Nadolig

Traddodiadau'r Nadolig: Canu Plygain

Bore'r Nadolig

Mewn amryw rannau o Gymru, golygai'r Nadolig godi'n gynnar (neu aros i fyny dros nos) i fynd i'r gwasanaeth plygain yn eglwys y plwyf. Ymddengys i awr gychwyn y plygain amrywio rhwng tri a chwech y bore, a'r olaf o'r rhain yn dod yn fwy cyffredin gyda threigl amser.

I aros y gwasanaeth byddai pobl ifanc, yn enwedig, yn ceisio llenwi'r oriau mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mewn ambell ardal gefn gwlad doent ynghyd mewn rhai ffermdai ar gyfer gwneud cyflaith a threulio'r noson yn llawen, gan addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd, fel ym Marford, sir Fflint, yn y 1830au. Yn ôl dyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai trigolion Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.

Mewn mannau eraill, yn arbennig drefi gwledig, treulid yr amser yn chwarae ar hyd y strydoedd. Yn Ninbych-y-pysgod, sir Benfro, er enghraifft, ceid torfeydd yn cario ffaglau, bloeddio penillion a chwythu cyrn buchod, cyn terfynu drwy ffurfio gorymdaith ffaglau lle'r eid â'r rheithor o'i dy i'r eglwys gan wyr ifainc y dref. Cofnodwyd gorymdaith debyg yn Nhalacharn, sir Gaerfyrddin, a hefyd Lanfyllin, sir Drefaldwyn, lle y defnyddid canhwyllau yn lle ffaglau.

Parti Llanrhaeadr yn canu carolau Plygain

Parti Llanrhaeadr yn canu carolau Plygain

Canhwyllau Plygain

Yng nghefn gwlad mynychid plygain eglwys y plwyf gan bobl y ffermydd mwyaf anghysbell, hyd yn oed. Yn aml deuai pob unigolyn â'i gannwyll i gynorthwyo i oleuo'r eglwys - hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anghyffredin oedd cynnal gwasanaethau nos, fel nad oedd unrhyw ddarpariaeth oleuo, fel arfer. Yr oedd y goleuni llachar a roddai canhwyllau'r plygeinwyr yn nodwedd bwysig ar yr wyl.

Yn Llanfyllin, ynghanol y ganrif o'r blaen, gwneid 'canhwyllau plygain' arbennig gan fasnachwyr lleol. Ar gyfer y gwasanaeth addurnid y tu mewn i'r eglwys â chanwyllerni crog yn dal canhwyllau lliw ac, yn Nolgellau, er enghraifft, wedi eu gwisgo â chelyn. Ym Maentwrog, sir Feirionnydd, yr oedd canhwyllau hefyd 'wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad.' Yn Llanfyllin 'goleuid yr adeilad â rhai cannoedd o ganhwyllau, wedi eu 1leoli fodfeddi er wahân, o gwmpas y muriau y tu mewn, gan beri i'r adeilad ddisgleirio.' Ym Maentwrog, y 'carolwyr a ganai yn yr oriel fechan ym mhen-y-twr i'r eglwys' a deuent â'u canhwyllau eu hunain, gan ei bod yn rhy dywyll yn y rhan honno o'r adeilad i ddilyn y gwasanaeth yn y Llyfr Gweddi Cyffredin.

Er yn ddiau i'r arfer amrywio ychydig o blwyf i blwyf, ymddengys i oleuni llachar yr eglwys wneud argraff barhaol ar gof y rhai a adawodd inni ddisgrifiadau, ac iddo fod yn nodwedd drawiadol ar y plygain traddodiadol. Fel yr awgrymodd Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn arwyddocad ysbrydol goleuo canhwyllau ar y Nadolig fel sumbol o ddyfodiad Goleuni'r Byd.

