Antartica'n rhewi 19 Mai 2008 Penderfynu ble i gymryd samplau i gael gwahanol gyfnodau Codi craidd o fwd 34 miliwn o flynyddoedd oed i'r wyneb Gwyddonwyr wrth eu gwaith yn disgrifio ac yn profi'r craidd Ffotograff agos o fforam 35 miliwn o flynyddoedd oed: Cribrohantkenina inflata, a ddarganfuwyd yn y creiddiau o Tansanïa. Gallwch weld mwy o ddelweddau o'r fforam cymhleth hwn yn yr oriel 'Agos at Natur'. Mae gwyddonwyr o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi darganfod tystiolaeth newydd ynglŷn â newidiadau hinsawdd yn y gorffennol sy'n help i ddatrys peth o ddirgelwch y llen iâ eang a ymddangosodd yn Antarctica 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Nid oedd Antarctica dan orchudd o iâ ymhob cyfnod; gorweddodd dros begwn y de heb rewi am bron i 100 miliwn o flynyddoedd. Yna, tua 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl newidiodd yr hinsawdd yn ddramatig ar y ffin rhwng epocau'r Ëosin a'r Oligosen. Oerodd yr hinsawdd tŷ gwydr cynnes, a fu'n sefydlog ers diflaniad y dinosoriaid, yn ddramatig, gan greu'r "ty-iâ" sydd wedi parhau hyd heddiw. Oeri byd-eang Mae nifer o wyddonwyr yr hinsawdd yn ceisio deall beth achosodd y newid hwn yn yr hinsawdd. Dylai hyn ddatgelu mwy am y ffordd mae'r hinsawdd yn ymateb i reolyddion mawr fel newidiadau yng nghylchdro'r Ddaear, a chrynodiad y nwyon tŷ-gwydr yn yr atmosffer. Trwy astudio'r microffosilau sy'n bresennol mewn haenau o fwd o'r dyfnfor, gellir cofnodi newidiadau yn hinsawdd y gorffennol. Hyd yma, mae gwyddonwyr wedi darganfod bod y moroedd wedi cynhesu yn ystod y newid mawr hwn yn yr hinsawdd, tra bod haenau o iâ wedi ymddangos yn Antarctica a'r Arctig. Nid yw'r dystiolaeth anghyson yn cytuno ag efelychiadau cyfrifiadurol o hinsawdd y cyfnod chwaith: nid yw'r modelau cyfrifiadurol yn dangos bod iâ yn yr Arctig. Project drilio Tanzania Daeth yr ateb i'r pos iâ hwn o gyfeiriad annisgwyl, sef Tansanïa yng Ngorllewin Affrica. Mae project drilio Tansanïa wedi bod yn adfer creiddiau mwd hynafol a ddyddodwyd ar wely'r môr (ac sydd bellach wedi cael eu codi'n ddaearegol i'r tir). Mae creiddiau Tansanïa yn arbennig gan fod trwch mawr o fwd wedi cael ei osod mewn cyfnod cymharol fyr, sy'n golygu bod modd gweld newidiadau yn yr hinsawdd drwy'r oesoedd mewn cryn fanylder. Hefyd caiff microffosilau eu canfod yn y creiddiau mewn cyflwr gwych. Mae'r creiddiau Tansanïaidd yn cynnig y darlun clir cyntaf o'r gydberthynas rhwng gostyngiadau yn lefelau'r môr a newidiadau yn yr hinsawdd. Unioni'r cam Defnyddiwyd cemeg y microffosilau Tansanïaidd i greu cofnodion o dymheredd a chyfaint iâ dros gyfnod y newid mawr hwn yn yr hinsawdd. Mae'r cofnodion newydd hyn yn dangos bod moroedd y byd wedi oeri gydag ymddangosiad yr haenau iâ, ac y byddai cyfaint yr iâ wedi ffitio ar Antarctica; felly bellach mae'r efelychiadau cyfrifiadurol o ddata'r hinsawdd, a