: Hanes Bywyd Gwerin

Cwestiynau Cyffredin: Arwyddion cenedlaethol

14 Mehefin 2014

Baner y ddraig Goch a gynhyrchwyd gan Howell & Co ac a gyflwynwyd i Alldaith Scott.

Baner y ddraig Goch a gynhyrchwyd gan Howell & Co ac a gyflwynwyd i Alldaith Capten Scott i Antarctica.

Y Ddraig Goch

Pam bod draig goch ar faner Cymru?

Symbol herodrol Cymru yw'r Ddraig Goch a welir ar y faner genedlaethol. Yn ôl traddodiad, cariai

Arthur faner a'r Ddraig Goch arni wedi i'w dad Uthr Bendragon weld draig yn yr awyr yn darogan mai ef fyddai'n frenin.

Beth yw tarddiad symbol y ddraig goch?

Yn ôl pob tebyg, y llengoedd Rhufeinig ddaeth â'r ddraig fel symbol i Brydain. Byddai beirdd Cymru yn yr Oesoedd Canol yn aml yn cymharu eu harweinwyr i ddreigiau, er mwyn canu clodydd i'w dewrder. Er enghraifft, disgrifiodd Gruffydd ab yr Ynad Coch y tywysog

Llywelyn ap Gruffudd fel Pen dragon, pen draig oedd arnaw.

Rhwng 1485 a 1603, roedd y ddraig i'w gweld ar arfbais teulu'r Tuduriaid, ond fe'i dilewyd hi o'r arfbais frenhinol ar orchymyn Iago I a rhoddwyd uncorn yn ei lle.

Sut y daeth y ddraig goch yn symbol baner Cymru?

Daeth y Ddraig Goch yn ôl i'r amlwg fel arwyddlun brenhinol Cymru yn 1807, ac yn raddol daeth i gystadlu â'r tair pluen estrys fel symbol o Dywysogaeth Cymru. Ar awgrym Gorsedd y Beirdd, cafodd ei chydnabod yn swyddogol gan y Frenhines yn 1959, ac fe'i defnyddir yn gyson bellach yn y faner genedlaethol.

Y Genhinen a'r Genhinen Bedr

Grŵp o gennin ar gefndir gwyn.
Cennin Pedr melyn yn blodeuo mewn cae.

Pam bod y genhinen yn symbol Cymreig?

Ceir sôn yng ngherddi Taliesin yn y chweched ganrif a hefyd yn Llyfr Coch Hergest yn y 13eg ganrif am rinweddau'r genhinen fel llysieuyn lleol. Fe'i gwisgid gan filwyr o Gymru ym Mrwydr Crecy, ac erbyn 1536, pan rhoes Harri VIII genhinen i'w ferch ar Fawrth 1af, roedd cysylltiad eisoes rhwng y genhinen â Gŵyl Ddewi. Mae'n bosibl bod lliwiau teuluol y Tuduriaid - gwyrdd a gwyn - yn tarddu o liwiau'r genhinen.

Pryd ddaeth y genhinen Bedr yn symbol cenedlaethol?

Mabwysiadwyd y genhinen Bedr, neu'r daffodil, yn gymharol ddiweddar fel arwydd genedlaethol. Yn ystod y 19eg ganrif, daeth yn flodyn poblogaidd, yn arbennig gan ferched. Enillodd y genhinen Bedr ei phlwyf wedi i'r Prif Weinidog David Lloyd George ei gwisgo i seremonïau arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon ym 1911.

Traddodiadau'r Nadolig: Canu Plygain

14 Mehefin 2014

Bore'r Nadolig

Mewn amryw rannau o Gymru, golygai'r Nadolig godi'n gynnar (neu aros i fyny dros nos) i fynd i'r gwasanaeth plygain yn eglwys y plwyf. Ymddengys i awr gychwyn y plygain amrywio rhwng tri a chwech y bore, a'r olaf o'r rhain yn dod yn fwy cyffredin gyda threigl amser.

I aros y gwasanaeth byddai pobl ifanc, yn enwedig, yn ceisio llenwi'r oriau mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mewn ambell ardal gefn gwlad doent ynghyd mewn rhai ffermdai ar gyfer gwneud cyflaith a threulio'r noson yn llawen, gan addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd, fel ym Marford, sir Fflint, yn y 1830au. Yn ôl dyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai trigolion Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.

