Awyrfeini 30 Gorffennaf 2008 Darnau o graig naturiol o'r gofod sy'n syrthio i'r ddaear yw gwibfeini. Wrth iddynt basio drwy'r atmosffer mae'r ffrithiant yn cynhesu'r haenau allanol gan achosi iddynt ddisgleirio'n llachar. Dyma sy'n gyfrifol am ffenomen y sêr gwib. Mae rhai gwibfeini cyn hyned â, neu'n hynach na'r Ddaear. Mae eu cyfansoddiad cemegol yn cynnwys gwybodaeth am hanes cynharaf cysawd yr haul, a gall roi cliwiau i ni am y ffordd y cafon nhw, a'n daear ni, eu creu. Daw'r detholiad delweddau isod o gasgliad gwibfeini Amgueddfa Cymru — cliciwch ar ddelwedd i ddarganfod mwy. Meteorites Haearn-carregog, palasit (PAL) Lleoliad: Talaith Somervell, Texas, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru Haearn, grŵp IIIA Lleoliad: Mynyddoedd Sacramento, Talaith Eddy, New Mexico, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i ysgythru ag asid i ddatgelu ei streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten - Cedwir y sbesimen mewn bag aerglos i gadw'r haearn rhag ocsideiddio yn y lleithder atmosfferig Haearn, grŵp IA Lleoliad: Odessa, Talaith Ector, Texas, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Torri ac ysgythru-asid i ddatgelu'r streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten — Cedwir y sbesimen mewn bag aerglos i gadw'r haearn rhag ocsideiddio yn y lleithder atmosfferig. Haearn, grŵp IIIAB Lleoliad: Cape York, Greenland, Gogledd America. Gorffeniad: Torri ac ysgythru-asid i ddatgelu'r streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten Condrit, enstatit (E6) Lleoliad: Happy Canyon, Talaith Armstrong, Texas, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i sleisio Condrit, olifin-hypersthene (L5) Lleoliad: Taiban, Talaith De Baca, New Mexico, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru Haearn, octahedrit IIB Lleoliad: Talaith Arforol, Rwsia. Cofnodwyd y gwymp am 10:38 am ar 12 Chwefror 1947 mewn coedwig drwchus ym Mynyddoedd Sikhote Alin, 40km o Novopoltavka. Canfuwyd 106 o dyllau gwrthdrawiad, y mwyaf ohonynt yn 28m Condrit, olifin-bronsit (H5) Lleoliad: Beddgelert, Eryri, Gwynedd. Gorffeniad: Atgynhyrchiad Haearn-carregog, palasit (PAL) Lleoliad: Krasnojarsk, Yeniseysk, Krasnoyarskiy Kray, Rwsia. Haearn-carregog, mesosiderit (MES) Lleoliad: Estherville, Emmet, Iowa, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru Haearn, grŵp IIIF Lleoliad: Talaith St Genevieve, Missouri, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i ysgythru ag asid i ddatgelu ei streipiau nodweddiadol, a elwir yn strwythurau Widmanstätten Tektit-indochinit Lleoliad: Samrong, Cambodia, Asia. Tektit-indochinit Lleoliad: Gwlad y Tai, Asia. — Mae'r dull darganfod a'r union leoliad yn anhysbys. Acondrit, Ca-poor, Urelite (AURE)Lleoliad: Kenna, Talaith Roosevelt, New Mexico, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Slab wedi'i dorri a'i lathru Condrit (H4) Lleoliad: Weldona, Talaith Morgan, Colorado, Unol Daleithiau America. Gorffeniad: Wedi'i dorri a'i lathru Gwibfaen Haearn Lleoliad: Gibeon, Namibia, Affrica. [Darn mawr o wibfaen haearn a syrthiodd yn Gabon, Nambia (a ddarganfuwyd ym 1836)]
