Maen magl a photel gwrach 16 Mehefin 2011 Wedi eich brathu gan gi cynddeiriog neu eich rheibio gan wrach? Swyn ar bapur yn erbyn rheibio, o Langurig, Maldwyn Pe bai ci cynddeiriog yn eich brathu chi neu wrach yn rhoi melltith arnoch chi, fyddech chi'n gwybod beth i'w wneud? Mor ddiweddar â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, roedd yn arfer cyffredin mewn rhai mannau yng Nghymru i bobl ddefnyddio gwahanol fathau o swynion a swynbethau i'w hiachau neu i'w diogelu yn erbyn ystrywiau gwrachod. Gallai'r rhain fod ar ffurf geiriau tebyg i weddi a fyddai'n cael eu hadrodd neu eu hysgrifennu ar ddarn o bapur cyn ei guddio'n ddiogel. Yn ôl y gred roedd gwrthrychau fel esgidiau neu gerrig hefyd yn dod â lwc. Maen magl Glain Nadredd, o Ben-tyrch, Morgannwg Y swynbeth carreg enwocaf yng Nghymru oedd y maen magl neu'r glain nadredd. Ym 1695 disgrifiodd Edward Lhuyd y rhain fel Cerrig y Drudion - sef cerrig y Derwyddon. Y gred oedd y byddent yn cael eu creu wrth i nadroedd roi eu pennau at ei gilydd, gan ffurfio rhyw fath o swigen o amgylch pen un ohonynt. Mae'r 'swigen' hon yn debyg i gylch gwydr fel yr un a gafwyd yn Nhwyn-y-tila, Caerllion, a chredir ei bod yn dod â lwc i bwy bynnag sy'n dod o hyd iddi. Credid hefyd ei bod yn feddyginiaeth ar gyfer afiechydon y llygad a byddai galw mawr amdani yn aml. Mae'r term maen, wrth gwrs, yn enw arall ar garreg a hen air yw magl am anhwylder ar y llygad, fel llefrithen. Roedd modd dabio'r dŵr a ddefnyddiwyd i wlychu'r garreg ar y man sâl, ond roedd y driniaeth a ddefnyddid amlaf yn golygu rholio neu rwbio'r garreg dros yr amrant. Arferai pobl ddefnyddio'r ymadrodd 'fel y glaim', a oedd yn llythrennol yn golygu 'fel y garreg', i olygu iach dros ben. Gwella'r gynddaredd Carreg y Gynddaredd, o Henllan, Ceredigion Amrywiad ar y maen magl yw'r llaethfaen, a oedd — yn ôl y sôn — yn gallu gwella'r gynddaredd. Yn ei gyfrol Folk-Lore of West and Mid Wales, soniodd Jonathan Ceredig Davies am laethfaen a oedd 'very much in request' oherwydd y gred ei bod yn gwella pobl a gafodd eu brathu gan gi cynddeiriog, a oedd yn broblem gyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Boed pwerau'r garreg yn rhai iachaol neu'n rhai ataliol, y gred oedd bod y bobl a ddefnyddiai'r garreg yn ddiogel rhag y gynddaredd. Soniodd Iolo Morgannwg iddo weld carreg fel hon yn Sir Benfro ym 1802, pan gyfarfu â dyn a oedd yn cerdded y wlad â charreg o'r fath gydag ef. Byddai'n crafu darn o'r garreg yn bowdwr y gellid ei doddi mewn diod, a'i werthu am bum swllt yr owns fel meddyginiaeth yn erbyn y gynddaredd. Potyn a photel gwrach Math gwbl wahanol o swynbeth yw potel gwrach. Edrychwch er enghraifft ar y jwg crochenwaith Bwcle yma o'r ddeunawfed ganrif — potel gwrach yw hon. Fe'i cafwyd wedi ei chladdu wrth wraidd hen ywen ger ffermdy Allt-y-Rhiw ger Llansilin, ym Mhowys. Yr hyn sy'n ddiddorol ynglŷn â'r jwg yw bod ei chwarter yn llawn o blwm, sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio mewn rhyw ffordd warchodol, neu fel ffordd o ddal neu amgáu ysbryd trafferthus mewn