Sbeisys a pherlysiau o Dde Asia

Hasminder Kaur Aulakh, 21 Chwefror 2023

Yn ddiweddar, mae curaduron o'r adran Fotaneg wedi bod yn gweithio ar broject a ariennir gan Gyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) o’r enw Hawliau a Defodau. Nod y project yw cyd-greu dehongliadau newydd ar gyfer sbesimenau o Dde Asia trwy ychwanegu profiadau byw pobl a dealltwriaeth ddiwylliannol o wlad tarddiad y sbesimenau; cysylltu grwpiau cymunedol sy’n hanu o Asia â sbesimenau bioddiwylliannol perthnasol, ac annog deialog a chyfnewid gwybodaeth am fflora De Asia. 

Rydym wedi datblygu partneriaethau newydd gyda sawl aelod o'r gymuned Asiaidd leol trwy gyfres o weithdai rhyngweithiol. Roedd y digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth am y modd y defnyddir cynhyrchion o blanhigion wrth goginio ac ar gyfer meddyginiaeth mewn diwylliannau Asiaidd traddodiadol. Yma mae’r blogiwr gwadd, Hasminder Kaur Aulakh, yn rhannu ei phrofiad o ddefnyddio ffenigl, ffenigrig a chardamom gwyrdd gartref.

 

Mae sbeisys a pherlysiau’n hanfodion mewn ceginau ledled y byd a gall eu harogl ddwyn i’r cof ein cartref a’n teulu, a digwyddiadau ac atgofion hapus. Mae lle arbennig yn ein calonnau i’r hadau, y dail, y coesynnau a’r plisg hyn ac maent yn ein hatgoffa o'n hynafiaid, ein mamwlad a'n gwreiddiau, ac yn y corff yn gymorth i ni i wella a lleddfu anhwylderau.

 

Saumph (Ffenigl)

Mae’r ffenigl cyffredin, er enghraifft, neu saumph fel mae fy nheulu Punjabi yn ei alw, yn bresennol ar ffurf hadau sych neu fel powdwr ar aelwydydd De Asiaidd. Mae’n gynhwysyn allweddol yn y gymysgedd o hadau a ddefnyddir i lanhau’r daflod a gaiff ei chynnig gan lawer o fwytai Indiaidd i buro’r anadl. Cedwir y gymysgedd hon mewn cartrefi Indiaidd  yn aml a’i chynnig i breswylwyr a gwesteion ar ôl prydau bwyd. Ond mae'r hedyn hwn yn helpu’r broses dreulio hefyd gan ei fod yn cynnwys llawer o ffeibr. Gall fod yn ddefnyddiol ar ôl pryd mawr o fwyd, am ei bod yn bosibl ei fod yn tawelu leinin y perfedd. Yn aml byddwn yn rhoi hadau saumph mewn dŵr i fabanod sy’n dioddef colig. Mae cnoi saumph yn gysylltiedig â sefydlogi pwysedd gwaed a rheoli curiad y galon hefyd.

 

Gellir ategu manteision saumph yn y system dreulio gyda moli, neu radis gwyn yn Gymraeg, ac mae saumph yn gynhwysyn hanfodol wrth wneud moli wala paronthe. Mae saumph hefyd yn gynhwysyn allweddol mewn cha hefyd, sef te masala Indiaidd, ac mewn meddyginiaeth Ayurveda, trwytho saumph yw’r ffordd fwyaf effeithiol o’i gymryd.

 

Methi (Ffenigrig)

Mae methi, neu ffenigrig, yn un arall o hanfodion aelwydydd Indiaidd. Mae'r perlysieuyn hwn yn ddefnyddiol fel dail ffres ac fel hadau. Cewch ddail methi ffres mewn cegin Indiaidd yn union fel mae basil ffres mewn cegin Eidalaidd, ac ni fyddai'r pryd Punjabi poblogaidd cyw iâr menyn yn blasu'r un fath heb ysgeintiad o methi ar ei ben. Yn ogystal â gwella blas y bwyd, mae methi yn cynnwys saponinau sy’n gallu helpu i leihau’r colesterol sy’n cael ei amsugno, gan wella iechyd y bwytäwr. Mae methi hefyd yn gadwolyn poblogaidd ar gyfer piclau hefyd.