hinsawdd y gorffennol yn cyfateb. Heddiw mae'r pwyslais ar chwilio am dystiolaeth o achos yr oeri byd-eang hwn. Credir mai lleihad graddol yn lefelau CO2 yr atmosffer sy'n bennaf gyfrifol, wedi'i gyfuno â chyfnod 'sbardun' pan greodd cylchdro'r Ddaear o amgylch yr haul hafau Antarctaidd digon oer i rewi iâ drwy gydol y flwyddyn. Sut mae'n gweithio Trwy astudio cemegau cregyn anifeiliaid bychan maint blaen pin o'r enw fforaminifferau, gallwn weld sut y newidiodd tymheredd y môr ar hyd yr oesoedd. Mae fforaminifferau yn adnoddau gwych ar gyfer astudio hinsawdd y gorffennol, sy'n ein helpu i ddysgu am ansicrwydd hinsawdd tŷ-gwydr ein dyfodol. 1). Mae fforaminifferau yn tynnu elfennau cemegol o'r môr i'w cregyn, ac maent yn defnyddio mwy o fagnesiwm mewn tymhereddau cynhesach. 2). Mae fforaminifferau marw'n cwympo i wely'r môr, ac yn cronni mewn haenau o fwd dros filiynau o flynyddoedd. 3). Heddw, mae treiddio i lawr drwy'r haenau mwd fel teithio yn ôl trwy amser. Mae mesur cynnwys magnesiwm y fforaminifferau yn yr haenau mwd yn rhoi cofnod o'r ffordd y newidiodd tymheredd y môr ar hyd yr oesoedd - mae mwy o fagnesiwm yn golygu tymheredd cynhesach Darllen Cefndir Lear, CH, Bailey, TR, Pearson, PN, Coxall, HK, Rosenthal, Y. Cooling and ice growth across the Eocene-Oligocene transition. Geology 36 (3), 251-254. 2008. http://www.gsajournals.org/perlserv/?request=get-abstract&doi=10.1130%2FG24584A.1
Arswyd y Moroedd Silwraidd 26 Gorffennaf 2007 Yr ewrypterid o Fforest Clud (x1.5) y sbesimen mewn perthynas â'r anifail cyfan yn yr ailgread Mae'r sbesimen bach o ardal Woolhope (x3.5). Sylwch fod tarian y pen wedi'i symud i'r chwith. Mae pobl yn dod â nifer fawr o sbesimenau i'r Adran Ddaeareg bob blwyddyn gan obeithio y gallwn ddweud beth ydynt. Gan amlaf, ffosilau neu fwynau cyffredin yw'r rhain ond, o bryd i'w gilydd, mae rhywun yn dod â rhywbeth anghyffredin. Dyna a ddigwyddodd ym mis Rhagfyr 1989 pan ddaeth Mr Stephen Jenkins o Aberhonddu â ffosil rhyfedd ei olwg y daeth o hyd iddo ar ochr lôn trwy Fforest Clud. Anifail mawr tebyg i sgorpion I ddechrau roedd yn edrych fel gên pysgodyn a nifer o ddannedd main o wahanol faint ond, ar ôl ei archwilio'n ofalus, gwelwyd nad dyna ydoedd. Yn y diwedd, llwyddwyd i ganfod beth oedd y ffosil mewn gwirionedd — hanner pinsiwrn anifail y dŵr, tebyg i sgorpion, oedd wedi darfod â bod, o'r enw ewrypterid. Un peth trawiadol am y sbesimen hwn yw ei faint - 64mm (2.5 modfedd) o hyd, sy'n dangos bod yr anifail cyfan tua 70cm (27 modfedd) o hyd. Mae'r creigiau lle canfuwyd y ffosil ym Maesyfed yn perthyn i Gyfres Llwydlo yn y System Silwraidd — tua 420 miliwn oed. Er bod ewrypteridau yn edrych yn debyg i sgorpionau, nid ydynt yn perthyn yn agos iddynt, er eu bod yn perthyn i'r un grŵp cyffredinol o arthropodau — anifeiliaid di-asgwrn-cefn â choesau cymalog, sy'n cynnwys