modd tebyg i'r esgidiau cuddiedig sydd yn ein casgliad. Gyda chredoau ynglŷn â dewiniaeth roedd y weithred o gau gwrthrych mewn potel neu botyn yn aml yn arwydd o fod wedi twyllo'r ysbryd aflan. Byddai'n cael ei ddefnyddio felly fel swynbeth gwarcheidiol. Mae llawer i stori am ysbrydion trafferthus yn cael eu 'diddymu' fel hyn, fel ysbryd 'Lady Jeffreys' a gafodd ei pherswadio i fynd i mewn i botel. Yna rhoddwyd corcyn yn y botel, ei selio a'i thaflu i'r pwll o dan y Bont Fer yn Llanidloes. 'Crinjars' neu ddynion hysbys Mr Evan Griffiths, crinjar o Langurig, sir Drefaldwyn, 1928 Medrai pobl a gafodd eu witsio hefyd ddilyn eu defodau eu hunain yn erbyn dewiniaeth trwy osod pethau miniog fel drain a phinnau mewn potel. Fel arfer byddent yn llenwi'r botel wedyn gyda lleisw'r dioddefwr cyn ei selio a'i berwi ar y tân neu ei chladdu o dan garreg yr aelwyd. Y gred oedd y byddai hyn yn poenydio'r wrach nes iddi ddangos pwy oedd hi, a thrwy wneud hynny godi'r swyn. Roedd y botel yn cynrychioli pledren y wrach, ac felly credid bod y pethau miniog yn achosi llawer o boen iddi. Gallech hefyd brynu swyn gan ddyn hysbys — sef dyn doeth. Roedd y bobl hyn yn gyffredin iawn yng Nghymru ar un adeg, ac ymhlith eu doniau roedd gwrthweithio dewiniaeth, gwella pobl ac anifeiliaid, astroleg, dweud ffortiwn, a dod o hyd i eiddo coll. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif roedd enw mawr i Langurig oherwydd ei dynion hysbys. Byddai swynau yn erbyn dewiniaeth yn cael eu hysgrifennu ar ddarn o bapur, a gâi ei rolio'n ofalus a'i selio mewn potel. Gosodwyd hon wedyn o dan yr aelwyd neu ei chuddio yn un o brif drawstiau'r tŷ er mwyn gwarchod rhag dewiniaeth ac unrhyw ddrwgweithredwyr. Os digwydd i chi ddod o hyd i un o'r swynbethau hyn, cofiwch ei drin yn yr un ffordd â'r dillad cuddiedig. Tynnwch ffotograffau ohono a chofnodi manylion yr union fan y daethoch o hyd iddo, a chysylltu â'ch amgueddfa leol. A beth bynnag y gwnewch chi, peidiwch ag agor y botel!
Llais i'r ddoli glwt Andrew Deathe, 23 Mai 2011 Y frwydr dros y bleidlais Mae'r ddol fwdw gwrth-swffragetaidd hon yn wawdlun creulon o ferch sy'n ymgyrchu dros yr hawl i bleidleisio. Defnyddiai'r mudiad gwrth-swffragetiaid ddelweddau fel hyn mewn cartwnau a phosteri i fychanu merched oedd yn mynnu'r bleidlais. Fel llawer o fenywod eraill ym mhedwar ban y byd, bu angen i fenywod Prydain frwydro dros yr hawl i bleidleisio. Er ein bod ni'n cymryd y fraint yma’n ganiataol heddiw, nid fel yna fuodd pethau erioed. Ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, bu mudiad swffragetaidd y merched yn brwydro dros hawl menywod i bleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol. Menywod oedd y rhan fwyaf o'r ymgyrchwyr ac fe'u galwyd yn Swffragetiaid. Ysgrifennwyd nifer fawr o lyfrau amdanynt. Ond peth sydd wedi denu llai o sylw yw'r mudiad gwrth-swffragetaidd, oedd yn ceisio atal menywod rhag cael y bleidlais. Bu'r gwrthwynebwyr hyn yn ceisio argyhoeddi pobl nad oedd modd i feddwl menyw deall gwleidyddiaeth. A phan fethodd hyn, troesant at dactegau