Y Gwasanaeth

Am y plygain ei hunan, ffurf dalfyredig ar y gwasanaeth boreol ydoedd, â charolau gan unawdwyr a phartion yn rhan ohono ac yn ei ddilyn. Disgrifiodd William Payne y plygain yn Nolgellau, fel yr adwaenai ef ynghanol y ganrif o'r blaen, gyda'r geiriau canlynol:

'Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail, a heb gymorth annaturiol gan bib-draw, y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd. Yna saif y Rheithor da, a'i gurad, Dafydd Puw, a darllen y Gwasanaeth Boreol yn fyr, gan orffen â'r weddi dros Bob Cyflwr ar Ddynion, a'r fendith - aflonydd ac ymchwyddol, braidd, yw'r gynulleidfa yn ystod y gweddiau - a rhaid i'r Rheithor weithiau dorri'n sydyn ar ei waith i edrych yn syth tuag at ryw ran neu bersonau, ond heb gerydd llafar. A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.'

Ym Maentwrog cynhwysid pregeth yn y gwasanaeth plygain, ond gofalai'r rheithor am gadw'r bregeth a'r gwasanaeth yn gwta, gan ei fod yn amlwg yn teimlo mai'r prif atyniad oedd nid y gwasanaeth ond y canu carolau a'i dilynai. Mewn lleoedd eraill, fel Llanfair Dyffryn Clwyd, rhoid y Cymun Bendigaid yn ystod v plygain.

Goroesiad cyn-Ddiwygiad

O'i weld yn ei gefndir hanesyddol, goroesiad yw'r plygain o wasanaeth Nadolig cyn-Ddiwygiad a addaswyd i ateb yr amgylchiadau Protestannaidd newydd. Dengys Richards fod 'plygain' yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn dynodi gwasanaeth boreol cyffredin ac mai'n ddiweddarach yn unig y'i cyfyngwyd i gyfeirio at y gwasanaeth bore Nadolig. Awgryma i'r plygain ddisodli offeren ganol-nos Nadolig y cyfnod Pabyddol ac iddo gysylltu'n wreiddiol â gwasanaeth cymun a gynhelid yn ddiweddarach ar fore Nadolig. O leoli'r gwasanaeth cymun am wyth o'r gloch diweddwyd yr hen berthynas rhwng y plygain (boreol) am chwech, saith neu wyth o'r gloch a'r Uchel-Offeren am naw neu ddeg o'r gloch.

Wedi'r Diwygiad, lle nas cynhwyswyd yng ngwasanaeth Nadolig Lladin yr eglwys, derbyniwyd canu carolau yn yr iaith lafar i wasanaeth bore-bach y Nadolig, a daeth yn atyniad pennaf y plygain, fel y dengys disgrifiadau'r ganrif o'r blaen yn eglur. Tynnodd John Fisher sylw at y tebygrwydd rhwng Oiel Verrey, a geid ar Ynys Manaw am ddeuddeg ar Noswyl Nadolig, a'r plygain yng Nghymru. Dengys i'r ddau wasanaeth ennill poblogrwydd fel gwyliau canu carolau yn fuan wedi cyfieithu'r Beibl i'r ddwy iaith frodorol.

Yn lle diflannu o dan ddylanwad Anghydffurfiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu'r plygain yn un o'r ychydig wyliau eglwysig traddodiadol nas gollyngwyd gan y capeli, er newid cymeriad y gwasanaeth weithiau, drwy ei wneud yn amrywiad ar y cwrdd gweddi cyffredin a geid ar nosau gwaith. Fel arfer cyffredinol, darfu plygain boreol y Nadolig tua diwedd y ganrif ddiwethaf, er iddo barhau'n ddiweddarach mewn ambell achos.

