Y Baddondai Pen Pwll Ceri Thompson, 30 Mehefin 2011 The pithead baths at Bit Pit: National Coal Museum Llwch glo llethol Cyn i faddondai pen pwll ddod yn gyfleuster cyffredin, doedd dim dewis gan y rhan fwyaf o lowyr, fyddai wedi ymlâdd ar ôl diwrnod caled o waith, ond teithio adref o'r gwaith yn llwch glo i gyd. Byddai eu dillad yn diferu o chwys yn aml gan godi'r siawns o ddal niwmonia, broncitis neu grydcymalau. Wedi cyrraedd adref, roedd yn rhaid golchi cymaint o'r baw â phosibl ymaith mewn baddon tin o flaen y tân. Menywod y tŷ fyddai'n gyfrifol am gynhesu'r dŵr ar gyfer baddon y glöwr a golchi a sychu'i ddillad fel arfer. Roedd cadw'r tŷ yn lân rhag llwch y glo yn frwydr feunyddiol hefyd. Doedd dim diwedd ar y gwaith caled yma, a byddai blinder a straen corfforol yn arwain at broblemau iechyd difrifol yn aml, ac weithiau at enedigaethau cynamserol a cholli plentyn. Bu'n rhaid i ddiwygwyr cymdeithasol, dan faner 'Mudiad y Baddondai Pen Pwll', lobïo'n galed cyn darbwyllo'r Llywodraeth, y meistri glo a rhai o'r glowyr a'u gwragedd hyd yn oed, bod angen am faddondai pen pwll. Bu'n frwydr hir a chaled, o'r ymgyrchu agoriadol yn y 1890au hyd sefydlu cronfa arbennig ym 1926 i adeiladu baddondai, dan nawdd Pwyllgor Lles y Glowyr. Diwygio Cymdeithasol Roedd baddondai pen pwll wedi cael eu defnyddio yng Ngwlad Belg, Ffrainc a'r Almaen ers y 1880au. Ym 1913 anfonwyd cynrychiolwyr i weld y baddondai Ewropeaidd yma gan David Davies, perchennog cwmni Ocean Coal ac un o eiriolwyr diwygio cymdeithasol. Arweiniodd yr ymweliad hwn at adeiladu'r baddondy cyntaf yng Nghymru ym Mhwll Deep Navigation, Treharris, ym 1916. Bu llwyddiant baddondai Deep Navigation yn allweddol yn yr ymgyrch bropaganda a drefnwyd gan y sawl oedd am weld baddondy pen pwll ym mhob pwll glo yng Nghymru. Ym 1919 sefydlodd Llywodraeth Prydain Gomisiwn Brenhinol ('Comisiwn Sankey') i ymchwilio i amodau cymdeithasol a gwaith y meysydd glo. Sefydlwyd 'Cronfa Lles y Glowyr' o ganlyniad i hyn er mwyn '... improve the social well being, recreation, and condition of living of workers in or about coal mines'. Casglwyd arian y gronfa hon drwy godi ceiniog ar bob tunnell o lo a gloddiwyd. Defnyddiwyd y gronfa at sawl diben, yn cynnwys darparu caeau chwarae, pyllau nofio, llyfrgelloedd a sefydliadau. Codwyd tâl ychwanegol o 1926 ymlaen, i noddi rhaglen adeiladau baddondai. Steil Bensaernïol Fodern Yn ystod bodolaeth Cronfa Les y Glowyr, o 1921 i 1952, adeiladwyd dros 400 o faddondai pen pwll ym Mhrydain. Cynlluniodd adran bensaernïol y Pwyllgor Lles y Glowyr y ffordd fwyaf cost-effeithiol o adeiladu, darparu cyfarpar a gweithredu adeiladau'r baddondai. Roedd 'steil tŷ wedi cael ei datblygu erbyn y 1930au, wedi'i seilio ar ddylunio pensaernïol y 'Mudiad Modern Rhyngwladol'. Byddai'r toeon fflat, y llinellau glan a'r defnydd helaeth o wydr i ddarparu golau naturiol yn sicrhau bod y baddondai yn amlwg yng nghanol adeiladau eraill y pyllau. Cafodd rhai baddondai, fel yr un yn Big Pit, eu rendro yn wyn, sy'n ei wneud yn nodwedd amlwg ar y bryn hyd heddiw. Golygai adnoddau prin Pwyllgor Lles y Glowyr na adeiladwyd baddondai yn nifer o byllau glo Cymru tan y 1950au. Wedi gwladoli'r diwydiant glo ym 1947, cyfrifoldeb y Bwrdd Glo Cenedlaethol oedd darparu'r baddondai pen pwll.
