Yr Ebbw Vale Steel, Iron & Coal Company 20 Gorffennaf 2010 Sefydlwyd yr Ebbw Vale Steel, Iron&Coal Company yn y De ym 1790, ac roedd y cwmni yn cynhyrchu mwy o dunplat nag unrhyw le arall yn y wlad nes iddo gau yn 2002. Yr Ebbw Vale Steel, Iron and Coal Company Mae'r Felin Gostyngiad Ddwbl, a gyflwynwyd ym 1978 yn cynhyrchu dur strip tenau fawn ar gyfer gwneud caniau diodydd Dymchwel y ffwrneisi blast, Awst 1978. Pan gyflwynwyd llinell dunplat electolytig Rhif 2 ym 1961 hi oedd y gyflymaf yn y byd. Golygfa o'r gwaith o'r awyr yn Awst 1957. Ffetlo ffwrnais ddur tân agored yng Nglynebwy tua 1962 Safle Glofa Abercarn yn 1970 Cystadleuaeth goedio o dan ddaear yng Ngharnifal Cymdeithas Gwella'ch Hun yng Nghwm, 1956 Y tirlun wrth gloddio am lo, Waunlwyd, 1950au Dechreuodd y gweithfeydd newydd gynhyrchu ym 1938 a dechreuodd tref Glynebwy ffynnu unwaith eto. Roedd y felin strip newydd yn cynhyrchu dur strip o ansawdd da ar gyflymdra o 20 milltir yr awr & yn gyflymach o lawer na'r hen felinau llaw a ddisodlwyd. Ar 3 Hydref 1929 caewyd y gweithfeydd. Ym 1936 fe'u dymchwelwyd. Ym 1929 cafwyd derbynnydd metel poeth 1,500 tunnell newydd, y mwyaf yn y byd ar y pryd. Roedd y gweithfydd yn mynd i gau cyn y gellid ei ddefnyddio. Gan nad oedd Glynebwy ar lan y môr roedd yn rhaid cael llu o dryciau rheilffordd i dynnu'r mwyn haearn o lanfeydd Casnewydd i'r ffwrneisi. Y Felin Arwhau yn y Gwaith Dur. Disgrifiwyd y dirwasgiad rhwng y rhyfeloedd yn y fasnach ddur fel "mynd i mewn i dwnnel ym 1921 a pheidio â dod ohono hyd at 1938". Cynhyrchai'r ffwrneisi blast newydd, Rhif 4 a Rhif 5, yn Victoria, 2,750 tunnell yr un yr wythnos. Ar Ddydd Gŵl Ddewi 1927 lladdwyd 52 o lowyr yng Nglofa Marine mewn ffrwydriad. Ni ddarganfuwyd erioed beth a'i achosodd. Ar Ddydd Gŵl Ddewi 1927 lladdwyd 52 o lowyr yng Nglofa Marine mewn ffrwydriad. Ni ddarganfuwyd erioed beth a'i achosodd. Yn ystod anghydfod diwydiannol y 1920au a dirwasgiad y 1930au roedd y bandiau jazz yn creu tipyn o hwyl ac yn codi calonnau pobl. Cloddio am lo yn Heol Llangynidr ym 1926 pan gafodd y glowyr eu cloi allan o'r gwaith. Wrth i lofa Marine ehangu fe dyfodd pentref Cwm, lle roedd y rhan fwyaf o'r glowyr a'u teuluoedd yn byw, hefyd. Teras yr Orsaf, canolfan siopa fawr gyntaf Cwm, ym 1913 Tywysog Cymru yn ystod ei ymweliad â Phwll Victoria Rhif 5 ym 1918. Roedd y lofa newydd gael ei dyfnhau a'i moderneiddio. Ar ô1 iddo fod o dan ddaear cytunodd bod y lofa'n cael ei hailenwi yn "Tywysog Cymru". Glofa Marine, 1907: Golosg ar gyfer y ffwrneisi, and allforiwyd y rhan fwyaf o'i lo i wledydd tramor. Yn falch ar yr hyn a wnaed: Gwaelod y Pwll, Glofa Marine, Cwm, tua 1907 Ym 1907 adeiladodd y cwmni drydydd gwaith brics ac fe gynhyrchwyd 14 miliwn o frics mewn blwyddyn. Roedd gan y