corynnod, crancod, cimychiaid a phryfetach. Roedd yr ewrypteridau'n ffynnu o tua 480 miliwn o flynyddoedd yn ôl tan iddynt ddarfod â bod 250,000,000 o flynyddoedd yn ôl. Gwelir y rhan fwyaf o'u ffosilau mewn creigiau a ddyddodwyd mewn dŵr croyw neu ddŵr lled hallt; dim ond ychydig, yn cynnwys sbesimen Fforest Clud, sy'n dod o greigiau morol. Mae'n bosib bod y sbesimen wedi'i olchi allan i'r môr o ddyfroedd basach a oedd i'r dwyrain o Fforest Clud. Cewri cigysol y môr Mae'r pinsiwrn yn perthyn i math o ewrypterid o'r enw Pterygotus, a oedd yn gallu nofio'n dda. Wyddon ni ddim yn iawn beth yr oedd yn ei fwyta, ond mae'n debyg bod ei ddeiet yn cynnwys pysgod cyntefig. Mae'r sbesimenau mwyaf y gwyddom amdanynt o rannau eraill o'r byd yn mesur bron 3m (10 troedfedd) o hyd, a'r rhain yw'r arthropodau mwyaf y gwyddom amdanynt. Nid yw'r sbesimen yn Amgueddfa Cymru cweit mor fawr â hynny! Nid oedd y rhan fwyaf o ewrypteridau'n tyfu mor fawr. Trwy gyd-ddigwyddiad, ychydig ar ôl i'r pinsiwrn ddod i'r Amgueddfa, cawsom ewrypterid arall — y 'corff' y tro hwn. Daeth hwn o greigiau Silwraidd ychydig yn iau (400 miliwn oed) a oedd yn y golwg ger Woolhope (Swydd Henffordd). Fe'i casglwyd gan Dr Paul Selden, o Brifysgol Manceinion gynt, ac roedd yn mesur dim ond 0.9cm (0.3 modfedd) o hyd. Credir mai ffosil creadur ifanc ydyw ac y gallai'r anifail yn ei lawn dwf fod tua 10cm (4 modfedd) o hyd. Erbyn hyn, mae'r ddau sbesimen yng nghasgliadau'r Amgueddfa, diolch i haelioni'r casglwyr. Dros y blynyddoedd, mae'r cyhoedd a chydweithwyr academaidd wedi cyfoethogi ein casgliadau yn gyson ac mae rhoddion fel hyn yn ffynhonnell bwysig o ddefnyddiau i ni. Wyddoch chi byth beth fydd yn cyrraedd yfory...
Deinosor hwyadbig o'r enw Ruth 26 Gorffennaf 2007 Ychydig o ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac, yn wir, ychydig o aelodau'r staff y tu allan i'r Adran Ddaeareg sy'n gwybod mai 'Ruth' yw enw ei ffrindiau ar y deinosor hwyadbig enfawr Edmontosaurus. Mae'r enw'n awgrymu ein bod yn gwybod mai benyw yw'r sbesimen 8 metr o hyd ond mewn gwirionedd does dim tystiolaeth i ddweud ai benyw ynteu gwryw ydyw. Felly pam 'Ruth'? Mae'r ateb yn syml, heb unrhyw fath o ddirgelwch gwyddonol - mewn chwarel yn y Black Hills, South Dakota, UDA, a oedd yn eiddo i Mrs Ruth Mason, y daethpwyd o hyd i'r deinosor. Logo'r Black Hills Institute of Geological Research yn dangos Ruth y deinosor hwyadbig o Amgueddfa Cymru. Defnyddiwyd yr enw 'Ruth' i ddechrau gan staff y Black Hills Institute of Geological Research pan oeddent yn codi'r deinosor ym 1986-7, i gydnabod caredigrwydd Mrs Mason tuag atynt. Ar ïl i ni brynu'r sbesimen, daeth criw bach o'r cwmni draw i ail-osod y sgerbwd i ni. Gan eu bod nhw'n ei alw'n 'Ruth', fe ddechreuon ninnau wneud hynny hefyd wrth sïn yn anffurfiol am y sbesimen. Mae'r Black Hills Institute, yn Hill City, South Dakota yn un