Swper Plygain yn Ffermdy Cefn Llwyn, Llangynyw

Swper Plygain yn Ffermdy Cefn Llwyn, Llangynyw

Canu Plygain yng Ngogledd Cymru

Yn y gorffennol, 'roedd y traddodiad o ganu carolau yn gryf trwy bob rhan o'r gogledd. Erbyn heddiw, fodd bynnag, pery'r traddodiad ar ei fwyaf bywiog yn yr ardal a amgylchynir gan Fallwyd, Llanerfyl, Cefnyblodwel (yn Lloegr) a Llangynog. I ddieithryn, profiad anghyffredin yw mynd i blygain yn yr ardaloedd hyn. Am awr a hanner i ddwy awr, bydd trefn y cyfarfod yn gyfangwbl yn nwylo'r carolwyr. Nid oes cyflwynydd nac arweinydd. Ni ddywed neb yr un gair, eithr cyfyd y partion yn eu tro gan gerdded ymlaen yn dawel a phwyllog i'r "sgwâr" i ganu. Ar gyfartaledd bydd o ddeg i bedwar ar ddeg o bartion yn bresennol. Fe glywir o ugain i ddeg ar hugain o garolau yn ystod y gwasanaeth, y cwbl yn Gymraeg a'r cwbl hefyd yn wahanol, gan ei bod yn egwyddor osgoi ailganu unrhyw garol.

Addaswyd a chyfieithwyd o Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs (Caerdydd, 1959), tt. 28-33.

Traddodiadau'r Flwyddyn Newydd: Hel Calennig

 

Blwyddyn Newydd Dda!

Symbol o obaith a dechreuad ffres yw’r flwyddyn newydd, a phob Ddydd Calan wnawn addunedau a cheisiwn droi ddalen newydd. Nid yw’n syndod felly, fod sawl arferiad ynghylch yr adeg hon yn gysylltiedig â rhagweld y dyfodol, ac yn ôl traddodiad, mae ymddygiad unigolyn ar Ionawr 1af yn siŵr o ddylanwadu ar ei ffawd am y flwyddyn ganlynol.

Cawn arferion croesawi neu adael i mewn y flwyddyn newydd, dros Brydain gyfan, ac yng Nghymru, roedd yr ymwelydd cyntaf i’ch cartref o bwys aruthrol, gan fod tipyn yn dibynnu ar eich nodweddion personol. Yn siroedd Penfro a Chaerfyrddin, er enghraifft, roedd e’n anlwcus i ddwy fenyw weld ei gilydd yn gyntaf, yn yr un modd i ddau ddyn wneud hynny. Yn ôl pobl Pencoed, roedd e’n anlwcus i weld dyn a gwallt coch yn gyntaf. Ymysg coelion eraill, yn Sir Benfro byddai dod a thorth ffres i mewn i’r tŷ ar Ionawr 1af yn dod a lwc dda.

Beth yw calennig?

Traddodiad adnabyddus Cymreig, sy’n parhau mewn rhai ardaloedd, yw casglu calennig (sef rhodd flwyddyn newydd), lle byddai plant yn codi’n gynnar er mwyn cario o ddrws i ddrws, fel cludwyr lwc dda, afalau addurnedig, gyda thair cangen a sbrigyn o goed bocs a chnau collen.

Fel arfer cana’r plant bennill syml a derbyn amdani rodd o fwyd neu arian. Dywedodd Elias Owen yn 1878:

Cofiaf am un ffarmwr a baratôdd bentwr o arian yn barod am y dydd, ac ni fyddai’r un plentyn yn gadael ei dy heb geiniog. Byddai’r plentyn cyntaf, os oedd yn fachgen, yn derbyn arian, gan ei fod yn lwcus i fachgen ddymuno blwyddyn newydd dda i chi yn gyntaf. Ar y llaw arall, os mai merch a wnâi, byddai’r flwyddyn ganlynol yn un anffortunus.

Dau fachgen yn casglu calennig yn Llangynwyd tua 1904 - 1910

Dau fachgen yn casglu calennig yn Llangynwyd tua 1904-1910

Dyma ichi bennill a genid yng Ngheredigion a sir Benfro gynt:

Mi godais heddiw ma's o'm ty
A'm cwd a'm pastwn gyda mi,
A dyma'm neges ar eich traws,
Sef llanw'm cwd â bara a chaws.

Beth yw arferiad tywallt dŵr Calan?