Mewn mannau eraill, yn arbennig drefi gwledig, treulid yr amser yn chwarae ar hyd y strydoedd. Yn Ninbych-y-pysgod, sir Benfro, er enghraifft, ceid torfeydd yn cario ffaglau, bloeddio penillion a chwythu cyrn buchod, cyn terfynu drwy ffurfio gorymdaith ffaglau lle'r eid â'r rheithor o'i dy i'r eglwys gan wyr ifainc y dref. Cofnodwyd gorymdaith debyg yn Nhalacharn, sir Gaerfyrddin, a hefyd Lanfyllin, sir Drefaldwyn, lle y defnyddid canhwyllau yn lle ffaglau.

Parti Llanrhaeadr yn canu carolau Plygain

Parti Llanrhaeadr yn canu carolau Plygain

Canhwyllau Plygain

Yng nghefn gwlad mynychid plygain eglwys y plwyf gan bobl y ffermydd mwyaf anghysbell, hyd yn oed. Yn aml deuai pob unigolyn â'i gannwyll i gynorthwyo i oleuo'r eglwys - hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anghyffredin oedd cynnal gwasanaethau nos, fel nad oedd unrhyw ddarpariaeth oleuo, fel arfer. Yr oedd y goleuni llachar a roddai canhwyllau'r plygeinwyr yn nodwedd bwysig ar yr wyl.

Yn Llanfyllin, ynghanol y ganrif o'r blaen, gwneid 'canhwyllau plygain' arbennig gan fasnachwyr lleol. Ar gyfer y gwasanaeth addurnid y tu mewn i'r eglwys â chanwyllerni crog yn dal canhwyllau lliw ac, yn Nolgellau, er enghraifft, wedi eu gwisgo â chelyn. Ym Maentwrog, sir Feirionnydd, yr oedd canhwyllau hefyd 'wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad.' Yn Llanfyllin 'goleuid yr adeilad â rhai cannoedd o ganhwyllau, wedi eu 1leoli fodfeddi er wahân, o gwmpas y muriau y tu mewn, gan beri i'r adeilad ddisgleirio.' Ym Maentwrog, y 'carolwyr a ganai yn yr oriel fechan ym mhen-y-twr i'r eglwys' a deuent â'u canhwyllau eu hunain, gan ei bod yn rhy dywyll yn y rhan honno o'r adeilad i ddilyn y gwasanaeth yn y Llyfr Gweddi Cyffredin.

Er yn ddiau i'r arfer amrywio ychydig o blwyf i blwyf, ymddengys i oleuni llachar yr eglwys wneud argraff barhaol ar gof y rhai a adawodd inni ddisgrifiadau, ac iddo fod yn nodwedd drawiadol ar y plygain traddodiadol. Fel yr awgrymodd Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn arwyddocad ysbrydol goleuo canhwyllau ar y Nadolig fel sumbol o ddyfodiad Goleuni'r Byd.

Y Gwasanaeth

Am y plygain ei hunan, ffurf dalfyredig ar y gwasanaeth boreol ydoedd, â charolau gan unawdwyr a phartion yn rhan ohono ac yn ei ddilyn. Disgrifiodd William Payne y plygain yn Nolgellau, fel yr adwaenai ef ynghanol y ganrif o'r blaen, gyda'r geiriau canlynol:

'Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail, a heb gymorth annaturiol gan bib-draw, y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd. Yna saif y Rheithor da, a'i gurad, Dafydd Puw, a darllen y Gwasanaeth Boreol yn fyr, gan orffen â'r weddi dros Bob Cyflwr ar Ddynion, a'r fendith - aflonydd ac ymchwyddol, braidd, yw'r gynulleidfa yn ystod y gweddiau - a rhaid i'r Rheithor weithiau dorri'n sydyn ar ei waith i edrych yn syth tuag at ryw ran neu bersonau, ond heb gerydd llafar. A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.'

Ym Maentwrog cynhwysid pregeth yn y gwasanaeth plygain, ond gofalai'r rheithor am gadw'r bregeth a'r gwasanaeth yn gwta, gan ei fod yn amlwg yn teimlo mai'r prif atyniad oedd nid y gwasanaeth ond y canu carolau a'i dilynai. Mewn lleoedd eraill, fel Llanfair Dyffryn Clwyd, rhoid y Cymun Bendigaid yn ystod v plygain.

