Ysbryd y mwynwyr 1 Hydref 2007 Dyw Sir Ceredigion ddim yn uniongyrchol a chysylltiad a hanes mwyngloddio. Ond fel y teithiwch tuag at Aberystwyth ar yr arfordir, gan ddilyn dyffrynnoedd mewndirol afonydd Ystwyth, Rheidol a Mynach, byddech yn camgymryd wrth gredu mai amaethyddiaeth fu economi Ceredigion ar hyd yr amser. Mae mwyngloddio am gopor, plwm, zinc ac arian wedi bod yn rhan bwysig o economi'r sir ers 4,000 o flynyddoedd. Edrychwch yn fanylach ar natur a wyneb y tirlun sy'n newid wrth i chi deithio i'r bryniau, a bydd stori arall dod i'r amlwg. Wrth deithio o un pentref i'r llall, mae'r tirwedd hynafol yn cuddio nifer o storïau, traddodiadau a cynllwynio a fu'n amlwg yn ystod y blynyddoedd gynt. Mae'r gwasgariad o gymunedau sy'n cynnwys Ponterwyd, Pontrhydfendigaid, Ffair Rhos, Cwmystwyth, Ysbyty Ystwyth, Goginan, Ystumtuen, Pontrhydygroes, Cwmsymlog, Taliesin a Thalybont heb unrhyw beth yn eu cysylltu yn ôl pob golwg. Ond maent yn cynnwys un thema sy'n berthnasol iddynt oll - diwylliant hanesyddol cloddio. Mae'r gwybodaeth hon yn rhan o'r wefan 'Ysbryd y Mwynwyr' - project adfywio cymunedol i geisio creu hunaniaeth i ogledd Ceredigion trwy fanteisio ar yr etifeddiaeth mwyngloddio metel fel thema. x
Pwll Glo Nantgarw - y pwll glo dyfnaf yn Ne Cymru 2 Medi 2007 Parc Nantgarw Adeiladu Pwll Glo Nantgarw Mai/Mehefin 1951 Efallai nad yw pawb sy'n ymweld â Chanolfan Gasgliadau Amgueddfa Cymru ym Mharc Nantgarw, i'r gogledd o Gaerdydd, yn sylweddoli ei fod ar un adeg yn safle un o'r pyllau glo enwocaf yn ne Cymru. Y cyfan sy'n parhau yw dau byramid concrit bychan yn nodi safleoedd y siafftiau ac olwyn godi goffaol.Y pwll glo dyfnaf yn Ne CymruPwll glo Nantgarw oedd un o byllau blaenllaw'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Hwn oedd y pwll glo dwfn agosaf i Gaerdydd, ac yn arwydd i deithwyr eu bod wedi cyrraedd meysydd glo de Cymru.Wedi'i agor ym 1911, roedd yno ddwy siafft fawr ac, ar ddyfnder o 782.73m (856 llath), dyma oedd pwll glo dyfnaf de Cymru. Serch hynny, er ymddangos fel esiampl dda o ddiwydiant glo glân ac effeithiol, rhoddwyd y gorau i'r pwll glo ym 1927 yn sgil prinder dynion, perthynas ddiwydiannol wael ac, uwchlaw dim, y lleoliad uwchben daeareg gymhleth iawn o dan y ddaear.Blynyddoedd y RhyfelAgorwyd y pwll eto ym 1937 yn dilyn adrefniant sylweddol, ond gohiriwyd y gwaith pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939. Cymeradwywyd cynllun hwyrach i ail agor y pwll gan y Weinyddiaeth Tanwydd a Phŵer ym 1946. Dyma'r cynllun sylweddol cyntaf i gael ei weithredu gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn rhanbarth y de orllewin.Pwll glo modern newydd Nantgarw yn 1974 Er mwyn creu model o bwll glo yn Nantgarw, dinistriwyd pob ôl o'r gwreiddiol a chynlluniwyd adeiladau newydd ar yr wyneb, gydag adnoddau modern. Gosodwyd teclynnau i