 

Defnyddir methi fel meddyginiaeth yn y cartref hefyd. Gellir gwneud te ohono gyda mêl a lemwn i helpu i leddfu twymyn. Mae hefyd yn dda at drin problemau croen fel ecsema, llosgiadau a chrawniadau trwy wneud eli methi. Gellir defnyddio eli methi i drin cosi a chen ar y pen hefyd ac fe'i defnyddir mewn sebonau cosmetig at y diben hwn. Mae rhai’n credu bod gan methi briodweddau gwrthasid, ac o’i lyncu gall leddfu dŵr poeth.

 

Elaichi (Cardamom Gwyrdd)

Mae cryn ddadlau am y perlysieuyn hwn, gyda rhai’n cael ei flas yn atgas ac eraill yn barod i fwyta coden amrwd gyfan. Er hynny mae gan elaichi le pwysig yn y gegin yn Ne Asia. Fe'i defnyddir mewn seigiau sawrus fel biryani a bara ac mewn danteithion melys fel cha a  melysion eraill – does dim dwywaith bod lle pwysig i elaichi wrth goginio a phobi yn Ne Asia. Gwelir elaichi yn y gegin ar ffurf codenni, hadau, a/neu bowdwr, mae’n amlbwrpas a gall fod yn wyrdd neu'n ddu. Elaichi gwyrdd yw'r un a ddefnyddir gan amlaf yn Ne Asia, ond defnyddir elaichi ledled y byd yn ei wahanol ffurfiau.

 

Credir bod gan elaichi briodweddau gwrthficrobaidd, ac felly mae wedi’i ddefnyddio

mewn triniaethau llysieuol yn erbyn bacteria niweidiol. Yn debyg iawn i saumph a drafodwyd uchod, mae priodweddau gwrthficrobaidd elaichi yn ei wneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer puro’r geg a chredir y gall cnoi’r codenni helpu i atal bacteria yn y geg sy'n gallu achosi problemau fel heintiau a thyllau mewn dannedd. Credir hefyd ei fod yn bwerus ar gyfer lleddfu llid, ac y gellir ei ddefnyddio i helpu’r system dreulio a helpu i osgoi problemau fel adlif asid a chramp yn y stumog. Mae'r rhinweddau atal llid yn dda ar gyfer trin dolur gwddf hefyd o’i ddefnyddio fel trwyth mewn dŵr neu de poeth.

 

A dyna flas ar ddefnyddiau amrywiol perlysiau a sbeisys yn Ne Asia. Er nad yw'r rhain yn gallu cymryd lle triniaethau gwrthfiotig, brechlynnau neu boenladdwyr, does dim dwywaith eu bod yn gymorth gyda chyflyrau llai difrifol. Mae perlysiau a sbeisys sawrus a blasus seigiau De Asia yn hynod bwysig wrth gadw ein cyrff yn iach a’n stumogau’n llawn, ac maent wedi’u defnyddio o un genhedlaeth i’r llall.

 

 

Digideiddio sbesimenau botanegol o Dde Asia ar gyfer y project Hawliau a Defodau

Nathan Kitto a Heather Pardoe, 21 Chwefror 2023

Dros y 7 mis diwethaf mae curaduron wedi bod yn gweithio ar y project Hawliau a Defodau a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Nod y project yw gweithio gydag aelodau o'r gymuned leol i ail-ddehongli sbesimenau Botaneg o Dde Asia, o’r Casgliad Botaneg Economaidd yn bennaf, er mwyn darparu cyd-destun diwylliannol, deall dulliau traddodiadol o ddefnyddio cynhyrchion o’r planhigion ac er mwyn gwneud y casgliadau yn fwy hygyrch. 

Mae'r Casgliad Botaneg Economaidd yn cynnwys tua 5500 o sbesimenau ac amrywiaeth o wahanol gynhyrchion o blanhigion, megis dail, gwreiddiau, ffibrau a hadau, ac mae gan bob un ohonyn nhw werth arwyddocaol yn economaidd, yn ddiwylliannol neu fel meddyginiaeth. Mae'r project hefyd wedi defnyddio casgliadau o sbesimenau llysieufa, darluniau botanegol, sbesimenau is-blanhigion a Materia Medica.

Mae digideiddio'r sbesimenau yn un dull allweddol o wneud y casgliadau yn fwy hygyrch, gan gynhyrchu delweddau y gellir eu rhannu â staff yr amgueddfa, gydag ymchwilwyr a gyda chymunedau y tu hwnt i'r amgueddfa. Defnyddiwyd sawl techneg i ddigideiddio'r sbesimenau, yn dibynnu ar eu maint a’u ffurf.

