Arswyd y Moroedd Silwraidd 26 Gorffennaf 2007 Yr ewrypterid o Fforest Clud (x1.5) y sbesimen mewn perthynas â'r anifail cyfan yn yr ailgread Mae'r sbesimen bach o ardal Woolhope (x3.5). Sylwch fod tarian y pen wedi'i symud i'r chwith. Mae pobl yn dod â nifer fawr o sbesimenau i'r Adran Ddaeareg bob blwyddyn gan obeithio y gallwn ddweud beth ydynt. Gan amlaf, ffosilau neu fwynau cyffredin yw'r rhain ond, o bryd i'w gilydd, mae rhywun yn dod â rhywbeth anghyffredin. Dyna a ddigwyddodd ym mis Rhagfyr 1989 pan ddaeth Mr Stephen Jenkins o Aberhonddu â ffosil rhyfedd ei olwg y daeth o hyd iddo ar ochr lôn trwy Fforest Clud. Anifail mawr tebyg i sgorpion I ddechrau roedd yn edrych fel gên pysgodyn a nifer o ddannedd main o wahanol faint ond, ar ôl ei archwilio'n ofalus, gwelwyd nad dyna ydoedd. Yn y diwedd, llwyddwyd i ganfod beth oedd y ffosil mewn gwirionedd — hanner pinsiwrn anifail y dŵr, tebyg i sgorpion, oedd wedi darfod â bod, o'r enw ewrypterid. Un peth trawiadol am y sbesimen hwn yw ei faint - 64mm (2.5 modfedd) o hyd, sy'n dangos bod yr anifail cyfan tua 70cm (27 modfedd) o hyd. Mae'r creigiau lle canfuwyd y ffosil ym Maesyfed yn perthyn i Gyfres Llwydlo yn y System Silwraidd — tua 420 miliwn oed. Er bod ewrypteridau yn edrych yn debyg i sgorpionau, nid ydynt yn perthyn yn agos iddynt, er eu bod yn perthyn i'r un grŵp cyffredinol o arthropodau — anifeiliaid di-asgwrn-cefn â choesau cymalog, sy'n cynnwys corynnod, crancod, cimychiaid a phryfetach. Roedd yr ewrypteridau'n ffynnu o tua 480 miliwn o flynyddoedd yn ôl tan iddynt ddarfod â bod 250,000,000 o flynyddoedd yn ôl. Gwelir y rhan fwyaf o'u ffosilau mewn creigiau a ddyddodwyd mewn dŵr croyw neu ddŵr lled hallt; dim ond ychydig, yn cynnwys sbesimen Fforest Clud, sy'n dod o greigiau morol. Mae'n bosib bod y sbesimen wedi'i olchi allan i'r môr o ddyfroedd basach a oedd i'r dwyrain o Fforest Clud. Cewri cigysol y môr Mae'r pinsiwrn yn perthyn i math o ewrypterid o'r enw Pterygotus, a oedd yn gallu nofio'n dda. Wyddon ni ddim yn iawn beth yr oedd yn ei fwyta, ond mae'n debyg bod ei ddeiet yn cynnwys pysgod cyntefig. Mae'r sbesimenau mwyaf y gwyddom amdanynt o rannau eraill o'r byd yn mesur bron 3m (10 troedfedd) o hyd, a'r rhain yw'r arthropodau mwyaf y gwyddom amdanynt. Nid yw'r sbesimen yn Amgueddfa Cymru cweit mor fawr â hynny! Nid oedd y rhan fwyaf o ewrypteridau'n tyfu mor fawr. Trwy gyd-ddigwyddiad, ychydig ar ôl i'r pinsiwrn ddod i'r Amgueddfa, cawsom ewrypterid arall — y 'corff' y tro hwn. Daeth hwn o greigiau Silwraidd ychydig yn iau (400 miliwn oed) a oedd yn y golwg ger Woolhope (Swydd Henffordd). Fe'i casglwyd gan Dr Paul Selden, o Brifysgol Manceinion gynt, ac roedd yn mesur dim ond 0.9cm (0.3 modfedd) o hyd. Credir mai ffosil creadur ifanc ydyw ac y gallai'r anifail yn ei lawn dwf fod tua 10cm (4 modfedd) o hyd. Erbyn hyn, mae'r ddau sbesimen yng nghasgliadau'r Amgueddfa, diolch i haelioni'r casglwyr. Dros y blynyddoedd, mae'r cyhoedd a chydweithwyr academaidd wedi cyfoethogi ein casgliadau yn gyson ac mae rhoddion fel hyn yn ffynhonnell bwysig o ddefnyddiau i ni. Wyddoch chi byth beth fydd yn cyrraedd yfory...
