: Diwydiant - Gweithdai'r Byd

Symud talcen glo i'r amgueddfa

11 Ebrill 2007

Pan gaeodd ysbyty i lowyr yn 2001, datgymalwyd y talcen glo a ddefnyddiwyd i roi ymarfer corff i'r cleifion a'u paratoi i ddychwelyd i'r gwaith, a'i symud i gasgliadau Amgueddfa Cymru.

Tŷ Talygarn

Tŷ Talygarn: golygfa o'r model maint llawn o dalcen glo

Tŷ Talygarn: golygfa o'r model maint llawn o dalcen glo

Ym 1880, agorwyd ysbyty ym mhlasty cerrig sylweddol Talygarn. Addurnwyd y tu mewn â phaneli pren a nenfydau peintiedig. Roedd parcdiroedd helaeth o gwmpas y tŷ, lle tyfwyd sbesimenau o bob coeden sy'n gallu tyfu ym Mhrydain, yn ôl yr hanes.

Talygarn fel Cartref Ymadfer

Yn Hydref 1923, agorwyd Tŷ Talygarn fel cartref ymadfer ar gyfer glowyr, ac o fewn 15 mlynedd roedd dros 41,000 o gleifion wedi bod trwy'r drysau.

Ym 1943, gofynnwyd i Gomisiwn Lles y Glowyr drefnu gwasanaeth adfer ar gyfer glowyr oedd wedi'u hanafu. Oherwydd bod prinder gweithwyr ar y pryd, roedd hi'n hanfodol bod glowyr oedd wedi'u hanafu'n dychwelyd i'w gwaith mor fuan â phosib. Am hynny, prynwyd Tŷ Talygarn fel canolfan i wasanaethu meysydd glo de Cymru.

Erbyn 1964, roedd 95% o'r cleifion a gafodd eu trin yn Nhalygarn yn dychwelyd i'r diwydiant glo. Parhaodd i weithredu fel canolfan ymadfer a ffisiotherapi nes cael ei osod ar werth yn Awst 2000.

Adfer glowyr a'r 'Model o Bwll Glo'

Oherwydd yr angen i galedi'r dynion cyn iddynt ddychwelyd i'r pyllau glo, darparwyd gweithdy gwaith coed, lle byddai'r cleifion yn torri pren ac yn llifio boncyffion. Roedd grisiau bach a beiciau llonydd ar gael i ymarfer eu cyhyrau segur.

Yn Nhŷ Talygarn roedd yna fodel mawr o bwll glo lle gallai'r cleifion ymgyfarwyddo â gweithio mewn pwll glo unwaith eto. Un twnnel hir a gynhaliwyd gan hytrawstiau bwaog oedd y strwythur. Roedd gan y ffordd gledrau, yn ogystal â fframwaith metel o'r enw horsehead, a fyddai'n atal cerrig rhag cwympo mewn talcennau glo go iawn.

Symud y pwll glo

Ym 2001, rhoddwyd cynnwys y model o bwll glo' i Amgueddfa Cymru fel 'ffordd barhaol o atgoffa ymwelwyr am waith canolfan ymadfer Talygarn'.

Datgymalwyd y talcennau glo fel petasent yn rai go iawn. Er mai dim ond pedair troedfedd o uchder oedd ar gael i gyflawni'r gwaith, llwyddwyd i ddatgymu a symud y cludwr cadwyn, trideg troedfedd o hyd.

Cludwyd yr holl eitemau i'r Ganolfan Casgliadau yn Nantgarw. Mae rhodd Talygarn yn rhan unigryw, tri deg troedfedd o hyd, o dalcen glo rhannol-fecanyddol, sydd wedi goroesi o'r 1960au cynnar.