cwmni bedair glanfa yng Nghasnewydd i fewnforio mwyn haearn a physt pwll, ac i allforio haearn a dur. Erbyn 1907 roedd y cwmni'n cyflogi 350 o beirianwyr a staff cynnal a chadw: Siop Smith yn yr Adran Beirianneg. Roedd Ffowndri Victoria, a ailadeiladwyd ym 1902, yn cynhyrchu 18,000 tunnell o gastiniau y flwyddyn. Fe'i defnyddid yn y gwaith a'u gwerthu i gwmnioedd eraill. Ym 1907 roedd 524 ffwrn golosg yn eiddo i'r cwmni. Cynhyrchent 200,000 tunnell o olosg y flwyddyn. Twll tapio'r ffwrnais "Yankee" yn Victoria: gallai gynhyrchu 2,300 tunnell o haearn bob wythnos. Biledau - cynnyrch deng awr o waith - o'r Gwaith Dur Bessemer. Pan osodwyd y derbynnydd metel poeth 750 tunnell yn y Gwaith Dur Bessemer ym 1905-06 of oedd y mwyaf yn y byd. Adeiladwyd ffwrnais flast newydd yn ô1 cynllun Americanaidd yn Victoria ym 1903. Adeiladwyd dwy ffwrnais tân agored ym 1898, a thair arall ym 1905-06. Ym 1897 adeiladwyd siop gwneud sbringiau i wneud sbringiau i gerbydau rheilffordd. Allforio oedd prif gynhaliaeth y cwmni. Dociau Caerdydd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif Allforio oedd prif gynhaliaeth y cwmni. Dociau Caerdydd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif O'r 1870au ymlaen suddwyd y pyllau glo yn llawer dyfnach na rhai'r hen lofeydd er mwyn cyrraedd cronfeydd newydd a'r gwythiennau glo rhydd. Siafft Gwaith Glo Victoria Rhif 5 (Tywysog Cymru). Glofa Waunlwyd. Ar droad y ganrif roedd dau lond trên o lo yn mynd o'r gwaith glo hwn i Crewe bob dydd i fwydo injans yr L.M.S. Y melinau rholio tua 1900 Mae trawsnewidydd Bessemer "wrthi'n chwythu" yn olygfa ddramatig. Pan dynnwyd y llun hwn yng Nglynebwy yn y 1950au nidoedd y broses wedi newid. Rheiliau oedd un o brif gynhyrchion y gwaith; disodlwyd haearn gyr gan ddur yn y 1870au ac ym 1881 daeth pwdlo haearn gyr i ben yng Nglynebwy. Y trawsnewidyddion Bessemer a gadwodd y gwaith i fynd drwy'r 1880au. Y peth diwethaf a wnaed wrth ehangu oedd ailadeiladu dwy ffwrnais Victoria ym 1882. Ailadeiladwyd y bedair ffwrnais yng Nglynebwy ym 1871-72, gan gynyddu'r cynnyrch i 800 tunnell yr wythnos o bob ffwrnais. Ym 1866 sefydlwyd y "Darby," y peiriant chwythu ffwrnais flast mwyaf yn y byd. Talodd Syr George Bessemer £30,000 i Gwmni Glynebwy am ei patentau gwneud dur (cafodd George Parry, £10,000) ac ym 1866-68 cododd y cwmni chwe Thrawsnewidydd Bessemer i wneud dur, un o'r ddau le cyntaf ym Mhrydain i wneud hynny. Un o ddyfeisiadau George Parri, cemegydd y gwaith, oedd y "cap a'r côn" i gau pen y ffwrneisi blast rhag iddynt golli gwres. Fe'i tynnid am ychydig wrth eu llwytho. Newidiwyd llawer o haearn bwrw'r cwmni yn haearn gyr mewn 100 o ffwrneisi pwdlo. Gwaith Haearn Abersychan ym 1866. Fe'i prynwyd gan Gwmni Glynebwy ym 1852. Mae'n debyg bod