Mae'r Cynorthwy-ydd Ymchwil, Nathan Kitto, trwy gyfrwng amrywiol offer a thechnoleg, wedi adeiladu casgliad o dros fil o ddelweddau sy'n cynnwys taflenni llysieufa fasgwlaidd, sbesimenau mewn jariau a blychau, a darluniau hardd o waith llaw. Bydd y delweddau hyn yn cael eu storio yn llyfrgell delweddau ar-lein Gwyddorau Naturiol yr Amgueddfa, ynghyd â data’r sbesimenau, y gellir wedyn eu defnyddio fel adnoddau ymchwil a chyfeirio. Yn y dyfodol bydd y delweddau ar gael yn ehangach trwy gyfrwng Casgliadau Ar-lein yr amgueddfa 

I ddechrau, crëwyd delweddau 2D gan ddefnyddio camera SLR digidol ansawdd uchel. Mae hyn yn gam hanfodol er mwyn cofnodi manylion unigryw’r sbesimen, gan gynnwys y rhif derbyn, enw cyffredin ac enw a tharddiad gwyddonol y rhywogaeth. Fel arfer, mae siart lliw yn cael ei gynnwys yn y ddelwedd er mwyn sicrhau cysondeb o ran lliw, maint a graddfa. Defnyddir offer micrograff hefyd i gymryd lluniau eithriadol agos o sbesimenau. Trwy chwyddo'r sbesimen, gellir gwahaniaethu manylion cain na ellir eu gweld fel arfer, gan roi dimensiwn hollol wahanol.

Yn ddiweddar, prynwyd offer sganio 3D uwch-dechnoleg newydd, diolch i grant gan AHRC. Mae sganiau 3D manwl iawn wedi'u cynhyrchu o rai sbesimenau penodol a oedd yn addas o ran maint a siâp. Mae'r offer yn ein galluogi i gymryd delwedd lawn 3D o sbesimen ac felly gall defnyddwyr terfynol gylchdroi'r sbesimen a’i weld o bob ongl, sy’n rhoi persbectif reit wahanol o gymharu â delwedd dau ddimensiwn. 

Mae'r sganiwr yn gweithio trwy gymryd sawl ffrâm neu ddelwedd o'r gwrthrych o onglau gwahanol er mwyn adeiladu delwedd 3D go iawn. Mae gan un math o sganiwr, sef yr Artec Micro, broses fwy awtomataidd gyda'r offer yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith, drwy gylchdroi a dewis onglau penodol i gymryd delweddau o ansawdd uchel. Ar y llaw arall, mae'r Artec Space Spider yn sganiwr llaw, sy’n cael ei reoli gan y gweithredwr. Mae’n cymryd mwy o ddelweddau wrth i’r gwrthrych gylchdroi. Roedd yn hawdd iawn i'w ddefnyddio ac yn gywir iawn hefyd. Ar ôl cael digon o ddelweddau o wahanol gyfeiriadau, mae’r delweddau’n cael eu cyfuno gan ddefnyddio meddalwedd Artec Studio arbenigol. Gydag ychydig o fireinio ac ail-leoli, mae model 3D yn cael ei greu a'i lanlwytho i Sketchfab. Dyma'r stiwdio ar-lein lle mae modd optimeiddio'r ddelwedd 3D o'r sbesimen gyda goleuadau a golygiadau safleol. Mae'r llyfrgell o ddelweddau Botaneg Economaidd 3D, sydd i'w gweld yma, yn dangos 21 model o sbesimenau, gyda gwybodaeth ategol am y modd y defnyddir y rhywogaethau unigol fel meddyginiaeth ac mewn diwylliannau traddodiadol.

Mae yna fanteision di-ri o gael modelau 3D o sbesimenau amgueddfa; maen nhw’n gwneud y casgliad yn hygyrch i bawb, ac yn addas ar gyfer chwiliadau ar-lein. Mae modd archwilio’r gwrthrychau’n fanwl heb gyffwrdd â’r sbesimen gwreiddiol nac achosi unrhyw ddifrod. Nid yw ased digidol yn dirywio dros amser a gellir ei gopïo a'i storio mewn sawl man a’i ddefnyddio hefyd i greu modelau printiedig 3D. Ar ben hynny, mae gwrthrych 3D digidol yn golygu bod modd rhyngweithio’n wahanol â’r gwrthrych.

