Bando - Gêm y ffon gam 8 Chwefror 2010 Gêm y ffon gam Margam Bando Boys". Tua 1845 " loading="lazy" data-lightbox="js-6a616ddfb0eb1" /> Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r "Margam Bando Boys". Tua 1845 Hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg bu bando yn gêm tîm boblogaidd trwy Gymru, ac yn arbennig felly yn Sir Forgannwg. Yn wir ym 1797 fe nododd un teithiwr rhwng y Bont-faen a’r Pîl mor brin oedd coed ynn a choed llwyfen yno, a hynny oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio i wneud ffyn bando. Roedd John Elias (1774-1841), un o bregethwyr enwog y Methodistiaid Calfinaidd o Bwllheli, Sir Gaernarfon, a’r gwleidydd David Lloyd George (1863-1945), a fagwyd yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, ill dau yn chwaraewyr brwd yn wŷr ifainc. Roedd bando yn debyg i ryw ffurf gynnar ar hoci, gan mai nod y gêm oedd taro pêl gyda ffon grom o’r enw ‘bando’ ar draws maes y chwarae cyn ceisio ei gyrru i gôl y gwrthwynebwyr. Daw’r term ‘bando’ o’r gair Ffrangeg bande, sy’n golygu ‘ffon gam’. Gwnaed y ffyn yma o wahanol fathau o bren caled lleol, a byddai’r bêl, a oedd yn debyg o ran ei maint i bêl hoci heddiw, yn aml yn cael ei naddu o bren celyn neu focs. Medd-dod, trais a thranc y gêm Margam Bando Boys". Tua 1845 " loading="lazy" data-lightbox="js-6a616ddfb0eb1" /> Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r "Margam Bando Boys". Tua 1845 Yn draddodiadol byddai’r gornestau hyn yn cael eu cynnal rhwng gwahanol blwyfi. Byddai’r chwaraewyr yn cymryd y rhain gymaint o ddifrif nes eu bod, weithiau, hyd yn oed yn hyfforddi o flaen llaw. Er mai dynion a fyddai’n chwarae bando fel arfer, byddai merched yn gwylio’r gêm yn frwd. Yn wir, ceir tystiolaeth am un ornest fando a chwaraewyd ym Mro Morgannwg lle cuddiodd gwraig un o’r chwaraewyr y bêl o dan ei phais nes i’w gŵr ddod heibio i’w nôl. Bydda’r gemau’n amrywio yn ôl yr ardal, oherwydd nid oedd unrhyw reolau safonol, dim cyfnod penodol i’r chwarae na chyfyngiadau ar y nifer oedd i gymryd rhan. Roedd trais yn gyffredin, a hyd yn oed os oedd dyfarnwr yn bresennol nid oedd y chwaraewyr yn brin o daro eu gwrthwynebwyr gyda’u ffyn. Yn aml byddai’r gwylwyr yn gosod betiau ar y sgôr derfynol, a byddai’r tafarnwyr lleol yn sicrhau’n ddi-os bod digon o ddiod feddwol ar gael. Y cyfuniad peryglus hwn o gamblo, y ddiod ac ymddygiad aflywodraethus ar y cae ac oddi arno fu’n gyfrifol yn y pen draw am dranc y gêm. Bois Bando Margam Ffurfiwyd The First Glamorgan Rifle Volunteers ym Margam, Port Talbot yn 1859. Mabwysiadwyd y bathodyn hwn, sy'n dangos dwy ffon bando, ganddynt yn 1875. Yn ôl Edward Matthews (1813-92) o Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, roedd y gêm mor boblogaidd ym Margam, gorllewin Morgannwg fel na fyddai neb dros ei flwydd oed yn fodlon cael ei weld heb ffon fando, ac ar adegau byddai cymaint â 3,000 o wylwyr yn mynychu’r gemau. Yn wir, erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bando’n bennaf gysylltiedig â Sir Forgannwg ac yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ysbrydolodd amlygrwydd y gêm ym Margam faled o’r enw ‘The Margam Bando Boys’ a ddathlai fedrusrwydd y tîm hyglod hwn. Yn ôl y faled, roedd gemau tîm eraill yn ddim o’u cymharu â bando: Due praises I'll bestow And all the world shall know That Margam valour shall keep its colour When Kenfig's waters flow Our master, straight and tall Is foremost with the ball; He is, we know it, and must allow it, The fastest man of all Let cricket players blame, And seek to slight our fame, Their bat and wicket can never lick it, This ancient manly game Our fame shall always stand Throughout Britannia's land; What men can beat us? Who dare meet us? Upon old Kenfig's sand? Should Frenchmen raise a voice To crush our peaceful joys, They'll get by storming a precious warming From Margam bando boys Like lions we'll advance To charge the sons of France; The Straits of Dover we'll ferry over And make the traitors dance Napoleon shall repent, If war is his intent; He'll sadly rue it if he'll pursue it; Proud Paris shall lament Bold Britons rule the main, And every hill and plain, From every nation throughout creation Our rights we will maintain Chwaraewyd bando yn ardal Aberafan hyd chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1876 bu farw Theodore Talbot, capten y Margam Bando Boys a’r etifedd i ystâd Margam, tua’r un adeg ag y sefydlwyd gweithiau tun Mansel, Avon Vale, a Thai-bach. Disodlwyd bando mewn byr o dro, wrth i’r gweithwyr tun droi at y gêm newydd honno, rygbi. Datblygodd y syniad o faes chwarae penodol yn ystod y 1870au, ac wrth i glybiau pwrpasol gael eu sefydlu crewyd caeau chwarae ar gyfer y timau a’u cefnogwyr. Roedd sefydlu cyrff i reoli gwahanol chwaraeon, megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Football Association of Wales) ym 1876 ac Undeb Rygbi Cymru (Welsh Rugby Union) ym 1881, yn arwydd o oes newydd lle'r oedd chwaraeon o dan reolaeth ganolog, ac felly fe gollwyd unrhyw amrywiadau rhanbarthol.