fel anfon y 'ddoli fwdw' yma. Aeth rhai ohonynt mor bell ag ymosod ar yr ymgyrchwyr a phoeri arnynt yn y stryd. Gwawdlun cas a grotesg o Swffraget yw'r ddoli. Byddai'r mudiad gwrth-swffragetaidd yn defnyddio delweddau fel yr un yma mewn cartwnau a phosteri. Roedden nhw’n gwawdio ac yn sarhau menywod oedd am gael yr hawl i bleidleisio. Bu'r safbwyntiau hyn yn estyniad o'r syniad taw'r 'cartref yw'r lle i'r ferch'. Câi menywod eu portreadu'n aml fel pobl oedd angen eu hamddiffyn rhag ‘byd y dynion’ sef byd o waith a gwleidyddiaeth. Eu rôl oedd edrych ar ôl eu gwŷr, eu cartrefi a’u plant. Newidiodd rôl menywod yn y gymdeithas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Tra bod y dynion i ffwrdd yn ymladd, y menywod oedd yn gwneud llawer o’u swyddi. Rhoddodd hyn gyfle iddynt wrthbrofi’r ystrydeb mai nhw oedd y rhyw gwannaf, a phrofi eu bod yn gyfartal â'r dynion. Rhoddodd hyn ddadl gref arall dros roi’r bleidlais iddynt. Er gwaethaf cadernid y gwrthwynebiad a ddangosir trwy'r ddoli yma, yn y pen-draw enillodd cannoedd o filoedd o fenywod yng Nghymru'r pŵer i fynegi eu barn gwleidyddol trwy'r blwch pleidleisio. Diolch i ymroddiad y mudiad swffragetaidd, mae gan bob oedolyn ym Mhrydain heddiw yr hawl i fwrw pleidlais mewn etholiadau. Gweld y ddol yn 3D ar Casgliad y Werin Cymru
Gwarcheidwad y Cymoedd 20 Mai 2011 Six Bells ger Abertyleri Yn haf 1960, profodd cymuned Six Bells ger Abertyleri, drychineb fyddai'n aros gyda nhw am weddill eu dyddiau. Ar 28 Fehefin achosodd ffrwydrad danddaear ym mhwll glo 'Arrael Griffin' farwolaeth 45 o lowyr, pob un yn ŵyr lleol - tadau, meibion, gwŷr a brodyr. Hanner can mlynedd i'r diwrnod yn ddiweddarach, wedi gwaith diflino gan y gymuned a sefydliadau lleol, codwyd cerflun dur dros 60tr o daldra gan Sebastien Boyesen, er cof am y sawl fu farw. Mae enw pob un o'r 45 wedi'i naddu ar y gwaelod. Oherwydd pryderon diogelwch, doedd y breichiau wedi'u lledu heb eu gosod ar gyfer y seremoni agoriadol, ond cwblhawyd y cerflun erbyn 28 Gorffennaf. Gwarcheidwad y Cymoedd Mae'r ffilm fer hon gan Alun Jones ac Ian Smith yn cofnodi'r digwyddiad coffa a chyflwyno 'Gwarcheidwad y Cymoedd' a saif yn falch er cof am lowyr Six Bells a glowyr ym mhobman.
Plant mewn Pyllau Glo 11 Ebrill 2011 Yn unig yn y tywyllwch Roedd Mary Davis yn 'ferch fach bert' chwe mlwydd oed. Daeth Archwiliwr y Llywodraeth o hyd iddi yn cysgu'n sownd yn erbyn carreg fawr dan y ddaear ym Mhwll Glo Plymouth, Merthyr. Wedi cael ei dihuno dywedodd: "Fe es i gysgu oherwydd bod fy lamp wedi diffodd am nad oedd digon o olew ar ôl. Roedd ofn arna i am fod rhywun wedi dwyn fy mara a caws. Dwi'n credu taw'r llygod mawr wnaeth." Dywedodd Susan Reece, oedd hefyd yn chwe mlwydd oed ac yn geidwad drws yn yr un pwll glo: "Dwi wedi bod dan y ddaear am chwech neu wyth mis a dydw i ddim yn ei hoffi rhyw lawer. Rwy'n dod yma am chwech y bore ac yn gadael am chwech y nos. Pan fydd fy lamp yn diffodd, neu fy mod i'n llwgu, bydda i'n rhedeg adref. Dydw i heb gael niwed eto." Mewn perygl Roedd pwll glo yn lle peryglus iawn i