gweithfeydd eraill y cwmni'n debyg i hwn, er bod eu hadeiladau'n symlach. O 1829 ymlaen bu Glynebwy'n arbrofi gydag injans - un o'r gweithfeydd haearn cyntaf i wneud hynny yn Ne Cymru. Dyma "Dewi Sant" injan Cwmni Haearn Tredegar, ym 1854. Adeiladodd Cwmni Glynebwy llawer o resi o dai ar gyfer ei weithwyr. Yn Rhes Gantra, a fwriadwyd ar gyfer glowyr, roedd un teulu yn byw yn nau lawr uchaf pob tŷ a theulu arall yn y seler. Roedd Pwll Rhif 6, Victoria, a suddwyd ym 1838, yn cynhyrchu golosg ar gyfer Gwaith Haearn Victoria. Gwaharddwyd merched rhag gweithio a dan ddaear ym 1842 and parhaodd ychydig bach ohonynt i weithio ar yr wyneb hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif. "Clytiau," neu gloddfeydd brig bach oedd y cloddfeydd glo a charreg haearn cynharaf. Roedd diwydiant haearn De Cymru yn fach ac yn wiedig ar y dechrau: ffwrnais flast yng Ngwaith Haearn Clydach, 1813. Tyllu yng Ngwythïen Gwern y Cae, Pwll Rhif 7 Sirhywi, 1898. Ffwrneisi Tân Agored Glynebwy, 1960au.
Streic y Glowyr - 1984-85 23 Medi 2009 Gwelwyd newidiadau mawr yn y diwydiant glo wedi’r gwladoli ym 1947. Buddsoddodd y llywodraeth swm sylweddol o arian yn y diwydiant a alluogodd iddo gyflwyno offer a thechnegau cloddio newydd. Arhosodd y lefelau cynhyrchu a chyflogaeth yn sefydlog tan ganol y 1950au ond, gyda’r gostyngiad yn y galw am lo a’r her o olew’r Dwyrain Canol, caewyd 50 o byllau glo yn ne Cymru rhwng 1957 a 1964.Yn ystod y 1970au, gwelodd y diwydiant ddwy streic fawr. Ym 1972, ildiodd y Prif Weinidog Ceidwadol, Edward Heath, i’r glowyr a aeth ar streic am fwy o gyflog. Pan ddechreuodd streic arall ym 1974, galwodd Mr Heath am etholiad cyffredinol yn syth gan obeithio cael cefnogaeth y cyhoedd yn erbyn y glowyr. Ond pleidleisiodd y cyhoedd yn ei erbyn gan roi buddugoliaeth i’r Blaid Lafur.Erbyn y 1980au, roedd diwydiant glo Prydain ymhlith y mwyaf diogel ac effeithlon yn y byd. Fodd bynnag, pan ddaeth y llywodraeth Geidwadol newydd i rym dan arweiniad Margaret Thatcher, roedd am wneud y diwydiant yn fwy effeithlon trwy leihau’r hyn yr oedd yn eu hystyried fel diwydiannau amhroffidiol. O dan ei harweiniad trosglwyddwyd nifer o'r diwydiannau a oedd gynt yn cael eu rhedeg gan y wladwriaeth megis nwy, dŵr a'r rheilffyrdd i berchnogaeth y sector breifat, mewn geiriau eraill cawsant eu preifateiddio. Telecom Prydain oedd y darparwr gwasanaeth cyntaf i gael ei ddadwladoli ym 1984 gyda sawl un arall yn dilyn dros y blynyddoedd canlynol. Ar yr un pryd, roedd am wanhau grym yr undebau llafur a oedd, yn ei thyb hi, wedi dod yn rhy bwerus. Arweiniodd yr agenda hwn at wrthdaro rhwng y llywodraeth Geidwadol ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM). Trodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Glo Prydain