o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y byd sy'n ymwneud â chasglu, paratoi a chyflenwi sbesimenau o fwynau a ffosilau o safon uchel i'w harddangos mewn amgueddfeydd. Mae'r Edmontosaurus sydd i'w weld yng Nghaerdydd yn un o'r enghreifftiau gorau o ddeinosor 'hwyadbig' a godwyd erioed. Gosododd y Black Hills Institute ef mewn ystum realistig iawn wedi'i seilio ar ein gofynion dylunio ni. Mae'r sbesimen mor hardd ac yn edrych mor fyw fel bod y Black Hills Institute wedi cynnwys llun o'r sgerbwd yn ei logo: mae'n llun trawiadol ac yn arwydd da o fedr y gweithwyr. O'i dechreuadau di-nod dros 65 miliwn o flynyddoedd yn ïl, mae Ruth erbyn hyn yn cael ei chydnabod yn fyd-eang wrth iddi hysbysebu sbesimenau daearegol i'w harddangos. Mae hefyd yn cynnig profiad unigryw i bawb sy'n dod i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Bri rhyngwladol i 'Ffosil Cenedlaethol Cymru' 26 Gorffennaf 2007 Sbesimen o Paradoxides davidis o Borth-y-rhaw, x 0.75. Casgliad Amgueddfa Cymru Chyfnod un yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Chyfnod dau yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Chyfnod tri yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Ym 1862, canfuwyd un o'r trilobitau mwyaf erioed mewn craig yn Sir Benfro. Daeth yn un o ffosilau enwocaf Prydain ac mae'n ein helpu i ddeall sut yr oedd Cymru'n arfer bod yn sownd wrth Ogledd America, cyn ffurfio Eryri na Chefnfor Iwerydd. Casglu ffosilau yn ardal Penrhyn Tyddewi, Sir Benfro Ym 1862, roedd y paleontolegwr adnabyddus, J.W. Salter yn casglu ffosilau yn ne-orllewin Cymru fel rhan o'i waith gydag Arolwg Daearegol Prydain (BGS). Wrth archwilio clogwyni ardal greigiog Penrhyn Tyddewi un diwrnod, glaniodd Salter ym mhorth bychan Porth-y-rhaw, gan gredu ei fod yn Harbwr Solfach, sydd ychydig i'r dwyrain. Fel y digwyddodd, roedd hwn yn gamgymeriad ffodus oherwydd, yng nghreigiau Porth-y-rhaw, daeth ar draws olion un o'r trilobitau mwyaf a ganfuwyd erioed (dros 50cm o hyd) ac, o ganlyniad i'r darganfyddiad hwn, daeth yr ardal yn lle adnabyddus i hela ffosilau. Bywyd yn y môr gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl Cafodd y cerrig llaid tywyll sydd yn y golwg yno eu dyddodi mewn môr rhyw 510,000,000 o flynyddoedd yn ôl mewn cyfnod a elwir erbyn hyn yn Gyfnod Cambriaidd. Rhoddwyd yr enw hwn i'r cyfnod gan mai yng Nghymru y cafodd creigiau o'r cyfnod eu hadnabod a'u henwi gyntaf gan ddaearegwyr o'r 19eg ganrif. Mae Porth-y-rhaw ymhlith nifer fach o safleoedd yng Nghymru lle mae ffosilau o'r Cyfnod Cambriaidd wedi'u cadw'n eithaf da ac yn gymharol hawdd eu canfod. Yn ogystal â thrilobit enfawr Salter, ceir yno ffosilau llawer o fathau eraill o arthropodau morol sydd wedi hen ddarfod amdanynt. Fel rheol, mae'r rhain yn faint mwy cyffredin, sef rhyw 2-3cm o hyd. Ffosil cenedlaethol Cymru Yr enw gwyddonol ffurfiol a roddodd