Llwyau caru 25 Ionawr 2024 Mae'r traddodiad o wneud llwyau caru'n deillio o gyfnod pan ddefnyddiai'r Cymry cyffredin lestri pren i fwyta.Mae casgliad llwyau caru Amgueddfa Cymru yn llawn esiamplau addurnedig cain, hanesyddol a modern. Mae'n dilyn y newid yn y grefft o'u cynhyrchu dros amser ac yn dangos amrywiaeth eang mewn steil a dyluniad, pob un yn arddangos gwaith crefft o'r safon uchaf.Mae cyflwyno llwy wedi'i cherfio'n gain yn rhodd i anwylyd wedi bod yn arfer poblogaidd yng Nghymru ers oes. O lwy hynaf yr Amgueddfa, sydd wedi'i dyddio i 1667, i waith cyfoes crefftwyr llwyau adnabyddus heddiw, mae safon y llwyau yn brawf o ddawn ac ymroddiad y gwneuthurwr wrth greu gwrthrych i'w drysori gan eu câr. Yn ôl y traddodiad byddai dynion ifanc yn gwneud llwyau caru o un darn o bren, ac yn eu rhoi i'w cariadon fel arwydd o'u cariad. Rhoddion rhamantEr taw prin yw'r ffynonellau hanesyddol, y gred gyffredinol yw y byddai dyn yn cerfio llwy garu a'i chyflwyno i'r ferch oedd wedi mynd âi fryd fel rhodd rhamantus. Mae'r esiamplau o'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n sail i gasgliad yr Amgueddfa yn llawn teimlad ac angerdd y cerfwyr oedd am greu gwaith celf oedd yn deilwng o'u cariadon.Offer syml fel cyllyll poced bach fyddai'n cael eu defnyddio i greu'r llwyau, a hynny o un darn o bren yn ddelfrydol. Roedd pren â graen clos yn hynod boblogaidd, fel sycamorwydden, bocsen a choed ffrwythau.Er bod poblogrwydd yr arfer wedi amrywio dros y degawdau, mae'r grefft wedi goroesi ac yn cael ei harfer heddiw gan do newydd o grefftwyr sydd â'u bryd ar gynnal y grefft.Yn draddodiadol, rhoddion rhamantaidd oedd llwyau caru, ond heddiw cant eu rhoi yn aml i goffau digwyddiadau arbennig – priodas a phen-blwydd, bedydd a phen-blwydd priodas. Bu newid sylweddol yn eu swyddogaeth dros y blynyddoedd – yn enwedig o ganol yr ugeinfed ganrif a'r twf yn y galw am esiamplau wedi'u masgynhyrchu.SymbolaethBu newid hefyd yn ddiweddar yn symbolaeth y llwyau, gyda symbolau Celtaidd a chenedlaethol fel y cennin Pedr a dreigiau yn cael eu defnyddio i gyfleu hunaniaeth Gymreig. Mae hyn yn creu cyferbyniad â'r ystyr ramantus wreiddiol – y calonnau, y diemwntau a'r olwynion.Mae llwyau caru yn cyfleu ein meddyliau a'n teimladau o hyd ac mae cerfwyr hyd heddiw sy'n driw i'r traddodiad gwerin, yn creu llwyau i gomisiwn neu fel anrhegion i deulu a ffrindiau.Crefft yw hon sy'n parhau i esblygu a chrefft sy'n siŵr o lawenhau ac ysbrydoli am genedlaethau i ddod.O weld amrywiaeth eang y dyluniadau yng nghasgliad yr Amgueddfa, mae'n amlwg bod gan y cerfwyr rwydd hynt i addurno eu llwyau. Er bod pob llwy yn unigryw, gyda llythrennau neu ddyddiadau sy'n personol i'r derbyniwr yn aml, dros amser, datblygwyd cyfres o symbolau a ddefnyddiwyd i gyfleu syniadau a theimladau rhamantus. Gellir dehongli'r symbolaeth hon mewn amryw ffyrdd wrth gwrs, a dim ond dychmygu gwir deimladau'r cerfiwr wrth ei waith allwn ni.Calonnau Symbol cariad ym mhob cwr o'r byd a welir yn aml ar lwyau caru Cymreig. Arwydd o angerdd ac emosiwn dwfn sy'n sicr yn cyfleu dwyster teimlad y cerfiwr at ei anwylyd. Mae'n bosibl bod llwy â dwy galon ddangos cariad cytun rhwng y crefftwr a'r derbyniwr.Powlenni dwbl Yn achlysurol cai llwyau caru eu cerfio gyda dwy bowlen neu fwy, gan ddangos, o bosibl, undod yr eneidiau cytun neu nifer y plant y bwriedir eu cael.Coma neu siâp persli Siâp sydd i'w weld yn aml ar lwyau caru Cymreig hanesyddol y dwedir ei fod yn cynrychioli'r enaid a serch dwys.Peli mewn cawell Credir bod peli wedi'u cerfio mewn cewyll yn cynrychioli nifer y plant y bwriada'r cerfiwr eu cael, ond gall hefyd gynrychioli gŵr sy'n gaeth gan ei gariad.Cadwyni Caiff rhain eu hystyried fel arwydd o deyrngarwch a ffyddlondeb, ond gallant hefyd fod yn arwydd o gwpl wedi'i clymu gan eu cariad a'u ffyddlondeb.Diemwntau Credir bod diemwntau yn dymuno llewyrch ac yn addewid i ddarparu'n dda i'ch cariad.Allweddi a thyllau clo Yn ogystal â'r tŷ, gwelir delweddau eraill ar lwyau caru Cymreig weithiau sy'n arwydd o gartref dedwydd – mae allweddi a thyllau clo yn cael eu cerfio'n aml er mwyn cyfleu diogelwch, neu'r syniad rhamantus o allwedd y galon.Olwyn Mae olwynion i'w gweld yn aml ar lwyau caru Cymreig a dywedir eu bod yn brawf o addewid y cerfiwr i weithio'n galed ac arwain ei gymar drwy fywyd.Gwnewch eich llwy garu rhithiol eich hun. Llwyau caru Llwy garu gydag agoriad siâp calon ar y ddolen Llwy garu gyda phanel yn cynnwys cynlluniau geometrig Llwy garu gyda'r arysgrif 'MI 1721' Llwy garu gyda chalonnau a phatrymau geometrig eraill Llwy garu â phanel a gwaith cerfio Dwy lwy garu trwm yn hongian o banel dwy-ddolen Llwy garu, gyda phanel pren a dwy bowlen Llwy garu â phowlen ar bob pen Llwy garu, dyddiedig 1735 Llwy garu gyda'r enw John ar y ddolen Llwy garu wedi ei cherfio ar ffurf sarff ac aderyn Llwy garu wedi ei cherfio Fforc bren sydd yn cynnwys arysgrif, 19eg ganrif Llwy garu wedi ei cherfio â gwahanol gynlluniau Llwy garu gyda chynlluniau calonnau a gwaith cerfio Cymerwch olwg ar ein siop ar lein am syniadau Dydd Santes DwynwenYmweld â'r siop ar-lein
