Ffasau glo a chopr W.E. Logan a'r map daearegol

William Logan, 1856

William Logan, 1856

Gwaith y Forest ger Abertawe 1792 gan John 'Warwick' Smith (1749-1831).

Gwaith y Forest ger Abertawe 1792 gan John 'Warwick' Smith (1749-1831).

Lewis Weston Dillwyn (1778-1855) gan Syr George Hayter (1792-1871).

Lewis Weston Dillwyn (1778-1855) gan Syr George Hayter (1792-1871).

Henry Thomas De la Beche (1796-1855), tua 1841, sefydlydd yr Arolwg Daearegol Prydeinig.

Henry Thomas De la Beche (1796-1855), tua 1841, sefydlydd yr Arolwg Daearegol Prydeinig.

Roedd William Edmond Logan un o ddaearegwyr mawr y 19eg ganrif, ac yn cael ei gofio fel gwyddonydd pwysicaf Canada erioed. Yng Nghymru y dechreuodd ar ei yrfa ddaearegol.

Abertawe: Tref Gopr

Roedd tua hanner copr y byd yn cael ei gynhyrchu yn Abertawe erbyn canol y 19eg ganrif. Byddai mwynau yn dod o Gernyw, Iwerddon, Cuba a Chile i gael eu mwyndoddi gyda glo de Cymru.Yn Abertawe cai prisiau copr ar draws y byd eu pennu a chai'r dref ei hadnabod fel 'Copperopolis'.

Roedd pedwar ar ddeg o weithfeydd copr yn ardal Abertawe yn y 1830au, ac un o'r rhain oedd Gwaith Copr Upper Forest yn Nhreforys, agorodd ym 1752. Yma y dechreuodd William Edmond Logan (1798-1875) ar ei yrfa fel un o ddaearegwyr mawr y 19eg ganrif.

W.E. Logan (1798-1875)

Ganwyd William Edmond Logan ym Montreal ym 1798 i rieni a ymfudodd o'r Alban. Pan oedd yn 16, anfonwyd Logan i ysgol yng Nghaeredin a bu'n mynychu dosbarthiadau yn y brifysgol yna am gyfnod wedi hynny. Symudodd i Lundain ymhen blwyddyn ym 1817 i weithio ym musnes cyfrifo ei ewythr.

Rywbryd yn y 1820au, magodd Logan ddiddordeb mewn daeareg ganl gasglu cregyn ffosil ar ystad ei ewythr yn Suffolk, ac yn ddiweddarach, ar Ynys Sheppey yng Nghaint. Ym 1831, prynodd ewythr Logan gyfranddaliadau yng Ngwaith Copr Upper Forest yn Nhreforys, ac anfonodd ei nai I Abertawe i reoli cyfrifon y cwmni.

Abertawe: canolfan wyddoniaeth

Ffynnodd gwyddoniaeth yn Abertawe yn y 1830au a'r 1840au, yn bennaf o ganlyniad i arweiniad y naturiaethwr ac AS lleol, Lewis Weston Dillwyn (1778–1855). Ef oedd Llywydd cyntaf Sefydliad Athronyddol Abertawe a dyfodd ymhen ychydig flynyddoedd yn Sefydliad Brenhinol De Cymru. Roedd Logan hefyd yn un o'r sylfaenwyr a bu'n Ysgrifennydd Anrhydeddus a Churadur Daeareg Anrhydeddus y Sefydliad o 1836.

Glo a Chopr

Ym 1833, daeth Logan yn gyd reolwr Gwaith Copr Upper Forest. Oherwydd ei ddiddordeb mewn daeareg, ei waith pennaf oedd gofalu am y cyflenwad o fwyn copr a glo i'r gwaith. Y flwyddyn ganlynol, treuliodd sawl mis yn Ffrainc a Sbaen yn chwilio am ffynonellau mwyn copr newydd. Roedd yn frwd hefyd dros sefydlu cyflenwad dibynadwy o lo lleol, ac ym 1835 dechreuodd astudio'r ffasau glo lleol o amgylch Abertawe drwy gofnodi mannau brigo ar fapiau a thrawsluniau.

