Dwy wraig Syr Watkin Williams-Wynn 19 Chwefror 2007 Dau bortread godidog gan Syr Joshua Reynolds Syr Joshua Reynolds (1723-1792), Sir Watkin Williams-Wynne and Henrietta Somerset. Priodwyd ar 11 Ebrill 1769 a bu hi farw ar 24 Gorffennaf yr un flwyddyn. Mae Syr Joshua Reynolds (1723-1792) yn ffigwr pwysig ymysg arlunwyr Prydain. Un o'i noddwyr mwyaf brwd oedd y tirfeddiannwr cyfoethog Cymreig Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789). Erbyn yr 1760au hwyr roedd incwm Syr Watkin yn caniatáu iddo wario symiau anferthol ar brosiectau adeiladu a phrynu gweithiau celf. Ym 1769 priododd Syr Watkin y Fonesig Henrietta Somerset, merch 4ydd Dug Beaufort. Bu'n briodas fer gan i Henrietta farw dri mis yn ddiweddarach. Prynodd ei mam-yng-nghyfraith set ymolchi arianwaith, wedi'i wneud gan Thomas Heming ym 1768, i Henrietta yn anrheg priodas. Syr Watkin Williams-Wynn a Henrietta Somerset Mae portread cyntaf Reynolds ar gyfer Syr Watkin, Sir Watkin Williams-Wynn and Henrietta Somerset, yn ddarlun maint llawn o'r pâr mewn gwisgoedd du a phinc sy'n cyfateb â'i gilydd. Maent yn dal mygydau theatrig mewn lleoliad pensaernïol o flaen llenni a fâs anferth. Gwelir y math yma o fâs mewn nifer o bortreadau gan Reynolds. Mae wedi'i gopïo o ysgythriad o'r 17eg-ganrif gan G.B. Galestruzzi yn null Polidoro da Caravaggio. Mae'r modelau'n gwisgo gwisg a gysylltir gyda'r peintiwr portreadau Anthony Van Dyck, a oedd yn ffasiynol o'r 1740au hyd yr 1770au. Roedd gwisgoedd du i fenywod gan Van Dyck yn anghyffredin, ac roedd yn anghyffredin i bâr wisgo dillad o'r un lliw, heblaw mewn dawns fasgiau. Darlunnir Henrietta mewn osgo sy'n gyffredin ym mhortreadau Reynolds o fenywod, a ddysgodd gan ei athro, Thomas Hudson. Darlunnir Syr Watkin â golwg melancolaidd ar ei wyneb, gydag osgo sy'n gweddu i'w gorffolaeth fer, gadarn. Er i'r darlun gael ei ddechrau fel portread priodas yn ôl pob tebyg, awgryma'r wisg ddu iddo gael ei gwblhau fel portread coffaol. Charlotte Grenville gyda'i phlant Sir Joshua Reynolds (1723-1792), Charlotte Grenville gyda'i phlant yn dangos ail wraig Syr Watkin Williams-Wynn. Mae'r ail bortread, Charlotte Grenville and her children, yn dangos ail wraig Syr Watkin. Roedd Charlotte Grenville (1754-1830) yn aelod o un o brif deuluoedd llywodraethol Prydain yn y 18fed-ganrif. Hi oedd merch hynaf George Grenville (1712-70) a oedd yn Brif Weinidog ym 1763-5. Fe wnaethant briodi ym 1771, ddwy flynedd wedi marwolaeth Henrietta. Mae'r paentiad hwn yn ei dangos gyda thri o'i phlant hynaf. Awgryma oedran y plant i'r portread gael ei baentio tua 1778. Mae'r cyfansoddiad yn adleisio'r paentiadau o Rest on the Flight with St John the Baptist o Fenis ar ddechrau'r 16eg ganrif. Mae safle'r plant yn y darlun yn adleisio'r grŵp sydd ar y dde yn y darlun Vendramin Family gan Titian (Oriel Genedlaethol), yr oedd Raynolds yn gyfarwydd ag ef. Gwnaed gwisg y Fonesig Charlotte yn y ffasiwn Dwrcaidd ac mae ei hosgo'n deillio o'r portreadau pastel Ladies in Turkish dress gan Jean-Etienne Liotard. Un o bortreadau mwyaf godidog Reynolds o'r 1770au yw Charlotte Grenville and her children a baentiodd pan oedd yn ei anterth. Mae'n debygol i'r ddau bortread gostio tua £315 yr un i Syr Watkins. Paentiwyd hwy yn null y Grand Manner, ac maent yn mynegi'r rhinweddau yr oedd Reynolds yn eu hedmygu fwyaf yng Nghelfyddyd Uchel y Dadeni. Maent hefyd yn dangos uchelgeisiau diwylliannol Syr Watkin Williams-Wynn a'i wragedd. Bu'r portreadau ym meddiant y teulu Williams-Wynn am dros ddwy ganrif cyn iddynt gael eu prynu gan yr Amgueddfa ym 1998. Mae gan yr Amgueddfa gasgliad ysblennydd o weithiau o gasgliad Syr Watkin yn cynnwys paentiadau pwysig gan Batoni a Mengs, ac arianwaith a chelfi wedi'u cynllunio gan Robert Adam.