Antartica'n rhewi 19 Mai 2008 Penderfynu ble i gymryd samplau i gael gwahanol gyfnodau Codi craidd o fwd 34 miliwn o flynyddoedd oed i'r wyneb Gwyddonwyr wrth eu gwaith yn disgrifio ac yn profi'r craidd Ffotograff agos o fforam 35 miliwn o flynyddoedd oed: Cribrohantkenina inflata, a ddarganfuwyd yn y creiddiau o Tansanïa. Gallwch weld mwy o ddelweddau o'r fforam cymhleth hwn yn yr oriel 'Agos at Natur'. Mae gwyddonwyr o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi darganfod tystiolaeth newydd ynglŷn â newidiadau hinsawdd yn y gorffennol sy'n help i ddatrys peth o ddirgelwch y llen iâ eang a ymddangosodd yn Antarctica 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Nid oedd Antarctica dan orchudd o iâ ymhob cyfnod; gorweddodd dros begwn y de heb rewi am bron i 100 miliwn o flynyddoedd. Yna, tua 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl newidiodd yr hinsawdd yn ddramatig ar y ffin rhwng epocau'r Ëosin a'r Oligosen. Oerodd yr hinsawdd tŷ gwydr cynnes, a fu'n sefydlog ers diflaniad y dinosoriaid, yn ddramatig, gan greu'r "ty-iâ" sydd wedi parhau hyd heddiw. Oeri byd-eang Mae nifer o wyddonwyr yr hinsawdd yn ceisio deall beth achosodd y newid hwn yn yr hinsawdd. Dylai hyn ddatgelu mwy am y ffordd mae'r hinsawdd yn ymateb i reolyddion mawr fel newidiadau yng nghylchdro'r Ddaear, a chrynodiad y nwyon tŷ-gwydr yn yr atmosffer. Trwy astudio'r microffosilau sy'n bresennol mewn haenau o fwd o'r dyfnfor, gellir cofnodi newidiadau yn hinsawdd y gorffennol. Hyd yma, mae gwyddonwyr wedi darganfod bod y moroedd wedi cynhesu yn ystod y newid mawr hwn yn yr hinsawdd, tra bod haenau o iâ wedi ymddangos yn Antarctica a'r Arctig. Nid yw'r dystiolaeth anghyson yn cytuno ag efelychiadau cyfrifiadurol o hinsawdd y cyfnod chwaith: nid yw'r modelau cyfrifiadurol yn dangos bod iâ yn yr Arctig. Project drilio Tanzania Daeth yr ateb i'r pos iâ hwn o gyfeiriad annisgwyl, sef Tansanïa yng Ngorllewin Affrica. Mae project drilio Tansanïa wedi bod yn adfer creiddiau mwd hynafol a ddyddodwyd ar wely'r môr (ac sydd bellach wedi cael eu codi'n ddaearegol i'r tir). Mae creiddiau Tansanïa yn arbennig gan fod trwch mawr o fwd wedi cael ei osod mewn cyfnod cymharol fyr, sy'n golygu bod modd gweld newidiadau yn yr hinsawdd drwy'r oesoedd mewn cryn fanylder. Hefyd caiff microffosilau eu canfod yn y creiddiau mewn cyflwr gwych. Mae'r creiddiau Tansanïaidd yn cynnig y darlun clir cyntaf o'r gydberthynas rhwng gostyngiadau yn lefelau'r môr a newidiadau yn yr hinsawdd. Unioni'r cam Defnyddiwyd cemeg y microffosilau Tansanïaidd i greu cofnodion o dymheredd a chyfaint iâ dros gyfnod y newid mawr hwn yn yr hinsawdd. Mae'r cofnodion newydd hyn yn dangos bod moroedd y byd wedi oeri gydag ymddangosiad yr haenau iâ, ac y byddai cyfaint yr iâ wedi ffitio ar Antarctica; felly bellach mae'r efelychiadau cyfrifiadurol o ddata'r hinsawdd, a hinsawdd y gorffennol yn cyfateb. Heddiw mae'r pwyslais ar chwilio am dystiolaeth o achos yr oeri byd-eang hwn. Credir mai lleihad graddol yn lefelau CO2 yr atmosffer sy'n bennaf gyfrifol, wedi'i gyfuno â chyfnod 'sbardun' pan greodd cylchdro'r Ddaear o amgylch yr haul hafau Antarctaidd digon oer i rewi iâ drwy gydol y flwyddyn. Sut mae'n gweithio Trwy astudio cemegau cregyn anifeiliaid bychan maint blaen pin o'r enw fforaminifferau, gallwn weld sut y newidiodd tymheredd y môr ar hyd yr oesoedd. Mae fforaminifferau yn adnoddau gwych ar gyfer astudio hinsawdd y gorffennol, sy'n ein helpu i ddysgu am ansicrwydd hinsawdd tŷ-gwydr ein dyfodol. 