Trwsio'r gwaith trwsio - Gofalu am fodelau gwydr unigryw Blaschka

16 Mai 2007

Leopold Blaschka, tua 1895. Delwedd trwy garedigrwydd Yr Amgueddfa Fotanegol, Prifysgol  Harvard, Cambridge, MA.

Leopold Blaschka, tua 1895. Delwedd trwy garedigrwydd Yr Amgueddfa Fotanegol, Prifysgol Harvard, Cambridge, MA.

Rudolf Blaschka, tua 1895. Delwedd trwy garedigrwydd Yr Amgueddfa Fotanegol, Prifysgol  Harvard, Cambridge, MA.

Rudolf Blaschka, tua 1895. Delwedd trwy garedigrwydd Yr Amgueddfa Fotanegol, Prifysgol Harvard, Cambridge, MA.

Llun ffynhonnell o'r model o Gragen Bedr Bapur (Argonata argo).

Llun ffynhonnell o'r model o Gragen Bedr Bapur (Argonata argo).

Model o'r Gragen Bedr Bapur wedi torri.

Model o'r Gragen Bedr Bapur wedi torri.

Y model o Gragen Bedr Bapur ar ôl y gwaith cadwraeth.

Y model o Gragen Bedr Bapur ar ôl y gwaith cadwraeth.

Mae gan Amgueddfa Cymru tua 200 o fodelau gwydr manwl hyfryd o greaduriaid môr o waith Leopold a Rudolf Blaschka. Gwnaed yr eitemau manwl a bregus hyn yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac maent wedi cael eu harddangos yn agored am flynyddoedd a'u storio dan amodau gwael, gan achosi difrod iddynt a'u gadael yn frwnt.

Campweithiau unigryw

Datblygwyd y portreadau gwydr prydferth hyn o anifeiliaid y môr yn wreiddiol fel modelau addysgol. I ni heddiw, maen nhw'n gampweithiau celf unigryw a phwysig.

Mae gofalu am fodelau Blaschka'n frith o anawsterau. Oherwydd eu hoedran a'u cymhlethrwydd, mae angen gofal mawr wrth lanhau neu drwsio'r modelau. Rhaid clirio gwerth degawdau o faw, a chywiro difrod o waith trwsio cynharach heb niweidio na newid y model gwreiddiol.

Y cam cyntaf mewn unrhyw broject cadwraeth yw deall beth mae'r darn yn ei gynrychioli, wedyn rhaid deall sut cafodd ei wneud. Cymysgedd cymhleth o wydr, paent a chaenau gweog sydd ym modelau Blaschka, a chawsant eu creu'n arbennig i ddangos gweadedd a lliwiau'r anifeiliaid byw.

Clirio gwerth degawdau o faw

Y peth cyntaf i'w wneud yw dod o hyd i ffordd briodol o lanhau'r modelau, wedyn rhaid datblygu ffyrdd o gywiro gwaith trwsio blaenorol. Yn olaf, rhaid trwsio'r modelau lle bo angen.

Roedd y modelau'n anodd iawn i'w glanhau. Roedd paent wedi ei ychwanegu at lawer o'r sbesimenau i ychwanegu gwead a lliw. Roedd llwch wedi cronni ar y rhain dros y blynyddoedd, ac roedd hi'n anodd ei glirio.

Cafodd nifer o doddyddion a hylifau glanhau eu profi'n ofalus. Er bod dŵr (â glanedydd anionig) yn effeithiol wrth gael gwared ar y baw, roedd y paent ar y wyneb yn doddadwy ac mewn perygl o gael ei olchi i ffwrdd. Yn y pen-draw, canfuwyd bod gwirod gwyn yn cael gwared ar y baw heb niweidio'r paent gwreiddiol.

Cywiro hen waith trwsio

Roedd llawer o'r sbesimenau, yn enwedig y seffalopodau, wedi cael eu torri a'u trwsio dro ar ôl tro dros amser. Mae llawer o'r gwaith trwsio wedi afliwio neu'n dechrau dadfeilio. Roedd rhai darnau, tentaclau er enghraifft, wedi cael eu glynu nôl yn y lle anghywir.

Roedd y gwaith trwsio hynaf yn tueddu i ddefnyddio glud anifeiliaid oedd yn meddalu'n rhwydd mewn dŵr, ond roedd angen gofal mawr lle roedd paent ar wyneb y darn am ei fod yn toddi mewn dŵr. Roedd aseton yn toddi mathau eraill o lud. Ar ôl cael gwared ar yr hen lud, roedd angen rhoi'r modelau nôl at ei gilydd.

