drin metel ac ar adeg pan oedd cymunedau yn ennill eu bywoliaeth drwy ffermio'r tir gyda chymorth offer cerrig.Cafwyd hyd i nifer o bennau brysgyll yng Nghymru. At ei gilydd, fe'u darganfuwyd yn ddamweiniol, wedi i ryw weithgaredd eu dwyn i'r golwg gerllaw'r fan lle cawsant eu colli neu eu gwaredu. Fodd bynnag, fe'u ceir weithiau mewn claddiadau, gan gynnwys un enghraifft o Wiltshire y cafwyd hyd iddo ar bwys corff oedd wedi'i addurno ag addurniadau aur ac asgwrn.Mae hyn wedi arwain at yr awgrym bod pennau brysgyll yn symbolau o rym – gwrthrychau a roddai statws i'w perchennog. Mae'n hawdd dychmygu mai dyna beth oedd y pen brysgyll hwn, oherwydd pe bai ei berchennog am gael rhywbeth i'w ddefnyddio fel pastwn yn unig, byddai wedi arbed llawer iawn o ffwdan iddo ef ei hunan drwy dyllu carreg a'i gosod ar ben coes bren.Yn lle hynny, cymerodd ddarn mawr o gallestr wen – sydd yn anghyffredin yn Sir Ddinbych lle cafwyd hyd i'r pen brysgyll – gan ei naddu a'i braslunio. Yna, tyllwyd y garreg galed, gan ddefnyddio, yn ôl pob tebyg, ddril bwa ynghyd â llawer o ddŵr a thywod i'w helpu i greu'r twll ar gyfer y goes.Ond y gamp oedd torri a chaboli'r ffasedau ar ochrau'r pen brysgyll er mwyn creu'r cynllun cywrain. Cyflawnwyd hyn hefyd, yn ôl pob tebyg, drwy ddefnyddio ochr dril bwa i greu'r rhigolau sy'n gorgyffwrdd â'i gilydd.Mae'n swnio'n waith digon rhwydd ond mae'n rhaid bod gwneuthurwr y pen brysgyll hwn wedi bod wrthi am ddegau o oriau.Y canlyniad yw pen brysgyll hardd sydd wedi goroesi mil o flynyddoedd, gwrthrych oedd yn destun edmygedd ei berchennog – efallai hynafgwr neu bennaeth cymuned, neu grefftwr cyffredin a ymfalchïai yn ei allu ef ei hun.Pwy bynnag oedd yn berchen ar ben brysgyll Maesmor, mae'n dangos y bu adegau, hyd yn oed yn ystod Oes y Cerrig, pan gâi celfweithiau eu creu a'u gwerthfawrogi.
Microlithau o Burry Holms 11 Mai 2007 Microlithau Microlithau o Burry Holms, Gŵyr. Mae pob microlith a bortreadir yma yn llai na 50mm (2 modfedd) o hyd. Defnyddiwyd microlithau ledled Ewrop yn ystod y cyfnod Mesolithig. Mae'r cyfnod hwn yn dyddio o ddiwedd Oes yr Iâ (tua 9200CC) hyd nes y cafodd arferion amaethyddol eu cyflwyno i Gymru (4000CC). 9,000 o flynyddoedd yn ôl un o'r arfau pwysicaf a ddefnyddid i chwilio am fwyd oedd microlithau - adfachau a wnaed o gerrig a gafodd ddylanwad mawr ar fywyd yn ystod y cyfnod Mesolithig. Rhwng 9200 a 4000CC (yn ystod y cyfnod Mesolithig) roedd trigolion Cymru yn ennill eu bywoliaeth drwy hela anifeiliaid, pysgota a chasglu planhigion bwytadwy. Roedd tryferi a gwaywffyn yn arfau cyffredin a gallai'r adfachau cerrig (microlithau), oedd yn rhan annatod ohonynt, glwyfo prae ac achosi archoll ddifrifol. Câi microlithau eu cynhyrchu o lafnau fflint a châi pob un ei drin yn ofalus er mwyn creu blaen llym. Ar ei ben ei hun mae microlith yn rhy fach i achosi unrhyw niwed difrifol, ond pan gaiff dwy res ohonynt eu gosod a'u gludio ar goes gwaywffon gwnânt arf effeithiol. Rhwng 1923 a 2001 darganfuwyd dros bedwar ugain o ficrolithau ar safle Burry Holms, ynys fechan ar arfordir gogledd-orllewinol Penrhyn Gŵyr. Yma, arferai grŵp o helwyr-gasglwyr dreulio rhan o'r flwyddyn yn hela ceirw coch, yn pysgota dyfroedd afonydd cyfagos, ac yn hela cnau. Burry Holms Cloddiadau ar safle Burry Holms Er bod cloddiadau diweddar gan archaeolegwyr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi dangos nad yw coesau pren nac asgwrn arfau'r helwyr hyn yn goroesi ym mhriddoedd Burry Holms, mae gan y microlithau y cafwyd hyd iddynt stori ddifyr i'w hadrodd. Mae pennau nifer ohonynt wedi torri, gan adael ar ôl graith ddadlennol sydd, o bosibl, yn dystiolaeth o'r niwed a achoswyd ganddynt pan drawodd yr arf anifail yn ystod helfa. Yn ôl pob tebyg, byddai gwaywffyn oedd wedi torri eu cario nôl i'r gwersyll lle byddai microlithau newydd yn cael eu gosod yn lle'r rhai toredig. Yn achos ail ficrolith, sy'n cynnwys toriad gwrthdaro, y pen sydd wedi goroesi. Yn ogystal â hynny, ar wyneb y pen ceir patrwm sy'n awgrymu y bu mewn tân, rywbryd neu'i gilydd. Mae'n bosibl y cyflawnodd y microlith fflint hwn ei waith drwy ladd carw coch, ac yna goroesodd ei ben yng nghanol y cig pan gafodd hwnnw ei goginio a'i fwyta - digwyddiad tebyg heddiw fyddai dod o hyd i belen blwm mewn pastai gwningod! Darllen Cefndir Microlith yn dangos toriad gwrthdaro ar draws ei ben blaenllym (pen ucha'r llun). Mae'n bosibl y cafodd y niwed hwn ei achosi adeg yr helfa. 'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 40, tt88-89 (2000). 'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 41, tt126 (2001). Late Stone Age Hunters of the British Isles gan C. Smith. Cyhoeddwyd gan Routledge (1992).