Creu Hanes Gyda'n Gilydd

Beth Thomas

Beth Thomas, Ceidwad Hanes ac Archaeoleg

Mae dechrau ar y blog yma’n foment hanesyddol i fi. Dyma’r tro cyntaf i fi fentro i fyd blogio - fy rhan fach i yn newid diwylliant cyfathrebu Amgueddfa Cymru a bod yn rhan o’r chwyldro cyfryngau newydd sy’n ysgubo’r byd. Un bod bach yn rhan o rywbeth sylweddol fwy.

A dyna yw hanes, mewn gwirionedd – neu o leia’r math o hanes rydym ni am gyflwyno yn Sain Ffagan ar ei newydd wedd.

Mae’n siwr eich bod yn gwybod erbyn hyn ein bod wedi cael nawdd sylweddol gan y Loteri Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i ailddatblygu Sain Ffagan. Ac mi wn i fod hynny wedi peri braw i bobl. Beth? Newid Sain Ffagan? Pam?

Dyluniad 3D ar gyfer yr ailddatblygiad o amgueddfa Sain Ffagan.

Mae ‘na nifer fawr o resymau ymarferol. Mae angen gwella’r orielau ar gyfer arddangos ein casgliadau; gwella’r fynedfa er mwyn paratoi ymwelwyr yn well ar gyfer y profiad sydd yn eu disgwyl; a gwella’r cyfleusterau ar gyfer y plant ysgol sy’n cyrraedd bob dydd yn eu miloedd ar rai adegau o’r flwyddyn. Ond mae rhesymau mwy sylfaenol na hynny.

Digon hawdd yw anghofio pa mor radical oedd yr Amgueddfa Werin adeg ei sefydlu. Hi oedd un o’r amgueddfeydd cyntaf ym Mhrydain i roi pwyslais ar fywyd beunyddiol pobl gyffredin yn hytrach na gorchestion y gwŷr mawr. Yng ngeiriau Iorwerth Peate ei hun, y bwriad oedd ‘nid creu amgueddfa a drysorai’r gorffennol marw dan wydr ond amgueddfa a ddefnyddiai’r gorffennol i’w asio â’i oes ei hun i roddi sylfaen cadarn ac amgylchedd iach i ddyfodol ei bobl.” I gadw perthnasedd, a dal i fod yn radical, mae newid yn anorfod.

Bydd yr adeiladau a’r cyfleusterau newydd yn ein galluogi i asio ein gwaith fel amgueddfa ag anghenion pobl ein hoes ein hun. Amgueddfa gyfranogol sydd gennym mewn golwg – ‘participatory museum’ yn yr iaith fain, sef amgueddfa sy’n newid a datblygu trwy gydweithio â chynulleidfaoedd.

Ym mhob agwedd o’r project, byddwn yn achub y cyfle i wneud yn siwr nad llais yr Amgueddfa yn unig fydd yn cael ei chlywed, a’n bod yn rhannu profiad a sgiliau gyda’r bobl sydd eu hangen. Ein bwriad yw creu amgueddfa sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Bydd yn lle i bawb rannu gwybodaeth, casgliadau a sgiliau a chreu hanes gyda’i gilydd.

Rhan o’r agwedd gyfranogol hon yw’r blog hwn. O hyn allan, bydd fy nghydweithwyr a minnau’n rhannu ein profiadau wrth baratoi cynnwys orielau, wrth godi fferm Oes yr Haearn gyda phobl ifainc o Drelài, ac ailgodi un o neuaddau tywysogion Gwynedd yma yn Sain Ffagan.

Ymunwch â ni ar y daith. Mi fydd yn dda clywed eich barn!

Arbrawf oddfog!

Helo! Fy yw'r Athro'r Ardd a hoffwn groesawu'r chwe mil a hanner o wyddonwyr ifanc ar draws y DU sy'n cymryd rhan yn y Bylbiau'r Gwanwyn i Ymchwiliad Ysgolion eleni!

