Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru Jennifer Evans, 6 Tachwedd 2018 Mae archif y Llyfrgell yn cynnwys deunyddiau sy’n taflu goleuni ar hanes cynnar yr Amgueddfa a bywyd Caerdydd ar ddechrau’r 20fed ganrif. Wrth i ni nesáu at ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, dyma fwrw golwg ar yr ymdrechion i greu Cofeb Ryfel Genedlaethol i Gymru. Sbardunwyd yr ymgyrch i sefydlu cofeb genedlaethol yng Nghaerdydd gan y Western Mail ym mis Hydref 1919. Sefydlwyd pwyllgor i oruchwylio’r project dan arweiniad yr Arglwydd Faer ar y pryd, G. F. Forsdike. Caeodd y gronfa ym 1921 wedi codi £27,500 a chynigiwyd comisiwn i Syr Thomas Brock ddylunio’r gofeb – ef oedd wedi dylunio cofeb Fictoria tu allan i Balas Buckingham. Fodd bynnag, er bod y dyluniad yn “brydferth ac urddasol” [1], roedd yn rhy ddrud a bu farw Brock cyn iddo allu cyflwyno cynnig arall. Felly, ym 1924 gwahoddwyd grŵp dethol o benseiri i gyflwyno dyluniadau. Yr enillydd oedd Ninian J. Comper, gaiff ei ystyried heddiw yn un o benseiri mawr olaf yr Adfywiad Gothig [2]. Roedd y pwyllgor eisiau gosod y gofeb ar ddarn crwn o dir o flaen Neuadd y Ddinas. Mae gan y Llyfrgell ddarluniau gwreiddiol yn dangos y safle hwn. Maent wedi’u llofnodi gan A. Dunbar Smith, a ddyluniodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda’i bartner Cecil Brewer. Bu rhywun wrthi’n ddyfal yn cynhyrchu collage sy’n dangos i ni sut y byddai’r gofeb wedi edrych yn y lleoliad hwn. Mae gennym nifer o ffotograffau maint A3 o’r olygfa o flaen Neuadd y Ddinas, gyda llun model o’r gofeb wedi’i dorri allan a’i osod ar y llun mwy. Wyddom ni ddim pwy wnaeth hyn, ond mae’n amlwg bod y lluniau wedi apelio, gan mai’r cam nesaf oedd creu ffrâm maint-llawn o’r gofeb yn ei lle. Mae gennym ffotograffau yn dangos y ffrâm yn ei lle gyda chynfas drosti. Fodd bynnag, gwrthwynebwyd y cynllun gan yr Amgueddfa a Neuadd y Ddinas [3]. Hawdd yw deall pam, o weld pa mor agos fyddai’r gofeb fawr wedi bod i’r ddau adeilad. Felly roedd rhaid mynd ati i greu collage arall yn dangos y gofeb mewn lleoliad gwahanol. Yn y ffotograff hwn, sydd wedi’i dynnu ar Heol y Frenhines yn edrych tuag at Barc Cathays, mae’r model wedi’i osod yng Ngerddi’r Brodordy. Yn anffodus, gwrthodwyd y lleoliad hwn gan Ardalydd Bute, gan ei fod wedi nodi wrth drosglwyddo Parc Cathays i ofal y ddinas na ddylid codi adeiladau ar y safle hwnnw [4]. Yn ffodus, erbyn Awst 1925 roedd safle wedi’i ddewis ar gyfer y gofeb, sef Gerddi Alexandra, a chafodd Comper fwrw ymlaen â’r gwaith o’r diwedd. Bu wrthi o fis Mawrth 1926 tan ddechrau 1928, gyda’r gwaith adeiladu dan ofal E. Turner a’i Feibion. Yn ôl papurau newydd o’r cyfnod, daeth Tywysog Cymru i ddadorchuddio a chysegru’r gofeb o flaen bron i 50,000 o bobl, ar 12 Mehefin 1928. Yn ôl un adroddiad, cafodd y Tywysog wers Gymraeg gan David Lloyd George ar y trên o Lundain, er mwyn iddo draddodi rhan o’i araith yn Gymraeg [5]. Llun: Trwy garedigrwydd gan y Western Mail Mae mwy o eitemau diddorol ynglŷn â’r gofeb a’r Rhyfel Byd Cyntaf i’w gweld yma. Cyfeiriadau Welsh National War Memorial Official order of service at the ceremony of unveiling and dedication by H.R.H. The Prince of Wales on June 