Merched Caneri Ian Smith, 6 Awst 2019 Rhyfel Ar 4 Awst 1914, goresgynnwyd Gwlad Belg gan yr Almaen. Cyhoeddodd Prydain ei bod yn mynd i ryfel. Yn ystod y penwythnos cyntaf hwnnw, aeth cant o ddynion yr awr ati i gofrestru i ymuno â’r lluoedd arfog. Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd dros bum miliwn o ddynion wedi ymuno â’r fyddin. Gyda’r holl bwyslais ar ddyletswydd ar faes y gad, roedd ffatrïoedd gwledydd Prydain yn brin o weithwyr medrus. Cafodd menywod a arferai wneud swyddi isel neu ddomestig eu recriwtio i weithio ym myd diwydiant. Er bod prinder dynion i weithio yn y ffatrïoedd, cafodd menywod eu cyhuddo o ddwyn swyddi oddi ar y rhai na allent fynd i ymladd. Roedd menywod hefyd yn weithlu rhatach gan eu bod nhw’n cael llai o gyflog am wneud yr un gwaith. Prinder Sieliau Newidiodd natur rhyfela yn aruthrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyn hynny, cefnogi milwyr fu swyddogaeth magnelaeth, ond bellach dyna oedd y prif rym dinistriol. Erbyn 1915, roedd prinder sieliau ac arfau. Cafodd senedd San Steffan ei gorfodi i fabwysiadu Polisi Arfau Gwladol, a phenodwyd David Lloyd George yn Weinidog Arfau Rhyfel. Roedd y polisi hwn yn rheoli cyflogau, oriau ac amodau gwaith mewn ffatrïoedd arfau rhyfel, a hefyd yn gorfodi ffatrïoedd i gyflogi mwy o fenywod er mwyn ateb y galw. Y ffatrïoedd arfau rhyfel oedd prif gyflogwr menywod ar y pryd, gyda thros 900,000 yn cael eu cyflogi gan y diwydiant. Er eu bod yn gwneud yr un gwaith â’r dynion, dim ond hanner y cyflog oeddent yn ei dderbyn. Erbyn mis Mehefin 1917, roedd y ffatrïoedd a gyflogai fenywod yn cynhyrchu dros 50 miliwn o sieliau’r flwyddyn, ac erbyn diwedd y rhyfel, roedd byddin Prydain wedi saethu tua 170 miliwn ohonynt. Gwaith Peryglus Wedi i’r rhyfel gael ei gyhoeddi, sylweddolodd sawl cwmni fod cyfle i gynyddu gwerthiant. Aeth cwmnïau peirianneg a chynhyrchu metelau lleol ati i sefydlu Pwyllgorau Arfau Lleol. Sefydlwyd Ffatrïoedd Sieliau Gwladol ar hyd a lled y wlad. Cafodd adeiladau cyfredol eu defnyddio gan Ffatrïoedd Sieliau Gwladol – gan gynnwys adeilad yn Grangetown, Caerdydd a ddefnyddid cyn hynny i nyddu cywarch ac edau; adeilad cwmni rheilffordd Ffestiniog ym Mhorthmadog; a ffatri Baldwins yng Nglandw ˆr, Abertawe. Roedd pob un yn cynhyrchu sieliau a phennau sieliau bach a mawr. Roedd yn waith peryglus dros ben, gyda ffrwydradau’n bosibl ar unrhyw adeg. Bu sawl achos o farwolaeth ac anafiadau difrifol. Pen-bre a’r Merched Caneri Roedd cwmni Nobels Explosives yn berchen ar hen ffatri ddynameit ym Mhen-bre ger Porth Tywyn. Cawsant ganiatâd gan y llywodraeth i agor un o’r ffatrïoedd TNT (trinitrotolwen) pwrpasol cyntaf ym 1914. Cafodd y safle ei feddiannu gan y Weinyddiaeth Arfau Rhyfel a’i ailenwi’n Ffatri Ffrwydron Gwladol Pen-bre erbyn 1917, cyn cau ar ddiwedd y rhyfel. Roedd y gwaith yn galed a