: Adran Diwydiannol

Carthenni Caernarfon

Mark Lucas, 17 Ionawr 2020

Cyflwyniad i Garthenni Caernarfon

Mae carthenni Caernarfon yn wahanol i unrhyw decstilau Cymreig eraill, ac mae gan Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, ambell i enghraifft yn ei chasgliadau.

Beth sy'n neud Carthenni Caernarfon yn unigryw?

Mae’r carthenni hyn wedi’u gwneud o dri darn. Y darn canol yw’r un mwyaf amlwg. Ar y darn hwn mae’r geiriau ‘Cymru Fydd’ o dan lun o Goleg Prifysgol Aberystwyth, a’r geiriau ‘Cymru Fu’ dan lun o Gastell Caernarfon. Uwchben ac o dan y lluniau hyn mae dwy ddraig a thair cenhinen, ac mae gweddill y garthen wedi’i gorchuddio â chennin a chennin Pedr.

Cefndir Hanesyddol

Mae’r dyluniad gwreiddiol yn destun dadlau ymhlith ysgolheigion. Mae Ann Sutton, un o’r prif arbenigwyr ar decstilau Cymreig, yn credu mai’r gwehydd John Roberts o Gaernarfon wnaeth y garthen wreiddiol, ar gyfer Tywysog Cymru (Edward VII yn ddiweddarach) pan oedd yn ymweld â Chaernarfon i agor y gweithfeydd dŵr ym 1876. Ond yn ôl yr hanesydd D. G. Lloyd Hughes, agorwyd gweithfeydd dŵr Caernarfon ym 1868, nid 1876, ac mae’r carthenni yn dangos Coleg Aberystwyth gydag estyniad na chafodd ei gwblhau tan 1872. Wnaeth Tywysog Cymru ddim ymweld â Chaernarfon eto tan 1894; mae Hughes o’r farn mai Melin Wlân Pwllheli a greodd y dyluniad ym mis Chwefror 1895. Mae yna lun o staff Melin Wlân Pwllheli yn dal un o’r carthenni yn y 1890au. Mae ambell un arall allai fod wedi dylunio’r garthen – yn benodol Edward Davies-Bryan. Mae ei or-wyres ef yn dweud iddo gomisiynu Melin Wlân Pwllheli i gynhyrchu carthen i goffáu Coleg Aberystwyth yn y 1890au cynnar, gan ei fod yn gyn-fyfyriwr ac yn un o gymwynaswyr mawr y coleg.

Dadleuon ynghylch y Dyluniad

Cafodd y garthen Caernarfon olaf ei chynhyrchu ym Melin Wlân Trefriw ym 1969, i goffáu arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon. Mae’n bosibl fod rhodd ddiweddar i Amgueddfa Wlân Cymru wedi ateb y cwestiwn unwaith ac am byth – carthen wedi’i gwehyddu â llaw, un debyg i’r carthenni eraill ond gyda dau lun o Gastell Caernarfon a dim llun o Goleg Aberystwyth. Yn ôl y rhoddwr, roedd y garthen yn berchen i’w hen nain a thaid o Ddinbych, a fu farw yn y 1890au. Tybed os mai carthen fel honno gafodd ei chyflwyno i Dywysog Cymru ym 1868?

Beibl Tanddaearol

Ceri Thompson, 30 Hydref 2019

Tua thair milltir i'r gogledd-orllewin o Abertawe safai Glofa Mynydd Newydd. Dechreuwyd cloddio yno ym 1843, gyda'r gwaith yn wreiddiol yn nwylo'r Swansea Coal Company. Ym 1844 bu ffrwydrad anferth a laddodd bum gweithiwr ac anafu nifer.

Wedi'r ffrwydrad daeth y gweithwyr ynghyd i drafod sut i ochel rhag rhagor o farwolaethau. Dyma benderfynu cynnal cwrdd gweddi danddaear cyn dechrau ar eu gwaith. Roedd y rheolwyr yn frwd dros y syniad, a cafodd y glowyr ganiatâd i adeiladu capel tanddaearol.