Yr Het Gymreig - Ddoe A Heddiw Niamh Rodda, 27 Gorffennaf 2023 Hetiau bach o’r 1860au gan yr hetiwr o Gymru, John Evans. Mae’r Het Gymreig yng nghanol y llun. Mae hetiau’n aml yn wleidyddol. Hawdd fyddai cymryd yn ganiataol mai gwarchod pen rhag y tywydd yw eu hunig bwrpas, ond o feddwl ychydig am y peth, fe welwch eu bod yn llawer mwy na hynny. O gap pig coch ‘Make America Great Again’, i gapiau cochion y Chwyldro Ffrengig, i unrhyw hetiau milwrol - mae hetiau’n cael eu defnyddio’n aml i nodi ar ba ochr ydych chi. Mae hetiau, fel sy’n wir am bob ffasiwn, yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth enfawr o ffyrdd i gyfathrebu ag eraill, a gallan nhw ddynodi ystod o wybodaeth wrthon ni: cenedligrwydd, rhywedd, diddordebau a hunaniaeth. Mae’r het yn aml yn gysylltiedig â hunaniaeth grŵp; mewn torf o bobl gall yr het fod yn ddynodwr allweddol ac os caiff ei gwisgo gan grŵp mawr o bobl gall greu delwedd drawiadol. Mae’r Het Gymreig, a oedd yn cael ei gwisgo’n draddodiadol gan ferched, yn gwneud yn union hynny, ac mae ei chorun du tal a’i chantel caled yn creu edrychiad unigryw a thrawiadol sydd wedi cael ei ddefnyddio fel symbol o Gymreictod ers amser maith. Cyn yr Het GymreigMae yna gred gyffredin mai dyfais Fictoraidd oedd yr het Gymreig a’r wisg genedlaethol – rhan o dreftadaeth Gymreig ddychmygol – ond mae digon o dystiolaeth yn mynd yn ôl ganrif ynghynt sy’n dweud fel arall wrthon ni. Mae’n bosib bod y Fictoriaid wedi curadu fersiwn benodol o’r wisg Gymreig ac wedi cadarnhau’r syniad ohoni fel ‘Gwisg Genedlaethol Gymreig’ ond roedd y dillad eu hunain, gan gynnwys yr het, wedi bod yn cael eu gwisgo ers yn llawer hirach.Cyn i’r Het Gymreig fod yn Gymreig, dim ond het oedd hi. Roedd hetiau â chorun uchel wedi’u gwneud o ffelt neu ffwr befar yn boblogaidd mewn llawer o wledydd ar un adeg. Roedd dynion a merched ledled Prydain yn ystod ail hanner y cyfnod Elisabethaidd yn gwisgo hetiau o’r fath i deithio ac i farchogaeth, ac yna mabwysiadwyd fersiwn â chantel lletach, sef ‘steil cafalîr’, gan y dosbarth canol yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg. Ar yr adeg yma roedd hetiau’n symbol pwysig o statws. Ffwr befar oedd y defnydd o safon a fyddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer hetiau ffelt, ond roedd ffeltio’r ffwr yn anodd ac yn gostus ac o 1670 ymlaen, roedd y cynnyrch yn aml yn cael ei fewnforio o America. Mae Samuel Pepys yn nodi yn ei ddyddiadur ym 1661 fod het befar wedi costio 45 swllt iddo. O tua 1640 i 1660 daeth fersiwn o’r het befar gyda chorun tal, sef yr het bigfain, yn boblogaidd, a oedd yn edrych yn debyg iawn i’r hyn y bydden ni’n ei ystyried yn het Gymreig heddiw. Heddiw mae hetiau o’r steil yma’n cael eu cysylltu’n gryf â’r Piwritaniaid a’r pererinion i America, oherwydd eu dyluniad syml, di-addurn. Felly hyd yn oed 400 mlynedd yn ôl, roedd yr het yn llawn ystyr, o gyfoeth a dosbarth i dueddiadau gwleidyddol a chrefyddol. Ni a NhwTra bod yr het bigfain ddu, ynghyd â nodweddion eraill rydyn ni’n eu cysylltu heddiw â’r wisg genedlaethol, yn gyffredin ledled Ewrop ac America yn yr ail ganrif ar bymtheg, yn y ddeunawfed ganrif y gwelwn wahaniaeth mewn steil. Tra bod tueddiadau ffasiwn mewn mannau eraill yn newid, roedd y werin yng Nghymru yn dewis cadw’r ymddangosiad hŷn yma. Wrth i ffasiwn newid yn gyflym yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif, roedd y ffaith bod y dosbarthiadau is yng Nghymru yn ymwrthod â’r steiliau newydd (boed hynny’n fwriadol neu oherwydd diffyg arian) yn golygu bod gwahaniaeth nodedig yng ngwisg y dosbarthiadau is yng Nghymru o gymharu â’u cyfoedion yn Lloegr. Mae hyn yn cael ei ddogfennu mewn nifer o adroddiadau gan deithwyr o Loegr a wnaeth sylwadau ar y gwahaniaeth mewn dillad rhwng y Saeson