Hanes

Dazu mewn Manylder: Pum Cerddor

17 Ionawr 2011

Mae'r darn hwn yn dangos pum cerddor ar falconi yn chwarae (o'r chwith i'r dde) yaogu (drwm am y canol), xiao (ffliwt a chwaraeir o'i ben), di (ffliwt a chwaraeir o'i ochr), zhuban (clapiwr bambŵ) a changgu (drwm hir siâp awrwydr).

Cafodd y grŵp yma o gerddorion yn chwarae ar falconi ei ddatgloddio mewn bedd yn Moerpo yn sir Dazu. Roedd i fod i ddiddanu perchennog cyfoethog y feddrod yn y bywyd nesaf. Llinach y Song [OC960-1279]

Dazu mewn Manylder: Bwdha Sakyamuni

17 Ionawr 2011

Dazu

Sakyamuni ['Gŵr doeth llwyth y Sakya'] yw'r enw a roddir ar y Bwdha hanesyddol. Ei enw bedydd oedd Siddhartha Gautama, a ganwyd ef yn yr ardal a elwir heddiw yn Nepal. Roedd yn byw rhwng 563 a 483CC mwy na thebyg.

Gallwn ni weld sawl elfen wahanol o'r ddelwedd nodweddiadol o Bwdha Sakyamuni Buddha yma — steil ei wallt, yr 'urna' ('y drydedd lygad'), ei glustiau, ystum ei ddwylo (mudra) a'r gwaelod o flodyn lotws.

Llofnodion o Alldaith Capten Scott i'r Antarctig ym 1910

12 Tachwedd 2010

Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910

Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910

Alldaith Antarctig Brydeinig Scott

Roedd Alldaith Antarctig Brydeinig Scott ym 1910-13 wedi dal dychymyg y cyhoedd ym Mhrydain, yn enwedig wedi i long Scott, y Terra Nova, ddychwelyd i Gaerdydd o'r Pegwn heb Scott a phedwar o'i gymdeithion. Roedd galw mawr am lofnodion aelodau'r alldaith.

Mae tair eitem yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru sydd, gyda'u gilydd yn cynnwys llofnodion 27 o swyddogion, gwyddonwyr a chriw alldaith Scott; dau wedi'u dyddio o ddechrau'r alldaith ac un o'i diwedd. Yn eu plith mae llofnodion Scott, Wilson, Bowers ac Oates fu farw ar y daith yn ôl o Begwn y De. Mae'n nodedig nad yw llofnod y Cymro Edgar Evans o Rossili yng Ngŵyr, y cyntaf i farw ar y daith yn ôl o'r Pegwn, i'w weld ar y dogfennau o ddechrau'r alldaith; Is-swyddog yn unig ydoedd.

Dechrau o Gaerdydd

Mae llofnodion y canlynol yn ategu ffotograff o'r Terra Nova, swyddogion y llong a swyddogion eraill:

E. L. Atkinson
Y llawfeddyg Edward Leicester Atkinson, RN (1881-1929). Prif Lawfeddyg y Parti a pharasitolegydd. Atkinson arweiniodd y daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

W. W. Archer
W.W. Archer, RN (Wedi ymddeol). Prif Stiward, Parti'r Lan.

G. Murray Levick
Y llawfeddyg George Murray Levick, RN (1877-1956). Llawfeddyg Parti'r Gogledd ar yr alldaith a oroesodd am saith mis drwy'r gaeaf mewn ogof ia. Astudiodd gytref Pengwiniaid Adélie ym Mhenrhyn Adare ac ysgrifennodd lyfr ar bengwiniaid yr Antarctig yn ddiweddarach.

L. E. G. Oates
Captain Lawrence Edward Grace Oates (1880-1912), 6ed Dragŵniaid Inniskilling. Yn dioddef yn enbyd gan effaith ewinrhew ar ei draed, bu farw Oates ar y daith yn ôl o Begwn y De ar 16 Mawrth 1912. Ef sy'n enwog am ddweud wrth ei gymdeithion, Scott, Wilson a Bowers, "I am just going outside and may be some time" wrth adael y babell a diflannu i'r storm eira.

E. R. G. R. Evans
Is-gapten Edward (Teddy) Ratcliffe Garth Russell Evans, RN (1881-1957). Dirprwy Bennaeth yr alldaith. Roedd Evans yn allweddol yn ennill cefnogaeth a nawdd Cymreig ar gyfer yr alldaith gan gymryd yr awenau wedi i Scott farw.

