Cylch a bachyn a doli glwt 16 Rhagfyr 2011 Teganau gwerin Grwp o blant yn Sgwar Rowe, Caerdydd, tua 1892. Mae un yn dal cylch haearn a dau arall yn eistedd ar ferfa ben i waered. Yng Nghymru ers talwm gwrthrychau syml o waith llaw a wnaed gartref oedd teganau. Fe’u lluniwyd o ba ddeunyddiau crai bynnag oedd yn digwydd bod ar gael yn lleol. Pren oedd prif ddeunydd teganau plant, gan ei fod yn rhwydd i’w saernïo yn wrthrychau o bob math – yn ddoliau, topiau troi a ratls i enwi dim ond tri. Roedd cylchoedd a bachau haearn a pheli troed a wnaed o bledrenni moch yn boblogaidd hefyd. Byddai’r rhain yn difyrru plant am oriau ac roeddent yn gyffredin yn y cartref ac ar fuarth yr ysgol. Roedd bod yn berchen ar bêl yn rhoi rhwydd hynt i chwarae llu o gemau tîm cyffrous fel rownderi, pêl law a phêl-droed, yn arbennig felly i fechgyn. Ar y llaw arall, byddai merched, hefyd, yn gyrru cylchoedd o bren neu haearn fel y mynnent, naill ai bob yn un, neu drwy gystadlu i weld pwy fyddai’n gallu eu rholio gyflymaf, arafaf neu bellaf. Trysorau plant Cyn dyfodiad cynnyrch ffatrioedd, byddai plant yn chwarae gyda theganau gwerin fel hyn. Mae'r cwpan a phêl, y chwiban a'r ratl a welir yma yn gopïau modern. Mae'r term teganau gwerin yn disgrifio'r teganau hynny a wnaed naill ai gan y plentyn ei hun neu gan rieni neu grefftwyr yn unol â dymuniadau’r plentyn. Yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dim ond y teganau symlaf oll fyddai gan blant o deuluoedd tlawd, lle'r oedd yr arian at hanfodion bywyd, heb sôn am deganau, yn brin. Serch hynny byddai’r rhain yn drysorau yn llygaid y plant ac yn fodd i ddianc am ychydig rhag cynni eu bywydau beunyddiol. Gan mai tlodi oedd realiti byw i lawer teulu yn y cyfnod hwn, rhaid oedd iddynt greu eu diddanwch a’u difyrrwch eu hunain, ac roedd plant yn llawn balchder haeddiannol am eu bod yn gallu gwneud eu teganau eu hunain o ddim. Er enghraifft, y cyfan oedd ei angen i wneud barcud papur oedd ffrâm bren ysgafn ac ychydig o bapur, a byddai hyd yn oed y plant lleiaf yn gallu creu ceffyl pren o ddarn o bren a thipyn go lew o ddychymyg. I wneud si-so, yn aml byddid yn gosod dwy astell, y naill uwch ben y llall, dros gasgen. Byddai dau blentyn wedyn yn eistedd y naill ben a’r llall i’r estyll ac yn siglo i fyny ac i lawr yn fodlon nes iddynt flino ar y chwarae. Roedd modd defnyddio rhaffau i sgipio neu eu dringo trwy glymu un pen wrth gangen gref, gan adael y llall yn rhydd i’r plant glewaf ei dringo. I fechgyn, roedd creu eitemau fel barcutiaid papur, cychod tegan neu ffyn tafl yn rhoi teimlad o foddhad mawr, a gallai merched ddefnyddio eu doniau gwnïo i wneud doliau clwt a dodrefn ar gyfer tai doliau, neu chwarae siopau dillad trwy ddefnyddio tameidiau bychain o wahanol ddefnyddiau. Teganau ffatri Stêm-roler