12th 1928. Caerdydd: Western Mail, t.8. Symondson, A. & Bucknall, S. 2006. Sir Ninian Comper: an introduction to his life and work with complete gazetteer. Reading: Spire Books, t.198. Welsh National War Memorial Official order of service at the ceremony of unveiling and dedication by H.R.H. The Prince of Wales on June 12th 1928. Caerdydd: Western Mail, t.10. Gaffney, A. 1998. Aftermath: Remembering the Great War in Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.45. Ffeil toriadau Llyfrgell Amgueddfa Cymru [Daily Chronicle 15/06/28].
Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Yr Hawl i Bleidleisio: Yr Ymgyrch yng Nghymru Elen Phillips, 1 Chwefror 2018 Am wyth o'r gloch y nos ar y chweched o Chwefror, 1918, derbyniwyd Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl, trwy gydnabyddiaeth frenhinol yn San Steffan. Golygai hyn fod rhai menywod, ar ôl bron i ganrif o ymgyrchu, 'nawr yn cael pleidleisio. Rydym wedi hen arfer gweld lluniau o'r 'Syffrajetiaid' yn gorymdeithio yn Llundain, ond beth am yr ymgyrch yng Nghymru? Dull di-drais Er mai hynt a helynt y swffragetiaid oedd yn hawlio sylw’r wasg, roedd mwy o lawer o ‘suffragists’ yn bodoli yng Nghymru. Roedd y ‘suffragists’ yn credu mewn gweithredu heddychlon a newid y drefn drwy ddulliau cyfansoddiadol. Yn eu plith, roedd aelodau’r Cardiff & District Women’s Suffrage Society. Hon oedd y gangen fwyaf o’r National Union of Women's Suffrage Societies tu allan i Lundain. Rose Mabel Lewis (Greenmeadow, Tongwynlais) oedd wrth y llyw yng Nghaerdydd – neu Mrs Henry Lewis fel y cyfeirir ati yn nogfennaeth yr Amgueddfa! Yn gyffredinol, roedd aelodau blaenllaw'r gangen yn fenywod dosbarth canol a oedd yn adnabyddus o fewn mudiadau a chylchoedd cymdeithasol y ddinas. I godi ymwybyddiaeth o’u hachos ac i lenwi coffrau’r gangen, roedden nhw’n cynnal digwyddiadau ac yn gwerthu copïau o gylchgrawn y mudiad, The Common Cause. Mae adroddiad blynyddol y gangen ar gyfer 1911-12 yn rhestru gweithgareddau di-ri, yn eu plith dawns gwisg ffansi, gyrfa chwist a ffair sborion. Yn y flwyddyn honno, dyblodd nifer aelodau’r gangen i 920. Crefft ymgyrchu Baner Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch. Gwnaed gan Rose Mabel Lewis, Llywydd y Gymdeithas Rose Mabel Lewis bwythodd y faner sidan sydd bellach yng nghasgliad yr Amgueddfa – enghraifft bwerus o rym y nodwydd fel arf i ledaenu neges ac i fynegi barn. Er nad ydym yn gwybod union ddyddiad y faner, rydym yn sicr iddi gael ei defnyddio mewn protest yn 1911. Ar 17 Mehefin y flwyddyn honno, arweiniodd Rose Mabel fenywod de Cymru yn y Women’s Coronation Procession yn Llundain. Mae dogfennau derbynodi’r faner yn cynnwys nodyn o eglurhad gan un o gyn-aelodau’r gangen: The banner was worked by Mrs Henry Lewis… [she] was also President of the South Wales Federation of Women’s Suffrage Societies + she led the S. Wales section of the great Suffrage Procession in London on June 17th 1911, walking in front of her own beautiful banner… It was a great occasion, some 40,000 to 50,000 men + women taking part in the walk from Whitehall through Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly to the Albert Hall. The dragon attracted much