Wedi adeiladu'r capel yn yr Haen Bum Troedfedd, dyma nhw'n prynu eu Beibl cyntaf a'i ddefnyddio yn y cwrdd cyntaf am hanner awr wedi chwech ar fore 18 Awst 1845. Cynhaliwyd cyfarfod bob bore Llun o hynny ymlaen.

Erbyn 1859 roedd y Beibl gwreiddiol yn cwympo'n ddarnau oherwydd lleithder y pwll. Prynwyd Beibl newydd, a'i gadw mewn blwch yn ystafell yr injan ger y capel i'w gadw mewn gwell cyflwr. Ond un tro, gyda'r 'pregethwr' yn mynd i hwyl, tarodd ei ddwrn ar glawr y Beibl nes torri'r beindin a gwasgaru'r tudalennau dros lawr y capel. Ym 1899 cyflwynwyd Beibl newydd gan Dr McRichie, oedd ar ymweliad o'r Alban. Yr un flwyddyn, disgrifiwyd y capel tanddaearol gan newyddiadurwr o gylchgrawn Sunday:

"Cloddiwyd y glo o'r wythïen ar ochr chwith y ffordd gan greu siambr oddeutu 16 troedfedd o hyd a 6 throedfedd o led. Ffurfiwyd y waliau yn rhannol o foncyffion pinwydd bychan, garw gyda'r wythïen lo drwchus, gyfoethog yn ymwthio i'r golwg rhyngddynt yma ac acw. Mae'r to'n fygythiol o isel uwch ein pennau, ond o garreg galed, lefn wedi'i gwyngalchu nes edrych fel nenfwd artiffisial. Wrth gamu i'r Capel rydych yn sylwi bod cynhalbyst y pwll ar y naill ochr, ac estyll pren garw yn gyson rhyngddynt fel seddi."

Roedd lle i gynulleidfa o gant gyda desg bren uchel yn bulpud, a gan nad oedd nwy yn y lofa cai'r capel ei oleuo gan ganhwyllau.

Yn 2019, rhoddwyd y Beibl olaf i gael ei ddefnyddio yn y capel tanddaearol i Big Pit. Prynwyd y Beibl hwnnw ym 1904 ac ynddo mae'r geiriau:

‘At wasanaeth cyfarfod Gweddi gynhelir yn y 5 troedfedd (Haen) yn Nglofa y Mynydd Newydd ar bob boreu Llun pan fydd y gwaith yn gweithioo. Dechraeuodd y waith hon Tachwedd 28 fed yn y flwyddyn 1904. Dyddiedig Awst 9 fed 1915.’

Ym 1924, wedi i'r lofa newid dwylo a chau am gyfnod byr, cynhaliwyd Cymanfa. Argraffwyd rhaglen ar gyfer y diwrnod gyda'r teitl:

‘Rhestr yr Emynau at Wasanaeth Gymanfa Bregetan Glofa Mynydd Newydd Awst 4ydd 1924 Er Dathlu Fedwar ugain Mlwyddiant y ‘Cwrdd Gweddi’ tanddaerol’

Byddai'n ddiddorol gwybod os yw'r rhaglenni yma yn dal ar glawr.

Ym 1929 cyhoeddwyd erthygl yn y Radio Times ar y capel tanddaearol, a darlledwyd gwasanaeth oddi yno gan y BBC ar ddydd Sul 13 Hydref.

Caeodd Glofa Mynydd Newydd dros dro ym 1932, cyn ailagor fel y Mynydd Newydd Colliery Company ym 1935 gan gyflogi 76 o ddynion. Caewyd drysau'r lofa am y tro olaf gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol ym 1955.