Bydd deuddeg mil o fylbiau yn cael eu plannu a'u monitro fel rhan o'r ymchwiliad hinsawdd hwn sydd yn cael ei gyd-drefnu gan yr Amgueddfa Cymru. Os oedd record byd am nifer o bobl yn plannu bylbiau ar yr un pryd, (mewn sawl lleoliad) gallem ei hyrddio!

Mae pob un o'r bylbiau wedi cael eu cyfrif ac yn gyson yn cael eu dosbarthu i'r 150 o ysgolion ar draws y wlad. Hoffwn groesawu pob disgybl ac athro fydd yn gweithio ar y prosiect hwn!

  • Cymerwch olwg ar y map i weld ble mae'r bylbiau yn cael eu hanfon ar draws y DU
  • Os nad ydych wedi derbyn fy llythyr eto - dilynwch y ddolen hon.
  • Cyn i bob bwlb cael ei phlannu, rhaid i bob disgybl mabwysiadu eu bylbiau ac addewid i ofalu amdano. Os ydych chi eisiau gwybod mwy - dilynwch y ddolen hon.

Cyn i chi fabwysiadu eich bwlb efallai y byddwch hefyd yn dymuno gwybod mwy o ble mae'n dod. Mae fy ffrind Bwlb bychan yn mynd i esbonio:

“Fi a fy holl ffrindiau bwlb dod o blanhigfa feithrin ym Maenorbŷr, ger Dinbych y Pysgod yng Nghymru, fe'i gelwir ' Springfields '. Roeddem wedi cael eu dewis ac yn llwytho ar fan yn barod i fynd i'n cartrefi newydd. Ar y dechrau roeddwn ychydig yn ofnus, ond pan wnes i gyfarfod Athro'r Ardd yn yr Amgueddfa roeddwn yn deall fy mod i yn ddiogel a bod gennyf waith pwysig i'w wneud. Rydym i gyd wedi cael eu dewis i helpu i ddeall sut gall y tywydd effeithio ar bryd fydd fi a fy ffrindiau yn gwneud blodau. Mae fy rhieni cyn i mi dyfodd yma hefyd, Springfields wedi bod yn tyfu'n ni 'Daffodils Tenby' am tua 25 mlynedd, rydym yn un o'r ddwy genhinen Pedr sydd yn frodorol i Ynysoedd Prydain.”

Dim ond ychydig o wythnosau tan blannu! Ni allaf aros!

Athro'r Ardd

Yn ôl traed Wallace

Yr wythnos diwethaf, teithiodd staff Amgueddfa Cymru a myfyrwyr lleol i Gwm Nedd  i astudio bywyd Alfred Russel Wallace, ac i ganfod ysbrydoliaeth o’i anturio yn ne Cymru.

Dyma ni’n treulio diwrnod yn dilyn yn ôl ei draed o Bontneddfechan i raeadr Sgwd Gwladys, yn astudio daeareg a bioleg y daith, gyda chymorth arbenigwyr Amgueddfa Cymru.

Adeg ei farwolaeth ganrif yn ôl, cai Alfred Russel Wallace ei gyfri’n un o fawrion olaf Oes Fictoria. Mae Wallace yn fwyaf enwog am ddarganfod proses esblygiad drwy ddethol naturiol, ar y cyd â Charles Darwin, ond prin yw’r bobol heddiw sy’n cofio am Wallace.

Cafod Wallace ei ysbrydoli gan dirlun de Cymru, a treuliodd flynyddoedd lawer yn crwydro’r cymoedd yn mapio hanes natur. Bydd ffotograffau, fideos, brasluniau a chyfweliadau’r myfyrwyr yn dod yn rhan o arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Ionawr 2014. Bwriad yr arddangosfa hon fydd adrodd hanes Wallace yng Nghymru, a gobeithio bydd yn sbardun i rywun arall fynd ati i anturio.

