Blogiau Amgueddfeydd

Cydweithio i drwsio Una

Chloe Ward, 26 Ionawr 2026

Mae Una wrthi'n cael ei thrwsio yn Boston Lodge, gweithdai peirianyddol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Ym mis Rhagfyr a Ionawr, fu grŵp o wirfoddolwyr draw i helpu efo’r gwaith! 

Adeiladwyd Una ym 1905 gan gwmni Hunslet o Leeds a bu’n gweithio yn Chwarel Mhen-yr-Orsedd tan tua 1960, yn cael ei defnyddio’n bennaf i gludo wagenni o rwbel y tu mewn i’r Chwarel. Yn anffodus methodd ei phrofion perfformiad ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae wedi gorfod aros yn segur ers hynny oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, er mawr siom i staff ac ymwelwyr.

Fu'r cyfle i helpu gyda'r gwaith atgyweirio yn rhan o'r cydweithrediad rhwng Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac Amgueddfa Lechi Cymru - oedden ni'n gwybod byddai pobl yn neidio ar y cyfle i fod yn rhan o stori Una!

Dros ddau benwythnos, helpodd sawl gwirfoddolwr i ‘sandio’, crafu, glanhau a pharatoi darnau metel oddi ar Una, yn barod i'w ail-baentio. Mae hyn yn rhan hanfodol o adfer Una a sicrhau bod yr injan stêm yn cael ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan fod paent ffres yn helpu i amddiffyn y metel. 

"Mae'r diwrnod a dreuliais yn gweithio ar Una wedi fy arwain at ddilyn y cyfle i wirfoddoli ar brosiectau eraill o fewn Safle Treftadaeth Lechi Gogledd-orllewin Cymru... Fe wnes i fwynhau'r diwrnod yn fawr" 

- David, gwirfoddolwr

Diolch yn fawr i bawb ddoth draw i Finffordd ar ddyddiau oer gaeafol i helpu ni efo Una. Braf oedd cael rhannu hanes yr injan stêm bach, a gweld eich brwdfrydedd.

Wrth i'r gwaith barhau ar Una, rydym yn gobeithio cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ymgysylltu â'r daith! Ymunwch â'n rhestr bostio i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd diweddaraf:

Tanysgrifiwch i'r rhestr bostio

Ariennir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth.

Logo strip Ionawr 2026

Blwyddyn Newydd yn Sain Ffagan

Ellen Davies, 19 Ionawr 2026

Yn draddodiadol, mae mis Ionawr yn gyfnod tawel. Mae cyffro’r Nadolig wedi mynd heibio ac rydyn ni i gyd yn aros yn eiddgar am ddiwedd y gaeaf, ond mae hefyd yn adeg i ddechrau o’r newydd.  

Yma yn Sain Ffagan, rydyn ni wedi dechrau'r flwyddyn ar garlam! Dros y misoedd nesaf, bydd yr Amgueddfa yn fwrlwm o weithgareddau wrth i ni gyflawni projectau i wella profiad ymwelwyr, gan gynnwys: ⁠  

  • Diweddaru'r ardal chwarae  
  • Rhoi to newydd ar Gastell Sain Ffagan  
  • Ailwampio'r Siop Losin a chyflwyno llond siop o gynnyrch newydd  
  • Ailddylunio'r siop yn y prif adeilad  
  • Datblygu siop goffi newydd yn Gweithdy  
  • Adnewyddu'r bloc toiledau ger Tai Teras Rhyd-y-car  

Bydd ymweld yn ystod y cyfnod hwn yn wahanol a bydd rhai mannau ar gau. Byddwn ni'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau wrth iddyn nhw ddigwydd.  

Diolch am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith hwn – rydyn ni'n addo y bydd yn werth chweil!  

Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf, gallwch chi gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr neu ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Archeolegwyr yn Amgueddfa Lechi Cymru?

Chloe Ward, 5 Ionawr 2026

Dwi'n gwybod, dydi archaeoleg ddim yn rhywbeth sy’n dod i’ch meddwl yn awtomatig wrth feddwl am yr Amgueddfa Lechi! Ond ym mis Rhagfyr, ymunodd tri gwirfoddolwr â ni i gymryd rhan mewn arolygon archeolegol sy'n rhan angenrheidiol ym mhroject ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. 

Comisiynwyd Archaeoleg Wales i arolygu a chofnodi dwy nodwedd yng ngweithdai Gilfach Ddu, lle mae'r amgueddfa wedi'i lleoli. Oedd angen recordio grisiau 1970au y Ffowndri, a thraciau rheilffordd gwreiddiol y tu allan yn yr iard. Mae arolygon fel hyn yn angenrheidiol ar gyfer adeiladau rhestredig fel y Gilfach Ddu, ac yn bwysig er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cael eu cofnodi. Bydd grisiau’r Ffowndri yn cael eu newid i rhai mwy hygyrch a diogel, tra bydd y traciau rheilffordd yn cael eu rhoi nôl unwaith y bydd draenio wedi'i osod oddi tanddynt. 

