: Addysg

Dan y môr a’i Donnau...

Louise Rogers, 8 Gorffennaf 2021

Ar y wal yng Nghanolfan Ddarganfod Clore mi welwch sbesimen gall wedi nofio allan o chwedl anturus danforol.  Tybed os welsoch chi rywbeth tebyg erioed?  Ai ceffyl ungorn bu’r peth yma’n perthyn i eisoes?  Mae nifer o’n hymwelwyr o’r farn hon!  Bu’r corn yma eisoes yn perthyn i greadur gwelw o ddyfroedd yr Arctig, wedi eu henwi'n aml “Ungyrn y Moroedd”.

Mae’r morfil ungorn (Monodon monoceros) yn perthyn i’r un teulu â’r dolffin, y beluga a’r orca. Bydd yn treulio’i fywyd yn nofio ym moroedd rhewllyd Arctig Canada, yr Ynys Las, Norwy a Rwsia. Bydd yn gaeafu am 5 mis iasoer islaw’r ia, ac yn ymddangos fel arfer mewn grwpiau o 15 i 20.

Bwyd y morfil ungorn yw pysgod, corgimychiaid, sgwid a bywyd morol arall (ond does fawr o ddewis ganddo!). Yn debyg i’r morfil ffyrnig a morfilod danheddog arall, mae’r morfil ungorn yn bwydo drwy sugno. Bydd yn dal a tharo pysgod cyn eu sugno a’i llyncu’n gyfan. Gall y morfil ungorn blymio i ddyfnder o ryw filltir a hanner, ond mae’n dibynnu ar graciau yn yr ia er mwyn codi i anadlu.

Ddim at ddant pawb

Dant mawr yw corn y morfil ungorn mewn gwirionedd, a dim ond y gwrywod fydd fel arfer yn tyfu corn. Mae’r corn troellog fel cleddyf sy’n tyfu’n syth drwy’r wefus uchaf, hyd at 10 troedfedd o hyd. Gall ambell forfil dyfu dau gorn hyd yn oed! Am boenus!

Mae cryn ddadlau am bwrpas y corn ymysg gwyddonwyr. Mae rhai yn credu bod arddangos y corn yn ffordd o ddenu partner, neu o frwydro. Yn ddiweddar mae drone wedi ffilmio morfil ungorn yn defnyddio’i gorn i daro pysgod, ac mae ymchwil arall yn awgrymu bod gan y corn nodweddion synhwyro, gan ei fod yn cynnwys hyd at 10 miliwn o nerfau. Beth yw’ch barn chi?

Peryg bywyd?

Mae morfilod ungorn a rhywogaethau eraill yr Artig, fel yr arth wen a’r walrws wedi esblygu dros filoedd o flynyddoedd i oroesi yn y moroedd ia. Oherwydd effeithiau newid hinsawdd, mae’r gorchudd ia yn newid yn gyflym iawn. Nid lle i fwydo yn unig yw’r moroedd ia i forfilod ungorn, ond hafan ddiogel rhag ysglyfaethwyr. Mae’r llen ia yn cilio’n rhy gyflym i’r morfilod addasu, ac yn fygythiad difrifol i’r rhywogaeth.

Mae’r cynydd mewn masnach llongau yn yr Arctig hefyd yn fygythiad. Mae rhagor o longau yn cynyddu’r siawns o wrthdrawiadau, ac yn creu llawer o lygredd sŵn tanfor. Gan fod morfilod yn dibynnu ar sain i gyfathrebu, mae llygredd sŵn yn amharu ar eu gallu i hela, paru ac osgoi ysglyfaethwyr.

Mae ein sbesimen o gorn morfil ungorn yn wrthrych rhyfeddol, ond mae hefyd yn atgof o’n cyfrifoldeb, fel unigolion a dynioliaeth, i sicrhau eu goroesiad.

Gwobrau Gwyddonwyr Gwych 2020-21

Penny Dacey, 7 Mehefin 2021

Hoffa Amgueddfa Cymru a'r Ymddiriedolaeth Edina llongyfarchai’r miloedd o ddisgyblion o ar draws y DU a enillodd gydnabyddiaeth am eu cyfraniad i Fylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion 2020-21.