pheryglus tu hwnt, a TNT yn sylwedd gwenwynig iawn. Roedd yn cynnwys asid picrig oedd yn troi crwyn y menywod oedd yn gweithio gydag ef yn felyn llachar gan roi’r llysenw ‘merched caneri’ iddyn nhw. Byddai’r menywod yn cael llaeth i’w yfed i geisio gwrthsefyll effeithiau’r cyfansoddion peryglus hyn. Gallent arwain at fethiant yr afu, anaemia a niwed i'r system imiwnedd. Bu farw tua 400 o fenywod yn sgil dod i gysylltiad â gormod o TNT yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Pêl-droed y Munitionettes Dechreuodd menywod gymryd rhan mewn campau fel pêl-droed a chriced yn ystod y rhyfel hefyd. Sefydlwyd timau pêl-droed mewn ffatrïoedd arfau ar hyd a lled Prydain. Roedd y llywodraeth yn annog menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon er lles eu hiechyd ac i’w helpu i gadw’n heini er mwyn gweithio yn y ffatrïoedd. Roedd gogledd-ddwyrain Lloegr yn un o'r prif ganolfannau pêl-droed i ferched. Roedd tîm Blythe Spartans Ladies FC yn ddiguro, a sgoriodd eu hymosodwr, Bella Raey, 33 o goliau mewn un tymor. Cystadlodd 30 o dimau am y Munitionettes’ Cup ym 1918. Roedd y gamp mor boblogaidd nes bod timau wedi’u sefydlu yn y rhan fwyaf o drefi’r ffatrïoedd hyn erbyn diwedd y rhyfel. Heidiodd tua 53,000 o bobl i Barc Goodison ar ddydd San Steffan 1920, i wylio gêm rhwng St Helens Ladies a Dick, Kerr Ladies. Pan ddaeth y dynion nôl adref o’r ffrynt, caeodd y ffatrïoedd arfau rhyfel a chwalodd timau’r menywod. Ym 1921, cafodd menywod eu gwahardd rhag chwarae ar unrhyw un o gaeau'r FA, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, er bod eu gemau nhw lawn mor boblogaidd â phêl-droed i ddynion. Gyda’r dynion yn dychwelyd i fyd y bêl gron, doedd dim croeso mwyach i fenywod chwarae. Roedd rhaid aros tan 1971 cyn i’r Gymdeithas ildio a chaniatáu i fenywod chwarae ar eu meysydd unwaith eto. Tîm pêl-droed Llanelli Ladies FC, 1921. Cydraddoldeb Ym 1915, lluniodd Pwyllgor Gweithwyr Rhyfel y Menywod restr o hawliau yr oeddent am eu cael, gan gynnwys yr hawl i hyfforddiant, aelodaeth o undeb llafur a chyflog cyfartal am waith cyfartal. Roedd menywod oedd mewn swyddi a arferai gael eu gwneud gan ddynion yn cael llawer llai o gyflog, ac yn flin iawn am hynny wrth reswm. Roedd dynion yn poeni hefyd y byddai’r menywod yn parhau i wneud y gwaith hwn ar ôl diwedd y rhyfel, ac y byddai pawb yn derbyn cyflogau is. Ym 1918, cynhaliwyd y streic gyntaf dros gyflog cyfartal yn y Deyrnas Unedig gan fenywod oedd yn gweithio ar fysiau a thramiau Llundain. Roedd y streic yn llwyddiannus, a bu’n rhaid i’r llywodraeth ystyried a ddylai’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fod yn berthnasol i bob maes ym myd diwydiant. Aeth y Cabinet Rhyfel ati i sefydlu pwyllgor ym 1917 i ystyried cydraddoldeb yn y gweithle. Ni chyhoeddwyd yr adroddiad tan 1919. Daeth i gasgliad nad oedd unrhyw wahaniaeth