Beth mae 'Cymru a'r Môr' yn ei olygu i mi?
Yn syml iawn, mae'n rhan fawr o bwy ydw i!
Ar ochr fy nhad, rwy'n nai, ŵyr, gor-nai, gor-ŵyr a gor-or-ŵyr i forwyr o bentref Aberporth yng Ngheredigion. Chwaraeodd pob un ei ran yn y cyfraniad anferth, anghymesur bron a wnaed gan forwyr Cymru at lynges fasnachol Prydain dros ddwy ganrif o 1750 i 1950.
Cododd pob un bron yn Gapten (Master Mariner) a dros y canrifoedd dyma nhw'n capteinio llongau o bob maint - o'r cychod bychain fyddai'n cario glo mân a chalchfaen i'r pentref yn y 19eg Ganrif, i'r cludydd mwyaf dan y lluman coch ddiwedd y 1960au.
Mae un o’m cyndeidiau yn gorwedd yn ddwfn dan ddyfroedd oer Newfoundland, lle bu farw wedi i'w long daro mynydd ia. Claddwyd un yn y fynwent Brydeinig yn Chacarita, Buenos Aires lle bu farw tra'n capteinio tramp yn cludo glo o Gaerdydd i bweru rheilffyrdd a lladd-dai yr Ariannin. Roedd yn rhaid i un arall ddelio â llofruddiaeth ar ei long wedi i ddadl rhwng y criw am ddyled gamblo fynd dros ben llestri.
Ond nid hanes anturiaethau morwyr yn unig yw hon.
Ar ddechrau'r 20fed ganrif, gyda hyd at hanner dynion y pentref wedi mynd i'r môr roedd cymuned Aberporth a nifer o bentrefi tebyg yn gymuned fatriarchaidd. Cymuned lle magai menywod cryf eu teuluoedd eu hunain tra'n hiraethu am eu hanwyliaid am gyfnodau maith. Mae'n anodd amgyffred y boen a'r gofid a brofwyd ar nosweithiau stormus dirifedi â milltiroedd maith rhyngddynt â'u cariadon.
Ond roedd manteision i fod yn wraig i gapten hefyd! Os oedd llong y gŵr yn cyrraedd porthladd Prydeinig, neu borthladd cyfagos ar y cyfandir, byddai'r wraig yn aml yn teithio i'w gyfarfod. Yn ogystal â chwmni cariadus, byddai cyfle hefyd i weld ffasiwn ddiweddaraf Caerdydd, Newcastle a Glasgow - neu Antwerp a Hamburg hyd yn oed! Byddai gwraig capten llong yn aml yn ennyn yr un parch ar y tir mawr ag y byddai ei gŵr ar y môr. Feiddiai neb alw fy hen fam-gu yn ddim ond Mrs. Capten Jenkins!
Er gwaethaf y llinach hwn, drwy siawns gyrfa cefais fy magu filltiroedd o'r môr ym Meirionydd. Dim ond dros wyliau ysgol fydden ni'n cael cyfle i ymweld ag Aberporth a mwynhau pysgota mecryll a gosod cewyll cimwch. Meirionydd yw cartref teuluol fy mam, ac mae ei theulu wedi bod yn ffermio yng ngogledd yr hen sir honno ers oes Elisabeth I o leiaf.
Bychan fyddai dylanwad y môr ar eu bywydau bob dydd meddech chi. Ond ganol y 1880au bu'n rhaid iddynt adael eu cartref, Tŷ Ucha' ym mhentref Llanwddyn, pan godwyd argae ar afon Efyrnwy i ddarparu dŵr ar gyfer Lerpwl oedd ar anterth ei llwyddiant fel un o borthladdoedd blaenaf Prydain. Ymestynna dylanwad y môr ymhell tu hwnt i'r arfordir, felly cofiwch bod y digwyddiad eleni yn perthyn i Gymru gyfan, ac nid ein cymunedau glan môr yn unig.