Cynhaliwyd y project hwn diolch i gefnogaeth hael un o Noddwyr Oes Amgueddfa Cymru

Bydd arddangosfa ar fywyd Wallace yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 19 Hydref.

The Fern Paradise

A lovely pressed fern found between the pages of The Fern Paradise [1876] by Francis George Heath. I'm always a little disappointed that we don't find more pressed flowers in our old botany books so this really made my day.

How long has it been lying quietly cocooned between these dry secure pages? Who picked a live and vibrant frond one summers day and slipped it away never thinking it would stay hidden for decades? Did the sun shine that afternooon? What news was ringing around the world? So many questions...

All photographs in this post taken by the author

 

John Stuart, 3ydd Iarll Bute (1713-1792): Bute's Botanical Tables

Llun o'r Trydydd Iarll Bute

Llun o'r Trydydd Iarll Bute (atgynhyrchwyd o Temple of Flora (1807) gan Robert Thornton).

Copi <em>Botanical Tables</em> yr Amgueddfa.

Copi Botanical Tables yr Amgueddfa.

Yn 2013 rydym yn dathlu trichanmlwyddiant geni'r Trydydd Iarll Bute, ffigwr pwerus ym Mhrydain y ddeunawfed ganrif a oedd yn enwog fel gwleidydd ac fel botanegydd. Un o'i gyfraniadau mwyaf i fotaneg oedd llyfr o'r enw Botanical Tables. Mae Amgueddfa Cymru yn ffodus i berchen ar set gyflawn o'r gwaith prin a chywrain hwn.

Roedd John Stuart, 3ydd Iarll Bute (1713-1792), yn gyfaill mynwesol i Siôr III. Er yn gyndyn i wneud, aeth Bute yn wleidydd yn gynnar yn ei yrfa, a hynny yn dilyn anogaeth gan ei ffrind brenhinol. Ym mis Mai 1762, fe'i hetholwyd yn Brif Weinidog. Er hyn, profodd Bute yn arweinydd amhoblogaidd ac ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Mae'n rhaid ei fod wedi teimlo rhyddhad i encilio o fywyd cyhoeddus i'w dŷ yn Highcliffe, Hampshire, gan ymroi i'w ddiddordeb mewn botaneg yn ei lyfrgell fotanegol anferth.

System dacsonomaidd newydd Carl Linnaeus

Bu Bute yn gweithio ar lawer o gyhoeddiadau botanegol a bu'r tacsonomydd enwog o Sweden, Carl Linnaeus, yn ddylanwad mawr arno. Cyhoeddiad enwocaf Bute oedd Botanical Tables. Ei deitl llawn oedd; Botanical Tables containing the different familys of British Plants distinguished by a few obvious parts of Fructification rang'd in a Synoptical method. Cyhoeddwyd y tablau ym 1785 a'r bwriad oedd esbonio egwyddorion system dacsonomaidd newydd a dadleuol Linnaeus.

Roedd mwyafrif y darluniau yn y Botanical Tables gan yr arlunydd John Miller (1715-1790). Roedd yn dasg anferth, yn cynnwys dros 600 o ddarluniau o'r organau rhywiol wedi'u rhifo yn unol â system Linnaeus. Mae 9 cyfrol ym mhob set o dablau ac maent yn sôn am yr holl blanhigion sydd ym Mhrydain – gan gynnwys mwsoglau, glaswelltau, blodau a choed, ynghyd â chen, ffwng a gwymon – ac mae'n cynnwys darluniau manwl o bob planhigyn a restrwyd.

Argraffwyd deuddeg set o'r Botanical Tables gan yr Arglwydd Bute a thalodd £1,000 amdanynt o'i boced ei hun. Rhwymwyd y mwyafrif ohonynt mewn lledr croen llo gydag arfbais y teulu Bute yn y canol. Cafodd dwy set eu paratoi yn arbennig ar gyfer y teulu brenhinol a'u rhwymo mewn croen gafr coch gydag aur ar ymyl y tudalennau ond heb arfbais Bute.