rhwng lefelau cynhyrchiant nag ansawdd gwaith dynion a menywod. Ond parhau wnaeth y syniad fod menywod yn llai abl na dynion. Ffrwydrad ym Mhen-bre Pan ddaeth y rhyfel i ben, defnyddiwyd ffatri arfau Pen-bre, Sir Gaerfyrddin, i ddatgymalu sieliau yn hytrach na’u cynhyrchu. Ar 18 Tachwedd 1918, lladdwyd Mary Fitzmaurice (36 oed), Jane Jenkins (21 oed) ac Edith Ellen Copham (19 oed) mewn ffrwydrad. Anafwyd dwy arall hefyd Ar noson y ddamwain angheuol, roedd y menywod yn trin math gwahanol o siel na’r arfer. Cafodd Jane ei lladd gan y ffrwydrad yn syth. Bu farw Mary ac Edith yn yr ysbyty’r noson honno. Merched o Abertawe oedden nhw i gyd, a chafodd Edith a Mary eu claddu ym mynwent Dan-y-graig yn nwyrain y dref. Bu gorymdaith angladdol enfawr o’r Stryd Fawr gyda band pres yn ei harwain a 500 o ferched y ffatri yn dilyn, oll yn eu lifrai gwaith. Cafwyd teyrnged yn y South Wales Weekly Post, ‘[the women] had died as surely in the service of their country as any on the battlefield’ a nodwyd bod y dorf wedi saliwtio wrth i’r hers basio. Cafodd miliwn a mwy o sieliau eu datgymalu ym Mhen-bre heb unrhyw ddamweiniau pellach. Angladd gweithiwr arfau rhyfel yn Abertawe.
Y Gilbern – rhy dda i beidio gwneud mwy Ian Smith, 30 Gorffennaf 2019 Mae'r enw Gilbern yn gwneud i chi feddwl yn syth am geir Cymreig. Rhwng 1959 a 1974, cafodd dros 1,000 o gerbydau eu cynhyrchu yn y ffatri yn Llanilltud Faerdref yng Nghwm Rhondda.Gwaith Giles Smith a Bernard Friese oedd y c eir, a chyfuniad o'u henwau cyntaf yw Gilbern. Peiriannwr oedd Bernard a chigydd oedd Giles. Roedd Giles eisiau adeiladu ei gar ei hun, ac roedd gan Bernard brofiad o weithio gyda gwydr ffeibr felly gyda'i gilydd, crëwyd y Gilbern GT. Adeiladwyd y car cyntaf ym 1959 mewn sied tu ôl i siop y cigydd ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd.Gwahoddwyd y gyrrwr rasio Peter Cotterell i weld y car, ac roedd yn dwlu arno'n syth. Penderfynwyd bod y car yn rhy dda i beidio gwneud mwy ac y dylid ffurfio cwmni i greu rhagor ohonynt. Daeth Cotterell yn berchennog ar sawl Gilbern GT, ac fe addasodd y ceir er mwyn eu rasio.Daeth y darnau mecanyddol gwreiddiol o geir Austin ac Austin Healey, er i Cotterell osod sawl injan wahanol yn ei geir rasio, gan gynnwys MGA 1600 a MGB 1800. Roedd gan un car, a wnaed ar gyfer y rasiwr ken Wilson, injan Chevrolet 4.5 litr ac echel ôl annibynnol Jaguar! Gilbern Invaders mewn rali perchnogion yn 2009 Ym 1961, prynodd y ddau safle yn Llanilltud Faerdref a dechrau cynhyrchu ceir o ddifri. Dechreuwyd gydag un car y mis, ond erbyn 1965 roedden nhw'n cynhyrchu pedwar car y mis.Ym 1966, cynhyrchwyd car newydd, y Gilbern Genie. Roedd y car yma'n fwy na'r GT bach chwim, ac yn addas i deulu. Roedd ganddo injan Ford V6 a digon o bŵer. Am gyfnod byr, cynhyrchwyd y GT 1800 a'r Genie ar yr un pryd ond ym 1967, rhoddwyd y