Plant mewn Pyllau Glo 11 Ebrill 2011 Yn unig yn y tywyllwch Roedd Mary Davis yn 'ferch fach bert' chwe mlwydd oed. Daeth Archwiliwr y Llywodraeth o hyd iddi yn cysgu'n sownd yn erbyn carreg fawr dan y ddaear ym Mhwll Glo Plymouth, Merthyr. Wedi cael ei dihuno dywedodd: "Fe es i gysgu oherwydd bod fy lamp wedi diffodd am nad oedd digon o olew ar ôl. Roedd ofn arna i am fod rhywun wedi dwyn fy mara a caws. Dwi'n credu taw'r llygod mawr wnaeth." Dywedodd Susan Reece, oedd hefyd yn chwe mlwydd oed ac yn geidwad drws yn yr un pwll glo: "Dwi wedi bod dan y ddaear am chwech neu wyth mis a dydw i ddim yn ei hoffi rhyw lawer. Rwy'n dod yma am chwech y bore ac yn gadael am chwech y nos. Pan fydd fy lamp yn diffodd, neu fy mod i'n llwgu, bydda i'n rhedeg adref. Dydw i heb gael niwed eto." Mewn perygl Roedd pwll glo yn lle peryglus iawn i oedolion, felly does dim syndod bod nifer o blant wedi cael eu hanafu'n wael dan y ddaear. "Roedd damwain bron i flwyddyn yn ôl a cafodd y rhan fwyaf ohonon ni ein llosgi. Cefais i fy nghario gartref gan ryw ddyn. Roedd yn boenus iawn am fod y croen wedi llosgi o fy wyneb. Doeddwn i ddim yn gallu gweithio am chwe mis." Phillip Phillips, 9 oed, Pyllau glo Plymouth, Merthyr "Cafodd fy mhen i ei wasgu beth amser yn ôl gan ddarn o'r to yn cwympo..." William Skidmore, 8 oed, Pwll Glo Buttery Hatch, Mynydd Islwyn "..cafodd fy nghoesau i eu gwasgu beth amser wedyn, wnaeth fy nghadw o'r gwaith am rai wythnosau." John Reece, 14 oed, Pwll Glo Hengoed Plant o lowyr a gyrwyr ceffylau Byddai rhai plant yn treulio hyd at 12 awr ar eu pen eu hunain, ond roedd brawd Susan Reece, John yn gweithio gyda'i dad ar y ffas: "Rydw i'n helpu fy nhad ac rydw i wedi bod yn gweithio yma am ddeuddeg mis. Rydw i'n cario ei offer drosto ac yn llenwi'r dramiau â'r glo mae wedi ei gloddio neu ei ffrwydro. Fe es i i'r ysgol am rai diwrnodau a dysgu'r wyddor." John Reece, 8 oed, Pyllau Glo Plymouth, Merthyr Roedd gan Philip Davies geffyl yn gwmni. Roedd yn welw a heb fawr o gig amdano ac yn gwisgo dillad carpiog wedi treulio. Doedd 'e ddim yn gallu darllen: "Rydw i wedi bod yn gyrru ceffylau ers oeddwn i'n saith ond roeddwn i'n gweithio ar ddrws aer am flwyddyn cyn hynny. Byddwn i'n hoffi mynd i'r ysgol ond rydw i wedi blino gormod gan fy mod i'n gweithio deuddeg awr." Philip Davies, 10 oed, Pwll Glo Dinas, y Rhondda Byddai dramwyr yn tynnu eu certi gyda chadwyn wedi'i chlymu o amgylch y canol. Bydden nhw'n gweithio yn y twnneli isel rhwng y ffasau glo a'r prif dwneli uwch lle gallai ceffylau gael eu defnyddio. Roedd y ceirt yn pwyso tua 1½cwt. o lo ac roedd yn rhaid ei dynnu am bellter o tua 50 llath mewn twnnel tua 3 troedfedd o uchder. "Fy swydd i yw cludo glo o'r pen i'r brif