Roedd tad-cu'r rhoddwr yn gweithio yn y lofa yn y dyddiau olaf, ac fe aeth i'r capel i chwilio am y Beibl. Roedd yna lyfr emynau hefyd, ond dim ond y Beibl oedd yn dal yno i'w achub o'r pwll. Ei fab, John Moelwyn Thomas, oedd yn gweithio yng Nglofa Garn Goch, etifeddodd y Beibl a byddai'n mynd ag ef i sawl Gala Glowyr a digwyddiadau eraill.

Rhoddwyd y cofnod pwysig hwn o hanes cymdeithasol a diwydiannol Cymru i Big Pit gan y teulu Thomas yn 2019. Beibl 1904 yw hwn, yr olaf i gael ei ddefnyddio yng Nglofa Mynydd Newydd. Yn rhyfedd iawn, llun o Feibl gwahanol oedd yng nghyhoeddiad Amgueddfa Cymru 'Welsh Coal Mines' (bellach allan o brint) wedi'i ddisgrifio fel y Beibl tanddaearol. Nid hwnnw yw'r Beibl sydd yn awr ym meddiant yr Amgueddfa, ac efallai taw un o'r Beiblau cynharach oedd hwnnw. Os felly, mae'n rhaid bod un arall o Feiblau Mynydd Newydd mewn dwylo preifat.

Brethyn Llwyd

Mark Lucas, 15 Hydref 2019

Breuddwyd Lloyd George

‘I should like to see a welsh army in the field. I should like to see the race that faced the Norman for hundreds of years in struggle for freedom, the race that helped to win Crecy, the race that fought for a generation under Glyndwr against the greatest captain in Europe. I should like to see that race give a good taste of their quality in this struggle in Europe and they are going to do it’

Ar 29 Medi 1914 ffurfiwyd y Gweithgor Cenedlaethol Cymreig i recriwtio Corfflu Cymreig o 40,000 i 50,000 o ddynion. Byddai hwn yn Gorfflu unigryw Gymreig, ac ategwyd hyn gan anogaeth swyddogion a phosteri recriwtio Cymraeg ei hiaith.

Diffyg Offer

Gyda Byddin Prydain yn tyfu’n gyflym, buan oedd prinder lifrai ac offer. I ddatrys y broblem , yn Hydref 1914 penderfynodd y Gweithgor atgyfnerthu hunaniaeth genedlaethol y Corfflu Cymreig drwy agor tendr i felinau gwlân Cymru am lifrai o ‘Frethyn Llwyd’ traddodiadol.

David Morgan o Gaerdydd a cai’r deunyddiau i gyd eu hanfon i’w swyddfeydd yng Nghaerdydd cyn cael eu troi’n lifrau gan Messrs Masters. Roedd dirfawr angen y cytundebau yma ar ddiwydiant gwlân Cymru, oedd yn dioddef o ganlyniad i anfodlonrwydd gweithwyr a chystadleuaeth melinau mawr gogledd Lloegr.

Problemau cynhyrchu

Cafwyd problemau cyflenwi o’r cychwyn cyntaf. Caiff Brethyn Llwyd ei gynhyrchu drwy gyfuno gwlân defaid du a gwyn. Roedd gan bob melin ei lliw llwyd unigryw ei hun ac felly roedd yn rhaid anfon samplau at y Gweithgor i gytuno ar y lliw.

Cyn cyrraedd Caerdydd, cai’r brethyn ei anfon o’r melinau i Fryste i’w drin a’i orffen, ac ychwanegai hyn at gost ac amser cynhyrchu set o lifrai. Roedd cynhyrchu siaced o Frethyn Llwyd yn ddrytach na’r khaki draddodiadol, ac yn costio bron i £1 o’i gymharu â 14s 6d am siaced khaki.

Paratoi at ryfel

Erbyn 1915 roedd y melinau yn paratoi am archebion Brethyn Llwyd mawr drwy ddiweddaru’u peiriannau. Adeiladwyd sied wehyddu newydd ym Melin Cambrian, Dre-fach Felindre (Amgueddfa Wlân Cymru erbyn heddiw) a buddsoddodd melinau eraill mewn staff ac offer newydd. Yn Chwefror 1915 honnai David Lewis o Felin Cambrian y gallai gynhyrchu 3,500 llathen o frethyn yr wythnos – digon ar gyfer 1,200 o lifrai.

