Y Bwrdd Glo Genedlaethol yn Ne Cymru 25 Chwefror 2008 Diwrnod BreinioO ganlyniad i hanes digalon y diwydiant glo rhwng y ddau ryfel byd, rheolaeth y llywodraeth drosto yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'r angen am lo ym Mhrydain ar ôl y rhyfel, roedd hi bron yn anorfod y byddai'r diwydiant yn cael ei wladoli ar ôl ethol llywodraeth Lafur ym 1945.Croesawyd y 'Diwrnod Breinio', 1 Ionawr 1947, i raddau helaeth yng nglofeydd Cymru. Daeth maes glo de Cymru yn rhan o Ranbarth De Orllewin y Bwrdd Glo Cenedlaethol.Ymhlith yr asedau a ddaeth i ddwylo'r NCB yn y Deyrnas Unedig roedd dros 1,400 o byllau glo, 225,000 erw o dir amaethyddol, 140,000 o dai glowyr, siopau, swyddfeydd, gwestai, pyllau nofio, un gwersyll gwyliau ac un trac seiclo!Buddsoddiad A SiomBuddsoddwyd swm sylweddol o ganlyniad i'r Gwladoli. Rhwng 1948 a 1953, buddsoddwyd bron £32 miliwn yn ardal Caerdydd. Costiodd gwaith ailadeiladu Glofa Nantgarw yn unig £41/2 miliwn. Bu cynnydd yn y mecaneiddio ar y ffas lo ac ymgyrchoedd i wella iechyd a diogelwch.Cau Pyllau A ThrychinebauHyd yn oed yn nyddiau cynnar yr NCB, roedd tuedd i gau pyllau bach nad oedd yn talu'r ffordd ac i addrefnu'r rhai mwy. Fodd bynnag, erbyn y 1960au, dechreuwyd gadael i faes glo'r de ddirywio'n fwriadol. Ni fu i'r un maes glo arall ym Mhrydain ddioddef y fath grebachu mileinig - ym 1960 roedd 106,000 o lowyr yn ne Cymru, erbyn 1970 doedd dim ond 60,000. Bu'n rhaid arafu'r broses o gau'r pyllau yn ystod argyfwng olew'r Dwyrain Canol ynghanol y 1970au.Ym 1960, lladdwyd 45 o lowyr gan danchwa yng Nglofa Six Bells, ac ar fore Gwener, 21 Hydref 1966, llithrodd darn mawr o domen rwbel Glofa Merthyr Vale i lawr y bryn I bentref Aberfan, gan ladd 144 o bobl yn cynnwys 116 o blant.1960auYn y 1960au y datblygwyd 'archbyllau' mawr newydd Glofeydd Aber-nant, Brynlliw a Chynheidre ac y buddsoddwyd symiau sylweddol yn ad-drefnu glofeydd fel Coegnant, Deep Navigation a Merthyr Vale.Dyma'r degawd bod holl fwynwyr Prydain yn cael yr un gyfradd dâl.Ar y cyfan, roedd y rheolwyr a'r undebau llafur yn croesawu'r cytundeb hwn er i lawer o ddynion weld cwymp sylweddol yn eu hincwm. Daeth y Cytundeb â theimlad o undod rhwng holl feysydd glo y DU ac fe arweiniodd hynny, mewn ffordd, yn y pen draw, at streiciau cenedlaethol 1972 a 1974, a ymladdwyd dros gyflogau. Anghydfod 1974 a arweiniodd at gwymp y llywodraeth Geidwadol.Y Blynyddoedd OlafErbyn dechrau'r 1980au, roedd diwydiant glo Prydain ymhlith y mwyaf diogel a'r mwyaf effeithlon yn Ewrop. Fodd bynnag, roedd llywodraeth Geidwadol newydd wedi'i hethol ac roedd cynlluniau ar y gweill i gau rhagor o byllau. Roedd meysydd glo Cymru yn fwy tebygol o ddioddef gan fod y glofeydd yn hen a'r ddaeareg yn achosi problemau.Er bod y cynlluniau i gau glofeydd wedi'u derbyn yn anfoddog yn y gorffennol, y tro hwn galwyd