Deinosor hwyadbig o'r enw Ruth 26 Gorffennaf 2007 Ychydig o ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac, yn wir, ychydig o aelodau'r staff y tu allan i'r Adran Ddaeareg sy'n gwybod mai 'Ruth' yw enw ei ffrindiau ar y deinosor hwyadbig enfawr Edmontosaurus. Mae'r enw'n awgrymu ein bod yn gwybod mai benyw yw'r sbesimen 8 metr o hyd ond mewn gwirionedd does dim tystiolaeth i ddweud ai benyw ynteu gwryw ydyw. Felly pam 'Ruth'? Mae'r ateb yn syml, heb unrhyw fath o ddirgelwch gwyddonol - mewn chwarel yn y Black Hills, South Dakota, UDA, a oedd yn eiddo i Mrs Ruth Mason, y daethpwyd o hyd i'r deinosor. Logo'r Black Hills Institute of Geological Research yn dangos Ruth y deinosor hwyadbig o Amgueddfa Cymru. Defnyddiwyd yr enw 'Ruth' i ddechrau gan staff y Black Hills Institute of Geological Research pan oeddent yn codi'r deinosor ym 1986-7, i gydnabod caredigrwydd Mrs Mason tuag atynt. Ar ïl i ni brynu'r sbesimen, daeth criw bach o'r cwmni draw i ail-osod y sgerbwd i ni. Gan eu bod nhw'n ei alw'n 'Ruth', fe ddechreuon ninnau wneud hynny hefyd wrth sïn yn anffurfiol am y sbesimen. Mae'r Black Hills Institute, yn Hill City, South Dakota yn un o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y byd sy'n ymwneud â chasglu, paratoi a chyflenwi sbesimenau o fwynau a ffosilau o safon uchel i'w harddangos mewn amgueddfeydd. Mae'r Edmontosaurus sydd i'w weld yng Nghaerdydd yn un o'r enghreifftiau gorau o ddeinosor 'hwyadbig' a godwyd erioed. Gosododd y Black Hills Institute ef mewn ystum realistig iawn wedi'i seilio ar ein gofynion dylunio ni. Mae'r sbesimen mor hardd ac yn edrych mor fyw fel bod y Black Hills Institute wedi cynnwys llun o'r sgerbwd yn ei logo: mae'n llun trawiadol ac yn arwydd da o fedr y gweithwyr. O'i dechreuadau di-nod dros 65 miliwn o flynyddoedd yn ïl, mae Ruth erbyn hyn yn cael ei chydnabod yn fyd-eang wrth iddi hysbysebu sbesimenau daearegol i'w harddangos. Mae hefyd yn cynnig profiad unigryw i bawb sy'n dod i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Creigiau hynaf Cymru 26 Gorffennaf 2007 Yr eitemau hynaf yng nghasgliadau'r Amgueddfa yw awyrfeini 4,500 miliwn mlynedd oed o'r gofod. Fodd bynnag, yr eitemau hynaf o Gymru yw sbesimenau o greigiau o ardal Pencraig, Powys, a ffurfiwyd tua 700 miliwn o flynyddoedd yn ôl, cyn i Gymru gymryd y ffurf yr ydym ni'n ei hadnabod heddiw. Creigiau tawdd o Afalonia Y creigiau hyn sy'n ffurfio y tri bryn bychain conaidd Hanter, Stanner a Worsel Wood, ac fe'u gwnaed o gabro, dolerit ac ithfaen — creigiau igneaidd a fu