Roedd arferiad tywallt dŵr Calan yn gyffredin mewn rhai mannau o Gymru, pan fyddai plant yn llenwi cwpanau neu bowlenni a dŵr ffynnon ar fore Dydd Calan, a gwlychu darnau o focs, myrtwydd ac uchelwydd ynddo. Teflid y dŵr wedyn ar ddwylo ac wynebau oedolion, neu o gwmpas y tŷ, er mwyn cael gwared â’r hen flwyddyn a chroesawu’r newydd. Fel arwydd o ddiolch i’r plant am buro a glanhau’r tai, rhoddid anrheg fach iddynt.

Dwy ferch yn Ninbych-y-pysgod yn cymryd rhan yn arferiad tywallt dŵr Calan, 1928.

Dwy ferch yn Ninbych-y-pysgod yn cymryd rhan yn arferiad tywallt dŵr Calan, 1928.

Traddodiadau’r Nadolig: Bwyd

Mae pobl o bob cwr o Gymru wedi rhannu eu hatgofion am fwydydd y Nadolig gyda ni. Dyma ddetholiad o’r hanesion a’r ryseitiau o’n harchif.

Yr Ŵydd

Am ganrifoedd, yr ŵydd oedd yn ganolog i wledd y Nadolig yng Nghymru. Ers diwedd yr Oesoedd Canol, roedd gan y ffermwyr mawr ŵydd ar y bwrdd i ginio Nadolig. Roedd gwyddau'n hawdd eu magu, ac yn yr hydref cawsant bori a lloffa ar y caeau ŷd ar ôl y cynhaeaf. Roedd yn arfer gan ffermwyr roi gŵydd yn rhodd i'w tenantiaid a'u gweithwyr adeg Gŵyl Mihangel, ond bydden nhw'n gofalu cadw nifer dda i'w pesgi ar gyfer y farchnad Nadolig.

Cadw gwyddau ar ffarm ger y Bont-faen

Cadw gwyddau ar ffarm ger y Bont-faen

Y Twrci

Er i’r twrci gyrraedd Prydain yn yr 1500au, roedd yn ddrud iawn a dim ond y cyfoethog allai ei fforddio. Yng nghefn gwlad, yr ŵydd oedd yn dal i deyrnasu, ac ni welwyd y twrci ar fwrdd Nadolig y rhan fwyaf o Gymry tan ail hanner yr 1900au.

Cacen Waed Gwyddau

Cacen waed gwyddau, sef y gacen Nadolig mewn rhannau o sir Drefaldwyn.

Cacen waed gwyddau, sef y gacen Nadolig mewn rhannau o sir Drefaldwyn

Yng nghanolbarth Cymru roedd cacen gwaed gwyddau yn foethyn arbennig adeg y Nadolig. Roedd hi'n arfer ei gwneud pan fyddai'r ffermwyr yn lladd nifer fawr o wyddau ar gyfer yr ŵyl. Mae recordiadau hanes llafar yn ein harchif yn nodi ei bod yn cael ei pharatoi yn ardal Trefeglwys, Penffordd-las, Llanbryn-mair a Llangurig. Hyd yma, does dim tystiolaeth iddi gael ei gwneud yn unman arall yng Nghymru.

Byddai gwaed tua thair gŵydd yn cael ei dywallt i fasn pridd a'i ferwi mewn sosbennaid o ddŵr. Yna byddai'r gwaed yn cael oeri a chaledu cyn ei falu'n fân â llaw. Wedyn, roedd yn cael ei gymysgu'n dda â llwy bren gyda chyrens, blawd gwyn, siwet, halen, sbeis a thriog melyn, a'i grasu rhwng dwy haen o grwst brau ar blât yn y popty.

Cyfuniad rhyfedd, meddech chi, ond cofiwch fod y briwgig mewn mins peis yn cynnwys cig go iawn yn wreiddiol!

Gwyliwch ffilm o'n harchif sy'n dangos sut roedd y gacen yn cael ei gwneud

Pwdin Berwi

Cerdyn Nadolig o'r casgliad

Cerdyn Nadolig o'r casgliad

Yr hen drefn oedd berwi'r cymysgedd yn un lwmp mawr mewn cŵd lliain. Dyna roddodd iddo'r enwau ‘pwdin lwmp’, ‘pwdin clwt’ a ‘phwdin cŵd’. Byddai gwddf y cŵd yn cael ei glymu gyda llinyn, a'r cŵd yn cael ei grogi o ddarn o bren a bwysai ar draws y crochan, fel bod y pwdin yn hongian yn y dŵr berw. Ar ddydd Nadolig, byddai’n cael ei weini gyda menyn melys.