Goroesiad cyn-Ddiwygiad

O'i weld yn ei gefndir hanesyddol, goroesiad yw'r plygain o wasanaeth Nadolig cyn-Ddiwygiad a addaswyd i ateb yr amgylchiadau Protestannaidd newydd. Dengys Richards fod 'plygain' yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn dynodi gwasanaeth boreol cyffredin ac mai'n ddiweddarach yn unig y'i cyfyngwyd i gyfeirio at y gwasanaeth bore Nadolig. Awgryma i'r plygain ddisodli offeren ganol-nos Nadolig y cyfnod Pabyddol ac iddo gysylltu'n wreiddiol â gwasanaeth cymun a gynhelid yn ddiweddarach ar fore Nadolig. O leoli'r gwasanaeth cymun am wyth o'r gloch diweddwyd yr hen berthynas rhwng y plygain (boreol) am chwech, saith neu wyth o'r gloch a'r Uchel-Offeren am naw neu ddeg o'r gloch.

Wedi'r Diwygiad, lle nas cynhwyswyd yng ngwasanaeth Nadolig Lladin yr eglwys, derbyniwyd canu carolau yn yr iaith lafar i wasanaeth bore-bach y Nadolig, a daeth yn atyniad pennaf y plygain, fel y dengys disgrifiadau'r ganrif o'r blaen yn eglur. Tynnodd John Fisher sylw at y tebygrwydd rhwng Oiel Verrey, a geid ar Ynys Manaw am ddeuddeg ar Noswyl Nadolig, a'r plygain yng Nghymru. Dengys i'r ddau wasanaeth ennill poblogrwydd fel gwyliau canu carolau yn fuan wedi cyfieithu'r Beibl i'r ddwy iaith frodorol.

Yn lle diflannu o dan ddylanwad Anghydffurfiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu'r plygain yn un o'r ychydig wyliau eglwysig traddodiadol nas gollyngwyd gan y capeli, er newid cymeriad y gwasanaeth weithiau, drwy ei wneud yn amrywiad ar y cwrdd gweddi cyffredin a geid ar nosau gwaith. Fel arfer cyffredinol, darfu plygain boreol y Nadolig tua diwedd y ganrif ddiwethaf, er iddo barhau'n ddiweddarach mewn ambell achos.

Swper Plygain yn Ffermdy Cefn Llwyn, Llangynyw

Swper Plygain yn Ffermdy Cefn Llwyn, Llangynyw

Canu Plygain yng Ngogledd Cymru

Yn y gorffennol, 'roedd y traddodiad o ganu carolau yn gryf trwy bob rhan o'r gogledd. Erbyn heddiw, fodd bynnag, pery'r traddodiad ar ei fwyaf bywiog yn yr ardal a amgylchynir gan Fallwyd, Llanerfyl, Cefnyblodwel (yn Lloegr) a Llangynog. I ddieithryn, profiad anghyffredin yw mynd i blygain yn yr ardaloedd hyn. Am awr a hanner i ddwy awr, bydd trefn y cyfarfod yn gyfangwbl yn nwylo'r carolwyr. Nid oes cyflwynydd nac arweinydd. Ni ddywed neb yr un gair, eithr cyfyd y partion yn eu tro gan gerdded ymlaen yn dawel a phwyllog i'r "sgwâr" i ganu. Ar gyfartaledd bydd o ddeg i bedwar ar ddeg o bartion yn bresennol. Fe glywir o ugain i ddeg ar hugain o garolau yn ystod y gwasanaeth, y cwbl yn Gymraeg a'r cwbl hefyd yn wahanol, gan ei bod yn egwyddor osgoi ailganu unrhyw garol.

Addaswyd a chyfieithwyd o Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs (Caerdydd, 1959), tt. 28-33.

Traddodiadau'r Nadolig: Y Fari Lwyd

14 Mehefin 2014

 

Beth yw'r Fari Lwyd?

Un o’r arferion Cymreig enwocaf yw y Fari Lwyd, sef pen neu ffigur ceffyl yr arferai partïon 'canu gwaseila' ei gludo o ddrws i ddrws yn ystod tymor y Nadolig.