a’r Cymry, ac ymhlith y rhain mae disgrifiadau o het ddu uchel a oedd yn cael ei gwisgo gan ferched. Paentiad gan Julius Caesar Ibbetson, Gwisgoedd Castellnewydd Emlyn, 1792 Arlunydd o Loegr oedd Julius Caesar Ibbetson a greodd nifer o weithiau yn cyfleu golygfeydd o fywyd Cymreig ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Drwy’r gweithiau hyn, gellir gweld delwedd amlwg o ferched dosbarth gweithiol Cymru. Mae’r paentiadau’n cyfleu gwisg sy’n wahanol i’r hyn a oedd yn wisg ffasiynol ledled Ewrop yn ystod y 1790au, ac mae bron pob un o’r gweithiau’n cynnwys merched yn gwisgo’r hyn y gallwn ei ystyried yn amrywiad cynnar o’r het Gymreig. Yn Gwisgoedd Castellnewydd Emlyn o 1792, mae pob un o’r 14 o ferched yn yr olygfa, yn ogystal â’r ddau blentyn, yn cael eu darlunio’n gwisgo hetiau ag ymylon du sydd bron yn union yr un fath â’i gilydd. Er bod yr hetiau’n fyrrach ac yn llai caled na’r hyn rydyn ni’n ei ystyried yn het Gymreig heddiw, mae yna debygrwydd amlwg o ran steil. Yn yr arysgrif o dan y paentiad dyfrlliw, mae Ibbetson yn nodi “peculiar drefs and costume of the peasantry, in the district around Newcastle Emlyn in Pembrokeshire.” Yma mae’r arlunydd o Loegr yn tynnu sylw at y ffaith fod gwisgoedd merched Cymru yn dra “hynod” iddo o’u cymharu â gwisgoedd yn Lloegr. Mae’r gwisgoedd hyn hefyd yn debyg i’r hyn y byddai rhywun yn ei feddwl amdano heddiw fel y wisg genedlaethol Gymreig, gyda’u patrymau streipiog a brith, a’u siolau a’u ffedogau. Yn ogystal â golwg nodedig y wisg, yr hyn sy’n rhyfeddol yw unffurfiaeth yr hetiau ymhlith yr holl ferched. Ar yr adeg yma roedd amrywiaeth eang o steiliau mewn hetiau, bonedau, capiau, tyrbanau, ategolion gwallt, wigiau a steiliau gwallt a dewis enfawr o addurniadau i’w hychwanegu gan gynnwys blodau, rhubanau a phlu. Fodd bynnag, yng ngweithiau Ibbetson, gwelwn un steil du di-addurn.Roedd y Cymry’n ymwybodol o unffurfiaeth drawiadol y wisg Gymreig, a daeth yn symbol strategol o bŵer torfol. Yn ôl yr hanes enwog, dywedir ei fod wedi helpu i drechu pwerau milwrol goresgynnol hyd yn oed. Ym 1797, glaniodd llongau rhyfel Ffrainc yn Sir Benfro yn yr hyn a elwir yn Frwydr Abergwaun. Mae sawl adroddiad yn dogfennu sut y bu i gannoedd o ferched mewn siolau coch a hetiau befar du Cymreig sefyll ar hyd yr arfordir y tu ôl i fyddin Prydain gan greu’r ddelwedd o bell eu bod nhw hefyd yn filwyr; arweiniodd hyn i’r Ffrancwyr ildio’n ddiamod. Yn sgil hyn, ystyriwyd bod y wisg genedlaethol Gymreig yn symbol o gryfder ac undod, a daeth yn rhan o etifeddiaeth Gymreig falch a chafodd ei gwreiddio yn hanes y genedl. Gwisg Genedlaethol Atgynhyrchiad o 1931 o gardiau post “Dull-wisgoedd Cymru/Cambrian Costumes“ gan Arglwyddes Llanofer ym 1834 (wedi'i docio) Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd yr het Gymreig a gweddill y wisg Gymreig i fod â steil sydd hyd yn oed yn fwy diffiniedig. Cyn hynny, nid yr het Gymreig oedd yr unig het oedd yn cael ei gwisgo o bell ffordd, yn rhannol gan ei bod yn ddrytach na hetiau ffelt neu wellt eraill. Roedd llawer o amrywiadau lleol ar yr het Gymreig hefyd; roedd yr het uchel yn boblogaidd mewn trefi mwy fel Caerdydd, Bangor a Chaerfyrddin, tra bod hetiau gwellt is gyda chorun gwastad yn boblogaidd ym Mhenrhyn Gŵyr, gan eu bod yn caniatáu i ferched gario basgedi cocos ar eu pen ac yn fwy addas ar gyfer y tywydd gwyntog. Ond dros y ganrif, byddai’r het yn cael ei newid i’r edrychiad mwy unigol, safonol ac unffurf rydyn ni’n meddwl amdani heddiw fel yr het Gymreig.Arglwyddes Llanofer (1802 i 1896) oedd y person a ddylanwadodd yn fawr ar y defnydd o’r wisg Gymreig draddodiadol, a bu’n gweithio’n ddiflino i hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Ysgrifennai’n helaeth am y wisg Gymreig, a chynhyrchodd gyfres o ddarluniau ar y testun, a chanddi hi y cawn y traddodiad o wisgo’r wisg genedlaethol ar Ddydd Gŵyl Dewi. Er nad Arglwyddes Llanofer a ddyfeisiodd y wisg genedlaethol Gymreig, gweithiodd yn galed i ddod â’r wisg o gyfyngau’r dosbarth gweithiol, i gymdeithas y dosbarth uwch, gan fynnu bod yn rhaid i westeion i’w phartïon wisgo’r wisg genedlaethol hyd yn oed.Ym 1832, daeth y Dywysoges Fictoria (cyn bod yn frenhines) a’i mam ar ymweliad i’r gogledd, ac yn eu coets roedden nhw’n gwisgo hetiau Cymreig wrth basio drwy Fangor ‘i dalu teyrnged i forwynion hardd Cymru’. Felly erbyn hyn, gallwn weld y trawsnewidiad llwyr o wisg draddodiadol y werin i’r wisg genedlaethol ffasiynol ar gyfer pob dosbarth. Yn y ganrif honno felly, mae’r het a’r wisg genedlaethol yn dod yn ddillad ffurfiol smart. Roedd merched yn dewis gwisgo eu gwisg orau wrth werthu eu nwyddau yn y farchnad, yn ogystal ag ar y Sul i’r eglwys a’r capel. Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddai llawer o gystadlaethau’r Eisteddfod yn cynnig gwobr am yr het Gymreig orau hyd yn oed. Yn ystod y ganrif hon, mae’r het Gymreig wedi dod yn symbol o falchder cenedlaethol. Wrth ddisgrifio’i chyfnod yn y gorllewin, ysgrifenna’r llenor o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Marie Trevelyan, ym 1893: “Yno, mae’r het befar yn dal i gael ei gwisgo o hyd gan rai o’r merched prydferthaf a glanaf yn y dywysogaeth. Maen nhw’n ferched trwsiadus iawn”.Mae’n anodd nodi’n union pryd rhoddwyd y gorau i wisgo’r het Gymreig o ddydd i ddydd oherwydd poblogrwydd aruthrol delwedd yr ‘hen fenyw Gymreig’. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif roedd y wisg Gymreig wedi newid o fod yn ddillad arferol, i wisg o Gymreictod ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus a thwristiaeth. Daeth delwedd y Wisg Genedlaethol Gymreig yn thema doreithiog ar gardiau post, cofroddion, a thwristiaeth yn nhrefi glan môr Cymru. Felly roedd pobl yn parhau i wisgo’r Het Gymreig ond roedd ei hystyr wedi newid unwaith eto.Het i Bawb Ar hyd y canrifoedd, roedd y defnydd o’r het Gymreig yn symud yn ôl ac ymlaen o ran steil, o’r werin i’r teulu brenhinol. Nid dosbarth oedd yr unig ffin ddiwylliannol yr oedd yr het yn ei chroesi. Mae’r het hefyd wedi mynd y tu hwnt i ffiniau dillad rhywedd. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, roedd y steil yma o het yn cael ei hystyried i raddau helaeth yn het i ddynion, a oedd yn dderbyniol yn gymdeithasol i ferched ei gwisgo yng nghyd-destun marchogaeth a theithio yn unig (gweithredoedd a oedd yn aml yn cael eu hystyried fel rhai gwrywaidd) ac eto yng Nghymru, mae’n ymddangos bod y drefn honno’n cael ei hanwybyddu. Yn y ddeunawfed ganrif, roedd llawer o ddisgrifiadau Saesneg am ferched yng Nghymru yn gwisgo mewn modd ‘hynod’, ac yn nodi eu bod yn gwisgo ‘hetiau dynion’. Mynychodd Mary Yorke, teithiwr i Gymru ym 1774, wasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a sylwodd ar hen wraig gyda “sgarff dros ei phen a het fel het i ddynion”. Er gwaethaf hyn, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, roedd yr het Gymreig wedi dod yn eitem oedd â chysylltiad cryf â bod yn fenyw Gymreig. Er bod hetiau Cymreig yn cael eu hystyried yn draddodiadol fel dilledyn i ferched, mae bellach yn ddilledyn sy’n herio’r deuaidd yn fwyfwy, gydag artistiaid cwiar cyfoes yn benodol yn defnyddio’r het yn eu gwaith fel symbol cenedlaethol y gall unrhyw un ei gwisgo. Felly, mae’r het a ddechreuodd yn ôl pob tebyg fel het dyn yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac a fabwysiadwyd wedi hynny gan ferched, unwaith eto yn llwyddo i orchfygu’r rhywedd deuaidd yn y rhai sy’n ei gwisgo heddiw. Ac felly, wrth i’r pendil ffasiwn symud o un pen o’r sbectrwm i’r llall, rydyn ni’n ei weld yn dechrau siglo’n ôl heddiw.Nid yw’r berthynas ddeinamig yma rhwng y Cymry, dillad, a rhywedd yn rhywbeth newydd. Yn y 1800au, roedd merched a oedd yn gweithio yn y pyllau glo yn gwisgo dillad bechgyn, gan gynnwys trowsus, er mwyn gallu cropian drwy’r pyllau. Yn ystod Terfysgoedd Beca gwelwyd dynion yn gwisgo dillad merched mewn protestiadau treisgar, ac fel y soniwyd eisoes, cafodd merched mewn gwisg Gymreig eu camgymryd fel milwyr Prydeinig yn ystod Brwydr Abergwaun. Mae’r Het ei hun, mewn sawl ffordd, yn eitem androgynaidd - mae ei nodweddion du ac onglog llyfn yn llawer tebycach i eitemau gwisg gwrywaidd nodweddiadol fel siwt a het silc na llawer o ddillad benywaidd traddodiadol. Mae ei nodweddion onglog yn aml yn gwrthgyferbynnu â’r cap gwyn â ffrils a lesys oddi tano. Efallai mai dyma’n rhannol pam ei bod yn bwnc mor ddiddorol i lawer o artistiaid cwiar heddiw. Ffotograff o berfformwyr o’r grŵp Dawns Gyfoes Qwerin. Ffotograff gan Sioned Birchall. Yn y grŵp perfformio dawns gyfoes Qwerin, sy’n cael ei gyfarwyddo a’i goreograffu gan Osian Meilir, mae perfformwyr yn asio dawns werin draddodiadol Gymreig ag egni’r bywyd nos cwiar. Mae’r perfformwyr yn gwisgo ffurf wedi’i haddasu o’r wisg genedlaethol, ynghyd â hetiau Cymreig hynod o fawr, sy’n hongian drosodd ac yn cuddio llawer o wynebau’r perfformwyr, gan