Gardd Ysgol SS Philip and James

Catalena Angele, 2 Mai 2013

Diolch i Ysgol SS Philip and James am y lluniau ardderchog hyn.

Eich gardd yn edrych yn hyfryd!

Diolch yn fawr,

Athro’r Ardd

Peregrines on the Clock Tower 2013 - April 30

Peter Howlett, 30 Ebrill 2013

Update 30 April

Great news, at least one chick has hatched over the weekend. The female spent 10 mintues or so tearing off little morsels for a chick this morning. I could just make out a little white head wobbling around. As I write this the female is back brooding the chick and the remaining eggs. Apologies for the quality of the photo, the only way I can get screen shots of any activity is to photograph the screen.

Gwobrau Gwyddonwyr Gwych 2013

Catalena Angele, 22 Ebrill 2013

Bydd Amgueddfa Cymru yn dyfarnu Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych i wyth deg pump o ysgolion ar draws y DU eleni, i gydnabod eu cyfraniad i Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn – Newid Hinsawdd.

Llongyfarchiadau anferth i bob un o’r ysgolion! Mae rhestr o’r enillwyr isod, ydy’ch ysgol chi yno?

Roedd mwy na dwywaith cymaint o ysgolion yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad eleni, sy’n newyddion gwych. Mae’n hyfryd bod cymaint ohonoch chi’n helpu gyda’r ymchwiliad pwysig yma.

Diolch i bob un o’r 4116 disgybl a helpodd eleni! Diolch am weithio mor galed yn plannu, arsylwi, mesur a chofnodi – rydych chi i gyd yn Wyddonwyr Gwych! Bydd pob un yn derbyn tystysgrif a phensel Gwyddonydd Gwych, ac fe fyddan nhw’n cyrraedd eich ysgol tua canol mis Mai.

Diolch yn fawr i Edina Trust am eu nawdd ac am helpu i wireddu’r holl broject!

Enillwyr 2013

Diolch i’r tri enillydd wnaeth anfon y nifer fwyaf o ddata tywydd.  Bydd pob un yn derbyn trip ysgol llawn hwyl i atyniad natur.

  • SS Philip and James Primary School yn Lloegr
  • Ysgol Gynradd Williamstown yng Nghymru
  • Wormit Primary School yn yr Alban

Ail safle

Bydd pob ysgol yn derbyn tocyn anrheg i brynu offer ar gyfer eich projectau garddio.

  • Balcurvie Primary School yn yr Alban
  • Ysgol Gynradd Sofrydd yng Nghymru
  • Stanford in the Vale Primary School yn Lloegr

Clod uchel

Bydd pob ysgol yn derbyn tystysgrifau, pensiliau, hadau blodau’r haul a hadau perlysiau.

  • Balmerino Primary School
  • Blaenycwm Primary School
  • Britannia Community Primary School
  • Coed-y-Lan Primary School
  • Coppull Parish Primary School
  • Dunbog Primary School
  • Freuchie Primary School
  • Glyncollen Primary School
  • Henllys CIW Primary School
  • Oakfield Primary School
  • St Athan Primary School
  • St Joseph's RC Primary School (Penarth)
  • St Roberts Roman Cathlic Primary School
  • Torbain Primary School
  • Tynewater Primary School
  • Westwood CP School
  • Ysgol Gynradd Talybont
  • Ysgol Nant y Coed
  • Ysgol y Ffridd

Cydnabyddiaeth arbennig

Bydd pob ysgol yn derbyn tystysgrifau, pensiliau a hadau blodau’r haul.

  • Brynhyfryd Junior School
  • Bwlchgwyn CP School
  • Darran Park Primary
  • Gladestry CIW School
  • Greyfriars RC Primary School
  • Hawthornden Primary School
  • Kilmaron Special School
  • Lakeside Primary School
  • Llangan Primary School
  • Magor Church in Wales Primary School
  • Milford Haven Junior School
  • Newburgh Primary School
  • Newport Primary School
  • Rhydypenau Primary School
  • Rogiet Primary School
  • St Mary's Catholic Primary School (Wales)
  • St Mary's RC Primary School (England)
  • Stepping Stones Short Stay School
  • Thorneyholme RC Primary School
  • Ysgol Bodafon
  • Ysgol Bryn Garth
  • Ysgol Clocaenog
  • Ysgol Deganwy
  • Ysgol Hiraddug
  • Ysgol Porth y Felin

Ysgolion i dderbyn tystysgrifau

Bydd pob ysgol yn derbyn Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych a phensiliau.