Gwirfoddolwyr yn gwisgo hi-vis yn cerdded tuag at yr Amgueddfa Lechi.

Ymunodd tri gwirfoddolwr, Nicola, Donna a Shay, â'r archeolegydd adeiladau Emily i dynnu lluniau o'r nodweddion hyn, a chreu cofnod parhaol tua’r dyfodol. Rhoddodd hyn sylfaen dda o wybodaeth i’r gwirfoddolwyr am archaeoleg adeiladau a sut i arolygu nodweddion trwy dynnu llun a ffotograffiaeth. Rhoddodd hefyd gyfle iddynt ddysgu am ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi a'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud.

DIOLCH Nicola, Donna a Shay!

Cofrestrwch i’n rhestr bostio i glywed am gyfleoedd i wirfoddoli yn yr Amgueddfa Lechi:

Tanysgrifiwch i'r rhestr bostio

Ariennir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth.

Logo strip Ionawr 2026

Goleuo’r Ffordd – Pennod Nesaf Neuadd Weston

Dafydd Newton-Evans, 19 Rhagfyr 2025

Mae newid yn dod i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Efallai eich bod wedi gweld newidiadau bach o gwmpas yr amgueddfa yn barod. Ond mae Neuadd Weston, calon modern yr amgueddfa, ar fin cael ei drawsnewid i fod yn ganolbwynt i weledigaeth newydd yr amgueddfa fydd yn adrodd stori Cymru a’i pherthynas gyda’r môr. 

Mae treftadaeth morwrol Cymru llawer mwy na rhaffau, angorau a modeli o longau. Felly, mae ein gweledigaeth am Neuadd Weston llawer mwy deinamig – gofod fydd yn ysbrydoli, yn annisgwyl ac yn sbardino trafodaethau. Lle bydd storiau pobol, masnach, ymfudo, dyfeisio, celfyddid a noddfa yn cwrdd ger y dŵr.

Fflam Newydd

Un o’r gwrthrychau cyntaf fydd yn dal eich llygaid wrth gamu mewn i’r amgueddfa fydd optig goleudy yn dyddio nol I ganol y 19fed ganrif.

Mae’r cawr o wydr wedi bod yn gorffwys mewn storfa am ddegawdau, ei prismau yn fud ac yn llonydd. Ond, bydd y fflam yn gael ei danio eto, gan ddod a’r gwrthrych yn fyw a’i drawsnewid i fod yn symbol o obaith. Bob dydd, bydd ymwelwyr yn gallu gwylio’r mecanwaith cywrain yn cael ei droelli – defod fydd yn pweru’r optig i droi a disgleirio. 

Nid yn unig y neuadd fydd yn cael ei oleuo gan y goleudy, ond mi fydd hefyd yn goleuo gydag ystyr. Bydd yr optig yn cynrychioli bywydau a dreuliwyd ar y môr a’r diogelwch roedd goleudai Cymru yn ei roi. Yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mi fydd hefyd yn sefyll fel symbol o noddfa, gan adlewyrchu statws yr amgueddfa fel Amgueddfa Noddfa, a’n ymrwymiad i fod yn ofod croesawgar i bawb. 

O’r man yma, bydd ymwelwyr yn cael eu gwahodd i deithio ymhellach, i galon stori morwrol Cymru, a’r bobl gafodd eu siapio gan lanw a thrai’r moroedd.

Siwrne ar hyd y Traciau 

Wrth symud ymhellach i mewn i Neuadd Weston, daw rhywbeth annisgwyl i’r golwg: cerbyd Rhymni Rail wedi’i hadfer – yr unig enghraifft sydd wedi goroesi o dros 300 o gerbydau o’r fath a fu’n eiddo i’r cwmni rheilffordd Cymreig hwn. Bydd yn sefyll unwaith eto ar y traciau gwreiddiol sy’n torri drwy lawr yr amgueddfa hyd heddiw.

I ddod â hanes ein cartref hanesyddol yn fyw, bydd y fan yn helpu i ddehongli’r fasnach a fu’n digwydd yn y warws ac yn rhoi cyd-destun i’r colonâd a’r traciau rheilffordd sydd wedi’u hymgorffori yn y llawr.

Pan fydd yn cymryd ei lle yn Neuadd Weston, bydd yn ein hatgoffa nad yw cysylltiad Cymru â’r môr yn dechrau ar y lan, ond gyda’r diwydiant a’r dyfeisgarwch a fu’n rhan annatod o’n tirwedd a’n cymunedau o’r gogledd i’r de.