ffordd; mae'r pellter yn 60 llath; does dim olwynion ar y ceirt; rydw i'n eu gwthio nhw o fy mlaen; weithiau, bydda i'n eu llusgo nhw am fod y cert weithiau yn cael ei dynnu arnon ni, ac rydyn ni'n cael ein gwasgu'n aml." Edward Edwards, 9 oed, Pwll Glo Yskyn, Llansawel Byddai dramiwr yn ennill tua 5c y diwrnod am hyn. Y Tair Chwaer Roedd gwaith dur Dowlais hefyd yn berchen ar byllau glo a haearn; nhw oedd y mwyaf yn y byd ar y pryd ac yn darparu cynnyrch i bob rhan o'r byd. Roedden nhw yn dal i ddibynnu ar blant am eu helw fodd bynnag. Roedd tair chwaer yn gweithio yn un o'u pyllau glo: "Rydyn ni'n gofalu am y drysau yn y lefel pedair troedfedd. Rydyn ni'n gadael y tŷ cyn chwech bob bore ac rydyn ni yn y lefel tan saith o'r gloch, neu'n hwyrach weithiau. Rydyn ni'n ennill 2p y diwrnod ac mae ein golau yn costio 2½c yr wythnos. Roedd Rachel mewn ysgol ddydd ac mae hi'n gallu darllen rhywfaint. Cafodd hi ei gwasgu dan ddram amser yn ôl ac roedd hi adref yn sal am amser hir, ond fe wellodd hi." Elizabeth Williams, 10 oed a Mary a Rachel Enoch, 11 a 12 oed, Pyllau Dowlais, Merthyr. Yn Dilyn y Deddfu Roedd hi'n anochel y byddai deddf yn cael ei phasio wedi'r dicter cyhoeddus a glywyd yn sgil cyhoeddi'r Adroddiad. Pasiwyd y Ddeddf Rheoli Pyllau Glo o'r diwedd ar 4 Awst 1842. O 1 Mawrth 1843 roedd hi'n anghyfreithlon i fenywod neu unrhyw blentyn o dan ddeg oed weithio dan y ddaear ym Mhrydain. Doedd dim iawndal i'r sawl a gollodd eu swyddi ac a achosodd hyn galedi mawr. Ond roedd hi'n hawdd osgoi'r Ddeddf — dim ond un arolygwr oedd ym Mhrydain gyfan ac roedd yn rhaid iddo roi rhybudd cyn ymweld âr pyllau glo. Mae'n debyg bod nifer o fenywod wedi parhau i weithio yn anghyfreithlon am sawl blwyddyn, a dim ond wrth iddynt gael eu lladd neu eu hanafu fyddai pobl yn dod i glywed. Daeth hi'n llai derbyniol i fenywod ennill cyflog yn y diwydiant glo wrth i amser basio. Er hyn, roedd nifer fechan o fenywod yn gweithio ar yr wyneb yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ym 1990 diddymwyd y ddeddf warchod gan roi'r hawl unwaith eto i fenywod weithio o dan y ddaear.
Yfed pwnsh yn y ddeunawfed ganrif Rachel Conroy, 28 Ionawr 2011 Ffigwr 2: Powlen bwnsh gilt arian wedi'i dylunio gan Robert Adam a'i gwneud gan Thomas Heming, Llundain, 1771-2. Yn y 1650au y cafodd pwnsh ei yfed gyntaf ym Mhrydain, tua'r un amser ag y dechreuwyd yfed te, coffi a siocled poeth. Erbyn troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn ddiod hynod boblogaidd. Gwneud pwnsh Cai pwnsh ei wneud drwy ddefnyddio cymysgedd o gynhwysion drud wedi'u mewnforio. Rym neu frandi fyddai'r alcohol gyda siwgr, ffrwythau sitrws, sbeis — siafins nytmeg fel arfer — a dŵr wedi'u hychwanegu. Y Fowlen Bwnsh Cai pwnsh ei weini, gan ddefnyddio lletwad cywrain, o bowlenni mawr i wydrau unigol (Ffigwr 1). Un o'r powlenni pwnsh pwysicaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yw'r un a ddyluniwyd gan Robert Adam ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynn (Ffigwr 