Ail-drwsio'n gywir

Roedd y gwydr a wnaed i wneud y rhan fwyaf o'r modelau'n denau ac yn fregus dros ben. Roedd rhai o'r darnau wedi eu chwalu'n ddarnau di-ri, a'r darnau wedi eu glynu nôl yn y llefydd anghywir ar ryw adeg yn y gorffennol.

Yn gyntaf, roedd angen sicrhau bod modd dadwneud y gwaith trwsio newydd yn y dyfodol. Cafodd glud resin epocsi eu diystyru yn gyflym am eu bod mor gryf, am nad oedd modd dadwneud y gwaith ac oherwydd problemau sefydlogrwydd tymor hir. Dewiswyd y cyfnerthydd, Paraloid B-72TM, am ei fod yn ddeunydd sefydlog, ac am fod modd dadwneud y gwaith a chael gwared arno os oes angen. Mae'n ddeunydd trwsio gwan hefyd a fydd yn torri cyn y gwydr, gan leihau'r posibilrwydd o achosi difrod pellach i'r modelau. Mae modd gweld y deunydd mewn rhai math o olau hefyd, sy'n golygu y bydd modd i guraduron y casgliad yn y dyfodol weld y gwaith cadwraeth a wnaed.

Datblygwyd y gwaith cadwraeth i wella ymddangosiad a chyflawnder y modelau, heb newid rhagor ar y strwythur gwreiddiol. Mae modelau gwydr Blaschka'n gasgliad pwysig sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Bydd y gwaith a wnaed ar y casgliad yn helpu i sicrhau ei fod yn cael ei gadw i'w fwynhau gan genedlaethau'r dyfodol.

Fframiau Haearn ac Olwynion Pren - Casgliad Beiciau Amgueddfa Cymru

16 Mai 2007

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r pwyslais cynyddol ar ffitrwydd a materion gwyrdd wedi cynyddu poblogrwydd y beic. Heddiw mae beiciau ar gael mewn amrywiaeth eang o steiliau a phrisiau, ond roedd y beiciau cyntaf a gynhyrchwyd yn eithriadol o ddrud ac yn anodd eu meistroli.

Cynlluniau'r beiciau cyntaf

Pâr o Gaerdydd ar feic tandem gyda'r fenyw ar y blaen. Roedd y dyn, a oedd yn diwniwr pianos, yn ddall.

Pâr o Gaerdydd ar feic tandem gyda'r fenyw ar y blaen. Roedd y dyn, a oedd yn diwniwr pianos, yn ddall.

Roedd y beiciau High Ordinaries, a alwyd yn ddiweddarach yn Penny Farthings yn arbennig o anghyfforddus, ac roedd rhaid cael coesau hir i gyrraedd y pedalau.

Yn yr 1870au ffurfiwyd clybiau gan berchnogion y beiciau newydd hyn. Gwisgai'r aelodau gapiau â bathodynnau'r clybiau arnynt, a siwtiau beicio milwrol yr olwg. Er i fenywod osgoi beiciau ar y cychwyn, daeth nifer i fod yn drisiclwyr brwdfrydig, gan ddewis y beiciau tair olwyn mwy sefydlog, a dillad arbennig a gynlluniwyd i fod yn ddiogel a chyfforddus. Roedd sgertiau pletiog yn caniatau mwy o ryddid i symud, a gwisgai rhai menywod lodrau o dan eu sgertiau.

Fynnodd y beic yn yr 1890au. Roedd modelau newydd yn ymddangos bron bob wythnos, ac agorwyd ffatrïoedd beiciau ledled y wlad. Gyda datblygiad y 'beic diogelwch' yn cynnwys cadwyn ac olwynion yr un maint, nid oedd rhaid bod yn ddyn tal ac athletaidd i feicio bellach. Wrth i boblogrwydd beicio dyfu, newidiodd y dillad i fod yn llai rhyfedd, a dechreuodd dynion wisgo'u dillad cyffredin yn lle'r hen siwtiau beicio.

Gan y bu rhaid i fenywod ddefnyddio beiciau a gynlluniwyd ar gyfer dynion, a oedd yn anaddas i'w defnyddio tra'n gwisgo sgertiau, annogwyd hwy gan y Rational Dress Society yn ogystal â nifer o glybiau beicio i wisgo math o glosau pen-glinniau a elwir yn rationals. Roedd y rationals yn edrych yn rhyfedd ac yn destun sbort i nifer o'r cyhoedd. O ganlyniad i'r gwawdio hyn roeddent yn amhoblogaidd, ac erbyn dechrau'r 20fed ganrif nid oedd llawer o fenywod yn eu gwisgo.