Cwpan o aur Cymru solet 19 Chwefror 2007 Aur Cymru Y cwpan aur solet a wnaethpwyd o gynllun mewn darlun o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i Jane Seymour ym 1536. Cwpan a chaead, aur 22 carat, R & S Garrard & Co, London 1867-68. Uchder: 39.8 cm (15 ''/16 modfedd). Mae aur Cymru'n brin iawn. Gwnaethpwyd modrwyau priodas teulu Brenhinol presennol Prydain ohono, ond y gwrthrych mwyaf i gael ei wneud o aur Cymru yw'r copi o gwpan a roddodd Harri VIII i un o'i wragedd. Y teulu cyfoethocaf yng Nghymru Gwnaethpwyd y cwpan ym 1867 ar gyfer teulu'r Williams-Wynn o Riwabon yn Sir Ddinbych, gan ddefnyddio aur o'u gwaith aur eu hunain. Teulu'r Williams-Wynn oedd y teulu cyfoethocaf yng Nghymru ar y pryd. Roeddent yn enwog am eu cyfoeth, gan ei wario ar dai crand, paentiadau drud ac arianwaith. Mae llawer o'r rhain bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa. Y Rhuthr am Aur Cymru Mae nifer yn gwybod am y rhuthr am aur yn Califfornia ym 1848, ond nid oes llawer yn gwybod am y rhuthr am aur Cymru a ddigwyddodd ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Ym 1862 darganfuwyd aur ym Meirionnydd ac yn fuan wedi hynny agorodd Syr Watkin-Wynn (1820-1885) waith aur Castell Carn Dochan ar ei dir. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o'r aur o'r gloddfa hon rhwng 1865 a 1873. Taliadau o Aur Talwyd breindaliadau mawr i Syr Watkin am yr aur a gloddiwyd, a thalwyd ef gyda'i ingotau aur ei hun. Fodd bynnag, nid oedd angen yr incwm hwn arno gan ei fod mor gyfoethog, a gallai drin yr aur fel difyrrwch. Cwpan o Aur Solet Defnyddiwyd peth o'r aur i wneud cwpan ysblennydd. Mae'r cwpan yn 40cm o uchder ac wedi'i wneud o aur 22-carat. Mae arno'r ysgythriad "MADE OF GOLD THE ROYALTY FROM CASTELL CARNDOCHAN MINE 1867" yn ogystal â'r dilysnod R & S Garrard and Co., Haymarket, Llundain. Mae'n addurnol, yn y steil a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod y Dadeni cynnar. Mae'n sefyll ar droed gron, ac mae ochrau'r goes wedi ei haddurno â phennau blodau, dolffiniaid a chlychau. Mae nifer o arwyddeiriau teuluol wedi'u hysgythru ar y cwpan: eryr eryrod eryri, y cadarn a'r cyfrwys, bwch yn uchaf a cwrw da yw allwedd calon. Mae arfbais Williams-Wynn ar y caead tal, ac arno hwrdd ifanc yn cael ei gynnal gan geriwbiaid ar y brig. Cynllun Brenhinol ar gyfer Harri VIII Y cynllun gwreiddiol ar gyfer y cwpan a roddwyd i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536-37 yn yr Amgueddfa Brydeinig. Hans Holbein yr Ieuaf, pen ag inc ar bapur. Hawlfraint Yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain Fe seiliodd gwneuthurwyr y cwpan eu cynllun ar ddarlun sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536. Addurnwyd y cwpan â diemwntau a pherlau. Toddwyd cwpan Jane Seymour ar orchymyn Siarl I ym 1629, pan oedd yn brin o arian.