Yr arolwg daearegol yn dod i Abertawe

Ym 1835, derbyniodd Henry De la Beche (1796-1855), daearegwr o Lyme Regis yn Dorset, nawdd gan y llywodraeth i wneud arolwg daearegol o Gernyw. Dyma oedd man cychwyn yr Arolwg Daearegol Prydeinig. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn Rhagfyr 1837, symudodd De la Beche i Abertawe I ddechrau mapio creigiau Maes Glo De Cymru.

Daeth De la Beche i ymwneud â Sefydliad Athronyddol Abertawe drwy ei gyfaill Lewis Weston Dillwyn. Cyfarfu â Logan, a gwnaeth y mapiau o ffasau glo Abertawe gyrn argraff arno a nododd fod map Logan yn "gyflawniad pryd ferth [ac] o safon sydd ymhell uwchlaw'r hyn a welir gan ddaearegwyr fel arfer". Defnyddiodd De la Beche waith Logan ar fap swyddogol yr Arolwg Daearegol. Parhaodd Logan i fapio gyda'r Arolwg Daearegol yn ne Cymru hyd 1841.

Map daearegol o Abertawe

Cyhoeddwyd map cyntaf yr Arolwg Daearegol o ardal Abertawe ym 1844, wedi'i seilio ar fap topograffig yr Arolwg Ordnans o 1830 ar raddfa o un fodfedd i un filltir. Mae'n dangos yr ardal o Cynffig yn y dwyrain i Gydweli yn y gorllewin. Cydnabyddir taw W.E.Logan a Sir Henry De la Beche gyflawnodd y mapio daearegol.

Argraffiad cyntaf a fap cyntaf y Geological Survey o ardal Abertawe, a fapiwyd gan W.E. Logan a Henry De la Beche, wedi'i liwio â llaw, cyhoeddwyd ym 1844

"Gweithiais fel caethwas drwy'r haf ar wlff Sant Lawrence, gan fyw bywyd dyn anwar mewn pabell agored, gan gysgu ar y traeth mewn blanced a sach gyda'm traed ger y tân, prin y byddwn yn tynnu fy nillad, byddwn yn bwyta porc hallt a bisgeti llong gan gael fy mhoenydio weithiau gan fosgitos".

Llythyr gan Logan at De la Beche, 20 Ebrill 1844.

 

Logan yng Nghanada

Wedi meithrin ei sgiliau daearegol ar greigiau glo Abertawe, ymgeisiodd Logan ym 1841 am swydd Cyfarwyddwr Arolwg Daearegol cyntaf Canada. Cefnogodd nifer o ddaearegwyr blaenllaw Prydain ei gais, yn cynnwys Henry De la Beche, a cafodd ei benodi yn Ebrill 1842.

Erbyn 1849 roedd Logan, a phedwar gweithiwr wedi mapio'r ardal rhwng Afon Sant Lawrence a'r Llynnoedd Mawr, wedi gweithio ar ddyddodion glo Nova Scotia ac wedi can rod mwyn copr i'r dwyrain a Montreal.

Ym 1863, cyhoeddodd Logan a'i staff yr astudiaeth fawr gyntaf o ddaeareg Canada. Mae'n cael ei hystyried yn binacl cyhoeddi gwyddonol Canada'r 19eg ganrif. Cyhoeddwyd mapiau ym 1865 a 1869 yn dilyn y gwaith hwn.

Logan yn dychwelyd i Gymru

Byddai Logan yn teithio ar draws yr Iwerydd yn ami; fe wnaeth y daith dros 30 o weithiau i gyd.

Cafodd ei urddo'n farchog ym 1856, y person cyntaf i gael ei eni yng Nghanada i dderbyn yr anrhydedd. Cafodd ei anrhydeddu hefyd gall Ffrainc, y Gymdeithas Frenhinol, y Gymdeithas Ddaearegol, Prifysgol Bishop yn Quebec a Prifysgol McGill ym Montreal, yn ogystal â dinasyddion Toronto a Montreal.

Er i Logan ymddeol yn swyddogol ym 1869, fe barhaodd i wneud gwaith maes yn yr haf o amgylch Montreal a byddai'n treulio ei aeafau yn nhŷ ei chwaer yng ngorllewin Cymru.