Defnyddiwyd y modelau 3D i wneud sbesimenau’r Amgueddfa yn hygyrch i aelodau'r cyhoedd yn ystod gweithdai cymunedol. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn yn sgil y math hwn o ymgysylltu a bu’n fan cychwyn da ar gyfer trafodaethau am gasgliadau’r amgueddfa a'r dulliau niferus o ddefnyddio'r sbesimenau. Ond y cam cyntaf yn unig yw creu'r modelau 3D hyn. Mae'r curaduron ar y project Hawliau a Defodau yn awyddus i weld sut bydd pobl yn parhau i ryngweithio â'r modelau yn y dyfodol ac yn gobeithio y bydd yn adnodd defnyddiol a deniadol i'r cyhoedd a'r amgueddfa ei rannu. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau am y gwrthrychau sy'n cael eu dangos yn y blog hwn, cysylltwch â: heather.pardoe@amgueddfacymru.ac.uk.

 

Ar ganmlwyddiant y BBC yng Nghymru

Yr Athro Jamie Medhurst, 13 Chwefror 2023

‘What a vista of possibilities is opened up in this wonderful discovery … Surely it marks the dawn of a new era – with what results, who can tell?’

Gyda’r geiriau hyn, agorodd Arglwydd Faer Caerdydd, yr Henadur Dr J. J. E. Biggs, Orsaf Caerdydd y Cwmni Darlledu Prydeinig am 5.00pm ar 13 Chwefror 1923. Ychydig fisoedd ar ôl i’r BBC ddechrau darlledu o’i orsaf yn Llundain gyda’r arwydd 2LO, roedd gan Gymru ei gorsaf ei hun – 5WA – a oedd yn dod ag arlwy o gerddoriaeth, sgyrsiau, a gwasanaethau crefyddol i wrandawyr yng Nghaerdydd, cymoedd de Cymru, a thros Fôr Hafren mewn rhannau o orllewin Lloegr.

 

Dechreuadau di-nod

O’r dechreuadau di-nod mewn stiwdio fechan uwchben sinema yn Stryd y Castell, tyfodd y BBC yng Nghymru i chwarae rhan bwysig ym mywyd y genedl. Er gwaethaf cael ei gosod yn yr hyn a elwir yn ‘Rhanbarth y Gorllewin’ yng Nghynllun Rhanbarthol y BBC yn y 1930au, arweiniodd pwysau gan sefydliadau, grwpiau ac unigolion o bob rhan o Gymru at sefydlu’r Rhanbarth Cymreig yn 1937, gan roi ymdeimlad clir o hunaniaeth i’r genedl. Yn wir, dadleuodd yr hanesydd, John Davies, unwaith fod Cymru yn endid gafodd ei chreu gan ddarlledu.

 

Roedd dyfodiad teledu ac agor trosglwyddydd yng Ngwenfô ym mis Awst 1952 yn dechrau ar gyfnod newydd yn hanes y BBC yng Nghymru. Fodd bynnag, gan nad oedd trosglwyddyddion yn parchu ffiniau cenedlaethol, roedd Cymru unwaith eto wedi’i ‘chlymu’ â gorllewin Lloegr, a arweiniodd at gwynion ar ddwy ochr y sianel. Roedd y penderfyniad i greu gwasanaeth BBC Cymru Wales ym mis Chwefror 1964 yn gam i geisio datrys y sefyllfa. Roedd yn ofynnol i'r BBC gynhyrchu 7 awr o raglenni Cymraeg a 5 awr o raglenni Saesneg i Gymru. Arweiniodd pwysau cyhoeddus pellach a dealltwriaeth gynyddol o anghenion Cymru ar ran rheolwyr y BBC yn Llundain at sefydlu gorsafoedd radio cenedlaethol Radio Cymru a Radio Wales ar ddiwedd y 1970au. Newidiodd sefydlu S4C yn 1982 dirwedd darlledu Cymru ac mae’r BBC yn parhau i chwarae rhan fawr yn llwyddiant y sianel.

