Cymru a'r Rhyfeloedd Byd: Dyddiaduron Kate Rowlands 27 Ionawr 2017 Mae'r cyfri twitter @DyddiadurKate yn trydar dyddlyfrau Kate Rowlands, Sarnau. Ganrif yn ddiweddarach, mae ei chofnodion o 1915 yn rhoi golwg i ni ar fywyd yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y dyddiadur i feddiant Sain Ffagan yn 1969, pan aethant allan i gymunedau gwahanol i recordio hanes leol pobl Cymru, yn eu geiriau eu hunain. Mae Dyddiadur 1915 Kate Rowlands, yn ddarlun cynnil a chyfoethog o fywyd yng nghefn gwlad Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n rhoi cip i ni o dasgau bob dydd, enwau caeau a ffermydd, cymeriadau lleol, tafodiaeth ac arferion y cartref a'r capel. Darllenwch y dyddiadur ar twitter, neu gweld mwy am gymeriadau'r dyddiadur. Trydar gan DyddiadurKate Rhagor am Kate 'Kitty' Rowlands Bywyd Cynnar Ganed Kate yn y Brymbo, ger Wrecsam, yn 1892. Roedd ei mam, Alice Jane, yn wreiddiol o’r Hendre, Cefnddwysarn. Bu farw ei thad – gweithiwr yn y diwydiant dur – pan roedd hi’n naw mis oed. Wedi hynny, dychwelodd ei mam weddw at ei theulu yng Nghefnddwysarn. Mae’n amlwg i rieni ei mam ddylanwadu’n fawr arni. Mewn cyfweliad hanes llafar â'r Amgueddfa mae’n dweud mai "y nhw oedd y canllawie gathon ni gychwyn arnyn nhw." Tair blynedd yn ddiweddarach, mae’i mam yn ailbriodi ag Ellis Roberts Ellis. Hyd y gwyddom, dyma’r Ellis sy’n cael ei grybwyll yn y dyddiadur. Tua 1887, pan roedd Kate yn bum mlwydd oed, symudodd y teulu bach i ffermio i ardal Llantisilio, ger Llangollen. Dychwelodd y tri i’r Sarnau tua chwe mlynedd yn ddiweddarach – i fferm Tyhen. Dyma leoliad y dyddiadur. Gwaith ar y tir - ac yn y tŷ A hithe’n unig blentyn, gadawodd Kate yr ysgol yn 14 mlwydd oed i helpu ei rhieni wrth eu gwaith. Mae’n debyg mai fferm fach oedd Tyhen – rhy fach i gyflogi dynion. “Mi gollodd nhad a mam eu iechyd i radde. Buodd hynny’n groes fawr i mi gael gyrru mlaen efo addysg ynde. Rhaid i mi fod adre ynde, ’da chi’n gweld… Dipyn o bopeth, jack of all trade ynde. O’n i’n gorfod helpu llawer iawn allan ynde, efo ceffyle a rwbeth felly ynde. Twmo’r popdy mawr i grasu bara, a chorddi fel bydde amser yno ynde, ryw ddwywaith yr wsos ynde.” Hanes Llafar Rhoddodd Kate Rowlands ei dyddiadur i'r Amgueddfa, pan ddaeth Minwel Tibbott a Lyn Davies i'w chyfweld yn y 1960au. Oherwydd gwaith diflino curaduron cynnar yr Amgueddfa, mae casgliad eang yn Sain Ffagan sy'n ymwneud â hanes merched - gellir pori gwybodaeth amdanynt ar dudalennau Hanes Llafar Merched Cymru. Yn ogystal â dyddiadur 1915, rhoddodd Kate ddyddiadur arall i'r Amgueddfa - sef cofnod o'i bywyd yn 1946. Mae modd darllen y dyddiadur hwnnw hefyd ar twitter, a'i archwilio ar flog yr amgueddfa. Kate Rowlands - Bywyd Cynnar Kate Rowlands - Wythnos ar y Fferm Kate Rowlands - Chwarae Steddfod a Gadael Ysgol Yn ogystal â rhannu hanesion lleol ardal y Sarnau, roedd y dyddiadur yn taro goleuni ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar gefn gwlad Cymru. Darllenwch hanes Kate a chymeriadau'r ardal ar flog Dyddiadur Kate. Carcharorion Rhyfel Fron Goch "Erbyn Ebrill 1915, roedd sgil effeithiau’r