Roedd yn ei anterth yn ne Cymru yn ystod y 19eg ganrif, ond mae’n parhau i gael ei berfformio gan rai partïon heddiw. Nodwedd amlycaf yr arferiad yw’r penglog ceffyl sydd ar ben un o barti’r gwasaelwyr, wrth iddynt deithio o dŷ i dŷ yn canu a dawnsio. Ar y penglog byddai addurniadau amryliw megis rhubanau a rhosedau. Gwna’r llygaid fel arfer allan o boteli gwydr i greu anifail eithaf brawychus, yn enwedig gan fod y ceg, sy’n symud i fyny ac i lawr, yn llwyddo i ddod a’r holl beth yn fyw. Fel arfer, cedwir y penglog mewn calch o dan y ddaear er mwyn ei gadw mewn cyflwr da a’i godi pob Nadolig.

Yn ogystal â’r Mari mae sawl cymeriad amlwg arall yn y grŵp teithiol, sef Pwnsh, Siwan a’r Serjant, a’u swyddogaeth yw i ychwanegu at yr hwyl. Mae hyd yn oed y grwpiau lleiaf yn penodi arweinydd, sydd a’r cyfrifoldeb o ddal awenau’r farch ac i arwain y canu.

Sut mae'n cael ei ddathlu?

Byddai’r Fari yn ymweld â phob tŷ a thafarn yn y pentref. Arhosa’r grŵp ger rhai o’r tai er mwyn cymeryd rhan mewn cystadleuaeth pwnco gyda’r cartrefwyr tu mewn. Nod y gystadleuaeth penillion hyn yw i un parti ganu’n hirach ac yn fwy doniol na’r llall. Ond, yn y pen draw, os yw’r cartrefwyr yn dymuno llwyddiant a lwc dda am y flwyddyn ganlynol, rhaid iddynt ildio i barti’r Mari a’u gadael i mewn i’r tŷ. Gan fod cystadlaethau weithiau’n para dros awr, does dim syndod bod y Mari a’r criw yn falch o wahoddiad mewn am fwyd a diod.

Tu mewn i’r tŷ byddai’r Fari yn darparu adloniant, ac yn rhedeg o amgylch y cartref, yn creu hafoc, ac yn dychryn y plant, tra bod arweinydd y parti yn esgus ceisio ei ffrwyno. Byddai aelodau o’r parti yn aml yn chwarae cerddoriaeth ac yn diddanu trigolion y tŷ. Byddai Pwnsh a Siwan hefyd yn cyfrannu at yr adloniant. Byddai’r grŵp yn cael eu gwobrwyo â bwyd a diod, ac weithiau rhodd o arian. Byddai’r ymweliad yn dod i ben gyda chân ffarwel draddodiadol.

Poblogrwydd

Yn ystod yr ugeinfed ganrif gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y grwpiau Mari Lwyd – un o’r rhesymau, yw bod llai o siaradwyr Cymraeg o gwmpas i gymeryd rhan yn y gystadleuaeth pwnco. Rheswm arall oedd bod yr arferiad wedi dod yn gysylltiedig ag ymddygiad gwael a meddwdod. Nid oedd hwn yn dderbyniol mewn cymdeithas ble roedd Capel a Methodistiaeth ar gynnydd.

Mae traddodiad cryfaf a mwyaf hir-hoedlog y Fari Lwyd i’w weld yn Llangynwyd yn Ne Cymru, ac erbyn heddiw mae’r traddodiad wedi’i ail-sefydlu mewn sawl ardal ar draws Cymru.

Ymunwch â ni yn Sain Ffagan y Nadolig hwn i weld traddodiad y Fari Lwyd yn dod i fyw, archwiliwch ein rhaglen Nadolig yma

Cân y Fari Lwyd

Traddodiadau'r Flwyddyn Newydd: Hel Calennig

14 Mehefin 2014

Blwyddyn Newydd Dda!

Symbol o obaith a dechreuad ffres yw’r flwyddyn newydd, a phob Ddydd Calan wnawn addunedau a cheisiwn droi ddalen newydd. Nid yw’n syndod felly, fod sawl arferiad ynghylch yr adeg hon yn gysylltiedig â rhagweld y dyfodol, ac yn ôl traddodiad, mae ymddygiad unigolyn ar Ionawr 1af yn siŵr o ddylanwadu ar ei ffawd am y flwyddyn ganlynol.

Cawn arferion croesawi neu adael i mewn y flwyddyn newydd, dros Brydain gyfan, ac yng Nghymru, roedd yr ymwelydd cyntaf i’ch cartref o bwys aruthrol, gan fod tipyn yn dibynnu ar eich nodweddion personol. Yn siroedd Penfro a Chaerfyrddin, er enghraifft, roedd e’n anlwcus i ddwy fenyw weld ei gilydd yn gyntaf, yn yr un modd i ddau ddyn wneud hynny. Yn ôl pobl Pencoed, roedd e’n anlwcus i weld dyn a gwallt coch yn gyntaf. Ymysg coelion eraill, yn Sir Benfro byddai dod a thorth ffres i mewn i’r tŷ ar Ionawr 1af yn dod a lwc dda.