R. Scott
Capten Robert Falcon Scott, CVO, RN (1868-1912). Arweinydd yr Alldaith. Scott fu'n arwain Alldaith Discovery 1901-04 y a dychwelodd i arwain Alldaith y Terra Nova. Cyrrhaeddodd Begwn y Gogledd ar 16 Ionawr 1912 gyda Wilson, Bowers, Oates ac Edgar Evans. Bu farw'r pump ar y daith yn ôl.

Y Terra Nova yn Hwylio tua'r Antarctig

Llythyr wedi'i ddyddio 17 Mehefin 1910, Ar y Môr, oddi wrth Teddy Evans at P. Lowry Rusden o'r Mercantile Pontoon Co Cyf, Doc y Rhath, Caerdydd ar bapur gyda phennawd yr Alldaith Antarctig Brydeinig:

".. Daliasom awel deg yn gynnar bore ddoe ac rydym wedi bod yn hwylio ar gyflymder o fwy nag 8 not byth er hynny. Credaf na fydd yr un ohonom yn anghofio Caerdydd.

Llofnodion

Edward R. G. R. Evans
Is-gapten Edward (Teddy) Ratcliffe Garth Russell Evans, RN (1881-1957). Dirprwy Bennaeth yr alldaith. Bu Evans yn cynllunio ei Alldaith Antarctig ei hun gyda chefnogaeth a nawdd Cymreig, pan glywodd am gynlluniau Scott. Cafodd yrfa forwrol enwog yn ddiweddarach gan gael ei urddo'n Arglwydd Mountevens ym 1946.

D. G. Lillie
Dennis G. Lillie MA. Biolegydd Parti'r Llong

Victor Campbell
Is-gapten Victor Lindsey Arbuthnot Campbell, RN (1875-1956). Arweinydd Parti'r Gogledd oedd wedi'i sefydlu i ddechrau ym Mhenrhyn Adare yng Ngwlad Victoria. Aeth chwe gŵr y parti Gogleddol i drafferthion i'r de ar yr arfordir gan oroesi am saith mis drwy'r gaeaf mewn ogof ia heb lawer o fwyd ac yn eu dillad haf.

Apsley Cherry-Garrard
Apsley George Benet Cherry-Garrard BA (1886-1959). Sŵolegydd Cynorthwyol. Talodd Cherry-Garrard £1000 i ymuno â'r Alldaith. Aeth yntau gyda Wilson a Bowers ar siwrnai yn y gaeaf i gasglu wyau Pengwiniaid Ymerodrol a ddisgrifiodd yn ddiweddarach yn ei lyfr, The worst journey in the world. Roedd yn rhan o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

H.Rennick
Is-gapten Henry E. de P. Rennick, RN. Prif Swyddog ar y Terra Nova.

E. W. Nelson
Edward W Nelson (1883-1923). Biolegydd, Parti'r Lan.

Edward A. Wilson
Dr Edward Adrian Wilson (1872-1912). Prif Wyddonydd a Sŵolegydd, Parti'r Lan. Bu Wilson gyda Scott ar Alldaith y Discovery 1901-4. Roedd yn artist a sŵolegydd medrus a thalentog ac yn ffrind agos i Scott. Bu farw gyda Scott a Bowers yn eu pabell ar Silff Ia Ross wrth ddychwelyd o Begwn y Gogledd ym Mawrth 1912.

E. L. Atkinson
Y Llawfeddyg Edward Leicester Atkinson, RN (1881-1929). Llawfeddyg y Prif Barti a pharasitolegydd. Atkinson arweiniodd y daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

H. R. Bowers
Is-gapten Henry Robertson Bowers, Royal Indian Marines (1883-1912). Cafodd Bowers ei roi yn ngofal y storfeydd gan Scott. Roedd yn aelod o'r Parti Pegynol olaf a bu farw gyda Scott a Wilson yn eu pabell ar Silff Ia Ross wrth ddychwelyd o Begwn y Gogledd ym Mawrth 1912.

Dychwelyd i Gaerdydd

Llofnodion swyddogion a chriw RYS Terra Nova ar eu dychweliad i Gaerdydd Mehefin 14/13 (Sadwrn). Stamp Un Geiniog Seland Newydd, "Victoria Land" wedi'i brintio drosto ac wedi ei ffrancio â "British Antarctic Expedition Ja 18 [19]13".

Mae'r llofnodion ar y ddalen hon yn ddiddorol gan taw llofnodion y criw ydynt, ar wahân i bedwar swyddog a gwyddonydd, sy'n awgrymu y cai'r criw eu cyfri'n enwog ar ddychweliad yr alldaith.