attention – “Here comes the Devil” was the greeting of one group of on lookers”. Roedd baneri fel hyn yn rhan ganolog o ddiwylliant gweledol y mudiad pleidlais i fenywod, ac mae nifer ohonynt i'w canfod mewn amgueddfeydd ac archifdai, gan gynnwys Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd. Roedd trefnwyr gorymdaith fawr 1911 yn disgwyl dros 900 o faneri ar y dydd! Dwy flynedd yn ddiweddarach, yng Ngorffennaf 1913, gwelwyd y faner ar strydoedd Caerdydd fel rhan o orymdaith yn y brifddinas i nodi’r Bererindod Fawr i Lundain (the Great Suffrage Pilgrimage). Yng nghasgliad yr amgueddfa, 'mae lluniau anhygoel o Rose Mabel Lewis, ac aelodau eraill y gangen, wedi ymgynnull gyda’r faner tu allan i Neuadd y Ddinas ym Marc Cathays: Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru, dechrau’r 1900au Yn ôl adroddiad blynyddol 1913-14, roedd rhai o’r aelodau yn betrusgar ynglyn â’r orymdaith, ond wedi eu bywiogi ar ôl derbyn ymateb ffafriol ar y dydd: It was with misgivings that some members agreed to take part in the procession, but afterwards their enthusiasm aroused and the desire to do something more in the future. The march was useful in drawing the attention of many people to the existance of our society. Creu Hanes: Sain Ffagan a’r canmlwyddiant Yn 2018, bydd y faner i’w gweld yng Nghaerdydd unwaith eto – nid mewn rali y tro hwn, ond ymhlith llwyth o wrthrychau arwyddocaol yn ein hanes cenedlaethol fydd i’w canfod mewn oriel newydd yma yn yr Amgueddfa Werin – penllanw ein prosiect ail-ddatblygu, Creu Hanes. Hyd y gwyddom, nid yw'r faner wedi bod ar arddangos ers iddi gael ei rhoi i'r casgliad yn 1950 gan y Cardiff Women Citizens' Association. Ar y pryd, ysgrifennodd drysorydd y gymdeithas honno lythyr at Dr Iorwerth Peate yn mynegi eu balchder fod y faner bellach ar gof a chadw yn Sain Ffagan: A cordial vote of thanks was accorded to you for realising how much the Suffrage Cause meant to women and for granting a memorial of it in the shape of the banner to remain in the Museum. Ymysg casgliadau'r amgueddfa am y cyfnod, 'mae llythyrau ac adroddiadau gan yr NUWSS, yn ogystal â doli wrth-syffrajet anghyffredin o orllewin Cymru. Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru, dechrau’r 1900au Ffynonellau cynradd: National Union of Women's Suffrage Societies: Cardiff & District Annual Report, 1911-12 (Amgueddfa Werin Cymru). National Union of Women's Suffrage Societies: Cardiff & District Annual Report, 1913-14 (Amgueddfa Werin Cymru). Dogfennau derbynodi 50.118 (Amgueddfa Werin Cymru). Ffynonellau eilradd: Kay Cook a Neil Evans, 'The Petty Antics of the Bell-Ringing Boisterous Band'? The Women's Suffrage Movement in Wales, 1890 - 1918' yn Angela V. John (gol.), Our Mothers' Land Chapters in Welsh Women's History 1830 - 1939 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1991). Ryland Wallace, The Women's Suffrage Movement in Wales 1866 - 1928 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2009).