2). Cafodd ei chomisiynu i ddathlu llwyddiant Fop, ceffyl Syr Watkin, yn Rasys Caer a byddai wedi cael ei arddangos mewn lle amlwg ar ddresel ei gartref ffasiynol yn Llundain. Yfwyd pwnsh yn aml yng nghyfarfodydd clybiau a chymdeithasau a gynhaliwyd mewn tafarndai, tai coffi neu dai pwnsh arbennig fel arfer (Ffigwr 3). Dynion yn unig bron fyddai'n mynychu'r rhain. Mae'n debyg bod yfed pwnsh yn arfer hynod gymdeithasol fyddai'n atgyfnerthu perthynas gymdeithasol. Mae llythyr a gyhoeddwyd ym 1736 yn disgrifio hyn yn huawdl: "...gobeithiwn na fydd dim erioed yn rhwystro Dyn rhag yfed Powlen o Bwnsh gyda Chyfaill, dyna un o'r pleserau mwyaf y byddwn yn ei fwynhau yn y Wlad, yn ail i'n llafur. Ffigwr 3: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, tua 1800-1810. Arysgrifiad yn dweud 'B, HAWKINS, SHIP SWAN, LONDON', sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio mewn tafarn neu dy pwnsh. Ffigwr 4: Powlen bwnsh o grochenwaith Delft ag arysgrifiad 'Edward Jones Scoole Master 1751', Lerpwl mae'n debyg, 1751. Ffigwr 5: Ffiol crochenwaith caled mawr gyda gwydro halen, gan Mortlake o bosib, c. 1794-5. Cai powlenni pwnsh eu gwneud i goffau digwyddiadau arbennig; byddent yn cael eu haddurno ag enwau gildiau neu gymdeithasau, neu symbolau gwrywaidd fel llongau. Mae enghraifft ddiddorol yng nghasgliad Amgueddfa Cymru sydd ag arysgrifiad arni yn dweud 'Edward Jones Scoole Master 1751' (Ffigwr 4) a phaentiad o athro yn darllen gyda'i ddisgyblion. Mae'n hawdd meddwl am Edward Jones yn comisiynu gwrthrych mor bersonol neu yn ei dderbyn fel rhodd. Partïon gwyllt ac anwar Yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, roedd poeni mawr am beryglon alcoholiaeth, yn bennaf oherwydd y cyflenwad helaeth a rhad o gin cartref oedd ar gael. Roedd camymddwyn yn cael ei feio'n aml ar yfed pwnsh yn ormodol. Roedd yfed yn ormodol yn gyffredinol yn cael ei gysylltu â dirywiad moesol, a cai partïon pwnsh eu dychanu fel nosweithiau gwyllt ac anwar gan artistiaid y cyfnod. Mae'n debyg daw'r darlun enwocaf o barti pwnsh yw Sgwrs Fodern am Hanner Nos gan William Hogarth, a gyhoeddwyd ym 1732/33. Roedd yn hynod boblogaidd a cyn hir roedd yn cael ei gopïo ar bowlenni pwnsh a llestri eraill a ddefnyddid i yfed a gweini alcohol. (Ffigwr 5). Yfed yn ormodol Mae cofnodion yr Old Bailey yn aml yn cefnogi'r cysylltiad rhwng yfed pwnsh yn ormodol ag ymddygiad anghymdeithasol a throseddol hyd yn oed. Mae hyn yn cynnwys dwyn powlenni pwnsh drud o dafarndai a chartrefi a rhannu powlen o bwnsh gyda dioddefwr cyn eu twyllo. O tua'r 1750au ymlaen, dechreuwyd gweini pwnsh o lestri pwnsh porslen a phriddwaith. Mae ffurf ac addurn y rhain yn debyg iawn i debotau yn aml, ond eu bod yn llawer mwy (Ffigwr 6). Yn wahanol i bowlenni pwnsh agored, roedd llestri pwnsh yn galluogi un gweinydd i reoli'r dogni — fel gyda the. Efallai y byddai pobl wedi ystyried y gweini rheoledig yma yn fwy gwâr a chwaethus na phowlenni pwnsh agored, lle gallai pobl weini eu hunain ac yfed yn ormodol yn