Rhyfel Mawr i’w gweld a’u teimlo ar lawr gwlad Meirionnydd. Nepell o gartref Kate a’i theulu, fe agorwyd gwersyll i garcharorion rhyfel ar gyn safle distylldy whisgi..." [gweld mwy] Arferion Nadolig "Ro’n i wedi edrych ymlaen cael darllen am baratoadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac wedi bod yn dyfalu p’un â’i gŵydd yntau asen o gig eidion fyddai’r wledd? Pwy fyddai’n galw heibio?" [gweld mwy] Tomi'r Hendre a'r Ffrynt "Yr wyf yn hynod o hapus a digon o fwyd ac mewn iechyd rhagorol ac yn mynd yn dew ac yn gryf. Nid wyf yn med[d]wl y byd[d] yn rhaid imi byth fynd i’r front... Gyrwch fy nghyllell boced a fy spectol [yn] fuan." [gweld mwy] Alcohol a Dirwest "Soniodd Lloyd George am ‘the lure of the drink’ a dweud bod y ddiod gadarn yn gwneud mwy o’r difrod i Brydain na holl longau tanfor yr Almaen..." [gweld mwy] Gallwch lawrlwytho fersiwn electronic o'r dyddiadur yma: E-lyfr Dyddiadur Kate (PDF)
William Smith a chychwyn y Map Daearegol Tom Sharpe (Amgueddfa Lyme Regis a Phrifysgol Caerdydd, a chyn Guradur Palaeontoleg ac Archifau Amgueddfa Cymru), 30 Tachwedd 2015 I’r daearegwr, mae mapiau daearegol yn offer hanfodol. Maent yn dangos sut mae gwahanol fathau o greigiau’n cael eu dosbarthu ac i ba oes y maent yn perthyn. Dyma’r cam cyntaf wrth geisio deall daeareg lle, a’r allwedd wrth chwilio am ddeunyddiau crai. Heddiw, mae Prydain gyfan wedi’i mapio, yn bennaf drwy waith yr asiantaeth swyddogol, Arolwg Daearegol Prydain. Serch hynny, ddau gan mlynedd yn ôl, roedd daeareg yn wyddor newydd a’r Arolwg heb ei sefydlu. Roedd y chwyldro diwydiannol ar ei anterth a galw aruthrol am haearn, calchfaen a glo. Yna, byddai arolygwyr tir yn crwydro o le i le gan fanteisio ar drachwant ac anwybodaeth tirfeddianwyr, a oedd, wrth gwrs, yn awyddus i glywed bod glo ar eu tiroedd. Byddai’r arolygwyr yn eu perswadio i dalu am archwiliadau mewn mannau lle nad oedd unrhyw debygrwydd o ddod o hyd i lo. Deallodd William Smith, arolygwr tir o Swydd Rhydychen, y byddai map yn dangos ble roedd gwahanol haenau o greigiau - y strata - yn dod i’r wyneb yn ddefnyddiol i dirfeddianwyr ac arolygwyr tir fel ei gilydd, nid dim ond er mwyn dangos lleoliad y glo, ond hefyd at ddibenion amaethyddiaeth, gan y byddai’n dangos y gwahanol greigiau ac yn sgil hynny, y gwahanol fathau o briddoedd. Bu wrthi’n ddyfal am oddeutu 15 mlynedd yn cwblhau’r gwaith. Ganwyd Smith ar 23 Mawrth 1769 ym mhentref Churchill, yn ardal y Cotswolds, yn fab i’r gof lleol. Ni chafodd lawer o addysg ond yn ddeunaw oed cafodd brentisiaeth gan gwmni syrfewyr Edward Webb yn Stow-on-the-Wold. Roedd ganddo ddawn naturiol wrth fesur tir a thrin ffigurau a llygad dda wrth archwilio tirweddau. Ym 1791, anfonwyd Smith i archwilio a phrisio gweithfeydd glo ym meysydd glo Gwlad yr Haf i’r De o Gaerfaddon, ac ymhen dwy flynedd fe’i penodwyd i dirfesur y llwybr ar gyfer camlas newydd i gludo’r glo o’r gweithfeydd. Darganfyddiadau Yn ystod y chwe blynedd y bu Smith yn gweithio ar y Gamlas Lo yng Ngwlad yr Haf, darganfu ddwy ffaith sylfaenol. Wrth gloddio’r gamlas, roedd yn fforchio ac yn dilyn dau