eu gorfodi i edrych allan drwy dyllau wedi’u torri allan yn ochr yr het. Mae’r gwisgoedd hyn, a ddyluniwyd gan Becky Davies, yn adrodd stori weledol drawiadol. Mewn dyfyniad gan Osian am y perfformiad maen nhw’n dweud:“Mae’r het yn creu rhyw fath o bresenoldeb, sy’n rhoi ymddangosiad sinistr a dirgel i ni. Mae’r hetiau, sy’n symbol o ddiwylliant Cymreig, yn cyfleu’r union bethau sy’n ein cyfyngu rhag symud ymlaen yn gorfforol at ddawnsio mwy egnïol a llawen. Drwy dynnu’r hetiau yma rydyn ni’n dileu’r blynyddoedd o gywilydd, baich a gormes, gan dorri cysylltiadau â disgwyliadau a chyfyngiadau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae aduno a chyfarch yr hetiau tua diwedd y gwaith yn weithred o dderbyn, derbyniad o’n hunaniaeth ein hunain. Rydyn ni’n croesawu’r hetiau yma’n ôl i’n breichiau fel symbol o ddilyniant, undod, cytgord a newid; symud gyda’n gilydd i ddyfodol newydd, Cymru gwiar.”Mewn geiriau eraill, mae’r het wedi dod yn symbol o hen Ddiwylliant Cymreig, ond yn hytrach na symbol y gellir gadael iddo lithro i ffwrdd, yn symbol y gellir ei ailfywiogi gydag ysbryd cyfnod newydd o hunaniaeth Gymreig. Seicoleg HetiauMae’r Het yn eistedd mewn man amlwg ar y gwisgwr, mae’n fframio’r wyneb ac mae modd i’r gwisgwr ei gweld yng nghornel eu llygaid. Mae hyn yn golygu y gallan nhw ddod yn arfau pwerus yn y ffordd rydyn ni’n gweld ein hunain. Wrth drafod hetiau, dywedodd y golygydd ffasiwn, Isabella Blow, sy’n adnabyddus am wisgo hetiau: “Mae ffasiwn yn beth fampiraidd, hwn yw’r hwfer ar eich ymennydd. Dyna pam dw i’n gwisgo’r hetiau, i gadw pawb draw oddi wrtha i.” Mae Isabella yn cyfeirio at ofynion cymdeithasol ffasiwn a chydymffurfiaeth, sy’n gallu bod yn ormesol, a sut gall chwarae ar y meddwl; fel gwrthbwynt i hyn, mae’r het yn cyflawni rôl tarian feddyliol a chorfforol. Mae het ag ymylon llydan yn creu ac yn mynnu pellter corfforol rhwng pobl, ac yn gwneud yr un peth yn seicolegol hefyd, gan greu gwahaniaeth amlwg rhwng y sawl sy’n ei gwisgo a’r rhai nad ydyn nhw’n ei gwisgo. Yn ei hanfod, mae gan het y potensial i greu ymdeimlad o wahanu a hunaniaeth annibynnol rhwng y gwisgwr a’r llall. Gall hyn roi cipolwg ar lwyddiant yr het Gymreig, fel tarian amddiffynnol, mae’n symbol o warchod diwylliant a threftadaeth Cymru. Yn olaf, mewn dyfyniad arall gan Isabella, mae’r ymdeimlad cynhenid o hunaniaeth sy’n gysylltiedig â’r het yn cael ei atgyfnerthu. “Dydw i ddim yn defnyddio het fel prop, dw i’n ei defnyddio fel rhan ohona i. Os ydw i’n teimlo’n isel, dw i’n mynd i weld Philip (Treacy), yn gorchuddio fy wyneb, ac yn teimlo’n wych”. Felly mae sut mae rhywun yn gwisgo yn effeithio nid yn unig ar sut mae eraill yn eich gweld, ond sut rydyn ni’n gweld ac yn teimlo amdanon ni ein hunain. Os yw dillad yn estyniad o’n hunain, yna mae caru’r dillad rydyn ni’n eu gwisgo yn creu potensial i’n helpu ni i weld ein hunain yn wahanol. Yn achos yr het Gymreig gall fod yn symbol o gryfder, cenedligrwydd, a balchder. I’r rhai sy’n gwisgo’r Het Gymreig heddiw, boed wrth ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, fel rhan o wisg dawns yn yr Eisteddfod, neu am hwyl, mwynhewch wisgo’r Het i’ch helpu i deimlo’n wych ac i’ch cysylltu â 400 mlynedd o hanes a treftadaeth Cymru. Cyfeiriadau / Darllen PellachBritish Vogue, Isabella Blow, Bibby Sowray. 4 Tachwedd (2011)Folk life, Welsh Peasant Costume, F. G. Payne. cyfrol II (1964) Textile history, Welsh peasant dress-workwear or national costume?, Christine Stevens. 33 (I) (2002)The costume accessories series, Hats, Fiona Clark. (1982)Welsh Costume, Ken Ethridge. (1958)Women in Welsh History, Derek Draisey. (2004)Women’s Headdress and Hairstyles in England from A.D.600 to the Present Day, Georgine de Courtais.(1986)Dolenni gwehttps://www.osianmeilir.com/qwerinBBC Two - Welsh Icons, The Welsh hat in historyWelsh Costume / Gwisg Gymreig | Welsh costume – descriptions, illustrations, surviving examples, 1700-1950 (wordpress.com)