 

Dyfodol y BBC

A beth am ddyfodol y BBC yng Nghymru? Wel, mae radio yn dal ei dir yn dda yn yr oes aml-lwyfan. Roedd gan Gymru’r gyfran fwyaf o wrandawyr radio nag unrhyw wlad arall yn y DU ac mae teyrngarwch i orsafoedd y BBC yn amlwg. Mae teledu, ddaeth i Gymru ychydig dros 70 mlynedd yn ôl, yn wynebu heriau gan wasanaethau ffrydio ond mae’n parhau i hysbysu, addysgu a diddanu. Mae bygythiadau gan lywodraeth y DU sy’n cwestiynu holl raison d’etre darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac mae’r ffî drwydded wedi’i gwestiynu (er ei bod yn ymddangos bod y ddadl benodol honno wedi tawelu … am y tro).

 

Beth bynnag yw eich barn am y BBC, does dim dwywaith bod y Gorfforaeth wedi chwarae rhan ganolog ym mywyd Cymru ers canrif.

 

Penblwydd Hapus BBC Cymru Wales – a hir oes!

 

Jamie Medhurst

Athro’r Cyfryngau a Chyfathrebu

Prifysgol Aberystwyth

 

Mae arddangosfa BBC 100 yng Nghymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd nes 16 Ebrill 2023.

Beth yw niwl?

Penny Dacey, 8 Chwefror 2023

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion tywydd am niwl ar gyfer rhannau mawr o Brydain heddiw. Mae niwl yn beryglus i deithwyr gan ei bod yn anodd gweld. Ydych chi wedi cerdded drwy niwl trwchus erioed? Rydw i wedi cerdded i mewn i niwl lle gallwn ond gweld rhyw droedfedd bob ochr i fi. Roedd yn gyffrous, ond ro’n i ar draeth hir, gwastad, a gwag mwy neu lai, ar y pryd. Fydden i ddim wedi hoffi croesi ffordd neu gael fy amgylchynu gan rwystrau allwn i ddim o’u gweld. 

Caiff niwl ei greu o ddiferion dŵr sy’n llai na diferion glaw. Mae rhai rhannau o’r byd yn defnyddio rhwydi sydd wedi’u cynllunio i gasglu diferion dŵr y niwl, sy’n darparu cyflenwad dŵr mewn ardaloedd nad ydyn nhw’n cael llawer o law. Mae rhai llefydd yn galw hyn yn ‘bysgota awyr’ neu ‘ddwyn gan yr awyr’. Faint o ddŵr ydych chi’n meddwl y gellir ei gasglu gan niwl? Mae gwefan y Swyddfa Dywydd yn datgan ‘pe baech chi’n llenwi pwll nofio maint Olympaidd gyda niwl, ac yna’n ei gyddwyso rywsut, byddai gennych tua 1.25 litr o ddŵr (neu ychydig dros ddau beint).’ 

Ydych chi'n gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng niwl (fog) a niwlen (mist)? Gwelededd yw’r gwahaniaeth! Mae’r Swyddfa Dywydd yn datgan ‘Os gallwch weld mwy na 1,000 metr, caiff ei alw’n niwlen, ond os yw’n fwy trwchus a bod y gwelededd yn cwympo o dan 1,000 metr, rydyn ni’n ei alw’n niwl.’ Mae niwlen a niwl yn cael eu ffurfio gan ddiferion dŵr yn casglu yn yr aer, ond mae niwlen yn llai dwys (gan olygu y byddai pwll maint Olympaidd yn llawn o niwlen yn darparu llai o ddŵr fyth ar ôl cael ei chyddwyso). Mae hyn yn golygu ei bod hi’n haws gweld drwyddi, ac mae’n llai tebygol o aros o gwmpas am amser hir. 

Gellir hefyd disgrifio niwl fel cwmwl sy’n ffurfio ar lefel y tir. Mae hyn gan fod niwl a chymylau yn ffurfio yn yr un ffordd. Maen nhw’n ffurfio o ganlyniad i aer cynnes a llaith yn cael ei oeri. Mae anwedd dŵr yn yr aer yn oeri i ffurfio diferion dŵr. Er enghraifft, meddyliwch am sut mae anwedd dŵr o gawod boeth yn dal ymlaen i wydr oer y drych fel cyddwysiad. Neu, ar ddiwrnod oer, sut mae eich anadl yn ffurfio niwlen pan fyddwch chi’n anadlu allan, wrth i’ch anadl cynnes gymysgu gyda’r aer oer.  Mae cymylau’n ffurfio pan fydd aer cynnes a llaith yn cwrdd â llif aer oerach. Mae niwl yn aml yn ffurfio pan fydd aer cynnes a llaith yn cael ei oeri gan arwynebau oer. Am y rheswm hwn, mae niwl yn fwy cyffredin yn yr hydref a’r gaeaf, pan fydd y ddaear ar ei oeraf. Heblaw am niwl arfordirol, sy’n fwy cyffredin pan fydd aer cynnes a llaith yr haf yn cwrdd ag arwyneb oer y môr. 