Owain Glyndŵr a thrawst Sycharth Dafydd Wiliam, 15 Medi 2017 Ar 16 Medi, 617 o flynyddoedd yn ôl cyhoeddwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru gan ei ddilynwyr yn ei lys yn Glyndyfrdwy. Pahaodd ei frwydr yn erbyn grym Lloegr rhwng 1400 ag 1409. Roedd ei gartref, Sycharth, yn gastell mwnt a beili Normanaidd yn Llansilin, Sir Ddinbych. Cyn y gwrthryfel, honnai y bardd Iolo Goch fod naw neuadd yn y llys, a bod to o lechi ar bob un. Ysgrifennodd ‘Mae’i lys ef i nef yn nes’. Ar y stad roedd llyn pysgod, perllan, gwinllan, ceffylau, ceirw, peunod, a dim ond y cwrw lleol gorau fyddai ei weithwyr yn yfed. Wedi darganfod Sycharth yn wag fe losgwyd y lle i’r llawr gan Harri o Fynwy (a goronwyd wedyn yn Harri V). Wedi hynny fe losgodd Glyndyfrdwy.Yn 1927 cysylltodd Yr Aldramon Edward Hughes o Wrecsam â Syr Cyril Fox, pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a oedd newydd agor i’r cyhoedd. Yn ei lythyr honodd fod trawst mawr derw wedi cael ei ddarganfod 30 mlynedd ynghynt tra’n gwagio ffos Sycharth I’r perchennog, Syr Watkin Williams-Wynn. Symudwyd y trawst yn ofalus i Neuadd Llangedwyn gan y Foneddiges Williams-Wynn. Yn 1924 gofynnodd Y Aldramon Hughes os gallai ddefnyddio’r trawst yn Neuadd Goffa newydd Llansilin. Roedd y trawst yn rhy hir i’r pwrpas, felly fe lifiwyd darn o un pen, gwaith anodd iawn yn ôl y son. Rhoddwyd y darn a oedd ar ôl i’r Amgueddfa.Glanhawyd y trawst yn ddiweddar fel y gellid tynnu lluniau ohono ac ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni. Doedd dim golwg o losg arno fel y disgwylid, ond fe all fod yn ddarn o’r bont dros y ffos na losgwyd i’r un raddfa. Mae yn 50cm o uchder, a 27cm x 36cm o drwch (20” x 11” x 14”). Mae y mortis sylweddol sydd i’w weld yn un ochr yn 27cm x 14cm (11” x 6”).Achosodd yr arddangosfa gryn diddordeb, ac fe gysylltodd Richard Suggett o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i gynnig mwy o wybodaeth. Rhai blynyddoedd ar ôl codi Neuadd Llansilin, tynnwyd trawst Sycharth o’r adeilad oherwydd pydredd, a rhoddwyd mewn sgip. Achubwyd y trawst gan Mr. Dick Hughes, perchennog garej lleol, a’i rhoi yn ôl i’r Neuadd rhai blynyddoedd wedyn. Mae gweddillion y trawst yn awr mewn cas gwydr, a bellach ond yn 75cm o hyd.Mae gwaith cloddio archaeolegol yn Sycharth wedi darganfod neuadd 18 medr o hyd (43’), ond nid y naw a honnai Iolo Goch. Er mwyn cefnogi yr honiad taw darn o Sycharth yw’r trawst mae angen ceisio dyddio y pren. Wedi dweud hyn, nid yw pob darn o bren yn addas i’r dechneg o ddyddio drwy dendrocronoleg, ac eraill fel hwn o bosib yn rhy fregus yw ddyddio drwy gymeryd sampl gyda dril llaw.Mae ein gwaith diweddar wedi bod yn canolbwyntio ar ddarganfod cymaint o wybodaeth a phosib drwy ymchwiliadau a wneith ddim niwed i’r pren. Hynny yw, defnyddio ein llygadau. Drwy oleuo y pren or ochr roedd modd gweld y gwahannol farciau a oedd wedi casglu drwy ddeunydd ers cyfnod Glyndŵr lan at ei dderbynodi mewn i’n casgliadau ni yn 1931. Mae’r rhain yn cynnwys y torriadau llif ar ddau ben y pren. Oherwydd bod un ohonnynt yn gam, y tebygrwydd yw y torriad yma a ddinistriwyd tri llif tua 1924 pan addaswyd y pren i ffitio i mewn i neuadd Llansilin.Rydym hefyd wedi glanhau un o’r wynebau yma er mwyn gweld tyfiant y goeden dros amser. Ar ôl cyfri’r cylchoedd tyfiant fe welom fod y goeden tua 200 mlwydd oed pan y torrwyd hi. Ein cam nesaf yw cymharu patrwm tyfiant y goeden gyda’r catalog o gronoleg coed derw er mwyn rhoi dyddiad i’r trawst o Sycharth.