1). Mae fforaminifferau yn tynnu elfennau cemegol o'r môr i'w cregyn, ac maent yn defnyddio mwy o fagnesiwm mewn tymhereddau cynhesach. 2). Mae fforaminifferau marw'n cwympo i wely'r môr, ac yn cronni mewn haenau o fwd dros filiynau o flynyddoedd. 3). Heddw, mae treiddio i lawr drwy'r haenau mwd fel teithio yn ôl trwy amser. Mae mesur cynnwys magnesiwm y fforaminifferau yn yr haenau mwd yn rhoi cofnod o'r ffordd y newidiodd tymheredd y môr ar hyd yr oesoedd - mae mwy o fagnesiwm yn golygu tymheredd cynhesach Darllen Cefndir Lear, CH, Bailey, TR, Pearson, PN, Coxall, HK, Rosenthal, Y. Cooling and ice growth across the Eocene-Oligocene transition. Geology 36 (3), 251-254. 2008. http://www.gsajournals.org/perlserv/?request=get-abstract&doi=10.1130%2FG24584A.1
Daeargrynfâu yng Nghymru 27 Mawrth 2008 Er na ellir cymharu'r sefyllfa yng Nghymru â'r hyn a geir mewn ardaloedd sy'n enwog am fod yn ansefydlog fel gorllewin Califfornia, Japan neu Swmatra, mae'r ddaear yn symud yn eithaf aml yma hefyd. Efallai y synnwch o glywed bod o leiaf 16 daeargryn sylweddol wedi digwydd yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf. Seismograff yn dangos daeargryn yn y gogledd ym 1994 Beth sy'n achosi daeargrynfâu yng Nghymru?Mae Arolwg Daearegol Prydain (BGS) yn cofnodi rhyw 300-400 o ddaeargrynfâu bob blwyddyn ym Mhrydain. Mae Cymru, fel gweddill y DU, yn eistedd ar y plât Ewropeaidd, ac mae'r straen yn cynyddu wrth iddo gael ei wthio'n araf tua'r gogledd ddwyrain o Gefnen Canol Cefnfor Iwerydd. Caiff y straen ei ollwng trwy symud ar hyd planiau ffawtiau sydd yno eisoes, gan achosi daeargryn.Lle yng Nghymru y mae daeargrynfâu yn digwydd?Ceir nifer o hen systemau ffawtiau yng Nghymru. Pan ffurfir ffawtiau, maent yn creu gwendid yng nghramen y ddaear lle gall daeargrynfâu ddigwydd dro ar ôl tro. Er enghraifft, gwyddom fod y system ffawtiau sy'n rhedeg yn gyfochrog ag Afon Menai rhwng Ynys Môn a Bangor, Gwynedd yn weithredol dros 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac fe gafwyd daeargrynfâu eraill yno yn fwy diweddar.Yn ardal Afon Menai y ceir y rhan fwyaf o ddaeargrynfâu Cymru ac mae'n un o'r ardaloedd sy'n cael ei tharo amlaf yn y DU hefyd. Ym 1984 y cafwyd y ddaeargryn fawr ddiwethaf yma ond ceir cofnodion hanesyddol am eraill hefyd (e.e. 1827, 1842, 1852, 1874, 1879, 1903). Er bod sawl daeargryn wedi'u cofnodi yn ne Cymru, o Sir Benfro i Gasnewydd, dim ond yn ardal Abertawe y cafwyd daeargrynfâu yn gymharol aml, gyda rhai eithaf mawr ym 1727, 1775, 1832, 1868 a 1906. Y ddaeargryn fwyaf yng Nghymru ers canrifY ddaeargryn a gafwyd yn ardal Afon Menai ym 1984, yn mesur 5.4, oedd yr un fwyaf a gafwyd ar dir mawr y DU ers dros ganrif. Roedd yr uwchganolbwynt yn ardal gogledd Llŷn ac fe gychwynnodd y ddaeargryn ar ddyfnder o ryw 22km yng nghramen y