leihau mwg a mygdarth, ac fe osodwyd yr holl wastraff o dan y ddaear gan gadw'r arwyneb yn glir o domennu gwastraff hyll. Roedd y rhwydwaith tanddaearol cyfan wedi ei gynllunio i leihau perygl damweiniau. Cymerwyd gofal mawr i leihau unrhyw lwch a gynhyrchwyd o dan y ddaear ac ar yr wyneb, er mwyn amddiffyn y gweithlu rhag dal afiechydon megis pneumoconiosis.Dim digon o lowyrYn ystod yr 1940au roedd dirywiad amlwg yn y nifer o ddynion a oedd yn fodlon ystyried gyrfa fel glöwr, hyd yn oed mewn ardaloedd traddodiadol glofaol megis y Rhondda. Roedd problem benodol o brinder dynion ym mhwll Nantgarw, gyda'r boblogaeth waith yn dewis gweithio mewn llefydd eraill. Roedd yn rhaid recriwtio'r gweithlu o ymgeiswyr newydd neu o byllau glo mewn ardaloedd eraill a oedd wedi cau. Erbyn 12 Mawrth 1954 roedd cyfanswm costau'r project wedi cynyddu i £5.25 miliwn. Roedd perthynas lafur hefyd yn peri gofid. Yn ystod 1958 roedd 65 enghraifft o ataliad, gweithio'n araf a cherdded allan o'r pwll.Ffawd yn dirywioGoroesodd Nantgarw'r cyfnod o gau llu o byllau glo yn y 1960au. Ym 1975, unodd gyda Phwll Glo Windsor ger Abertridwr. Erbyn 1979, roedd Pwll Glo Nantgarw / Windsor ar y cyd yn cyflogi tua 650 o ddynion, gan gynhyrchu dros 4,000 tunnell o lo bob wythnos. Yn ystod 1979-80 gwnaethpwyd elw o ychydig dros £0.5 miliwn. Er yr anawsterau datblygu, ymddangosai bod dyfodol y pwll yn weddol sicr.Serch hynny, erbyn dechrau'r 1980au, tarwyd ffawd y pwll eto gan brinder dynion ac amgylchiadau daearegol gwael. Collodd y pwll £7miliwn ym 1981, ac ym 1982 dirywiodd yr allbwn yn sydyn wrth i wythïen lo allweddol ddod yn anweithiadwy. Blwyddyn yn ddiweddarach, arweiniodd gwaharddiad ar oramser yn uniongyrchol at streic deuddeg mis 1984-5. O fewn deunaw mis i ddiwedd y streic, caewyd mwy o byllau glo yn ne Cymru. Y tro hwn, cafodd Pwll Glo Nantgarw ei gynnwys. Daeth bron i 80 mlynedd o hanes glofaol yn Nantgarw i ben.
Gwasgarwyd gan ryfel a chwyldro 12 Mehefin 2007 Arwydd mewn glofa mewn Saesneg a Phwyleg Gweithwyr o'r Almaen mewn glofa yn ne Cymru Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd galw mawr am lo ac felly roedd angen rhagor o lowyr. Un ffynhonnell oedd y miloedd o bobl a oedd wedi gorfod dianc o'u cartrefi yn Ewrop yn ystod y Rhyfel. Ym mis Ionawr 1947, gwnaed cytundeb cenedlaethol rhwng Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) a'r Bwrdd Glo Gwladol (NCB) i recriwtio o blith y nifer fawr o filwyr o Wlad Pwyl a oedd wedi ymladd gyda'r Cynghreiriaid yn ystod y Rhyfel. Fodd bynnag, nid oedd yr undebau lleol yn hapus â hyn. Erbyn diwedd Mai 1947, roedd Pwyliaid wedi cwblhau eu hyfforddiant ond nid oedd glofeydd yn fodlon eu cymryd. Gofynnodd yr NCB i'r NUM am gymorth a chyflwynodd yr Undeb benderfyniad cryf i gynhadledd o blaid derbyn y Pwyliaid. Cafodd y rhan fwyaf ohonynt waith yn y pen