Diwedd y Brethyn Llwyd

Yn anffodus, roedd y datblygiadau yma’n rhy hwyr i achub y cytundeb. Oherwydd y gost ychwanegol a chyflenwad parod o frethyn kakhi, dim ond 8,440 o lifrau Brethyn Llwyd a archebwyd gan y Gweithgor. Er i berchnogion y melinau lythyru’r Gweithgor yn ymbil am archebion, ofer fu’r ymdrech.

Ni welwyd Brethyn Llwyd ar faes y gad erioed, ond oherwydd eu bod yn para’n dda, cawsant eu hailddefnyddio droeon tan ddechrau mis Tachwedd 1916 gan y lluoedd wrth gefn yng Ngwersyll Bae Cinmel. Yn Awst 1915 daeth y Gweithgor Cenedlaethol Cymreig dan ofal y Swyddfa Ryfel a gyda hyn, aildrefnwyd y lluoedd fel y 38ain Adran Gymreig, a dyna ddiwedd ar y freuddwyd o greu Corfflu Cymreig.

Cyflewni’r Cynghreiriaid

Yn ogystal â’r cytundeb i gynhyrchu lifrau Brethyn Llwyd, bu melinau gwlân ar draws Cymru hefyd yn cynhyrchu blancedi ar gyfer y fyddin. Roedd yr archeb am 15,000 o flancedi a enillodd Ben Evans o Abertawe ymhlith y mwyaf.

Enillodd cynhyrchwyr gwlân Cymru sawl cytundeb o dramor hefyd, ac ym 1917 archebodd Byddin Romania gyflenwad mawr o liain Cymreig. Darparodd diwydiant hosanau gogledd Cymru 300,000 pâr o ’sanau i luoedd y cynghreiriaid yn ystod y rhyfel, ond dim ond y cynhyrchwyr mawr wnaeth elwa o hyn.

Prinder Gweithwyr

Wrth i ddynion ymrestru yn y fyddin roedd cadw gweithwyr yn y melinau gwlân yn broblem. Yn wahanol i felinau Lloegr, dynion fyddai melinau Cymru yn eu cyflogi’n bennaf, ac un gweithiwr i bob gwŷdd. Wedi i’r gweithwyr fygwth streicio dros gyflog uwch, camodd y Swyddfa Ryfel i’r adwy gan gytuno i gyflog uwch, ond gan fynnu cynhyrchiant uwch hefyd.

Byddai perchnogion melinau yn mynychu tribiwnlysoedd i ddadlau na ddylai eu gweithwyr gael eu hymrestru i’r fyddin oherwydd na allent gael gweithwyr yn eu lle. Roedd menywod yn ffafrio gwaith yn y ffatrïoedd arfau a diwydiannau trwm eraill, oedd yn talu’n well na’r melinau gwlân.

Gwŷr y gwŷdd yn y ffosydd

Gwirfoddolodd a gorfodwyd nifer o weithwyr y melinau i ymrestru yn y fyddin. Roedd Willie Evans yn gweithio ym Melin Cambrian, Drefach Felindre ond ymunodd â’r magnelwyr brenhinol gan ymladd ar Ffrynt y Gorllewin ac yn Rwsia. Dychwelodd Willie i Felin Cambrian wedi’r rhyfel.

Gwehydd ym Melin Ogof, Cwmpencraig oedd David Emlyn Jones, a cafodd ei orfodi i ymuno â’r Gatrawd Gymreig ym 1917. Lladdwyd David tra’n wyliwr ar Ffrynt y Gorllewin ar 12 Rhagfyr 1917. Gadawodd bedwar plentyn, gan gynnwys baban na welodd ei dad erioed. Cyn i’w lythyr Cymraeg olaf gyrraedd adref, roedd ei wraig wedi derbyn llythyr Saesneg y Swyddfa Ryfel yn cadarnhau ei farwolaeth.