gorau i hynny'n raddol fach.Ni wnaeth y cwmni symiau mawr o arian erioed ond bu Giles a Bernard wrthi'n cadw pethau i fynd tan fis Ebrill 1968 pan werthwyd y cwmni i ACE Group, oedd â safle'n agos at ffatri Gilbern. Gilbern GTs mewn rali perchnogion yn 2009 Y bwriad oedd bod Giles a Bernard yn aros fel cyfarwyddwyr, ond gadawodd Giles yn fuan wedi'r gwerthiant. Arhosodd Bernard gyda’r cwmni am tua blwyddyn.Yn lle'r Genie, daeth Gilbern Invader Mark I a II ac erbyn 1972, daeth y Mark III, ac adeiladwyd yr Invader Estate hefyd ym 1971.Cynhyrchwyd prototeip o gar chwim dwy sedd cyffrous, y T11. Dim ond un ohonynt gafodd ei adeiladu ond ni chafodd ei gynhyrchu fyth. Ond mae'r T11 yn dal o gwmpas. Mae wedi cael ei adfer yn llwyr ac yn edrych yn wych! Aeth y Gilbern T11 ddim pellach na'r cam prototeip Rhwng 1972 ac 1974, roedd y cwmni'n ei chael yn anodd gwneud elw a hyd yn oed wedi cyfres o fuddsoddwyr, daeth i ben ym 1974.Mae gennym dri Gilbern yn ein casgliad. Mae'r Gilbern GT Mark I yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae'r ddau arall fel arfer yn y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw ac yn cael eu harddangos o bryd i'w gilydd mewn arddangosfeydd arbennig. Gilbern Invader yw'r ddau, Mark II gwyrdd a Mark III awtomatig porffor. Y Mark III oedd y model olaf i gael ei a gynhyrchu gan y cwmni, er iddyn nhw greu dau brototeip arall.
Tân yn y Felin Mark Lucas, 9 Gorffennaf 2019 Ym 1900 roedd 52 o felinau yn ardal Dre-fach Felindre. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd diwydiant gwlân Cymru yn gyfrifol am gynhyrchu blancedi a gwisgoedd ar gyfer y lluoedd arfog. Cafodd gwisgoedd o frethyn cartref o’r enw Brethyn Llwyd eu comisiynu gan y swyddfa ryfel i roi teimlad gwladgarol i recriwtiaid newydd Corfflu Cymreig y Fyddin a ffurfiwyd yn ystod y rhyfel. Wedi’r rhyfel, cafodd 12 miliwn llath o wlanen dros ben ei werthu ar y farchnad agored am brisiau gwirion o isel, gan orfodi cynhyrchwyr gwlân i ostwng eu prisiau hefyd. Er enghraifft, câi crysau gwlanen eu gwerthu am 52s 6d y dwsin ym 1916 – erbyn 1923 roedd y pris wedi gostwng i 38 swllt. Methodd cynhyrchwyr gwlân gorllewin Cymru ag ymdopi â’r amodau newydd ar ôl y rhyfel, gyda rhai yn dal i gynhyrchu gwlân Angola israddol fel oeddent yn ei wneud yn ystod y rhyfel. Roedd y rhan fwyaf o’r cynhyrchwyr yn dal i ganolbwyntio ar greu gwlanen ar gyfer crysau, festiau a dillad isaf, ond bu lleihad yn y galw am ddillad isaf gwlanen wrth i ddillad isaf wedi’i wau yn nwyrain a gogledd Lloegr a’r Alban ddod yn fwy poblogaidd.. Ar 11 Gorffennaf 1919 aeth Melin Cambrian ar dân, a dinistriwyd yr adeilad tri llawr deheuol. Roedd rheolwr y felin, John Davies, ar ei wyliau gyda’i deulu yn Llanwrtyd ar y pryd, ac roedd ei ferch, Nesta Morgan yn cofio’i thad yn derbyn telegram yn y gwesty ond ei fod yn methu’i ddarllen am