tegan a gynhyrchwyd gan Glamtoys Ltd yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, diwedd y 1950au Hyd rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif, yn ddieithriad bron, dim ond pobl gefnog a fedrai fforddio prynu teganau. Ond wrth i ddulliau masgynhyrchu ddatblygu cynhyrchwyd teganau rhatach, gan drawsnewid y farchnad deganau yng Nghymru a mannau eraill. Agorodd llu o ffatrïoedd teganau, ac wrth i'w hymgyrchoedd marchnata a hysbysebu dyfu’n amlycach ac yn ehangach eu dylanwad, roeddent yn llwyddo i gyrraedd plant o bob cefndir cymdeithasol. Yn ganlyniad i hyn, collodd y rhan fwyaf o blant ddiddordeb yn y tegan gwerin syml. Rhoesant y gorau i wneud eu teganau eu hunain, gan gynilo eu ceiniogau yn lle hynny at brynu’r fersiynau lliwgar, addurniadol a mwy ffasiynol oedd i'w gweld yn y siopau. Heddiw mae teganau gwerin a wnaed gartref yn cael eu hystyried yn aml yn wrthrychau braidd yn hen ffasiwn a hynod. Serch hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer gynyddol o grefftwyr wedi troi eu llaw at wneud teganau, efallai yn ymateb i’r mynyddoedd o eitemau ffatri sy’n cael eu mewnforio i Brydain o dramor. Er gwaethaf y bri sydd o hyd ar deganau masnachol, byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod i wrthrychau cartref apêl fwy hirhoedlog, oherwydd pwy allai wadu atyniad diniwed a digyfnewid eitemau fel pyped bys wedi ei weu neu ddoli beg wedi ei phaentio? Mae natur unigryw darnau a wnaed â llaw ac ôl y gofal a’r amynedd sydd wedi mynd i’w creu yn ddi-os yn dweud mwy wrthym am y gwneuthurwr nag y gallai gêm gyfrifiadur neu ddol Barbie a fasgynhyrchwyd ei wneud erioed.
Cofebion Rhyfel yng Nghymru 10 Tachwedd 2011 Collodd 700,000 o filwyr Prydeinig eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae 35,000 wedi'u henwi yn Llyfr Coffadwriaeth Cymru. Cafodd y penderfyniad i wahardd dychwelyd cyrff o faes y gad ym 1915 effaith bellgyrhaeddol ar y broses goffau. Adeiladwyd cannoedd o gofebion ledled Cymru gan adlewyrchu'r galw am gofiant uniongyrchol a pharhaol i'r meirw wrth i gymunedau geisio cydnabyddiaeth gyhoeddus am eu colled. Caiff delfrydau anrhydedd, aberth a theyrngarwch eu hysgythru ar gofebion, a hynny yn Gymraeg a Saesneg neu yn Lladin, fel yn Abertawe. Esgorodd yr Ail Ryfel Byd ar gyfnod newydd o goffau. Cofebion Rhyfel Ystrad Mynach UKNIWM Ref: 6803 Yr Eglwys Newydd, Caerdydd [UKNIWM Ref: 6724] Troed-y-rhiw [UKNIWM ref: 6799] Abertawe [UKNIWM ref: 6627] Blaendulais [UKNIWM ref: 6853] Senghenydd [UKNIWM ref: 6791] Sain Tathan [UKNIWM ref: 17704]. Gweld hefyd: War memorials trust Rhuthun [UKNIWM ref: 7050] Prestatyn [UKNIWM ref: 7157] Pontlotyn [UKNIWM ref: 6786] Pontardawe [UKNIWM ref: 6622] Penrhiw-ceiber [UKNIWM ref: 6782] Pendeulwyn [UKNIWM ref: 37258] Penarth [UKNIWM