hawdd iawn. Roedd poblogrwydd yfed pwnsh ar ei anterth yn nghanol y ddeunawfed ganrif, ond roedd pobl yn dal i'w fwynhau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwnaed powlen bwnsh briddwaith gain ar gyfer John Richardson gan Grochendy Cambrian ym 1845. Ef oedd maer Abertawe'r flwyddyn honno (Ffigwr 7). Mae'n ddiddorol taw comisiynu'r fowlen fel rhodd i'w wŷr newydd-anedig a wnaeth ac mae arfbais Richardson yn addurno'r fowlen. Mae rhan o'r arysgrifiad arni yn tystio i'r mwynhad a gaiff pobl wrth yfed o'r fowlen; 'GAILY STILL OUR MOMENTS ROLL, WHILST WE QUAFF THE FLOWING BOWL'. Ffigwr 6: Llestr pwnsh porslen past meddal, Derby, 1760-2. Ffigwr 7: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, 1845. Llyfryddiaeth: Harvey, Karen. 'Barbarity in a tea-cup? Punch, domesticity and gender in the eighteenth century', Journal of Design History, 21 (3) (2008), tud. 205-21. (anhysbys) 1736 A collection of all the pamphlets that were written pro and con on the British distillery, whilst the act for laying a duty upon the retailers of spirituous liquors, and for licensing the retailers thereof, was depending in Parliament. London. Eighteenth Century Collections Online. Gwefan. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO http://www.oldbaileyonline.org
Yr Ebbw Vale Steel, Iron and Coal Company 23 Gorffennaf 2010 Ffwrneisi Tân Agored Glynebwy, 1960au. Roedd diwydiant haearn De Cymru yn fach ac yn wiedig ar y dechrau: ffwrnais flast yng Ngwaith Haearn Clydach, 1813. Talodd Syr George Bessemer £30,000 i Gwmni Glynebwy am ei patentau gwneud dur (cafodd George Parry, £10,000) ac ym 1866-68 cododd y cwmni chwe Thrawsnewidydd Bessemer i wneud dur, un o'r ddau le cyntaf ym Mhrydain i wneud hynny. Mae trawsnewidydd Bessemer "wrthi'n chwythu" yn olygfa ddramatig. Pan dynnwyd y llun hwn yng Nglynebwy yn y 1950au nidoedd y broses wedi newid. Yr Ebbw Vale Steel, Iron and Coal Company Sefydlwyd yr Ebbw Vale Steel, Iron and Coal Company yn y De ym 1790, ac roedd y cwmni yn cynhyrchu mwy o dunplat nag unrhyw le arall yn y wlad nes iddo gau yn 2002. Roedd yn cyflogi 34,000 o ddynion yn y cyfnod Edwardaidd, ac erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd ar flaen y gad ym maes datblygiadau technolegol, yn enwedig yn y newid o haearn i ddur. Goroesodd holl weithfeydd haearn a dur eraill Blaenau'r Cymoedd a thorrodd dir newydd ym Mhrydain sawl gwaith o ran technoleg ar ôl iddo gael ei ailadeiladu'n llwyr ym 1936-38. Dechrau'r Daith Roedd Gwaith Haearn Glynebwy yn un o gyfres o weithfeydd a sefydlwyd ar hyd ymyl ogleddol maes glo'r De lle roedd modd cloddio'r holl ddeunyddiau crai ar gyfer gwneud haearn - mwyn haearn, glo a charreg galch. Fe'i sefydlwyd ym 1790 gan bartneriaeth dan arweiniad Jeremiah Homfray, perchennog Gwaith Haearn Penydarren ym Merthyr Tudful. Ym 1796 gwerthodd y gwaith i deulu Harford, a nhw fu wrth y llyw am yr hanner can mlynedd nesaf. Adeiladwyd tair ffwrnais chwyth arall, ffwrneisi pwdlo i gynhyrchu haearn gyr a