Symud talcen glo i'r amgueddfa 11 Ebrill 2007 Pan gaeodd ysbyty i lowyr yn 2001, datgymalwyd y talcen glo a ddefnyddiwyd i roi ymarfer corff i'r cleifion a'u paratoi i ddychwelyd i'r gwaith, a'i symud i gasgliadau Amgueddfa Cymru. Tŷ Talygarn Tŷ Talygarn: golygfa o'r model maint llawn o dalcen glo Ym 1880, agorwyd ysbyty ym mhlasty cerrig sylweddol Talygarn. Addurnwyd y tu mewn â phaneli pren a nenfydau peintiedig. Roedd parcdiroedd helaeth o gwmpas y tŷ, lle tyfwyd sbesimenau o bob coeden sy'n gallu tyfu ym Mhrydain, yn ôl yr hanes. Talygarn fel Cartref Ymadfer Yn Hydref 1923, agorwyd Tŷ Talygarn fel cartref ymadfer ar gyfer glowyr, ac o fewn 15 mlynedd roedd dros 41,000 o gleifion wedi bod trwy'r drysau. Ym 1943, gofynnwyd i Gomisiwn Lles y Glowyr drefnu gwasanaeth adfer ar gyfer glowyr oedd wedi'u hanafu. Oherwydd bod prinder gweithwyr ar y pryd, roedd hi'n hanfodol bod glowyr oedd wedi'u hanafu'n dychwelyd i'w gwaith mor fuan â phosib. Am hynny, prynwyd Tŷ Talygarn fel canolfan i wasanaethu meysydd glo de Cymru. Erbyn 1964, roedd 95% o'r cleifion a gafodd eu trin yn Nhalygarn yn dychwelyd i'r diwydiant glo. Parhaodd i weithredu fel canolfan ymadfer a ffisiotherapi nes cael ei osod ar werth yn Awst 2000. Adfer glowyr a'r 'Model o Bwll Glo' Oherwydd yr angen i galedi'r dynion cyn iddynt ddychwelyd i'r pyllau glo, darparwyd gweithdy gwaith coed, lle byddai'r cleifion yn torri pren ac yn llifio boncyffion. Roedd grisiau bach a beiciau llonydd ar gael i ymarfer eu cyhyrau segur. Yn Nhŷ Talygarn roedd yna fodel mawr o bwll glo lle gallai'r cleifion ymgyfarwyddo â gweithio mewn pwll glo unwaith eto. Un twnnel hir a gynhaliwyd gan hytrawstiau bwaog oedd y strwythur. Roedd gan y ffordd gledrau, yn ogystal â fframwaith metel o'r enw horsehead, a fyddai'n atal cerrig rhag cwympo mewn talcennau glo go iawn. Symud y pwll glo Ym 2001, rhoddwyd cynnwys y model o bwll glo' i Amgueddfa Cymru fel 'ffordd barhaol o atgoffa ymwelwyr am waith canolfan ymadfer Talygarn'. Datgymalwyd y talcennau glo fel petasent yn rai go iawn. Er mai dim ond pedair troedfedd o uchder oedd ar gael i gyflawni'r gwaith, llwyddwyd i ddatgymu a symud y cludwr cadwyn, trideg troedfedd o hyd. Cludwyd yr holl eitemau i'r Ganolfan Casgliadau yn Nantgarw. Mae rhodd Talygarn yn rhan unigryw, tri deg troedfedd o hyd, o dalcen glo rhannol-fecanyddol, sydd wedi goroesi o'r 1960au cynnar.