draw. Ym mis Medi 1947, lansiwyd cynllun i recriwtio pobl o wledydd eraill yn nwyrain Ewrop a oedd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi. Roedd yr undebau lleol yn gwrthwynebu'n ffyrnig y tro hwn eto ac, erbyn y gaeaf, dim ond ychydig oedd wedi dod o hyd i lofeydd oedd yn barod i'w cymryd. Erbyn 1951, dim ond 10,000 o'r 18,000 o weithwyr tramor oedd yn dal yn y pyllau glo a lansiwyd cynllun arall i recriwtio Eidalwyr. Roedd gwrthwynebiad lleol i hynny hefyd, dim ond 400 a gafodd lefydd a daeth yr ymgyrch recriwtio i ben ym mis Ebrill 1952. Nid oedd y sefyllfa'n ddim gwell pan geisiodd y Bwrdd Glo Gwladol recriwtio ymhlith ffoaduriaid a adawodd Hwngari yn ystod chwyldro 1956. Roedd dros 4,000 o wirfoddolwyr ond cafodd llai na thraean ohonynt waith yn y glofeydd. Aeth y lleill i ddiwydiannau eraill. Daeth y 'gweithwyr tramor' i Gymru ar ôl blynyddoedd o galedi a pherygl. Ymhen amser, llwyddodd y rhai a gafodd waith yn y diwydiant glo i wneud enw iddynt eu hunain fel gweithwyr caled a phobl barchus. Dylai Cymru fod yn falch ohonynt a'r rhan y maent wedi'i chwarae yn ei hanes diwydiannol.
Caerdydd, Metropolis Glo a Llongau 18 Ebrill 2007 Caerdydd: y porthladd cynddiwydiannol. Dwy slŵp ar lannau afon Taf, fel y'u portreadwyd gan Paul Sandby yn 1776. Caerdydd: y porthladd diwydiannol. Awyrlun yn dangos y dociau gorffenedig yn eu cyfanrwydd tua 1948. Un o longau cargo nodweddiadol Caerdydd - SS Pontwen, a adeiladwyd yn 1914. Cyfnod y dirwasgiad. Llongau segur yn nociau Caerdydd tua 1930. Caerdydd: y porthladd wedi'i drawsffurfio. Bellach, saif datblygiadau adwerthol modern yn y man lle yr arferai glo gael ei allforio i bedwar ban byd. Ail Ardalydd Bute Yn 1862, allforiwyd 2,000,000 o dunelli metrig o lo o Ddociau Caerdydd ; erbyn 1913 roedd y cyfanswm hwn wedi codi i 10,700,000 tunnell fetrig. Y cyfnod hwn oedd yr oes aur cyn dirwasgiad y 1930au. Caerdydd, heb os, oedd tref ffyniannus Prydain ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd. Am ychydig flynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y tunelli o gargo a drafodwyd yn y porthladd yn drech na thunelledd Llundain neu Lerpwl. Eto i gyd, ddiwedd y ddeunawfed ganrif, roedd '...two sloops trading to Bristol on alternate days' yn ddigon i drafod masnach Caerdydd! Beth fu'n gyfrifol am y trawsnewidiad hwn? Twf y diwydiant haearn ym mlaenau cymoedd de Cymru fu'r sbardun gwreiddiol i ddatblygiad Caerdydd fel porthladd. Yn 1794, cwblhawyd Camlas Morgannwg a gysylltai Caerdydd â Merthyr, ac yn 1798 adeiladwyd basn yn cysylltu'r gamlas â'r môr. Bu'r galw cynyddol am gyfleusterau doc priodol yn fodd i ddarbwyllo ail Ardalydd Bute, tirfeddiannwr mwyaf blaenllaw Caerdydd, i hyrwyddo'r gwaith o adeiladu Doc West Bute, a agorwyd ym mis Hydref 1839. Prin ddwy flynedd yn ddiweddarach, agorwyd Rheilffordd Dyffryn Taf . Glo ddisodli haearn O'r 1850au ymlaen, dechreuodd glo ddisodli haearn fel sylfaen diwydiannol de Cymru, pan ddechreuwyd cloddio gwythiennau dwfn Cwm Rhondda a Chwm Cynon. Ymhen dim o dro, glo rhydd de Cymru fyddai i gyflenwadau egni'r byd yr hyn yw olew heddiw, ac mor gynnar â 1862 câi 2 filiwn o dunelli metrig ei allforio. Agorwyd doc ychwanegol, yr East Bute, yn 1859, ond yn dilyn marwolaeth yr ail Ardalydd yn 1848 roedd ymddiriedolwyr Stad Bute yn orofalus ac yn gyndyn i fuddsoddi mewn cyfleusterau doc newydd. Arweiniodd y rhwystredigaeth yn sgil y diffyg datblygu yng Nghaerdydd at agoriad dociau cystadleuol ym Mhenarth yn 1865 a'r Barri yn 1889. Yn y pen draw, bu'r datblygiadau hyn yn gymhelliad i Gaerdydd weithredu a gwelwyd agor Doc y Rhath yn 1887, a Doc y Frenhines Alexandra yn 1907. Erbyn hynny, câi oddeutu 9 miliwn o dunelli metrig o lo y flwyddyn ei allforio, llawer ohono yn howldiau llongau cargo a oedd yn eiddo i berchnogion lleol. Cargoau o lo Llong ager gyntaf Caerdydd oedd y llong fach Llandaff a adeiladwyd yn 1865, a hon oedd y gyntaf o fflyd o longau ager a dyfodd yn gyflym ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn 1910, roedd tua 250 o longau cargo a oedd yn eiddo i gwmnïau adnabyddus megis Cory, Morel, Radcliffe, Tatem a Reardon Smith, oll o Gaerdydd. Bob dydd, arferai penaethiaid y cwmnïau hyn gwrdd yn y Gyfnewidfa Lo ysblennydd yn Sgwâr Mount Stuart er mwyn trefnu cargoau o lo ar gyfer eu llongau. Roedd y fasnach hon yn ei hanterth yn 1913, pan allforiwyd 10.7 miliwn o dunelli metrig o lo o'r porthladd. Rhyfel Byd Cyntaf Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd bri mawr ar y fasnach longau yng Nghaerdydd, ac yn 1920 roedd 122 o gwmnïau llongau mewn bod. Fodd bynnag, byrhoedlog fu'r cyfnod ffyniannus; roedd pwysigrwydd olew fel tanwydd llongau ar gynnydd ac ymhen dim o dro sicrhaodd telerau Cytundeb Versailles fod digonedd o lo iawn rhad yr Almaen ar gael ledled Ewrop. Erbyn 1932, pan oedd y dirwasgiad yn ei anterth, câi llai na 5 miliwn o dunelli metrig o lo ei allforio ac roedd dwsinau o longau a oedd yn eiddo i berchnogion lleol yn segur. Mewn gwirionedd, ni lwyddodd Caerdydd i ailgodi ar ei thraed wedi'r cyfnod o ddirwasgiad ac, er gwaethaf prysurdeb mawr y porthladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gostwng fu hanes yr allforion glo, masnach a ddaeth i ben yn gyfan gwbl yn 1964. Porthladd Caerdydd heddiw Heddiw, mae pryd a gwedd porthladd Caerdydd yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd ganrif yn ôl. Trawsffurfiwyd y glannau yn gyfan gwbl gan yr argae sy'n cronni afonydd Taf ac El'i, gan greu llyn dŵr croyw mawr. Bellach, saif fflatiau drudfawr lle yr arferai craeniau glo sefyll, a disodlwyd tafarnau garw'r gymdeithas forwrol gan fistros parchus. Dau ddoc yn unig, y Rhath a'r Frenhines Alexandra, a