unwaith yn greigiau tawdd. Pan ffurfiwyd y rhain 700 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru ymhell yn hemisffer y de. Roedd Cymru, Lloegr a rhannau o Newfoundland, New Brunswick a New England yn rhan o ficrogyfandir Afalonia a oedd ar gyrion cyfandir enfawr Gondwana. Bryd hynny, roedd yr Alban yn agos at y cyhydedd, yn sownd wrth gyfandir Laurentia yng Ngogledd America. Ni ddaeth yn rhydd ac uno â de Prydain am gannoedd o filiynau o flynyddoedd wedyn. Ceir creigiau hen iawn ar Ynys Môn ac ym Mhen Llŷn hefyd, a chredir bod creigiau tebyg yn ddwfn yn y ddaear ledled Cymru. Fel rheol, dim ond mewn mannau lle cawsant eu codi i'r wyneb ar hyd y prif ffawtiau y gwelwn y creigiau hynafol hyn. Sut y gwyddom mai'r rhain yw creigiau hynaf Cymru? Nid oes ffosilau yn y creigiau hyn. Felly, sut y gwyddom mai'r creigiau o ardal Pencraig yw'r hynaf a pha mor hen ydynt? Cawn yr ateb wrth edrych ar y mwynau sydd yn y creigiau a'r elfennau cemegol sydd yn y mwynau hynny. Dadfeiliad ymbelydrol Mae creigiau'n cynnwys gwahanol fwynau a'r mwynau yn eu tro yn cynnwys elfennau cemegol. Mae llawer o elfennau i'w cael mewn gwahanol ffurfiau, neu isotopau, ac mae rhai o'r rhain yn naturiol ansefydlog ac yn newid ohonynt eu hunain i fod yn elfen arall trwy broses dadfeiliad ymbelydrol. Trwy'r broses hon, cawn gloc naturiol sy'n mesur faint o amser a fu ers i'r mwynau gael eu ffurfio. Mae'r cloc yn dechrau cerdded cyn gynted ag y bydd y mwyn yn crisialu. Trwy ddefnyddio offer manwl iawn — spectromedr màs — gellir mesur cyfran cynhyrchion y dadfeiliad ymbelydrol. Gan fod y rhain yn crynhoi ar raddfa sy'n gyson, gellir cyfrif faint o amser a gymerodd iddynt ffurfio — fel rheol mae'n cymryd miliynau lawer o flynyddoedd. Mesurwyd oed creigiau Stanner-Hanter gan gyfrif yr amser a gymerodd isotop ansefydlog o rwbidiwm i ddadfeilio'n strontiwm. Defnyddiwyd elfennau gwahanol, er enghraifft wraniwm a phlwm, i ddyddio hen greigiau eraill. Er bod creigiau hynaf Cymru yn 700 miliwn o flynyddoedd oed, maent gryn dipyn yn iau na creigiau hynaf Ynysoedd Prydain ac Ewrop. Creigiau metamorffig o Ynysoedd Lewis, yr Alban, yw'r rhain a chredir eu bod yn 3,300 miliwn o flynyddoedd oed. Creigiau hynaf y byd Mae'r creigiau hynaf y gwyddom amdanynt yn y byd yn 3,962 miliwn o flynyddoedd oed ac yn dod o Acasta, gogledd orllewin Canada. Cawsant eu creu o greigiau sy'n hŷn na hynny hyd yn oed, ond na chawsant eu dyddio hyd yma. Mae samplau o greigiau hynaf Cymru, Ynysoedd Prydain a'r byd i'w gweld yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Bri rhyngwladol i 'Ffosil Cenedlaethol Cymru' 26 Gorffennaf 2007 Sbesimen o Paradoxides davidis o Borth-y-rhaw, x 0.75. Casgliad Amgueddfa Cymru Chyfnod un yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Chyfnod dau yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Chyfnod