am weithredu diwydiannol gan nad oedd swyddi eraill i'w cael ar gyfer y dynion. Cychwynnodd streic fawr olaf y glowyr ym mis Mawrth 1984 a pharodd flwyddyn. Gorchfygwyd y glowyr a chwalwyd diwydiant glo Cymru.Yn ystod y ddeng mlynedd nesaf daeth gwladoli'r diwydiant glo i ben. Ym 1994 caewyd pwll glo Tŵr, sef pwll glo olaf Cymru, gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol (yn ddiweddarach Glo Prydain). Fodd bynnag, roedd rhai o'r glowyr yn argyhoeddedig bod y pwll yn effeithiol yn economaidd, ac fe gyfunodd 239 ohonynt eu harian diswyddo i brynu'r pwll. Parhaodd y pwll i fod yn weithredol tan iddo gau am y tro olaf ar 25 Ionawr 2008, gan ddirwyn 200 mlynedd o gloddio glo de Cymru i ben.Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.
Weithiau, 'dyw breuddwydio ddim yn ddigon 31 Ionawr 2008 George Evans yn aros i ddechrau ei shifft yng nglofa Banwen Y cyntaf o Ionawr, 1947: Pyllau glo Prydain yn cael eu gwladoli. Roedd pob glöwr ym Mhrydain wedi bod yn edrych ymlaen at hynny, wedi bod yn breuddwydio amdano ac,yn wir,wedi bod yn gweddïo amdano. Roedd y ffordd greulon a milain y bu perchnogion y pyllau a'r rheolwyr yn trin y glowyr dros y blynyddoedd wedi arwain at ddirmyg a oedd bron iawn yn gasineb llwyr. Roedd tri glöwr yn cael eu lladd ym Mhrydain ar bob diwrnod gwaith ar y pryd. Felly, roedd yna wir lawenydd. Roedd baner Bwrdd Glo Prydain yn cyhwfan yn falch ar ben pob pwll ag arno logo aur yr NCB ar gefndir glas. Dair blynedd ar ddeg ynghynt, cafodd 266 o lowyr eu llosgi i farwolaeth yn pwll yn y gogledd;dim ond 16 corff a godwyd ac ni chafwyd hyd i eiddo neb. Felly, roedd pobl pob maes glo ym Mhrydain yn llawenhau o waelod calon. Doedd neb yn disgwyl gwyrthiau ar ôl y gwladoli ond,yn raddol, sylweddolodd y bobl fod yna anghymhwyster ar raddfa fawr, rhyw fath o daith anhrefnus i rywle ond 'wyddai neb i le yn union. Rwy'n cofio un achlysur sy'n profi hyn. Roeddwn i'n gweithio yn lle gyrrwr yr injan dan ddaear yng ngwythïen Eighteen Feet. Roedd y rhaff ar y brif injan ddirwyn bedair troedfedd tua modfedd a hanner ar draws a rhyw filltir o hyd. Roedd y rheolwr, John Williams, yn cwmpo mas yn ffyrnig â rhyw ddynion o HQ. Roedden nhw eisiau rhoi rhaff oedd lawer yn fwy trwchus ac yn hirach yn lle'r rhaff honno. Gosodwyd y rhaff newydd ond yn fuan iawn gwelwyd ei bod yn rhy drwm i'r jyrni (trên o dramiau) i'w thynnu ar hyd y lefel. Dyn a wyr faint gostiodd hi i gywiro'r camgymeriad dwl yna. Ac roedd y math hwnnw o gamgymeriad hanner-call ac eithriadol o gostus yn digwydd ddwsin o weithiau bob dydd ym mhob maes glo trwy'r wlad. Roedd un neu ddau o'r glowyr dros 70 oed ond roedden nhw'n llenwi cymaint o lo â'r rhan fwyaf o'r dynion ac yn ennill cyflog iawn. Un dydd Iau, fe orffennon ni shifft y prynhawn a chodi'n pecynnau pae. Roedd casyn yn sownd wrth becynnau