Llongyfarchiadau anferth i bob un ohonoch. Diolch am weithio mor galed yn plannu, arsylwi a chofnodi, rydych wir yn Wyddonwyr Gwych!

Enillwyr Bylbiau Gwanwyn i Ysgolion 2020-21

Yn ail ar gyfer Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion 2020-21

Clod Uchel ar gyfer Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion 2020-21

Gwyddonwyr Gwych Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion 2020-21

Ysgolion sef wedi ennill tystysgrifau ar gyfer Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion 2020-21

 

Diolch Cyfeillion y Gwanwyn,

Athro'r Ardd

Pencampwyr Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion

Penny Dacey, 19 Ebrill 2021

Dechreuodd ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion yn 2005 ac mae wedi bod yn cyflwyno disgyblion CA2 i wyddoniaeth, newid hinsawdd a’r amgylchfyd naturiol ers 16 mlynedd. Gwelwyd sawl her yn ystod project 2020-21 a fu’n ysbrydoliaeth i ni gyd weithio mewn ffyrdd newydd a dyfeisgar.

Mae ysgolion ar draws y DU wedi dangos penderfyniad a gallu amryddawn wrth fynd i’r afael â heriau a achoswyd gan y pandemig a’r cyfyngiadau a ddaeth yn ei sgil. Rydym yn ddiolchgar i’r holl ysgolion a barhaodd i gasglu a rhannu data tywydd. Fe wnaethant hyn yn aml drwy ofyn i ddisgyblion sy’n byw gerllaw’r ysgol i fynd â’r offer tywydd gartref. Roedd y disgyblion hyn yn gyfrifol am gofnodi ac uwchlwytho’r data ar ran eu hysgolion yn ystod y cyfnod clo.

Byddwn ni’n cwrdd â rhai o Wyddonwyr Gwych Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion drwy gofnodion Blog. Ein Pencampwr cyntaf yw Riley, sydd wedi bod yn cofnodi darlleniadau tywydd ar gyfer Ysgol Gynradd Stanford in the Vale.

C. Sut flwyddyn wyt ti wedi ei chael yn y cyfnod clo?
A. Dwi wedi cael blwyddyn gymysg, dwi wedi bod yn falch i fynd nôl i’r ysgol achos doeddwn i ddim wir yn hoffi dysgu o gartref. Roeddwn i’n hapus i weld fy ffrindiau i gyd!!  

C. Pam wyt ti’n meddwl fod y project yn bwysig?
A. Dwi’n credu fod y project yn bwysig iawn. Yn ogystal â helpu gyda sgiliau mathemateg, mae hefyd yn mynd â chi mas i’r ardd i gael hwyl.

C. Sut wnest ti helpu i gynnal y project?
A. Eleni dwi wedi bod yn helpu gyda’r project drwy wneud y mesuriadau tywydd o gartref. Dwi’n credu bod hi’n bwysig i gadw’r project i fynd hyd yn oed yn ystod y cyfnod clo!

C. Beth wyt ti’n ei fwynhau am wneud mesuriadau?
A. Dwi’n mwynhau gweld y gwahaniaethau yn y tywydd bob dydd, dwi’n hoffi sut ti’n gallu cael diwrnodau amrywiol iawn o ran tymheredd a glawiad. Mae pob diwrnod yn wahanol!

C. Beth wyt ti wedi sylwi am dy fesuriadau tywydd a blodau eleni?
A. Dwi wedi sylwi eleni fod gyda ni rai dyddiau poeth iawn gyda rhai tymhereddau yn cyrraedd hyd at 25 gradd ym mis Mawrth!!  

C. Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf wedi’r cyfnod clo?
A. Y peth dwi’n edrych mlaen ato fwyaf yw gweld teulu a ffrindiau eto!! Mae’n teimlo fel gymaint o amser ers i fi ei gweld nhw!!

Diolch Riley.

Diolch i chi am eich holl waith caled Gyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

 

Blodau Bendigedig

Thomas Lloyd, 25 Mawrth 2021

Shwmae Cyfeillion y Gwanwyn!