Beth yw'r ots os yw ieithoedd yn marw? 8 Chwefror 2010 Beth yw'r ots os yw ieithoedd yn marw? Ateb yr Athro David Crystal, awdur The Cambridge Encyclopedia of Languages: Sut bydd ieithoedd yn marw? Sut bydd ieithoedd yn marw? Dim ond pan fydd y person olaf i siarad iaith yn marw mae iaith ei hun yn marw. Ond, wyddoch chi, mae rhai yn dweud ei bod hi'n marw pan fo'r person olaf ond un yn marw. Oherwydd wedyn does gyda'r person olaf neb i siarad ag e. Wel, wrth gwrs, mae ieithoedd wedi mynd a dod trwy hanes wrth i gymunedau fynd a dod. Ond mae'r hyn sy'n digwydd nawr yn gwbl eithriadol. Sawl iaith sy'n marw? Sawl iaith sy'n marw? Mae yna ryw 6000 o ieithoedd yn y byd, fwy neu lai. Does neb yn gwybod yr union nifer. Ac o blith y rhain, mae pobl yn meddwl bod rhyw hanner mewn cymaint o berygl nes eu bod yn debygol o farw allan yn ystod y ganrif bresennol. Wel, can mlynedd yw hyd y ganrif bresennol, mae hanner yn golygu 3000 o ieithoedd, felly mae un iaith yn marw allan yn rhywle yn y byd bob pythefnos, ar gyfartaledd. Pam maen nhw'n marw? Pam mae hyn yn digwydd? Mae ieithoedd yn marw am bob math o resymau. Un yw'r rhesymau naturiol pan fo pobl yn cael eu heffeithio gan newyn a haint a daeargrynfeydd. Mae hil-laddiad yn reswm arall, pan fo rhai gwledydd yn ceisio lladd iaith fechan yn gwbl fwriadol. Y prif reswm yw globaleiddio. Hynny yw, mae yna rai ieithoedd enfawr yn y byd, fel Saesneg a Sbaeneg, ac Arabeg a Ffrangeg, ac mae'r rhain fel rholeri stêm sy'n malu'r ieithoedd llai sydd yn eu ffordd. Oes modd gwneud rhywbeth? Oes modd gwneud rhywbeth? Mae modd gwneud cryn dipyn i ddiogelu iaith sydd dan fygythiad. Y peth cyntaf yw bod angen i'r bobl eu hunain deimlo eu bod nhw am gadw'r iaith. Mae hynny'n bwysig iawn. Yr ail beth yw bod angen i'r awdurdodau deimlo eu bod nhw am gadw'r iaith. Mae'n rhaid bod ganddyn nhw barch tuag ar yr ieithoedd lleiafrifol sydd dan eu gofal. A'r trydydd peth sydd ei angen, wrth gwrs, yw arian. Mae'n costio dipyn go lew i ddiogelu iaith sydd dan fygythiad. Meddyliwch am y peth — mae angen hyfforddi'r athrawon, mae angen ysgrifennu llyfrau ar gyfer y plant, a'r math yna o beth. Dyw hi ddim yn costio llwythi o arian, ond mae hi yn costio dipyn. Felly heb arian, does gan ieithoedd sydd dan fygythiad ddim dyfodol disglair. Pam ddylem ni boeni? Pam ddylem ni boeni? Fe ddylem ni boeni am yr un rheswm rydym ni'n poeni am fioamrywiaeth y Ddaear — diogelu gwahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid. Mae ieithoedd yn union debyg, ond mai y nhw yw amrywiaeth ddeallusol y Ddaear. Mae rhyw 6000 gwahanol fydolwg yn cael eu mynegi gan y 6000 o ieithoedd sy'n bodoli. Mae hanner y rheiny ar fin diflannu, Diflannu go iawn. Oherwydd dyma sy'n digwydd: pan fo iaith sydd erioed wedi cael ei rhoi ar ddu a gwyn yn marw, mae hi fel pe bai'r iaith honno erioed wedi bod.