Gyda dyfodiad masgynhyrchu a gostyngiadau mewn prysiau, manteisiodd y dosbarth gweithiol ar y cyfle i fod yn berchenogion ar eu trafnidiaeth eu hunain. Yn ogystal â disodli'r poni a'r trap fel trafnidiaeth y postmon cef gwlad, roedd y beic yn galluogi heddweision i wasanaethu ardaloedd ehangach. Hefyd gallai siopau eu defnyddio i gludo nwyddau at eu cwsmeriaid yn gyflymach. Arbrofwyd gyda defnyddio beiciau i yrru injans tân hyd yn oed.

Dechreuodd haearnwerthwyr a siopau nwyddau amaethyddol werthu beiciau, a datblygodd nifer o'r gofaint lleol arbenigedd wrth eu trwsio.

Esblygiad y beic

Cafodd yr awydd am gyflymder effaith mawr ar gynllun beiciau. Gan mai'r pedalau oedd yn gyrru olwynion y beiciau cynnar yn uniongyrchol, defnyddio olwynion mwy oedd yr unig ffordd i gynyddu'r cyflymder. Cynhyrchwyd rhai modelau gyda olwynion â diamedr o 62 modfedd, oedd yn pwyso tua 50 pwys. Ceisiwyd cyflymu'r beiciau trwy gynhyrchu rhai ysgafnach, cyn lleied a 22 pwys. Wrth reswm, roeddent yn feiciau peryglus iawn.

Rasio beiciau

Taniwyd dychymyg y cyhoedd gan rasys dros bellteroedd hir, fel o Lundain i John O'Groats, ac roeddent yn gyfrifol am gynyddu poblogrwydd beicio. Fodd bynnag, wrth i'r cyflymdra gynyddu cafwyd mwy a mwy o ddamweiniau, nes i'r heddlu wahardd rasio ar briffyrdd cyhoeddus. Trefnwyd rasys dros gyrsiau rhwng 50 a 100 milltir o hyd gan y National Cyclists Union. Ni welwyd rasys ffordd, fel y Tour de France, ym Mhrydain tan y 1950au cynnar. Cynhaliwyd y ras Tour of Britain cyntaf, sef y Milk Race yn ddiweddarach, ym 1951.

Roedd rasio ar y trac, ar y llaw arall, yn un o'r chwaraeon gwreiddiol yn yr Olympiad cyntaf ym 1896. Cynhaliwyd pencampwriaethau byd rasys trac o 1892 ymlaen, er nad oedd rasys ar gyfer menywod tan 1958.

Beiciau yng nghasgliadau'r Amgueddfa

Yr enw am y beic cynharaf yng nghasgliadau'r amgueddfa yw'r 'march haearn'. Mae'n dyddio o tua 1865, mae ganddo ffram haearn, olwynion pren a theiars haearn. Mae'n debyg mae dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys 'march haearn' a adeiladwyd o bren yng nghefn gwlad gan grefftwr lleol. Mae'n gopi o'r fersiwn o'r beic a gafodd ei weithgynhyrchu. Yn ogystal a'r meirch pren, mae gan yr amgueddfa feiciau Raleigh o'r 30au, roadsters o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, beic tandem New Hudson o 1938 a threisicl cymdeithasol a gynhyrchwyd yn yr 1880au.

Creaduriaid y Dyfnfor - Modelau Gwydr Blaschka

15 Mai 2007

Tua diwedd y 19eg ganrif, bu Leopola Blaschka (1822-1895) a'i fab Rudolf (1857-1929) yn gwneud modelau gwydr cywrain o greaduriaid hynod y môr ar gyfer amgueddfeydd byd natur ac acwaria ym mhedwar ban byd.

Galwyd eu gwaith yn: "rhyfeddod celfyddydol ym maes gwyddoniaeth a rhyfeddod gwyddonol ym maes celfydyd."

Hyd yn oed heddiw, mae gwaith y Blaschkas yn ymddangos yn eithriadol o gyfoes a hwythau'n croesi'r ffiniau rhwng dylunio, crefft, celfyddyd a diwydiant.

Cliciwch ar y mân-luniau isod i weld lluniau mwy o rai o'r modelau gwydr nodedig hyn a gedwir yn y Amgueddfa Cymru.