ref: 6703] Chwarel Lechi Oakley [UKNIWM ref: 51556] Casnewydd-ar-Wysg [UKNIWM ref: 2044] Casnewydd-ar-Wysg [UKNIWM ref: 3687] Nantlle [UKNIWM ref: 17391] Aberpennar [UKNIWM ref: 6777] Meisgyn [UKNIWM ref: 6776] Ynysowen [UKNIWM ref: 2116] Merthyr Tudful [UKNIWM ref: 2009] Llanrhystud [UKNIWM ref: 17476] Llanharan [UKNIWM ref: 6764] Llanbradach [UKNIWM ref: 6763] Llanbadarn Fawr [UKNIWM ref: 6920] Llanbedr Pont Steffan [UKNIWM ref: 6813] Hirwaun [UKNIWM ref: 6761] Gwauncaegurwen [UKNIWM ref: 6856] Fochriw Blaenau Ffestiniog Dolwyddelan [UKNIWM ref: 17366] Dolaucothi Dinbych Cwmann Cricieth [UKNIWM ref: 24475] Cilfynydd [UKNIWM ref: 6756] Pentre'r Eglwys [UKNIWM ref: 17692] Y Waun [UKNIWM ref: 17780] Cemmaes Caerfyrddin [UKNIWM ref: 6809] Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru, Caerdydd [UKNIWM ref: 6640] Capel Curig [UKNIWM ref: 24488] Caerffili [UKNIWM ref: 6746] Caernarfon [UKNIWM ref: 6831] Llangatwg Llanfair-ym-Muallt [UKNIWM ref: 6837] Llansawel [UKNIWM ref: 6609] Tir-phil [UKNIWM ref: 6792] Pen-y-bont ar Ogwr [UKNIWM ref: 6738] Cofeb Ryfel Heddlu Pen-y-bont ar Ogwr [UKNIWM ref: 6739] Coed-duon [UKNIWM ref: 3671] Y Bers [UKNIWM ref: 17812] Bedwas [UKNIWM ref: 6737] Y Barri [UKNIWM ref: 6633] Y Barri [UKNIWM ref: 17700] Cofebion Rhyfel Bangor Bangor Aberystwyth [UKNIWM ref: 6913] Abercynon [UKNIWM ref: 6727] Aberbargoed [UKNIWM ref: 6726] Aberaeron [UKNIWM ref: 17467]
Y Baddondai Pen Pwll Ceri Thompson, 30 Mehefin 2011 The pithead baths at Bit Pit: National Coal Museum Llwch glo llethol Cyn i faddondai pen pwll ddod yn gyfleuster cyffredin, doedd dim dewis gan y rhan fwyaf o lowyr, fyddai wedi ymlâdd ar ôl diwrnod caled o waith, ond teithio adref o'r gwaith yn llwch glo i gyd. Byddai eu dillad yn diferu o chwys yn aml gan godi'r siawns o ddal niwmonia, broncitis neu grydcymalau. Wedi cyrraedd adref, roedd yn rhaid golchi cymaint o'r baw â phosibl ymaith mewn baddon tin o flaen y tân. Menywod y tŷ fyddai'n gyfrifol am gynhesu'r dŵr ar gyfer baddon y glöwr a golchi a sychu'i ddillad fel arfer. Roedd cadw'r tŷ yn lân rhag llwch y glo yn frwydr feunyddiol hefyd. Doedd dim diwedd ar y gwaith caled yma, a byddai blinder a straen corfforol yn arwain at broblemau iechyd difrifol yn aml, ac weithiau at enedigaethau cynamserol a cholli plentyn. Bu'n rhaid i ddiwygwyr cymdeithasol, dan faner 'Mudiad y Baddondai Pen Pwll', lobïo'n galed cyn darbwyllo'r Llywodraeth, y meistri glo a rhai o'r glowyr a'u gwragedd hyd yn oed, bod angen am faddondai pen pwll. Bu'n frwydr hir a chaled, o'r ymgyrchu agoriadol yn y 1890au hyd sefydlu cronfa arbennig ym 1926 i adeiladu baddondai, dan nawdd Pwyllgor Lles y Glowyr. Diwygio Cymdeithasol Roedd baddondai pen pwll wedi cael eu defnyddio yng Ngwlad Belg, Ffrainc a'r Almaen ers y 1880au. Ym 