gaiff eu defnyddio, ac er eu bod yn ffynnu - diolch i'w diddordebau byd-eang - dim ond dau gwmni llongau sydd ar ôl. Hyd heddiw, mae rhywfaint o fasnach mewn coed, olew, sgrap a chynwysyddion, ond mae'r dyddiau pan oedd y porthladd yn llawn llongau cargo dan orchudd o lwch glo wrth iddynt lwytho'r 'diemyntau du' a ddeuai o gymoedd de Cymru, wedi hen fynd heibio. Darllen Cefndir Cardiff and the Marquesses of Bute, gan John Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (1981). Cardiff Shipowners, gan J. Geraint Jenkins a David Jenkins. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1986). Coal Metropolis: Cardiff, 1970-1914, gan Martin Daunton. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caerlŷr (1977).
Clawdd pileri llechi Thomas Williams yn Bisham 18 Ebrill 2007 Y clawdd pileri llechi yn Bisham (Windsor a Maidenhead). Mae tua 150m (164 llath) o'r clawdd hwn wedi goroesi, er bod trigolion lleol yn cofio'r adeg pan oedd yn hwy o lawer. At ei gilydd, mae pileri'r clawdd yn Bisham yn codi tua 180cm (5.9 troedfedd) uwchlaw'r ddaear ac mae'n rhaid bod oddeutu 40cm (1.3 troedfedd) yn ychwanegol o dan y ddaear. Mae pob piler tua 20cm (7.9 modfedd) o led a 3.5cm (1.4 modfedd) o drwch. Beth a barodd i glawdd pileri llechi gael ei godi yn nyffryn Tafwys, 300km o chwareli llechi gogledd-orllewin Cymru? Daeth cloddiau pileri llechi yn gyffredin yng ngogledd-orllewin Cymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Yn 1861, er enghraifft, cynhyrchai Chwarel y Penrhyn, Bethesda (Gwynedd) - un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd bryd hynny - tua 9,000 o bileri unigol. Roedd y pileri hyn ar ffurf darnau unionsyth o lechfaen glas o ansawdd gwael, pob un, fel arfer, tua 150cm (4.9 troedfedd) o uchder. Mor gynnar â 1798, sylwodd y Parchedig W. Bingley, ar stad yr Arglwydd Penrhyn, y câi'r darnau eu gyrru: "into the ground about a foot distant from each other, and interwoven near the top with briars, or any kind of flexible branches to hold them together." Caent eu defnyddio o amgylch caeau a gerddi ac o boptu rheilffyrdd a ffyrdd, ac roedd eu gwneuthuriad syml yn dra chyfaddas ar gyfer y tywydd garw sy'n nodweddu'r ucheldiroedd. Er eu bod i'w canfod yng nghyffiniau chwareli llechi Cymru, mae cloddiau pileri llechi yn brin iawn y tu hwnt i'r ardaloedd chwarelyddol. Felly, mae'r clawdd pileri llechi a ganfuwyd yn ddiweddar gerllaw Temple House (wedi'i ddymchwel bellach) yn Bisham (Windsor a Maidenhead), yn anarferol iawn. Gwyddys i sicrwydd ar sail y lliw glasborffor y cloddiwyd y llechfaen yng ngogledd-orllewin Cymru, ac yn Chwarel y Penrhyn yn ôl pob tebyg. Cwyd y cwestiwn, felly, beth a barodd i glawdd pileri llechi gael ei godi bron 300km (186 milltir) o ffynhonnell y garreg? Mae a wnelo'r ateb â chyn berchnogion Temple House. Adeiladwyd Temple House tua 1790 