Byddai pawb yn y teulu, o'r ieuengaf i'r hynaf, yn cymryd eu tro i droi'r pwdin, gan wneud dymuniad cudd ar yr un pryd. Roedd hi'n arfer cuddio darnau bach o arian yn y pwdin, fel yr hen ddarnau tair ceiniog neu chwe cheiniog, er mwyn dod â lwc dda i bwy bynnag fyddai’n dod o hyd i un ar ddydd Nadolig.

Beth am roi cynnig ar y ryseitiau hyn o'r archif:

Pwdin Nadolig o Fynytho, Gwynedd Pwdin Nadolig o Ddowlais, Merthyr Tudful

Noson Gyflaith

Mewn rhannau o ogledd Cymru, roedd cynnal Noson Gyflaith yn arfer traddodiadol i ddathlu'r Nadolig neu'r Flwyddyn Newydd. Byddai teuluoedd yn gwahodd ffrindiau i'w cartrefi gyda'r nos am swper mawr, gŵydd a phwdin Nadolig fel arfer, ac yna byddai pawb yn chwarae gemau, yn adrodd straeon ac yn tynnu cyflaith.

Ar ôl berwi'r cynhwysion, byddai'r cyflaith yn cael ei dywallt ar lechen neu garreg fawr wedi'i hiro â menyn. Weithiau, byddai carreg yr aelwyd yn cael ei glanhau a'i hiro'n arbennig. Yna byddai pawb yn iro'u dwylo â menyn ac yn cymryd darn o'r cyflaith i'w dynnu tra oedd yn gynnes. Roedd hon yn grefft arbennig, a’r nod oedd tynnu'r cyflaith nes ei fod yn rhaffau melyngoch. Byddai pawb yn edmygu'r rhai profiadol, ac roedd ymdrechion y dibrofiad yn destun hwyl i bawb!

Rysáit cyflaith

Gwyliwch ffilm o Gretta Jones a'i brawd Herbert, a fagwyd yn Nhŷ Du, Y Parc, ger y Bala, lle byddai Noson Gyflaith yn cael ei chynnal bob Nadolig.

Roedd cyflaith yn cael ei wneud mewn rhannau o dde Cymru hefyd, yn enwedig yn y cymoedd glo. Hyd y gwyddom, doedd dim cysylltiad ag unrhyw ŵyl arbennig yno, ond roedd yn arfer gan wragedd ei werthu o'u cartrefi neu yn y farchnad leol. Roedd ‘taffi’ a ‘dant’ ymhlith yr enwau arno, ac weithiau byddai'n cael enw'r sawl a'i gwnaeth, fel ‘losin Magws’ neu ‘losin Ansin bach’. Gallai plant brynu stribed dwy owns am geiniog.

Rysáit o Waelod-y-garth

Teisen Dorth

Teisen dorth

Y deisen dorth a wnaed ar gyfer y Nadolig yn siroedd de Cymru

Teisen dorth oedd teisen y Nadolig yng nghymoedd diwydiannol de Cymru. Byddai teuluoedd yn gwneud dwy neu dair teisen ar y tro ac yn eu cario i'r bacws lleol, lle byddai'r pobydd yn eu crasu am geiniog neu ddwy y dorth.

Roedd hi'n arfer i gymdogion ‘brofi’ teisennau ei gilydd dros y Nadolig, ac yn ardal Margam ger Port Talbot roedd hen goel: pe bai merch ifanc yn profi tair teisen ar ddeg mewn un Nadolig, byddai'n siŵr o briodi cyn y Nadolig canlynol! Dyma rysáit ar gyfer teisen dorth o Ddowlais, Merthyr Tudful: Amser Bwyd | Museum Wales

Y Rysáit