Diffodd y tân, cynnau fflam

'Er i sawl perchennog wneud elw mawr o’r cytundebau yn ystod y rhyfel, prin oedd y rhai geisiodd ddefnyddio’r arian i diogelu dyfodol ariannol eu melinau. Buddsoddwyd yr arian yn hytrach mewn cyfrifon banc a bythynnod glan-môr'

Cyfieithiad o waith Geraint Jenkins, 1967, The Welsh Woollen Industry pp 278

Wedi’r rhyfel, gwerthodd y llywodraeth 12 miliwn o droedfeddi o liain dros ben ar y farchnad agored am brisiau chwerthinllyd o isel. Gorfododd hyn i’r cynhyrchwyr ostwng eu prisiau. Ym 1916 roedd crysau lliain yn gwerthu am 52s 6d am ddeuddeg; erbyn 1923 roedd y pris wedi disgyn i 38s. Caeodd 21 o ffatrïoedd yn Dre-fach Felindre a llosgodd saith i’r llawr, gan gynnwys Melin Cambrian. Roedd nifer yn amau i’r tanau gael eu cynnau yn fwriadol, ond chafodd hyn mo’i brofi.

Yn anffodus, does dim un set o lifrai Brethyn Llwyd wedi goroesi, a’r unig esiampl yw’r samplau a anfonwyd gan y cynhyrchwyr at y Gweithgor i ddewis y lliw terfynol. Does neb yn gwybod bellach beth oedd y penderfyniad. Heddiw, mae’r samplau yn rhan o gasgliad Corfflu Byddin Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yama

Ceri Thompson, 27 Medi 2019

Yn saith mlwydd oed, symudodd Sakubei Yamamoto (1892–1984) gyda’i deulu i byllau glo rhanbarth Chikuho yn Kyushu. Dechreuodd fel gof prentis mewn pwll glo pan oedd yn ddeuddeg oed. Gweithiodd fel gof pwll glo a glöwr tan ei fod yn 63 oed. Wedi hynny, death yn swyddog diogelwch yn y pyllau glo, a dyna pryd y dechreuodd baentio ei atgofion o’r diwydiant.

Prin oedd yr addysg ffurfiol a gafodd, ond ers ei ugeiniau cynnar bu’n cadw llyfrau nodiadau a dyddiaduron, a gafodd ddylanwad ar ei baentio’n ddiweddarach.

“Mae’r yama [enw’r glowyr am y pyllau glo] yn diflannu,gan adael 524 o fynyddoedd rwbel yn rhanbarth Chikuho; a dydw innau ddim mor ifanc ag y bues i. Rydw i wedi penderfynu gadael rhywfaint o’r gwaith a’r teimladau o gyfnod yr yama ar gyfer fy wyrion ac wyresau. Byddai’n gyflymach ysgrifennu rhywbeth ar bapur, ond ar ôl rhai blynyddoedd, pwy a ŵyr, efallai y byddai’r nodiadau’n cael eu taflu i’r bin pan fydd rhywun yn glanhau’r tŷ. Ond gyda lluniau, mae modd cymryd cymaint i mewn gydag un cipolwg – rydw i wedi penderfynu paentio.”

Yn 2011, death paentiadau a darluniau Sakubei Yamamoto o’r pyllau glo yn rhan o raglen Cof y Byd UNESCO

Mae'r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar ddetholiad bach o'i gasgliad o ddarluniau a phaentiadau. Maent yn Japaneaidd iawn o ran arddull, ond byddai unrhyw löwr o Gymru yn eu hadnabod hefyd.

Cerbydau Cymru

Ian Smith, 17 Medi 2019

Pan fyddwch chi’n ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, bydd tua 2,000 o wrthrychau ar gael i’w gweld. Ond, cyfran fach o’n casgliad yw’r rhain!