Darnau Arian Ffug Rhianydd Biebrach, 16 Mawrth 2017 Cafodd y person olaf ei ddienyddio am ffugio arian ym 1830 a chafodd ffugwyr oes Fictoria eu cosbi drwy alltudiaeth, carchar a llafur caled. Y gosb ar gyfer ffugio arian heddiw yw blynyddoedd yn y carchar. Fuoch chi erioed yn euog o wario darnau arian ffug? Hanner coron Siarl I ffug. Mae’r metel cyffredin rhydlyd i’w weld yn blaen drwy’r plât arian tenau. Gobeithio mai’ch ateb fydd, “naddo, siŵr iawn!”, ond a fyddech chi’n gallu adnabod arian ffug o’i weld? Yn ôl y Bathdy Brenhinol, roedd ychydig dros 2.5% o’r darnau punt a oedd yn cael eu defnyddio yn 2015 yn rhai ffug, felly sawl un ohonom ni sydd wedi torri’r gyfraith heb yn wybod i ni drwy drafod arian ffug? Nid problem fodern mohoni, chwaith. Efallai y synnwch o glywed bod darnau arian ffug wedi bod yn achosi pen tost i’r awdurdodau ers miloedd o flynyddoedd – ers i ni ddechrau defnyddio arian a dweud y gwir. O bryd i’w gilydd, bydd pobl sydd wedi dod o hyd i geiniogau gyda datgelydd metel yn hysbysu’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) amdanynt ac yn cael gwybod bod rhywbeth o’i le - ac mai ceiniogau ffug ydynt. Yn 2015, o’r 679 o ddarnau arian a ddaeth at sylw’r Cynllun, barnodd arbenigwyr Amgueddfa Cymru mai darnau ffug cyfoes oedd saith ohonynt. Disgrifiwyd llawer o’r lleill fel rhai ‘afreolaidd’ ac felly roedd y rhain hefyd wedi’u cynhyrchu o dan amgylchiadau amheus. Un o’r darnau ffug oedd hanner coron Siarl I, a gafodd ei darganfod gan Mr Nick Mensikov ym Meisgyn, Rhondda Cynon Taf. Darn arian yw hanner coron, ond roedd hi’n amlwg mai un ffug oedd hanner coron Mr Mensikov oherwydd bod cyrydiad yn dangos mai darn o aloi copr wedi’i orchuddio â haen denau o arian ydoedd. Fel newydd, byddai wedi ymddangos yn ddigon dilys i chi a fi, ond byddai’n werth llai o lawer na gwir werth hanner coron, sef deuswllt a chwe cheiniog (neu un wythfed o bunt). Mae deuddeg darn arian ffug o gyfnod teyrnasiad Siarl I wedi cael eu darganfod yng Nghymru a’u hadrodd i PAS Cymru ers 2009, mwy o lawer nag unrhyw frenin neu frenhines arall, ond mae’r mwyafrif helaeth yn hŷn o lawer ac yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid, o’r ganrif gyntaf i ddechrau’r bumed ganrif OC. Mae un o’r darnau hanner coron Siarl I hyn yn un ffug hefyd. Allwch chi ddweud pa un? Pwy oedd yn gwneud arian ffug, a pham? Câi darnau arian ffug eu cynhyrchu am sawl rheswm yn y gorffennol. Weithiau, pan nad oedd digon o’r ceiniogau gwerth is, byddai pobl yn mynd ati i’w cynhyrchu’n answyddogol er mwyn gwneud yn iawn am y diffyg. Ym Mhrydain y Rhufeiniaid, roedd yr arfer hwn mor gyffredin fel ei bod yn bosibl bod llawn cymaint o ddarnau arian ffug yn cael eu defnyddio â rhai iawn ar rai cyfnodau. Ar ôl i Claudius lanio yma yn 43 OC, hwyrach fod y fyddin Rufeinig ei hun wedi bod yn gyfrifol am lawer o’r arian ‘afreolaidd’ hwn. Weithiau byddai llywodraethau’n goddef yr arian ffug fel rhywbeth annymunol ond angenrheidiol. Mewn achosion eraill, byddai pobl yn ffugio darnau arian am un rheswm syml - i wneud elw. Wrth gwrs, nid ar chwarae bach roedd gwneud hyn. Roedd