: Glo, Llechi a Haearn

Streic!

12 Mawrth 2009

Bwrdd Glo Cenedlaethol

Ar 1 Mawrth 1984 cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ei fod yn bwriadu cau 20 o byllau glo a cholli 20,000 o swyddi. Bu'r streic 12 mis a ddaeth yn ei sgil yn gyfrwng i newid hanes gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol Cymru am byth.

"Mae glowyr de Cymru'n dweud — dy'n ni ddim yn barod i droi cefn ar ein cymunedau glofaol, dy'n ni ddim am adael i'n plant fynd i'r ciw dôl yn syth o'r ysgol — mae'n amser taro'n ôl!"

Emlyn Williams, Llywydd, NUM, De Cymru

Protestiadau a picedu

Pleidleisiodd y mwyafrif o lowyr Cymru yn erbyn streic i ddechrau, ond wedyn fe fuon nhw'n flaenllaw yn y protestiadau a'r picedu. Cododd gwragedd y glowyr eu llais i gefnogi'u gwŷr gan godi arian a threfnu i ddosbarthu bwyd, ac aethant ati hefyd i gefnogi'r piced a'r gorymdeithiau.

Er na ddioddefodd Cymru'r trais ar y llinellau piced a welwyd ar rai o feysydd glo eraill Prydain, collodd rhai o lowyr Cymru eu bywydau wrth bicedu a chyflawni gwaith diogelwch yn y pyllau glo a lladdwyd gyrrwr tacsi wrth gludo torrwr streic i'w waith.

"Bu rhaid i ni frwydro yn erbyn y gelyn allanol yn Ynysoedd y Falkland, ond rhaid i ni fod yn ymwybodol bob amser o'r gelyn mewnol, sy'n frwydr anoddach o lawer ac yn fwy o beryg i ryddid."

Margaret Thatcher, Prif Weinidog

Casglu hanesion

Roedd da a drwg yn perthyn i'r ddwy garfan a bu ymdrech fawr i geisio casglu hanesion o'r naill ochr a'r llall. Mae'r dicter a ddaeth yn sgil y streic wedi gwneud hyn yn dasg anodd oherwydd bod rhai a fu'n cymryd rhan yn amharod i roi caniatâd i'w hanesion gael eu hadrodd.

Mae hyn, a'r ffaith fod y mwyafrif o'r straeon wedi'u casglu o Gymru, lle mai dim ond canran fechan o'r gweithlu ddychwelodd i'r gwaith yn ystod y streic, yn ei gwneud yn anorfod bod un safbwynt yn ymddangos fel petai'n cael mwy o sylw. Pe byddai hanesion wedi'u casglu o fannau eraill mae'n dra phosibl y byddai'r safbwynt arall yn rhagori.

Caiff hanes gwrthrychol a chytbwys streic y glowyr ei ysgrifennu rhyw ddiwrnod, ond mae'r tudalennau sy'n dilyn yn cyflwyno hanesion rhai o'r dynion a'r menywod gafodd eu heffeithio gan yr hyn a adwaenir bellach fel ... Y Streic.

Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r llyfryn yma

Locomotif stêm Richard Trevithick

15 Rhagfyr 2008

Yr atgynhyrchiad o'r locomotif

Yr atgynhyrchiad o'r locomotif yn ei gartref presennol, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Loco Penydarren

Ar 21 Chwefror 1804, rhedodd y daith rheilffordd gyntaf am 9 milltir o weithfeydd haearn Penydarren i Gamlas Merthyr–Caerdydd, gan gyrraedd cyflymder o bron pum milltir yr awr. Aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn bod trenau stêm yn dod yn fasnachol ymarferol, ond does dim amheuaeth nad Trevithick yn hytrach na George Stephenson oedd gwir dad y rheilffyrdd.

Ym 1803, aeth Richard Trevithick i weithio gyda Samuel Homfray, perchennog gwaith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful. Roedd Homfray'n ymddiddori’n fawr yn yr injans gwasgedd uchel yr oedd y dyn o Gernyw wedi eu datblygu a’u defnyddio yn ei injans ffordd.