Ail-adeiladu gwesty’r Vulcan Dafydd Wiliam, 15 Mehefin 2023 Cefnogwch project Gwesty'r Vulcan Cyfrannu Nawr Ffasâd y Vulcan a elwir yn 'At present' yn 1914. Ffasâd y Vulcan a elwir yn 'Proposed' yn 1914. Cofrestrwyd tafarn y Vulcan fel ‘ale house’ am y tro cyntaf ym 1853. Erbyn iddi gael ei datgymalu gan yr Amgueddfa yn 2012 gwelwyd sawl cyfnod o addasiadau. Roedd gwaith addasu 1901 ac 1914 mor sylweddol fel bod rhaid ceisio am ganiatâd cynllunio drwy Gyngor y Sir. Heddiw, mae’r cynlluniau yn Archifdy Morgannwg.Mae’r cais cynllunio o 1914 yn cynnwys dau ddarlun (does dim darlun o’r ffasâd ar y cais o 1901) – labelwyd un darlun yn At present, a labelwyd y llall yn Proposed. Does dim esboniad ysgrifenedig wedi goroesi i gyd-fynd â’r darluniau. Serch hynny, wrth edrych yn fanwl mae modd bwrw mwy o olau ar y newidiadau arfaethedig. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg yw’r cynnydd ar y llawr cyntaf o ddwy ffenest i bedair, a chodi pileri newydd o frics coch naill ochr. Gwaredwyd y parapet oedd o flaen y to – sydd i’w weld fel cyfres o linellau llorweddol uwchben y ffenestri, ac fe addaswyd y simneiau a gosodwyd to newydd o lechi. Bu un newid arall, sydd ddim yn amlwg yn y darlun, a hwn oedd y newid mwyaf yn hanes y Vulcan – cynyddwyd uchder yr adeilad yn sylweddol. Mae’r darlun gwreiddiol yn dangos y dafarn yn rhannu to gyda’i gymdogion, lle mae’r darlun arfaethedig yn dangos adeilad cryn dipyn yn dalach na’r cymdogion.Doedd dim bwriad i newid strwythur y ffasâd llawr gwaelod – dau ddrws, a dwy ffenest wedi eu rhannu yn ddwy a ffenestri linter (fanlights) uwch eu pen. Ond, wrth edrych yn fanwl mae modd gweld bod nifer o wahaniaethau allweddol, a digon i awgrymu fod y ddau ffasâd yn rhai gwahanol. Yn y darlun gwreiddiol mae dau banel hirsgwar o dan bob ffenest, ond yn y darlun arfaethedig dim ond un sydd. Mae’r nifer o baneli drws yn wahanol hefyd. Yn y darlun gwreiddiol, naill ochr i’r ffenestri mae’r pileri yn rhai rhychiog ac yn gorffen cyn cyrraedd y ffris. Dyw’r pileri ddim yn rhychiog yn y darlun arfaethedig ac maent yn cario ymlaen mewn i’r ffris nes cyrraedd y cornis uwch ei ben. Mae’r darlun arfaethedig hefyd yn dangos tri ffenest linter uwch ben pob gwydr ffenest, lle mae saith yn y darlun gwreiddiol. Dyw’r terfyniad addurniadol ddim i’w weld yn y darlun arfaethedig chwaith. Dim ond yn y darlun arfaethedig mae’r gwahaniaeth mwyaf oll i’w weld, sef yr arysgrif newydd THE VULCAN HOTEL, WINES & SPIRITS ac ALES & STOUTS. Er nad yw’n glir yn y cynlluniau, rydym yn sicr fod y darlun gwreiddiol yn dangos ffasâd llawr gwaelod o bren – tebyg iawn i flaen siop Fictoraidd draddodiadol, a newidiwyd hwn yn 1914 am un tebyg o deils gwydrog a arhosodd yn eu lle nes tynnu’r adeilad yn 2012. Y teilsErbyn i'r Amgueddfa ddatgymalu'r Vulcan yn 2012, roedd teils lliwgar brown a gwyrdd y ffasâd wedi bod y neu lle am 97 mlynedd, ac o ganlyniad roedd nifer fawr mor wael eu cyflwyr fel na ellid eu ailddefnyddio. Ar ben hyn, gwnaeth nifer fawr wrthod wahanu oddi wrth y sment a ddefnyddiwyd i'w gludo yn eu lle. Gwnaeth y teils a gariodd enw Y Vulcan oroesi yn well oherwydd eu bod yn uwch i fyny'r adeilad, a byddent yn cael eu cadw i'w harddangos yn y dyfodol. Cynhyrchwyd y teils gan Craven Dunnill, o Ironbridge, Swydd Amwythig – yn ffodus, roedd eu henw ar gefn y teils. Gan fod y cwmni'n dal i fynd, fe benderfynon ni gomisiynu set newydd sbon o deils ar gyfer y Vulcan – a chafodd y rhain eu creu o'r un mowldiau pren a ddefnyddiwyd yn wreiddiol nol yn 1915.Y FfenestriCafodd ffenestri plwm Y Vulcan eu gosod yn eu lle ar yr un pryd â'r teils – fel rhan o'r gwaith adnewyddu mawr a gwblhawyd yn 1915. Wrth edrych yn agos, maen nhw i'w gweld mewn llun o’r Vulcan a dynnwyd yn 1919. Mae erthygl a gyhoeddwyd yn y Western Mail ar 16 Rhagfyr 1914 yn nodi:‘Broke Public House WindowPaul Begley (46), a cripple, was fined 10s and costs at Cardiff on Tuesday…for disorderly conduct in Adam Street and for wilfully breaking two panes of plate glass in the bar window of The Vulcan Inn. Although the damage amounted to £3, the landlord…made no claim.’Cyn adnewyddu’r Vulcan, roedd y ffasâd llawr gwaelod yn cynnwys dwy ffenestr fawr o ddau rhan. Os tybiwn fod yr erthygl hon yn ymwneud ag un o'r ddwy ffenest fawr, yna efallai na wnaeth y Landlord wneud hawliad gan ei fod yn gwybod bod y ffenestri yn mynd I gael eu adnwyddu o fewn yr wythnosau neu'r misoedd nesaf. Efallai bod y newid o wydr plât i wydr plwm (o ddarnau bach o wydr) wedi bod yn ymgais i leihau effaith difrod o'r fath yn y dyfodol. Mae yw weld bod fframiau'r ffenestri wedi goroesi mewn cyflwr gwell gan fod un wedi cael ei ail-ddefnyddio fel ffenestr y bar cefn – yr hen agoriad yn cael ei ehangu i ffitio. Pan brynodd Bragdy Brains y dafarn yn y 1950au, fe osodon eu logo Draig Goch mewn rowndel yng nghanol pob un o'r ffenestri. Erbyn 2012, dim ond un o'r rhain oedd ar ôl. Gan