oedolion, felly does dim syndod bod nifer o blant wedi cael eu hanafu'n wael dan y ddaear. "Roedd damwain bron i flwyddyn yn ôl a cafodd y rhan fwyaf ohonon ni ein llosgi. Cefais i fy nghario gartref gan ryw ddyn. Roedd yn boenus iawn am fod y croen wedi llosgi o fy wyneb. Doeddwn i ddim yn gallu gweithio am chwe mis." Phillip Phillips, 9 oed, Pyllau glo Plymouth, Merthyr "Cafodd fy mhen i ei wasgu beth amser yn ôl gan ddarn o'r to yn cwympo..." William Skidmore, 8 oed, Pwll Glo Buttery Hatch, Mynydd Islwyn "..cafodd fy nghoesau i eu gwasgu beth amser wedyn, wnaeth fy nghadw o'r gwaith am rai wythnosau." John Reece, 14 oed, Pwll Glo Hengoed Plant o lowyr a gyrwyr ceffylau Byddai rhai plant yn treulio hyd at 12 awr ar eu pen eu hunain, ond roedd brawd Susan Reece, John yn gweithio gyda'i dad ar y ffas: "Rydw i'n helpu fy nhad ac rydw i wedi bod yn gweithio yma am ddeuddeg mis. Rydw i'n cario ei offer drosto ac yn llenwi'r dramiau â'r glo mae wedi ei gloddio neu ei ffrwydro. Fe es i i'r ysgol am rai diwrnodau a dysgu'r wyddor." John Reece, 8 oed, Pyllau Glo Plymouth, Merthyr Roedd gan Philip Davies geffyl yn gwmni. Roedd yn welw a heb fawr o gig amdano ac yn gwisgo dillad carpiog wedi treulio. Doedd 'e ddim yn gallu darllen: "Rydw i wedi bod yn gyrru ceffylau ers oeddwn i'n saith ond roeddwn i'n gweithio ar ddrws aer am flwyddyn cyn hynny. Byddwn i'n hoffi mynd i'r ysgol ond rydw i wedi blino gormod gan fy mod i'n gweithio deuddeg awr." Philip Davies, 10 oed, Pwll Glo Dinas, y Rhondda Byddai dramwyr yn tynnu eu certi gyda chadwyn wedi'i chlymu o amgylch y canol. Bydden nhw'n gweithio yn y twnneli isel rhwng y ffasau glo a'r prif dwneli uwch lle gallai ceffylau gael eu defnyddio. Roedd y ceirt yn pwyso tua 1½cwt. o lo ac roedd yn rhaid ei dynnu am bellter o tua 50 llath mewn twnnel tua 3 troedfedd o uchder. "Fy swydd i yw cludo glo o'r pen i'r brif ffordd; mae'r pellter yn 60 llath; does dim olwynion ar y ceirt; rydw i'n eu gwthio nhw o fy mlaen; weithiau, bydda i'n eu llusgo nhw am fod y cert weithiau yn cael ei dynnu arnon ni, ac rydyn ni'n cael ein gwasgu'n aml." Edward Edwards, 9 oed, Pwll Glo Yskyn, Llansawel Byddai dramiwr yn ennill tua 5c y diwrnod am hyn. Y Tair Chwaer Roedd gwaith dur Dowlais hefyd yn berchen ar byllau glo a haearn; nhw oedd y mwyaf yn y byd ar y pryd ac yn darparu cynnyrch i bob rhan o'r byd. Roedden nhw yn dal i ddibynnu ar blant am eu helw fodd bynnag. Roedd tair chwaer yn gweithio yn un o'u pyllau glo: "Rydyn ni'n gofalu am y drysau yn y lefel pedair troedfedd. Rydyn ni'n gadael y tŷ cyn chwech bob bore ac rydyn ni yn y lefel tan saith o'r gloch, neu'n hwyrach weithiau. Rydyn ni'n ennill 2p y diwrnod ac mae ein golau yn costio 2½c yr wythnos. Roedd Rachel mewn ysgol ddydd ac mae hi'n gallu darllen rhywfaint. Cafodd hi ei gwasgu dan ddram amser yn ôl ac roedd hi adref yn sal am amser hir, ond fe wellodd hi." Elizabeth Williams, 10 oed a Mary a Rachel Enoch, 11 a 12 oed, Pyllau Dowlais, Merthyr. Yn Dilyn y Deddfu Roedd hi'n anochel y byddai deddf yn cael ei phasio wedi'r