200 Mlynedd o Flaengaredd Diwydiannol yng Nglynebwy

10 Ebrill 2007

Gweithfeydd Haearn Abersychan, 1866, a redwyd gan Gwmni Glynebwy, 1852-83

Gweithfeydd Haearn Abersychan, 1866, a redwyd gan Gwmni Glynebwy, 1852-83

Ffwrneisi chwyth Glynebwy, tua 1900

Ffwrneisi chwyth Glynebwy, tua 1900

Melin arw mewn gwaith dur, 1907

Melin arw mewn gwaith dur, 1907

Melin arw mewn gwaith dur, 1907

Melin arw mewn gwaith dur, 1907

Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy

Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy oedd un o brif gynhyrchwyr haearn y de yng nghanol y 19eg ganrif. Roedd o bwys rhyngwladol, nid yn unig am ei faint, ond hefyd am ei flaengaredd technolegol.

Can mlynedd yn ddiweddarach, y cwmni oedd y cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio technegau Americanaidd i gynhyrchu dur a thunplat. Heddiw, y cwmni yw prif gynhyrchwr tunplat Prydain.

1790, y Ffwrnais Chwyth cyntaf

Mae gwreiddiau gweithfeydd Glynebwy yn ymestyn yn ôl i 1790, pan sefydlwyd ei ffwrnais chwyth cyntaf. Y teulu Halford oedd y perchnogion rhwng 1796 ac 1844, a bu'r gweithfeydd yn llwyddiant yn ystod y cyfnod hwn. Bu'n arloesol ym maes rholio cledrau, gan ddarparu cledrau ar gyfer rheilffordd Stockton a Darlington ym 1829.

Yn yr un cyfnod, arbrofodd y cwmni gyda locomotifau — un o'r gweithfeydd haearn cyntaf yn y de i wneud hynny. Ffurfiwyd Cwmni Glynebwy ym 1848, a ffynnodd y gweithfeydd. Ymgorfforwyd pedwar gwaith haearn arall yn Abersychan, Sirhywi a Phont-y-pŵl.

Y gwaith dur cyntaf ym Mhrydain

Roedd y cwmni'n arloeswr yn y broses o droi haearn gyr yn ddur. Cynhaliodd ei arbrofion ei hun ym 1854, ac agorodd un o'r gweithfeydd dur cyntaf ym Mhrydain ym 1866.

Dirywiodd y gweithfeydd yn yr 1870au a'r 1880au oherwydd rheolaeth wael, ond bu ehangiad cyflym y diwydiant glo yn ddigon i arbed y gwaith rhag cau.

Adfywiad yr 20fed ganrif

Adfywiwyd y gweithfeydd haearn a dur ar ddechrau'r 20fed ganrif, a bu ffyniant marchnad glo stêm Cymru'n help i sefydlu'r cwmni fel prif gwmni haearn a glo integredig Cymru.

Cau a chaledi

Erbyn y 1920au cynnar roedd y cwmni'n cyflogi 34,000 o ddynion. Cynyddwyd ei ddyledion i ariannu ehangiad mewn cyfnod pan oedd y diwydiannau dur a glo yn dirywio'n sylweddol. Arweiniodd hyn at gau'r gweithfeydd a gwerthu'r glofeydd ym 1929.

Adfywiad ac ehangiad gyda thunplat

O ganlyniad i'r caledi mawr a'r diweithdra yn y dref, penderfynodd y Llywodraeth y dylid gosod melin stribed dur cyntaf Prydain yng Nglynebwy. Ail-adeiladwyd y gweithfeydd ym 1936-38 o dan berchnogaeth Richard Thomas & Company, cynhyrchwyr tunplat mwyaf Prydain.

Cafodd y gweithfeydd newydd hwb pellach ym 1947, pan gosodwyd llinell tunplat electrolytig cyntaf Ewrop yno. Parhawyd i foderneiddio ac ehangu pob rhan o'r gweithfeydd, ac ym 1960 gosodwyd y Trawsnewidydd LD cyntaf Prydain yn y gwaith dur.

Y cynhyrchwr tunplat mwyaf ym Mhrydain

Bu rhesymoliad y diwydiant dur ar ôl ei wladoli ym 1967 yn gyfrifol am leihau cyfanswm y dur a gynhyrchwyd yng Nglynebwy, a chaewyd y gwaith dur ym 1978. Ers hynny canolbwyntiodd y gwaith ar gynhyrchu tunplat a galfaneiddio, gan ddatblygu i fod yn brif gynhyrchwr tunplat Prydain. Caewyd y gwaith yn 2002.