Anogodd Homfray Trevithick i ymchwilio i’r posibilrwydd o osod injan o’r fath mewn locomotif ar y rheilffordd newydd rhwng Penydarren a glanfa’r gamlas yn Abercynon.

Richard Crawshay

Mae’n debyg bod Trevithick wedi dechrau gweithio ar y locomotif yn hydref 1803, ac erbyn Chwefror 1804 roedd wedi ei gwblhau. Yn ôl bob sôn, roedd Richard Crawshay, perchennog y gwaith haearn cyfagos yng Nghyfarthfa, yn amheus iawn o’r injan newydd. Betiodd ef a Homfray 500 gini’r un gyda Richard Hill, o waith haearn Plymouth, p’un a allai’r injan dynnu deg tunnell o haearn i Abercynon a thynnu’r wagenni gwag yn ôl wedyn.

Aeth yr injan ar ei thaith gyntaf ar 21 Chwefror, a disgrifiodd Trevithick y daith yn fanwl:

‘... ddoe aethom ar ein taith gyntaf gyda’r injan, gan dynnu deg tunnell o haearn mewn pum wagen, a saith deg o ddynion yn teithio arnynt ar hyd y ffordd ... tra ’roedd yr injan yn gweithio, teithiodd bron i bum milltir yr awr; ni roddwyd dŵr yn y boeler o’r cychwyn hyd ddiwedd y daith ... defnyddiwyd dau ganpwys o lo’.

Yn anffodus, torrodd bolltyn ar y daith ’nôl a barodd i’r boeler golli dŵr, felly bu’n rhaid gwneud y tân yn llai ac ni chyrhaeddodd yr injan Benydarren tan y diwrnod canlynol. Rhoddodd hyn reswm i Crawshay honni na chyflawnwyd y daith fel y cytunwyd — ond ni wyddom a fu pen ar y mwdwl!

Y gwir oedd fod yr injan yn rhy drwm i’r cledrau, ac fe’i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel injan sefydlog i yrru morthwyl gefail yng ngwaith haearn Penydarren.

Locomotif replica

Adeiladwyd y locomotif replica yn yr Amgueddfa gan ddilyn cynlluniau a dogfennau gwreiddiol Trevithick (sydd bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Gwyddoniaeth a Diwydiant). Cafodd ei chwblhau ym 1981, ac yn union fel yr injan wreiddiol, fe dorrodd ar ei rheiliau!

Allwn ni ddim orbwysleisio pwysigrwydd locomotif Trevithick. Ym 1800, ar garlam wrth farchogaeth oedd y cyflymaf y gallai dyn deithio dros dir. Ganrif yn ddiweddarach roedd rhwydwaith reilffordd yn cyrraedd cyfran helaeth o'r byd gyda threnau’n teithio’n gyson ar gyflymder o chwe deg milltir yr awr. Yn ne Cymru yn Chwefror 1804 gwelwyd cymal cyntaf y daith honno a weddnewidiodd y byd.




 

The Penydarren locomotive - Steaming Days

Ffilm fer yn dogfennu blynyddoedd cynnar y replica o locomotif Richard Trevithick yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cân Gwrthryfel Rhondda - Geiriau ar gyfer yr Orymdaith Newyn gyntaf o Gymru

27 Awst 2008

'A Rhondda Rebel Song' (alaw 'Cwm Rhondda')

Darganfuwyd y geiriau hyn ymhlith dogfennau taid a nain Ms Powell o Ynys Manaw yn 2008. Fe'u hysgrifennwyd i goffáu dau ddyn a fu farw yn ystod Gorymdaith y Glowyr i Lundain ym 1927. Gwelwch y trawsgrifiad isod.

Aelodau Abertyleri o'r Orymdaith Newyn, 1927

Aelodau Abertyleri o'r Orymdaith Newyn, 1927 [Llun: Gasgliad maes glo de Cymru, Prifysgol Abertawe.]