ym 1987 yn barod i'w breifateiddio, a digwyddodd hynny ym 1994. Streic y Glowyr - 1984-1985 Glofa Morgannwg, Llwynypia Glofa Bargoed a'r cyffiniau Poster o'r streic Erthygl yn Western Mail 14 Chwefror 1985 Yr orymdaith yn ôl i'r gwaith, Maerdy, y Rhondda Poster NUM de Cymru o'r streic Cylchlythyr Grŵp cefnogi glowyr Cwm Rhymni Heddlu a phicedwyr, Glofa Bedwas Heddlu a phicedwyr, Glofa Bedwas Poster o'r streic Bathodyn o'r streic Poster o'r streic Tudalen blaen y Labour Weekly 1984 Picedwr hynaf Penalltau Arthur Scargill yn ymweld â Banwen Llinell biced, gorsaf ynni Trawsfynydd Gwrthdystiad dros y glowyr, Blaenau Ffestiniog Casglu at y glowyr, Tonypandy Heddlu a phicedwyr yng Nglofa Nantgarw Heddlu a phicedwyr yng Nglofa Nantgarw Parti Nadolig i blant y glowyr, Banwen, Cwm Nedd Heddlu o Gymru ar ddyletswydd piced, maes glo yn Lloegr Graffiti o'r streic, Aber-carn Graffiti ar stordy ffrwydron Dyletswydd piced yng ngorsaf ynni Aberddawan Grŵp cefnogi menywod Cwm Rhymni Llinell biced, Glofa Penalltau Hysbyseb gan NUM de Cymru Poster Cyngres Cymru yn cefnogi'r glowyr Arthur Scargill, Maesteg Glofa'r Arglwyddes Windsor Glofa Gogledd Celynnen Glofa Six Bells Glofa'r Cwm, y Rhondda Glofa Rose Heyworth, Abertyleri strike-cy.pdf Picedi, Plismon, a Gleidyddiaeth - Streic y Glowyr 1984-1985 Lawrlwythwch y PDF yma [3.3MB]
Dinorwig: Cofio'r Cau 22 Awst 2009 Cofio'r Cau Chwarel Dinorwig. Gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol defnyddiwyd llechi i doi ffatrïoedd a thai drwy Brydain ac Ewrop, yn ogystal â threfi yng ngogledd America a rhannau eraill o'r byd. Ar 22ain Awst 1969 daeth distawrwydd i Chwarel Dinorwig. Wedi bron 200 mlynedd o lafur caled, caewyd y chwarel ac anfonwyd y chwarelwyr adref am y tro olaf. Collodd 350 o ddynion eu gwaith, ac yn sgil hyn newidiodd cymuned chwarelyddol a ffordd o fyw a oedd wedi bodoli ers y 1780au am byth. Roedd pawb yn yr ardal wedi byw yng nghysgod Chwarel Dinorwig ar hyd eu hoes. Roedd gan bawb dad, daid, ŵr, ewythr neu frawd oedd wedi gweithio yno. Ganrif ynghynt, byddai cau'r chwarel yn anodd ei dychmygu. Roedd Chwarel Dinorwig yn un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd — a, gyda Chwarel y Penrhyn ym Methesda, gallai gynhyrchu mwy o lechi toi mewn blwyddyn na'r holl chwareli llechi eraill yn y byd gyda'i gilydd. Y Chwarelwr Darn yw hwn o'r ffilm sain gyntaf yn y Gymraeg, sef Y Chwarelwr, a wnaed ym 1935. 