Salter ar y trilobit enfawr yw Paradoxides davidis, ar ôl ei ffrind David Homfray, casglwr ffosilau amatur o Borthmadog. Erbyn hyn, mae'r trilobit hwn ymhlith y rhai mwyaf adnabyddus a gasglwyd ym Mhrydain a gwelir ei lun mewn llawer o gyhoeddiadau; mae llawer o'n prif amgueddfeydd, yn cynnwys Amgueddfa Cymru, yn ymfalchïo os oes ganddynt sbesimenau da ohonynt. Yn wir, pe bai gan Gymru 'ffosil cenedlaethol', byddai Paradoxides davidis yn gystadleuydd brwd am y teitl. Byd-enwog Ceir llawer o sbesimenau o Paradoxides davidis ar Benrhyn Afalon yn ne-ddwyrain Newfoundland, mewn creigiau sy'n union yr un oed â'r rhai sydd yn y golwg ym Mhorth-y-rhaw. Yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig deall bod dosbarthiad y cyfandiroedd a'r moroedd yn wahanol iawn yn y Cyfnod Cambriaidd i'r hyn ydyw heddiw. Bryd hynny, roedd Cymru, Lloegr a de-ddwyrain Newfoundland ar ochr ddeheuol hen fôr, o'r enw Iapetws, wedi'u gwahanu oddi wrth yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland, fel y dangosir ar y map. Ceir yr un math o drilobitau yng Nghymru a de-ddwyrain Newfoundland a rhai hollol wahanol yn yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland ac mae hyn yn dangos eu bod yn arfer bod ar wahanol gyfandiroedd. Geni Eryri Tua 480,000,000 o flynyddoedd yn ôl, achosodd symudiadau y tu mewn i'r Ddaear i hen Fôr Iapetws gulhau'n raddol a diflannu wrth i'r ddau gyfandir daro yn erbyn ei gilydd. Arweiniodd hyn at ffurfio cadwyn o fynyddoedd uchel sydd heddiw i'w gweld yng Nghymru, yr Alban, Sgandinafia ac ym mynyddoedd yr Appalachiaid. Cefnfor newydd Iwerydd Yn nes ymlaen o lawer yn hanes y Ddaear, rhwng 200,000,000 a 65,000,000 o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd y ddau gyfandir wahanu eto gan ffurfio cefnfor newydd a ddaeth, maes o law, yn Gefnfor Iwerydd fel y mae heddiw. Fodd bynnag, nid oedd y rhwyg ar hyd yr un llinell yn union a'r llinell lle caewyd môr Iapetws, a gadawyd de-ddwyrain Newfoundland a'i drilobitau 'Cymreig' yn sownd wrth weddill Newfoundland a Gogledd America, a'r Alban a'i drilobitau o 'Ogledd America' yn sownd wrth weddill Ynysoedd Prydain. Mae'r ffaith bod yr un trilobitau'n cael eu darganfod mewn ardaloedd sy'n bell wrth ei gilydd yn pwysleisio bod angen i ddaearegwyr astudio ffosilau a ddaw o ardaloedd pell wrth ei gilydd er mwyn cynnig dehongliad llawn o hen hanes eu darn nhw eu hunain o gramen y Ddaear.
Bu perthnasau i'r deinosoriaid yn nofio yn ne Cymru 26 Gorffennaf 2007 Mae gan Amgueddfa Cymru sbesimenau da o anifeiliaid y môr o'r cyfnod cynhanesyddol. Roedd y rhain yn perthyn i'r deinosoriaid a buont yn nofio oddi ar arfordir de Cymru. Mae sbesimenau o Dorset yn dangos sut y bu môr rhwng y ddwy ardal slawer dydd. Ailgread o bysgfadfall yn hela'i brae, tebyg i fôr-lawes Cymru Drofannol Tua 210,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd y rhan fechan o gramen y ddaear lle mae Cymru erbyn hyn ymhell i'r de o'i safle presennol. Credir ei bod tua gogledd y trofannau lle roedd y tir yn rhan o archgyfandir mawr o'r enw Pangaea. Roedd ein hinsawdd yn boeth ac yn llaith, ac roedd rhan helaeth o Gymru'n dir uchel llwm wed'i amgylchynu â fflatiau llaid anial. Roedd cyfres o lynnoedd mawr i'r de yn ymestyn ymhell i mewn i Ewrop. Cymru'n boddi Wrth i'r cyfandiroedd symud tua'r gogledd, roedd cramen y ddaear yn ymrannu ac, ar sawl achlysur, cododd lefel y môr a boddi'r tir. Wrth i'r moroedd ymledu, daeth y creaduriaid morol sydd erbyn hyn yn ffosilau yn y creigiau. Ymhlith y creaduriaid harddaf a mwyaf trawiadol roedd ymlusgiaid morol a elwid yn ichthyosoriaid, neu bysgfadfallod, sef cefndryd pell y deinosoriaid oedd yn byw ar y tir. Erbyn 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl, tua dechrau'r Cyfnod Jurasig mewn amser daearegol, roedd y môr yn gorchuddio de Cymru, gan ollwng blanced o laid a thywod calch mân. Ymhen amser, cafodd y rhain eu cywasgu'n haenau llorweddol o garreg laid a charreg galch sydd, erbyn hyn, yn ffurfio clogwyni ardal Larnog gan ymestyn tua'r gorllewin o'r Barri i Southerndown. Ffosilau toreithiog Nid yw olion ichthyosoriaid yn anghyffredin yn y creigiau hyn, er mai dannedd ac esgyrn yma a thraw a welir gan amlaf. Ar ôl i'r anifeiliaid farw, malwyd y sgerbydau gan y cerhyntau a'r tonnau. Ychydig iawn o sbesimenau mwy cyflawn y daethpwyd o hyd iddynt yn ne Cymru. Ar y llaw arall, mae creigiau o'r un oed yng Ngwlad yr Haf a Dorset wedi bod yn ffynhonnell gyfoethog o sgerbydau ichthyosoriaid cyflawn neu bron yn gyflawn ers amser maith. Roedd môr y cyfnod Jurasig cynnar yn ymestyn o arfordir de Cymru, ar draws de-orllewin Lloegr a thu hwnt i ganol Ewrop. Yn y dyfroedd dyfnach, ymhellach o'r tir i'r de, roedd nerth y tonnau a'r cerhyntau arfordirol yn wannach. Felly, roedd y sgerbydau'n fwy tebygol o suddo i waelod y môr ac aros yno fwy neu lai'n gyfan. Serch hynny, peth cymharol brin yw dod o hyd i sgerbydau heddiw. Mae Amgueddfa Cymru'n lwcus iawn o gael nifer o sgerbydau ichthyosoriaid sydd bron yn gyflawn. Daethant o Lyme Regis yn Dorset, ac mae rhai o'r goreuon i'w gweld yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gan fod môr di-dor rhwng de Cymru a Dorset 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gallwn ddefnyddio'r ffosilau hardd hyn i gyflwyno rhan o hannes ein hardal. Mae ffosilau Dorset yn perthyn i'r un rywogaeth a'r rhai a ganfuwyd yng nghlogwyni Morgannwg, a byddai'r anifeiliaid hyn yn gallu nofio'n rhydd rhwng y ddwy ardal. Mae'r sbesimenau yn yr arddangosfa yn dangos ffurf lefn, hardd yr ichthyosoriaid. Roedd y siâp yn arbennig o addas ar gyfer nofio'n gyflym. Defnyddient gynffon fawr, fertigol i'w gyrru a phedair padl, fel esgyll, i'w llywio. Credir mai pysgod a môr-lewys oedd eu bwyd.