Cyfenwau Cymraeg: Pam mae cymaint o Jonesiaid yng Nghymru? 8 Chwefror 2010 Pam mae cymaint o Jonesiaid yng Nghymru? Os ydych wedi treulio amser yn hel achau, yna mae'r nifer gyfyngedig o gyfenwau sydd gan y Cymry wedi creu rhwystredigaeth ichi. Pam mae cyn lleied? Dyma ateb yr Athro Prys Morgan... Pa fath o enwau oedd gan yr hen Gymry? Pa fath o enwau oedd gan yr hen Gymry? Fe ddechreuodd y Cymry gael cyfenwau parhaol tua phum can mlynedd yn ôl. Cyn hynny, 'doedd y Cymry ddim yn defnyddio cyfenwau parhaol. Beth on nhw'n defnyddio fel enwau? Wel beth on nhw'n defnyddio fel enwau oedd eu henw bedyddiol eu hunain, dwedwch fel Siôn neu rywbeth fel yna. Ac os oedd pobl yn gofyn 'Wel, ie, pa Siôn ych chi, achos mae 'na nifer o bobl â'r enw Siôn?', fydden nhw'n dweud, 'Wel fi yw Siôn ap Gruffydd ap Llywelyn ap Meilyr,' ac odd yr ap yma yn golygu mab rhywun. Ac och chi'n dweud Siôn ap Gruffydd ap Meilyr ap Gruffydd ap Rhys, ac och chi'n mynd yn ôl gyda'r ap yma, yn ôl tua naw cenhedlaeth. A'r rheswm am hynny oedd nad och chi ddim yn meddwl am eich hunan fel unigolyn o gwbl yng Nghymru. Yn ôl cyfraith Hywel Dda, a dyna oedd cyfraith y rhan fwya o bobol yn byw yng Nghymru hyd at bum can mlynedd yn ôl, 'doedd yr unigolyn ddim yn cyfrif fel unigolyn. Beth oedd yn bwysig oedd bod chi'n rhan o dylwyth. Pryd newidiodd y drefn? Pryd newidiodd hynny? Fe newidiodd y system gyda'r Ddeddf Uno. Tua phum can mlynedd yn ôl, fe ddaeth y Saeson i Gymru a mynnu bod y Cymry yn derbyn y cyfenwau parhaol, yr un fath â'r Saeson. Felly pan ofynnwyd i'r Cymry dderbyn rhywbeth oedd yn mynd i ddangos beth oedden nhw, ffordd oen nhw'n wahanol i bobl eraill, fe ddwedodd y Cymry, 'Wel, beth sy'n bwysig amdanon ni yw enwau'n tadau ni. Felly dw i yn Siôn, a mae 'nhad yn Siôn. A mae 'nhaid yn Gruffydd.' O wel, byddai'r clerc yn dweud, 'Gewch chi fod yn John son of John, a'r ffordd symlaf o'i ysgrifennu fe lawr yn Saesneg yw John Jones. Ond pam cymaint o Jonesiaid? Yn yr un cyfnod ag y gorfodwyd y Cymry i gael enwau parhaol — a dyma'r peth mwya' pwysig i gofio — yr oedd 'na broses o symleiddio yr enwau bedydd, enwau cyntaf plant. Yn lle bo' chi'n cael amrywiaeth aruthrol o enwau hyfryd fel Gwasmeir a Gwasmihangel a Llywarch a Gwalchmai, yn dod o gyfnod cynnar iawn neu o gyfnod Catholig, roedd rhain yn cael eu hystyried yn enwau peryglus. On nhw'n enwau o bosibl yn baganaidd, ac odd lot ohonyn nhw yn enwau Catholig, fel Gwasmeir a Gwasmihangel a Gwasteilo, Gwasdewi. On nhw'n enwau Catholig, felly on nhw'n hollol waharddedig. Felly odd yr eglwys yn dweud bod rhaid i bawb cael enwau o gatalog syml iawn. Enwau saff iawn, fel John a David a Tomos ac ambell i enw brenin saff fel William ac Edward a Henry, ac yn y blaen. Dyna'r unig enwau saff. Ac felly, yn lle cael amrywiaeth o ryw gant a hanner o enwau oedd yn gyffredin trwy Gymru, fe symleiddiwyd rhain yn yr un cyfnod i ryw wyth neu naw neu ddeg o enwau! Felly Tomos, Davies, Jones ac yn arbennig felly Jones. Yn arbennig yn y gogledd, rych chi'n cael cannoedd ar gannoedd o bobl yn cael yr enw Jones yn cael ei orfodi arnyn nhw.