dicter cyhoeddus a glywyd yn sgil cyhoeddi'r Adroddiad. Pasiwyd y Ddeddf Rheoli Pyllau Glo o'r diwedd ar 4 Awst 1842. O 1 Mawrth 1843 roedd hi'n anghyfreithlon i fenywod neu unrhyw blentyn o dan ddeg oed weithio dan y ddaear ym Mhrydain. Doedd dim iawndal i'r sawl a gollodd eu swyddi ac a achosodd hyn galedi mawr. Ond roedd hi'n hawdd osgoi'r Ddeddf — dim ond un arolygwr oedd ym Mhrydain gyfan ac roedd yn rhaid iddo roi rhybudd cyn ymweld âr pyllau glo. Mae'n debyg bod nifer o fenywod wedi parhau i weithio yn anghyfreithlon am sawl blwyddyn, a dim ond wrth iddynt gael eu lladd neu eu hanafu fyddai pobl yn dod i glywed. Daeth hi'n llai derbyniol i fenywod ennill cyflog yn y diwydiant glo wrth i amser basio. Er hyn, roedd nifer fechan o fenywod yn gweithio ar yr wyneb yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ym 1990 diddymwyd y ddeddf warchod gan roi'r hawl unwaith eto i fenywod weithio o dan y ddaear.
Yfed pwnsh yn y ddeunawfed ganrif Rachel Conroy, 28 Ionawr 2011 Ffigwr 2: Powlen bwnsh gilt arian wedi'i dylunio gan Robert Adam a'i gwneud gan Thomas Heming, Llundain, 1771-2. Yn y 1650au y cafodd pwnsh ei yfed gyntaf ym Mhrydain, tua'r un amser ag y dechreuwyd yfed te, coffi a siocled poeth. Erbyn troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn ddiod hynod boblogaidd. Gwneud pwnsh Cai pwnsh ei wneud drwy ddefnyddio cymysgedd o gynhwysion drud wedi'u mewnforio. Rym neu frandi fyddai'r alcohol gyda siwgr, ffrwythau sitrws, sbeis — siafins nytmeg fel arfer — a dŵr wedi'u hychwanegu. Y Fowlen Bwnsh Cai pwnsh ei weini, gan ddefnyddio lletwad cywrain, o bowlenni mawr i wydrau unigol (Ffigwr 1). Un o'r powlenni pwnsh pwysicaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yw'r un a ddyluniwyd gan Robert Adam ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynn (Ffigwr 2). Cafodd ei chomisiynu i ddathlu llwyddiant Fop, ceffyl Syr Watkin, yn Rasys Caer a byddai wedi cael ei arddangos mewn lle amlwg ar ddresel ei gartref ffasiynol yn Llundain. Yfwyd pwnsh yn aml yng nghyfarfodydd clybiau a chymdeithasau a gynhaliwyd mewn tafarndai, tai coffi neu dai pwnsh arbennig fel arfer (Ffigwr 3). Dynion yn unig bron fyddai'n mynychu'r rhain. Mae'n debyg bod yfed pwnsh yn arfer hynod gymdeithasol fyddai'n atgyfnerthu perthynas gymdeithasol. Mae llythyr a gyhoeddwyd ym 1736 yn disgrifio hyn yn huawdl: "...gobeithiwn na fydd dim erioed yn rhwystro Dyn rhag yfed Powlen o Bwnsh gyda Chyfaill, dyna un o'r pleserau mwyaf y byddwn yn ei fwynhau yn y Wlad, yn ail i'n llafur. Ffigwr 3: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, tua 1800-1810. Arysgrifiad yn dweud 'B, HAWKINS, SHIP SWAN, LONDON', sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio mewn tafarn neu dy pwnsh. Ffigwr 4: Powlen bwnsh o grochenwaith Delft ag arysgrifiad 'Edward Jones Scoole Master 1751', Lerpwl mae'n debyg, 1751. Ffigwr 5: Ffiol crochenwaith caled mawr gyda gwydro halen, gan Mortlake o bosib, c. 1794-5. Cai powlenni pwnsh eu gwneud i goffau digwyddiadau arbennig; byddent yn cael eu haddurno ag enwau gildiau