W. W. Archer
W Archer, RN (Wedi ymddeol). Prif Stiward, Parti'r Lan.

A. Cherry-Garrard
Apsley Cherry-Garrard. Sŵolegydd Cynorthwyol.

E. W. Nelson
Edward W Nelson. Biolegydd.

E. L. Atkinson
Y Llawfeddyg Edward L Atkinson RN. Llawfeddyg y Prif Barti a pharasitolegydd.

Wm W. Williams
C.E.R.A. 2il Ddosbarth William W. Williams, RN. Prif Beiriannydd, Parti'r Llong.

W. A. Horton
E.R.A. 3ydd Dosbarth William A. Horton, RN. Is Beiriannydd, Parti'r Llong.

T. S. Williamson
Is-swyddog Dosbarth 1af Thomas S. Williamson, RN. Parti'r Lan. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4. Roedd yn aelod o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

H. Dickason
Llongwr Abl Harry Dickason, RN. Parti'r Gogledd.

A. Balson
Prif Longwr Albert Balson, R.N. Parti'r Llong.

W. H. Neale
Stiward W.H. Neale. Parti'r Llong.

F. Parsons
Is-swyddog Dosbarth 1af Frederick Parsons, RN. Parti'r Llong.

Victor Campbell
Is-gapten Victor Lindsey Arbuthnot Campbell, RN (1875-1956). Arweinydd Parti'r Gogledd

Mortimer McCarthy
Llongwr Mortimer McCarthy. Parti'r Llong.

Wm L. Heald
Is-swyddog Dosbarth 1af William L. Heald, RN (Wedi ymddeol). Parti'r Llong. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4.

W. Lashly
Prif Daniwr William Lashly, RN (1867-1940). Parti'r Lan. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4. Roedd yn aelod o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ymgartrefodd Lashly yng Nghaerdydd, gan weithio fel swyddog tollau tan iddo ymddeol i Hampshire ym 1932.

H. Pennell
Is-gapten Harry Lewin Lee Pennell, RN (1882-1916). Parti'r Llong, Mordwywr.

F. E. Davies
Prif Saer Llongau Francis E.C. Davies, RN. Saer, Parti'r Llong.

A. S. Bailey
Is-swyddog 2il Ddosbarth Arthur S. Bailey, RN. Parti'r Llong.

J. Lees
Llongwr Abl Joseph Lees, RN. Parti'r Llong.

Cymry'r Antarctig

29 Hydref 2010

Stori'r Is-swyddog Edgar Evans o Rhosili yng Ngŵyr yw un o'r mwyaf teimladwy i godi o Alldaith Antarctig Brydeinig Scott ym 1910-13. Evans, ag yntau'n un o'r tîm o bump i gyrraedd Pegwn y De gyda Scott ei hun, oedd y cyntaf i farw ar y daith yn ôl o'r Pegwn.

Yma byddwn ni'n ymchwilio i gysylltiadau Cymreig eraill â'r Antarctig — daearegwr o Sain Ffagan a sŵolegydd o Saint-y-brid a benodwyd yn ddiweddarach yn Gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Sir Tannat William Edgeworth David (1858-1934)

Sir Tannat William Edgeworth David (1858-1934)

Daearegwr o Gymru ym Mhegwn Magnetig y De

Ganwyd y daearegwr T.W. Edgeworth David ym 1858 yn Sain Ffagan yn fab i reithor. Astudiodd ddyddodion rhewlifol yn ne Cymru cyn symud i Awstralia ym 1882 i ymuno ag Arolwg Daearegol New South Wales. Ym 1891 cafodd ei benodi'n Athro Daeareg ym Mhrifysgol Sydney gan ddod yn un o wyddonwyr enwocaf Awstralia.

Ymunodd David ag alldaith Ernest Shackleton, Nimrod, ym 1907. Ym mis Mawrth 1908 yn 50 oed, arweiniodd esgyniad cyntaf Mynydd Erebus, llosgfynydd byw ar Ynys Ross. Ef, ynghyd â Douglas Mawson ac Alistair Mackay oedd y cyntaf, ym mis Ionawr 1909, i gyrraedd rhanbarth Pegwn Magnetig y De. Cymerodd y siwrnai 2,028 cilomedr 122 o ddiwrnodau ac mae'n un o'r teithiau hiraf erioed ar sled heb gefnogaeth.