Siwt frodiog ysblennydd o'r 1770au 19 Chwefror 2007 Siwt felfed yn dyddio o 1770 Gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur. Prynwyd y darnau pwysicaf o gasgliad Amgueddfa Cymru o ddillad dynion o'r 18fed-ganrif ym 1996. Mae'r siwt felfed yn dyddio o 1770 ac roedd yn eiddo i Syr Watkin Williams-Wynn. Mae wedi'i brodio â sidanau a secwinau aur, ac mae mewn cyflwr arbennig o dda. Syr Watkin Williams-Wynn Roedd Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789) o Wynnstay yn noddi'r celfyddydau ac roedd yn eithriadol o gyfoethog ac adnabyddus. Adlewyrchai ei ddillad ei ffordd o fyw. Prynodd siwtiau melfed coeth yn Ffrainc a'r Eidal tra'r oedd ar ei Daith Fawr ym 1768-9. Yn ystod y 1770au prynodd ddillad oddi wrth nifer o deilwriaid, hosanwyr a gwneuthurwyr les Llundain, gan wario tua £1,000 y flwyddyn ar siwtiau'n unig - swm anferthol ar y pryd. Secwinau aur ac edafedd arian Mae'r gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur. Gwnaethpwyd y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd â hi ychydig yn ddiweddarach. Prynodd yr Amgueddfa got wlân goch o'r un cyfnod, wedi'i haddurno â brodwaith o edafedd arian. Magodd Syr Watkin gryn dipyn o bwysau wrth iddo heneiddio, ac efallai mai dyna pam fod y siwt wedi goroesi mewn cyflwr mor dda. Brodwaith cyfoethog Mae gan gôt y siwt flaen rhandoredig a choler fer sy'n sefyll i fyny. Mae'r leinin o sidan gwyrdd i gyd-fynd â defnydd y wasgod. Mae gan y wasgod flaenau o sidan gwyrdd a leinin a chefn o sidan mwy gwelw ei liw, o wehyddiad plaen. Fel y siwt, mae'r brodwaith yn cynnwys ymylweoedd aur, secwinau metel a rhubanau blodeuog. Mae'r gwaith yn gain dros ben. Mae'n debygol y cafodd y siwt ei wneud mewn gweithdy teiliwr o Lundain. Y crefftwyr gorau ynghyd â nifer o frodwyr proffesiynol fyddai wedi'i chreu. Mae'n debygol iawn y cafodd y gôt wlân goch ei gwneud yn yr un gweithdy, gan fod y brodwaith ar honno hefyd yn cynnwys secwinau aur ac arian, ymylweoedd metel ac edeifion sidan, gyda themâu tebyg o fwâu, addurnblethau a thaselau. Dillad crand ar gyfer achlysuron mawreddog Y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd Roedd y dillad hyn mor ddrud gellid bod wedi eu gwisgo yn y llys brenhinol. Yng Nghymru, gallai Syr Watkin fod wedi gwisgo dillad o'r fath yn ei barti i ddathlu ei ben-blwydd yn un-ar-hugain ym 1770. Daeth y parti i fod yn chwedlonol oherwydd ei ormodedd a'i faint - cafwyd 15,000 o westeion a daeth tair coets o gogyddion o Lundain. Adeiladwyd neuadd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o'r prif adeilad yn Wynnstay, pan ychwanegwyd ystafelloedd gwely uwch ei ben. Mae'r bwyd a fwytawyd yn y parti yn cynnwys 30 buwch, 50 mochyn, 50 llo, 80 dafad, 18 oen, 37 twrci a 421 pwys o eog. Efallai bod hyn yn esbonio maint Syr Watkin yn ei henaint! Bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1735, penododd y Brenin Siôr III Syr Watkin yn Arglwydd Raglaw (cynrychiolwr y brenin) ar gyfer Meirionnydd.