pae'r dynion hynaf a nodyn bach anniben ynddo yn dweud eu bod yn cael 14 diwrnod o rybudd. Dim pensiwn, dim tâl diswyddo, dim - ac roedd un neu ddau o'r hen ddynion wedi dechrau gweithio'n 13 oed! Trefnodd John Williams i ddod â'r hen ddynion nôl am ddiwrnod, cyflogodd nhw a'u cadw yn y cantîn tan ddiwedd y shifft. Roedd hynny'n golygu eu bod yn cael punt yr wythnos yn bensiwn o'r loaf. Roeddwn i grac â'r ffordd roedd y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn ymddwyn. Roedd y dynion wedi brwydro dros y blynyddoedd i sicrhau bod y diwydiant yn cael ei wladoli - roedd rhai hyd yn oed wedi'u carcharu! O ddydd i ddydd, daeth yn fwyfwy amlwg nad oedd modd rhedeg diwydiant glo Prydain o ryw gyfeiriad swanc yn Belgravia, Llundain. Roedd diffygion mawr yn y gwaith cynllunio a threfnu ym mhob man. Ond, roedd y gwaith yn mynd ymlaen fel arfer ar y ffas. Wrth edrych yn ôl, fe welwn ni ddiwydiant anferthol, wedi'i dan-ariannu'n ddifrifol am flynyddoedd lawer, ac wedi'i roi i wleidydd i gael trefn arno. Efallai pe bai rhywun wedi meddwl am ofyn, neu pe bai rhywun wedi bod yn ddigon dewr i ofyn i rywun fel pennaeth Boots the Chemist neu bennaeth cwmni ceir Austin i ofalu am y diwydiant, neu wedi mynnu bod mentrau cydweithredol yn cael eu sefydlu, y byddai'r freuddwyd wedi'i gwireddu. Un peth cadarnhaol a ddigwyddodd o ganlyniad i'r gwladoli oedd bod trefniadau iechyd a diogelwch wedi gwella'n sylweddol iawn. Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r llyfryn yma: Glo: 'N C bloody B' [PDF 7 MB]
'Straeon o grombil y ddaear' - atgofion Ray Isted, glowr Bois Bevin 4 Ionawr 2008 Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943-9 Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943 - 1949 Ges i ngeni yn Herstmonceux, Dwyrain Sussex. Gadawes i'r ysgol yn 14 oed i fynd i weithio mewn ffatri oedd yn gwneud rhannau i geir. Pan ddes i'n 18 oed, ges i alwad i fynd i Brighton i gael prawf meddygol. Roeddwn i eisiau ymuno â'r fyddin, ond a dweud y gwir bydden i wedi bod yn ddigon bodlon aros gartre! "Daeth fy rhif i lan yn y balot i fynd i'r pyllau glo ac fe anfonon nhw fi i Ganolfan Hyfforddi Oakdale. Fues i'n lletya gyda Mrs Jones yn Rhisga, fi a Wyndham Jones, cocni oedd â pherthnasau yn Abertyleri. Cawson ni chwech wythnos o hyffordiat yn Oakdale (roedd Wyndham 'fel menyw' ar y rhaw) a'n hala wedyn i Lofa Roseheyworth. Roedd rhaid inni wisgo'n dillad ein hunain yn y gwaith. Fy rhieni roddodd fy nillad i fi ac roeddwn i'n arfer eu hala nhw adre i Sussex bob wythnos i mam gael eu golchi nhw. Roedd hi'n arfer dweud 'Byddai'n well gen i weld Raymond yn mynd i'r fyddin na lawr y pwll' — roedd hi'n meddwl bod y cyfan yn ofnadwy, a bod y Cymry'n byw mewn ogofâu. "Ar ôl sbel es i weithio gyda Sid Fox ar hedin lle bydden ni'n llanw 13 neu 14 dram bob shifft — byddai Sid yn rhoi