Llwyddodd i berswadio llywodraeth Awstralia i gyfrannu tuag at alldaith Scott ym 1910 ac fe'i cynorthwyodd i benodi daearegwyr o blith ei fyfyrwyr. Enillodd y Polar Medal ym 1910 a derbyniodd radd anrhydedd Prifysgol Cymru ym 1921.

Dilwyn John ac Ymchwil y Discovery

Dychwelodd llong Antarctig gyntaf Scott, Discovery, i'r cyfandir ym 1925 ar y cyntaf o fordeithiau ymchwil gwyddonol yng Nghefnfor y De i astudio bioleg y Môr ac effaith hela morfilod yn fasnachol ar boblogaeth morfilod. Parhaodd yr ymchwil hwn, a gaiff ei adnabod fel Ymchwil y Discovery, tan 1951.

Roedd David Dilwyn John (1901-95), o Saint-y-brid yn Sir Forgannwg, yn sŵolegydd fu ar dair o'r mordeithiau yma rhwng 1925 a 1935. Gweithiai'r gyntaf, ar Discovery, rhwng 1925 a 1927 yn y moroedd o amgylch De Georgia a'r Penrhyn Antarctig. Wedi hynny, treuliodd ddwy flynedd ar yr RRS William Scoresby ar alldaith marcio morfilod o amgylch De Georgia. Ym 1913-33 ef oedd Prif Wyddonydd Discovery II ar y gylchfordaith aeaf gyntaf o'r Antarctig.

Ym 1935 ymunodd John â staff yr Amgueddfa Brydeinig (Hanes Natur) fel Curadur Cynorthwyol Sŵoleg. Gadawodd ym 1948 i fod yn Gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a hynny hyd at 1968. Enillodd y Polar Medal ym 1941.

Dilwyn John

Dilwyn John

Cylch yr Orsedd

25 Gorffennaf 2010

Seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn y Castell, Aberystwyth, tua 1916.

Tyrfa enfawr yn gwylio seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn y Castell, Aberystwyth, naill ai adeg y Cyhoeddi yn 1914 neu yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun yn 1916.

Y Maen Chwŷf a Chylch yr Orsedd, Pontypridd

Y Maen Chwŷf a Chylch yr Orsedd, Pontypridd

Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Casnewydd a'r Cylch, 1987

Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, 1987 gyda Elerydd (W.J.Gruffydd) yn Archdderwydd a Gwyn Tre-garth yn arwain y canu ar y Maen Llog.

Aelodau newydd o'r Orsedd a urddwyd yn Abertawe, 1962

Ymgeisiwyr ifanc llwyddiannus (13-14 oed) yn arholiadau'r Orsedd a urddwyd yn aelodau yn Abertawe, 1962.

Gŵyl y Cyhoeddi

Mae'n rhaid cyhoeddi bod Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd yn ymweld â bro arbennig o leia flwyddyn a diwrnod ymlaen llaw. Yn ystod y seremoni bydd y Cofiadur yn darllen Sgrôl y Cyhoeddi a chyflwynir y copi cyntaf o Restr Testunau Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn ganlynol i'r Archdderwydd.

Pan gynhaliodd yr Arglwydd Rhys ymryson rhwng beirdd a cherddorion yng nghastell Aberteifi yn 1176 nodwyd i'r cyfarfod gael ei gyhoeddi ledled Cymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr a'r ynysoedd eraill, flwyddyn ymlaen llaw. Pan ail-sefydlwyd eisteddfodau ddiwedd y ddeunawfed ganrif penderfynwyd mabwysiadu'r drefn o gyhoeddi ymlaen llaw ac yn 1791 dewisodd Iolo Morganwg yntau gyhoeddi y byddai seremoni gyntaf Gorsedd y Beirdd yn cael ei chynnal ymhen blwyddyn a diwrnod ar Fehefin 21, 1792 ar Fryn y Briallu yn Llundain. Mae'r patrwm hwn wedi parhau hyd heddiw.

O gerrig mân i gerrig ffug

O fewn cylch Meini'r Orsedd y cynhelir yr Ŵyl Gyhoeddi a'r seremonïau gorseddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mae'n debygol fod beddfeini trawiadol Avebury yn Wiltshire a Dyffryn Golych yn ei gynefin wedi dylanwadu ar weledigaeth Iolo Morganwg o gylch meini derwyddol Celtaidd ac felly roedd cylch o feini â Maen Gorsedd yn ei ganol yn yr Orsedd gyntaf yn 1792. Fodd bynnag, wrth iddo geisio cyplysu'r Eisteddfod â'r Orsedd yng Nghaerfyrddin yn 1819 y cyfan oedd gan Iolo wrth law oedd dyrnaid o gerrig mân. Dim ond Beirdd oedd yn cael mentro i mewn i gylch cyfrin y meini.