ei fod yn Saesneg. Pan ddeallodd y neges fod rhan o’r felin wedi’i dinistrio gan dân, roedd ei thad yn poeni’n arw. Cysylltodd â David Lewis a gofyn os y dylai ddod adref yn syth, ond dywedodd David Lewis wrtho y dylai gadw at ei drefniadau ac aros tan y diwrnod canlynol. David Lewis ar y chwith gyda mwstash a het yng nghanol olion Melin Cambrian Defnyddiodd David Lewis yr arian yswiriant i ailgodi’r felin – dim ond dau lawr oedd i’r felin newydd ond roedd hi’n llawer hirach. Melin newydd Cambrian Melin newydd Cambrian Gwydr wedi cracio yn y felin ogleddol o wres y tân yn y felin ddeheuol. Mae’r ffenestri hyn yn dal i’w gweld yn Amgueddfa Wlân Cymru Y tân ym Melin Cambrian oedd y cyntaf o 7 tân amheus ym melinau Dre-fach a’r ardal, gan gynnwys melinau Frondeg a Meiros oedd yn berchen i ddau frawd David Lewis, Daniel a John. Chafodd pob melin ddim ei hailgodi ar ôl mynd ar dân, ond roedd cwmnïau yswiriant yn dechrau amau nad damweiniau oedd y tanau hyn, a dechreuont fynnu eu bod yn cael eu hailgodi. Adeiladwyd melin newydd ym Meiros o frics coch, gydag arian yr yswiriant yn cael ei dalu fesul dipyn wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Melin newydd Meiros Caeodd 21 o ffatrïoedd yn Dre-fach Felindre a’r cylch yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. ‘[Wnaeth perchnogion melinau, oedd wedi gwneud elw mawr o gontractau’r rhyfel] ddim ymdrech i osod sylfaen ariannol gadarn i’w melinau, gan fodloni ar fancio’r arian neu brynu bythynnod glan môr’ Geraint Jenkins 1967, The Welsh Woollen Industry t. 278 Melin Dyffryn 29/6/1923 Melin Frondeg 7/2/1924 Melin Aberbanc 1926 Melin Ogof 1927 Melinau eraill wedi’u dinistrio gan dân: Meiros yn y 1920au Melin Llwynhelyg 1927 Melin Llainffald 1920au Melinau a gaewyd yn Dre-fach Felindre a’r cylch: Babel 1925 Cilwendeg 1928 Cwm-ty-mawr 1920 Melin Glyn 1930 Llwynbedw 1920 Pant-glas 1922 Spring Gardens 1925 Bach-y-gwyddil 1923 Cwm-gilfach 1923 Drefach 1923 Green Meadow 1928 Nant-y-bargoed 1925 Penwalk 1928 Ty Main 1923 Cawdor 1924 Cwm-pen-graig 1922 Felin-fach 1924 Henfryn 1920 Pandy 1920 Siop Pensarn 1921 Tower Hill 1925
Cadeiriau Arwisgo Tywysog Cymru Mark Lucas, 3 Gorffennaf 2019 Dyluniwyd y Gadair gan yr Arglwydd Snowdon ar gyfer arwisgiad y Tywysog Charles ar 1 Gorffennaf 1969. Cafodd 4,600 o'r cadeiriau hyn eu gwneud ar gyfer y gwesteion yng Nghastell Caernarfon. Cafodd y gadair ei defnyddio gan Iorwerth Howells, cyfarwyddwr addysg Sir Gaerfyrddin. Roedd yn un o gynrychiolwyr Sir Gaerfyrddin yn yr arwisgiad. Mae'r ffrâm wedi'i gwneud o bren ffawydd, y sedd a'r cefn o bren haenog gydag argaen pren onnen. Mae'r gadair wedi'i lliwio'n loywgoch ac wedi'i selio gyda lacr asid clir. Cafodd ei gwneud yn ffatrïoedd Remploy yn Nhrefforest a Wrecsam. Arwisgiad y Tywysog Charles ar 1 Gorffennaf 1969 yng Nghastell Caernarfon Mae'r ffabrig