Mae nifer ohonoch wedi yn sôn yn ddiweddar bod eich Bylbiau Bychan wedi blodeuo sy’n wych!  Mae amser yn dod i ben i lanlwytho eich data blodeuo i’r wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion os nad ydych wedi yn barod.  Y dyddiad cau yw dydd Gwener Ebrill 2ail, sydd hefyd yn Ddydd Gwener y Groglith felly gallwch fwynhau picen y Grog ar ôl lanlwytho’ch data!  Sicrhewch fod eich data blodeuo wedi ei lanlwytho erbyn y dyddiad yma i sicrhau fod pob Cyfaill y Gwanwyn yn derbyn eu tystysgrif Gwyddonwyr Gwych!

Wyddoch chi fedrwch adael sylwad wrth lanlwytho eich data blodeuo a thywydd?  Di wrth fy mod yn clywed am eich profiadau gofalu am eich Bylbiau Bychan felly plîs cadwch y sylwadau'n dod trwy’r wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion neu ar Drydar.  Dyma ambell o’ch sylwadau o’r wythnosau diwethaf:

  • “Ar ddiwrnodau heulog mae’r blodau crcoys yn agor fel sêr” – Dosbarth 2, Coastlands Primary.
  • “Braf yw gweld sut mae’r blodyn yn cau wedi tywydd oer ac agor wrth i’r haul ddod allan!” – Amy, Stanford in the Vale Primary.

Arsylwadau arbennig Cyfeillion! Mae rhai blodau yn fregus a byddant yn cau i amddiffyn eu hun rhag y tywydd oer a all eu niweidio.  Wrth i dymereddau codi maent yn “agor fel sêr!”

Mae Ysgol Henllys yn sicr wedi cael canlyniadau cennin Pedr cymysg:

  • “Roedd fy un i yn dal iawn” - Aneurin
  • “Roedd fy un i yn denau” - Emily
  • “Roedd fy un i yn dda iawn nes bo’r gwynt yn ei dorri” - Oliver

O diar, mae’n flin gen i glywed hynny Oliver! Yn sicr fe gawsom ni gyd gwyntoedd cryf yn ddiweddar sydd yn gallu fod yn beryglus i gennin Pedr tal.  Llwyddoch chi gyd dyfu blodau ac nid chi sydd ar fai.

  • “Agorodd fy mwlb i heddiw ond mae rhywbeth wedi bwyta’r petalau.  Mae nifer o’n bylbiau wedi eu dwgyd gan wiwerod yn ystod yr hydref a gwelsom ni rhai ohonynt yn gwneud ar ein camera nos!” – Alexandra, Livingston Village Primary School

Nid dyma’r tro cyntaf i mi glywed am ladron blewog yn dwyn bylbiau ac yn anffodus nid dyma’r unig sylwad o’r Cyfeillion yma yn sôn am hyn.  Anghofiwn weithiau fod bylbiau a phlanhigion hefyd yn fwyd i greaduriaid eraill.  Yr unig les yw eich bod wedi sicrhau pryd o fwyd i anifeiliaid llwglyd!  Ni allaf gredu eich bod wedi ei ddal ar gamera – oes gennych lun allwch rannu?

  • “Mae’n debyg fod ein bylbiau yn y ddaear wedi agor yn gyntaf ym mis Chwefror a rydant yn fwy o lawer na’r rhai wedi eu plannu ym mhotiau.  Rydyn ni gyd wrth ein boddau yn gwneud y prosiect yma a rhaid rhoi canmoliaeth arbennig i Riley (cyn-ddisgybl yr ysgol) am helpu Mrs. Finney gyda’r arsylwadau tywydd a glawiad yn ystod lockdown” - Mrs. Finney, Stanford in the Vale Primary School.

Arsylwad diddorol iawn - mae gan fylbiau sy’n tyfu yn y ddaear mwy o fwynau a gwagle i dyfu na bylbiau sy’n tyfu ym mhotiau felly rydant yn aml yn blodeuo’n gynt ac yn tyfu’n dalach os ydynt wedi eu cysgodi rhag y gwynt.  Rydw i wrth fy modd clywed eich bod chi gyd wedi mwynhau gweithio ar y prosiect eleni ag am ymdrech wych gan Riley!  Darllenaf eich holl sylwadau hyfryd ynglŷn â’r tywydd a garddio a diolch o galon am helpu Mrs. Finney gyda’r gwaith dros lockdown, rwyt yn Gyfaill y Gwanwyn anhygoel!