melinau rholio i wneud rheiliau yn y cyfnod hwn. Er mwyn cael rhagor o haearn gyr ar gyfer y ffwrneisi a'r melinau prynodd y teulu dair ffwrnais chwyth yn Sirhywi ym 1818. Ehangu Aeth teulu Harford yn fethdalwyr ym 1842 pan fethodd eu buddsoddiadau tramor. Ymddiriedolwyr aeth ati i gynnal y gweithfeydd ac ym 1844 sefydlwyd Cwmni Glynebwy gan Abraham Darby IV, meistr haearn o Coalbrookdale a oedd wedi hanner ymddeol. Ehangodd y cwmni'n gyflym gan brynu Gwaith Haearn Victoria gerllaw ym 1848, Gwaith Haearn Abersychan ym 1852, Gwaith Haearn Pentwyn ym 1858 a Gwaith Haearn Pont-y-pŵl ym 1872. Roedd y mwynau haearn lleol wedi'u disbyddu felly prynodd y cwmni gloddfeydd haearn yng Ngwlad yr Haf, Swydd Gaerloyw a Sbaen yn ystod y 1850au. Rhwng 1854-55 bu George Parry, cemegydd y gwaith, yn arbrofi gyda gwneud dur and ni chynhyrchwyd dur yn rheolaidd nes i'r cwmni sefydlu gwaith Bessemer ym 1868. Dirywio Ailffurfiwyd y cwmni fel yr Ebbw Vale Steel, Iron&Coal Company Limited ym 1868. Roedd yr ehangu parhaus ar ddechrau'r 1870au wedi costio'n ddrud i'r cwmni pan ddaeth y dirwasgiad ar ddiwedd y degawd. Daeth dur i gymryd lle haearn a dirywiodd y fasnach haearn - yn ffodus roedd Cwmni Glynebwy wedi bod ar flaen y gad yn cynhyrchu dur. O 1873, cyllidwyr o Fanceinion, nad oedd yn deall y farchnad haearn a dur i bob golwg, oedd wrth y llyw. Dirywiodd y gweithfeydd; caeodd Pentwyn ym 1868, Sirhywi ac Abersychan ym 1882-83, Pont-y-pŵl ym 1890, ac erbyn 1892 roedd y cwmni mewn dyfroedd dyfnion, gyda'r gwaith yn segur a'r peiriannau mewn cyflwr gwael. Newid cyfeiriad – y galw di-ben-draw am lo o Gymru O'r 1870au ymlaen, nid haearn a dur oedd i gyfrif am lewyrch y cwmni, ond glo. Erbyn 1873 ef oedd cynhyrchwr glo mwyaf y De, ond roedd y rhan fwyaf o'i lo yn cael ei ddefnyddio mewn ffwrneisi golosg a pheiriannau ager y gweithfeydd haearn. Yn y 1870au a'r 1880au arallgyfeiriodd y cwmni i fanteisio ar y galw cynyddol am lo rhydd Cymru i yrru llongau, trenau a pheiriannau ager y byd. Wrth i lofeydd hynaf ardal Glynebwy gau, suddwyd dau bwll newydd - Waunlwyd (1874-77) a Glofa Marine yng Nghwm (1889-91). Cyn bo hir roedd glo Glynebwy i'w weld ledled y byd. Gan fod galw di-ben-draw am lo rhydd Cymru yn ystod ugain mlynedd gyntaf yr ugeinfed ganrif, roedd modd i'r cwmni ehangu'n gyflym a moderneiddio ei lofeydd. Caewyd rhai o'r hen lofeydd a dyblwyd y gwaith yn Waunlwyd a'r Marine. Mewn ugain mlynedd dyblwyd cynnyrch y cwmni i 2 filiwn o dunelli. Golygai rhagor o lo ragor o lowyr a chododd nifer y glowyr yn y cwmni bron i 6,000. Codi'n ddramatig fu hanes yr elw hefyd. Cloddio am lo yn Heol Llangynidr ym 1926 pan gafodd y glowyr eu cloi allan o'r gwaith. Golygfa o'r gwaith o'r awyr yn Awst 1957. Wrth i lofa Marine ehangu fe dyfodd pentref Cwm, lle roedd y rhan fwyaf o'r glowyr a'u teuluoedd yn byw, hefyd. Teras yr Orsaf, canolfan siopa fawr gyntaf Cwm, ym 1913 Pan osodwyd y derbynnydd metel poeth 750 tunnell yn y Gwaith Dur Bessemer ym 1905-06 of oedd y mwyaf yn y byd. Ar 