'Does dim sain yn y darn hwn am mai rhannau yn unig o'r ffilm sydd wedi goroesi, ac fe recordiwyd y sain ar disgiau ar wahân i'r ffilm ei hun. © Urdd Gobaidd Cymru Pam y bu i'r chwarel gau? Grŵp o chwarelwyr Ddim dros nos ddigwyddodd y dirywiad yn Chwarel Dinorwig. Doedd pethau ddim yn dda ers rhai blynyddoedd am sawl rheswm: doedd dim cymaint o alw am lechi ym Mhrydain yn ystod yr 20fed ganrif; roedd llechi Cymru yn ddrud o'u cymharu â theils to a llechi o dramor; roedd perchenogion y chwareli yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am farchnad weddol fychan; 'doedd Chwarel Dinorwig ddim wedi ei datblygu'n effeithiol. Roedd y llechfaen oedd yn hawdd ei gyrraedd wedi ei gloddio i gyd erbyn y 60au, ac roedd rhaid gwario i ddatblygu ymhellach. 'Doedd gan perchnogion y chwarel ddim mo'r arian i wneud hynny. Un o'u camgymeriadau oedd buddsoddi'n helaeth yn Marchlyn - rhan o'r mynydd wnaeth ddim dwyn ffrwyth iddyn nhw o gwbl. Dim ond 'baw' oedd yno — dim llechi; erbyn diwedd y 1960au, roedd y chwarel yn dibynnu ar archebion o Ffrainc i oroesi. Ym mis Gorffennaf 1969, daeth yr archebion hyn i ben. Dyma'r hoelen olaf yn yr arch. Erbyn y 1960au, roedd y diwydiant llechi yn gyffredinol yn wynebu dyfodol mwy ansicr fyth. Be nesa'? Catalog ocsiwn fawr Chwarel Dinorwig. Rhagfyr 1969 Aeth nifer o'r 350 a gollodd eu gwaith i waith arall, rhai yn weddol lleol i Ferodo a Peblig ac eraill ymhellach i Ddolgarrog, Trawsfynydd a Chaergybi. Aeth rhai hyd yn oed ymhellach i chwilio am waith, i Corby, y dref ddur newydd yn Swydd Northants. Yn ystod Hydref a Rhagfyr, 1969 bu'r gwerthu mawr - gwerthu popeth oedd werth ei gario o'r chwarel ac o'r gweithdai. Yn ffodus i ni yma yn yr Amgueddfa, sicrhaodd Hugh Richard Jones, Prif Beiriannydd Chwarel Dinorwig, na chafodd popeth ei werthu. Iddo fo, ac eraill tebyg iddo, mae'r diolch na ddatgymalwyd yr Olwyn Ddŵr enfawr ac y diogelwyd y peiriannau yn y gweithdai. Dair blynedd wedi cau Chwarel Dinorwig, ym 1972, agorwyd Amgueddfa Lechi Cymru yn y Gilfach Ddu. Cyflogwyd Hugh Richard Jones fel y rheolwr cyntaf.
Sut y bu glo'n gyfrifol am oeri'r hinsawdd 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl Christopher Cleal, 1 Mehefin 2009 Atgynhyrchiad o lifglawdd afon a lifai trwy'r gwlypdiroedd trofannol 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ceir y planhigion sy'n tyfu ar y llifgloddiau hyn yn aml fel ffosilau yn y creigiau a gysylltir â glo yng Nghymru. Peintiad gan Annette Townsend. Cymhariaeth o sut yr amrywiai'r ardal a orchuddiwyd gan Fforest Lo dros amser, gyda thystiolaeth o newid yn yr hinsawdd yn y cyfnodau Carbonifferaidd diweddar a'r Permaidd cynnar. Atgynhyrchiad o lycophytau anferth a dyfai yng ngwlypdiroedd Cymru tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Noder fod yna blanhigion mewn gwahanol gamau o'u cylch-bywyd. Peintiad gan Annette Townsend. Map o'r tiroedd trofannol tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn dangos mynyddoedd (brown tywyll), iseldiroedd (brown golau) a gwlypdiroedd lle dyddodwyd mawn (gwyrdd). Rhisgl o foncyff lycophyt anferth o'r cyfnod