ddaear.Cafwyd daeargryn arall sylweddol ar 2 Ebrill 1990 yn y Gororau. Roedd hon yn mesur 5.1 a chafodd ei theimlo dros ardal o ryw 140,000km sgwâr. Cafwyd chwe ôl-gryniad wedyn. Y farn i ddechrau oedd mai yn Nhrefesgob (Swydd Amwythig) roedd yr uwchganolbwynt ond canfuwyd wedyn ei fod ychydig y tu mewn i ffin Cymru (lledred 52.43° Gogledd, hydred 3.03° Gorllewin).Difrod lleolNi wnaed llawer iawn o ddifrod gan y naill na'r llall o'r daeargrynfâu hyn. Craciwyd plastr a gwaith cerrig mewn tai a dymchwelodd rhai simneiau. Yn naeargryn Trefesgob, dim ond yn yr ardal agosaf at yr uwchganolbwynt y cafwyd unrhyw ddifrod.Yr unig farwolaeth y gwyddom amdani yng Nghymru o ganlyniad i ddaeargryn yw bod menyw wedi syrthio i lawr y grisiau a marw yn ystod daeargryn Porthmadog ym 1940.Ar y cyfan, nid yw pobl yn teimlo effeithiau daeargrynfâu sy'n mesur llai na 2.Cofnodi daeargrynfâu yn Amgueddfa Cymru.Mae seismograff yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dangos yr hyn a gofnodir gan seismomedr yn yr ardal fel y gellir gweld data o ddigwyddiadau seismig.Gan fod seismomedrau yn sensitif iawn i bob math o ddirgryniadau yn y ddaear, nid dim ond daeargrynfâu ond symudiadau traffig, trenau a hyd yn oed waith ar y ffordd, nid oedd modd gosod seismomedr yng nghanol dinas Caerdydd. Yn hytrach, rydym yn cael data trwy gysylltiad radio o seismomedr agosaf y BGS ger Casnewydd, Gwent.Daeargrynfâu DiweddarBu daeargryn o gryfder 4.6 yn ne Cymru ar y 17ed o Chwefror, 2018. Yn ôl Arolygaeth Ddaearegol Prydain (y British Geological Survey, neu'r BGS), roedd ei chanolbwynt rhwng Ystradgynlais ac Ystalafera. Bu daeargryn arall ar yr 20ed o Chwefror, 2014, yn yr Afon Hafren ger Bryste, a deimlwyd dros dde Cymru, Dyfnaint, Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw. Cofnododd y BGS fod pobl leol wedi "teimlo dirgryniad fel petai cerbyd mawr yn pasio'r adeilad", gyda thyst arall yn dweud ei fod yn "teimlo fel bod y ty cyfan yn siglo nôl a 'mlaen".Geirfaôl-gryniadau yw'r daeargrynfâu sy'n dilyn y ddaeargryn fwyaf mewn cyfres. Maent yn llai na'r brif ddaeargryn a gallant barhau am flynyddoedd wedyn. Mae hyd cyfnod yr ôl-gryniadau yn gysylltiedig â maint y brif ddaeargryn. Yn dilyn daeargryn fawr, ceir ôl-gryniadau mwy niferus a mwy o faint am gyfnod hirach.Uwchganolbwynt yw'r man ar wyneb y Ddaear uwchben isganolbwynt y ddaeargryn.Isganolbwynt, y man, yn ddwfn yn y ddaear, lle mae'r ddaeargryn yn cychwyn.Dwysedd yw'r ffordd y mesurir effaith daeargryn ar bobl a'r amgylchedd. Mae'r dwysedd yn dibynnu ar y pellter o'r uwchganolbwynt; maint y ddaeargryn; a daeareg yr ardal. Yn Ewrop, defnyddir EMS 98 (y Raddfa Macroseismig Ewropeaidd), ac iddi 12 rhan, ac yn UDA, defnyddir Graddfa Ddwysedd Addasedig Mercalli. Ceir manylion EMS 98 yn:-http://www.earthquakes.bgs.ac.uk/macroseismics/ems_synopsis.htmMaint yw'r ffordd o fesur cryfder daeargryn. Mae'n raddfa logarithmig ac ar gyfer pob cynnydd o un rhif cyfan ar y raddfa, mae symudiadau'r ddaear ddengwaith gymaint. Ceir sawl graddfa i fesur maint deaergryn, ond 'Graddfa Richter'(ML - maint lleol) yw'r un a ddefnyddir gan amlaf yn y DU ar gyfer daeargrynfâu 