drywydd gwahanol ar hyd dau gwm cyfochrog. Gwelodd Smith fod yr haenau o greigiau yn dilyn yr un drefn yn y ddau gwm, a bod yr haenau o greigiau’n gogwyddo tuag at y de-ddwyrain bob tro. Wrth deithio’r wlad i archwilio camlesi eraill, sylweddolodd Smith fod strata de Lloegr bob amser yn dilyn trefn benodol a’u bod i gyd yn gogwyddo i’r un cyfeiriad. Darganfu hefyd fod gan bob strata o greigiau eu cyfres benodol o ffosilau hefyd; felly, o ganlyniad, gallai ddefnyddio’r ffosilau i ganfod ble’r oedd haen o graig yn gorwedd o fewn dilyniant strata penodol. Sylweddolodd Smith ar unwaith y gallai ddefnyddio’r darganfyddiadau hyn at ddibenion ymarferol. Mae haenau glo yn digwydd yn yr un lle â haenau o gerrig llaid llwyd, ond mae’r creigiau hyn i’w gweld mewn llawer o fannau yn y dilyniant strata, ymhell o dan ac uwchben yr haenau glo. Trwy ddefnyddio ffosilau, gallai Smith bennu pa gerrig llaid llwyd oedd yn rhan o’r gwythiennau glo, ac oherwydd ei wybodaeth am y dilyniant strata gallai Smith lunio map yn dangos lleoliad y gwahanol greigiau ar yr wyneb a ble gellid dod o hyd i’r glo. Pan eglurodd Smith ei waith i’w gyfeillion Joseph Townsend a Benjamin Richardson yng Nghaerfaddon ar 11 Mehefin 1799, mynnodd y ddau y dylai gyhoeddi ei ddarganfyddiadau er mwyn cael ei gydnabod amdanynt ac o bosibl ei wobrwyo. Y noson honno, aeth ati i arddweud trefn y strata wrth ei gyfeillion ac yn fuan roedd rhestrau mewn llawysgrifen o’r dilyniant o greigiau o’r glo i fyny at y calchfaen ar gael yn eang. Yn fuan wedyn, lluniodd Smith fap yn dangos y creigiau yn ardal Caerfaddon a map bychan yn dangos rhai o’r brigiadau creigiau ar draws Lloegr. Ym 1801 cyhoeddodd brosbectws o’r gwaith mawr roedd yn bwriadu ei lunio ar y strata yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod y pymtheng mlynedd nesaf, teithiodd Smith i bob cwr o’r wlad, gan weithio ar gomisiynau fel arolygwr tir a draenio tir. Wrth deithio, byddai’n nodi’r tirweddau a’r creigiau ac o dipyn i beth yn casglu’r holl wybodaeth angenrheidiol er mwyn llunio’i fap. Cyhoeddu'r Map O’r diwedd, cyhoeddwyd y map ddiwedd 1815 gan John Cary, un o’r prif wneuthurwyr mapiau yn Llundain. Yn ddi-os, roedd y gwaith A Delineation of the Strata of England and Wales, with part of Scotland yn gampwaith. Graddfa’r map oedd pum milltir i’r fodfedd, felly roedd yn enfawr, dros wyth troedfedd o hyd a chwe throedfedd o led. Roedd wedi’i liwio â llaw (proses ddrud iawn). Ei bris oedd 5 gini am fap ar bymtheng dalen, yn ogystal â mynegfap a Memoir ategol. Ond er bod Memoir Smith yn rhestru bod mwy na 400 wedi tanysgrifio i’w fap, nid oedd llawer wedi talu amdano ymlaen llaw. Hefyd, gan fod cymaint o amser wedi mynd heibio cyn cwblhau’r map, roedd rhai o’r tanysgrifwyr wedi marw erbyn i’r gwaith gael ei gyhoeddi. Ni allwn fod yn sicr, ond credir mai dim ond tua 350 o fapiau gafodd eu gwerthu. Yn ystod blynyddoedd cynhyrchu’r map, roedd Smith yn parhau i’w newid wrth i wybodaeth newydd am ddosbarthiad strata ddod i law. Rydym yn gwybod am o leiaf bum gwahanol rifyn o’r map. Ymhen pum mlynedd, cafodd map Smith ei ddisodli