angen cyflenwad o fetel, ffwrnes neu grwsibl, ac offer o bob math, yn cynnwys deiau neu fowldiau gyda chopi digon da o’r darn arian i’w atgynhyrchu wedi’i ysgythru arnynt. Roedd hyn yn golygu bod mwy nag un person yn rhan o’r fenter gan amlaf, a bod angen rhywfaint o fuddsoddiad ariannol cyn cychwyn. Felly nid gobaith olaf dynion neu fenywod tlawd heb unrhyw ffordd arall o gael arian oedd y mentrau hyn. Roedd rhai ‘bathwyr’, eisoes yn unigolion cefnog. Ym 1603, darganfuwyd menter fathu yng Nghaer Duncannon yn Iwerddon. Daethpwyd o hyd i fowldiau, darnau o bres, crwsiblau, ynghyd â chemegau a golosg, yn nesg cadlywydd y gaer, Syr John Brockett. Roedd Syr John wedi bod yn cynhyrchu darnau arian Seisnig a Sbaenaidd ffug, a chafodd fynd o flaen ei well am frad. Doedd dim bwriad defnyddio rhai o’r darnau ffug fel arian bob dydd, serch hynny. Cyn belled yn ôl â’r 16eg ganrif, roedd hynafiaethwyr a chasglwyr wedi dechrau ymddiddori mewn hen ddarnau arian, ac o ganlyniad dechreuodd rhai unigolion diegwyddor wneud busnes o gyflenwi darnau ffug i demtio’r diniwed. Yn Llundain ar ddechrau oes Fictoria, bu dyn o’r enw Edward Emery yn gyfrifol am ychwanegu 5–7,000 o ddarnau ffug o’r oesoedd canol a chyfnod y Tuduriaid at y farchnad casglwyr. Roedd darnau arian Rhufeinig yn boblogaidd tu hwnt hefyd, a chafodd darn ffug a gynhyrchwyd yn yr oes fodern ei ddarganfod gan Mr Rogers ym Mrynbuga yn 2007. Roedd wedi’i wneud o aloi metal cyffredin gwyn er mwyn edrych fel arian. Tybed a wnaeth y perchennog ei daflu i ffwrdd yn ei ddicter pan sylweddolodd ei fod wedi cael ei dwyllo? Sut roedd darnau arian ffug yn cael eu creu? Roedd dau brif ddull o gynhyrchu darnau arian ffug - eu curo o ddeiau a oedd wedi’u dwyn neu eu ffugio, neu eu castio mewn mowldiau. Roedd menter bathu darnau arian yn Iwerddon ym 1601 yn defnyddio deiau sialc a metel i guro’r darnau, a oedd wedi’u gwneud o aloi a oedd yn cynnwys digon o dun i greu’r lliw arian angenrheidiol, ond nid oedd y darnau, wrth reswm, yn cynnwys unrhyw fetel gwerthfawr. Roedd hyn yn amlwg yn waith swnllyd ac felly roedd mentrau o’r fath yn aml wedi’u lleoli mewn ardaloedd prysur fel canol trefi lle byddai’r sŵn a’r gweithgarwch yn cael eu celu gan y mynd a’r dod ar y strydoedd, neu mewn mannau anghysbell y byddai pobl yn annhebygol o fynd iddynt. Dyma oedd dewis y ffugwyr Rhufeinig a oedd wrthi’n bathu arian ffug yn y mwynglawdd plwm yn Nraethen, ger Caerffili, lle daethpwyd o hyd i ddarnau arian, y ‘fflaniau’, neu’r darnau metel gwag, a ddefnyddiwyd i guro’r darnau ffug, yn ogystal â’r ffyn metel y torrwyd y fflaniau oddi arnynt. Darganfuwyd yr eitemau hyn o amgylch lle tân, ac ni allwn ond dyfalu pa mor boeth, annifyr a pheryglus oedd creu darnau arian o dan y ddaear fel hyn. Roedd castio’n broses wahanol, ond roedd gofyn cael ffynhonnell bwerus o wres serch hynny am fod angen metel tawdd. Gwnaed argraff o ddwy ochr darn arian go iawn mewn clai, cwyr neu ludw. Yna, ar ôl iddynt galedu byddai’r mowldiau’n cael eu rhoi at ei gilydd a’u llenwi ag aloi metel tawdd. Mae modd dweud bod rhai darnau arian wedi cael eu castio am nad yw’r sianel lle cafodd y metel ei dywallt wedi cael ei thorri i ffwrdd neu ei llyfnu