y bydd y Vulcan yn cael ei ddehongli fel yr edrychodd yn 1915, dydyn’t methu cynnwys logo Brains gan nad oeddent yn berchen ar y dafarn bryd hynny. Ar y pryd, roedd yn eiddo i William Walter Nell ac fe'i gyflenwyd gan ei fragdy Eagle Brewery, yn Sgwâr Sant Ioan, Yr Aes, yng nghanol dinas Caerdydd. Wrth i'w fonogram W.W.N. oroesi ar adeilad ym Merthyr Tudful, llwyddon yw efelychu i gymryd lle'r Ddraig Goch. Gwnaed y gwaith o adnewyddu’r ffenestri plwm gan arbenigwyr o Goleg Celf Abertawe, yn y Ganolfan Gwydr Pensaernïol. Gwnaethant ddod o hyd i'r gwydr cywir i gymryd lle unrhyw wydr toriedig, fe wnaethant lanhau pob darn unigol o wydr cyn eu rhoi yn ôl yn eu lleoliad gwreiddiol, ac ail-blymio y ffenestri yn barod ar gyfer y 97 mlynedd nesaf.Cefnogwch project Gwesty'r VulcanCyfrannu Nawr
Casglu hanesion LGBTQ+ yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Mark Etheridge, 14 Ebrill 2021 Mae Casgliad LGBTQ+ Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn cynnwys gwrthrychau, dogfennau, ffotograffau a hanesion llafar sy'n ymdrin â meysydd fel digwyddiadau Pride a gweithredaeth, ynghyd ag eitemau sy'n cynrychioli bywydau bob dydd pobl LGBTQ+.Digwyddiadau PrideBob blwyddyn fel arfer, mae yna amryw o ddigwyddiadau Pride bychain, a mwy o faint, yn cael eu cynnal ledled Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn fel arfer yn cynnwys gorymdaith, cerddoriaeth a digwyddiadau eraill sy'n dathlu’r gymuned LGBTQ a’i gwneud yn weledol, gyda phobl o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i gymryd rhan. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi canolbwyntio ar gasglu yn y maes hwn gan fod digwyddiadau Pride ledled Cymru wedi tyfu’n ddiweddar. Ymhlith y rhain roedd Pride Llanilltud Fawr (digwyddiad Pride cyntaf Bro Morgannwg) a gynhaliwyd ar 1 Medi 2018; Digwyddiad Pride BAME cyntaf Cymru, a gynhaliwyd ar 19 Awst 2019; a digwyddiad Pride cyntaf y Barri, a gynhaliwyd ar 21 Medi 2019. Taflen ar gyfer digwyddiad Pride Llanilltud Fawr, sef digwyddiad Pride cyntaf Bro Morgannwg, a gynhaliwyd ar 1 Medi 2018.© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Roedd digwyddiadau Pride yn ystod 2020 yn wahanol iawn oherwydd COVID-19. Cafodd rhai eu canslo, tra bod llawer o rai eraill wedi’u cynnal fel digwyddiadau Pride rhithwir. Roedd y rhain yn cynnwys Abberation Pride ar gyfer cymuned LGBTQ canolbarth Cymru, a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf; digwyddiad Pride rhithwir Cymru gyfan a gynhaliwyd ar 24 a 25 Gorffennaf (lle cyfrannodd grwpiau cymunedol ac unigolion o bob cwr o Gymru); a cynhaliodd Glitter Cymru ddigwyddiad Pride rhithwir ar 22 Awst. Yn lle’r digwyddiad Pride mwyaf yng Nghymru, sef Pride Cymru – sydd fel arfer yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd dros benwythnos Gŵyl y Banc ar ddiwedd mis Awst – cynhaliwyd Wythnos Fawr Rithwir rhwng 24 a 30 Awst, lle roedd cyfranogiad yr Amgueddfa yn cynnwys Taith Rithwir Queer o’r casgliadau Celf a Hanes, ac Archaeoleg. Taflen ar gyfer yr hyn a fyddai wedi bod yn ddigwyddiad Pride cyntaf Powys. Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu ar gyfer 27 Mehefin 2020 ond cafodd ei ganslo oherwydd y pandemig. © Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Golygai’r symud i gynnal digwyddiadau Pride rhithwir yn 2020 ein bod ni wedi gorfod addasu ein dulliau casglu. Gan mai prin oedd y gwrthrychau ffisegol oedd ar gael i’w casglu, gorfu i ni newid i ddigidol, gan gasglu rhai o’r fideos a’r deunydd marchnata digidol ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Gweithiais gydag LGBTQymru o’r dechrau’n deg i wneud yn siŵr bod y rhaglen gyflawn o ddigwyddiad cyntaf Pride Rhithwir Cymru Gyfan yn cael ei gasglu, ac erbyn hyn mae wedi’i chadw yn yr archif yn Sain Ffagan fel cofnod parhaol. Mae’r digwyddiadau Pride rhithwir hyn yn dangos sut y gwnaeth cymuned LGBTQ Cymru ymateb ac addasu i’r argyfwng COVID-19. Taflen ddigidol ar gyfer digwyddiad Pride rhithwir Glitter Cymru. © Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Protestiadau a'r GwrthdystiadauMae cydraddoldeb mewn meysydd fel priodas rhwng cyplau o’r un rhyw yn rhywbeth y brwydrodd y gymuned LGBTQ a’u cyfeillion yn gryf amdano. Golygai hynny unigolion a grwpiau yn dod ynghyd i brotestio dros hawliau cyfartal, mynd i’r afael â gwahaniaethu, a chyflawni amcanion eraill oedd ganddynt yn gyffredin. Mae gan Sain Ffagan rai gwrthrychau pwysig sy'n cynrychioli