Beth yw calennig?

Traddodiad adnabyddus Cymreig, sy’n parhau mewn rhai ardaloedd, yw casglu calennig (sef rhodd flwyddyn newydd), lle byddai plant yn codi’n gynnar er mwyn cario o ddrws i ddrws, fel cludwyr lwc dda, afalau addurnedig, gyda thair cangen a sbrigyn o goed bocs a chnau collen.

Fel arfer cana’r plant bennill syml a derbyn amdani rodd o fwyd neu arian. Dywedodd Elias Owen yn 1878:

Cofiaf am un ffarmwr a baratôdd bentwr o arian yn barod am y dydd, ac ni fyddai’r un plentyn yn gadael ei dy heb geiniog. Byddai’r plentyn cyntaf, os oedd yn fachgen, yn derbyn arian, gan ei fod yn lwcus i fachgen ddymuno blwyddyn newydd dda i chi yn gyntaf. Ar y llaw arall, os mai merch a wnâi, byddai’r flwyddyn ganlynol yn un anffortunus.

Dau fachgen yn casglu calennig yn Llangynwyd tua 1904 - 1910

Dau fachgen yn casglu calennig yn Llangynwyd tua 1904-1910

Dyma ichi bennill a genid yng Ngheredigion a sir Benfro gynt:

Mi godais heddiw ma's o'm ty
A'm cwd a'm pastwn gyda mi,
A dyma'm neges ar eich traws,
Sef llanw'm cwd â bara a chaws.

Beth yw arferiad tywallt dŵr Calan?

Roedd arferiad tywallt dŵr Calan yn gyffredin mewn rhai mannau o Gymru, pan fyddai plant yn llenwi cwpanau neu bowlenni a dŵr ffynnon ar fore Dydd Calan, a gwlychu darnau o focs, myrtwydd ac uchelwydd ynddo. Teflid y dŵr wedyn ar ddwylo ac wynebau oedolion, neu o gwmpas y tŷ, er mwyn cael gwared â’r hen flwyddyn a chroesawu’r newydd. Fel arwydd o ddiolch i’r plant am buro a glanhau’r tai, rhoddid anrheg fach iddynt.

Dwy ferch yn Ninbych-y-pysgod yn cymryd rhan yn arferiad tywallt dŵr Calan, 1928.

Dwy ferch yn Ninbych-y-pysgod yn cymryd rhan yn arferiad tywallt dŵr Calan, 1928.

Popeth ond y sgrech

30 Awst 2012

Mae modd defnyddio pob pisyn o'r mochyn ond am ei sgrech

Ar un adeg roedd moch yn rhan bwysig o fywyd pob dydd yn y dref yn ogystal â'r wlad. Dyma i chi'r peiriant ailgylchu perffaith, a oedd yn troi gwastraff yn gynnyrch defnyddiol. Byddent yn bwrw troglwyth fawr o foch bach a gan eu bod yn fodlon bwyta pob dim, yn laswellt neu'n sbarion bwyd, roeddent yn pesgi'n gyflym. Roedd lladd y mochyn yn ddigwyddiad cymdeithasol o bwys a byddai cymdogion a chyfeillion yn aml yn cymryd eu tro i ladd eu moch a rhannu'r cig.

Hebrwng asgwrn

Cig moch yn hongian o'r llofft

Cig moch yn hongian o'r llofft. Dangosir y modd y gwahenir dau ddarn o gig rhag iddynt gyffwrdd.

Byddai'r lladd yn digwydd rhwng dechrau Hydref a diwedd Mawrth, ac felly'n sicrhau cyflenwad cyson o gig ffres i deuluoedd trwy dymor y gaeaf. Y 'stecen felys' neu ddarnau o gig o'r asennau ac asgwrn y cefn fyddai'n cael eu rhannu fel arfer. Byddai ffagots a brôn hefyd yn cael eu paratoi a'u cynnig i deulu a chymdogion. Parhaodd yr arfer hwn tan hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Y plant fyddai'n cael y pleser o fynd â'r rhoddion, a chaent rywfain o arian am eu trafferth. Mewn rhai ardaloedd, yr enw ar yr arfer hwn oedd hebrwng asgwrn. Byddai gweddill y mochyn yn cael ei halltu, a dyna oedd y prif ffynhonnell o gig ar gyfer y teulu am y flwyddyn.