200 Mlynedd o Flaengaredd Diwydiannol yng Nglynebwy 10 Ebrill 2007 Gweithfeydd Haearn Abersychan, 1866, a redwyd gan Gwmni Glynebwy, 1852-83 Ffwrneisi chwyth Glynebwy, tua 1900 Melin arw mewn gwaith dur, 1907 Melin arw mewn gwaith dur, 1907 Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy oedd un o brif gynhyrchwyr haearn y de yng nghanol y 19eg ganrif. Roedd o bwys rhyngwladol, nid yn unig am ei faint, ond hefyd am ei flaengaredd technolegol. Can mlynedd yn ddiweddarach, y cwmni oedd y cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio technegau Americanaidd i gynhyrchu dur a thunplat. Heddiw, y cwmni yw prif gynhyrchwr tunplat Prydain. 1790, y Ffwrnais Chwyth cyntaf Mae gwreiddiau gweithfeydd Glynebwy yn ymestyn yn ôl i 1790, pan sefydlwyd ei ffwrnais chwyth cyntaf. Y teulu Halford oedd y perchnogion rhwng 1796 ac 1844, a bu'r gweithfeydd yn llwyddiant yn ystod y cyfnod hwn. Bu'n arloesol ym maes rholio cledrau, gan ddarparu cledrau ar gyfer rheilffordd Stockton a Darlington ym 1829. Yn yr un cyfnod, arbrofodd y cwmni gyda locomotifau — un o'r gweithfeydd haearn cyntaf yn y de i wneud hynny. Ffurfiwyd Cwmni Glynebwy ym 1848, a ffynnodd y gweithfeydd. Ymgorfforwyd pedwar gwaith haearn arall yn Abersychan, Sirhywi a Phont-y-pŵl. Y gwaith dur cyntaf ym Mhrydain Roedd y cwmni'n arloeswr yn y broses o droi haearn gyr yn ddur. Cynhaliodd ei arbrofion ei hun ym 1854, ac agorodd un o'r gweithfeydd dur cyntaf ym Mhrydain ym 1866. Dirywiodd y gweithfeydd yn yr 1870au a'r 1880au oherwydd rheolaeth wael, ond bu ehangiad cyflym y diwydiant glo yn ddigon i arbed y gwaith rhag cau. Adfywiad yr 20fed ganrif Adfywiwyd y gweithfeydd haearn a dur ar ddechrau'r 20fed ganrif, a bu ffyniant marchnad glo stêm Cymru'n help i sefydlu'r cwmni fel prif gwmni haearn a glo integredig Cymru. Cau a chaledi Erbyn y 1920au cynnar roedd y cwmni'n cyflogi 34,000 o ddynion. Cynyddwyd ei ddyledion i ariannu ehangiad mewn cyfnod pan oedd y diwydiannau dur a glo yn dirywio'n sylweddol. Arweiniodd hyn at gau'r gweithfeydd a gwerthu'r glofeydd ym 1929. Adfywiad ac ehangiad gyda thunplat O ganlyniad i'r caledi mawr a'r diweithdra yn y dref, penderfynodd y Llywodraeth y dylid gosod melin stribed dur cyntaf Prydain yng Nglynebwy. Ail-adeiladwyd y gweithfeydd ym 1936-38 o dan berchnogaeth Richard Thomas & Company, cynhyrchwyr tunplat mwyaf Prydain. Cafodd y gweithfeydd newydd hwb pellach ym 1947, pan gosodwyd llinell tunplat electrolytig cyntaf Ewrop yno. Parhawyd i foderneiddio ac ehangu pob rhan o'r gweithfeydd, ac ym 1960 gosodwyd y Trawsnewidydd LD cyntaf Prydain yn y gwaith dur. Y cynhyrchwr tunplat mwyaf ym Mhrydain Bu rhesymoliad y diwydiant dur ar ôl ei wladoli ym 1967 yn gyfrifol am leihau cyfanswm y dur a gynhyrchwyd yng Nglynebwy, a chaewyd y gwaith dur ym 1978. Ers hynny canolbwyntiodd y gwaith ar gynhyrchu tunplat a galfaneiddio, gan ddatblygu i fod yn brif gynhyrchwr tunplat Prydain. Caewyd y gwaith yn 2002.