Aros am y gwanwyn... Sara Huws, 8 Chwefror 2010 Braf oedd gweld cymaint o bobl allan ar safle Sain Ffagan bnawn Gwener. Roedd fel petai'r safle wedi deffro fymryn - mae hi mor hawdd anghofio, dros y gaeaf, cyn gymaint o ymwelwyr sy'n dod i'n gweld ni y munud y bydd y tywydd gaeafol-go-iawn wedi gostegu. Er bod digon wedi bod yn mynd yn ei flaen ar y safle yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r rhan fwyaf wedi bod yn digwydd tu ôl i gefnau'r ymwelwyr: trwsio toi gwellt, torri cwysi ar gyfer ceblau, cynnal gwaith cadwraeth ac ail-osod arddangosfeydd. Erbyn heddiw, mae'r safle wedi ei hawlio'n ôl gan y cyhoedd. Ar ôl taith i lynnoedd Cosmeston bnawn Sadwrn, ro'n i'n argyhoeddiedig bod yr rhan fwyaf o bobl y de-ddwyrain wedi deffro o'u trwmgwsg gaeaf. Roedd 'na fwy o bobl yno nag oedd o hwyaid ar y llyn. Lan yn Eglwys Teilo Sant, mae'r arlunydd Fleur Kelly wedi bod yn cwblhau gwaith pellach ar baneli pren yn y gangell. Gan mai'r ardal hon oedd yn ardal fwyaf sanctaidd yn yr Eglwys (ac yn dal i fod, mewn rhai achosion), mae cynllun yr addurniadau yn adlewyrchu chwaeth a meddylfryd y clerigwyr fyddai'n gweithio yno yn y 16ed ganrif. Mae'r murluniau yn dangos yr Archesgob Tomos a Becet, a'r sant arwrol, Siôr. (I'r rhai ohonoch sy'n pendronni pam bod Siôr yn ymddangos mewn eglwys gymreig, bydd blog am hynny yn y dyfodol agos!). Rydym wedi dewis cynllun o angylion cerddorol, yn gafael mewn offerynnau o'r cyfnod 1500-1530, ar gyfer y paneli pren ar y sgrîn. Mi es â chamera newydd yr Adran Addysg i fyny i'r Eglwys hefo fi, gan obeithio tynnu ffilm o Fleur wrthi'n gweithio i'w rannu gyda chi yma ar y blog. Yn anffodus, nid Scorsesyn mohonof, felly dyma i chi luniau llonnydd o fy ffilm gyntaf, sigledig. Bydd Fleur yn dychwelyd ymhen rhai wythnosau i orffen y gwaith. Mae paent pigment traddodiadol yn hir iawn, iawn yn sychu - gobeithio erbyn hynny y byddaf wedi dysgu sut i ddefnyddio'r camera'n well, a chyflwyno ffilm i chi sy'n debycach i 'The Agony and the Ecstasy' na 'Pollock'...
Italian Memories in Wales Sian Lile-Pastore, 8 Chwefror 2010 Italian Memories in Wales, Our new exhibition in Oriel 1, St Fagans:National History Museum opened on Saturday January 30 and will run until May. It's a lovely exhibition so please come and visit! As part of the exhibition we have been collecting feedback about people's thoughts on the exhibtion as well as their stories of leaving a country. Here are some that we have had so far:Tina and Angela Minoli wrote: 'My father Giuseppo Minoli came to the Welsh valleys from Brugnoli in the Bardi region of Emilia-Romagna when he was 5 years old in 1914.'Paulo Nuzzo wrote: 'My father left Italy in 1956 to work in the steel works of S.Wales - lovely to see what he had to go through to stay in S.Wales.'Paulo also commented on the exhibition, saying it was: 'Very interesting and moving.'Roberto Pastore wrote:'My mother and father left Italy in the early 70s after getting married. They came to the UK and had my brother and me, and found work as a boutique owner and hairdresser, respectively.'He also commented on the exhibition: 'Some beautiful images and such distinctive expressions + faces of Italy.'Angelina Cooper wrote:'My Grandmother and mother left Bardi 59 years ago - we visited Bardi for the first time in Sept 09. Fantastic!!'If you would like to comment on the exhibtion please do so below or fill in one of the postcards in Oriel 1.