tri yn natblygiad ardal gogledd Cefnfor Iwerydd. Mae'r trionglau'n dangos ym mha ardaloedd y ceir trilobitau 'Cymreig' a'r dotiau'n dangos lle ceir rhai o 'Ogledd America' Ym 1862, canfuwyd un o'r trilobitau mwyaf erioed mewn craig yn Sir Benfro. Daeth yn un o ffosilau enwocaf Prydain ac mae'n ein helpu i ddeall sut yr oedd Cymru'n arfer bod yn sownd wrth Ogledd America, cyn ffurfio Eryri na Chefnfor Iwerydd. Casglu ffosilau yn ardal Penrhyn Tyddewi, Sir Benfro Ym 1862, roedd y paleontolegwr adnabyddus, J.W. Salter yn casglu ffosilau yn ne-orllewin Cymru fel rhan o'i waith gydag Arolwg Daearegol Prydain (BGS). Wrth archwilio clogwyni ardal greigiog Penrhyn Tyddewi un diwrnod, glaniodd Salter ym mhorth bychan Porth-y-rhaw, gan gredu ei fod yn Harbwr Solfach, sydd ychydig i'r dwyrain. Fel y digwyddodd, roedd hwn yn gamgymeriad ffodus oherwydd, yng nghreigiau Porth-y-rhaw, daeth ar draws olion un o'r trilobitau mwyaf a ganfuwyd erioed (dros 50cm o hyd) ac, o ganlyniad i'r darganfyddiad hwn, daeth yr ardal yn lle adnabyddus i hela ffosilau. Bywyd yn y môr gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl Cafodd y cerrig llaid tywyll sydd yn y golwg yno eu dyddodi mewn môr rhyw 510,000,000 o flynyddoedd yn ôl mewn cyfnod a elwir erbyn hyn yn Gyfnod Cambriaidd. Rhoddwyd yr enw hwn i'r cyfnod gan mai yng Nghymru y cafodd creigiau o'r cyfnod eu hadnabod a'u henwi gyntaf gan ddaearegwyr o'r 19eg ganrif. Mae Porth-y-rhaw ymhlith nifer fach o safleoedd yng Nghymru lle mae ffosilau o'r Cyfnod Cambriaidd wedi'u cadw'n eithaf da ac yn gymharol hawdd eu canfod. Yn ogystal â thrilobit enfawr Salter, ceir yno ffosilau llawer o fathau eraill o arthropodau morol sydd wedi hen ddarfod amdanynt. Fel rheol, mae'r rhain yn faint mwy cyffredin, sef rhyw 2-3cm o hyd. Ffosil cenedlaethol Cymru Yr enw gwyddonol ffurfiol a roddodd Salter ar y trilobit enfawr yw Paradoxides davidis, ar ôl ei ffrind David Homfray, casglwr ffosilau amatur o Borthmadog. Erbyn hyn, mae'r trilobit hwn ymhlith y rhai mwyaf adnabyddus a gasglwyd ym Mhrydain a gwelir ei lun mewn llawer o gyhoeddiadau; mae llawer o'n prif amgueddfeydd, yn cynnwys Amgueddfa Cymru, yn ymfalchïo os oes ganddynt sbesimenau da ohonynt. Yn wir, pe bai gan Gymru 'ffosil cenedlaethol', byddai Paradoxides davidis yn gystadleuydd brwd am y teitl. Byd-enwog Ceir llawer o sbesimenau o Paradoxides davidis ar Benrhyn Afalon yn ne-ddwyrain Newfoundland, mewn creigiau sy'n union yr un oed â'r rhai sydd yn y golwg ym Mhorth-y-rhaw. Yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig deall bod dosbarthiad y cyfandiroedd a'r moroedd yn wahanol iawn yn y Cyfnod Cambriaidd i'r hyn ydyw heddiw. Bryd hynny, roedd Cymru, Lloegr a de-ddwyrain Newfoundland ar ochr ddeheuol hen fôr, o'r enw Iapetws, wedi'u gwahanu oddi wrth yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland, fel