Y Fforymau Cyfranogi 2013-11-07
7 Tachwedd 2013
,Our Museum
Sefydlwyd Fforwm Cyfranogiad Our Museum yn 2011 tra’n datblygu cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri i ailddatblygu Sain Ffagan a’r cais i Sefydliad Paul Hamlyn i ddatblygu ymgysylltiad cymunedol yn yr Amgueddfa. Canlyniad hyn yw bod cyswllt annatod wedi bodoli rhwng ddwy fenter o’r dechrau. Staff yr Amgueddfa, Ymddiriedolwyr a chynrychiolwyr sefydliadau trydydd parti a sector cyhoeddus sy’n gweithio’n agos â grwpiau cymunedol yng Nghymru yw aelodau’r Fforwm. Mae cyfrannu at y Fforwm yn fodd iddynt gyfleu anghenion a diddordebau’r cymunedau y maent yn eu cynrychioli, a dod yn greiddiol i fethodoleg yr Amgueddfa drwy hyn.
Nod y Fforwm yw gwneud Gwirfoddoli yn greiddiol i’r Amgueddfa ac yn gynaliadwy ac i greu ‘Cymuned o Wirfoddolwyr’. Y prif nod yw sicrhau bod anghenion gwirfoddolwyr yn greiddiol i’n gwaith, gan wneud gwirfoddoli yn haws ac yn fwy perthnasol i’r cymunedau amrywiol yr ydym ni, fel amgueddfa genedlaethol, yn eu cynrychioli.
Cynhaliwyd ymgyrch fawr dros yr haf i recriwtio gwirfoddolwyr. Gyda chymorth ein Partneriaid Cymunedol cafwyd tua 50 o wirfoddolwyr i weithio mewn amryw swyddi ar draws yr Amgueddfa; yn yr Uned Adeiladau Hanesyddol, Addysg, Ystadau a Digwyddiadau ymhlith eraill. Cafwyd gwirfoddolwyr o bob lliw a llun, a phob un yn gwirfoddoli am resymau gwahanol; rhai wedi ymddeol, rhai’n fyfyrwyr, rhai’n chwilio am her newydd ac eraill yn chwilio am weithgaredd rheolaidd mewn lleoliad prydferth lle gallent ddysgu sgiliau newydd a chyfarfod pobl newydd.