Glo - hanes pobl ar-lein 2 Medi 2014 Cylchgrawn COAL a gynhyrchwyd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol o fis Mai 1947 ymlaen. Newidiwyd yr enw'n ddiweddarach i COAL NEWS. Mae'r cylchgrawn Glo ar gael ar Rhagor.Seiliwyd arddull GLO ar y cylchgrawn ffotonewyddiaduraeth Picture Post, ac mae hefyd yn cydweddu â Ffrynt Cartref, cylchgrawn gwych Sain Ffagan oedd yn cofio bywyd Cymreig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.Mae Glo hefyd yn debyg i COAL, cylchgrawn y Bwrdd Glo Cenedlaethol, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1947.Gellid disgrifio Glo orau fel cylchgrawn 'hanes pobl'; gwahoddir pobl i gyfrannu eu barn, delweddau a phrofiadau ar pwnc arbennig.Mae detholiad o straeon a delweddau o'r cylchgrawn ar gael ar Rhagor fel erthyglau unigol; mae pob un ohonynt yn cysylltu'n ôl i'r rhifyn perthnasol.Mae'r cylchgronnau ar gael i'w lawrlwytho isod. Bechgyn Bevin [PDF 5MB] 'Bois Bevan' - consgripsiwn i'r pyllau glo yn ystod yr Ail Ryfel Byd Glo: 'N C bloody B' [PDF 7 MB] 'NC-Bloody-B' - gwladoli'r diwydiant glo Pwyliaid Pob Un? [PDF 2MB] 'Pwyliaid Pob Un?' - gweithwyr estron ym meysydd glo Cymru Streic! [PDF 2.6 MB] 'Streic!' - Streic y Glowyr 1984/5 Gweithwyr Glo [PDF 4.8 MB] Gweithwyr Glo Maes glo angof? [PDF 2MB] Y Gogledd-ddwyrain: Maes glo angof? Cadw'r Olwyn i Droi [PDF 2.4 MB] Cadw'r Olwyn i Droi Pwll Mawr [PDF 5.4MB] Pwll Mawr Dai a Tomi [PDF 5MB] Dai a Tomi Lleisiau Cambrian [PDF 2.2MB] Lleisiau Cambrian Chwerthin a Chriö [PDF 7.1MB] Chwerthin a Chriö
Diwrnod Santes Dwynwen – Nawddsant Cariad Cymru 14 Mehefin 2014 Pryd mae Diwrnod Santes Dwynwen yn cael ei ddathlu?Mae Diwrnod Santes Dwynwen yn cael ei ddathlu yng Nghymru ar 25 Ionawr.Pwy oedd Santes Dwynwen?Roedd Dwynwen yn byw yn ystod y 5ed ganrif ac roedd, yn ôl y son, yn un o brydferthaf o ferched Brychan Brycheiniog.Pwy oedd Maelon DafodrillYn ôl yr hanes, cwympodd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond yn anffodus, roedd ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Yn ei gynddaredd, treisiodd Maelon Dwynwen a'i gadael.Ffodd Dwynwen i'r goedwig, lle gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o'i theimladau am Maelon. Wedi cwympo i gysgu, ymddangosodd angel yn cario dogn melys wedi'i baratoi er mwyn dileu yr holl atgof o Maelon ac i'w droi yn ddarn o ia.Yna rhoes Duw dri dymuniad i Dwynwen. Yn gyntaf, gofynnodd am ddadmer Maelon; yn ail, y byddai Duw yn ateb gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; ac yn drydydd, na fyddai hi byth yn priodi. Cafodd y tri eu gwireddu, ac fel arwydd o'i diolch, ymroes Dwynwen i wasanaethu Duw am weddill ei bywyd.Ynys Llanddwyn ac Eglwys Santes DwynwenErys olion o eglwys Dwynwen hyd heddiw ar ynys Llanddwyn, ger arfordir Ynys Môn. Yn ystod y 14eg ganrif, tra'n ymweld â'r ynys, gwelodd y bardd Dafydd ap Gwilym ddelw aur o Dwynwen y tu mewn i'r eglwys. Bu mor ewn â gofyn i Dwynwen fod yn llatai rhyngddo a