Ym Morgannwg gwelwyd fod gorsedd naturiol o gwmpas y Maen Chwŷf, darn anferth o graig llechfaen, ger Eglwysilan, a chynhaliwyd sawl gorsedd yn enw Cadair Morgannwg arni yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ddiwedd y ganrif, er mwyn cael trefn ar bethau, aeth yr Arwyddfardd - Arlunydd Pen-y-garn, ati i lunio cynllun manwl o Gylch yr Orsedd a dilynwyd hwn yn Eisteddfod Caerdydd, 1899. Yn ôl y cynllun hwn roedd y maen tua'r dwyrain, y Maen Cyfamod a'r ddau Faen Porth i ffurfio siap y Nod Cyfrin. Am gyfnod bu'n ffasiynol i wisgo'r meini â deiliach derw ac uchelwydd.

I hwyluso cynnal seremonïau'r Orsedd ar y maes ei hun yn ystod wythnos yr Eisteddfod, penderfynwyd, yn 2004, defnyddio meini plastig ond realistig yr olwg.

Y Cylch yn ystod wythnos y Steddfod

Defodau bore Llun

Cyflwynir y Corn Hirlas i'r Archdderwydd a chroesewir y Celtiaid a chynrychiolwyr tramor eraill gan yr Orsedd. Bydd y Cofiadur yn coffáu'r Gorseddogion sy wedi marw yn ystod y flwyddyn a chenir emyn coffa. Yna daw defod urddo aelodau newydd trwy arholiad neu radd - i Urdd Ofydd neu Urdd Bardd, Cerddor neu Lenor.

Defodau bore Gwener

Cyflwynir y Flodeuged i'r Archdderwydd a pherfformir y Ddawns Flodau. Yna derbynnir aelodau newydd trwy anrhydedd i Urdd Derwydd yng Ngorsedd.

Urddo aelodau newydd

Mae tair Urdd yng Ngorsedd y Beirdd:

  • Urdd Ofydd: y wisg werdd. Bydd ymgeiswyr sy'n pasio Lefel 1 a 2 yn arholiadau'r Orsedd, mewn barddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth neu brofion i delynorion a datgeiniaid yn cael eu derbyn i'r urdd hon. Gellir urddo aelodau er anrhydedd am gyfraniad o safon cenedlaethol i'r wisg werdd hefyd. Urddwyd sawl aelod o'r teulu brenhinol, yn eu plith y Frenhines, Dug Caeredin, a'r Brenin Siôr i'r urdd hon.
  • Urdd Bardd, Cerddor neu Lenor: y wisg las. Ar ôl pasio arholiad terfynol yr Orsedd y ceir mynediad i'r Urdd hon. Gall y sawl sy wedi graddio mewn Cymraeg neu gerddoriaeth (ac sy'n gallu siarad Cymraeg) wisgo'r wisg las yn ogystal.  
    Ar fore dydd Llun yr urddir y rhain i'r Orsedd. Bydd yr Arwyddfardd a Cheidwad y Cledd yn mynd at borth y Cylch ac yn dal y Cleddyf ar ei draws a chael gan bob aelod newydd i osod ei law dde ar lafn y Cledd. Ar ôl eu hurddo arweinir hwy gan y Disteiniaid at Feistres y Gwisgoedd i'w harwisgo â phenwisg eu hurdd.
  • Urdd Derwydd - y wisg wen. Mae enillwyr y prif gystadlaethau - y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith yn cael eu hurddo yn awtomatig i'r Wisg Wen. Bydd eraill yn cael eu 'dyrchafu' yn Dderwyddon o'r wisg werdd neu'r wisg las. Bob blwyddyn hefyd bydd cymwynaswyr arbennig y genedl yn cael eu hanrhydeddu - yn eu plith cantorion ac actorion byd-enwog fel Bryn Terfel, Sian Phillips ac Ioan Gruffudd; enwogion fel Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig Rowan Williams a chwaraewyr rygbi a phel-droed enwog.

Roedd urddau gwahanol yng Ngorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792 ond pwysleisiai Iolo bod yr urddau yn gyfartal o ran statws. Erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd consýrn gwirioneddol am deilyngdod yr urddau a dechreuodd yr ysgolhaig, John Morris-Jones, feirniadu'r graddau oherwydd, meddai, 'derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru, ...'. Ar ôl hyn aethpwyd ati o ddifrif i arholi ymgeiswyr yn ofalus i godi safonau.