  • Archbishop Hutton's Primary School
  • Auchtertool Primary School
  • Cadoxton Primary School
  • Christchurch CP School
  • Duloch Primary School
  • Eyton Church in Wales Primary School
  • Freckleton CE Primary School
  • Fulwood and Cadley Primary School
  • Harwell Primary School
  • Holy Family RC Primary School
  • Hywel Da Primary School
  • Ladybank Primary School
  • Ladygrove Park Primary School
  • LasswadePrimary School
  • Lever House Primary School
  • Manor Primary School
  • Medlar with Wesham CE Primary School
  • Nether Kellet Primary School
  • Northbourne CE Primary School
  • Park Primary School
  • RAF Benson Primary School
  • Rishton Methodist Primary School
  • Sherwood Primary School
  • St John's Catholic Primary School
  • St Nicholas Primary School
  • Stepaside CP School
  • Tor View Community Special School
  • Weeton Primary School
  • Windale Primary School
  • Ysgol Capelulo
  • Ysgol Gymunedol Dolwyddelan
  • Ysgol Iau Hen Golwyn
  • Ysgol Morfa Rhianedd
  • Ysgol Pencae

Da iawn, rydych chi wedi gwneud gwaith ANHYGOEL.

Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013

Llongyfarchiadau i'r disgyblion canlynol am creu darluniau botanegol ardderchog!

  • 1st: Oliver – Stanford in the Vale Primary School
  • 2nd: Sam – St Joseph's RC Primary School (Penarth)
  • 3rd: Daniel (age 6) – Stanford in the Vale Primary School

Goreuon y Gweddill

  • Etward? (age 6) – Stanford in the Vale Primary School
  • Finlay (age 7) – Stanford in the Vale Primary School
  • Jemima – St Joseph's RC Primary School (Penarth)
  • Joe – St Joseph's RC Primary School (Penarth)
  • Joshua – St Joseph's RC Primary School (Penarth)
  • Joshua (age 7) – Stanford in the Vale Primary School
  • Larson (age 11) – Stanford in the Vale Primary School
  • Leo – Stanford in the Vale Primary School
  • Nathan – St Joseph's RC Primary School (Penarth)
  • William (age 5) – Stanford in the Vale Primary School

Diolch yn fawr

Athro’r Ardd

Cofiwch anfon eich cofnodion blodau

Catalena Angele, 17 Ebrill 2013

Y dyddiad cau estynedig i chi anfon eich cofnodion blodau ata i yw dydd Gwener 19 Ebrilldydd Gwener yma blantos y bylbiau! Cofiwch anfon eich cofnodion ata i ar y wefan.

Cofiwch hefyd edrych ar y blog bylbiau wythnos nesaf pan fydda i’n cyhoeddi enillwyr y Cystadlaethau! Bydd enillwyr y Gystadleuaeth Tynnu Llun Blodau ac enillwyr y Daith Gweithgaredd Natur yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Llun 22 Ebrill.

Blodau pwy sydd wedi agor yr wythnos hon?

Yng Nghymru, mae Ysgol Gynradd Lakeside, Ysgol Bryn Garth, Ysgol Christchurch ac Rhydypenau Primary School, yn Lloegr Manor Primary School and Coppull Parish Primary School ac yn yr Alban Wormit Primary School i gyd wedi anfon eu cofnodion blodau. Da iawn a diolch yn fawr i’r ysgolion yma!

Mae tipyn o sôn ar y newyddion yn ddiweddar am yr oerfel a’r eira, a pa mor hwyr mae’r planhigion yn blodeuo eleni.  Oeddech chi’n gwybod taw dyma’r mis Mawrth oeraf ym Mhrydain ers dros 50 mlynedd? Roedd hi’n oerach ym mis Mawrth na misoedd y gaeaf hyd yn oed – Rhagfyr, Ionawr a Chwefror! Does dim rhyfedd bod rhai o’n blodau ni’n hwyr yn agor eleni.