1913 anfonwyd cynrychiolwyr i weld y baddondai Ewropeaidd yma gan David Davies, perchennog cwmni Ocean Coal ac un o eiriolwyr diwygio cymdeithasol. Arweiniodd yr ymweliad hwn at adeiladu'r baddondy cyntaf yng Nghymru ym Mhwll Deep Navigation, Treharris, ym 1916. Bu llwyddiant baddondai Deep Navigation yn allweddol yn yr ymgyrch bropaganda a drefnwyd gan y sawl oedd am weld baddondy pen pwll ym mhob pwll glo yng Nghymru. Ym 1919 sefydlodd Llywodraeth Prydain Gomisiwn Brenhinol ('Comisiwn Sankey') i ymchwilio i amodau cymdeithasol a gwaith y meysydd glo. Sefydlwyd 'Cronfa Lles y Glowyr' o ganlyniad i hyn er mwyn '... improve the social well being, recreation, and condition of living of workers in or about coal mines'. Casglwyd arian y gronfa hon drwy godi ceiniog ar bob tunnell o lo a gloddiwyd. Defnyddiwyd y gronfa at sawl diben, yn cynnwys darparu caeau chwarae, pyllau nofio, llyfrgelloedd a sefydliadau. Codwyd tâl ychwanegol o 1926 ymlaen, i noddi rhaglen adeiladau baddondai. Steil Bensaernïol Fodern Yn ystod bodolaeth Cronfa Les y Glowyr, o 1921 i 1952, adeiladwyd dros 400 o faddondai pen pwll ym Mhrydain. Cynlluniodd adran bensaernïol y Pwyllgor Lles y Glowyr y ffordd fwyaf cost-effeithiol o adeiladu, darparu cyfarpar a gweithredu adeiladau'r baddondai. Roedd 'steil tŷ wedi cael ei datblygu erbyn y 1930au, wedi'i seilio ar ddylunio pensaernïol y 'Mudiad Modern Rhyngwladol'. Byddai'r toeon fflat, y llinellau glan a'r defnydd helaeth o wydr i ddarparu golau naturiol yn sicrhau bod y baddondai yn amlwg yng nghanol adeiladau eraill y pyllau. Cafodd rhai baddondai, fel yr un yn Big Pit, eu rendro yn wyn, sy'n ei wneud yn nodwedd amlwg ar y bryn hyd heddiw. Golygai adnoddau prin Pwyllgor Lles y Glowyr na adeiladwyd baddondai yn nifer o byllau glo Cymru tan y 1950au. Wedi gwladoli'r diwydiant glo ym 1947, cyfrifoldeb y Bwrdd Glo Cenedlaethol oedd darparu'r baddondai pen pwll.
Diptych Llandaf Mark Redknap, 25 Mehefin 2011 Caiff panel diptych Llandaf ei arddangos gyda chopi o'i bartner wedi'i gerfio mewn resin Defnyddiwyd y dechnoleg ddiweddaraf i greu replica manwl o ddarn Lerpwl. Yn un eto: dwy ddalen diptych Llandaf. Delweddau ar ddau neu dri panel yw diptych a triptych, ac roedden nhw'n amlwg yn y canol oesoedd fel cymorth i addoli a myfyrio ar fywyd a dioddefaint Crist. Yn ddiweddar, mae panel diptych ifori ochr dde o Landaf sydd yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru wedi cael ei uno â'i bartner am y tro cyntaf mewn canrif a mwy. Gwyddom am waith ifori canoloesol o leoliadau seciwlar yng Nghymru, fel darnau hela o gestyll a tharian fechan o Gaerllion (Sir Fynwy). Cafodd gwaith ifori ffigurol o bwys defosiynol ei ganfod wrth gloddio yng Nghastell Dolforwyn (Sir Drefaldwyn), a caed adroddiadau am ddiptych