 

Er ein bod yn ailwampio rhannau o’r Amgueddfa bob hyn a hyn, mae llawer o wrthrychau sydd byth yn cael eu harddangos. Pam felly ydyn ni’n casglu'r gwrthrychau hyn, meddech chi? Wel, mae llawer o resymau dros beidio arddangos gwrthrych. Mae curaduron yn casglu pethau sy’n bwysig i’n treftadaeth, ac yn aml iawn mae'r pethau hyn mewn cyflwr gwael, felly gall fod angen llawer o waith cadwraeth drud ar eitem cyn i ni allu ei chyflwyno i'r cyhoedd. Wrth gasglu gwrthrychau, ein blaenoriaeth yw eu diogelu ac atal unrhyw ddirywiad yn eu cyflwr. Mae’n rhaid i waith cadwraeth ar gyfer arddangosfeydd aros tan bod cyllid ar gael, yn enwedig gwrthrychau mawr fel ceir a bysiau. Yng Nghasgliad Diwydiant Amgueddfa Cymru, mae llawer o ddulliau gwahanol o deithio ac mae'n rhaid bod gan bob un gysylltiad cryf â Chymru – naill ai drwy’r broses gynhyrchu, y dyfeisiwr neu eu defnydd. Cedwir y rhai nad ydynt yn cael eu harddangos yn Nantgarw, ger Caerdydd, nes bod cyfle iddyn nhw gael eu harddangos.

O hofrenyddion i hersiau ceffyl a cherbydau trydan i injans ffordd, weithiau mae’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw yn ein hatgoffa o focs teganau plentyn – ond ar raddfa fawr!

Mae gwrthrychau bregus yn cael eu storio mewn bocsys di-asid neu gewyll arbennig, ond sut mae storio bws neu hofrennydd? Wrth gwrs, nid oes modd eu cadw mewn bocsys, ond yn hytrach cânt eu gosod mewn rhes yn debyg i faes parcio archfarchnad, wedi’u trefnu yn ôl maint a siâp. Gall grwpiau drefnu ymweld â’r storfeydd a gallwch weld bod rhai o’r cerbydau mewn cyflwr go wael wrth iddynt aros am ymweliad gan y tîm cadwraeth.

Yn y cyfamser, yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, gallwch weld amrywiaeth o ddulliau teithio, ac mae hanes cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru i’w gweld yn ein Horiel Rwydweithiau. Mae gan yr oriel hon lu o fodelau o gerbydau o bob math, ac arddangosfeydd digidol mawr yn dangos sut mae’r rhwydweithiau trafnidiaeth wedi tyfu – o lwybrau’r porthmyn i’r M4.

Ychydig tu allan i’r Oriel Rwydweithiau, y mae beic tair olwyn ‘cymdeithasol’ o’r 1880au a cherbyd modur Benz ‘Duc’ a gofrestrwyd yn gyntaf yn Sir Fynwy ym 1904.

Roedd gan y beic cymdeithasol seddi wrth ymyl ei gilydd, ac roedd yn ffefryn ymysg cariadon! Dr Cropper o Gas-gwent oedd perchennog y Benz, a gadwodd y cerbyd nes ei roi i’r Amgueddfa Wyddoniaeth ym 1910. Daeth o dan ofal Amgueddfa Cymru ym 1911 ac ar ôl cael ei adfer yn llawn, cymerodd ran mewn nifer o ralïau rhwng Llundain a Brighton.