gan fap a oedd i raddau yn fwy manwl, ac a luniwyd ar y cyd gan aelodau Cymdeithas Ddaearegol Llundain dan oruchwyliaeth y Llywydd cyntaf, George Bellas Greenough. Ugain mlynedd ar ôl cyhoeddi map cyntaf Smith, daeth mapio daearegol manwl yn rhan o gylch gwaith asiantaeth newydd a ariannwyd gan y llywodraeth, sef Arolwg Daearegol Prydain. Serch hynny, mae map lliwgar a chain Smith yn parhau yn eicon ym maes daeareg ac yn ôl y farn, dyma’r gwir fap daearegol cyntaf o unrhyw wlad yn y byd. Mae’n hynod hefyd oherwydd mai gwaith un dyn ydyw, a aeth ati ar ei ben ei hun i fapio dros 175,000 cilomedr sgwâr o Brydain. Heddiw, mae cryn alw amdano ymhlith casglwyr mapiau ac mae’r pris amdano’n uchel hefyd. Mae un ar werth yn Llundain ar hyn o bryd am dros £90,000. Mae ymchwil ar waith i nifer y copïau sy’n dal i fodoli, sy’n debygol o fod oddeutu 150. Mae adran ddaeareg Amgueddfa Cymru mewn sefyllfa unigryw gan fod ganddi naw copi cyflawn a rhannol o’r map, sy’n fwy nag unrhyw sefydliad yn y byd, diolch i weledigaeth ein swyddogion cyntaf, Frederick J. North, Douglas A. Bassett a Michael G. Bassett. Llwyddodd North yn arbennig i sefydlu casgliad o fapiau ac archifau yn yr adran ddaeareg sydd gyda’r gorau yn y wlad, ac mae ei ddilynwyr wedi datblygu’r casgliad ymhellach. Amgueddfa Cymru yw’r unig le yn y byd lle gellir archwilio bron pob un o’r gwahanol rifynnau o’r map ochr yn ochr. Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl yn Earth Heritage.
Cyfraniad Cymru at dŵf ymerodraeth forwrol Prydain Oliver Fairclough, 27 Tachwedd 2015 Mae gan Amgueddfa Cymru ddau bortread sy’n dangos rôl Cymru yn natblygiad ymerodraeth forwrol Prydain yn y ddeunawfed ganrif. Paentiwyd y lleiaf o’r rhain oddeutu 1764 ac mae’n bortread llawn (54.5 x 42.6 cm) o William Owen (1737-1778). Paentiwyd yr ail yn Canton, Tsieina oddeutu 1791 ac mae’n bortread o John Jones (1751-1828), Capten yn gwasanaethu’r East India Company. William Owen William Owen (1737-1778) Ganwyd William i deulu cefnog Owens of Cefyn-yr-Hafodau yn Sir Feirionydd. Roed bywyd ar y môr yn beryglus, a gwneud gyrfa ohoni yn waith caled oed yn galw am dylanwad yn ogystal â thalent. Roedd yn yrfa addas i ŵr bonheddig, fodd bynnag, nad oedd yn gofyn am fuddsoddiad ariannol mawr gyda phosibilrwydd hefyd o wneud ffortiwn o gipio trysor a gwobrwyon. Byddai’n rhaid i deuluoedd berswadio Capten i groesawu eu mab i’w griw fel ‘gŵr bonheddig ifanc’ er mwyn ennill y chwe mlynedd o wasanaeth fyddai’n rhaid eu cwblhau i gymhwyso fel Is-gapten. Derbyniodd tad William eirda gan Ysgrifennydd y Morlys a roddodd y bachen yng ngofal ei fab-yng-nghyfraith. Gwasanaethodd William yng Ngorllewin Affrica ac India’r Gorllewin cyn hwylio am India ym 1754. Roedd ei saith mlynedd yn yr is-gyfandir yn rhai prysur gyda Phrydain mewn rhyfel â Ffrainc. Ymladdodd William ar y tir ym Mrwydr Plassey yn ogystal ag ar y môr, a chael ei anafu gan belen mysged. Fe’i dyrchafwyd yn Is-gapten ym 1758, ac roedd yn rhan o’r gwarchae ar harbwr Pondicherry lle cafodd ei anafu drachefn wrth ymosod ar ddwy long Ffrengig. Gwelir Owen yn lifrau Is-gapten