Morfudd, y ferch y dymunai ei hennill, a hyn er fod Morfudd eisoes yn briod!Gwelir ffynnon Dwynwen ar yr ynys hefyd, lle nofia, yn ôl y sôn, bysgodyn cysegredig, a'i symudiadau yn darogan dyfodol cariadon. Os berwa'r dwr yng ngwydd ymwelwyr, bydd lwc a chariad yn sicr o ddilyn.Gwelwyd twf sylweddol ym mhoblogrwydd dathlu Diwrnod Santes Dwynwen yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cynhelir digwyddiadau arbennig, megis cyngherddau a phartion ac argreffir cardiau Cymraeg. Er nad ydyw mor boblogaidd â Diwrnod San Ffolant ym mis Chwefror, mae'r nifer o Gymry cyfoes sy'n dewis dathlu gwyl Santes Dwynwen yn prysur gynyddu.Rhoddion Rhamant: O Lwyau Caru i Prennau StaesTrwy gydol hanes a hyd heddiw, rhoddir rhoddion rhamant fel symbolau o gariad ac ymrwymiad i anwyliaid.LLWYAU CARUCredir bod llwyau caru wedi'u crefftio gan ddynion a'u cyflwyno i'r morynion yr oeddent yn eu hedmygu. gwnaethant fynegi eu nwydau a'u teimladau trwy'r symbolau a gerfiwyd. PRENNAU STAESWedi'i addurno â motiffau a lythrennau, defnyddwyd Pren Staes i gadw torso menywod yn syth ac i eistedd yn agos at y galon. Yn y llun mae Pren Staes o Lanwrtyd, gyda'r llythrennau RM ac IM. TATŴS JESSIE KNIGHTRhwng y 1920au a'r 1960au, tatŵodd Jessie Knight y dyluniadau hyn ar forwyr a milwyr. Gan symboleiddio eu hymroddiad, roedd y rhoddion rhamant barhaol hyn yn ffordd i forwyr gadw eu hanwyliaid yn agos ar y môr. GWENIAU GWEILLRoedd yn arferiad Cymreig i gerfio gweiniau gweill gydag enwau a motiffau a'u rhoi fel rhoddion rhamant. Wedi'u gwisgo ar ochr dde'r corff, fe wnaethant ddal gwaelod un o'r gweill, gan ryddhau'r llaw chwith i weithio'r edafedd. TOCYNNAU CARIADWedi'u gwneud gan forwyr neu euogfarnau yn y 18fed-19eg ganrif, roedd y tocynnau cariad hyn wedi'u hysgythru â symbolau o gariad, gwahanu a dychwelyd. Wedi'i gynnig fel anrhegion ar gyfer gwahaniadau hir neu amhenodol. Mae’r rhoddion rhamant barhaol hyn, pob un â’i stori unigryw ei hun, yn parhau i symboleiddio cariad a chysylltiad trwy hanes a thraddodiad Cymru.
Cwestiynau Cyffredin: Y Wisg Gymreig 14 Mehefin 2014 Oes ffasiwn beth â gwisg genedlaethol Gymreig?Mae'r ddelwedd boblogaidd o'r wisg 'genedlaethol' Gymreig, sef gwraig mewn clogyn coch a het ddu uchel, yn deillio o wahanol ddylanwadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhan ydoedd o ymgais i roi hwb i ddiwylliant Cymreig mewn cyfnod pan oedd gwerthoedd traddodiadol o dan fygythiad.O ble ddaeth y steil 'genedlaethol' Gymreig?Mae'r wisg sy'n cael ei hystyried yn wisg genedlaethol wedi'i seilio ar y dillad a wisgid gan wragedd cefn gwlad Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef pais wlanen resog a wisgid o dan goban neu wn agored, gyda ffedog, siôl a hances neu gap. Roedd steil y gwn yn amrywio - gellid cael gwn llac fel côt, gwn gyda bodis wedi'i ffitio a sgert hir a hefyd gwn byr, a oedd yn debyg iawn i wisg farchogaeth. Oedd menywod yn gwisgo hetiau tal, du, go iawn?Roedd yr