Botaneg fel difyrrwch ffasiynol

Roedd Bute yn awyddus iawn i esbonio'r system dacsonomeg i fenywod, oherwydd teimlai fod y "rhan hyfryd hon o natur" yn addas ar gyfer y "rhyw deg"; gyda'u nawdd hwy, byddai botaneg yn dod yn ddifyrrwch ffasiynol ymhen dim o dro. Anrhydeddodd y dymuniad hwn gan gyflwyno saith cyfrol o'r Botanical Tables i fenywod:

  • Y Frenhines Charlotte (gwraig Brenin Siôr III)
  • Catherine II (Ymerodres Rwsia)
  • Duges Portland
  • Mrs Jane Barrington
  • Y Foneddiges Elizabeth (Betty) Mackenzie
  • Y Foneddiges Anne Ruthven
  • Y Foneddiges Jane Macartney.

Roedd y tair olaf yn perthyn iddo. Cadwodd Bute ddwy gyfrol ac anfonodd un gyfrol yr un at y botanegydd blaenllaw o Brydain a ddaeth yn Gadeirydd y Gymdeithas Frenhinol, Joseph Banks (1743-1829), y botanegydd blaenllaw o Ffrainc, George Louis Leclerc, Comte de Buffon (1707-1788) a chyfaill i Bute, Louis Dutens (1730-1812).

Mae casgliad Amgueddfa Cymru yn cynnwys darluniau a thablau rhydd a ystyrir yn frasluniau neu'n ddeunydd a oedd yn cael ei baratoi i'w gyhoeddi maes o law. Er hyn, ym 1994, prynodd yr Amgueddfa gopi cyflawn o'r Botanical Tables mewn arwerthiant llyfrau pwysig iawn o lyfrgell Beriah Botfield yn Christie's.

Wrth geisio darganfod pa rai o'r 12 set wreiddiol sydd ym meddiant yr Amgueddfa, mae ein hymchwilwyr wedi llwyddo i olrhain 10 ohonynt, ac mae modd cysylltu 7 o'r rheiny â'r sawl a'u derbyniodd yn wreiddiol.

Efallai, rhyw ddydd, y bydd rhywun yn dod o hyd i'r ddau sy'n weddill ar silff lychlyd mewn hen lyfrgell. Byddwn wedyn yn gwybod i sicrwydd lle mae pob copi.

Derbyniodd

Y sawl a dderbyniodd gopi o'r Botanical Tables:

  1. Y Frenhines Charlotte (gwraig Brenin Siôr III) [copi croen gafr coch wedi'i rwymo]
  2. Catherine II (Ymerodres Rwsia) [copi croen gafr coch wedi'i rwymo]
  3. Duges Portland
  4. Mrs Jane Barrington
  5. Y Foneddiges Elizabeth (Betty) Mackenzie, aelod o'r teulu
  6. Y Foneddiges Anne Ruthven, aelod o'r teulu
  7. Y Foneddiges Jane Macartney, aelod o'r teulu
  8. Syr Joseph Banks (1743-1829)
  9. George Louis Leclerc, Comte de Buffon (1707-1788)
  10. Louis Dutens (1730-1812)
  11. Cadwyd gan Drydydd Iarll Bute
  12. Cadwyd gan Drydydd Iarll Bute

Cyfeiriadau

Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. (gol) 2003. Catalogue of Botanical Prints and Drawings held by the National Museums & Galleries of Wales. Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, tud. 319.

Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. 2009. Bute's Botanical tables: dictated by Nature. Archives of natural history 36 (2): 277–298.

Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. (paratoi ar gyfer) Bute's Botanical Tables (1785). Luton Hoo. Cyhoeddiad Arbennig i ddathlu'r Trichanmlwyddiant.