Bu farw yno ym Mehefin 1875 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent eglwys Cilgerran yn Sir Benfro.

Heddiw, mae William Edmond Logan yn cael ei gofio fel gwyddonydd pwysicaf Canada erioed, ac yng Nghymru y dechreuodd ar ei yrfa ddaearegol.

Cysylltiadau

Amgueddfa Abertawe

Oerrrrrr

Mae'r tywydd wedi bod yn oer am y pythefnos diwethaf gyda rhannau o'r DU fod mor oer â finws 11 gradd Celsius! O ganlyniad, nid yw fy bylbiau wedi tyfu unrhyw dalach ers fy lluniau diwethaf. Efallai na fydd fy blodau Crocws yn agor tan canol Chwefror nawr.

Er gwaethaf y tywydd oer, nid ydym wedi cael gormod o rew neu eira yn y DU. Mae hyn oherwydd bod yr aer yn sych iawn ar hyn o bryd - gan fod y gwynt yn chwythu ar draws o Siberia. Llai iâ yn golygu llai o niwed i'n bylbiau - felly peidiwch â phoeni gormod os oes un chi wedi rhoi'r gorau i dyfu. Maent yn pethau bach caled ac maent yr un aros am cyfnod cynnes er mwyn blodeuo.

Gall pethau newid y penwythnos hwn yn ôl yr adroddiad diweddaraf y tywydd yn disgwyl eira! Gweler: http://www.bbc.co.uk/news/uk-16866903

Mae ein hadroddiad tywydd oeraf yn dod o Ysgol Deganwy lle mae'r tymheredd bob amser yn is na sero. Gall fod yn oer yma ond i gymharu ag ardaloedd eraill o Ewrop, rydym yn ffodus iawn. Yn yr Wcráin mae pobol wedi bod yn dioddef yn wael iawn wrth i'r tymheredd gostwng i mor isel â-32C yn y gogledd a'r gorllewin.

Ysgol Porth y Felin yn adrodd bod eu bylbiau yn tyfu'n dda a hyd yn oed eu
bylbiau dirgel wedi dechrau i dyfu. Gadewch i mi wybod os yw eich bylbiau dirgel wedi dechrau i dyfu?

Peidiwch ag anghofio anfon eich cofnodion tywydd wythnosol er mwyn sefyll gyfle i
enillwch daith gweithgaredd natur!

Cadwch yn gynnes. Yr Athro Ardd.

www.museumwales.ac.uk/scan/bylbiau

Twitter http://twitter.com/Professor_Plant

Facebook Professor Plant

Babis Gwyrdd yn Sain Fagan

Sul 4 Mawrth, Sul 1 Ebrill & 17-19 Ebrill

Er eu bod yn fach, mae babis yn gallu defnyddio llawer o adnoddau.Dewch draw i’r T? Gwyrdd i rannu syniadau dros baned neu dysgu sut i roi dechreuad da a gwyrdd i’ch babi.

Baned am ddim am 11 o gloch neu galwch mewn unrhyw adeg rhwng 11-1 a 2-4 yn y Ty Gwyrdd yn sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

https://amgueddfa.cymru/cy/digwyddiadau/?site=stfagans

Twitter.com/TyGwyrdd

Casgliad mwynau chwedlonol y Fonesig Henrietta Antonia, Iarlles Powis

<em>Catalogue of Metallic Minerals in the Possession of the Countess of Powis</em> Cyfrol II, 1817: Catalogau gwreiddiol y casgliad.
Catalogue of Metallic Minerals in the Possession of the Countess of Powis

Cyfrol II, 1817: Catalogau gwreiddiol y casgliad.

Tudalen gatalog o Gyfrol 1. <em>Earthy Minerals</em>.

Tudalen gatalog o Gyfrol 1. Earthy Minerals.

Olifin ar gwarts o Gernyw, rhodd i Henrietta gan Iarlles Aylesford. Sbesimen 9 cm o hyd. NMW 29.311.GR.80.

Olifin ar gwarts o Gernyw, rhodd i Henrietta gan Iarlles Aylesford. Sbesimen 9 cm o hyd. NMW 29.311.GR.80.

Yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y cafodd un o gasgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf yn Amgueddfa Cymru ei adeiladu. Y Fonesig Henrietta Antonia Clive (1758-1830), Iarlles Powis oedd y gasglwraig, a cafodd ei roi i'r Amgueddfa gan 4ydd Iarll Powis ym 1929. Mae'n un o'r casgliadau mwynau cyntaf sy'n gysylltiedig â Chymru.

Y Fonesig Henrietta, Iarlles Powis

Ganwyd y Fonesig Henrietta i deulu Herbert, teulu uchel ei barch â thiroedd helaeth oedd yn disgyn o Iarll Penfro yn y bymthegfed ganrif. Henry Arthur Herbert (c.1703-1772), Iarll 1af Powis oedd ei thad, oedd yn berchen ar ystadau mawr yn Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag eiddo yn Llundain. Ganwyd Henrietta yn eu prif gartref, Parc Oakley, yn Bromfield ger Llwydlo, ond wedi i hwnnw gael ei werthu i Robert, Arglwydd Clive (Clive o India) ym 1771, treuliodd ei harddegau yn y cartref teuluol, Castell Powis.

Clive o India

Ym 1784, priododd Henrietta Edward, mab hynaf y diweddar Arglwydd Clive, priodas oedd o fudd i'r ddau deulu — roedd y teulu Herbert wedi mynd i ddyled drom, ond roedd eu henw yn dal yn uchel ei barch, tra bod teulu Clive wedi casglu cyfoeth aruthrol drwy ymgyrchoedd milwrol Robert, Arglwydd Clive yn India. Aeth Henrietta ac Edward i fyw yn Neuadd Walcot ger Trefesgob lle ganwyd pedwar o blant iddynt, Edward, Henrietta Antonia, Charlotte Florentia a Robert Henry.

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, gwnaed Edward Clive yn Lywodraethwr Madras ac yn ystod ei hamser yn yr India, dechreuodd Henrietta gasgliad o gerrig a mwynau. Yn ddiweddarach bu'n prynu ac yn cyfnewid mwynau â chasglwyr blaenllaw'r cyfnod gan gynnwys James Sowerby, Dr John MacCulloch ac Iarlles Aylesford. Cofnododd sawl sbesimen a roddwyd iddi gan ei phlant hefyd.

Mwynau'r Ddaear a Mwynau Metelig

Mae casgliad Henrietta yn nodweddiadol o steil casgliadau o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda'r mwynau wedi'u trefnu'n systematig yn ôl eu nodweddion cemegol. Rhannodd Henrietta ei chasgliad yn ddwy gyfrol wedi'u hysgrifennu â llaw: Cyfrol 1 — Earthy Minerals a Chyfrol 2 — Metallic Minerals. Defnyddiodd system rifo i gofnodi pob sbesimen gan lynu label bychain i bob un. Er bod nifer o'r labeli yma wedi hen ddiflannu, mae manylder ei chatalog wedi ein galluogi ailadnabod sbesimenau sydd wedi colli eu rhifau gwreiddiol.

Roedd dros fil o sbesimenau yng nghasgliad Henrietta, ac mae cannoedd o samplau wedi cael eu hadnabod yng nghasgliad yr Amgueddfa. Er bod nifer o sbesimenau ar goll, mae'n hynod pa mor gyflawn yw'r casgliad, ag ystyried ei oedran. Heddiw, caiff ei ystyried yn un o'r casgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf yn Amgueddfa Cymru.

Sesiynau Crefft

Rydyn ni wedi bod yn cynnal clwb cwiltio am ychydig dros flwyddyn ac erbyn hyn mae criw da yn dod yn rheolaidd ar y Sadwrn cyntaf bob yn ail fis am sesiwn glytwaith a sgwrs. Mae’n rhaid bod tipyn wedi gwneud adduned blwyddyn newydd gan fod dwbl yr aelodau yn y clwb y tro diwethaf gyda nifer o wynebau newydd yn ymuno â ni.

Samantha Jenkins sy’n arwain y clytwaith a’r cwiltio a gallwch chi weld peth o’i gwaith yma. Mae ganddi syniadau di-ri a gall ddatrys unrhyw broblemau clytwaith!