Gwasanaeth Neilltuol - Medalau am Rhyfelgyrchoedd a Dewrder

30 Mawrth 2007

Bathodyn arian 'Menter Ddiobaith' 1643

Bathodyn arian 'Menter Ddiobaith' 1643

Medal De Affrica 1877-79: '1428 Pte E. Jones 2.24th Foot'

Medal De Affrica 1877-79: '1428 Pte E. Jones 2.24th Foot'

Sarjant Evan Jones, tua 1917.

Sarjant Evan Jones, tua 1917. Ganed yng Nglyn Ebwy ym 1859 ac ymrestrodd ym Milisia Trefynwy ym 1874, gan ymuno â chatrawd y '24th Foot' ym 1877. Gwasanaethodd yn Ne Affrica, ac ar 23 Ionawr 1879 roedd yn rhan o'r gwarchodlu bychan a warchododd Rorke's Drift yn erbyn ymosodiad anferth gan y Zwlŵaid. Gwasanaethodd yn ddiweddarach yn ardal Môr y Canoldir, India a Byrma, ac fe arhosodd yn y fyddin mewn gwahanol unedau tan 1920. Bu farw yn Y Trallwng ym 1931.

Casgliadau medalau Amgueddfa Cymru

Ffurfiwyd casgliadau medalau Prydeinig Amgueddfa Cymru yn y 1920au diolch i roddion gan ddau ŵr.

Ym 1922, rhoddodd y Cyrnol Syr William Watts ei gasgliad o 105 o fedalau llyngesol a milwrol Prydeinig i'r Amgueddfa, ac ym 1923, derbyniwyd medalau tebyg yn rhodd hael gan W. Lisle Bowles.

Drwy hyn, cafodd yr Amgueddfa gasgliad nodweddiadol o fedalau rhyfelgyrchoedd milwrol Prydeinig, o frwydr Waterloo (1815), sef y frwydr gyntaf lle cafodd pawb a gymerodd ran ynddi fedal, i Ryfel Mawr 1914–18, ac wedi hynny. Serch hynny, nifer fach yn unig o'r medalau milwrol a dewrder hyn sydd ag unrhyw gysylltiadau Cymreig.

Yn ddiweddar, felly, mae'r amgueddfa wedi canolbwyntio ar agweddau Cymreig wrth brynu a derbyn rhoddion, gan mai ein polisi datganedig yw casglu medalau 'sydd â chysylltiadau â gweithredoedd pobl Cymru'.

'Menter ddiobaith'

Gwobr filwrol gynharaf y casgliad yw'r bathodyn 'Menter Ddiobaith', o gyfnod Rhyfel Cartref Lloegr, a roddwyd i'r milwyr hynny a ddewiswyd i frwydro ar flaen y gad. Cyflwynwyd y wobr Frenhinol hon ym 1643 gan Thomas Bushell, peiriannydd mwyngloddio a meistr y bathdy yn Aberystwyth.

Arwyr Sifil

Cyflwynwyd Medal Albert am y tro cyntaf ym 1866, fel cydnabyddiaeth am ddewrder ar y môr yn wreiddiol, ond cafodd ei estyn ym 1877 i gynnwys achub bywydau ar dir sych, pan wobrwywyd arwyr Pwll Glo Tynewydd, y Rhondda, am achub bywydau pump o'u cydweithwyr fu'n gaeth yn ddwfn o dan y ddaear am naw niwrnod oherwydd llifogydd. Bellach mae nifer o'r Medalau Albert oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad hwn yng Nghasgliad yr Amgueddfa. Pan grëwyd Medal Edward ym 1907 am ddewrder mewn pyllau glo a chwareli, cyflwynwyd un o'r ddwy wobr gyntaf i Gymro o'r enw Henry Everson o Bwll Glo Penallta. Rhoddodd ei fab y fedal yn rhodd i'r Amgueddfa ym 1978.

