Dathlu Hanner Tymor Pluog Gareth Bonello, 14 Chwefror 2011 Mae hi'n National Nest Box Week yr wythnos hon ac mae hi'n Hanner Tymor yr wythnos nesaf felly 'da ni wedi penderfynu cyfuno'r ddau i gael gweithgareddau ar them adar yn y T? Gwyrdd dros y penwythnos yma ac o ddydd Llun i ddydd Gwener yr wythnos nesaf. Mi fyddwn yn gwneud bwytai a bocsys nythu i'r adar ac mi fydd yna becyn gwybodaeth am ddim i'ch helpu i ddenu adar i'ch gardd.Mae'r gwanwyn ar y ffordd felly mae'n amser codi'r bocsys nythu cyn i'r tymor cenhedlu ddechrau. Mae'r gwanwyn a'r haf yn gyfnod hynod o frysur i'r adar wrth iddynt geisio ffeindio digon o fwyd i'r holl gywion yn ogystal i â nhw eu hunain. Dwi'n siwr y byddant yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth gennym ni!
Paratowch i gyfri... Hywel Couch, 24 Ionawr 2011 Ydych chi'n mwynhau gwylio'r adar yn eich ardd? Oes 'da chi hoff le i fynd i wylio'r adar? Penwythnos 'ma (29ain a 30ain Ionawr) yw'r Big Garden Birdwatch, sef arolwg blynyddol o adar Prydain sy'n cael ei threfnu gan yr RSPB.Dim ond awr sy angen i recordio pa adar sy'n ymweld a'ch ardd neu parc lleol. Am restr o parciau Caerdydd, cliciwch yma.Gallwch hyd yn oed ymweld a ni yma yn amgueddfa Sain Ffagan i weld pa adar gallwch weld o'n cuddfan adar. Ble bynnag da chi'n mynd, cofiwch i wisgo'n gynnes, gall fod yn oer iawn!Does dim tal i cofrestru ac mae'r holl wybodaeth 'da chi angen ar gael ar wefan yr RSPB: www.rspb.org.uk/birdwatch Beth welwch chi??
Llifogydd! Gareth Bonello, 13 Ionawr 2011 Yn gyntaf oedd yr eira ac nawr y glaw! Torrodd yr Elai drwy'r dorlan ger Sain Ffagan heddiw. Diferion bychain i gymharu 'da beth sy'n digwydd yn Queensland Gallwch helpu'r rheini sydd wedi eu dal lan yn y llifogydd yn Awstralia yma
Ias oer y gaeaf Gareth Bonello, 7 Rhagfyr 2010 Meddwl baswn yn postio'n gyflym gydag ambell i lun o'r tywydd oer yma yn Sain Ffagan. Mae hi'n oer ond yn brydferth ar yr un pryd - yn enwedig wrth i'r haul godi a machlyd (digwyddiadau sydd bum munud ar wahan bellach dwi'n siwr 'bo chi 'di sylwi).Os ydych am dod i'r Nosweithiau Nadolig yr wythnos yma dewch a torch a ddillad cynnes. Mae yna lwyth o bethau i wneud ond fydd hi ddim yn dwym! Mi fyddwn ni yn dangos i chi siwd i wneud addurnau nadoligaidd trwy defnyddio 'mond papur newydd, sisiwrn, glud a'r pŵer tywyll y gelwir yn 'celf a chreft'.Hefyd, bwydwch yr adar mân gan eu bod nhw'n oer. Edrychwch ar y Robin bach yn sythu. Druan.
Ymwelwyr i'r cuddfan adar Hywel Couch, 23 Tachwedd 2010 Wrth i adar y goedwig dod yn gyfarwydd gyda'i amgylchedd newydd, mae'r bwydwyr tu fas i'r cuddfan wedi bod yn brysur dros ben. Ar adegau mae'r bwydwyr bron wedi ei orchuddio gan amryw o titws, sy'n cael ei ymuno gan telor y coed, ji-bincs a robin goch achlysurol. Pob hyn a hyn mae cnocell fraith fwyaf yn ymddangos hefyd, yn gorfodi i'r adar llai cuddio am munud neu ddwy.Mae'r cuddfan nawr bron iawn yn barod i agor i'r cyhoedd, dal y bwriad i agor cyn diwedd y mis. Os ydych yn meddwl am ymweld a'r cuddfan, cofiwch i wisgo rhywbeth gynnes, mae hi gallu bod yn oer uffernol ar adegau. Hyd yn oed yn well, dewch a fflasg o de gyda chi!Mae'r cuddfan yn lle gwych i tynnu lluniau o bywyd gwyllt, dyma rhai rydyn ni wedi tynnu o adar gwahanol yn bwydo tu fas i'r cuddfan.