neu gymdeithasau, neu symbolau gwrywaidd fel llongau. Mae enghraifft ddiddorol yng nghasgliad Amgueddfa Cymru sydd ag arysgrifiad arni yn dweud 'Edward Jones Scoole Master 1751' (Ffigwr 4) a phaentiad o athro yn darllen gyda'i ddisgyblion. Mae'n hawdd meddwl am Edward Jones yn comisiynu gwrthrych mor bersonol neu yn ei dderbyn fel rhodd. Partïon gwyllt ac anwar Yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, roedd poeni mawr am beryglon alcoholiaeth, yn bennaf oherwydd y cyflenwad helaeth a rhad o gin cartref oedd ar gael. Roedd camymddwyn yn cael ei feio'n aml ar yfed pwnsh yn ormodol. Roedd yfed yn ormodol yn gyffredinol yn cael ei gysylltu â dirywiad moesol, a cai partïon pwnsh eu dychanu fel nosweithiau gwyllt ac anwar gan artistiaid y cyfnod. Mae'n debyg daw'r darlun enwocaf o barti pwnsh yw Sgwrs Fodern am Hanner Nos gan William Hogarth, a gyhoeddwyd ym 1732/33. Roedd yn hynod boblogaidd a cyn hir roedd yn cael ei gopïo ar bowlenni pwnsh a llestri eraill a ddefnyddid i yfed a gweini alcohol. (Ffigwr 5). Yfed yn ormodol Mae cofnodion yr Old Bailey yn aml yn cefnogi'r cysylltiad rhwng yfed pwnsh yn ormodol ag ymddygiad anghymdeithasol a throseddol hyd yn oed. Mae hyn yn cynnwys dwyn powlenni pwnsh drud o dafarndai a chartrefi a rhannu powlen o bwnsh gyda dioddefwr cyn eu twyllo. O tua'r 1750au ymlaen, dechreuwyd gweini pwnsh o lestri pwnsh porslen a phriddwaith. Mae ffurf ac addurn y rhain yn debyg iawn i debotau yn aml, ond eu bod yn llawer mwy (Ffigwr 6). Yn wahanol i bowlenni pwnsh agored, roedd llestri pwnsh yn galluogi un gweinydd i reoli'r dogni — fel gyda the. Efallai y byddai pobl wedi ystyried y gweini rheoledig yma yn fwy gwâr a chwaethus na phowlenni pwnsh agored, lle gallai pobl weini eu hunain ac yfed yn ormodol yn hawdd iawn. Roedd poblogrwydd yfed pwnsh ar ei anterth yn nghanol y ddeunawfed ganrif, ond roedd pobl yn dal i'w fwynhau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwnaed powlen bwnsh briddwaith gain ar gyfer John Richardson gan Grochendy Cambrian ym 1845. Ef oedd maer Abertawe'r flwyddyn honno (Ffigwr 7). Mae'n ddiddorol taw comisiynu'r fowlen fel rhodd i'w wŷr newydd-anedig a wnaeth ac mae arfbais Richardson yn addurno'r fowlen. Mae rhan o'r arysgrifiad arni yn tystio i'r mwynhad a gaiff pobl wrth yfed o'r fowlen; 'GAILY STILL OUR MOMENTS ROLL, WHILST WE QUAFF THE FLOWING BOWL'. Ffigwr 6: Llestr pwnsh porslen past meddal, Derby, 1760-2. Ffigwr 7: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, 1845. Llyfryddiaeth: Harvey, Karen. 'Barbarity in a tea-cup? Punch, domesticity and gender in the eighteenth century', Journal of Design History, 21 (3) (2008), tud. 205-21. (anhysbys) 1736 A collection of all the pamphlets that were written pro and con on the British distillery, whilst the act for laying a duty upon the retailers of spirituous liquors, and for licensing the retailers thereof, was depending in Parliament. London. Eighteenth Century Collections Online. Gwefan. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO http://www.oldbaileyonline.org