: Tŷ Gwyrdd

Babis Gwyrdd yn Sain Fagan

Danielle Cowell, 31 Ionawr 2012

Sul 4 Mawrth, Sul 1 Ebrill & 17-19 Ebrill

Er eu bod yn fach, mae babis yn gallu defnyddio llawer o adnoddau.Dewch draw i’r T? Gwyrdd i rannu syniadau dros baned neu dysgu sut i roi dechreuad da a gwyrdd i’ch babi.

Baned am ddim am 11 o gloch neu galwch mewn unrhyw adeg rhwng 11-1 a 2-4 yn y Ty Gwyrdd yn sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?site=stfagans

Twitter.com/TyGwyrdd

Gweithdy Crefftau Helyg yn y Ty Gwyrdd

9 Tachwedd 2011

Heddiw mae Ty Gwyrdd wedi bod yn gartref i weithdy creadigol iawn!

Gweithdy yn benodol i athrawon oedd hon, yn cynnig y cyfle iddynt i ddysgu sut i fynd ati i greu crefftau Nadolig o helyg.

Heddiw mae'r grwp wedi bod yn brysur iawn yn creu! Yn amlwg , roedd pawb yn falch iawn yn gadael gyda'u torchau, ser, coed bach i gyd wedi'u gwneud o helyg! Dwi'n siwr bydd sawl ysgol yn mynd ati i ail-greu y crefftau hyn dros cyfnod yn arwain at y Nadolig.

Trefnwyd y gweithdy gan Out to Learn Willow.

O bryd i'w gilydd, mae modd llogi Ty Gwyrdd fel gofod i gynnal gweithdai tebyg i hyn. Mae gofyn profi bod eich gweithdy yn hyrwyddo cynaliadwyedd ac yn un di-elw.

Os am rhagor o fanylion cysylltwch drwy Adran Addysg yma yn Sain Ffagan.

Diolch.

Diwrnod Byw yn Wyrdd!

8 Tachwedd 2011

Helo! Dydd Sadwrn, Tachwedd 5ed cynhaliwyd digwyddiad ‘Byw yn Wyrdd’ yn y T? Gwyrdd.

 

Bwriad ‘Byw yn Wyrdd’ yw cynnig syniadau hawdd a syml ar sut i arbed ynni ac ar yr un pryd arbed arian! O gerdded i’r ysgol, gosod plwg mewn sinc pan yn ymolchi, diffodd y golau pan yn gadael yr ystafell a llawer mwy. Mae hyn mor hawdd a syml!

Am ragor o syniadau syrffiwch draw i'r linc canlynol:: http://tiny.cc/w4iqr

 

Roedd gofyn i ymwelwyr 'Byw yn Wyrdd' ddewis un weithgaredd newydd sbon a chadw ati ar ôl dychwelyd adref.

 

Er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn cadw at eu haddewidion newydd roedd gofyn i bawb eu hysgrifennu ar ddeilen ac yna glynu’r ddeilen ar goeden ‘Byw yn Wyrdd!’

Cyn pen dim roedd y goeden yn llawn addewidion gwyrdd ac yn amrywio o gerdded i’r ysgol, i wisgo siwmper i gadw’n gynnes. Gwych!

 

Mae’n werth crybwyll bod ambell un wedi bachu ar y cyfle i droi’n wyrdd (yn llythrennol) wrth daflyd boa plu gwyrdd a sbectol sgleiniog T? Gwyrdd amdanynt! Am gyfnod roedd hi’n debycach i sesiwn swreal Strictly Come Dancing! Dwi’n amau mai dyna’r tro cyntaf i lechi caled llawr T? Gwyrdd weld camau y tango! Go dda!

 

Diolch yn fawr i bawb ddaeth draw….digwyddiad nesaf T? Gwyrdd yw ‘Nadolig Cynaliadwy’ ar Rhagfyr 3ydd. Cyngor ar sut i wneud eich Nadolig chi yn un gwyrdd a throi eich llaw at wneud eich haddurniadau eichhunan. Os oes ganddoch chi syniadau ar sut i ddathlu’r Nadolig mewn modd cynaliadwy – gallwch drydaru eich syniadau i’r cyfeiriad canlynol:

www.twitter.com/tygwyrdd

 

Diolch yn fawr,

T? Gwyrdd

Hyrwyddwr Hinsawdd yn ymweld � Sain Ffagan!

Danielle Cowell, 15 Medi 2011

Mae Bronwen Davies o Lyn Ebwy yn un o Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.

Treuliodd Bronwen, sy’n 15 oed, y diwrnod yn y Tŷ Gwyrdd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn siarad ag aelodau’r cyhoedd am sut i addunedu i leihau eu hôl troed carbon.

Siaradodd â phobol o bob oed a mwynhau trafod gyda theuluoedd lle gallai rhieni a phlant gynllunio eu camau nesaf gyda’u gilydd. Mae hi wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnosau diwethaf yn helpu pobl i ddeall y newid yn ein hinsawdd.

Penodwyd Bronwen yn Hyrwyddwr Newid Hinsawdd ym mis Ionawr wedi iddi ennill cystadleuaeth i ganfod chwe person ifanc allai ddefnyddio eu dylanwad i berswadio eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau i gyfrannu at helpu Cymru i leihau ei hôl troed carbon.

Ar 1 Hydref gallwch chi gyfarfod Hyrwyddwr Newid Hinsawdd Caerdydd, Tom Bevan, sy’n 16. Galwch draw i Tŷ Gwyrdd i gyfarfod Tom, addunedu, a dysgu beth allwch chi ei wneud i leihau eich ôl troed carbon.

Dilynwch hanes Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Cymru yn: http://tinyurl.com/3gu535d