Beddrodau Oes y Cerrig yn ne-ddwyrain Cymru

14 Mai 2007

Blaengwrt a siambr  Castell Carreg (Bro Morgannwg).

Blaengwrt a siambr Castell Carreg (Bro Morgannwg). Gellir ymweld â siambr y gofeb drawiadol hon a adeiladwyd yn null Cotswold-Severn heddiw. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Adluniad dychmygol o seremoni gladdu yng Nghastell Carreg, gan Alan Sorrell.

Adluniad dychmygol o seremoni gladdu yng Nghastell Carreg, gan Alan Sorrell.

Plan o feddrod Gwernvale (Powys).

Plan o feddrod Gwernvale (Powys). Mae'r plan hwn o'r beddrod yn nodweddiadol o'r math Cotswold-Severn, ond yn yr achos hwn, nid oes modd cyrraedd y siambrau drwy'r blaengwrt, ond yn hytrach o ochrau'r beddrod.

Powlen o'r Tŷ-Isaf (Powys). 24.6cm (9.8 modfedd) mewn diamedr. Cafwyd hyd i'r bowlen syml hon mewn darnau ac mae'n fwy nodweddiadol o nwyddau claddu'r cyfnod.

Powlen o'r Tŷ-Isaf (Powys). 24.6cm (9.8 modfedd) mewn diamedr. Cafwyd hyd i'r bowlen syml hon mewn darnau ac mae'n fwy nodweddiadol o nwyddau claddu'r cyfnod.

Mae beddrodau'r Oes Cerrig yn gymharol gyffredin yng Nghymru. Mae'r henebion 6,000 oed hyn yn cynnwys un siambr neu fwy wedi eu hadeiladu o gerrig anferth (megalithau). Byddai'r rhain o dan orchudd o bridd neu gerrig yn wreiddiol, ond anaml iawn mae hyn yn goroesi.

Gwnaed llawer o'r beddrodau hyn yn ôl dyluniad cyffredin, ac yn ne-ddwyrain Cymru mae hyn yn aml ar ffurf twmpath trapesoid, gyda'r pen lletaf yn pwyntio tua'r dwyrain ac yn agor i flaengwrt. Mae llwybrau byrion yn arwain at y siambrau mewnol o'r blaengwrt neu ochrau'r twmpath.

Mae'r dyluniad hwn i'w weld ledled ardal y Cotswolds (Lloegr), ac ar lanau afon Hafren, a hyn sy'n gyfrifol am yr enw archaeolegol y beddrodau sef Cotswold-Severn.

Mae gwaith cloddio ar y beddrodau hyn fel yr un yn Gwernvale (Powys) wedi dangos bod rhai ohonynt wedi cael eu hadeiladu dros ben setliadau cynharach, gan awgrymu y bu'n bwysig claddu'r meirw ar dir a fu ym meddiant y byw yn ystod y cyfnod hwn.

Yn Pipton a'r Tŷ-Isaf (y ddau ym Mhowys), mae archaeolegwyr wedi darganfod bod rhai beddrodau wedi cael eu hadeiladu fesul tipyn, gan ymgorffori cofeb lai i un mwy o faint yn aml iawn.

Mae rhai o'r cofebion lle digwyddodd hyn yn anferth — er enghraifft, mae Penywyrlod, Talgarth (Powys), yn mesur 60m x 25m x 3m (65 x 27 x 3.2 llathen) i fyny — ac mae'n debygol mai bwriad y tai mawr hyn i'r meirwon oedd hawlio tir, gan bwysleisio i bobl oedd yn pasio bod y tir wedi'i feddiannu.

Ar ôl eu hadeiladu, byddai'r beddrodau Cotswold-Severn yn cael eu defnyddio am genedlaethau. Er enghraifft, cafodd cyrff eu claddu ym Mharc le Breos Cwm (Gŵyr) am dros bum can mlynedd. Mae'r safle yn rhoi cip i ni ar ddefodau claddu'r beddrodau hyn, ac mae'n debyg i rai cyrff gael eu cadw y tu allan i'r beddrod nes eu bod wedi pydru rhywfaint — arfer digon erchyll i ni heddiw, ond mae'n debyg iddi fod yn ran cyffredin o'r ddefod gladdu ar y pryd.

Adeg eu gadael, roedd y beddrodau Cotswold-Severn yn aml yn dal gweddillion nifer fawr o bobl. Ym Mharc le Breos Cwm, ffeindiodd archaeolegwyr dros 40 o gyrff, ac yn Nhŷ-Isaf a Castell Carreg (Bro Morgannwg) ffeindiwyd dros 30 a 50 yn ôl eu trefn.