Celf ar y Gorwel

O’r hen i’r newydd, bydd ein comisiwn celf cyffrous yn codi uwch ein pennau cyn bo hir, i’w ddatgelu yn gynnar yng ngwanwyn 2026. Yn hongian o do Neuadd Weston, bydd y darn gweledol gan Jacqui Symons yn archwilio cysylltiad Cymru â’r môr drwy grefft, creadigrwydd ac emosiwn. Bydd yn herio ymwelwyr i edrych ar ddyfroedd cyfarwydd drwy olau newydd.

Jacqui Symons oedd yr artist llwyddiannus o dros 300 o gynigion llawn ysbrydoliaeth a chreadigrwydd – ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld y weledigaeth yn trawsnewid o bapur i realiti.

Llunio’r Stori Gyda’n Gilydd

Mae trawsnewid Neuadd Weston yn nodi dechrau taith newydd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Felly, ymunwch â ni ar y fordaith – gwyliwch y cerbyd yn cymryd ei lle, teimlwch y tonnau creadigol yn codi, a darganfyddwch straeon y môr a’r bobl a gafodd eu siapio gan ei lanw a’i thrai.

Cynhesrwydd y Gaeaf yn Amgueddfa Wlân Cymru: Lapiwch Eich Hun yn Hud y Gwlân

Dafydd Newton-Evans, 26 Tachwedd 2025

Mae tawelwch cyfarwydd y gaeaf yn llenwi’r awyr – distawyrwydd medal sy’n nodi cychwyn ein hoff dymor yma yn Amgueddfa Wlân Cymru. Efallai bod y tymheredd yn disgyn y tu allan, ond y tu mewn mae popeth yn gynnes ac yn groesawgar. 

Dewch i mewn i’r amgueddfa i galon dathliad o etifeddiaeth, crefft a chysur. Mae’r amgueddaf wedi’i haddurno â chrefftau Nadoligaidd wedi’u gweu â llaw gan ein crefftwyr dawnus, O sannau blewog, I gasgliad o anifeiliaid gwalnog, mae pob addurn yn cario cynhesrwydd crefftus. 

Mae ein crefftwyr wedi bod yn brysur yn gwehyddu blancedi Nadolig trawiadol yn y Sied Weu, sydd newydd ei hadnewyddu – a credwch ni, maent mor gynnes ac y maent yn brydferth. Mae pob blanced yn gyfuniad o dechnegau traddodiadol, dyluniad ac ysbryd yr ŵyl. Mae’n nhw’n gwerthu’n gyflum, felly os ydych yn chwilio am anrheg sy’n teimlo fel cwtsh, yna dewch draw i’r siop cyn iddyn nhw gyd fynd!

A sôn am anrhegion… mae rhywbeth arbennig i bob crefftwr gwlanog yn ein siop. Dewiswch o sgarffiau medal hyfryd, wedi’u cynhyrchu yma ar ein gwŷdd Hattrsley, sanau trwchus gwlanog ac amrywiaeth o anrhegion tectsiliau a gwlân prydferth. Beth am brynnu tocyn i fynychu un o’n cyrsiau Dysgu Nyddu i’r crefftwr yn eich bywyd – mae’r cyrsiau yn boblogaidd ac yn anrheg perffaith i rhywun sy’n awyddus I greu rhywbeth unigryw. 

Eleni, rydym yn falch iawn o gynnig hyd yn oed mwy o hwyl Nadoligaidd i’r teulu cyfan! Bydd y rhai bach (a’r rhai mawr) wrth eu boddau yn cyfarfod Blwi, sy’n dod draw am ymweliad Nadoligaidd arbennig, ac amser stori. Dewch â’ch gwên orau a tynnwch lun neu ddau gyda hoff gymeriad pawb. 

Ac i’r rhai sy’n hoff o bethau melys, peidiwch a cholli’r cyfle I addurno eich Bisged Nadolige ich hun – ffordd hyfryd o danio creadigrwydd a llawenydd yr ŵyl gyda’ch plant. Mae’r weithgaredd ymarferol yma ar gael am gost ychwanegol, ac yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i greu eich campwaith blasus eich hun. 

Unwaith bydd eich bisgedi wedi’u haddurno, a’ch bagiau siopa wedi’u llenwi, cymerwch eiliad i ymlacio yn ein caffi clyd. Cynheswch eich hun gyda diod o siocled poeth, a mwynhewch ddarn o gacen blasus yng nghwmni ffrindiau a theulu wrth I wyntoedd y gaeafa chwythu y tu allan. 

Felly, dewch i mewn o’r oerfel a lapiwch eich hun mewn gwlân. Gyda addurniadau hudolus, crefftau calonogol, hwyl i’r teulu a danteithion blasus, mae gan Amgueddfa Wlân Cymru rhywbeth i bawb y Nadolig yma. 

Allwn ni ddim aros i’ch croesawu – wedi’ch laipo mewn cynhesrwydd, hwyl a hud gwlanog.