Mae diferion dŵr mewn niwl yn ei gwneud hi’n anodd gweld gan eu bod yn adlewyrchu golau, a all aflunio siapiau a’i gwneud yn anodd barnu pellter. Mae’r Swyddfa Dywydd yn ei alw’n niwl trwchus pan fydd gwelededd yn llai na 180m, a niwl dwys pan mae’n llai na 50m (dyna hyd y pwll nofio Olympaidd rydyn ni wedi bod yn cyfeirio ato!) Mae’n ddiddorol nodi bod niwl mwy trwchus yn aml yn ffurfio mewn ardaloedd diwydiannol. Mae hyn gan fod diferion dŵr yn glynu i ronynnau bach yn yr aer. Ar yr arfordir, mae’r dŵr fel arfer yn glynu i ronynnau halen yn yr aer. Mewn ardaloedd diwydiannol, mae’r dŵr yn casglu o gwmpas gronynnau llygredd aer yn aml. Mae hyn yn golygu bod ardaloedd diwydiannol (sef yr ardaloedd â’r llygredd aer uchaf fel arfer) yn fwy tebygol o weld niwl mwy trwchus, gan fod mwy o ronynnau yn yr aer i’r dŵr lynu atyn nhw. 

Mae niwl sy’n cymysgu gyda llygredd aer yn aml yn cael ei alw’n fwrllwch. Mae mwrllwch yn gallu troi’r awyr yn wyrdd, melyn, coch, brown, du neu lwyd. Mae wedi bod yn broblem ers dechrau’r Chwyldro Diwydiannol ddiwedd y 1700au, lle gwelwyd cynnydd mewn llosgi glo ar gyfer y diwydiant (er enghraifft i bweru ffatrïoedd a threnau stêm). Ym mis Rhagfyr 1952, gwelodd Llundain yr hyn gafodd ei adnabod fel ‘Y Mwrllwch Mawr’, lle daliodd yr amodau tywydd y mwg o danau glo, a chreu’r amodau perffaith ar gyfer ffurfio niwl trwchus. Gyda’i gilydd, achosodd hyn ansawdd aer gwael a oedd yn hynod beryglus. Daeth Deddfau Aer Glân 1956 a 1968 o ganlyniad uniongyrchol i hyn, gan leihau allyriadau mwg du. O ganlyniad, roedd llai o adroddiadau am fwrllwch ym Mhrydain yn y degawdau canlynol. 

Fodd bynnag, ers hynny mae rhywbeth o’r enw Mwrllwch ffotocemegol (neu fwrllwch yr haf) wedi dod yn fwy cyffredin, yn enwedig mewn dinasoedd diwydiannol â phoblogaethau mawr a hinsawdd gynnes. Mae hyn yn ffurfio pan fydd golau’r haul yn adweithio gyda gronynnau llygredd yn yr aer (nitrogen ocsid o bibellau mwg ceir neu losgi glo a chyfansoddion organig anweddol o gasolin, cynhyrchion glanhau ac erosolau cartref). Mae Mwrllwch ffotocemegol yn wael i’n hiechyd ac yn niweidiol i gnydau a phlanhigion. Mae’n ffurfio heb fwg na niwl, a’r unig reswm rydyn ni’n defnyddio’r un enw (mwrllwch) yw gan fod yn edrych yn debyg. 

Felly, beth allwn ni ei wneud? Wel, mae codi ymwybyddiaeth drwy siarad gydag eraill am yr hyn rydych chi’n ei ddysgu yn allweddol. Dyna pam rydw i’n ysgrifennu’r blog yma ac yn dweud wrthoch chi! Gallwn ni feddwl hefyd am sut gallwn ni leihau cemegau yn yr atmosffer. Efallai y byddwn ni’n dewis cerdded, beicio neu ddal y bws yn lle teithio gyda’r car. Efallai y byddwn ni’n dewis glanedyddion naturiol gartref yn lle rhai cemegol. Gall fod mor syml â dewis diaroglydd rolio yn lle un chwistrell (aerosol). Efallai y byddwn ni’n llofnodi deisebau sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion fel ansawdd aer ac yn rhoi pleidlais i wleidyddion sy’n dangos drwy eu hanes pleidleisio eu bod nhw’n cymryd materion sy’n ymwneud â’r hinsawdd o ddifri. Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud, a meithrin dealltwriaeth o’r problemau a’u hachosion yw’r cam cyntaf. 