Dim byd yn ofer

Pledren mochyn i chwarae pêl

Cyn yr oed o mas-gynhyrchu peliau troed, byddai plant yn aml yn defnyddio pledren mochyn i chwarae pêl, a ddengys yma gyda phlufyn a fewnosodwyd ar gyfer ei chwyddo.

Fyddai'r un dim yn mynd yn ofer. Byddai'r pen yn cael ei ferwi i wneud cosyn pen (brôn). Roedd modd defnyddio blew'r mochyn i wneud brwshys, gwneud lledr o'r croen, gwneud pwdin gwaed o'r gwaed, a chwarae pêl-droed gyda'r bledren. Doedd dim rhyfedd felly fod cymaint yn cadw moch. Yn ôl rhai, daw'r enw Saesneg ar gadw-mi-gei o'r ffaith bod pobl yn bwydo eu harian mân i mewn i'r piggy bank. Wedi iddo dyfu'n ddigon tew byddai modd ei falu a chael at y cynilion y tu mewn.

Pen mochyn yn cael ei ferwi i wneud cosyn pen (brôn).

Rhan o ffilm sy'n cofnodi'r holl waith a ddeuai yn sgîl lladd mochyn. Byddai trefn y gwaith yn dilyn yr un patrwm drwy Gymru gyfan, ac eithrio gwneud ffagots. Ni fyddai hynny'n digwydd yn gyffredin yng Ngwynedd. Ffrio'r iau gyda nionod a'i fwyta fel prif bryd oedd y drefn yno.

Tystiolaeth lafar

Yn ôl tystiolaeth o Rostryfan, yr oedd hwn yn bryd blasus iawn ar gyfer 'swper chwarel', sef y pryd min nos wedi i'r chwarelwyr ddychwelyd o'r chwarel.

Mrs Edith May Hughes, Llannerch-y-medd, Môn yn disgrifio sut y byddai ei mam yn paratoi iau a nionod. Ganed Mrs Hughes yn 1904.

"Wedyn mi fydda yr iau. Padall huarn fawr fydda gin Mam, ar ben y pentan, 'te. A mi fydda wedi gneud yr iau yn ara' deg. Fydda gynni hi flawd wrth law bob amsar. Wedyn, - a board 'te — wedyn, pen fydda hi'n mynd i dorri'r iau, fydda blawd ar y board, a 'dda'r iau yn cal 'i roid yn fanno. A'i sglisho wedyn, a'i dipio fo'n y blawd, cyn 'i ffrio fo, 'te. Wedi 'ny, mi fydda nionod yn cal 'u ffrio, hefo yr iau 'ma, yn ara' deg. Wedyn mi fydda 'na lond y badall, ar ôl i'r iau neud. Fydda'n codi'r iau, a wedyn mi fydda 'na lond y badall o refi da wedi neud efo'r nionod 'ma i gyd, 'te. Wedyn 'dda'r iau yn cal 'i roid i fiewn yno fo. Wedyn odd o'n cadw yn dendar neis, ag yn boeth. Erbyn dôn ni o'r ysgol gyda'r nos ylwch. "
>Mrs Edith May Hughes, Llannerch-y-medd, Ynys Môn. Ganed 1904

Rysáit: Cig Moch, Iau a Nionod

  • hanner pwys o gig moch
  • pwys o iau
  • nionod
  • halen a phupur
  • ychydig o flawd gwyn
  1. Torri'r iau'n dafelli, eu golchi, a'u gorchuddio ag ychydig o flawd gwyn, pupur a halen.
  2. Ffrio'r cig moch yn ysgafn a'i godi i ddysgl boeth.
  3. Rhoi'r iau a'r nionod (wedi'u torri'n fân) yn saim y cig moch, eu ffrio gyda'i gilydd a'u codi i'r un ddysgl.
  4. Cymysgu llond llwy fwrdd o flawd gwyn i mewn i'r saim yn y badell ffrio, tywallt ychydig o ddŵr berwedig arnynt, eu cymysgu'n dda a'u berwi am ychydig funudau i wneud grefi.
  5. Berwi tatws mewn sosban ar wahân.