y dangosir ar y map. Ceir yr un math o drilobitau yng Nghymru a de-ddwyrain Newfoundland a rhai hollol wahanol yn yr Alban a gogledd-orllewin Newfoundland ac mae hyn yn dangos eu bod yn arfer bod ar wahanol gyfandiroedd. Geni Eryri Tua 480,000,000 o flynyddoedd yn ôl, achosodd symudiadau y tu mewn i'r Ddaear i hen Fôr Iapetws gulhau'n raddol a diflannu wrth i'r ddau gyfandir daro yn erbyn ei gilydd. Arweiniodd hyn at ffurfio cadwyn o fynyddoedd uchel sydd heddiw i'w gweld yng Nghymru, yr Alban, Sgandinafia ac ym mynyddoedd yr Appalachiaid. Cefnfor newydd Iwerydd Yn nes ymlaen o lawer yn hanes y Ddaear, rhwng 200,000,000 a 65,000,000 o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd y ddau gyfandir wahanu eto gan ffurfio cefnfor newydd a ddaeth, maes o law, yn Gefnfor Iwerydd fel y mae heddiw. Fodd bynnag, nid oedd y rhwyg ar hyd yr un llinell yn union a'r llinell lle caewyd môr Iapetws, a gadawyd de-ddwyrain Newfoundland a'i drilobitau 'Cymreig' yn sownd wrth weddill Newfoundland a Gogledd America, a'r Alban a'i drilobitau o 'Ogledd America' yn sownd wrth weddill Ynysoedd Prydain. Mae'r ffaith bod yr un trilobitau'n cael eu darganfod mewn ardaloedd sy'n bell wrth ei gilydd yn pwysleisio bod angen i ddaearegwyr astudio ffosilau a ddaw o ardaloedd pell wrth ei gilydd er mwyn cynnig dehongliad llawn o hen hanes eu darn nhw eu hunain o gramen y Ddaear.
Awyrfeini Cymru 26 Gorffennaf 2007 Yn yr Adran Ddaeareg y mae'r eitemau hynaf yn Amgueddfa Cymru. Y ffosilau yw'r eitemau mwyaf cyffredin yno, yn amrywio o ryw 550,000,000 o flynyddoedd oed i ychydig dros 10,000 oed. Awyrfaen Beddgelert, wedi'i dorri i ddangos y tu mewn. Mae'n mesur tua 9cm x 7cm Fodd bynnag, mae un grŵp o eitemau gryn dipyn yn hŷn na'r ffosilau hynaf ac, yn wahanol i'r ffosilau, nid o'r Ddaear y maent yn dod, ond o'r gofod.Syrthiodd llawer o'r eitemau hyn o'r gofod a glanio mewn gwledydd pell o Gymru ond fe welwyd un, sydd o ddiddordeb arbennig i ni, yn syrthio i'r ddaear yn y gogledd.Goleuadau llachar a llechi'n chwaluYn oriau mân y bore ar 21 Medi 1949, gwelodd llawer o bobl yng ngogledd Cymru a Swydd Gaer olau llachar yn symud yn gyflym yn yr awyr. Am 1.45am clywodd rhywun oedd yn aros yng Ngwesty'r Prince Llewelyn, Beddgelert gyfres o gleciadau marwaidd. Yna, bu tawelwch am dair neu bedair munud ac yna sŵn sïo fel awyren fechan a aeth yn gryfach ac yn gryfach hyd nes iddo glywed sŵn llechi to yn chwalu.Deffrwyd rheolwr y gwesty gan gyfarth ei gi a chlywodd sŵn bangio afreolaidd ond aeth yn ôl i gysgu. Fore trannoeth, daeth ei wraig o hyd i dwll garw yn nenfwd lolfa i fyny'r grisiau, a phlastr a charreg dywyll tua maint pêl griced ar y llawr. Ni wyddai'r rheolwr na'i wraig beth oedd hyn nac a oedd cysylltiad rhyngddo a'r synau a glywodd ef yn y nos. Yn y bar y noson honno, dywedodd hen