Beth am edrych ar yr arsylwadau tywydd yr anfonodd ysgolion i mewn yr wythnos yma? Tybed os oes rhywun wedi crybwyll y niwl!

 

Sylwadau ysgolion:

Stanford in the Vale Primary School: It’s been a windy week and we have finally got to see two digit numbers with the temperatures finally. We can see spring is just around the corner with buds on the trees and snowdrops around the school grounds. We are checking our bulbs every day at the moment. 

Livingston Village Primary School: We noticed that all the bulbs have started to grow which are the daffodils. Last year’s daffodils have started growing too.

Irvinestown Primary School: We had snow this week!

Logan Primary School: We have some little green shoots in our plantpots

Sacred Heart Primary School – Omagh: Our bulbs are shooting in both the pots and the ground

St Mary's Primary School (Newry): Still no sight of flowers but the shoots are up for the leaves. 

Gavinburn Primary School: After all the rain last week the has been none at all this week and it has felt really cold.

Roseacre Primary Academy: WE can't wait for the flowers.

St Anne's Catholic Primary School – Knowsley: Other days not recorded as ground frozen and path slippery

Fleet Wood Lane Primary School: We are starting to take pictures of the bulbs because we can see the start of the daffodil flowers.

Rybuddion Tywydd

Penny Dacey, 25 Ionawr 2023

Helo gyfeillion y gwanwyn,

Mae’n amser diddorol i astudio ac arsylwi ar y tywydd! Bydd y rhan fwyaf ohonoch wedi gweld rhew a gwyntoedd uchel yr wythnos ddiwethaf. Rwy'n deall oedd rhaid i rai ysgolion  cau, a hyd yn oed os oedd eich ysgol ar agor efallai ei bod hi’n rhy beryglus i gymryd darlleniadau tywydd.

Mae'n debyg byddwch chi wedi clywed pobl yn sôn am rybuddion tywydd dros yr wythnos ddiwethaf. Caiff rhybuddion tywydd eu rhyddhau gan swyddfa’r MET (gwasanaeth tywydd swyddogol y DU) gyda chod lliw (gwyrdd, melyn, ambr a choch) i ddangos pa mor eithafol fydd y tywydd mewn gwahanol ardaloedd.

Gwyrdd: dim tywydd garw.

Melyn: posibilrwydd o dywydd eithafol, gofalwch.

Ambr (oren): posibilrwydd cryf y bydd y tywydd yn effeithio arnoch chi mewn rhyw fodd, paratowch.

Coch: yn disgwyl tywydd eithafol, cynllunio ymlaen llaw a dilyn cyngor y gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn defnyddio symbolau i ddangos pa fath o dywydd i’w ddisgwyl. Dyma symbolau yn dangos rhybudd coch am law, rhybudd gwyrdd am wynt ac eira, rhybudd ambr am iâ a rhybudd gwyrdd am niwl. Mae hyn yn golygu bydd hi'n bwrw glaw yn drwm a dylech chi baratoi am iâ. Beth am edrych ar y tywydd lleol ar wefan y Swyddfa Dywydd?

Mae swyddfa’r MET yn ein rhybuddio er mwyn i ni baratoi am dywydd garw. Gall tywydd garw (fel gwynt cryf a rhew) achosi problemau a’i gwneud hi’n anodd teithio. Weithiau bydd ffyrdd, rheilffyrdd a hyd yn oed ysgolion yn cau oherwydd tywydd gwael.

Pa fath o dywydd weloch chi'r wythnos diwethaf? Os nad oeddech allu casglu cofnodion tywydd, nodwch 'dim cofnod' ar y ffurflen, a dweud yn yr adran sylwadau pa fath o dywydd weloch chi! Gallwch hefyd diweddaru ar eich planhigion, ydyn nhw wedi cychwyn tyfu eto?

Daliwch ati gyda'r gwaith da gyfeillion,

Athro’r Ardd