rhyw £3 o 'arian cnoco' i fi. Pan fyddai Sid yn sâl, fydden i'n gweithio ar yr hewl gyda Gerald Williams. "Gerald gyflwynodd fi i Phyllis ar ryw noson mâs - roeddwn i'n swil ac yn ffaelu dawnsio a dyna'r unig ffordd i'w gwneud hi yn y dyddiau hynny. Ond yn y diwedd, dyna'r unig ferch i fi fynd mâs gyda hi erioed ac r'yn ni'n briod ers 58 o flynyddoedd mis Awst yma (2005). Priodas dawel geson ni, roedd fy rhieni i'n sâl ac yn ffaelu dod lawr a doedd neb arall yna ar fy ochr i o'r teulu. I Weston Super Mare aethon ni ar ein mis mêl. Doedd y wraig newydd ddim am setlo yn Eastbourne, felly aros yng Nghymru wnaethon ni. Roedd hi wastad yn 'Helo Ray' bob deg munud yng Nghymru - yn Eastbourne gallech chi gerdded o gwmpas am chwe mis a fyddai torri gair â chi! "Bues i'n gweithio yn y pyllau am chwe mlynedd. Rwy'n cofio goruchwyliwr yn pwyntio ata i a dweud wrth rywun 'Chi'n gweld y bachan 'na? Bachgen Bevin sy'n dal i weithio yma — ni'n ffaelu cael gwared arno fe!' Fe godes i'r acen hyd yn oed i ryw raddau, ond i atal pobl rhag gwneud hwyl ar ben fy acen Sussex i y gwnes i hynny. Erbyn hyn rwy'n teimlo'n fwy o Gymro na'r wraig!" Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o'r cylchgrawn 'Glo' a gynhyrchwyd gan gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r cylchgrawn i gyd yma:
'Straeon o grombil y ddaear' - atgofion glowr Bois Bevin 4 Ionawr 2008 Bod yn Bachgen Bevin yn Glofa Cwm 1944-1947, gan Mel Harris. Mel Harris, Bachgen Bevin, Glofa Cwm 1944-1947 Fe wnes i sawl swydd ar ôl i Ernest Bevin fy anfon i'r pwll glo yn lle'r RAF. Bues i'n gweithio gyda chywirwr a haliwr, gyda thaniwr, ac fel y cyd-deithiwr ar y dramiau — wastad yn wrthryfelwr, yn anfodlon, a heb unrhyw ddiddordeb o gwbl yn y gwaith. "Erbyn hyn, o'n i ar y ffas lo gyda hen löwr oedd yn gadeirydd ar gyfrinfa'r glowyr — arweinydd y glowyr yn y pwll... Wrth i'r dyddiau fynd heibio, bydden i'n edrych arno fe'n gweithio, a gweld mor daclus a gofalus oedd e wrth weithio. Os nad ydych chi'n gyfarwydd â gwaith y glöwr, mae'n edrych yn ddigon didoreth ond mae'n waith crefftus iawn, bron yn esthetig weithiau. O'n nhw mor ofalus wrth drimio llawr, wyneb a thop y stent, cadw'r pyst a'r trawstiau'n syth ac o'n nhw mor browd o adael y stent yn daclus i gyd ar ddiwedd y shifft. "Er fy mod i'n gweithio'n galed gyda Mr David — ac alwes i ddim byd arall arno byth — wnaeth fy nheimladau i am fyd y lofa ddim newid. O'dd fy ffrindiau i gyd yn lifrai'r lluoedd ac yn gwasanaethu dros y môr, a minnau mewn dillad bob dydd heb yr un iwnifform ond y sgidie mawr a'r helmed. Digon tlawd oedd y bwyd hefyd, roedd y gyflog yn bitw ac roedd pobl yn y'ch galw chi'n llwfrgi. Er i mi wneud sawl ymgais i symud i swyddi milwrol, ges i f'atal bob tro ac roedd y rhagolygon at y dyfodol yn ofnadw o ddu. "Yn yr anobaith 'ma, o'n i'n dal i weithio