hetiau a wisgid yn gyffredinol yn y cyfnod hwn yr un fath â hetiau'r dynion. Nid ymddangosodd yr het uchel math 'simnai' tan ddiwedd y 1840au ac ymddengys iddi gael ei seilio ar gyfuniad o'r hetiau uchel a wisgid gan ddynion, sef y 'top hat' a math o het uchel a wisgid mewn ardaloedd cefn gwlad yn ystod y cyfnod 1790-1820. Pwy oedd yn gyfrifol am boblogeiddio'r ffasiwn?Bu Augusta Hall, gwraig i un o feistri haearn Gwent ac Arglwyddes Llanofer, yn frwd dros wisg 'genedlaethol' a byddai'n annog pobl i'w gwisgo yn ei chartref ac mewn eisteddfodau. Credai ei bod yn bwysig annog pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac i wisgo dillad nodweddiadol Gymreig. Llwyddodd yn hyn o beth, a hynny'n bennaf oherwydd fod pobl yn teimlo bod eu hunaniaeth genedlaethol o dan fygythiad. Roedd gwisgo gwisg genedlaethol yn un ffordd o hyrwyddo'r hunaniaeth honno.Dylanwad pellach oedd gwaith yr arlunwyr a gynhyrchai brintiau i'r fasnach ymwelwyr a oedd yn prysur dyfu, ac a arweiniodd at boblogeiddio'r syniad o wisg Gymreig draddodiadol, ac yn ddiweddarach waith y ffotograffwyr a gynhyrchai filoedd o gardiau post. Arweiniodd hyn at greu un math o wisg ystrydebol yn hytrach na'r steiliau amrywiol a geid yn gynharach yn y ganrif. O ble ddaeth y patrymau sydd ar 'siol Gymreig'?Rhwng 1840 a 1870 y siôl oedd y gyfwisg fwyaf ffasiynol. Y sioliau mwyaf poblogaidd oedd y sioliau Paisley, y daeth y patrwm gwreiddiol ar eu cyfer o Kashmir yn India.Y sioliau mwyaf cyffredin ar y cychwyn oedd sioliau plaen ag ymyl patrymog wedi'i gysylltu wrthynt. Yn ddiweddarch, cafodd llawer math o sioliau cain gyda phatrymau ar yr ymyl neu dros y cyfan eu gwehyddu yn Norfolk, yr Alban a Pharis. Erbyn canol y ganrif ceid sioliau mawr iawn i gyd fynd â sgertiau llawn y cyfnod. Câi sioliau eu gwneud mewn ffabrigau a phatrymau eraill, gan gynnwys sidan Canton a les cain a wnaed â pheiriant, er mai'r patrwm Paisley a sioliau gwlân cartref gyda phatrymau sgwarog a ddaeth yn boblogaidd yng Nghymru.Oedd menywod Cymreig yn gisgo siôl?Yn ddiweddarach, er nad oedd gwragedd ffasiynol bellach yn gwisgo sioliau, byddai gwragedd cefn gwlad a gweithwragedd y trefi'n dal i wneud a gwisgo sioliau llai o faint. Erbyn y 1870au cynhyrchid sioliau rhatach drwy brintio'r patrymau ar wlanoedd main neu gotwm. Roedd sioliau gwlân, gwau a Paisley'n gyffredin yn ardaloedd cefn gwlad Cymru hyd yn oed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Cafodd y siôl Paisley ei derbyn yn rhan o'r wisg 'Gymreig', er nad oes dim yn draddodiadol Gymreig yn ei chylch.A ddefnyddiwyd y siol Gymreig i gario babi? Un traddodiad sy'n wirioneddol Gymreig yw'r arfer o gario babanod mewn siôl . Ceir darluniau yn portreadu hyn o ddiwedd y ddeunawfed ganrif pan arferai gwragedd Cymru wisgo darn syml o ddefnydd wedi'i glymu am eu cyrff. Pan ddaeth sioliau'n boblogaidd gwnaed yr un defnydd ohonynt ac mae rhai gwragedd hyd heddiw yn dal i lynu at y traddodiad hwn. Darganfod mwy am Hanes Menywod Cymru.