'lleol'.Plât. Caiff haenau allanol cramen a mantell y Ddaear eu rhannu'n segmentau a elwir yn blatiau ac mae'r rhain yn symud trwy'r amser. Gelwir y broses hon yn dectoneg platiau.Mae seismomedrau yn gweithio trwy fesur lleoliad pwysau, sydd â thorch yn sownd wrtho, mewn perthynas â magned mewn ffrâm. Mae dirgryniadau'n gwneud i'r dorch symud gan greu cerrynt trydan a gofnodir gan seismograff. Mae seismomedrau'n sensitif iawn a gallant gofnodi symudiadau bach iawn nad yw pobl yn eu teimlo o gwbl.Mae seismograffau yn cofnodi'r symudiadau a deimlir gan y seismomedr. Gwneir hyn trwy olrhain y symudiad ar bapur neu ar ffurf data electronig. Mae marcwyr amser yn golygu y gellir cofnodi'n union pryd y mae digwyddiad seismig yn cyrraedd y seismomedr. Gellir canfod lleoliad daeargryn trwy ddefnyddio data o dri seismograff neu fwy.I gael data cyfredol am ddaeargrynfâu, ewch i: http://earthquake.usgs.gov/earthquakes/ & http://www.earthquakes.bgs.ac.uk/ & http://www.emsc-csem.org/
Yr Amgueddfa'n cofnodi'r daeargryn mwyaf yn y DU ers 25 mlynedd 28 Chwefror 2008 Sgan o seismograff Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cofnodwyd y siocdonnau gan seismomedr ger Casnewydd cyn eu trosglwyddo i seismograff yr Amgueddfa. Mae seismograff yr Amgueddfa wedi cofnodi'r digwyddiad seismig mwyaf ar dir ers 1990. Cofnodwyd y digwyddiad gan seismograff yr Amgueddfa am 00:57.14 GMT ar 27 Chwefror. Cadarnhawyd mai dyma'r daeargryn maint 5.2 a gofnodwyd gan Arolwg Daearegol Prydain. Canfuwyd yr uwchganolbwynt i'r gogledd o Market Rasen, Sir Lincoln am 00.56.47 GMT. Cymerodd tonnau'r daeargryn gwta 27 eiliad i deithio'r 158 milltir rhwng Market Rasen a'r seismomedr, sydd ger Casnewydd. Mae hyn yn golygu bod y tonnau wedi teithio ar gyflymder o 5.85 milltir yr eiliad. Dyma'r digwyddiad mwyaf ar y tir yn y DU ers y daeargryn maint 5.1 yn Bishops Castle ar ffin Cymru ar 2 Ebrill 1990. Teimlwyd effeithiau digwyddiad Market Rasen cyn belled â Newcastle, Sir Efrog, Llundain, Cymbria, Canolbarth Lloegr, Norfolk a rhannau o Gymru. Cafwyd adroddiadau o ddifrod i doeon, waliau a simneiau o amgylch yr uwchganolbwynt, ac anafwyd dyn yn Wombwell ger Barnsley, de Sir Efrog, pan gwympodd gwaith maen ar ei ben. Ôl-gryniad Yn aml bydd daeargrynfeydd llai, neu ôl-gryniadau, yn dilyn daeargrynfeydd o'r maint hyn. Cofnodwyd daeargryn maint 1.8 yn yr ardal ychydig oriau'n unig ar ôl y prif ddigwyddiad. Bydd angen ymchwiliad manwl i ganfod y strwythur daearegol oedd yn gyfrifol am y prif ddaeargryn. Mae'r Arolwg Daearegol eisoes wedi dangos i'r daeargryn ddigwydd tua 18km o dan y ddaear. Mae'n debygol felly ei fod wedi digwydd ar hyd ffawtlin mewn creigiau Gyn-Gambriaidd, fel y rhai sy'n gorwedd o dan y rhan fwyaf o Gymru. Mae'n annhebygol fod yr union ffawtlin a achosodd y daeargryn yn agored ar yr arwyneb gan fod creigiau Paleosöig a Mesosöig iau (Carbonifferaidd, Triasig a Jwrasig, er enghraifft) yn gorchuddio'r creigiau Gyn-Gambriaidd yn ardal Market Rasen. Y daeargryn maint 5.4 ym Mhen Llyn ar 19 Gorffennaf 1984 yw'r un mwyaf a gofnodwyd erioed ar y tir yn y DU. Gwybodaeth o: http://www.earthquakes.bgs.ac.uk/ http://www.emsc-csem.org/ http://earthquake.usgs.gov/regional/neic/ http://news.bbc.co.uk/