gyda Mr David ac yn araf bach fe ddaeth e â heddwch i fi a helpu fy agwedd i hefyd. Dechreues i ei weld e fel patrwm i'w ddilyn i edrych ar fywyd mewn ffordd fwy cytbwys ac optimistig. Doedd dim llawer o addysg ganddo, ond roedd e'n ddyn deallus iawn a barn glir iawn ganddo am hawliau a chyfrifoldebau. Fe ofynnes iddo unwaith sut roedd e, fel cadeirydd y gyfrinfa, yn trin a thrafod y cytundebau tâl gyda'r rheolwr. Dyma beth ddwedodd e 'Fe wna i'n siŵr ei fod e'n cadw ei ochr e o'r fargen - ac os bydd unrhyw un o'r dynion yn ei thorri hi, fyddan nhw'n ateb i fi.' "Roedd yn gas gen i fod yn Bachgen Bevin o hyd, ond fe helpodd e fi i edrych arno fel profiad a fyddai o les i fi yn nes ymlaen yn fy mywyd." Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o cyhoeddiad Glo gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r cyhoeddiad yma: Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943-9 Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943 - 1949 Ges i ngeni yn Herstmonceux, Dwyrain Sussex. Gadawes i'r ysgol yn 14 oed i fynd i weithio mewn ffatri oedd yn gwneud rhannau i geir. Pan ddes i'n 18 oed, ges i alwad i fynd i Brighton i gael prawf meddygol. Roeddwn i eisiau ymuno â'r fyddin, ond a dweud y gwir bydden i wedi bod yn ddigon bodlon aros gartre! "Daeth fy rhif i lan yn y balot i fynd i'r pyllau glo ac fe anfonon nhw fi i Ganolfan Hyfforddi Oakdale. Fues i'n lletya gyda Mrs Jones yn Rhisga, fi a Wyndham Jones, cocni oedd â pherthnasau yn Abertyleri. Cawson ni chwech wythnos o hyffordiat yn Oakdale (roedd Wyndham 'fel menyw' ar y rhaw) a'n hala wedyn i Lofa Roseheyworth. Roedd rhaid inni wisgo'n dillad ein hunain yn y gwaith. Fy rhieni roddodd fy nillad i fi ac roeddwn i'n arfer eu hala nhw adre i Sussex bob wythnos i mam gael eu golchi nhw. Roedd hi'n arfer dweud 'Byddai'n well gen i weld Raymond yn mynd i'r fyddin na lawr y pwll' — roedd hi'n meddwl bod y cyfan yn ofnadwy, a bod y Cymry'n byw mewn ogofâu. "Ar ôl sbel es i weithio gyda Sid Fox ar hedin lle bydden ni'n llanw 13 neu 14 dram bob shifft — byddai Sid yn rhoi rhyw £3 o 'arian cnoco' i fi. Pan fyddai Sid yn sâl, fydden i'n gweithio ar yr hewl gyda Gerald Williams. "Gerald gyflwynodd fi i Phyllis ar ryw noson mâs - roeddwn i'n swil ac yn ffaelu dawnsio a dyna'r unig ffordd i'w gwneud hi yn y dyddiau hynny. Ond yn y diwedd, dyna'r unig ferch i fi fynd mâs gyda hi erioed ac r'yn ni'n briod ers 58 o flynyddoedd mis Awst yma (2005). Priodas dawel geson ni, roedd fy rhieni i'n sâl ac yn ffaelu dod lawr a doedd neb arall yna ar fy ochr i o'r teulu. I Weston Super Mare aethon ni ar ein mis mêl. Doedd y wraig newydd ddim am setlo yn Eastbourne, felly aros yng Nghymru wnaethon ni. Roedd hi wastad yn 'Helo Ray' bob deg munud yng Nghymru - yn Eastbourne gallech chi gerdded o gwmpas am chwe mis a fyddai torri gair â chi! "Bues i'n gweithio yn y pyllau am chwe mlynedd. Rwy'n cofio goruchwyliwr yn pwyntio ata i a dweud wrth rywun 'Chi'n gweld y bachan 'na? Bachgen Bevin sy'n dal i weithio yma — ni'n ffaelu cael gwared arno fe!' Fe godes i'r acen hyd yn oed i ryw raddau, ond i atal pobl rhag gwneud hwyl ar ben fy acen Sussex i y gwnes i hynny. Erbyn hyn rwy'n teimlo'n fwy o Gymro na'r wraig!" Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o'r cylchgrawn 'Glo' a gynhyrchwyd gan gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r cylchgrawn i gyd yma
Cofio'r Bois Bevin yn yr Ail Rhyfel y Byd 3 Ionawr 2008 Baner goffa'r Bechgyn Bevin. Bois Bevin o de Cymru Bathodyn poced Cymdeithas y Bechgyn Bevin. Ceffyl pwll wedi ymddeol gyda dau Fachgen Bevin yn yr aduniad blynyddol yng ngerddi Trentham, Stoke-on-Trent. Bechgyn Bevin yn yr Orymdaith Goffa yn Llundain ar 14 Tachwedd 2004. Y ffrynt danddaear Dydy stori'r Bois Bevin ddim yn un cyfarwydd. Ni chafodd y dynion di-ri hynny a dreuliodd y rhyfel ar y 'ffrynt danddaear' eu cydnabod am bron i hanner canrif. Pan gyhoeddwyd y rhyfel ym 1939, ymunodd miloedd o lowyr profiadol â'r lluoedd arfog, neu drosglwyddo i'r 'diwydiannau rhyfel' oedd yn talu'n well. Erbyn canol 1943 roedd mwy na 36,000 o ddynion wedi gadael y diwydiant glo. Penderfynodd llywodraeth Prydain fod angen tua 40,000 o ddynion i gymryd eu lle. Ernest Bevin Ym mis Rhagfyr 1943, creodd Ernest Bevin, y Gweinidog dros Lafur a Gwasanaeth Gwladol, gynllun oedd yn cynnwys cynnal balot i anfon cyfran o'r dynion oedd yn cael eu galw i wasanaethu i'r pyllau glo yn lle'r lluoedd arfog. Byddai deg rhif yn mynd i'r het bob mis a dau'n cael eu tynnu. Os oedd rhif cofrestru Gwasanaeth Gwladol dyn yn gorffen gyda'r ddau rif yna, fe fyddai'n mynd i weithio yn y diwydiant glo. Dechreuodd y dynion hyn gael eu galw'n 'Bois Bevin' Yn ogystal â'r rhai a gafodd eu dewis yn y balot, roedd yna wirfoddolwyr hefyd. Roedd y dynion yma wedi gwirfoddoli i wasanaethu yn y pyllau glo yn hytrach na'r lluoedd arfog. Rhwng 1943 a 1948, cafodd 48,000 o ddynion ifanc eu galw i'r Gwasanaeth Gwladol mewn swyddi ym mhyllau glo Prydain. Yn groes i'r gred gyffredin ar y pryd, dim ond 41 ohonyn nhw oedd yn wrthwynebwyr cydwybodol. Roedd Bois Bevin yn dod o bob dosbarth cymdeithasol a phob rhan o Brydain - nid dim ond yr ardaloedd glofaol. Rhyw wybodaeth ddigon niwlog oedd gan lawer ohonyn nhw am y diwydiant glo cyn cael eu drafftio. Roedd y rhan fwyaf wedi gosod eu bryd ar yrfa yn y lluoedd arfog ac roedd yn gas ganddyn nhw gael eu hanfon i'r glofeydd. Ciab a rhaw Yn wahanol i'r glowyr cyffredin, oedd yn gwisgo'u dillad eu hunain, roedd Bois Bevin yn cael oferôl, helmed ddiogelwch ac esgidiau gwaith. Ond roedden nhw'n gorfod talu am eu hoffer eu hunain ac ambell un yn cwyno nad oedd y milwyr yn gorfod prynu eu drylliau eu