Uwchben, mae un o brif atyniadau'r Amgueddfa. Mae lle i gredu mai’r ‘Robin Goch’ oedd yr awyren gyntaf i hedfan yng Nghymru. Cafodd ei hadeiladu gan Charles Horace Watkins, awyrennwr amatur, oddeutu 1908. Mae ganddi ffrâm bren wedi’i chlymu gyda weiren biano. Mae’n amlwg mai gwaith llaw yw caban y peilot gan mai sedd cegin yw sedd y peilot, a nwyddau cartref yw’r offerynnau. Yn wir, byddai Charles wedi llywio ei deithiau gan ddefnyddio amserwr wyau – gan droi’r amserwr drosodd, hedfan mewn llinell syth nes i’r tywod redeg allan, wedyn troi 90 gradd a hedfan yn syth ymlaen eto, ac ailadrodd hyn ddwywaith nes ei fod yn cyrraedd y man cychwyn! I’w helpu i fesur ei uchder wrth lanio, roedd dau ddarn o linyn gyda phwysau arnynt yn hongian o dan yr awyren, un 20 troedfedd o hyd ac un 10 troedfedd o hyd. Pan fyddai’r un cyntaf yn cyffwrdd â'r ddaear roedd yn gwybod ei fod 20 droedfedd o’r ddaear, a phan fyddai’r ail yn taro, roedd 10 droedfedd oddi tano.

Nid yw popeth yn yr adran hon dros gan mlwydd oed. Fe welwch chi ddwy esiampl o’r Sinclair C5 – un ar gyfer ei arddangos, ac un i’r cyhoedd gael eistedd ynddo a dod yn gyfarwydd ag e. Pan fydd y tywydd yn caniatáu, byddwn yn symud y model i’r ardd lle gall unrhyw ymwelydd roi cynnig arni. Mae'r C5 wedi’i bweru gan bedalau, gyda batri ategol ar gyfer mynd lan bryniau neu os yw’r gyrrwr yn blino. Gyda chyflymdra uchaf o oddeutu 15mya, cynhyrchwyd y C5 yn gyfrinachol ym 1985 yn ffatri Hoover ym Merthyr. Roedd yn gyfrinach mor fawr, cafodd twnnel ei adeiladu o dan y ffordd rhwng y ffatrïoedd i stopio pobl rhag gweld y cynllun. Dim ond cynlluniau eu cydrannau eu hunain oedd cynhyrchwyr yn cael eu gweld, yn hytrach na chynllun y car cyfan. Roedd y cyhoedd yn disgwyl yn eiddgar am lansiad y car, ond bu’n fethiant llwyr am fod pobl yn meddwl ei fod yn rhy fach i’w yrru’n ddiogel mewn traffig trwm. Dyma gysyniad campus a oedd flynyddoedd o flaen ei oes, ac mae’n bosibl y caiff ei weld eto ryw ddydd pan fydd llwybrau seiclo yn fwy cyffredin.

Mae gennym lawer o gerbydau sydd wedi dod yma ar gyfer arddangosfeydd dros dro. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael carafán a nifer o gychod, yn ogystal ag ambell i gerbyd trydanol cysyniadol, ond un o’m ffefrynnau i yw’r car tegan plentyn

Mae’r Austin J40 sef car pedal glas a wnaed ym Margoed ym 1959 yn ein Horiel ‘Gwnaed yng Nghymru’. Ym 1947 pasiodd Senedd San Steffan ddeddf a oedd yn cydnabod nad oedd modd i lawer o lowyr a oedd yn dioddef o pneumoconiosis (sef llwch glo yn yr ysgyfaint) weithio dan ddaear rhagor. Felly awgrymwyd bod ffatrïoedd newydd yn cael eu sefydlu i gynnig gwaith ysgafnach, glanach, i gyflogi’r dynion hyn. Roedd ffatri Austin ym Margoed yn un enghraifft o’r rhain.

Agorodd y ffatri ym 1949 a stopiodd wneud y ceir bach hyn ym 1971, ond rhwng y dyddiau hynny, cafodd oddeutu 36,700 eu cynhyrchu!

Mae mynediad am ddim i bob un o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru. Gallwch ymweld â'r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol drwy apwyntiad; cysylltwch â nhw ar 029 2057 3560 i drefnu.