Roedden ni’n meddwl ei bod hi’n hen bryd rhoi cynnig ar sesiynau crefft gwahanol i oedolion, gan ddilyn patrwm y clwb cwiltio (awyrgylch hamddenol, anffurfiol ond gyda arbenigwr yno i’ch helpu) a rhoi cyfle i chi droi eich llaw at weu, gwneud rygiau rhacs, printio llaw neu frodio. Ewch i dudalennau ‘digwyddiadau’ y wefan am ragor o wybodaeth, a cofiwch bod nifer cyfyngedig o lefydd.

I roi syniad i chi o’r trefniadau, bydda i yng ngofal y sesiwn brintio, a byddwn ni’n edrych ar ddyluniadau hyfryd o’r 1950au er mwyn sbarduno syniadau printio, creu blodiau printio syml o bren meddal (tebyg i leino, ond yn well) a phrintio ar bapur a ffabrig. Rydw i wedi troi un o fy mhrintiau yn dlws ffabrig, a byddai’n gweithio hefyd fel rhan o gwilt clytwaith.

Bydd Amy Wheel yng gofal y sesiwn weu ac yn defnyddio rhai o’r hosanau yn y casgliad fel ysbrydoliaeth. Mae Amy yn wyneb cyfarwydd yn y clwb cwiltio ac mae hefyd yn gweu yn gampus ac yn fenyw hyfryd, felly dylai fod yn sesiwn hwyliog! Os ydych chi’n gweu yn barod, gallwch chi roi cynnig ar wneud hosan, neu os ydych chi’n ddechreuwr, gallwch chi ddysgu a chreu rhywbeth wedi’i seilio ar yr esiamplau.

Bydd Jane Dorsett yn arwain y sesiynau rygiau rhacs ac mae’n gofyn i chi dod â bag o ddillad gwastraff glan – mae hen grysau t yn berffaith meddai hi. Mae Jane wedi cynnal nifer o sesiynau rygiau rhacs gydag ysgolion, grwpiau cymunedol ac orielau, a cofiwch archebu mewn da bryd gan fod diddordeb mawr yn y sesiwn yn barod!

Becky Adams fydd yng ngofal y sesiynau brodio, a bydd yn seilio peth o’i chynlluniau ar y casys nodwyddau sydd yng nghasgliadau Sain Ffagan: Amgueddfa Cymru. Roedd Becky yn arfer gweithio yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar ein project Cofroddion, ac mae’n cynnal sesiynau celf a chrefft amrywiol i bobl o bob oed ac yn artist talentog ei hun.

Rwyf wedi ychwanegu rhai lluniau i ddangos gwaith y clwb cwiltio. Os oes gennych chi ffotograff sy’n dangos datblygiad eich gwaith, anfonwch e-bost ata i gan ei bod hi’n wych gweld sut hwyl mae pawb yn ei gael arni! Fy nghyfeiriad e-bost yw sian.lile@amgueddfacymru.ac.uk

Dyma dyddiadau’r sesiynau i chi lenwi’ch dyddiadur. Mae’n rhaid archebu gan fod nifer cyfyngedig o lefydd, felly ffoniwch (029) 2057 3414 i gadw lle.

3 Mawrth 11am-12.30pm – Clwb Cwiltio

17 Mawrth 11am-12.30pm – Gweu

31 Mawrth 11am-12.30pm – Brodio

14 Ebrill 11am-12.30pm – Printio

28 Ebrill 11am-12.30pm – Brodio

12 Mai 10.30am-12.30pm – Rygiau Rhacs

19 Mai 11am-12.30pm – Gweu

26 Mai 10.30am-12.30pm – Rygiau Rhacs

7 Gorffenaf 11am-12.30pm - Clwb Cwiltio

1 Medi 11am-12.30pm - Clwb Cwiltio

3 Tachwedd 11am-12.3opm - Clwb Cwiltio

Mae pob sesiwn am ddim a darperir rhai deunyddiau i’ch rhoi ar ben y ffordd. Dewch â hen ddillad neu ffabrig os ydych chi’n cymryd rhan yn y sesiwn rygiau rhacs.