hunain, felly pam ddylen nhw orfod talu am gaib a rhaw! Dim ond cyfran fach o Fois Bevin gafodd eu cyflogi i dorri glo ar y ffas, er bod rhai'n helpu'r glowyr i lenwi dramiau. Roedd y rhan fwyaf yn gwneud gwaith cynnal-a-chadw ar yr hewlydd tanddaear, yn clymu ac yn datod dramiau neu'n rheoli symudiadau'r cludiant tanddaear. Byddai nifer fach oedd wedi cael profiad o waith trydan neu waith peiriannu'n gwneud gwaith tebyg yn y glofeydd. Ym 1943, roedd un o bob pedwar glöwr yn cael ei ladd neu ei anafu, ac roedd cael eich cyflogi i gludo glo neu offer bron mor beryglus â chynhyrchu glo ar y ffas. Roedd trin a thrafod dramiau'n dal i achosi llawer o anafiadau i'r bysedd a'r dwylo ac, yn fwy difrifol, fe allai arwain at farwolaeth pe bai rhywun yn cael ei wasgu o dan y cerbydau cyflym. Glowyr anfodlon oedd y rhan fwyaf o Fois Bevin. Doedd ganddyn nhw fawr o ddiddordeb yn y gwaith, ac roedd gweddill y gweithwyr yn tueddu i gredu eu bod yn ddiwerth. Roedden nhw'n amhoblogaidd ymhlith teuluoedd glofaol lleol, oedd wedi gweld eu plant eu hunain yn cael eu drafftio i'r lluoedd arfog a gweld pobl o'r tu allan yn cymryd eu lle. At hynny, os nad oedd dynion ifanc mewn lifrai, fe allen nhw gael eu poeni gan y cyhoedd, a gallai'r heddlu amau eu bod nhw wedi dianc o'r fyddin neu eu bod nhw'n sbïo ar ran y gelyn. Does dim syndod bod llawer ohonyn nhw'n mynd yn absennol heb ganiatâd. Nifer fach iawn arhosodd yn y diwydiant glo ar ôl y rhyfel: roedd y rhan fwyaf ar dân eisiau rhoi'r gorau iddi. "Demob" Daeth y balot i ben ym mis Mai 1945 a chafodd y canolfannau hyfforddi eu cau'r mis wedyn. Ers mis Ionawr 1944 roedd Oakdale wedi hyfforddi 5,615 o ddynion, ac roedd 5,400 ohonyn nhw'n dal i weithio. O'r rhain, roedd 1,465 yn wirfoddolwyr. Cafodd yr olaf o Fois Bevin eu rhyddhau ym 1948 ond, yn wahanol i'r dynion eraill oedd wedi cael eu gorfodi i wasanaethu, doedd dim hawl ganddyn nhw i fynd nôl i'w hen swyddi. Chawson nhw ddim medal am wasanaethu, dim siwt o ddillad "demob" na hyd yn oed llythyr o ddiolch. Cafodd y cofnodion swyddogol eu dinistrio yn y 1950au, ac felly dyw Bois Bevin ddim hyd yn oed yn gallu profi eu bod wedi gwasanaethau os nad ydyn nhw wedi cadw eu dogfennau eu hunain. Cafodd aduniad swyddogol cyntaf Bois Bevin ei gynnal yn Amgueddfa Fwyngloddio Chatterley Whitfield ym 1989 ac mae mwy wedi bod yma ac acw ers hynny. Serch hynny, dim ond ym 1995, 50 mlynedd ar ôl Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, y rhoddodd llywodraeth Prydain gydnabyddiaeth i'w gwasanaeth yn y rhyfel a chaniat´u i Fois Bevin gymryd rhan swyddogol yn y gwasanaeth ar Sul y Cofio yn Whitehall. Am fwy o wybodaeth am y Bois Bevin, Cysylltwch â: Warwick H Taylor, Vice President, Bevin Boys Association, 1 Rundlestone Court, Dorchester Dorset, DT1 3TN Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.