O Albert i Edward i George

Ym mis Rhagfyr 1971 diddymwyd medalau Albert ac Edward, a chyflwynwyd y George Cross yn eu lle. O blith y rhai a benderfynodd gyfnewid eu gwobrau, dewisodd saith ohonynt roi eu hen fedalau i'r Amgueddfa. Enillodd dau ohonynt, sef Gordon Bastian ac Eynon Hawkins, Fedal Albert am eu dewrder ar y moroedd, ar ôl achub aelodau eraill o'u criw mewn llongau a gafodd eu taro â thorpidos ym 1943. Mae tri o Fedalau 'tir' Albert yn perthyn i Walter Cleall; [linc i Fedal Albert @ CymruFu] Kenneth Farrow, heddwas o Gaerdydd a geisiodd achub bachgen bach rhag boddi; a Margaret Vaughan a achubodd fachgen a gafodd ei ddal gan droad y llanw ar Ynys Sili ger y Barri, pan yr oedd hi'n ferch ysgol.

Gwroldeb a Dewrder Mawr

Ym 1990, cafodd yr Amgueddfa dair Medal George sydd â chysylltiadau Cymreig.

Crëwyd medalau y George Cross a Medal George ym 1940 - yn bennaf fel ymateb i'r cynnydd mewn perygl i ddinasyddion yn ystod y cyrchoedd awyr. Ar 19 Awst 1940, bomiwyd storfa'r Llynges Frenhinol yn Llanreath, Sir Benfro, a bu'n llosgi am ddau ddiwrnod ar bymtheg gan ddinistrio dros ddeg miliwn ar hugain o alwyni o olew. Dyna fu'r tân mwyaf a welwyd erioed ym Mhrydain. Roedd Norman Groom yn un o'r 650 o ddynion tân fu'n ymladd yn erbyn y fflamau ac un o'r tri gŵr o Gaerdydd a dderbyniodd Medal George. Tynnodd Thomas Keenan, gwyliwr nos, fom gyneuol o ben tanc a oedd yn cynnwys 300,000 galwyn o betrol mewn storfa yn Ferry Roed, Caerdydd, ar 2 Ionawr 1941.

Dim ond blas ar yr hanes yw'r gwobrau a amlygir yma. Yn wahanol i fedalau gwledydd eraill, mae medalau milwrol a'r mwyafrif o'r medalau gwroldeb Prydeinig, er dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cynnwys enw (ac mewn gwobrau milwrol, rhif, rheng ac uned) pob derbyniwr. Roedd y miliynau o sêr ymgyrchol a medalau Rhyfel Mawr 1914–18 wedi'u henwi yn unigol, er bod rhai'r Ail Ryfel Byd wedi'u dosbarthu heb enwau er mwyn arbed costau, o bosib. Mae'r mwyafrif o'r medalau, felly, yn fan cychwyn ar gyfer ymchwil hanesyddol i fywydau'r unigolion.

Portread o Sgweier Cymreig a'i blant, gan Johann Zoffany, arlunydd nodedig Siôr III

22 Chwefror 2007

Mae nifer o bortreadau o Gymry amlwg yng nghasgliadau celf Amgueddfa Cymru. Serch hynny, mae'r Amgueddfa'n casglu portreadau o bobl llai adnabyddus hefyd, oherwydd y gallant fod yn werthfawr fel gweithiau celf. Yn aml, mae astudio'r portreadau hyn yn bwrw goleuni newydd ar gyfnodau a bywydau'r sawl a gafodd ei ddarlunio, gan ychwanegu hefyd at ein dealltwriaeth o gelfyddyd y gorffennol.

Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r Amgueddfa wedi caffael nifer o bortreadau nodedig o'r 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, yn cynnwys Henry Knight o Tythegston gyda'i dri o blant, a beintiwyd gan Johann Zoffany (1733-1810) tua 1770.