wedi'i wneud o wlanen goch Gymreig a wnaed gan David Lewis Cyf, Melin Cambrian, Dre-fach Felindre - cartref Amgueddfa Wlân Cymru erbyn hyn. Cafodd 2,650 llath o ddefnydd ei gynhyrchu am 18/- y llath. Mae plu arfbais Tywysog Cymru wedi'u boglynnu mewn eurddalen gan Ferndale Book Company. Wedi'r seremoni cafodd y cadeiriau eu gwerthu am £12.00 yr un, gyda'r gwahoddedigion yn cael y cynnig cyntaf cyn iddynt fynd ar werth i'r cyhoedd. Y sampl gwreiddiol a anfonwyd i'r adran weithiau i gael ei wirio
Cymru Yfory Jennifer Evans, 5 Mehefin 2019 Roedd blwyddyn Arwisgo’r Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon ym 1969 yn flwyddyn gyffrous iawn yng Nghymru. Yn rhan o ddathliadau swyddogol Blwyddyn yr Arwisgo, cynhaliwyd arddangosfa ‘Cymru Yfory’ ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i adlewyrchu cyffro glanio ar y lleuad a thaith Apollo 11. Fel y disgrifiwyd yn rhagair y catalog: “Os dewisa Amgueddfa Genedlaethol dderbyn cyfraniadau o stiwdio'r lluniwr, o'r farchnadfa, o swyddfa'r cynlluniwr neu labordy ymchwil ni ofynna am batrwm i'w ddilyn. Dyna a wnaeth Amgueddfa Victoria ac Albert mewn modd cyffrous yn 1946 yn yr arddangosfa ‘Britain can make it’. Gwelsom yr adeg honno wedi llawer blwyddyn lom fflach o anturiaeth a lliw ac adawiad annisgwyl am y dyfodol. Dewisodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gyfrannu i flwyddyn yr Arwisgo a Chroeso '69 trwy edrych tu draw i'w gorwelion cyffredin ac i'r dyfodol. Gwahoddwyd cyfraniadau amrywiol oddi wrth wahanol sefydliadau a gofynnwyd iddynt am syniadau dychmygol yn ymwneud â'r dyfodol. Nid addewidion mohonynt; nid syniadau dymunol efallai, ond cyfeiriant o leiaf at agweddau o bosibliadau'r dyfodol.” Stondinau ac arddangosfa'r nenfwd [gyda stondin Swyddfa'r Post ar y chwith] Roedd yr arddangosfa yn gam mawr i ffwrdd o draddodiadau arferol yr Amgueddfa. Roedd yn dangos nid yn unig diddordeb yn y gorffennol, ond hefyd ym mywyd y gymuned yn y cyfnod presennol a'r dyfodol. Defnyddiwyd y Brif Neuadd i gyd – wedi'i gwahanu oddi wrth weddill yr Amgueddfa gyda llenni mawr a nenfwd plastig enfawr wedi’i lenwi ag aer. Am y tro cyntaf, comisiynwyd dylunwyr proffesiynol i ddylunio a chynllunio'r arddangosfa. Cydlynodd Alan Taylor (Uwch Ddylunydd, BBC Wales TV) a John Wright (Pennaeth Coleg Celf Casnewydd) y dylunio, gyda thros 20 sefydliad yn cyfrannu. Roedd y canlyniad yn arbennig ac yn syrpreis llwyr i bob ymwelydd a oedd yn adnabod y Brif Neuadd fel lleoliad ffurfiol ar gyfer cerfluniau clasurol. Roedd amrywiaeth y stondinau yn yr arddangosfa hon ym 1969 yn anferth, a’u dychymyg yn ddi-ben-draw. Yn eu plith, roedd syniadau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol – o Gaerdydd i’r Cymoedd, aber afon Hafren a thai ac ysgolion. Roedd rhai yn realistig ond roedd y rhan fwyaf yn ymylu ar y rhyfedd a dwl, yn enwedig y