Carbonifferaidd Diweddar, a ganfuwyd yng Nglofa Rhisga, de Cymru. Mae'r strwythurau siâp diemwnt ar yr arwyneb, sydd tua 1cm o hyd a 0.5cm o led, yn dynodi lle cysylltid y dail yn wreiddiol. Côn o lycophyt anferth o'r cyfnod Carbonifferaidd diweddar, a ganfuwyd mewn nodiwl haraenfaen yn ne Cymru. Cynhyrchai'r conau hyn sborau. Cofnodir y raddfa mewn centimedrau. Eginyn deiliog o lycophyt anferth o greigwely Uwch-garbonifferaidd Llanilltud ym Meddau, de Cymru. De Cymru sydd â'r creigiau glo mwyaf agored yn Ewrop. Mae gwyddonwyr yn Amgueddfa Cymru yn arwain tîm rhyngwladol o arbenigwyr sy'n ymchwilio i effaith y broses o ffurfio'r glo hwn ar gyfansoddiad yr atmosffer hynafol. Beth yw glo? Glo yw'r hyn sydd dros ben wedi i fawn gael ei gywasgu a'i gynhesu, nes mai'r unig beth sydd ar ôl yw carbon i bob pwrpas. Mae meysydd glo Cymru'n olion rhan o fforest corstir a orchuddiai rannau mawr o'r trofannau tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl (y Cyfnod Carbonifferaidd diweddar). Gelwir y rhain yn Fforestydd Glo. Mae yna dystiolaeth hefyd o fod iâ helaeth wedi gorchuddio llawer o'r tir o amgylch pegwn y de yn y cyfnod hwn. Dyma'r unig gyfnod arall yn y gorffennol daearegol, ac eithrio'r tua 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf, lle cafwyd y cyfuniad hwn o fforestydd trofannol helaeth ac iâ pegynol. Gall edrych ar y byd Carbonifferaidd diweddar felly gynnig darlun gwerthfawr o sut y gallai planhigion, yr hinsawdd a'r atmosffer fod yn rhyngweithio yn ein byd ni heddiw. Planhigion y Fforestydd Glo Roedd y Fforestydd Glo yn wahanol iawn i unrhyw beth sy'n tyfu heddiw. Y prif blanhigion oedd y lycophytau ('cnwp fwsoglau') tebyg i goed, a fedrai dyfu hyd at 50m o daldra. Yn wahanol i'r goeden fodern, meinwe meddal tebyg i gorc (periderm) oedd prif elfen boncyffion y lycophytau anferth hyn, yn hytrach na phren. Roedd hyn yn galluogi'r planhigion i dyfu i'w maint llawn mewn cyn lleied â 10 mlynedd. Hefyd, yn wahanol i goed modern, pan gyrhaeddai'r lycophytau hyn eu maint llawn, atgynhyrchent drwy gynhyrchu conau, cyn marw. Bywyd, marwolaeth a charbon Gan fod y planhigion hyn yn tyfu mor gyflym ac yna'n marw, cronnodd symiau anferth o fawn ar wely'r fforest. Mewn amser ffurfiodd hyn y glo sydd ym meysydd glo Cymru a rhannau eraill o Ewrop, yn ogystal â Gogledd America a Tsieina. Mae pob planhigyn yn tynnu'r carbon sydd ei angen arnynt i dyfu o'r atmosffer. Credir bod y fforestydd hyn yn gyfrifol am dynnu bron i 100 gigadunnell (mil o filiynau o dunelli) o garbon o'r atmosffer bob blwyddyn, a byddent wedi cael effaith fawr ar gyfansoddiad yr atmosffer yn ystod cyfnodau Carbonifferaidd. Cyfyngu'r Fforestydd Glo a chynhesu byd-eang Arhosodd cynefinoedd y Fforestydd Glo yn sefydlog i bob