Mae natur ddarniog y cyrff hyn yn awgrymu nad y gladdedigaeth unigol oedd yn bwysig i adeiladwyr y beddrodau, ond creu pentwr esgyrn teuluol.

Prin iawn yw'r nwyddau claddu a geir yn y beddrodau hyn — ychydig o botiau drylliedig a llond dwrn o offer fflint ar y mwyaf. Mae'n debygol y byddai'r seremoni i anrhydeddu'r meirwon yn digwydd y tu allan i'r siambrau eu hunain.

Mewn cyfuniad, y nwyddau claddu prin hyn, yr esgyrn a'r beddrodau eu hunain yw un o'r prif ffynonellau gwybodaeth am fywyd a marwolaeth yn ne-ddwyrain Cymru yn ystod y cyfnod anghysbell hwn.

Darllen Cefndir

The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006.

The megalithic chambered tombs of the Cotswold-Severn region by T. C. Darvill. Vorda Publications (1982).

Glud hynafol o Burry Holms, Gŵyr

14 Mai 2007

Pen saeth

Pen saeth yn dangos rhesi o adfachau cerrig, a elwir yn ficrolithau, wedi'u gosod yn y goes. Defnyddid pennau saethau â blaenau microlith yng Nghymru rhwng 9000 a 4000CC.

Microlith

Microlith (yn llai na 40mm [1.6 modfedd] o hyd) a ddarganfuwyd ar Burry Holms. Gellir gweld y smotiau o dar ar waelod y llun.

Dar rhisgl y fedwen

Llun o smotyn o dar rhisgl y fedwen a dynnwyd gyda chymorth microsgop sganio electron. Ymddengys y cafodd y tar ei dwymo rywbryd neu'i gilydd, gan roi iddo wedd wydrog.

Er nad oes cysylltiad amlwg rhwng gwyddoniaeth yr unfed ganrif ar hugain a gwrthrychau 11,000 o flynyddoedd oed, mae gwaith ymchwil yn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru yn dal i ddangos sut y gall yr hen elwa ar y newydd.

Yn ystod y cyfnod Mesolithig (9200-4000CC), tryferi a gwaywffyn oedd dewis arfau helwyr-gasglwyr Cymru. Defnyddiwyd yr arfau hyn i hela ceirw ac i drywanu pysgod, dwy ffynhonnell hollbwysig o fwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Câi'r tryferi a'r gwaywffyn hyn eu gwneud o bren, asgwrn neu gorn carw, ac i lawr eu hochrau gosodid rhesi o adfachau cerrig, a elwir yn ficrolithau. Dros y canrifoedd, mae'r coesau pren ac asgwrn wedi pydru gan adael y microlithau cerrig yn unig yn wrthrychau i'w darganfod gan archaeolegwyr.

Cafwyd hyd i gannoedd o'r microlithau hyn yng Nghymru, ond nid oes yr un ohonynt wedi bod o gymorth i ateb y cwestiynau canlynol: Sut y gosodwyd y microlithau'n sownd yn eu coesau? Beth oedd yn eu rhwystro rhag cwympo allan?

Hynny yw, dim un hyd nes y cafwyd hyd i enghraifft ac arno smotiau microsgopig ar ei wyneb, wrth gloddio ar Burry Holms yng ngorllewin Gŵyr.

Aed â'r microlith hwn i Brifysgol Caerdydd er mwyn ei osod dan ficrosgop sganio electron oedd yn caniatáu astudiaeth fanwl o'r smotiau, a modd i baratoi proffil cemegol ohonynt.

Dangosai'r canlyniadau mai tar rhisgl y fedwen, yn ôl pob tebyg, yw'r smotiau arwynebol, resin gludiog a ddefnyddid fel glud. Gwyddys am y defnydd o dar rhisgl y fedwen o safleoedd Mesolithig ledled Ewrop, ond dyma'r tro cyntaf iddo gael ei gofnodi yng Nghymru - cipolwg ar dechnoleg ein cyndeidiau na fyddai wedi dod i'r fei oni bai am gymorth gwyddoniaeth gyfoes.

Darllen Cefndir

'Identification of hafting traces and residues by scanning electron microscopy and energy-dispersive analysis of x-rays' gan A. F. Pawlik. Yn Lithics in action gan E. A. Walker, F. Wenban-Smith a F. Healy. Cyhoeddwyd gan Oxbow books (2004).

'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 40, tt88-89 (2000).

'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 41, tt126 (2001).