Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
37 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7
Mae modrwy fylchgron o ddiwedd yr Oes Efydd a broetsh arian Canoloesol wedi cael eu datgan yn drysor ar ddydd Iau 21 Rhagfyr 2023 gan Uwch Grwner Gwent, Caroline Sanders.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 ar ddydd Mawrth 19 Rhagfyr, yn cynnwys toriad o 10.5% i gyllid Amgueddfa Cymru. Mae hyn yn rhan o doriadau sylweddol ar draws holl bortffolios Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â diffyg mawr yng nghyllideb y Llywodraeth.
Mae gwaith o 40 o ffotograffau gan Garry Fabian Miller – un o ffigurau mwyaf blaengar ffotograffiaeth gain – wedi cael ei gaffael gan Amgueddfa Cymru ar gyfer ei chasgliad parhaol.
Mae Amgueddfa Cymru wedi penodi Glamorgan Brewing Company fel y bragdy i gyflenwi Gwesty’r Vulcan pan fydd yn agor yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 2024.
Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn cael ei gynrychioli, ac yn parchu gwahanol safbwyntiau ein hymwelwyr, staff a’r cymunedau a gynrychiolwn.
Mae Amgueddfa Cymru yn gwrthwynebu pob gweithred o drais, ac wedi ein tristáu yn fawr gan y marwolaethau trasig yn Israel ac yn Gaza. Gobeithiwn y bydd yr holl grwpiau yn ymroi i ddatrysiad heddychlon cyn gynted â phosibl.
Mae protestiadau heb eu cynllunio wedi eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mewn ymateb i’r argyfwng. Mae Amgueddfa Cymru yn cefnogi hawl pobl i brotestio’n heddychlon, ond yn gofyn i bob protest gael eu cynnal gyda pharch, heb beryglu diogelwch ein hymwelwyr, staff, gwirfoddolwyr a’r casgliad cenedlaethol.
Mae pedwar canfyddiad, gan gynnwys celc o’r Oes Efydd, dwy fodrwy arian Rufeinig a broetsh arian canoloesol, wedi eu datgan yn drysor ar ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2023 gan Patricia Morgan, Crwner Ardal Canol De Cymru.