pwrpas am tua 10 miliwn o flynyddoedd. Yna cyfyngodd eu maint, oherwydd newidiadau ym mhatrymau draeniad y corstiroedd lle'r oeddent yn tyfu mae'n debyg. Digwyddodd hyn ar yr un pryd a chynnydd sylweddol mewn tymereddau byd-eang. Fwyaf nodedig oedd diflaniad haenau iâ mewn rhanbarthau pegynol deheuol, sydd wedi cael eu cofnodi yng nghreigiau Awstralia a'r Ariannin. Mae'n bur debygol fod ciliad y Fforestydd Glo wedi achosi cynnydd yn y carbon (fel CO2) sydd yn yr atmosffer, a bod hyn wedi achosi i'r tymheredd i gynyddu trwy 'effaith tŷ gwydr'. Maes Glo De Cymru Mae yna feysydd glo Carbonifferaidd diweddar ledled Ewrop, Gogledd America a Tsieina. Fodd bynnag, mae maes glo de Cymru yn arbennig o bwysig, gan ei fod yn dangos un o'r dilyniannau mwyaf cyflawn o greigiau sy'n cynnwys olion o'r Fforestydd Glo. Mae hefyd wedi rhoi inni gofnod ffosilau rhagorol o blanhigion, yn ogystal ag anifeiliaid yn cynnwys pryfaid, pryfaid cop, a molysgiaid dŵr croyw. Mae hefyd yn un o'r unig lefydd yn Ewrop lle mae'r creigiau hyn yn agored ar wyneb y tir. Yn y mwyafrif o lefydd eraill, rhaid ymchwilio daeareg y dyddodion glo hyn mewn pyllau tanddaearol - peth cynyddol anodd ei wneud gan fod pyllau glo yn prysur gau. Mae cofnod daearegol Maes Glo de Cymru wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu ein dealltwriaeth o esblygiad y Fforestydd Glo, yn enwedig trwy waith daearegwyr Cymreig fel Emily Dix a David Davies yn ystod y 1920au a'r 1930au. Yn fwy diweddar, mae gwyddonwyr yn Amgueddfa Cymru wedi bod yn ymchwilio sut newidiodd cyfansoddiad fforestydd De Cymru dros amser. Gwnaed hyn drwy edrych ar newidiadau mewn amrywiaeth rhywogaethau yn y cofnod ffosiliau planhigion, a'r dystiolaeth o'r cofnod paill a sborau a echdynnwyd o'r creigiau. Awgryma hyn fod y Fforestydd Glo yn gynefinoedd hynod o sefydlog am y mwyafrif o'u bodolaeth yn ne Cymru, o leiaf tan eu bod wedi cyfyngu gan achosi'r newid mewn tymheredd byd-eang. Erthygl gan: Chris Cleal, Pennaeth Hanes Llystyfiant Darllen pellach Cleal, C. J. a Thomas, B. A. 1994. Plant fossils of the British Coal Measures. Cymdeithas Palaeontoleg, Llundain. Cleal, C. J. & Thomas, B. A. 2005. Palaeozoic tropical rainforests and their effect on global climates: is the past the key to the present? Geobiology, 3, 13-31. Thomas, B. A. a Cleal, C. J. 1993. The Coal Measures forests. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.
Cyfweliadau 'Streic!' 22 Mai 2009 Yma gallwch wrando ar gyfweliadau gyda unigolion or Amgueddfa, yn edrych nôl ar gyfnod o anghydfod a newidiodd tirwedd ddiwydiannol a chymdeithasol Cymru am byth. Jeff White - Peiriannydd Mecanyddol Paul Meredith - Peirianydd Gwarchodaeth Ceri Thompson - Curadur Peter Walker - Ceidwad Big Pit Gavin Rogers - Tywyswr Glofa