Henry Knight of Tythegston gyda'i dri o blantgan Johann Zoffany

Henry Knight o Landudwg (1738-1772) gyda'i Blant

Johann Zoffany (1733-1810)
Henry Knight o Landudwg (1738-1772) gyda'i Blant.
Tua 1770 - olew ar gynfas

Mae'r portread yn dangos Henry Knight (1738-1772), sgweier o Sir Forgannwg, gyda'i dri o blant Henry, Robert ac Ethelreda. Bu Henry'n filwr yng nghatrawd y 15th Light Dragoons, a darlunir ei fab hynaf yn gwisgo helmed y gatrawd. Fe etifeddodd Robert Knight (1711-1765), sef tad Henry Knight, ystâd Tythegston teulu'r Lougher drwy ei fam ym 1732. Fe ysgarodd Henry ei wraig ym 1771, a oedd bryd hynny'n broses anodd a drud yr oedd angen Deddf Seneddol breifat i'w gweithredu. Mae'n bosib bod y paentiad wedi cael ei gomisiynu i ddarlunio penderfyniad Henry Knight i adael y fyddin er mwyn gofalu am ei blant. Yn y darlun mae'n gwisgo dillad bob dydd ond mae'n cydio mewn spontoon - math o bicell fer y byddai swyddogion y troedfilwyr yn ei chario - a'r llafn wedi'i wthio i'r ddaear. Mae ei feibion yn dal ei gleddyf, ei gorsied a'i helmed. Gosodir y darlun ar lan y môr, ac mae'n debygol mai cyfeiriad yw hyn at Tythegston, sydd filltir neu ddwy o'r arfordir, rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Mae motiff y goeden, a ddefnyddir yn aml yn narluniau Zoffany o grwpiau teuluol, yn caniatáu pwysigrwydd cyfartal i bob ffigwr. Mae dangos y bechgyn yn chwarae ag arfau ac arfwisg yn perthyn i draddodiad y gellir ei olrhain yn ôl i gyfnod y Dadeni.

Johann Zoffany

Dyma un o bortreadau teuluol mwyaf Zoffany (yn mesur 240 cm x 149 cm), ac mae'n gomisiwn rhyfeddol o uchelgeisiol ar gyfer sgweier Cymreig o gyfoeth cymedrol. Roedd Zoffany, un o arlunwyr mwyaf adnabyddus teyrnasiad Siôr III, yn enwog am ei arddull anffurfiol. Mae un o'i ddarluniau mwyaf adnabyddus, Syr Lawrence Dundas gyda'i ŵyr, yn dangos y campwaith Isalmaenig o'r 17eg ganrif The Calm gan Jan van de Cappelle, sydd hefyd yng nghasgliadau'r Amgueddfa.

Ganwyd Zoffany ger Frankfurt ac fe'i hyfforddwyd yn Rhufain cyn iddo symud i Lundain ym 1760. Mae'n debyg mai'r Arglwydd Bute, prif weinidog cyntaf Siôr III, wnaeth ei gyflwyno i'r Teulu Brenhinol, a daeth i fod yn hoff arlunydd y Frenhines Charlotte. Fe'i penodwyd yn aelod o'r Academi Frenhinol gan y Brenin ym 1769. Mae apêl ei waith yn deillio o'i ddawn o beintio tebygrwydd da, yn ogystal â'i sylw rhyfeddol at fanylder. Fodd bynnag, mae ei bersbectif yn wallus ar brydiau, ac yma mae'n amlwg bod yr helmed sydd ym mreichiau'r mab hynaf yn rhy fawr.

Prynu'r portread ar gyfer yr Amgueddfa

Mae'r darlun wedi'i gadw mewn cyflwr arbennig o dda. Mae archwiliadau pelydr x yn dangos bod yr arlunudd wedi gwneud newidiadau i ben Robert Knight (y mab ieuengaf mewn gwisg goch), ond dim ond ambell i newid bach arall a wnaed i'r cynllun, a phaentiwyd gweddill y cyfansoddiad yn weddol denau. Benthycwyd y paentiad i'r Amgueddfa o 1940 hyd at 1958. Pan aeth ar werth yn Sotheby's ym 1999 daeth yn flaenoriaeth i'r Amgueddfa ei brynu. Bu'n bosibl ei brynu o ganlyniad i roddion hael oddi wrth gymynrodd June Tiley, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chronfa'r Casgliadau Celf Cenedlaethol.