rhai o'r protestiadau a'r gwrthdystiadau hyn. Un enghraifft yw'r faner hon, a wnaed tua’r flwyddyn 2000 ac a gariwyd yn yr orymdaith yn Gay Pride yn Llundain gan y Rhwydwaith Lesbiaid Hŷn (Cymru). Sefydlwyd y grŵp hwn ym 1993 i roi cyfleoedd i lesbiaid hŷn oedd yn gwrthwynebu gwahaniaethu, ac roedd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr gyda'r nod o annog balchder a hyder yn ei aelodau. Baner y Rhwydwaith Lesbiaid Hŷn (Cymru) a wnaed tua 2000. © Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Glitter CymruSefydlwyd Glitter Cymru yn 2016 fel grŵp cymdeithasol a chymorth ar gyfer pobl LGBTQ o leiafrifoedd ethnig sy'n byw yng Nghymru. Cafodd eu baner gyntaf ei gwneud yn 2018 a’i chario ar orymdeithiau Pride i amlygu gwelededd pobl LGBTQ o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Fe'i defnyddiwyd hefyd yn nigwyddiad Pride BAME cyntaf Cymru a gynhaliwyd ar 10 Awst 2019 yng Nghanolfan Gymunedol Cathays, Caerdydd, yn ogystal â chael ei gosod ar y drws yn ystod cyfarfodydd Glitter. Baner Glitter Cymru a gafodd ei gwneud yn 2018. © Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Adran 28Cafodd Adran 28 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol ei gwneud yn ddeddf gwlad ym mis Mai 1988, i wahardd hyrwyddo cyfunrywioldeb gan awdurdodau lleol, a gwahardd ysgolion rhag addysgu bod ‘cyfunrywioldeb yn dderbyniol fel perthynas deuluol ffug.’ Dyma oedd geiriau’r Prif Weinidog, Margaret Thatcher, ar y pryd: "Children who need to be taught to respect traditional moral values are being taught that they have an inalienable right to be gay”. Yr hyn wnaeth arwain yn rhannol at y gyfraith oedd cwynion am y llyfr 'Jenny Lives with Eric and Martin', sef llyfr plant gan yr awdur Susanne Bösche a gyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg ym 1983 gan Gay Men's Press. Nod yr awdur oedd rhoi gwybodaeth i blant am wahanol fathau o berthnasoedd teuluol, ond pan ddaethpwyd o hyd iddo mewn llyfrgell gyhoeddus ym 1986 cafodd lawer o sylw gan rai o gyfryngau'r DU. Mae’r llyfr hwn o 1988 yn gwneud hwyl am ben y stŵr a achoswyd gan y llyfr gwreiddiol. O gasgliad o ddeunydd gweithredydd lesbiaidd a roddwyd gan Sheryl Checuti o Gaerdydd.© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Achosodd Adran 28 nifer fawr o brotestiadau gan ymgyrchwyr oedd yn dadlau bod y Ddeddf yn gwahaniaethu yn erbyn pobl gyfunrhywiol a'i bod yn anoddefgar ac yn anghyfiawn. Diddymwyd y gyfraith yn y pen draw yn 2000 yn yr Alban, ac yn 2003 yng ngweddill y DU. Yng Nghymru, bu nifer o brotestiadau ledled y wlad. Ar un orymdaith brotest yn Aberystwyth roedd aelodau o CYLCH (Cymdeithas Lesbiaid a Hoywon Cymraeg eu Hiaith). Baner a ddefnyddiwyd gan CYLCH i brotestio yn erbyn Adran 28 mewn gorymdaith yn Aberystwyth. © Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Bathodyn a wisgwyd yn ystod yr ymgyrch yn erbyn Adran 28. © Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Mae ymgyrchoedd dros hawliau cyfartal yn bendant yn dal i fynd rhagddynt. Yn y gorffennol, roedd cyfyngiadau a osodwyd gan y Pwyllgor Diogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau (SABTO, sef pwyllgor ymgynghorol y DU ar y mater hwn) yn atal dynion hoyw a deurywiol rhag rhoi gwaed. Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu, cafwyd newyddion da ar 14 Rhagfyr 2020, pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r gwaharddiad, a rhai cyfyngiadau yn cael eu codi – cam mawr tuag at gydraddoldeb llawn yn y maes hwn. Poster ar gyfer ymgyrch gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn erbyn gwahaniaethu wrth roi gwaed.© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Oni bai bod gwrthrychau a'u straeon cysylltiedig yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ni fydd lleoedd fel Sain Ffagan yn gallu adrodd hanes llawn y gymuned LGBTQ yng Nghymru. Cysylltwch â mi os oes gennych chi unrhyw wrthrychau yr hoffech eu rhoi i helpu i adeiladu'r casgliad LGBTQ+ cenedlaethol yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.Yn olaf, fe allwch chi chwilio am wrthrychau o'r casgliad yn Sain Ffagan a’u gweld ar gatalog Casgliadau Ar-lein yr AmgueddfaCyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan y Senedd fel rhan o Fis Hanes LGBT+ 2021. Mae’n trafod rhai o’r gwrthrychau yng nghasgliad Sain Ffagan a gasglwyd o ddigwyddiadau Pride amrywiol, a deunydd ymgyrchu a wnaed ac a gafodd ei wisgo i brotestio yn erbyn Adran 28.