yn y Llynges Frenhinol (patrwm 1748-1767). Esboniodd mewn cofnod o’i wasanaeth sut iddo golli rhan o’i fraich dde wrth ymosod ar ddwy long Ffrengig dan ynnau Pondicherry: 'on the night of 7 Oct 1760 he [was] ordered to cut out the French ships La Baleine and Hermoine from under the guns of Pondicherry, … [when] he had the misfortune to have his right arm shot off … by a Cannon Ball. Dychwelodd Owen i Brydain ar hanner cyflog ar ddiwedd y rhyfel ym mis Tachwedd 1762. Prin oedd y cyfle am ddyrchafiad mewn cyfnod o heddwch ac ym 1766 hwyliodd i Nova Scotia gyda’r Arglwydd William Campbell, oedd newydd gael ei benodi’n llywodraethwr. Rhoddodd Campbell ynys iddo ym Mae Passamaquoddy (rhwng New Brunswick a Maine) ac erbyn 1771 roedd 73 o bobl wedi ymsefydlu yno. Dychwelodd i Brydain wrth i ryfel Sbaen gorddi, ond rhaid oedd aros tan 1776 cyn derbyn comisiwn unwaith eto a hwylio am India. Daeth dyrchafiad i’w ran i swydd Comander y slŵp HMS Cormorant. Yn anffodus, ni welodd William ddiwedd y rhyfel – cafodd ei ladd mewn damwain feddw y Madras yn Hydref 1778. John Jones John Jones (1751-1828) Ganwyd John Jones i deulu dosbarth canol yn Abertawe ym mis Awst 1751. Daeth yn brentis morwr masnachol cyn gwasanaethu ar un o longau’r East India Company, Queen, ar fordaith i Madras a Tsieina ym 1770-1772. Wedi dychwelyd ymunodd â’r Llynges Frenhinol. Roedd heddwch ym Mhrydain ym 1773 ac mae’n debyg iddo ymrestru er mwyn gwella ei statws cymdeithasol a phroffesiynol. Roedd o ddosbarth is na William Owen ac fellu bu’n gwasanaethu fel Meistr (gwarantswyddog yn gyfrifol am fordwyo) cyn derbyn comisiwn Is‑gapten ym 1782 ar ddiwedd Rhyfel America. Heb swydd ar ddiwedd y rhyfel, ymunodd â’r East India Company gan wasanaethu am bymtheg mlynedd. Ef oedd Mêt 1af y Carnatic ym 1786-7, a Mêt 1af y Deptford ym 1787-9. Yn y pen draw fe’i penodwyd yn Gapten un o longau’r cwmni, Boddam, gan hwylio dair gwaith i Tsieina ym 1791-2, 1793-4 a 1800-1. Mae ei lyfr cyfrifon personol o fordaith gyntaf y Boddam wedi goroesi ac yn dangos iddo fuddsoddi £11,000 mewn nwyddau i’w gwerthu ym Madras a Canton (gan gynnwys haid o gŵn hela) gan wneud elw personol o bron i £4,000. Defnyddiodd yr arian hwn i brynu gwerth £7,500 o nwyddau lleol yn Canton, fyddai wedi’u gwerthu am fwy o elw yn Llundain. Paentiwyd ei bortread gan Guan Zuolin, artist o Tsieina oedd yn gweithio yn Canton rhwng 1770 a 1805. Roedd yn arfer y dull flat, clir, Ewropeaidd o baentio mewn paent olew wedi’i deneuo â dŵr. Ym 1794 prynodd Jones Dŷ Sain Helen uwchlaw Bae Abertawe a comisiynodd y pensaer William Jernegan i’w ailadeiladu fel fila neo-glasurol. Mae golygfa o’r tŷ ym 1800 yn ei ddangos mewn glaswelltir gyda cheffylau, gwartheg a defaid John Jones yn pori. Treuliodd ymddeoliad cyfforddus yno tan ei farwolaeth mewn damwain cerbyd ym 1828. Dŷ Sain Helen