Poster yn hysbysebu protest 'Sul Coch Cwm Rhondda'

Poster yn hysbysebu protest 'Sul Coch Cwm Rhondda'

Darganfuwyd y geiriau hyn ymysg dogfennau taid a nain Ms. Powell o Ynys Manaw yn 2008. Fe'u hysgrifennwyd i goffáu marwolaeth dau ddyn yn ystod Gorymdaith y Glowyr i Lundain ym 1927.

Digwyddodd yr orymdaith newyn gyntaf o Gymru i Lundain ym 1927 i brotestio yn erbyn y Weinyddiaeth Iechyd a oedd yn gwrthod neu'n cyfyngu ar nodau cymorth ar gyfer glowyr diwaith a'u teuluoedd. Roedd hefyd yn brotest yn erbyn Deddf Diweithdra newydd y Llywodraeth.

Sul Coch Cwm Rhondda

Yn ystod protest 'Sul Coch Cwm Rhondda' ar 18 Medi 1927, galwodd A.J. Cook, arweinydd glowyr y cyfnod, am orymdaith i Lundain ar 8 Tachwedd (wrth i'r Senedd ail-agor). Dewiswyd aelod o bob cyfrinfa (cangen undeb pwll glo) o Ffederasiwn Glowyr De Cymru (SWMF) i orymdeithio, pob un ohonynt yn cario lamp seffti glowr.

Erbyn Tachwedd, fodd bynnag, roedd yr orymdaith wedi colli cefnogaeth y SWMF. Serch hynny, parhaodd i dderbyn cefnogaeth oddi wrth A.J. Cook, S.O. Davies (a ddaeth i fod yn AS Merthyr) SWMF adran y Rhondda, a'r Blaid Gomiwnyddol.

Ar 8 Tachwedd 1927, gorymdeithiodd 270 o ddynion, ar gwaethaf gelyniaeth yr Undebau Llafur, y wasg a'r llywodraeth. Serch hynny, cawsant gefnogaeth y Cynghorau Llafur ym mhob pentref a thref ar hyd y daith (yn cynnwys Pontypridd, Casnewydd, Bryste, Caerfaddon, Chippenham a Swindon).

'Gorymdeithiaf er eich mwyn chi ac eraill mewn angen'

Dynion o Gymoedd Rhondda, Caerau, Aberdâr, Merthyr, Pontypridd, Tonyrefail, Dyffryn Gwyr, Gilfach Goch, Nant-y-glo a Blaina oedd y 270 gorymdeithwyr. Bu farw dau ddyn ar yr orymdaith — Arthur Howe o Drealaw mewn damwain ffordd, a John Supple o Donyrefail o niwmonia wedi iddo fynychu'r rali yn Sgwâr Trafalgar.

Ysgrifennodd Mr Supple yn ei lythr olaf at ei wraig - 'Peidiwch â phoeni amdanaf i. Meddyliwch amdanaf fel un o filwyr Byddin y Gweithwyr. Cofiwch fy mod wedi gorymdeithio er eich mwyn chi ac eraill mewn angen.'

Aflonnyddwch gan 'Ffasgwyr', a Hebryngwyr Arfog

O'r cychwyn cyntaf, cyfeiriwyd yn aml at yr orymdaith fel 'byddin y gweithwyr'. Trefnwyd y gorymdeithwyr ar batrymau milwrol, wedi'u rhannu'n ddidoliadau a chwmnïau. Yn dilyn honiad o aflonnyddwch gan 'Ffasgwyr', daeth gosgordd arfog, yn cynnwys 100 aelod o Gynghrair Llafur Cyn-Filwyr i gwrdd â'r trefnwyr yn Chiswick.