ar gyfer Thomas Williams, perchennog gwaith copr Temple Mill gerllaw. Cyfreithiwr o ogledd Cymru oedd Thomas Williams (1737-1802) a ddaeth yn ŵr blaenllaw yn niwydiant copr Prydain. Cyflogodd Williams y pensaer, Samuel Wyatt, i ddatblygu Temple Mills, ac mae'n debyg mai i Samuel hefyd yr ymddiriedwyd y dasg o godi Temple House. Roedd gan Samuel Wyatt gysylltiadau agos â pherchnogion Chwarel y Penrhyn. Yn 1782 adnewyddodd ef adeilad ar ran Richard Pennant (yr Arglwydd Penrhyn yn ddiweddarach), ac yn 1786 penodwyd ei frawd, Benjamin II, yn brif reolwr stad y Penrhyn. Sicrhaodd y berthynas hon gyflenwad cyson o lechi i Samuel ar gyfer ei weithgareddau masnachol ei hun. Talodd Samuel y gymwynas yn ei hôl drwy hyrwyddo'r defnydd o lechfaen yn ardal Llundain, gan ei ddefnyddio at ddibenion silffoedd, tanciau dŵr, seddau tai bach, siliau ffenestri ac ar gyfer wynebu muriau, yn ogystal â deunydd toi. Os cafodd pileri llechi Temple House eu cyflenwi gan Samuel Wyatt, gellid bod wedi'u cludo i Bisham heb fawr o drafferth. Hyd yn oed cyn adeiladu tramffordd o Chwarel y Penrhyn i'r cei ym Mangor (Port Penrhyn) yn 1801, roedd rhwydwaith effeithiol o ffyrdd eisoes yn cysylltu'r chwarel â'r porthladd. O'r cei, roedd fflyd o longau yn cludo llechi o amgylch arfordir yr Ynysoedd Prydeinig. Roedd gan deulu Wyatt fuddsoddiadau mewn nifer o'r llongau hyn. O Lundain, gellid cludo llwythi o lechi ar fadau a hwyliai i fyny afon Tafwys. Felly, mae llawer o dystiolaeth amgylchiadol yn cysylltu clawdd pileri llechi Bisham â Samuel Wyatt a Chwarel y Penrhyn, ac yn awgrymu y cafodd y clawdd ei godi tua 1790. Ond mae un wedd ar y modd y cafodd y pileri eu trin yn bwrw amheuaeth ar hyn. Mae'n amlwg y torrwyd rhai o'r pileri cynhaliol mwyaf â llif gron - techneg na chafodd ei defnyddio cyn 1805, yn sicr, ac a ddaeth yn gyffredin dim ond wedi 1840. Un awgrym sy'n cyfuno'r naill ddarn o dystiolaeth a'r llall yw'r posibilrwydd y cafodd y clawdd gwreiddiol ei godi tua 1790, ond iddo ddirywio wrth ymsuddo ym mhridd llifwaddod meddal ardal Bisham. Y canlyniad posibl oedd archebu ail lwyth o lechi Cymru tua 1840 er mwyn trwsio'r clawdd. Mae'n ymddangos yn rhesymol, felly, i ddod i'r casgliad fod y clawdd gerllaw Temple House yn dyst i'r cysylltiadau rhwng dau o ddiwydianwyr mawr Cymru, y meistr copr Thomas Williams a Richard Pennant o Chwarel y Penrhyn, drwy'r pensaer Samuel Wyatt. Rhannai'r ddau dreftadaeth gyffredin ac, felly, onid oedd yn gwbl naturiol i Thomas Williams a'i bensaer arddangos potensial llechi Cymru gerllaw ei waith copr yn Temple Mill? The Wyatts: an architectural dynasty gan John Martin Robinson. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1979). Dafydd Roberts, 'Copor a Llechi : Ffens Llechi Thomas Williams yn Bisham', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 65, tt. 89-97 (2004).