stondinau am ddillad, dodrefn ac arferion yr aelwyd yn y dyfodol. Roedd General Industrial Plastics Ltd, sef cynhyrchwyr a dylunwyr eitemau plastig, yn gyfrannwr mawr. Y cwmni yma wnaeth greu’r nenfwd plastig llawn aer, ynghyd â darnau o ddodrefn llawn aer a'r bag plastig a ddaeth gyda'r catalog swyddogol. Cyfrannodd Coleg Celf Caerdydd, y Bwrdd Glo Cenedlaethol, Dinas Caerdydd, Swyddfa'r Post a British Rail at y stondinau hefyd. Yn rhan o'r awyrgylch llawn hwyl, crëwyd cyfrannwr ffug o'r enw Kumro Kemicals Corporation. Mae'r catalog yn esbonio y sefydlwyd y cwmni ym 1999 (ym 1969 y cynhaliwyd y digwyddiad hwn!) a bod eu cynnyrch yn "ganlyniad i'r rhaglen ymchwil fwyaf dwys erioed gan unrhyw sefydliad yn Hemisffer y Gorllewin..." Yn rhan o'u cyfraniad, cynhyrchodd Kumro amlenni wedi’u selio yn dwyn y teitl, PEIDIWCH AG AGOR TAN 1999 – ac mae un yn y Llyfrgell sydd yn dal heb ei hagor! Wrth gyhoeddi delweddau, rhaid ystyried materion hawlfraint, ac mae gan nifer o'r ffotograffau hyn stamp ar y cefn gyda naill ai Hylton Warner & Co Ltd neu Giovanni Gemin (Whitchurch Road, Caerdydd). Ychydig iawn o wybodaeth ddaeth i'r fei wrth chwilio am Hylton Warner ar-lein, a dim byd o gwbl am Giovanni Gemin. Felly, rhoddwyd hysbyseb ar wefan y Photo Archive News yn gofyn i unrhyw un a oedd yn gyfarwydd â'r ddau ffotograffydd gysylltu. Ar ôl sbel, clywsom gan fab Giovanni Gemin. Yn ei haelioni, rhoddodd yr awdur uchel ei fri, Giancarlo Gemin, ganiatâd i ni gyhoeddi'r ffotograffau, a dywedodd y canlynol wrthym am ei dad: “O 1961 ymlaen, roedd e'n ffotograffydd diwydiannol a masnachol yng Nghaerdydd. Roedd yn gweithio’n gyson i BBC Cymru, ac roedd yn un o ffotograffwyr swyddogol Arwisgo’r Tywysog Siarl. Cafodd gydnabyddiaeth gan Sefydliad Siartredig y Ffotograffwyr Corfforedig (AIIP) ac roedd yn Aelod Cyswllt Sefydliad y Ffotograffwyr Meistr (AMPA).” Modelau yn sefyll o dan y nenfwd plastig clir Yn ogystal ag eitemau o effemera megis y catalog swyddogol, bag plastig, sticeri ac yn y blaen, mae dwy gyfrol o lyfrau sylwadau ymwelwyr hefyd wedi goroesi. Dyma gofnod gwych o ymateb yr ymwelwyr. Mae'r rhan fwyaf yn gadarnhaol iawn, ond nid oedd pawb yn gwerthfawrogi edrych i'r dyfodol yn hytrach na'r gorffennol clasurol. Dyma ambell sylw sydd wedi ein gwneud i ni wenu: BW, Rhiwbeina “Ofnadwy” RM, Rhondda “Ddim cystal â'r Amgueddfa Brydeinig” MB, Cheltenham “Wedi drysu’n lân!” MD, Durham “Mae'n well gennyf i'r HEN GYMRU falch ac urddasol, nid yr un plastig a ffug” CS, Caerdydd “Angen dwstio” SL, Caerdydd “Rwtsh, gwastraff gofod amgueddfa da!” TO, Swydd Corc “SBWRIEL” Nenfwd plastig wrthi'n cael ei osod Yn ddiweddar buom mewn cysylltiad â Drake Educational Associates a brynodd Hylton Warner ynghyd â hawlfraint eu ffotograffau rai blynyddoedd yn ôl. Diolch iddynt am adael i ni ddefnyddio'r delweddau yn yr erthygl hon.