fwynwr a oedd wedi gweld awyrfeini mewn amgueddfa mai dyna oedd y garreg hon. Yn ddiweddarach, gwelwyd bod twll crwn, taclus yn llechi to'r gwesty.AwyrfeiniPeth naturiol sy'n syrthio i'r Ddaear o'r gofod yw awyrfaen. Wrth deithio trwy'r atmosffer, mae'r haenau allanol yn cael eu poethi gan ffrithiant ac felly mae'n disgleirio ac yn edrych yn debyg i seren wib. Gall awyrfeini syrthio yn unrhyw le, unrhyw bryd, ond mae'n annhebygol iawn, iawn y cewch eich taro gan un (diolch byth!).Dim ond un awyrfaen arall y gwyddom iddo syrthio yng Nghymru — ym Mhontllyfni, ger Caernarfon ym 1931. Credir bod y rhan fwyaf o awyrfeini'n dod o gwmwl o bethau creigiog bychan a elwir yn Wregys Asteroidau, sydd rhwng cylchdroeon planedau Mawrth ac Iau yng nghyfundrefn yr haul. Weithiau, mae rhai'n taro'i gilydd neu'n cael eu tynnu gan rymoedd disgyrchiant ac mae eu cylchdro'n newid gan olygu eu bod yn taro'r Ddaear.Mae bron pob awyrfaen y daw pobl o hyd iddynt yn cael eu rhoi i wyddonwyr i'w harchwilio a'u dadansoddi, ond mae'n debyg bod awyrfaen Pontllyfni wedi cael ei gadw o dan wely rhywun am dros ddeugain mlynedd cyn cyrraedd yr Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain!Cafodd awyrfeini Beddgelert a Phontllyfni eu harchwilio trwy gael eu torri'n ofalus a rhannu'r darnau rhwng gwahanol amgueddfeydd, prifysgolion a sefydliadau ymchwil. Felly, mae Amgueddfa Cymru'n ffodus bod gennym ddarn bychan o awyrfaen Beddgelert a syrthiodd i'r Ddaear ym mis Medi 1949. Fe'i gwelir yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.Creigiau o'r gofod yn hŷn na'r DdaearTrwy ddyddio isotopau ymbelydrol o elfennau cemegol yn yr awyrfeini, penderfynwyd bod y rhan fwyaf ohonynt, yn cynnwys rhai Beddgelert a Phontllyfni, tua 4,560,000,000 o flynyddoedd oed. Mae hyn yn debyg i oed tebygol y Ddaear a gweddill cyfundrefn yr h. Mewn cymhariaeth, credir bod y creigiau hynaf y gwyddom eu bod wedi'u ffurfio ar y Ddaear ei hunan tua 3,800,000,000 oed (yng Nghymru, tua 700,000,000 oed yw'r creigiau hynaf).Am y rheswm hwn, mae awyrfeini o ddiddordeb ac o bwysigrwydd mawr wrth astudio hanes cynharaf y Ddaear a chyfundrefn yr haul. Maent yn rhoi cliwiau i ni am eu cyflwr cyntefig a sut y cawsant eu ffurfio.Mae un dosbarth neilltuol o awyrfeini y ceir enghraifft ohonynt yng nghasgliadau'r Amgueddfa (ond nid un Beddgelert), yn cynnwys cemegau a gynhyrchwyd wrth i sêr enfawr ffrwydro; mae'r rhain yn cynnwys samplau o rai o'r elfennau cemegol sy'n ffurfio 'blociau adeiladu' bywyd ac y datblygodd pob math o fywyd — yn cynnwys ni ein hunain — ohonynt yn y pen draw. Ydych chi wedi gweld pelen dân / wedi darganfod rhywbeth allai fod yn feteoryn? Ydych chi gweld wedi pelen dân?https://www.ukfall.org.uk/ Wedi darganfod rhywbeth allai fod yn feteoryn?Cysylltwch â Ni gydag Ymholiadau Cyffredinol | Museum Wales (amgueddfa.cymru)