Jâd Tsieina yn Amgueddfa Cymru Penelope Hines (Curadur Celf Gymhwysol dros dro), 14 Medi 2015 Deunydd gwydn, lled dryloyw yw jâd a gall gael ei droi yn addurniadau, arfau seremonïol a gwrthrychau defodol. Am saith milenia a mwy mae jâd wedi bod yn bwysig yn niwylliant Tsieina a dros y canrifoedd mae crefftwyr wedi troi eu dawn a’u dylunio arloesol at greu amrywiaeth o wrthrychau, gydag amrywiaeth o jâd gwahanol. Y Deunydd Yr enw Tsieinëeg am jâd yw ‘Yu’, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw garreg brydferth neu werthfawr – fel agat neu lasfaen – sy’n dangos y pum nodwedd canlynol: Llyfn Caled Strwythur dwys Lled dryloyw Arlliwiau gwahanol Ond pan fyddwn ni’n trafod ‘jâd’ (yn enwedig mewn amgueddfa yn y Gorllewin) rydyn ni’n cyfeirio’n benodol at ddau fwyn gwahanol – neffrit ac arenfaen (jadeite). Dyfodiad cymharol ddiweddar i Tsieina yw arenfaen (tua diwedd y 18fed ganrif) felly neffrit yw’r rhan fwyaf o jâd Tseina. Jâd Amgueddfa Cymru Roedd pob anifail a gerfiwyd yn ystod llinachau Ming a Qing yn llawn ystyron ffafriol a dymuniadau da i’r gwyliwr. Dyma yw’r rhan fwyaf o wrthrychau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Hwyaden (NMW A 50761) Mae’r hwyaden hon fel pe bai’n nofio. Ar ei chefn ac yn ei phig mae blodau lotws fydd yn dod â lwc dda i’r perchennog. Roedd cyfuno ffurfiau syml a manyldeb cain yn nodweddiadol o ddiwedd cyfnod Ming. Byffalo (NMW A 50764) Defnyddiwyd y byffalo mewn tai i gadw ysbrydion drwg draw, ond gan fod yr anifail hefyd yn tynnu’r aradr mae wedi tyfu’n symbol o amaethyddiaeth a’r gwanwyn. Gall byffalo yn gorwedd gyda’i ben wedi troi ddynodi bod y byd mewn heddwch. Alarch / Ŵydd (NMW A 50767) Mae’n aneglur os taw alarch neu ŵydd sydd yma. Yn niwylliant Tsieina hynafol roedd yr alarch yn fersiwn ddwyfol o’r ŵydd, ond mae’r ddau aderyn yn sanctaidd. Llew (NMW A 50787) Does dim llewod yn byw yn Tsieina ond daethant yn adnabyddus gyda thwf Bwdhaeth. Mewn porslen ar ei orffwys y caiff y teigr ei bortreadu’n draddodiadol, ond mewn jâd byddant fel arfer yn cael eu darlunio yn yr un modd â chŵn. Mae hon yn esiampl dda o ddefnyddio jâd i ddangos cyfoeth. Diferwr Dŵr (NMW A 50777) Defnyddiwyd y diferwr dŵr i gynnal trysorau’r stiwdio, fel y brws, inc, papur a’r garreg inc. Defnyddiwyd y darnau yma mor gynnar â’r 13eg ganrif ond daethant yn offer cyfarwydd yn ystod llinachau Ming a Qing. Prin oedd y rhai fyddai’n casglu jâd Tsieina yn Ewrop cyn y 19eg ganrif ac mae’n debyg i’r diddordeb dyfu wedi dangos gwaith yn un o arddangosfeydd mawreddog y Crystal Palace. Daw’r eitemau cyntaf yn ein casgliad o gasgliad Tŷ Turner mewn gwirionedd, wedi’u caffael yn y 1800au mwy na thebyg gan noddwr cyntaf yr orielau, John Pike Thomas. Daw’r mwyafrif, fodd bynnag, o gymynrodd David Bertram Levinson ym 1967. Prin yw’r wybodaeth am darddiad y jâd ond mae’n debyg eu bod i gyd yn dyddio o’r 1800au a’r 1900au. Erthygl yn dilyn sgwrs am Jâd Tsieina, 15 Mai 2015. Llyfryddiaeth Llyfrau Lin, J C S. The Immortal Stone: Chinese Jades from the Neolithic Period to the Twentieth Century. The Fitzwilliam Museum, (Scala Publishers, 2009). Wilson, M. Chinese Jades, (V&A Publications, 2004). Erthyglau / Penodau Nichol, D. 2010. Chinese Jade from the National Museum of Wales Collection. National Museum of Wales Geological Series No 2x, 000pp. Gwefannau Casgliad Celf Ar-lein Amgueddfa Cymru