Creigiau hynaf Cymru 26 Gorffennaf 2007 Yr eitemau hynaf yng nghasgliadau'r Amgueddfa yw awyrfeini 4,500 miliwn mlynedd oed o'r gofod. Fodd bynnag, yr eitemau hynaf o Gymru yw sbesimenau o greigiau o ardal Pencraig, Powys, a ffurfiwyd tua 700 miliwn o flynyddoedd yn ôl, cyn i Gymru gymryd y ffurf yr ydym ni'n ei hadnabod heddiw. Creigiau tawdd o Afalonia Y creigiau hyn sy'n ffurfio y tri bryn bychain conaidd Hanter, Stanner a Worsel Wood, ac fe'u gwnaed o gabro, dolerit ac ithfaen — creigiau igneaidd a fu unwaith yn greigiau tawdd. Pan ffurfiwyd y rhain 700 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru ymhell yn hemisffer y de. Roedd Cymru, Lloegr a rhannau o Newfoundland, New Brunswick a New England yn rhan o ficrogyfandir Afalonia a oedd ar gyrion cyfandir enfawr Gondwana. Bryd hynny, roedd yr Alban yn agos at y cyhydedd, yn sownd wrth gyfandir Laurentia yng Ngogledd America. Ni ddaeth yn rhydd ac uno â de Prydain am gannoedd o filiynau o flynyddoedd wedyn. Ceir creigiau hen iawn ar Ynys Môn ac ym Mhen Llŷn hefyd, a chredir bod creigiau tebyg yn ddwfn yn y ddaear ledled Cymru. Fel rheol, dim ond mewn mannau lle cawsant eu codi i'r wyneb ar hyd y prif ffawtiau y gwelwn y creigiau hynafol hyn. Sut y gwyddom mai'r rhain yw creigiau hynaf Cymru? Nid oes ffosilau yn y creigiau hyn. Felly, sut y gwyddom mai'r creigiau o ardal Pencraig yw'r hynaf a pha mor hen ydynt? Cawn yr ateb wrth edrych ar y mwynau sydd yn y creigiau a'r elfennau cemegol sydd yn y mwynau hynny. Dadfeiliad ymbelydrol Mae creigiau'n cynnwys gwahanol fwynau a'r mwynau yn eu tro yn cynnwys elfennau cemegol. Mae llawer o elfennau i'w cael mewn gwahanol ffurfiau, neu isotopau, ac mae rhai o'r rhain yn naturiol ansefydlog ac yn newid ohonynt eu hunain i fod yn elfen arall trwy broses dadfeiliad ymbelydrol. Trwy'r broses hon, cawn gloc naturiol sy'n mesur faint o amser a fu ers i'r mwynau gael eu ffurfio. Mae'r cloc yn dechrau cerdded cyn gynted ag y bydd y mwyn yn crisialu. Trwy ddefnyddio offer manwl iawn — spectromedr màs — gellir mesur cyfran cynhyrchion y dadfeiliad ymbelydrol. Gan fod y rhain yn crynhoi ar raddfa sy'n gyson, gellir cyfrif faint o amser a gymerodd iddynt ffurfio — fel rheol mae'n cymryd miliynau lawer o flynyddoedd. Mesurwyd oed creigiau Stanner-Hanter gan gyfrif yr amser a gymerodd isotop ansefydlog o rwbidiwm i ddadfeilio'n strontiwm. Defnyddiwyd elfennau gwahanol, er enghraifft wraniwm a phlwm, i ddyddio hen greigiau eraill. Er bod creigiau hynaf Cymru yn 700 miliwn o flynyddoedd oed, maent gryn dipyn yn iau na creigiau hynaf Ynysoedd Prydain ac Ewrop. Creigiau metamorffig o Ynysoedd Lewis, yr Alban, yw'r rhain a chredir eu bod yn 3,300 miliwn o flynyddoedd oed. Creigiau hynaf y byd Mae'r creigiau hynaf y gwyddom amdanynt yn y byd yn 3,962 miliwn o flynyddoedd oed ac yn dod o Acasta, gogledd orllewin Canada. Cawsant eu creu o greigiau sy'n hŷn na hynny hyd yn oed, ond na chawsant eu dyddio hyd yma. Mae samplau o greigiau hynaf Cymru, Ynysoedd Prydain a'r byd i'w gweld yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.