Cwestiynau Cyffredin: Arwyddion cenedlaethol 14 Mehefin 2014 Baner y ddraig Goch a gynhyrchwyd gan Howell & Co ac a gyflwynwyd i Alldaith Capten Scott i Antarctica. Y Ddraig Goch Pam bod draig goch ar faner Cymru? Symbol herodrol Cymru yw'r Ddraig Goch a welir ar y faner genedlaethol. Yn ôl traddodiad, cariai Arthur faner a'r Ddraig Goch arni wedi i'w dad Uthr Bendragon weld draig yn yr awyr yn darogan mai ef fyddai'n frenin. Beth yw tarddiad symbol y ddraig goch? Yn ôl pob tebyg, y llengoedd Rhufeinig ddaeth â'r ddraig fel symbol i Brydain. Byddai beirdd Cymru yn yr Oesoedd Canol yn aml yn cymharu eu harweinwyr i ddreigiau, er mwyn canu clodydd i'w dewrder. Er enghraifft, disgrifiodd Gruffydd ab yr Ynad Coch y tywysog Llywelyn ap Gruffudd fel Pen dragon, pen draig oedd arnaw. Rhwng 1485 a 1603, roedd y ddraig i'w gweld ar arfbais teulu'r Tuduriaid, ond fe'i dilewyd hi o'r arfbais frenhinol ar orchymyn Iago I a rhoddwyd uncorn yn ei lle. Sut y daeth y ddraig goch yn symbol baner Cymru? Daeth y Ddraig Goch yn ôl i'r amlwg fel arwyddlun brenhinol Cymru yn 1807, ac yn raddol daeth i gystadlu â'r tair pluen estrys fel symbol o Dywysogaeth Cymru. Ar awgrym Gorsedd y Beirdd, cafodd ei chydnabod yn swyddogol gan y Frenhines yn 1959, ac fe'i defnyddir yn gyson bellach yn y faner genedlaethol. Y Genhinen a'r Genhinen Bedr Pam bod y genhinen yn symbol Cymreig? Ceir sôn yng ngherddi Taliesin yn y chweched ganrif a hefyd yn Llyfr Coch Hergest yn y 13eg ganrif am rinweddau'r genhinen fel llysieuyn lleol. Fe'i gwisgid gan filwyr o Gymru ym Mrwydr Crecy, ac erbyn 1536, pan rhoes Harri VIII genhinen i'w ferch ar Fawrth 1af, roedd cysylltiad eisoes rhwng y genhinen â Gŵyl Ddewi. Mae'n bosibl bod lliwiau teuluol y Tuduriaid - gwyrdd a gwyn - yn tarddu o liwiau'r genhinen. Pryd ddaeth y genhinen Bedr yn symbol cenedlaethol? Mabwysiadwyd y genhinen Bedr, neu'r daffodil, yn gymharol ddiweddar fel arwydd genedlaethol. Yn ystod y 19eg ganrif, daeth yn flodyn poblogaidd, yn arbennig gan ferched. Enillodd y genhinen Bedr ei phlwyf wedi i'r Prif Weinidog David Lloyd George ei gwisgo i seremonïau arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon ym 1911.
Traddodiadau'r Nadolig: Canu Plygain 14 Mehefin 2014 Bore'r NadoligMewn amryw rannau o Gymru, golygai'r Nadolig godi'n gynnar (neu aros i fyny dros nos) i fynd i'r gwasanaeth plygain yn eglwys y plwyf. Ymddengys i awr gychwyn y plygain amrywio rhwng tri a chwech y bore, a'r olaf o'r rhain yn dod yn fwy cyffredin gyda threigl amser.I aros y gwasanaeth byddai pobl ifanc, yn enwedig, yn ceisio llenwi'r oriau mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mewn ambell ardal gefn gwlad doent ynghyd mewn rhai ffermdai ar gyfer gwneud cyflaith a threulio'r noson yn llawen, gan addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd, fel ym Marford, sir Fflint, yn y 1830au. Yn ôl dyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai trigolion Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.Mewn mannau eraill, yn arbennig drefi gwledig, treulid yr amser yn chwarae ar hyd y strydoedd. Yn Ninbych-y-pysgod, sir Benfro, er enghraifft, ceid torfeydd yn cario ffaglau, bloeddio penillion a chwythu cyrn buchod, cyn terfynu drwy ffurfio gorymdaith ffaglau lle'r eid â'r rheithor o'i dy i'r eglwys gan wyr ifainc y dref. Cofnodwyd gorymdaith debyg yn Nhalacharn, sir Gaerfyrddin, a hefyd Lanfyllin, sir Drefaldwyn, lle y defnyddid canhwyllau yn lle ffaglau. Parti Llanrhaeadr yn canu carolau Plygain Canhwyllau PlygainYng nghefn gwlad mynychid plygain eglwys y plwyf gan bobl y ffermydd mwyaf anghysbell, hyd yn oed. Yn aml deuai pob unigolyn â'i gannwyll i gynorthwyo i oleuo'r eglwys - hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anghyffredin oedd cynnal gwasanaethau nos, fel nad oedd unrhyw ddarpariaeth oleuo, fel arfer. Yr oedd y goleuni llachar a roddai canhwyllau'r plygeinwyr yn nodwedd bwysig ar yr wyl.Yn Llanfyllin, ynghanol y ganrif o'r blaen, gwneid 'canhwyllau plygain' arbennig gan fasnachwyr lleol. Ar gyfer y gwasanaeth addurnid y tu mewn i'r eglwys â chanwyllerni crog yn dal canhwyllau lliw ac, yn Nolgellau, er enghraifft, wedi eu gwisgo â chelyn. Ym Maentwrog, sir Feirionnydd, yr oedd canhwyllau hefyd 'wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad.' Yn Llanfyllin 'goleuid yr adeilad â rhai cannoedd o ganhwyllau, wedi eu 1leoli fodfeddi er wahân, o gwmpas y muriau y tu mewn, gan beri i'r adeilad ddisgleirio.' Ym Maentwrog, y 'carolwyr a ganai yn yr oriel fechan ym mhen-y-twr i'r eglwys' a deuent â'u canhwyllau eu hunain, gan ei bod yn rhy dywyll yn y rhan honno o'r adeilad i ddilyn y gwasanaeth yn y Llyfr Gweddi Cyffredin.Er yn ddiau i'r arfer amrywio ychydig o blwyf i blwyf, ymddengys i oleuni llachar yr eglwys wneud argraff barhaol ar gof y rhai a adawodd inni ddisgrifiadau, ac iddo fod yn nodwedd drawiadol ar y plygain traddodiadol. Fel yr awgrymodd Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn arwyddocad ysbrydol goleuo canhwyllau ar y Nadolig fel sumbol o ddyfodiad Goleuni'r Byd.Y GwasanaethAm y plygain ei hunan, ffurf dalfyredig ar y gwasanaeth boreol ydoedd, â charolau gan unawdwyr a phartion yn rhan ohono ac yn ei ddilyn. Disgrifiodd William Payne y plygain yn Nolgellau, fel yr adwaenai ef ynghanol y ganrif o'r blaen, gyda'r geiriau canlynol:'Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail, a heb gymorth annaturiol gan bib-draw, y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd. Yna saif y Rheithor da, a'i gurad, Dafydd Puw, a darllen y Gwasanaeth Boreol yn fyr, gan orffen â'r weddi dros Bob Cyflwr ar Ddynion, a'r fendith - aflonydd ac ymchwyddol, braidd, yw'r gynulleidfa yn ystod y gweddiau - a rhaid i'r Rheithor weithiau dorri'n sydyn ar ei waith i edrych yn syth tuag at ryw ran neu bersonau, ond heb gerydd llafar. A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.'Ym