Mae’r flwyddyn yma wedi bod yn anodd i bawb ond rydych chi gyd wedi gwneud gwaith anhygoel ac mae gweld gymaint o flodau hardd yn dystiolaeth o’ch holl waith caled.  Diolch o galon unwaith eto Cyfeillion y Gwanwyn, athrawon a rhieni!  Gobeithiwn agor ymgeision am Fylbiau’r Gwanwyn 2021 – 22 yn dilyn gwyliau’r Pasg, felly os ydych wedi mwynhau bod yn Gyfeillion eleni gewch chi gyfle gofalu am ragor o Fylbiau Bychan tymor nesaf!

Garddio Hapus!

Athro’r Ardd.

Gwanwyn yn Gwenu

Thomas Lloyd, 3 Mawrth 2021

Helo unwaith eto Cyfeillion y Gwanwyn! Mae llwyth o dywydd amrywiol i gofnodi yn ddiweddar – gwelsom ni iâ ac eira i heulwen hardd a phob dim arall rhyngddynt!  Efallai eich bod yn tybio am effaith yr holl dywydd gwahanol yma ar eich Bylbiau Bychan – peidiwch â phoeni cyfeillion, mae eich Bylbiau Bychan yn hapus i ymlacio ym mhob math o dywydd.  Gallant wrthsefyll glaw, rhwystro’r rhew a goroesi’r gwres yn hawdd!

Yn sôn am dywydd, hoffaf ddweud diolch i’r holl Gyfeillion y Gwanwyn a’u hathrawon am barhau i lanlwytho eu data tywydd lle’n bosib.  Plîs peidiwch â phryderi os ni allwch lanlwytho data ar hyn o bryd – deallwn wrth gwrs fod amodau pawb yn unigryw sy’n hollol ffein!

Mae nifer o Gyfeilion y Gwanwyn wedi gweld blodau ar eu crocysau a’u cennin Pedr sydd yn wych!  Rhaid bod hwn yn deimlad arbennig i weld effaith eich gwaith caled.  Rydw i wastad y mwynhau clywed sôn am Fylbiau Bychan sydd wedi tyfu i mewn i flodau hardd felly cofiwch gadw cofnod o’r dyddiad pryd sylwch chi’r blodyn gyntaf a rhowch wybod i mi trwy gofnodi’r dyddiad ar wefan Bylbiau’r Gwanwyn.  Mae pob Cyfaill y Gwanwyn yn edrych ar ôl Bylb Bychan eu hun, felly mewn dosbarth o 25 er enghraifft, bydd 25 dyddiad i lanlwytho i’r wefan.  Athrawon – os sylwch nifer o flodau wrth i chi ddychwelyd i’r dosbarth, gallwch ddefnyddio’r dyddiad dychwelyd fel y dyddiad blodeuo, jyst cofiwch adael sylwad ar y wefan i fy atgoffa!

Peidiwch â phoeni os nad ydy’ch Bylbiau Bych wedi blodeuo eto, mae’n bosib bod y tywydd oer diweddar wedi eu harafu ychydig.  Dwi’n siŵr welwch chi flodau dros yr wythnosau nesaf wrth i’r tywydd cynhesu!

Wrth gwrs mae nifer o Gyfeillion y Gwanwyn dal i fod i ffwrdd o’r ysgol a’u Bylbiau Bychan.  Peidiwch â phryderi os nad ydych wedi gweld eich Bylbiau Bychan am sbel, bydden nhw’n hollol iawn yn yr ysgol!  Gobeithio bydd Cyfeillion y Gwanwyn yn ôl yn y dosbarth yn fuan, ond wrth i ni aros am hynny rydw i wedi paratoi pecyn gweithgareddau hwylus i geisio oddi adref!  Mae’r gweithgareddau yn ymwneud a’r tywydd a garddio a byddant yn help mawr os ydych yn colli eich Bylbiau Bychan.  Beth am roi cynnig arnynt a rhannu eich gwaith caled ar Drydar?  Fy nolen yw @Professor_Plant a chofiwch ddefnyddio’r hashnod #CyfeillionYGwanwyn!

Diolch o galon i bawb am eich gwaith caled ac ymroddiad Cyfeillion, athrawon a rhieni.  Rydych i gyd yn sêr!

Garddio Hapus!

Athro’r Ardd.