yn iawn. Mae digon o dystiolaeth i ddangos bod y dull hwn o ffugio ar waith yn Llundain adeg y Rhufeiniaid, yn cynnwys y darnau a gastiwyd eu hunain (mewn aloi efydd neu dun lliw arian yn aml) ynghyd â channoedd o fowldiau. Nid defnydd cyfrwys o aloiau oedd yr unig ffordd o ffugio metel drudfawr er mwyn creu darnau arian a oedd yn argyhoeddi (roedd rhai’n cynnwys arsenig er mwyn gwynnu’r metel!). Roedd rhai darnau – fel yr hanner coron Siarl I y soniwyd amdani gynt – yn cael eu gwneud o fetelau cyffredin ac yna’n cael eu platio â haen denau o arian neu aur er mwyn iddynt edrych fel y dylent. Roedd darnau ffug yr Oesoedd Canol yn aml yn defnyddio techneg o’r enw euro â thân. Byddai darn gwag o fetel cyffredin yn cael ei rwbio â chymysgedd o aur a mercwri ac yna’n cael ei gynhesu. Byddai’r mercwri’n anweddu a’r aur yn cael ei fondio i wyneb y metel. Yna byddai modd curo’r darn rhwng y deiau. Yn amlwg, roedd y broses hon yn gofyn am rywfaint o sgil dechnegol, ac mae yna dystiolaeth fod ffugwyr yn arbrofi gyda dulliau a fyddai’n cael eu defnyddio at ddibenion mwy cyfreithlon maes o law. Gwelwyd bod darn arian ffug yn dyddio o deyrnasiad Wiliam III (1689–1702) wedi cael ei wneud gan ddilyn enghraifft gynnar o dechneg platio Sheffield. Byddai plât copr yn cael ei rolio neu ei forthwylio rhwng dwy haen denau o arian, cyn torri’r darnau arian gwag ohonynt. Yna, byddai’r ymylon yn cael eu gorchuddio ag aloi copr ac arian cyn i’r darnau gwag gael eu curo gyda deiau swyddogol wedi eu smyglo allan o fathdy Llundain. Byddai’r aur a’r arian oedd eu hangen ar gyfer y platio yn cael eu cyflenwi drwy docio arian go iawn (a oedd yn drosedd ynddo’i hun) yn ogystal â thoddi darnau o blât neu ddarnau arian eraill. Cosbau Roedd y cosbau llym ar gyfer ffugio arian yn adlewyrchu natur ddifrifol y drosedd ond hefyd pa mor anodd oedd dod o hyd i’r troseddwyr. Fel llawer o gosbau yn y cyfnod cyn fodern, roeddent yn gosbau corfforol eu natur. Yn yr hen Rufain, roedd yn drosedd ddifrifol iawn, a oedd yn gyfystyr â brad, a’r gosb oedd alltudiaeth neu gaethwasiaeth os oeddech chi’n lwcus neu, fel arall, byddech yn cael eich croeshoelio. Ar ddechrau’r 4edd ganrif, cyflwynodd yr Ymerawdwr Cystennin – sy’n enwocach am wneud Cristionogaeth yn grefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig – losgi fel cosb i ffugwyr. Yn Lloegr yn y 10fed ganrif, o dan y brenin Athelstan (927–939), byddai’r ffugiwr yn colli llaw, ond aeth un o’i olynwyr Normanaidd, Harri I (1100–1135), un yn well. Ac yntau’n amau bod gweithwyr ei fathdy swyddogol yn cynhyrchu arian afreolaidd yn ddistaw ar y slei ac yn anfodlon â safon yr arian rheolaidd, gorchmynnodd iddynt ddod i Gaer-wynt i ddathlu’r Nadolig a thorrodd law dde a cheilliau pob un ohonynt i ffwrdd. O dan Edward I a brenhinoedd diweddarach, marwolaeth drwy grogi oedd y gosb arferol i ddynion, gyda menywod yn cael eu llosgi a’u tagu. Dioddefodd tair anffodus y gosb erchyll hon yng Nghaeredin yn yr 16eg ganrif, ac ym 1560 cafodd Robert Jacke, masnachwr o Dundee, ei grogi a’i chwarteru, dim ond am fewnforio arian ffug. Cafodd 19 o bobl y gosb eithaf am ffugio arian ym 1697 pan oedd Syr Isaac Newton yn Warden y Bathdy Brenhinol.