Yr hen gloc yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis 22 Chwefror 2007 Y cloc uwchben mynedfa Amgueddfa Lechi Cymru Un o nodweddion amlwg Amgueddfa Lechi Cymru yw'r wyneb cloc siâp diemwnt sydd ar flaen yr adeilad. Uwch ei ben ar y to mae strwythur tebyg i bagoda bychan sy'n cynnwys cloch a morthwyl sydd wedi'i gysylltu â'r cloc â rhaff wifrau. Gosodwyd mecanwaith y cloc ar ail lawr yr adeilad. Cafodd ei gynhyrchu yn Sir Amwythig ond nid yw'r dyddiad yn eglur. Gan nad yw'r cloc yn ymddangos mewn ffotograffau cynnar o'r adeilad, a godwyd ym 1870, mae'n debygol na chafodd mo'i osod tan ganol y 1890au. Amserydd ar gyfer ffrwydradau'r chwarel Mae'r Amgueddfa wedi'i lleoli yng ngweithdai Fictoraidd Chwarel Dinorwig. Roedd y cloc yn gymorth i sicrhau prydlondeb y trenau a gludai'r llechi o'r chwarel i borthladd y Cwmni yn y Felinheli. Fodd bynnag, roedd yn fwy nag amserydd ar gyfer y gweithdai, ac ar un adeg yn ei hanes ychwanegwyd cyfres o gysylltiadau trydanol ato. Ar amserau penodol, byddai'r cloc yn anfon cerrynt trydanol i rannau eraill o safle mawr y Chwarel. Roedd hyn yn sicrhau bod ffrwydradau'n digwydd ar amser. Fel arfer, byddai systemau o'r fath yn cael eu marchnata fel clociau pulsynetic. Gwerthwyd hwy gan wneuthurwyr clociau enwog fel Gent o Gaerlŷr. Yn y Felinheli, wrth gwrs, cynhyrchodd y gweithwyr eu fersiwn ddibynadwy eu hunain. Graffiti 100 mlwydd oed Roedd angen cyflenwad pŵer i gynhyrchu'r cerrynt trydanol. Byddai hyn yn cael ei ddarparu drwy gelloedd gwlybion neu gronaduron a storiwyd wrth ochr y cloc. Un o'r darganfyddiadau a wnaed pan adnewyddwyd y rhan hon o'r adeilad ganol y 1990au oedd y graffiti gwreiddiol ar y waliau a'r paneli cyfagos, a oedd yn nodi dyddiadau llwytho'r batri. Ar 10 Mehenfin 1909, er enghraifft, llwythwyd y batrïau gan Willie Owen Williams a George Hughes. Glanhau'r cloc Er bod y cloc wedi cael ei gynnal a'i gadw dros y blynyddoedd, erbyn 2001 roedd angen sylw arbenigol arno. Roedd busnes y gwneuthurwyr J.B. Joyce and Company yn dal i weithredu. Cafodd y busnes ei sefydlu yn yr Eglwys Wen yn Sir Amwythig, ac mae'n dal i fod yno dros dri chan mlynedd yn ddiweddarach. Yn anffodus nid oes ganddynt gofnod o'r clociau unigol a gynhyrchwyd, ond roeddent yn fodlon ymweld â'r Amgueddfa i archwilio'r cloc. Dychwelwyd y mecanwaith i weithdy Joyce lle cafodd ei lanhau a'u wasanaethu. Yna fe ailadeiladwyd y cloc, cyn ei ddychweleyd i'r Amgueddfa a'i roi ar waith unwaith eto. Heddiw mae'r cloc yn rhedeg yn llyfn ac mae'n gywir i raddau helaeth. Cloc ar gyfer y Pentref Mewn cyfnod pan nad oedd oriawr yn rhywbeth cyffredin, roedd y cloc a osodwyd yng ngweithdai Chwarel Dinorwig yn gloc ar gyfer y gymuned leol, a gallai holl drigolion Llanberis a'r cyffiniau glywed ei gloch. Meddai un awdur lleol: 'Torrai ar y distawrwydd yn nhrymder nos, a chlywyd aml i glaf yn cwyno yn y bore,"Chysgis i ddim gwerth neithiwr - clywed yr hen gloc yn taro pob awr nes iddi 'leuo"' Mae'r cloc yn parhau i fesur treigl amser wrth i'r unfed ganrif ar hugain fynd rhagddi yn Llanberis.
Doedd dim byd yn cael ei wastraffu: lleisiau crefftwyr y Gilfach Ddu 22 Chwefror 2007 Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.