Yn ddiweddarach, mewn pamffled o'r enw 'Gorymdaith y Glowyr: Sut y Gwnaethom Chwalu'r Gwrthwynebwyr', ysgrifennodd uwch swyddog Byddin y Gweithwyr, Wal Hannington, - '... mae'r dynion hyn yn goleuo lamp gryfach a mwy pwerus na'r un maent yn ei chario. Goleuant lamp sy'n datgelu'r llwybr troellog y mae rhaid i weithwyr ei ddilyn, ac sy'n goleuo ffordd yr ymdrech am y frwydr gyda grymoedd adweithiol a choncwest y gweithwyr am bwer'.

Mae'r pamffled yn cynnwys 'Can Gwrthryfel Rhondda' sy'n adlais o A Rebel Song James Connolly, a ganodd y gorymdeithwyr, yn ogystal â 'Cân Ymdaith y Fyddin Goch' ac 'Ymdaith y Fyddin Goch'.

Adysgrif:

Gweithwyr estron ym meysydd glo Cymru

6 Mawrth 2008

Ail Ryfel Byd

Slofeniaid yng Nghanolfan Tyfforddi Oakdale, 1948

Slofeniaid yng Nghanolfan Tyfforddi Oakdale, 1948

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, roedd galw mawr, a chynyddol, am lo. Roedd adnewyddiad a thwf yn sgil y rhyfel yn gofyn am ddigonedd o ynni rhad, a dim ond glo allai gyflenwi'r angen. Roedd angen recriwtio mwy o lowyr ar hast. Un ffynhonnell ar gyfer y rhain oedd y miloedd o bobl Ewropeaidd oedd wedi gorfod ffoi o'u gwledydd genedigol yn ystod y Rhyfel.

Er bod angen mawr am y dynion hyn ym Mhrydain, nid oedd croeso iddynt bob tro, ac roedd tipyn o wrthwynebiad o du cyfrinfeydd lleol Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Roedd mwy o anesmwythyd pan ddechreuwyd recriwtio Eidalwyr ym 1951, ac nid oedd pethau ddim gwell pan geisiodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol recriwtio ffoaduriaid o Hwngari ar ôl chwyldro 1956.ŵp peirianyddol Almaenaidd,Thyssen UK, i weithio yn ne Cymru gan ddod â rhai o'u cydwladwyr gyda hwy.

Yn yr un modd â mewnfudwyr heddiw, roedd y 'gweithwyr estron' hyn yn wynebu amheuaeth i ddechrau. Roedd hyn yn deillio'n rhannol o anwybodaeth ac yn rhannol o ofn y bobl leol o ddiweithdra.

"All Poles"

Nyk Woszczycki (ail o'r chwith) mewn grŵp yn dathlu ymddeoliad ei ffrind, Joe Hughes o lofa Britannia

Nyk Woszczycki (ail o'r chwith) mewn grŵp yn dathlu ymddeoliad ei ffrind, Joe Hughes o lofa Britannia

Daeth y dynion ifanc hyn i Brydain ar ôl blynyddoedd o galedi, perygl a thrychineb. Cefnodd llawer ohonynt ar y maes glo cyn gynted ag y gallent, a gadawodd nifer ohonynt Brydain hyd yn oed, ond enillodd y rhai a arhosodd enw da am eu dycnwch a'u gwaith caled. Er eu bod yn dod o nifer o wledydd, y duedd oedd i'r glöwr Cymreig eu hystyried fel 'Pwyliaid pob un'. Fe briodon nhw â merched lleol ac ymgartrefu yma; ar waliau eu hystafelloedd byw yn aml fe welir lluniau o'u plant a'u hwyrion, sydd wedi eu magu fel Cymry. Mae nifer o'r rhain wedi ennill graddau prifysgol; mae nifer wedi ennill anrhydeddau dros Gymru ar y meysydd chwarae.

Er gwaethaf eu balchder yn eu mamwledydd gwreiddiol, mae'r rhan fwyaf bellach yn ystyried eu hunain yn Gymry. Yn yr un modd, dylai Cymru fod yn falch ohonynt hwythau a'r rhan y maent wedi ei chwarae yn ei hanes.

Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o gylchgrawn yn y gyfres 'Glo', a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Lawrlwytho'r llyfryn