3 Hydref 1929 caewyd y gweithfeydd. Ym 1936 fe'u dymchwelwyd. Y tirlun wrth gloddio am lo, Waunlwyd, 1950au Moderneiddio Ym 1892, haearn a dur oedd wrth wraidd gwaith y cwmni unwaith eto. Roedd mewn sefyllfa ariannol sefydlog ac ym 1897 dechreuwyd ehangu a moderneiddio'r cwmni. Ym 1910 daeth nifer o berchnogion glofeydd yn gyfarwyddwyr ar y cwmni, o dan arweiniad Is-Iarll Rhondda. Oherwydd y credent y byddai canolbwyntio ar lo'n unig yn cynyddu'r elw, caewyd y gweithfeydd haearn a dur ym Mai 1911. Serch hynny, ni wireddwyd eu gobeithion ac ailagorodd y gweithfeydd yn Ebrill 1912. Codi'r melinau llenfetel oedd y gwaith ehangu olaf a wnaed cyn y Rhyfel Mawr ym 1912. Rhwng 1918 a 1920 cynyddodd cyfalaf y cwmni o £1.8 miliwn i £7.7 miliwn a dechreuodd ehangu eto. Adeiladwyd dwy ffwrnais chwyth fodern yn Victoria ym 1920-23 yn lle'r pedair hen ffwrnais chwyth yng Nglynebwy. Sefydlwyd peiriannau i gynhyrchu trawstiau rheilffordd dur a thiwbiau a chyplau diweldiad. Fodd bynnag, bu tranc yn hanes y fasnach ryngwladol mewn haearn a dur ar ddechrau'r 1920au. Cyfnodau cythryblus O'r 1920au, daeth oes aur dechrau'r ganrif i ben. Wrth i longau droi at danwydd olew, dirywiodd y farchnad allforio glo. Ar ôl 1922 trodd elw mawr y cwmni yn golledion mawr. Cau Y blynyddoedd tywyll oedd y 1920au a'r 1930au wrth i gyflogau ostwng, pyllau gau ac wrth i ddiweithdra gynyddu. Bu cyfnodau o anghydfod diwydiannol hir a chwerw ym 1921 a 1926, a chafodd argyfwng ariannol 1929 effaith enbyd ar gwmni Glynebwy. Caeodd ei weithfeydd, gan adael bron i hanner trigolion y dref yn ddi-waith. Ym 1935 daeth y cwmni i ben a gwerthwyd ei holl lofeydd i Partridge Jones a John Paton Cyf., y perchennog glofeydd mwyaf yng nghymoedd Gwent. Ailadeiladu Er mwyn gallu cystadlu'n rhyngwladol, roedd angen melin strip ddur fel rhai America ar ddiwydiant tunplat Prydain. Y bwriad oedd codi melin strip newydd yn Swydd Lincoln, ond yn dilyn ymyrraeth y Llywodraeth bu'n rhaid ei hadleoli i Lynebwy. Ym 1936-38 cliriwyd yr hen weithfeydd ac adeiladwyd gwaith haearn, dur a thunplat integredig. Pan wladolwyd y diwydiant cyfan ym 1947, daeth glofeydd Cwmni Glynebwy yn eiddo i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Yn y flwyddyn honno roedd tri phwll yn dal i gynhyrchu glo, Waunlwyd, Cwmcarn a Marine. Fe'u caewyd ym 1964, 1968 a 1988.> Hyd at heddiw Adeiladwyd y llinell electrolytig gyntaf y tu allan i'r Unol Daleithiau yng Nglynebwy ym 1947-48. Ehangwyd y gweithfeydd Bessemer a'r gweithfeydd dur tân agored ac ym 1960 cyflwynwyd trawsnewidydd LD cyntaf Prydain yn y gweithfeydd. Cyn bo hir disodlodd y rhain holl weithfeydd Bessemer a thân agored y Deyrnas Unedig. Gosodwyd dwy linell dunio electrolytig arall ym 1961 a 1969, ac ychwanegwyd llinellau galfanu ym 1957 a 1969. Yn sgil y gwladoli ym 1967 cynhyrchwyd llai o ddur yng Nglynebwy ac fe gaeodd y gwaith dur ym 1978. Tan iddo gau yn 2002, roedd y gwaith yn canolbwyntio ar dunplat a galfanu, a dyma oedd y cynhyrchydd tunplat mwyaf Prydain.