ifori cerfiedig o Abaty Glyn y Groes (Sir Ddinbych) ym 1866. Yng Nghymru, fel ag yn Lloegr, cafodd llawer o wrthrychau defosiwn personol eu dinistrio yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg; mae sawl diptych anghyflawn i'w gweld mewn amgueddfeydd wedi i baneli gael eu colli dros y canrifoedd. Weithiau, caiff paneli eu hailddarganfod a'r darnau eu huno unwaith eto. Diptych Llandaf Ers dros 100 mlynedd, mae panel de diptych ifori eliffant o Landaf wedi cael ei ystyried yn esiampl brin sydd wedi goroesi yng Nghymru. Fe'i gwnaed ym Mharis oddeutu OC 1340-60, ac mae'n dangos Crist ar y groes gyda'r Forwyn Fair ar y chwith, a Ioan Efengylydd fel gŵr ifanc ar y dde yn dal llyfr ac yn troi oddi wrth y groes. Mae'r ffigurau wedi'u gosod o dan ganopi pensaernïol o dri bwa Gothig trefoil, pob un â thâl maen trionglog uwch ei ben gyda chrocedi a therfyniadau. Yn ôl cofnodion yr Amgueddfa, cafodd ei ddarganfod gan Mr Henry Bird o Gaerdydd wrth ddymchwel yr 'hen ffynhondy' yn Llandaf ym Mai 1836. Wedi pasio drwy law sawl perchennog, cafodd ei brynu ym 1901 gan Amgueddfa Caerdydd (rhagflaenydd Amgueddfa Cymru) o ystad John Storrie (curadur 1878-93). Dangosodd ymchwil bod manylion addurniadol, dimensiynau, cyflwr a lleoliad colfachau'r darn yn debyg iawn i banel ifori chwith sydd bellach yng nghasgliadau Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl. Mae'r panel chwith hwn yn dangos y Forwyn a'r Plentyn (yn dal allweddi) a Paul (yn dal cleddyf), sy'n wrthbwynt gweledol taclus i olygfa'r Croeshoeliad ar y panel de. Pryd gafodd y ddau eu gwahanu? Cafodd panel Lerpwl ei gaffael ym 1953 o ystad Mr Philip Nelson, a'i prynodd o ddeliwr yng Nghaerfaddon ym 1934. Prynwyd y panel de gan John Storrie o siop Mr L. Roberts. A gafodd y ddau eu canfod yn Llandaf ym 1836 a dod i law perchnogion gwahanol, neu oeddent wedi cael eu gwahanu cyn hyn? Prif atyniad Llandaf o hyd yw'r eglwys gadeiriol a'r ffynhonnau niferus. Yr esiamplau mwyaf adnabyddus yw Ffynnon Deilo, a Ffynnon y Llaethdy ar dir Llys Llandaf, tŷ a ddefnyddiwyd fel Palas yr Esgob o 1869 i 1940. Bu'r diwethaf yn guddfan i drawst a phen croes o ddiwedd y ddegfed ganrif neu'r unfed ganrif ar ddeg, a osodwyd yn y wal bellaf ym 1870. Saif adeilad caerog Palas yr Esgob o'r drydedd ganrif ar ddeg i'r de ddwyrain o'r eglwys gadeiriol: ai dyma leoliad gwreiddiol y diptych? Heddiw, caiff panel diptych Llandaf ei arddangos gyda chopi o'i bartner wedi'i gerfio mewn resin, a gomisiynwyd o Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl (Technolegau Cadwraeth). Defnyddiwyd y dechnoleg ddiweddaraf i greu replica manwl o ddarn Lerpwl. Un o fanteision mawr y dechneg hon yw nad yw arwyneb yr arteffact gwreiddiol yn cael ei gyffwrdd o gwbl, sy'n golygu nad oes unrhyw risg i'r gwrthrych.