Edrychwch ar wefannau Newyddion y BBC* neu Met Office News* am ragor o wybodaeth am y straeon oerllyd yma.

Ym mis Mawrth, adroddodd papur newydd y Guardian bod planhigion yn blaguro ac yn blodeuo’n hwyr eleni, yn enwedig yn yr Alban, a bod anifeiliaid sy’n gaeafgysgu fel ystlumod, brogaod a madfallod wedi dihuno a mynd yn ôl i gysgu am ei bod hi’n rhy oer!

Yn anffodus, gall tywydd oer arwain at fwy o lygredd yn yr aer*. Byddwn ni’n cynhyrchu mwy o lygredd drwy gynhesu ein tai, ond mae’r awyr oer, llonydd hefyd yn golygu bod gronynnau yn casglu yn yr atmosffer yn lle anweddu neu gael eu chwythu i ffwrdd.

Diolch yn fawr

Athro’r Ardd

*Erthyglau allanol yn Saesneg yn unig

Pasg yn y Tŷ Gwyrdd - Hysbysfyrddau a phlannu tomatos.

Hywel Couch, 15 Ebrill 2013

Bu pythefnos Pasg, unwaith eto, yn adeg prysur iawn yma yn Sain Ffagan. Daeth dros 4000 o ymwelwyr trwy ddrysau’r Tŷ Gwyrdd. Roedd amryw o weithdai gennym dros y gwyliau, o weithdy uwchgylchu i blannu hadau tomato ag hyd yn oed cwis arbennig Ffŵl Ebrill. 

Yn un o’n gweithdai - Plannu, Tyfu, Bwyta – roedd cyfle i deuluoedd meddwl am dyfu bwyd eu hun. Roedd cyfle i blannu hadau tomato a mynd a’r hadau yma gatref. Y gobaith yw, ar ôl misoedd o feithrin yr hadau bydd gan bawb planhigion tomato iach a hyd yn oed tomatos blasus erbyn yr haf. Nai gadael i chi wybod sut mae fy nhomatos yn tyfu dros y misoedd nesa! 

Fe ddaeth Wood for the Trees Wales i ymuno a ni am gwpwl o ddyddiau i gynnig un o’i gweithdai uwchgylchu. Yn y gweithdy yma roedd cyfle i droi hen fframiau lluniau a theils corc mewn i fyrddau neges newydd sbon. Roedd hyn yn boblogaidd dros ben, erbyn diwedd y sesiwn roedd pob un hen ffrâm wedi cael ei ddefnyddio! Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithdai tebyg, cadwch lygaid ar dudalen Facebook Wood for the Trees!

Eleni, wnaeth Dydd Llun y Pasg digwydd cwympo ar y 1af o Ebrill, sef dydd Ffŵl Ebrill. Roedd hyn yn gyfle gwych i ni gael cwis i ffeindio allan os yw ymwelwyr i’r Tŷ Gwyrdd yn Eco Cŵl neu yn ffyliau Ebrill ffôl. Neis oedd ffeindio mas bod y mwyafrif o’n hymwelwyr yn Eco Cŵl… gyda dim ond cwpwl o eithriadau. Ar ôl cwblhau’r cwis roedd cyfle i wneud bathodyn i dangos i ffrindiau faint more eco cŵl ydych. 

Fel rhan o’r prosiect Creu Hanes, mi fydd defnydd y Tŷ Gwyrdd yn newid. Tra bod y brif fynedfa yn cael ei uwchraddio, bydd y Tŷ Gwyrdd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o fynedfa dros dro i’r amgueddfa. 

Dros y blynyddoedd, da ni di cael llawer o hwyl yn rhedeg gweithdai niferus yn y Tŷ Gwyrdd ac yn cwrdd â miloedd o bobl ddiddorol. Diolch mawr i’r sawl sydd wedi helpu ni i gyflawni hyn. Peidiwch â phoeni, mi fydd dal nifer o weithdai a digwyddiadau natur ac amgylcheddol yn digwydd, ond mewn mannau gwahanol yn yr amgueddfa.