Maentwrog cynhwysid pregeth yn y gwasanaeth plygain, ond gofalai'r rheithor am gadw'r bregeth a'r gwasanaeth yn gwta, gan ei fod yn amlwg yn teimlo mai'r prif atyniad oedd nid y gwasanaeth ond y canu carolau a'i dilynai. Mewn lleoedd eraill, fel Llanfair Dyffryn Clwyd, rhoid y Cymun Bendigaid yn ystod v plygain.Goroesiad cyn-DdiwygiadO'i weld yn ei gefndir hanesyddol, goroesiad yw'r plygain o wasanaeth Nadolig cyn-Ddiwygiad a addaswyd i ateb yr amgylchiadau Protestannaidd newydd. Dengys Richards fod 'plygain' yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn dynodi gwasanaeth boreol cyffredin ac mai'n ddiweddarach yn unig y'i cyfyngwyd i gyfeirio at y gwasanaeth bore Nadolig. Awgryma i'r plygain ddisodli offeren ganol-nos Nadolig y cyfnod Pabyddol ac iddo gysylltu'n wreiddiol â gwasanaeth cymun a gynhelid yn ddiweddarach ar fore Nadolig. O leoli'r gwasanaeth cymun am wyth o'r gloch diweddwyd yr hen berthynas rhwng y plygain (boreol) am chwech, saith neu wyth o'r gloch a'r Uchel-Offeren am naw neu ddeg o'r gloch.Wedi'r Diwygiad, lle nas cynhwyswyd yng ngwasanaeth Nadolig Lladin yr eglwys, derbyniwyd canu carolau yn yr iaith lafar i wasanaeth bore-bach y Nadolig, a daeth yn atyniad pennaf y plygain, fel y dengys disgrifiadau'r ganrif o'r blaen yn eglur. Tynnodd John Fisher sylw at y tebygrwydd rhwng Oiel Verrey, a geid ar Ynys Manaw am ddeuddeg ar Noswyl Nadolig, a'r plygain yng Nghymru. Dengys i'r ddau wasanaeth ennill poblogrwydd fel gwyliau canu carolau yn fuan wedi cyfieithu'r Beibl i'r ddwy iaith frodorol.Yn lle diflannu o dan ddylanwad Anghydffurfiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu'r plygain yn un o'r ychydig wyliau eglwysig traddodiadol nas gollyngwyd gan y capeli, er newid cymeriad y gwasanaeth weithiau, drwy ei wneud yn amrywiad ar y cwrdd gweddi cyffredin a geid ar nosau gwaith. Fel arfer cyffredinol, darfu plygain boreol y Nadolig tua diwedd y ganrif ddiwethaf, er iddo barhau'n ddiweddarach mewn ambell achos. Swper Plygain yn Ffermdy Cefn Llwyn, Llangynyw Canu Plygain yng Ngogledd CymruYn y gorffennol, 'roedd y traddodiad o ganu carolau yn gryf trwy bob rhan o'r gogledd. Erbyn heddiw, fodd bynnag, pery'r traddodiad ar ei fwyaf bywiog yn yr ardal a amgylchynir gan Fallwyd, Llanerfyl, Cefnyblodwel (yn Lloegr) a Llangynog. I ddieithryn, profiad anghyffredin yw mynd i blygain yn yr ardaloedd hyn. Am awr a hanner i ddwy awr, bydd trefn y cyfarfod yn gyfangwbl yn nwylo'r carolwyr. Nid oes cyflwynydd nac arweinydd. Ni ddywed neb yr un gair, eithr cyfyd y partion yn eu tro gan gerdded ymlaen yn dawel a phwyllog i'r "sgwâr" i ganu. Ar gyfartaledd bydd o ddeg i bedwar ar ddeg o bartion yn bresennol. Fe glywir o ugain i ddeg ar hugain o garolau yn ystod y gwasanaeth, y cwbl yn Gymraeg a'r cwbl hefyd yn wahanol, gan ei bod yn egwyddor osgoi ailganu unrhyw garol.Addaswyd a chyfieithwyd o Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs (Caerdydd, 1959), tt. 28-33.